Cyfnodolyn academaidd sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd o'r Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gydnaws â gofynion y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’.
Cyfnodolyn academaidd Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd o'r Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau ddwywaith y flwyddyn yn gydnaws â gofynion ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF) 2014. Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod mor eang â phosibl o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg.
Ers nifer o flynyddoedd bu'n freuddwyd i weld cynnydd sylweddol ym maes ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y gymuned academaidd. Fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddo statws yr iaith o fewn addysg uwch, ystyriwyd ei bod yn hanfodol bwysig i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng ymchwil. I’r perwyl hwnnw, penderfynwyd sefydlu cyfnodolyn academaidd gyda chyfundrefn arfarnu annibynnol a fyddai'n fforwm ar gyfer cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007 ac ar y wefan hon gellir darllen pob rhifyn o'r cyfnodolyn oddi ar hynny.
Cyllidir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am Gwerddon, gyrrwch e-bost i gwybodaeth@gwerddon.org
Bellach mae Rhifyn 14 o Gwerddon ar-lein. Cliciwch y ddolen isod i ddarllen mwy. Mae'r Rhifyn yn cynnwys erthyglau gan yr Athro Aled Gruffydd Jones (y darpar lyfrgellydd cenedlaethol a'r hanesydd o Brifysgol Aberystwyth sy'n un o gyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Dr Craig Owen Jones (o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor) a Gareth Watkins (o Brifysgol Abertawe). Bydd Rhifyn 15, sy'n rhifyn arbennig ym maes ieithoedd modern, yn ymddangos ym mis Gorffennaf.
Rhifynnau Y ffisegydd Dr Eleri Pryse fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Golygyddol Gwerddon. Bydd Dr Pryse yn olynu Dr Hefin Jones, yr ecolegydd, fel Cadeirydd y cyfnodolyn ac felly’n cyd-weithio’n agos gyda’r Golygydd, yr Athro Ioan Williams a’r Is Olygydd, Dr Hywel Griffiths. Meddai Dr Pryse:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her o olynu Dr Hefin Jones fel Cadeirydd y Bwrdd Golygyddol ac yn diolch iddo am ei gyfraniad aruthrol i gynnydd y cyfnodolyn. Gyda’r buddsoddiad mewn ysgolheictod cyfrwng Cymraeg oherwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, hyderaf y bydd ‘Gwerddon’ yn mynd o nerth i nerth ac y bydd ymchwilwyr Cymraeg yn manteisio ar gyfleon cyhoeddi o’r fath”.