Cyfranwyr
Dr Dafydd Sills-Jones
Mae Dafydd yn arbenigo yn theori a hanes teledu a’r ffilm dogfen. Cyn iddo ddod i’r brifysgol, gweithiodd yn y diwydiant cynhyrchu teledu am ddeng mlynedd, fel ymchwilydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd. Roedd ei PhD yn edrych ar ddatblygiad diwydiannol a ffurfiol dogfennau hanesyddol ar deledu Prydain rhwng 1982 a 2002. Erbyn hyn mae’n ymchwilio datblygiad dogfennau Verité yn y 90au, dechreuadau teledu interactif, a thechnegau cynhyrchu dogfen gyfoes.