Cyfranwyr
Enlli Thomas
Wedi graddio mewn seicoleg yn 1996, cafodd Dr Enlli Thomas y cyfle i astudio ymhellach a dilyn cwrs ôl-radd. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn seicoleg (Ph.D.) yn 2001 am waith ymchwil yn olrhain sut y mae plant Cymraeg yn dysgu elfennau arbennig o dreiglo yn eu ym tebyg dan arweiniad yr Athro Ginny Gathercole, yn dilyn datblygiad iaith plant sy’n dysgu Cymraeg dan amgylchiadau ieithyddol gwahanol.
Y mae bellach yn dysgu yn Ysgol Seicoleg, Prifysgol Cymru, Bangor ac yn gyfrifol am hybu addysg Gymraeg o fewn yr Ysgol, yn ychwanegol at addysgu myfyrwyr yn Saesneg. Mae ei gwaith ymchwil presennol yn parhau i edrych ar gaffaeliad plant o strwythurau cymhleth yn y Gymraeg, a defnydd a natur dealltwriaeth a phrosesu oedolion o’r un strwythurau yn y Gymraeg. Y mae hefyd ar fin cychwyn prosiect newydd a gyllidwyd gan yr ESRC yn astudio effeithiau gwybyddol dwyieithrwydd ar hyd yr oesau.
Tu hwnt i ymchwil o’r fath, mae elfen ymarferol i’r gwaith ac y mae Dr Thomas eisoes yn y broses o ddatblygu dulliau asesu iaith plant yn y Gymraeg ar y cyd â’r Athro Gathercole, a rhagbrawf niwroseicolegol Cymraeg ar gyfer asesu dementia ar y cyd â Dr Linda Clare, yr Athro Bob Woods, a Dr Eleri Jones.