Cyfranwyr

Eleri Pryse

Uwch Ddarlithydd mewn Ffiseg yn Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol Prifysgol Cymru Aberystwyth yw Dr Eleri Pryse. Dros gyfnod o ugain mlynedd bu'n ymchwilio i'r rhyngweithio rhwng yr Haul ac atmosffer uchel y Ddaear, yn arbennig drwy arsylwi ar ôl-troed y rhyngweithio yn yr atmosffer drydanol ar uchderau o tua 300 cilometr. Arloesodd ddull newydd tomograffi radio i astudio'r rhanbarth, gan ddatblygu arbrawf ble y derbynnir signalau lloeren gan gyfres o systemau radio ar arwyneb y Ddaear. Gwireddodd y dull drwy gymharu'r delweddau tomograffi ag arsylwadau radar rhyngwladol EISCAT (European Incoherent SCATter Radar) yng ngogledd gwledydd Llychlyn.

Bellach mae'n defnyddio'r dechneg i astudio'r atmosffer drydanol yn y rhanbarthau pegynol ac awroraidd, yr ardal lle y gwelir yr awrora borealis, gyda phedwar derbynnydd lloeren yn yr Arctig uchel yn Ny Ålesund a Longyearbyen ar Svalbard, Bjørnøya (Bear Island) a Tromsø ar brif dir Norwy. Mae'r arbrawf yn rhan o raglen yr "International Polar Year". Cydnabyddir gyfraniadau gwerthfawr aelodau eraill o'r grŵp ymchwil at y gwaith dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd mae Dr Helen Middleton, sy'n gynorthwy-ydd ôl-ddoethuriaeth, yn monitro'r arbrawf ac mae hi, ynghyd ag Alan Wood, sy'n fyfyriwr ymchwil, yn defnyddio'r data i astudio'r modd y mae'r Haul yn effeithio'r atmosffer uchel. Mae'r gwaith o ddiddordeb i ddehongli'r prosesau ffisegol ac i ddefnyddwyr systemau radio lle mae'r atmosffer drydanol yn amharu ar ledaeniad y signalau.

Erthyglau Perthnasol

Rhifyn 2

Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd 

Designed & Developed by WiSS Limited