Cyfranwyr

Phylip Brake

Mae Phyl Brake yn gweithio fel darlithydd yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru lle mae’n arwain rhaglen ymchwil. Dros y blynyddoedd mae wedi ysgrifennu llawer o werslyfrau dysgu Cymraeg ar bob lefel – o gyrsiau i ddechreuwyr pur hyd at gyrsiau gloywi iaith i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ond Ieithyddiaeth, yn enwedig Ieithyddiaeth Gymdeithasegol, neu Sosioieithyddiaeth, yw ei brif ddiddordeb. Ymhlith ei brojectau ymchwil presennol y mae astudiaeth sosioieithyddol o’r gwallau iaith llafar a wneir gan ddysgwyr y Gymraeg, y gydberthynas rhwng cyrhaeddiad dysgwyr a’r defnydd o’r Gymraeg a wneir ganddynt tu allan i’r dosbarth, a thueddiadau ieithyddol siaradwyr Cymraeg gorllewin Cymru.

Designed & Developed by WiSS Limited