Cyfranwyr

Leila Salisbury

Myfyriwr doethuriaeth yn Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor yw Leila Mair Salisbury, a maes ei hymchwil yw cerddoriaeth draddodiadol Cymru’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan ganolbwyntio ar weithgarwch cerddorol Mair Richards Darowen (1787–1877).

Magwyd Leila yn Llangynog, ger Caerfyrddin, a mynychodd Ysgol Gyfun Bro Myrddin cyn graddio mewn Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Wedi graddio yn 2006 dilynodd gwrs MPhil yn dwyn y teitl ‘Canu’r Dewin o Drefflemin: Golwg ar Alawon Gwerin Iolo Morganwg’ sy’n cynnwys astudiaeth o gyd-destun ehangach y cyfnod, golygiad a nodiadau eglurhaol i gyd-fynd â’r alawon. Mae rhan o’r astudiaeth honno wedi’i chyhoeddi yng nghylchgrawn Canu Gwerin (Cyf. 31, 2008) o dan y pennawd ‘Hai haw Brithi i’r buarth’ – Golwg ar ganeuon gwaith Iolo Morganwg’.

Designed & Developed by WiSS Limited