Cyfranwyr

Wyn Thomas

Brodor o Aberystwyth yw Wyn Thomas. Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a chwblhaodd ei astudiaethau uwch-radd ym maes ethnogerddoreg yn 1983. Yn dilyn cyfnod fel Cynorthwywr Ymchwil ym Mhrifysgol Cymru, penodwyd ef yn ddarlithydd ym Mangor yn 1981 ac yn fuan wedi hynny, sefydlodd Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru yn y coleg.

Y mae bellach yn Uwchdarlithydd a Chymrawd Dysgu yn y Brifysgol ac yn awdur nifer o gyfrolau ar gerddoriaeth y genedl, gan gynnwys Llyfryddiaeth i Gerddoriaeth Draddodiadol Cymru (Cyf. I-III), Cerdd a Chân – ysgrifau ar gerddoriaeth werin Cymru, MUSICA – Atgynhyrchiad ffacsimili o Lawysgrif Robert ap Huw – a Hanes Cerddoriaeth y Gorllewin (cyfieithiad Cymraeg o gyfrol D.J.Grout). Y mae’n gyd-olygydd y cylchgrawn dwyieithog Hanes Cerddoriaeth Cymru / Welsh Music History.

Designed & Developed by WiSS Limited