Cyfranwyr
John Phillips
Brodor o Gilgwri yw John Phillips. Astudiodd yr ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Wedi cyfnod fel cynorthwy-ydd ymchwil yn Aberystwyth, a chyfnod fel cyfieithydd, aeth ymlaen i weithio ym mhrifysgolion Caeredin, Tubingen (yr Almaen) a Manceinion. Ar hyn o bryd mae'n Ddarllenydd yn Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Drws y Mynydd (Yamaguchi), yn Siapan. Yno mae'n dysgu cyrsiau ar ieithyddiaeth, ieithyddiaeth gyfrifiadurol a hefyd, bob yn ail flwyddyn, Gymraeg.
Y mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar ieithyddiaeth gyfrifiadurol, gwyddor sy'n ceisio rhoi i gyfrifiaduron y gallu i ddefnyddio ieithoedd dynol fel Cymraeg a Saesneg. Y mae wedi cyhoeddi ym meysydd disgrifio gramadeg iaith, dadansoddi cystrawen testun a'i ystyr, cynhyrchu testun sy'n mynegi ystyr benodedig, a chyfieithu cyfrifiadurol. Cyhoeddodd lyfr ar ramadeg y Fanaweg yn 2004.