Cyfranwyr

Dr Rhian Siân Hodges

Darlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yw Rhian Siân Hodges.

Magwyd Rhian ym Margod, sir Gaerffili, a mynychodd Ysgol Gynradd Gilfach Fargod ac yna Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn graddio mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor yn 2005. Ar ôl graddio, fe gwblhaodd M.A Ymchwil Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor, a theitl ei thraethawd hir oedd, ‘Cymoedd y De: Defnydd o’r Gymraeg ar ôl Cyfnod Ysgol?:- Astudiaeth o bobl ifanc yng Nghwm Rhymni’.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r traethawd hir hwn yng nghyfnodolyn ‘Contemporary Wales’, Medi 2009 o dan y benawd, ‘Welsh Language Use Among Young People in the Rhymney Valley’. Datblygodd addysg cyfrwng Cymraeg yn ardaloedd di-Gymraeg felly yn bwnc arbenigol iddi. Newydd gwblhau astudiaeth Ph.D mae’r awdur yn dwyn y teitl, ‘Tua’r Goleuni: Addysg Gymraeg yng Nghwm Rhymni - rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i’w plant’. Tros olwg o brif resymau a chymhelliannau sampl o rieni detholedig Cwm Rhymni a geir o fewn y papur hwn.

Designed & Developed by WiSS Limited