Yn ogystal ag esbonio’r ‘angenrheidrwydd a’r posib[i]lrwydd’ o sefydlu’r ‘llusern gobaith’ o Wladychfa, roedd y Llawlyfr yn llunio ei seiliau ac yn hyrwyddo’r mudiad ymfudol drwy dynnu sylw at ‘Hanes Patagonia, yn egluro ei haddasrwydd i’r sefydliad; y drafodaeth [â] Buenos Ayres am drosglwyddiad y tir, bras-gynllun o drefn yr ymfudiad, [ynghyd â] darlunlen o Patagonia’ [sic] (t. 1). Ymhlith y sawl dogfen a gynhwyswyd yn y llyfryn, gwelir llythyr a anfonwyd ar ran y Gymdeithas Wladychfaol at awdurdodau’r Ariannin yn Buenos Aires ar 7 Tachwedd 1861. Ceir yn y llythyr gais i adfer y sefyllfa orthrymus a ddinoethir yn ein dyfyniad cyntaf. Amlygwyd yn y datganiad hwn awyddfryd cryf am ymreolaeth: ‘Gallwn eich hysbysu mai ein dymuniad yw cael gwlad lle y gallwn gael llywodraethu ein hachosion mewnol yn gyfangwbl, heb unrhyw ymyriad o eiddo un genedl arall yn ein pethau bydol a chrefyddol.’[2] Byddai’r ‘Gymru Newydd yn Ne Amerig’[3] y breuddwydia arweinwyr y mudiad amdani yn wynfyd lle y gallai’r Cymry ‘adfeddianu y teimladau gwerthfawr o anrhydedd ac annybyniaeth fel nodweddion cenedlaethol a chael cyfle i’w hymarferyd’.[4]
Ond beth am y lle a ddewiswyd ar gyfer y fath fenter? Tybed pa wlad fyddai’n awyddus i ystyried derbyn o fewn ei ffiniau grŵp oedd bron â chymryd arnynt y teitl o ffoaduriaid ac yn datgan eu bwriad o drawsblannu eu diwylliant hwy i’r cartref newydd ‘heb unrhyw ymyriad’ gan neb y tu allan i’r sefydliad?
Pan ddyfeisiwyd yr hyn sydd yn awr yn Weriniaeth yr Ariannin yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, aethpwyd ati i ddatrys y mater yr oedd y gwleidydd Archentaidd Domingo F. Sarmiento wedi ei ddisgrifio fel prif bryder y Weriniaeth, sef ‘problem yr ehangder’.[5] Awgrymodd ei gyd-wleidydd Juan B. Alberdi fod llywodraethu’n gyfystyr â phoblogi yng nghyd-destun y cyfandir Americanaidd[6] a daeth y syniad hwn yn sylfaen i gyfansoddiad cyntaf y wlad.[7] Ond roedd targedau apêl Alberdi’n benodol iawn:
|
Os ydyn ni am ffurfio ein poblogaeth yn ôl [gofynion] ein cyfundrefn lywodraethol [weriniaethol] [...], mae angen hybu yn ein tiriogaeth y boblogaeth Anglo-Sacsonaidd. Cysylltir hi â’r ager, masnach a rhyddid, a bydd hi’n amhosibl i ni wreiddio’r pethau hyn yn ein plith heb y cydweithrediad gweithgar o genedl y cynnydd a gwareiddiad.[8]
|
Er bod gwreiddiau nifer o ddeallusion yr Ariannin yn greolaidd (sef, cymysgedd o Sbaen a’r Ariannin), roeddent yn ysu am gyfraniad blaenllaw a gwareiddiedig yr Anglo-Sacsoniaid. Roedd y Cymry yn ystyried eu hunain yn genedl ar wahân, ond Sacsoniaid neu hyd yn oed ‘ingleses’ (Saeson)[9] oeddent hwy yn llygaid rhan sylweddol o lywodraethwyr yr Ariannin, ac yn rhinwedd hynny yr oedd drws y Weriniaeth ar agor iddynt. Byddai dyfodiad y Cymry’n cryfhau lleng gwareiddiad yn y frwydr yn erbyn barbariaeth yr oedd Sarmiento wedi ei datgan yn ei Facundo ó Civilización i Barbarie – deubarthiad a ddaeth yn hanfod i ddadleuon gwleidyddol mewn nifer o wledydd America Ladin.
Yn ogystal â gwella’r ‘teip cenedlaethol’ a ddeillia o gymysgedd o amrywiol boblogaethau’r wlad, byddai’r sefydliad Cymreig yn gyfraniad o bwys i ymdrechion yr Ariannin i hawlio tiroedd Patagonia rhag y cyd-ymgeisydd o Chile. Fel yr esbonia R. Bryn Williams:
| Dadleuir gan rai nad oedd [gan yr Ariannin] hawl i [Patagonia] o gwbl, ac mai’r hyn a elwid yn Sbaeneg yn tierra de nadie [tir neb] ydoedd. Ar y mapiau cyfoes [c.1865], nid oedd tiriogaeth Ariannin yn cyrraedd yn is na Rio Negro. [....] Y mae un peth yn amlwg i mi, sef i Ariannin gadarnhau ei hawl i Batagonia drwy ei chefnogaeth i’r Wladfa, fel y bu iddi ennill rhai o ddyffrynnoedd cyfoethog yr Andes yn niwedd y ganrif fel ffrwyth i anturiaeth y Cymry a sefydlodd yn y mynyddoedd.[10] |
Ar yr olwg gyntaf, felly, roedd amcanion y ddwy garfan yn gydweddol. Roedd y bwriad o sefydlu gwladychfa Gymraeg yn cyd-fynd o ran egwyddor â dyheadau Ewropeaidd y deallusion o’r Ariannin – hynny yw, cyhyd â bod y sefydliad yn atebol i’r awdurdodau cenedlaethol, fel y tanlinellwyd mewn ateb gan gynrychiolydd yr Ariannin dyddiedig 27 Ionawr 1862:
| Y mae yn rhaid i ni eich hysbysu mai yr anhawsder penaf sydd yn codi oddiwrth yr amodau ‘y dymunwch gael gwlad lle y gellwch gael llywodraethu eich hachosion mewnol yn gyfangwbl heb unrhyw ymyriad o eiddo un genedl arall yn eich pethau bydol a chrefyddol.’ Y mae’r Weriniaeth Argentaidd yn caniatau, a mwynheir ef hefyd gan bawb, y rhyddid mwyaf perffaith mewn materion crefyddol a gwladol. Ond eto byddai raid i’r Llywodraeth gael rhyw ymyriad mewn materion eraill, o’r dydd y meddienwch diriogaeth y Weriniaeth.[11] |
Er y byddai penderfynoldeb y Cymry i sicrhau ymreolaeth yn destun croestynfa rhyngddynt a llywodraeth yr Ariannin maes o law (gweler isod), roedd y ddealltwriaeth gychwynnol yn ffafriol ei golwg i’r ddwy blaid.
‘Chwareu teg i’r Cymro fel pawb arall’ oedd arwyddair y Fenter[12] ac, er mwyn bod yn gyson gyda’r amcan hwnnw, roedd y Llawlyfr yn cydnabod hawliau tiriogaethol brodorion Patagonia:
| Nid ydys ychwaith am ddiystyru hawliau yr Indiaid ar y wlad, eithr gan ddilyn esampl ein cydwladwr enwog William Penn, nyni a ymdrechwn wneud cyfeillion o honynt, gan roddi iddynt ‘pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn’.[13] |
Yn wyneb diymadferthedd y Cymry yn unigeddau’r paith, roedd y strategaeth o ‘oresgyn y brodorion drwy garedigrwydd’ a osodwyd yn glir o’r dechrau[14] yn hynod ddoeth. Ond rhag ofn i’r dacteg honno beidio â dwyn ffrwyth, penodwyd Edwin Cynrig Roberts fel ‘Swyddog Amddiffyn’ a ffurfiwyd ‘Y Fyddin Gymreig’ o dan hyfforddiant ‘Capten Roberts’.[15]
Heblaw am hynny, roedd y Llawlyfr yn cyfeirio at ddihangdwll moesol a oedd yn dilysu eu cynlluniau tiriogaethol ym Mhatagonia. Dyfynna Hughes o’r gyfrol The Observations of Sir Richard Hawkins, Knight, in his Voyage into the South Sea (adroddiad sydd yn dyddio o 1593[16]), lle y mae Hawkins yn adrodd ei fod ef wedi clywed
| fod y gair penguin, yn nghydag enwau llawer o wrthddrychau eraill yn America, yn darddiad Cymreig, wedi eu dodi arnynt gan hynafiaid yr Indiaid. Dywedodd Motezanno [Moctezuma?], ymheradwr Mecsico, wrth yr Ysbaeniaid ar eu dyfodiad gyntaf i’r wlad hono, fod ei hynafiaid ef wedi dyfod o wlad bell, a’u bod ar y dechreu yn bobl wynion. Bum yn darllen mewn hen goflyfr rai blynyddoedd yn [ô]l am fynediad Tywysog Cymreig gyda nifer o longau i hwylio i’r gorllewin [i] chwilio am dir newydd, flynyddoedd lawer cyn amser Columbus. Ond ni chlywyd dim o’i hanes mwy. [sic][17] |
Rhag ofn na fyddai pwrpas y cyfeiriad uchod yn ddigon clir i’r darllenwyr, pwysleisir arwyddocâd y rhagflaenydd o Gymru yn syth ar ôl y dyfyniad: ‘Rhoisom y sylwadau olaf hyn i mewn o herwydd eu cysylltiad yn Madog ap Owain Gwynedd â’r symudiad presenol’.[18] Drwy awgrymu y byddai’r Cymry’n perthyn i frodorion y cyfandir Americanaidd drwy eu cyndad chwedlonol, y Tywysog Madog, myn Hughes gyfiawnhau ail-leoliad y Cymry yn Ne America gan debygu eu honiadau tiriogaethol i hawliau hynafol. Rhag ofn i’r ensyniad uchod fod yn annigonol, amlinellir yn nifer o’r croniclau a ddyfynnir gan Hughes mai crwydrol oedd poblogaethau cynhenid yr ardal,[19] manylyn a oedd yn gwanhau i raddau berthynas y brodorion â’r tir, ac yn agor y drws i ymgartrefiad y Cymry yn Nyffryn y Camwy.
Er gwaethaf cadernid egwyddorion y fintai o Lerpwl, roedd rhaid i’r ymfudwyr wynebu gwirionedd dyrys: roedd trafodaethau ynghylch y sefydliad yn mynd ymlaen gyda llywodraeth yr Ariannin a oedd yn mynnu hawliau dros yr hyn a elwir heddiw’n ‘Dalaith Chubut’, ond y bobloedd frodorol oedd piau tiriogaethau Patagonia de facto. Yng nghyd-destun yr ornest rhwng gwareiddiad a barbariaeth, roedd llywodraethwyr yr Ariannin wedi gadael y baton gwareiddiad yn nwylo’r mewnfudwyr o Gymru.
Roedd y fath amgylchiadau’n gosod Cymry Patagonia mewn sefyllfa ddeuol. Ar un ochr, roedd eu gorffennol fel dioddefwyr tybiedig gormes ym Mhrydain yn creu rhyw ymwybyddiaeth o orthrymder ynddynt, a allai fod wedi eu hysgogi i gydymdeimlo â chyflwr trist pobloedd ddi-rym. Ar yr ochr arall, roedd gwreiddiau Ewropeaidd y Cymry yn eu hagosáu at lywodraethwyr yr Ariannin. Ac eithrio cefndir Pabyddol y rhan fwyaf o’r awdurdodau, roedd llawer mwy yn gyffredin rhwng llywodraethwyr yr Ariannin a Chymry Patagonia, ac roedd felly’n gwbl naturiol i’r gwladfawyr glosio at wareidd-dra dynion gwyn Buenos Aires.
Ymddengys y ddeuoliaeth a ddisgrifir uchod yn nefnydd tra gofalus y Llawlyfr o’r syniad o ‘wareiddiad’:
|
Nid ydys heb wybod mai y syniad yn mhlith y cyffredin am Patagonia ydoedd mai anialwch gwag erchyll ydyw, a heidiau o haner bwystfilod yn gwibio ar hyd-ddi i ladd a dinystrio pob peth. Dyna y syniad a drosglwyddid i ni yn yr ysgol am y llecyn gwyn hwnw ar waelod map America Ddeheuol. Ond erbyn dyfod i oedran barn ac ymchwiliad, canfyddir nad oedd pob peth a ddysgid yn yr ysgol yn gywir [....] Adgofied y darllenydd am y syniadau rhyfedd a draethid iddo am hanes y Cymry yn ei wersi yn Hanes Lloegr, – y modd y darlunid hwy yn anwariaid noethion a chreulawn, cyn iddynt hwy y Saeson bondigrybwyll, ddod i bwyo ‘gwareiddiad’ iddynt drwy y ‘cyllyll hirion’; a thrachefn yn y canol-oesoedd mai haid o farbariaid oeddynt wedi eu gwthio i fynyddoedd Cymru rhag ffordd y ‘gwareiddiad’, fel bwystfilod gwylltion wedi eu hymlid i’r goedwig.[20]
|
Tybir bod Hughes yn cymharu’r Cymry â brodorion Patagonia am i’r ddwy bobl gael eu hystyried yn ‘bwystfilod’ dinistriol, ‘anwariaid noethion a chreulawn’ a ‘[b]arbariaid’ gwylltion. Wrth danlinellu natur ddadleuol y cysyniad o ‘wareiddiad’ a weithredwyd gan ‘y Saeson bondigrybwyll’ er mwyn bychanu’r Cymry, mae Hughes ar yr un pryd yn ymestyn yr amheuaeth i’r cyferbynnu rhwng gwareiddiad hunanhonedig yr Ewropeaid a barbariaeth dybiedig y brodorion Patagonaidd.
Gellir archwilio’r teimlad deublyg hwn yn ddyfnach drwy ei gysylltu â’r cysyniad o ‘drothwyoldeb’ (‘liminality’ yn y Saesneg gwreiddiol) yn nhermau theori ôl-drefedigaethol. Diffiniwyd trothwyoldeb gan y damcaniaethwr Homi Bhabha fel ‘[an] interstitial passage between fixed identifications [that] opens up the possibility of a cultural hybridity that entertains difference without an assumed or imposed hierarchy’.[21] Wrth ystyried sefydlu’r wladychfa yn nhiroedd y brodorion, roedd y gwladfawyr yn gadael sefydlogrwydd y rôl ddarostyngedig yr oedd Hughes yn cwyno amdani yn y Llawlyfr ac yn camu i diriogaethau anghyfarwydd eu rhan ffiniol ym Mhatagonia.[22] Byddai’r Cymry felly ‘ar y trothwy’ rhwng y concwerwyr gwareiddiedig a’r barbariaid honedig. Er bod, fel y dywedwyd gynnau, nifer o nodweddion yn gyffredin rhwng y gwladfawyr a llywodraeth yr Ariannin, gellir dweud bod eu hymwybyddiaeth o ddeinameg grym yn eu hymbellhau i’r un graddau oddi wrth sefydlogrwydd safiad pwerus yr awdurdodau canolog.
Ceir enghreifftiau eglur o gymysgrywiaeth ddiwylliannol ffiniol (‘interstitial cultural hybridity’ yn Saesneg) Cymry Patagonia maes o law yng ngwaith Eluned Morgan, wrth iddi ddisgrifio sefyllfa pobloedd frodorol Patagonia drwy sylwadau fel yr un a ganlyn:
| Trist yw meddwl fod hen genhedloedd mor dawel, mor addfwyn, o gyneddfau cryfion, iach, gorff a meddwl, mor hen eu haniad, mor swynol eu hanes – mor anhraethol drist yw meddwl fod y dyn gwyn gyda’i Gristionogaeth a’i ddiod ddamniol yn ysu ac yn difa fel tân pa le bynnag yr elo. Oes rhaid i’r pethau hyn fod? Dyna gwestiwn sydd wedi dwyslithro drwy’m calon ganwaith wrth synfyfyrio ar hanes brodorion crwydrol pob gwlad: Indiaid Cochion Gogledd America, Maoris swynhudol Awstralia, a hen gyfeillion fy mebyd innau yn Ne America. Nid yw’r Sbaenwr un gronyn gwaeth na’r Ianci a’r Sais yn hyn o beth. Difa brodorion a chenhedloedd bychain yw pechod parod pob un ohonynt [...].[23] |
Yn dilyn rhesymeg Morgan, mae’n bosibl awgrymu bod y Cymry’n gymaint o ‘genedl fechan’ â brodorion Patagonia, yr Indiaid Cochion a’r Maoris yma, ac o dan gymaint o fygythiad gan wledydd grymus â hwythau.
Ond os yw cysyniadau megis trothwyoldeb yn cyfoethogi’r dadansoddiad o safiad y Cymry yn Nhiriogaeth Chubut, priodol fyddai oedi ynghylch cefndir damcaniaethol y cysyniad hwnnw cyn mynd â’r drafodaeth ymhellach. Nid oes rhaid dweud bod ôl-drefedigaethedd wedi creu tipyn o chwyldro yn y ffordd o edrych ar anghydbwysedd pŵer y byd. Eithr tra bod y paradeim newydd wedi siwtio i’r dim ysgolheigion o wledydd megis Algeria, Zimbabwe a’r India, y mae wedi peri tipyn o ddadleuon mewn mannau eraill o’r byd. Ffrwydrodd trafodaeth frwd yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl yn sgil awgrymiad y byddai safbwyntiau ôl-drefedigaethol o fantais wrth geisio dehongli hanes y dywysogaeth o fewn Prydain Fawr.[24] Digwyddodd rhywbeth tebyg – er efallai’n llai ffyrnig – yn dilyn dyfodiad ôl-drefedigaethedd i faes astudiaethau America Ladin[25] ond torrwyd y ddadl pan gyrhaeddwyd consensws ymarferol ynglŷn â defnyddio persbectifau ôl-drefedigaethol er mwyn pwysleisio’r elfennau hynny sydd yn berthnasol wrth gadw’r gwahaniaethau mewn golwg bob amser.
Yn y cyswllt hwn, er ei bod hi’n fwy neu lai derbyniol erbyn hyn i ddefnyddio cysyniadau ôl-drefedigaethol er mwyn dadansoddi gwahanol agweddau o hanes Cymru, mae rhyw deimlad anesmwyth yn codi o hyd wrth drafod profiad y Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia o safbwynt ôl-drefedigaethedd. O ystyried y safiad israddol tybiedig a oedd wedi ysgogi’r ymfudo, byddai’n sicr yn annheg i gyhuddo’r gwladfawyr o arddel rôl trefedigaethwyr yn Nhiriogaeth Chubut, oni fyddai? Sut gallem gymharu grŵp o arloeswyr anghenus â’r cylchoedd grymus o Brydeinwyr yn yr India?
Ymddengys yr anesmwythyd hwn braidd yn baradocsaidd o ystyried yr enw a roddwyd i’r sefydliad ym Mhatagonia ym more ei oes. Gweler ystyr ‘gwladychfa’ yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru:
|
gwladychfa [...]: Trefedigaeth, gwladfa: colony, settlement. 1851.[26]
|
Eithr byddai nodweddion ‘trefedigaeth’ yn wahanol i’r rhai ynghylch ‘gwladychfa’:
|
trefedigaeth […]: Gwlad neu ardal sydd dan reolaeth gwlad arall, ac ymsefydlwyr o’r famwlad neu eu disgynyddion yn byw yno; nifer o bobl o genedl benodol neu â diddordebau cyffredin sy’n byw mewn dinas neu wlad estron (yn enw. mewn un rhan neu ardal), grŵp o bobl sy’n byw ar wahân i weddill y gymdeithas; y tir neu’r ardal lle mae’r cyfryw bobl yn byw; [...]: colony (also in biol.), settlement; colonization. 1770 [ystyr bioleg]; 1775 [ar gyfer grŵp o bobl]; 1803.[27]
|
Dwyseir y gwahaniaeth gan y ffaith mai ‘trefedigaeth’ sydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyfeirio at wladychfa ymerodraethol ei natur fel yn achos, er enghraifft, yr ymadrodd ‘Swyddfa’r Trefedigaethau’ neu’r ansoddair ‘ôl-drefedigaethol’.
Gellir dadlau bod y Wladfa yn wahanol i wladychfeydd eraill yn rhinwedd ei statws fel anheddfa gwladfawyr (settler colony) yn hytrach na changen arall o’r Ymerodraeth Brydeinig. Ond eto roedd y Wladfa yr un mor wahanol i anheddfeydd gwladfawyr nodweddiadol megis Awstralia, Canada ac Unol Daleithiau’r Amerig ag yr oedd hi i drefedigaethau ystrydebol fel yr India neu Algeria. Nid oedd y gwladfawyr a gyrhaeddodd Fae Newydd Porth Madryn cyn rymused o bell ffordd â’r rhai oedd yn cymryd rhan mewn mentrau â chefnogaeth gwledydd fel Sbaen, Portiwgal, Ffrainc neu Brydain Fawr. Nid oedd yr un o’r pwerau mawrion y tu ôl i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia – o leiaf ar y dechrau – ond yn hytrach grŵp cymharol fychan oedd yn deillio o wlad ddibynnol yn weinyddol ar y wlad fwy yr oeddynt yn mynnu ffoi rhagddi drwy ymfudo i bellteroedd De Amerig.
Gan hynny, gallai’r ffaith bod y gair ‘gwladychfa’ wedi ei ddisodli gan ‘gwladfa’ adlewyrchu gwahaniaeth yn natur y fenter:
|
gwladfa [ [...] am Y Wladfa Gymreig, dywedir mai talf. yw o Gwladychfa ] […] Trefedigaeth, gwladychfa; (gyda’r fannod) rhan o dalaith yn Neau America yn dwyn yr enw Patagonia a wladychwyd gan y Cymry yn 1865: colony, settlement; the Welsh settlement in Patagonia established in 1865. 1863.[28]
|
Ymhellach, cyfleir gwahaniaeth ystyrlon gan y ffaith bod y Geiriadur yn rhoi ‘gwladfa’ mewn categori ar wahân i ‘gwladychfa’ a ‘trefedigaeth’, ac felly’n hynodi ‘Y Wladfa Gymreig’ oddi ar wladychfeydd neu drefedigaethau yng ngwir ystyr y gair. Gellir cyplysu ‘trefedigaeth’ a ‘gwladychfa’ â’r Saesneg ‘colony’ a ‘settlement’ (ac i’r termau cyfatebol yn Sbaeneg ‘colonia’ ac ‘asentamiento’), ond daw ‘gwladfa’ i’r golwg fel gair unigryw, wedi ei lwytho â holl freuddwydion hyrwyddwyr y Fenter Fawr. Hefyd, atgyfnerthir yr unigrywiaeth hwn gan y ffaith mai 1863 yw’r dyddiad cyntaf y recordiwyd defnydd o’r term hwn yn ôl GPC,[29] ar adeg pan oedd y trefniadau ar gyfer mintai’r Mimosa (neu ar gyfer yr Halton Castle bryd hynny) yn eu hanterth. Ai cyfeirio at ddull amgen o gynllunio gwladychfa y mae’r gair ‘gwladfa’ felly, pan nad yw gwladychu yn gyfystyr â threfedigaethu? Byddai’n werth archwilio’r defnydd o dermau cysylltiedig yng nghyd-destun sefydliadau diasporig Cymreig yng Ngogledd America ac ardaloedd eraill.
Heblaw am y gwahaniaethau hynny, un peth sydd yn sicr. Pa un bynnag yw’r dosbarth ‘gwladychfaol’ yn ôl gofynion y ddamcaniaeth, mae ôl-drefedigaethedd yn taflu goleuni ffres ar wahanol agweddau o’r Wladfa yn ei safiad trothwyol rhwng Cymru a’r Ariannin. Er enghraifft, sylwir yn llenyddiaeth Cymry Patagonia ar dueddiad o fyfyrio ar yr hyn y mae Ashcroft, Griffiths a Tiffin wedi disgrifio fel ‘[t]he common themes of the literatures of settler colonies – exile, the problem of finding and defining “home”, physical and emotional confrontations with the “new” land and its ancient and established meanings’.[30] Gellir o’r herwydd ddefnyddio’r fframwaith ôl-drefedigaethol fel strategaeth ddadansoddol nid i ymdrin â chymdeithasau ôl-drefedigaethol amlwg yn unig ond yn hytrach er mwyn cyrraedd gwell dealltwriaeth o sefydliadau nad ydynt o angenrheidrwydd yn ôl-drefedigaethol yn yr ystyr llythrennol. Yn rhinwedd y ffrâm ehangach honno, cawn ddefnyddio rhai o gysyniadau ôl-drefedigaethedd wrth drafod y Wladfa yn yr ysgrif hon.
Gan ddychwelyd eto at y drafodaeth a agorwyd ar ddechrau’r darn hwn, gellir honni bod y ddeuoliaeth drothwyol a nodwyd yn gynharach yn hanfodol i’r ffordd y mae awduron y Wladfa yn ei harddel. Sylwir ar yr ymwybyddiaeth ddwbl honno wrth i Gymry Patagonia drin a thrafod themâu sydd, yn ôl Ashcroft et al., yn dod i’r golwg hefyd yn llenyddiaeth anheddfeydd gwladfawyr, sef ‘the relationship between social and literary practices in the old world and the new; the relationship between indigenous populations in settled areas and the invading settlers; and the relationship between the imported language and the new place’.[31] Gan fod cwmpas yr erthygl bresennol yn gyfyngedig, byddwn yn canolbwyntio ar yr ail gwestiwn yn arbennig am y tro, ar ôl trafod y ddau arall yn fras iawn yn y paragraff sydd yn dilyn.[32]
Gallem edrych ar yr elfen gyntaf drwy drafod fersiynau Patagonaidd o sefydliadau diwylliannol ethnig wedi eu trawsblannu o’r hen wlad, megis traddodiadau ‘ailddyfeisiedig’[33] yr Eisteddfod[34] a’r Noson Lawen, neu ar rai wedi eu geni yn y Wladfa a chymysgryw iawn eu natur, megis Gŵyl y Glaniad a’r ‘té galés’ (Te Cymreig).[35] Byddai modd, hefyd, gyfeirio at sut – ar sail trafodaeth Ashcroft et al. ynghylch ‘Saesneg’ a ‘saesneg’ – daeth y Gymraeg o Gymru yn ‘gymraeg’ yn sgil ‘seizing the language of the centre and re-placing it in a discourse fully adapted to the colonized place’ drwy strategaethau ‘abrogation’ ac ‘appropriation’.[36] Sut bynnag, mae panorama ieithyddol y Wladfa’n wahanol i wladfeydd eraill oherwydd, er i rai o frodorion Patagonia ddysgu’r Gymraeg,[37] nid yr iaith a siaradai’r ymfudwyr o Gymru a ddaeth yn drech na’r lleill ond yn hytrach iaith y conquistadores o Sbaen a llywodraethwyr yr Ariannin. Sbaeneg a lethodd yr ieithoedd brodorol a’r Gymraeg fel ei gilydd, a gellir dweud i rywbeth tebyg ddigwydd i agweddau eraill o’r diwylliannau hynny.
Ynghylch ail bwynt Ashcroft et al., tra bod yr ymraniad cychwynnol rhwng gwladychwyr grymus a dioddefwyr truenus yn ddigon clir mewn nifer o’r sefyllfaoedd a ddadansoddir o safbwynt ôl-drefedigaethedd, mae amgylchiadau arbennig yr ymfudo o Gymru i Batagonia yn problemateiddio’r amffinio hwn. Yn y lle cyntaf, mae’n bosibl adnabod gwedd israddol y gwladfawyr o Gymru ym mynegiant arweinwyr y mudiad o’r dechrau cyntaf (e.e., Llawlyfr Hughes). Er nad oeddynt yn gaeth i ddatgysylltiad trefedigaethol yng ngwir ystyr Ffanonaidd, roedd gan y Cymry hanes o ddibyniaeth swyddogol ers i’r Deddfau Uno (1536 a 1543) ieuo Cymru a Lloegr. Roedd y teimlad o ddibyniaeth yn ffactor o bwys ymysg y grŵp a ffurfiodd y Gymdeithas Wladychfaol er mwyn ffoi, yn ogystal â’r tlodi, ‘rhag gormes Arglwyddi Tir, a gorthrwm yr Eglwys Sefydledig, a Seisnigrwydd yr addysg’.[38] Gall syniad Michael D. Jones o ffrydio allfudo’r boblogaeth drwy ei sianelu tuag at Wladychfa arbennig ‘lle gallo’r ymfudwyr hyn ymsefydlu gyda’u gilydd, a llwyddo yn y byd, a mwynhau eu llwyddiant, ac nid byw yn feudwaid yn nghanol estroniaid’ [nid myfi biau’r italeiddio][39] awgrymu ymwybyddiaeth o’r sefyllfa ormesol.[40] Er i rai o’r gwladfawyr fynnu mynd yn ôl at yr Ymerodraeth Brydeinig ar wahanol adegau,[41] byddai’r dyhead am ddad-drefedigaethu’n glir o ystyried y ffaith i’r ymfudwyr gytuno, cyn ymadael â Lerpwl ar y Mimosa, ar gyfansoddiad blaengar oedd yn gwarantu tugel cyffredinol a dirgel i bob dyn a merch dros ddeunaw oed, ‘heralded as the first example of a practising democracy in South America’.[42]
Eithr, fel y dywedwyd yn gynharach, roedd y gwladfawyr yn cynrychioli grym gwareiddiedol y dyn gwyn yn nhiroedd cyntefig Chubut, ac yr oedd hynny yn eu rhoi mewn sefyllfa o rym.[43] Er ei bod yn annhebygol iawn y byddai’r Cymry wedi goroesi yng nghyfnod cyntaf y sefydliad heb gyfalaf gwybodaeth y Tehuelche brodorol, yr ymfudwyr Ewropeaidd oedd â bendith swyddogol yr awdurdodau. Ymddengys y berthynas gynnar rhwng y ddwy garfan yn fanteisiol i’r ddwy ochr: tra bod y Tehuelche yn dysgu i’r Cymry sut i fyw ar y paith, roedd y brodorion yn cael masnachu gyda’r newydd-ddyfodiaid (yn lle gorfod teithio i dref Carmen de Patagones, rhyw 280 milltir i’r Gogledd o Ddyffryn Camwy) ac yn derbyn iawndal gan y llywodraeth am ganiatáu i’r Cymry drigo yn ardal Dyffryn y Camwy.[44] Eithr daeth yr anghydbwysedd rhwng y ddwy bobl yn fwyfwy amlwg ar ôl y rhyfelgyrch a elwid yn swyddogol yn ‘Conquista del Desierto’ (Concwest yr Anialwch). Pwrpas ymgyrch y Fyddin Archentaidd, a gynhaliwyd rhwng 1878 a 1884, oedd glanhau tiroedd Patagonia o’r bobloedd frodorol er mwyn atodi’r tiriogaethau hynny i’r Wladwriaeth. Yng ngolwg yr awdurdodau cenedlaethol, roedd yn angenrheidiol difeddiannu’r anwariaidd honedig (yn aml iawn drwy eu dienyddio) er mwyn adeiladu’r genedl ‘Ewropeaidd’ yr oeddynt yn dyheu amdani.
Ar y naill law, amlygwyd yn yr adroddiadau am y Wladfa dueddiad i ‘homologeiddio’ Cymry Patagonia â brodorion Patagonia, gan ‘frodori’ yr ymfudwyr a thrwy hynny gyfiawnhau eu parhad ym Mhatagonia.[45] Ar y llaw arall, roedd y gwladfawyr yn gynnyrch eu hoes, ac roedd eu hymlyniad wrth feddylfryd esblygiadol darwinaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn eu hagosáu at rôl gwladychwyr, gan gydweddu â’r deubarthiad rhwng barbariaeth a gwareiddiad y cyfeiriwyd ato yn gynharach. Er yr honiad y byddai’r gwladfawyr yn ystyried brodorion Patagonia ‘a little more civilized than the Argentine soldiers’,[46] ni ellir gwadu mai safiad ethnosentrig nifer o’r Cymry a esgorodd ar y naws ddeuol yr oedd Glyn Williams wedi ei chanfod yn agweddau’r Cymry tuag at frodorion Chubut.[47] Byddai’n bosibl barnu heddiw bod yr agweddau hynny’n debyg i’r hyn a elwid yn ‘Orientalism’ gan y damcaniaethwr Edward Said.[48] Daw safiad ‘Orientalaidd’ Cymry Patagonia i’r golwg, er enghraifft, yng ngweithiau Abraham Matthews,[49] Lewis Jones[50] neu William Meloch Hughes[51] wrth i’r croniclau canonaidd hynny atgyfnerthu – fel y nodwyd gan yr ysgolhaig o Drelew, Fernando Williams – myth yr anwar nobl drwy gymathu brodorion Patagonia â natur o safbwynt gwyddonol a rhamantaidd yr un pryd.[52]
Er yr ystyrir y berthynas rhwng y gwladfawyr a’r brodorion yn fanteisiol i’r ddwy ochr, gellir awgrymu bod y ffaith bod Cymry Patagonia am dderbyn tiroedd gan lywodraeth ganolog Buenos Aires yn eu gwneud yn gyfrannog – o leiaf yn raddol – yn y broses o ddad-feddiannu’r bobloedd frodorol oddi ar y tiroedd yr oeddynt wedi byw arnynt ers canrifoedd. Er haeriad un o’r Tehuelche bod ei genedl yn ‘contented to see [the Welsh settlers] colonize on the Chupat’,[53] roedd presenoldeb y Cymry yno yn rhagflaenu goresgyniad y brodorion a meddiannu tiriogaethau Patagonia gan Wladwriaeth yr Ariannin. Arwydd pellach o sefyllfa drothwyol y gwladfawyr oedd i Lewis Jones ac eraill yn y Wladfa eiriol ar awdurdodau’r Ariannin ar ran y Tehuelche,[54] er gwaethaf y ffaith y gallai cydnabod yn llawn hawliau tiriogaethol y brodorion danseilio sefydlogrwydd y Wladfa. Ond er barn Glyn Williams mai ‘the attempts of the Welsh to protect native Americans aroused the suspicion of the Argentine authorities’,[55] byddai dyheadau ymreolaeth y gwladfawyr maes o law yn ildio i gydsyniad tuag at awdurdodau’r Ariannin yng nghyd-destun y cydymdrechion i ymestyn ffiniau mewnol y wlad a ‘gwareiddio’ Patagonia.[56]
Ymddengys safiad y gwladfawyr ynglŷn â chrefydd hefyd yn ddeublyg. Dywed Eluned Morgan: ‘Ni cheisiodd Cymry’r Gamwy broselytio na gwareiddio’r Indiaid’[57] ond roedd sêl efengylol y mudiad yn glir yn y cynlluniau a gyflwynasant i Lywodraeth Buenos Aires yn 1863.[58] Tua 1875 sefydlwyd Cymdeithas Genhadol Patagonia ac anfonwyd y Parchedig David Lloyd Jones i’r Wladfa ‘yn genhadwr at yr Indiaid’ ar ei rhan.[59] Yn ôl adroddiadau o’r cyfnod, roedd
|
miloedd o Indiaid yn ymweled â’r Cymry yn Patagonia, ac y mae llawer o honynt yn foddlawn i adael eu plant yn y Wladfa i gael eu haddysgu gan y Parch. D. Ll. Jones. Gan mai llwythau crwydrol ydyw yr Indiaid oll, nis gellir eu gwareiddio a’u hefengyleiddio yn well na thrwy gael eu plant i ysgol o dan ofal y cenhadwr.[60]
|
Yn ôl R. Bryn Williams, ‘ni bu’r sêl genhadol yn amlwg ymhlith mwyafrif yr ymfudwyr’[61] ond, unwaith yn rhagor, gwelir dwy agwedd yn ymddygiad trothwyol y Cymry yn Chubut. Tra bod Eluned Morgan yn cymharu diwylliant cynhenid brodorion Patagonia â’r un oedd y Cymry am achub drwy symud i Dde America, roedd y mudiad cenhadol ar yr un pryd yn ceisio dwyn perswâd ar ymwelwyr brodorol y Wladfa i roi’r gorau i’r hen ddefodau er mwyn cofleidio gwareiddiad a chrefydd y Cymry. Os ystyrir y dröedigaeth i’r ffydd Brotestannaidd yn orfodaeth gan un diwylliant ar y llall, byddai modd gweld y proselytio fel gwladychiaeth ddiwylliannol.
Ar wahân i’r gallu i uniaethu â’r brodorion oherwydd eu hymwybyddiaeth drothwyol, agwedd arall a wnâi Cymry Patagonia’n wahanol i nifer o’r sefydlwyr Ewropeaidd eraill oedd mai bwrw gwreiddiau yn y tiriogaethau newydd oedd eu hamcan, yn hytrach na sefydlu cangen ymerodraethol neu anrheithio’n unig. Gall y ffaith mai i ymgartrefu yn Chubut yn barhaol (o leiaf o ran egwyddor) yn hytrach na dros dro oedd bwriad y sefydlwyr o Gymru fod yn ffactor hanfodol yn y modd y datblygodd y berthynas rhwng y gwladfawyr a’r tir. Mae themâu’r tir a’r tirlun yn hollbresennol yn llenyddiaeth Cymry Patagonia,[62] eithr gyda goblygiadau hollol wahanol i’r rhai a nodwyd gan Ashcroft et al. yn eu hastudiaeth:
|
The Spanish conquest of Central America was the model for all colonialist enterprises to follow. Imperial conquest has always destroyed the land and often regarded the human occupants as disposable, almost as if they were a species of exotic fauna. But the conquerors themselves, the present controllers of the means of communication, those who have subjugated or annihilated the original occupants could not feel at home in the place colonized. Out of this sense of displacement emerges the discourse of place which informs the post-colonial condition.[63]
|
Tra bod y conquistadores yn dilyn yr amcan o wneud ffortiwn gyflym drwy ysbeilio, roedd y gwladfawyr yn bwriadu aros i fyw yn Chubut, ac o’r herwydd yr oedd eu perthynas â’r amgylchedd Patagonaidd yn hollol wahanol i’r un a ddangosodd y rhan fwyaf o’r Sbaenwyr. Byddai cynlluniau tymor hir y Cymry’n eu hannog i warchod a ffrwythlonni’r tir a ddaethai’n gynefin iddynt hwy maes o law.
Ar ben hynny, byddai eu hymlyniad i’r diriogaeth newydd wedi tyfu allan o ddwy ffactor sydd yn haeddu sylw. Yn gyntaf, rhaid adnabod pwysigrwydd y cysylltiad a priori a ddatblygodd rhwng y darpar-wladfawyr a’r tiroedd pellennig oedd yn llwyfan i gynllun iwtopaidd arweinwyr y mudiad. Hefyd, gan nad oedd y Wladfa’n eithriad o ran y rôl flaengar a dderbyniai crefydd yn sefydliadau Cymreig diasporig ym mhedwar ban y byd,[64] atgyfnerthwyd y cwlwm â’r tir yn yr oedfa gyntaf a gynhaliwyd ar ôl i’r Mimosa gyrraedd Porth Madryn, wrth i’r Parch. Abraham Matthews gyffelybu arloeswyr y Wladfa yn crwydro paith Patagonia i’r Israeliaid yn croesi anialwch Sinai yn chwilio am wlad yr addewid.[65]
Er i’r ymfudwyr o Gymru ystyried amgylchfyd Patagonia yn ddieithr ac anghroesawgar ar y dechrau, datblygodd ymlyniad cryf o dipyn i beth, a fyddai’n cael ei adlewyrchu yng ngwahanol agweddau’r sefydliad. Er enghraifft, mae’r ysgolhaig o Chubut, Beatriz Neumann, wedi sylwi ar nifer o gyfeiriadau thematig at yr amgylchedd Patagonaidd a’r ‘cymundeb’ rhwng dyn a natur wrth astudio corpws o’r cerddi (Sbaeneg eu hiaith) a enillodd y Goron yn Eisteddfodau’r Wladfa rhwng 1965 a 2002.[66] Amlygir y berthynas glòs â’r tir fel rhan annatod o hunaniaeth Patagonia.
Gellir dod o hyd i’r cysylltiad Beiblaidd y mae Glyn Williams wedi ei alw yn ‘self-identification with the Scriptures’[67] mewn nifer o weithiau sydd yn portreadu’r hen wladfawyr fel pererinion yn trigo yn yr anialwch ac yn dilyn eu proffwydi. Awgryma Fernando Williams yn ei arolwg o groniclau Abraham Matthews,[68] Lewis Jones,[69] Eluned Morgan,[70] William Meloch Hughes,[71] William Casnodyn Rhys,[72] Thomas Jones[73] a Richard Jones[74] i’r ‘Beibl fel rhyngdestun parhaol weithredu fel matrics canfyddiadol o diroedd Patagonia, [matrics] nad oedd modd ei wahanu oddi wrth y gwerthoedd crefyddol piwritanaidd eu naws i raddau helaeth yr oedd y rhan fwyaf o’r gwladfawyr yn glynu wrthynt’.[75] Gwelir dylanwad yr Ysgrythur hefyd yn y ffaith mai, fel y nodwyd gan R. O. Jones, ‘patrymau geirfaol y Beibl a gafodd y prif ddylanwad yn ffurfiant a sefydlogi geirfa tafodieithoedd y Wladfa’.[76]
Ond byddai haen arall yn ychwanegu at y cymhlethdod trothwyol a drafodwyd hyd yma. Ar ben eu cefndir fel dioddefwyr tybiedig gwladychu ym Mhrydain, byddai’r gwladfawyr ers degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gorfod ymgodymu â pholisïau cenedlaetholgar llywodraeth yr Ariannin, gan ddatblygu felly bennod arall yn eu hanes fel cenedl o dan reolaeth cenedl arall. Fel y nodir yn y nifer o gyhoeddiadau sydd wedi olrhain ymladd Cymry Patagonia yn erbyn ymgyrchoedd yr awdurdodau cenedlaethol i Archenteiddio poblogaethau broydd Cymraeg Chubut,[77] olynwyd rhith o ymreolaeth lwyddiannus y degawdau cyntaf gan realiti trosglwyddiad y ddibyniaeth o un llywodraeth estron i’r llall. Yn hytrach na modelau mwy plwralistig megis y ‘mosäig’, y ‘symffoni’ neu’r ‘bowlen salad’, ymgymerodd yr Ariannin â fersiwn o’r tawddlestr a oedd yn golygu toddi hunaniaethau’r amrywiol bobloedd oedd wedi ymfudo i’r wlad er mwyn creu cynnyrch rhagorach a fyddai’n cynrychioli Archentaeth.[78] Cyflawnwyd y fath dasg drwy weithredu cynllun addysgol ledled y wlad a fyddai’n lleihau dylanwad diwylliannau estronol y cartref ac yn hybu Archentaeth anorchfygol. Byddai ysgolion yn rhoi pwyslais ar y Sbaeneg fel iaith genedlaethol gan fagu yng nghalonnau’r plant edmygedd tuag at hanes yr Ariannin a’i harwyr cenedlaethol.[79] Er addoliad anochel y grefydd wladol, llwyddodd rhai o’r cymunedau ethnig i gadw amryw nodweddion o’u hetifeddiaeth yn gyfochrog â’r gwladgarwch newydd.
Yn Nyffryn Camwy, aeth y llywodraeth ati i addysgu plant y Cymry rhag iddynt ddod yn ‘Indiaid Patagonaidd gwynion’.[80] Er bod yr ymgyrch genedlaetholgar wedi effeithio ar y Cymry a brodorion Patagonia fel ei gilydd yng nghyd-destun Talaith Chubut, nid oeddent yn gydradd o gwbl. Dywed Susana López, hanesydd o Batagonia:
| [Yn wahanol i’r Tehuelche] roedd gan y gwladfawyr o Gymru fwy o rym negodi. Gwnaethant ddefnydd o swyddogion y Swyddfa Is-gennad Brydeinig yn Buenos Aires er mwyn [iddynt] eiriol ar ran y Wladfa o flaen awdurdodau’r Ariannin. Cymerodd [y Cymry] fantais o’u statws fel dinasyddion Prydeinig. Gwnaethant ddefnydd hefyd o’r wasg yn Buenos Aires – gwasg yr Ariannin neu wasg Brydeinig – er mwyn rhoi llais i’w cwynion[;] roeddent yn ysgrifennu’n uniongyrchol at yr awdurdodau cenedlaethol er mwyn mynegi eu hachwynion [ac] yn manteisio ar eu cysylltiadau â chwmnïau Seisnig o bwys yn Buenos Aires.[81] |
At hynny, bu goblygiadau gweithredoedd y llywodraeth genedlaethol yn dra gwahanol i’r ddwy garfan: collodd Cymry Patagonia rannau pwysig o’r diwylliant Cymraeg, ond collodd brodorion Patagonia lawer mwy na hynny, yn cynnwys miloedd ar filoedd o fywydau.
Tybed felly a fu ‘tir cadarn ac ansyfladwy’ y Wladfa’n ‘llusern gobaith’ i’r Cymry yn y pen draw? A lwyddodd y Cymry i ymysgwyd oddi ar y camwri, efallai gan ei weithredu ar genedl dawel arall? Ai gwladychwyr ynteu dioddefwyr gwladychu oedd Cymry Patagonia? Nid rhoi ateb pendant i’r fath gwestiwn oedd diben yr erthygl hon, ond i’r gwrthwyneb. Fel y gwelwyd eisoes, ergyd ein trafodaeth yw cynnig golwg newydd ar sefydlwyr y Wladfa wrth archwilio agweddau dyrys na ellir eu hoelio’n ddigamsyniol. Er nad yw ôl-drefedigaethedd yn adlewyrchu’n ffyddlon bob elfen yn hanes y Cymry yn Nhalaith Chubut, dengys yr erthygl hon fod modd defnyddio’r fframwaith damcaniaethol hwnnw er mwyn dadansoddi cymhlethdodau trothwyol y sefydliad.
Mae modd haeru mai deublyg yw’r asesiad o’r ‘Fenter Fawr’, fel yr oedd safiad y gwladfawyr. Gellir edrych ar yr antur fel methiant wrth gyferbynnu ei chanlyniadau â’r amcanion a osodwyd yn Llawlyfr y Wladychfa – a hynny’n ‘un o fethiannau godidocaf cenedl y Cymry’ chwedl R. Bryn Williams.[82] Ond gellir yn yr un modd ei hystyried yn llwyddiant gwyrthiol o gofio bod yr hen iaith a rhannau sylweddol o’r diwylliant Cymraeg wedi dal eu tir mewn gwlad ddieithr.
Cyn cloi’r ysgrif hon, hoffwn ddychwelyd at Bhabha a’i dyb mai ‘It is in the emergence of the interstices – the overlap and displacement of domains of difference – that the intersubjective and collective experiences of nationness, community interest, or cultural value are negotiated.’ [nid myfi biau’r italeiddio][83] Er bod llawer o sôn wedi bod ynglŷn â hanes swynol y Wladfa, golwg braidd yn ddelfrydol sydd wedi lliwio’r disgwrs yn aml iawn. ‘Cymru fach dros y môr’ i David Lloyd George, enghraifft o ‘arwyddocâd ac arwriaeth’ i’r genedl yn ôl Saunders Lewis,[84] astudiaeth achos wyrthiol yn llygaid ysgolheigion ieithoedd lleiafrifol[85] – lapiwyd cynifer o haenau amrywiol eu natur o gwmpas y sefydliad diasporig o Gymru fel bod ystyried y ffeithiau moel braidd yn anodd erbyn hyn. Nid oes pwynt mewn nacáu’r gorgyffwrdd a’r gwahaniaethau, a dyheu i’r Wladfa fod yn Arcadia wrth natur dim ond oherwydd bod arweinwyr y mudiad yn dda eu bwriad.
Os ydym am werthfawrogi holl ddimensiwn camp y Wladfa, dylem ystyried anawsterau’r negodi ac anesmwythder yr ymwneud â phobl sydd yn deillio o ddiwylliannau gwahanol. Pa un ai ydym yn eu hoffi ai peidio, rhaid i ni gadw mewn golwg agweddau ‘gwladychiaethol’ y sefydliad os ydym am ddeall ei hanes yn ddyfnach. Hyd yn oed ar berygl dod o hyd i elfennau annymunol, byddai’n fuddiol dwyn oddi ar y Wladfa ei statws fel ‘buwch gysegredig’ o ryw fath ac edrych y tu hwnt i’r delfrydu a’r rhamantu. Gellir dysgu llawer mwy drwy archwilio’r tensiynau a’r anghysondebau, gan ennill dirnadaeth ehangach o’r ffordd y llwyddodd y gymdeithas Gymreig yn Chubut i ddatblygu ei arwedd bresennol a goroesi hyd at yr unfed ganrif ar hugain.
[1] H. Hughes ‘Cadfan’, Llawlyfr y Wladychfa Gymreig (Llynlleifiad, 1862) tt. 3–8.
[3] L. Jones ‘Plas Hedd’, Hanes y Wladva Gymreig Tiriogaeth Chubut (Caernarfon, 1898), t.1.
[4] Hughes, Llawlyfr y Wladychfa Gymreig, tt. 7–8.
[5] D. F. Sarmiento, Facundo ó Civilización i barbarie (Paris, 1874 [1845]), t. 22.
[6] J. B. Alberdi, Bases y puntos de partida para la organización política de la República Argentina (Buenos Aires, 1915), t. 217.
[7] Constitución de la Nación Argentina (1853).
[8] Alberdi, Bases y puntos de partida para la organización política de la República Argentina, t. 216.
[9] Er enghraifft, C. Dumrauf, Historia del Chubut (Buenos Aires, 1996), t. 152.
[10] R. B. Williams, Y Wladfa (Caerdydd, 1962), tt. 49–51.
[11] Hughes, Llawlyfr y Wladfa Gymreig, t. 44.
[14] Llawysgrif Llyfrgell Bangor [Rhif 438]: AX.15.78627, dyfynnwyd yn G. Williams, The Welsh in Patagonia: The State and the Ethnic Community (Caerdydd, 1991), t. 37.
[15] E. MacDonald, Yr Hirdaith (Llandysul, 1999), tt. 66–7; G. Williams, ‘Welsh settlers and Native Americans in Patagonia’, Journal of Latin American Studies, XI, 1 (Mai 1979), 46–7.
[16] Sir Richard Hawkins, The Observations of Sir Richard Hawkins, Knight, in his Voyage into the South Sea; Anno Domini 1593 (Llundain, 1622).
[17] Hughes, Llawlyfr y Wladfa Gymreig, t. 23.
[21] H. K. Bhabha, The Location of Culture (Llundain, 1994), t. 4.
[22] Er bod awduron megis Bohata wedi lladd ar anigonedd a natur gamarweiniol y gwahaniaethu gor-syml rhwng y Prydeinwyr fel gwladychwyr a’r Cymry fel dioddefwyr gwladychu drwy nodi bod gan Gymru ran wladychiaethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig (K. Bohata, Postcolonialism Revisted: Writing Wales in English (Caerdydd, 2004), tt. 4–5), gellir dadlau nad oedd gan lawer o’r rhai a aeth i Batagonia fel rhan o’r fintai gyntaf brofiad o arglwyddiaethu yng Nghymru. Yng ngeiriau R. Bryn Williams, ‘Tlodion oedd y mwyafrif [o ymdeithwyr y Mimosa], heb foddion hyd yn oed i dalu am eu cludiad drosodd’. Gweler R. B. Williams, Y Wladfa, t. 2.
[23] E. Morgan, Dringo’r Andes a Gwymon y Môr (Dinas Powys, 2001 [1904 a 1909]), t. 44.
[24] Gweler, e.e., cyfres o erthyglau a llythyrau yn y New Welsh Review (NWR) yn ystod 2004–5: D. Smith, ‘Psycho-colonialism’, NWR 66 (Gaeaf 2004), 22–9 a Llythyr, NWR 68 (Haf 2005), 112–14; J. Aaron, ‘Postcolonial Change’, NWR 67 (Gwanwyn 2005), 32–6; P. McGuinness, Llythyr, NWR 67 (Gwanwyn 2005), 119–20; J. Pikoulis, Llythyr, NWR 68 (Haf 2005), 114–15; K. Bohata, ‘“Psycho-colonialism” Revisited’, NWR 69 (Hydref 2005), 31–9; a L. Andrews, Llythyr, NWR 69 (Hydref 2005), 106–7). Gweler trafodaeth ddofn yng nghyfrolau S. Knight, A Hundred Years of Fiction (Caerdydd, 2004); K. Bohata, Postcolonialism Revisited (Caerdydd, 2004); a J. Aaron a C. Williams (goln), Postcolonial Wales (Caerdydd, 2005).
[25] Mewn ymateb i J. Klor de Alva, ‘Colonialism and Post Colonialism as (Latin) American Mirage’, Colonial Latin American Review, 1, 1–2 (1992), 3–23, gweler, e.e., P. Hulme, ‘Including America’, Ariel: A Review of International English Literature, 26, 1 (Ionawr 1995), 117–23; a W. D. Mignolo, ‘La razón postcolonial: herencias coloniales y teorías postcoloniales’, yn Alfonso de Toro (gol.) Postmodernidad y postcolonialidad: Breves reflexiones sobre Latinoamérica (Frankfurt am Main a Madrid, 1997), tt. 51–70.
[26] Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950–2002), t. 1680.
[30] B. Ashcroft, G. Griffiths a H. Tiffin, The Empire Writes Back (Llundain, 2002), t. 26.
[32] Ceir trafodaeth ddyfnach o’r themâu hynny yn G. Lublin, Memoirs and Identity in Welsh Patagonia, Traethawd Doethuriaeth heb ei gyhoeddi, Prifysgol Caerdydd, 2008.
[33] E. Hobsbawm a T. Ranger, The Invention of Tradition (Caergrawnt, 1983).
[34] Gweler W. A. Brooks a G. Lublin, ‘The Eisteddfod of Chubut, or how the reinvention of a tradition has contributed to the preservation of a language and culture’, Beyond Philology, 4 (2007), 245–59.
[36] Ashcroft et al., The Empire Writes Back, t. 37.
[37] E.e., P. W. Birt (gol.), Bywyd a Gwaith John Daniel Evans El Baqueano (Llanrwst, 2004), t. 13.
[38] R. B. Williams, Y Wladfa, t. 2.
[39] Hughes, Llawlyfr y Wladychfa Gymreig, t. 8.
[40] Serch hynny, gweler F. Coronato a N. Jones, ‘Crisis de identidad en la colonia galesa del Chubut: La britaneidad oscilante’, (2005, heb ei gyhoeddi) i ddeall pwysigrwydd teimladau Prydeingar yn y Wladfa ar hyd y degawdau.
[41] Gweler syniadau o ail-leoli’r sefydliad i Ynysoedd y Falklands (1866), De Affrig (1899) a Chanada (1902) (R. B. Williams, Y Wladfa; G. Williams, The Desert and the Dream (Caerdydd, 1975)).
[42] G. Williams, The Desert and the Dream, t. 186.
[43] Yn arbennig yn ardal yr Andes, ble aeth mintai fforio’r Rifleros ar ddechrau’r 1880au law yn llaw â’r llywodraeth genedlaethol.
[44] G. Williams, The Desert and the Dream, t. 52.
[45] Rwyf eisoes wedi trafod strategaeth homologeiddio’r gwladfawyr mewn cysylltiad â dadansoddiad o’r gyfrol hunangofiannol Pethau Patagonia (1984), a olygwyd gan Marian Elias ar sail cyfres o gyfweliadau gyda Fred Green (G Lublin, ‘Fred Green a'r “cyfeillgarwch parhaol” rhwng y Cymry a brodorion Patagonia’, Taliesin 133 (Gwanwyn 2008), 81–92).
[46] Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru MS 7257A, dyfynnwyd yn G. Williams, ‘Welsh Contributions to Exploration in Patagonia’, The Geographical Journal, 135:2 (Mehefin 1969), 224.
[47] Chwedl Glyn Williams: ‘On the one hand, they recognized their debt to the native population and were in awe of their detailed knowledge of the environment and their ability to exploit the resources of that environment. On the other hand, they were accustomed to thinking of the native population from an evolutionary perspective, especially with reference to religion.’ (G, Williams, ‘Welsh settlers and Native Americans in Patagonia’, t. 55.)
[48] E. Said, Orientalism (Llundain, 1995 [1978]).
[49] A. Matthews, Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia (Aberdâr, 1894).
[50] L. Jones, Hanes y Wladva Gymreig Tiriogaeth Chubut.
[51] W. M. Hughes, Ar lannau'r Gamwy ym Mhatagonia: Atgofion (Lerpwl, 1927).
[52] F. Williams, ‘Los otros y nosotros: los indígenas patagónicos en las crónicas galesas’, yn Los Galeses en la Patagonia (Porth Madryn, 2004), tt. 101–14.
[53] G. Williams, ‘Welsh settlers and Native Americans in Patagonia’, t. 48.
[54] Gweler L. Jones, Hanes y Wladva Gymreig Tiriogaeth Chubut, tt. 116–18.
[55] G. Williams, The Welsh in Patagonia, t. 58.
[56] G. Williams, The Desert and the Dream, t. 141; S. M. López, Representaciones de la Patagonia: colonos, científicos y políticos, 1870–1914 (La Plata, 2003), t. 71.
[57] Morgan, Dringo’r Andes a Gwymon y Môr, t. 41.
[58] C. Dumrauf, Historia del Chubut, tt. 151–2.
[61] R. B. Williams, Y Wladfa, t. 278.
[62] Gweler G. Lublin, Memoirs and Identity in Welsh Patagonia.
[63] Ashcroft et al., The Empire Writes Back, t. 81.
[64] W. (Bill) Jones, ‘Wales, Patagonia and Emigration’, yn L. Priamo a M. Valledor (goln), Una frontera lejana: la colonización galesa del Chubut 1865–1935 (Buenos Aires, 2003), t. 151.
[65] R. B. Williams, Y Wladfa, tt. 96–7.
[66] D. B. Neumann, ‘Eisteddfod del Chubut: Cultura galesa e identidad regional’, yn Los Galeses en la Patagonia, t. 186.
[67] G. Williams, ‘Welsh Contributions to Exploration in Patagonia’, t. 224.
[68] Matthews, Hanes y Wladfa Gymreig.
[69] L. Jones, Hanes y Wladfa Gymreig Tiriogaeth Chubut.
[70] Morgan, Dringo’r Andes a Gwymon y Môr.
[71] W. M. Hughes, Ar Lannau’r Gamwy.
[72] W. C. Rhys, La Patagonia que canta: Memorias de la colonización galesa (Buenos Aires, 2000 [c.1898]).
[73] T. Jones ‘Glan Camwy’, Historia de los comienzos de la colonia en la Patagonia (Trelew, 1999 [1926]).
[74] R. Jones ‘Glyn Du’, Del Imperio al Desamparo (Gaiman, 2001 [1919–1920]).
[75] F. Williams, ‘Hacia una historia cultural: Textualidad y práctica historiográfica en relación con la colonia galesa del Chubut’, yn Los Galeses en la Patagonia II (Porth Madryn, 2006), t. 81.
[76] R. O. Jones, ‘Cydberthynas amrywiadau iaith a nodweddion cymdeithasol yn y Gaiman, Chubut’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, XXVII (1976), 52.
[77] Gweler, e.e., gweithiau R. B. Williams, G. Williams, R. O. Jones, P. Birt, E. MacDonald, W. A. Brooks.
[78] Gweler F. Devoto a H. Otero, ‘Veinte años después. Una lectura sobre el Crisol de Razas, el Pluralismo Cultural y la Historia Nacional en la historiografía argentina’, Estudios Migratorios Latinoamericanos, 17, 50 (Ebrill 2003), 181–227.
[79] Gweler W. Brooks, ‘Polisïau Addysg, Iaith a Hunaniaeth yn y Wladfa (1900–1946)’, Y Traethodydd, CLXIV rhif 687 (Hydref 2008), 232–50; a G. Lublin, ‘Con la espada, con la pluma y la palabra: la política del estado argentino a través de la visión del maestro Eduardo Thames Alderete’, yn Los Galeses en la Patagonia II, tt. 217–30.
[80] Anhysbys, Ein Breiniad, rhif 2 (28 Medi 1878), Atodiad, 1.
[81] S. M. López, Representaciones de la Patagonia, tt. 70–1.
[82] R. B. Williams, Y Wladfa, t. 298.
[83] H. Bhabha, The Location of Culture, t. 2.
[84] J. S. Lewis, Tynged yr Iaith, Darlith Radio flynyddol BBC Cymru, 13 Chwefror 1962.
[85] Gweler, e.e., R. O. Jones, Hir oes i’r iaith: Agweddau ar hanes y Gymraeg a’r gymdeithas (Llandysul, 1997); ‘The Welsh Language in Patagonia’, yn G. H. Jenkins (gol.), Language and Community in the Nineteenth Century: (Caerdydd, 1998), tt. 287–316; neu ‘Trai a... Gobaith II’, Y Traethodydd, CLXI rhif 678 (Gorffennaf 2006), 148–61.