Cyfranwyr

Hywel Griffiths

Mae Hywel Meilyr Griffiths yn fyfyriwr doethuriaeth yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, o dan nawdd hael Cynllun Ysgoloriaethau y Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg. Teitl ei ddoethuriaeth yw ‘Ansefydlogrwydd fertigol ar afonydd Cymru yn ystod y cyfnod hanesyddol’.

Cafodd ei eni a’i fagu yn Llangynog, ger Caerfyrddin, gan dderbyn ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, cyn graddio mewn Daearyddiaeth a Mathemateg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys ymateb afonydd i newidiadau hinsoddol yr Holosîn, a gweithgareddau anthropogenig, prosesau erydiad a dyddodiad, a’r rhyngweithio rhwng geomorffoleg ac archaeoleg.

Designed & Developed by WiSS Limited