Cyfranwyr
Yr Athro Ioan Williams
Ganwyd Ioan Williams yng Nglyn Ebwy ac fe’i haddysgwyd yn Swydd Herts ac yn Rhydychen. Ar ôl cyfnod byr yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg, symudodd i Brifysgol Warwig, lle darlithiodd ar lenyddiaeth Saesneg a llenyddiaeth gymharol.
Yn 1976 aeth yn fyfyriwr i Aberystwyth, lle cwblhaodd ddoethuriaeth yn Adran y Gymraeg. Ym 1980 fe’i penodwyd yn athro Saesneg yn Ysgol Gyfunol Penweddig. Dwy flynedd wedyn symudodd i Adran Drama Prifysgol Aberystwyth, lle darlithiodd yn Gymraeg a Saesneg, cyn ei benodi’n uwch ddarlithydd a wedyn (yn 1993), yn Athro Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Ers 1967 mae Ioan Williams wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar lenyddiaeth Saesneg ac Ewropeaidd. Mae ei cyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys Dramâu Saunders Lewis (Cyf. I & II) a’r Mudiad Drama yng Nghymru, 1880-1940.