Cyfranwyr
Dr Diarmait Mac Giolla Chríost
Mae Dr Diarmait Mac Giolla Chríost, a benodwyd yn Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 2004, yn frodor o Iwerddon ac yn awdurdod ar leiafrifoedd ieithyddol a chynllunio ieithyddol. Mae'n arbenigwr ar sefyllfa'r iaith Wyddeleg. Mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cwmpasu nifer i feysydd, gan gynnwys natur y bethynas rhwng iaith a gwerthdaro, o berspectif cymharol, Ewropeaidd, ac, yn ogystal, iaith yng nghyd-destun y ddinas, a hynny o bersfectif cymharol a rhyngwladol.
Ef yw awdur Language, Identity and Conflict (Routledge, 2003), The Irish Language in Ireland (Routledge, 2005), a Language and the City (Palgrave Macmillan, yn y wasg). Mae ganddo nifer o gyhoeddiadau eraill ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol, daearyddiaeth, hanes a chymdeitheg iaith. Mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddiaeth Frenhinol (FRGS) ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol (FRHistS).