Cyfranwyr
Dr T. Robin Chapman
Mae Robin Chapman yn darlithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth er 2003, yn dilyn cyfnod fel athro ysgol yn Swydd Efrog a gweithio cyn hynny, ymhlith pethau eraill, ar Eiriadur yr Academi Gymreig. Mae'n awdur sawl cyfrol, gan gynnwys cofiannau i W. J. Gruffydd, Ambrose Bebb, Islwyn Ffowc Elis ac Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (2006). Enillodd DLitt iddo yn 2004 am ddetholiad o'i waith cyhoeddedig.
Mae'n gweithio ar hyn o bryd ar hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng c.1740 a 2005 ar gyfer cyfres The Oxford Literary History of Wales, dan y teitl amodol A Troubled Heritage.