Cyfranwyr
Yr Athro Mike Pearson
Hyfforddwyd Mike Pearson ym maes archaeoleg. Dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain bu'n arloesi mewn agweddau blaengar tuag at berfformiad, o safbwynt theori, addysg, dogfennu ac arfer y grefft, yng Nghymru a thu hwnt. Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Thestr Labordy Caerdydd o 1973 tan 1980 a Brith Gof, o 1981 tan 1997. Yna gweithiodd gyda Mike Brookes i'r grŵp Pearson/Brookes, gan greu, yn fwyaf diweddar, weithiau aml-safle mewn cyd-destun dinesig.
Ef, gyda Michael Shamks, yw cyd-awdur Theatre/Archaeology (Routledge 2001); teitl ei fonograff sydd ar fin ymddangos yw 'In Comes I': Performance, Memory, and Landscape (Gwasg Prifysgol Exeter, 2006). Ar hyn o bryd y mae'n athro ym maes astudiaethau perfformio yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.