Cyfranwyr

Hunydd Andrews

Swyddog ymchwil yw Hunydd Andrews yn y Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor, ac addysg ddwyieithog yw ei phrif ddiddordeb ymchwil. Yn frodor o Belfast, derbyniodd ei haddysg gynradd trwy gyfrwng yr Wyddeleg a’i haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Saesneg. Aeth ymlaen i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, gan dderbyn BA yn 2001 a MA yn 2003.

Mae gwaith Hunydd dan nawdd y Ganolfan ESRC wedi cynnwys prosiectau ar ddarpariaeth addysg ddwyieithog yng Nghymru o gylchoedd meithrin i’r brifysgol. Ar y cyd â Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, mae hi hefyd yn cynnal astudiaeth gynhwysfawr, hydredol o brofiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg.

Designed & Developed by WiSS Limited