Cyfranwyr

Yr Athro R. Gwynedd Parry

Dechreuodd Gwynedd Parry ei yrfa fel bargyfreithiwr mewn siambrau yn Abertawe yn 1993, ac mae’n parhau’n aelod o’r proffesiwn gyda thenantiaeth yn Siambrau’r Deml, Caerdydd. Cafodd ei benodi yn ddarlithydd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn 2001, a’i ddyrchafu yn uwch-ddarlithydd yn 2007, ac yn Athro Cyfraith a Hanes Cyfraith yn 2011.

Ei brif ddiddordeb ymchwil yw hanes y gyfraith, ac yn enwedig y berthynas rhwng ffenomena cyfreithiol a hunaniaeth genedlaethol ac ieithyddol. Mae ganddo ddiddordeb neilltuol yn natblygiad Cymru’r Gyfraith. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn cyfiawnder troseddol, sy’n deillio o’i brofiad fel ymarferwr cyfreithiol. Ymysg ei brif gyhoeddiadau, y mae David Hughes Parry: A Jurist in Society (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2010), a The European Charter for Regional or Minority Languages: Legal Challenges and Opportunities (Strasbourg: Gwasg Cyngor Ewrop, 2008), ynghyd â nifer helaeth o erthyglau a chyfraniadau mewn cylchgronau a chyfrolau cyfreithiol a hanesyddol. 

Y mae’n gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol (FRHistS) ac yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru.


Erthyglau Perthnasol

Rhifyn 9

Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?

Designed & Developed by WiSS Limited