Cyfranwyr
Cerys Jones
Mae Cerys Ann Jones yn fyfyrwraig doethuriaeth yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, o dan nawdd hael Cynllun Ysgoloriaethau'r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg. Teitl ei doethuriaeth yw ‘Adlunio hinsawdd Cymru o ffynonellau dogfennol hanesyddol’.
Cafodd ei geni a’i magu yn Llanybydder, gan dderbyn ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, cyn graddio mewn Daearyddiaeth a Mathemateg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Mae ei diddordebau ymchwil ar y ffin rhwng daearyddiaeth amgylcheddol a hanesyddol gan ystyried sut mae dogfennau hanesyddol yn medru cael eu defnyddio i adlunio newid hinsawdd o’r cyfnod cyn-offerynnol ac asesu’r effeithiau cymdeithasol.