Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri'r cylch diffyg deunydd mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol
Dr Catrin Fflur Huws, Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig, Prifysgol Aberystwyth
Cyflwyniad
Cychwynnodd y broses o ysgrifennu’r erthygl hon ddeng mlynedd yn ôl, gyda doethuriaeth[1] ar ddefnydd y Gymraeg yn y llysoedd yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[2] Yn ystod y cyfnod hwnnw, sylwyd fod tueddiad, mewn sawl cyd-destun ieithyddol, i ddadlau nad yw’r ddeddfwriaeth yn ddigon uchelgeisiol ac nad ydyw, mewn gwirionedd, yn gorfodi sefydliadau i newid eu hymddygiad.[3] Golyga hyn nad oes modd gwyrdroi’r patrwm lle gwelir cwymp yn y nifer o siaradwyr a chyfyngiad yn y gofodau lle siaredir yr iaith leiafrifol[4] yn ddyddiol gan drwch y boblogaeth. Yn aml, fodd bynnag, nid oes gan y ddeddfwrfa unrhyw fwriad i gyflawni’r amcanion hyn, yn enwedig yn wyneb grym economaidd[5] yr iaith fwyafrifol a diglosia hirsefydlog.[6]
Fodd bynnag, y ddadl a gyflwynir yn yr erthygl hon yw mai naïf ydyw, ar sawl ystyr, dychmygu y gall deddfwriaeth ynddi’i hunan adfer iaith ar y sail nad oes unrhyw ysgogiad i’r mwyafrif o fewn deddfwrfa genedlaethol i orfodi darpariaeth i leiafrif ar ddyletswyddau’r mwyafrif.[7] Yn gryno felly, ni bydd unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol yn ceisio disodli sefyllfa’r iaith fwyaf grymus drwy ganiatáu statws cydradd, yn ymarferol, â iaith leiafrifol. Dadleuir felly mai cychwyn y broses ydyw deddfwriaeth, ac nid diwedd y gân. Wedi deddfu, nid yw’r ddeddfwrfa’n debygol o gymryd cyfrifoldeb pellach dros iaith leiafrifol am o leiaf genhedlaeth, os o gwbl.[8] Amcan yr erthygl, felly, yw ystyried sut i edrych ar ddeddfwriaeth ieithyddol o ogwydd gwahanol, gan ystyried yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn ei pharamedrau, ac i ystyried i ba raddau y mae modd i siaradwyr yr iaith leiafrifol gymryd cyfrifoldeb am weithredu’r ddeddf mewn modd sydd yn cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. Fe’i cychwynnir drwy drafod y patrwm presennol o ymateb i ddeddfwriaeth ieithyddol, yna fe ystyrir sut i newid y patrwm hwnnw, er mwyn newid ymddygiad ieithyddol. Oherwydd profiad yr ymchwilydd, a chylch gorchwyl y cylchgrawn a’i ddarllenyddiaeth, yr enghraifft a ddefnyddir yn bennaf yw enghraifft yr iaith Gymraeg yn y system gyfreithiol a’r system addysg ôl-16. Serch hynny, mae’r ddadl a gyflwynir yma yr un mor berthnasol mewn cyd-destunau ieithyddol eraill, ac felly er mai enghreifftiau Cymreig a gyflwynir yma, nid anodd fyddai trawsblannu’r argymhellion i awdurdodaethau a sefyllfaoedd eraill.