Cyfranwyr
Dr Noel A. Davies
Yn frodor o Ddowlais ac wedi byw yn Siroedd Ceredigion, Morgannwg a Chaerfyrddin, graddiodd mewn gwyddoniaeth ym Mangor ac mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen.
Wedi bod yn weinidog gyda’r Annibynwyr yng Nglanaman, bu’n ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Eglwysi Cymru a Chomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol o 1977 tan 1990 ac yna o Cytûn o 1990 tan 1998.
Enillodd ei ddoethuriaeth yn 1998. Ers y flwyddyn honno bu’n ddarlithydd rhan-amser yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin (gan ddysgu cyrsiau ar wyddoniaeth a chrefydd).
Y mae yn awr yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg yr Annibynwyr Cymraeg. Ar yr un adeg bu’n weinidog hefyd mewn eglwysi yng Nghlydach, ger Abertawe, ac yn Ebeneser Newydd, Abertawe.