Cyfranwyr
Elin Royles
Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae Elin yn ddarlithydd yn Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth.
Effaith datganoli ar gymdeithas sifil yng Nghymru yw ei phrif faes ymchwil a phwnc ei chyfrol ‘Revitalizing Democracy? Devolution and Civil Society in Wales’ (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007).
Mae ei gwaith ymchwil ehangach hefyd yn gysylltiedig â phrosesau creu cenedl, gan gynnwys ymchwilio i gysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth y Cynulliad a chymharu Cymru â Chatalwnia.