Cyfranwyr
Yr Athro Ben Barr
Brodor o Langadog yw Ben Barr. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanymddyfri ac ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Wedi graddio ym Mheirianneg Sifil bu’n gweithio mewn diwydiant ar Orsaf Bŵer Wylfa, yn adeiladu twnnel ger Southampton ac yna ym Mhŵerdy Aberthawan.
Wedi cwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, dychwelodd i ddiwydiant pan fu’n gweithio ar ddatblygu Maes Awyr Cymru, Caerdydd, ac yn cynllunio pontydd. Yna aeth i ddarlithio i Brifysgol Morgannwg cyn symud yn ôl i ddarlithio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Yno, bu’n bennaeth is-adran Peirianneg Sifil yn yr Ysgol Beirianneg pryd y noddwyd ei gadair gan gwmni Tarmac ac yna Carillion.
Yn ystod ei yrfa mae e wedi cyhoeddi’n gyson, a’r mwyafrif o’i bapurau’n ymdrin â chryfder nwyddau adeiladu (yn arbennig concrid) ac adeiladu, cynnal a chadw pontydd. Yn ogystal â hyn bu’n weithgar gyda’r Sefydliad Peiriannwyr Sifil ac ef oedd y golygydd cyntaf o’i gylchgrawn Bridge Engineering.