Polisi Golygyddol Bwrdd Golygyddol Canllawiau i Gyfranwyr Trwydded i Gyhoeddi Canllawiau i Arfarnwyr
Bydd Gwerddon yn cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd ar draws amrediad eang o ddisgyblaethau. Cymraeg yw iaith y cyfnodolyn, a chyhoeddir dau rifyn y flwyddyn ar y wefan www.gwerddon.org Bydd rhifynnau arbennig ychwanegol yn ymddangos yn achlysurol, gan amlaf yn canolbwyntio ar thema neu faes ymchwil penodol. Bydd erthyglau yn cael eu cyhoeddi yn dilyn proses arfarnu. Fel rheol ni fydd Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau sydd wedi ymddangos eisoes, gydag ambell eithriad yn achos erthyglau a ymddangosodd yn wreiddiol mewn ieithoedd eraill, pan fydd y golygydd yn barnu bod hynny'n briodol.
Rheolir Gwerddon gan Fwrdd Golygyddol sydd ag aelodau yn cynrychioli nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru ac amrediad o ddisgyblaethau academaidd gwahanol. Mae'r Bwrdd Golygyddol yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Ceir Bwrdd Prosiect hefyd sy'n gyfrifol am weinyddiad Gwerddon o ddydd i ddydd ac sy'n cynnwys Cadeirydd y Bwrdd Golygyddol, y Golygydd, a'r Cynorthwyydd Golygyddol, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Gwasanaethau'r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.
Cyllidir Gwerddon gan: