Cyfranwyr

Gwennan Mair Schiavone

Magwyd Gwennan ym mhentref Pandy Tudur, ym Mro Cernyw. Wedi derbyn ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bro Cernyw ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, aeth ymlaen i Brifysgol Cymru Aberystwyth, gan dderbyn gradd BA Astudiaethau Cymru Fodern yn 2003. Yn dilyn ennill Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig Aberystwyth, dechreuodd ar ei doethuriaeth ymchwil arfaethedig sy'n edrych ar weithgarwch menywod fel rhan o Genhadaeth Dramor yn Eglwys Bresbyteraidd Gymreig yng ngogledd-ddwyrian India, gan ganolbwynio ar y cyfnod rhwng 1887 ac 1930.

Y mae ei thraethawd yn edrych yn benodol ar gefndir y cenadesau a'u gwaith ar y maes cenhadol, gan ystyried yr ymateb i'w gwaith o du'r gynulleidfa yng Nghymru, ac yn arbennig felly'r gynulleidfa fenywaidd a ddangosodd ddiddordeb a chefnogaeth neilltuol at yr Achos Cenhadol.

Erthyglau Perthnasol

Rhifyn 1

Llais y genhades Gymreig, 1887–1930 

Designed & Developed by WiSS Limited