Cyfranwyr
Hywel Jones
Mae Hywel Jones yn frodor o Gaerdydd. Astudiodd ystadegaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio ymunodd â Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn 1977 pan aeth i weithio yn Swyddfa Ystadegau Busnes yr Adran Diwydiant yng Nghasnewydd. Symudodd i’r Swyddfa Gymreig yn 1988, lle bu’n gweithio ar ystadegau sawl pwnc – amaethyddiaeth, tai, yr iaith, ysgolion, ac iechyd. Fe oedd yn gyfrifol am Arolwg Cymdeithasol Cymru 1992, yr arolwg mwyaf erioed i ymdrin â’r Gymraeg. Cyhoeddodd nifer o fwletinau ystadegol am y Gymraeg a thra’n gyfrifol am ystadegau ysgolion rhoddodd gychwyn ar y cyhoeddiad ystadegol blynyddol Y Gymraeg yn yr ysgol.
Ers 2003 mae’n gweithio i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, lle mae wedi arloesi gyda dadansoddiadau newydd o ystadegau’r Cyfrifiad, a ffynonellau eraill, ac wedi cyhoeddi ar eu sail. Fe hefyd gomisiynodd Arolygon Defnydd Iaith 2004-06 a phrosiect i ddatblygu dangosyddion ieithyddol lleol. Mae’n ystadegydd siartredig ac yn gymrawd o’r Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (FRSS).