Cyfranwyr

Dr Myfanwy Miles Jones

Wedi cael ei haddysg gynnar yn Lledrod a Thregaron, graddiodd Dr Myfanwy Jones mewn Almaeneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Gan mai llenyddiaeth oedd ei phrif ddiddordeb, arhosodd yn Abertawe i gwblhau MA, gan arbenigo ar y nofel Almaeneg. Yna cafodd Myfanwy ysgoloriaeth o Brifysgol Warwick i wneud Phd ar wallgofrwydd yn y ddrama Almaeneg. Roedd yr astudiaeth hon yn dadansoddi datblygiadau ffurfiol y ddrama a ddeilliodd o ymdrechion amrywiol o lwyfannu elfennau o wallgofrwydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cyfnodau modernaidd ac ôl-modernaidd.

Wedi gorffen ei doethuriaeth yn 2001, aeth Myfanwy i weithio ym maes cynllunio ieithyddol, yn gyntaf gyda Menter Iaith Abertawe ac yna gyda’r Bwrdd Iaith. Mae hi bellach yn magu teulu yng Nghaerfyddin.

Designed & Developed by WiSS Limited