Gwybodaeth i Gyfranwyr
Cyflwyno erthyglau
Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Dyniaethau, y Gwyddorau a’r Celfyddydau. Dylai erthyglau fod yn unol â’r arfer o fewn disgyblaeth, ac heb fod yn hwy na 8,000 o eiriau. Dylid cynnwys crynodeb o’r erthygl yn Gymraeg a Saesneg (hyd at 120 gair yr un), a gwybodaeth am yr awdur yn Gymraeg a Saesneg (hyd at 100 gair yr un). Dylid anfon erthyglau at: gwybodaeth@gwerddon.org
Cliciwch ar y ddolen ar y chwith am ganllawiau manwl ar gyfer safonau arddull a chyflwyno erthyglau.