Cyfranwyr
Dr Catrin Fflur Huws
Darlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth yw Dr Catrin Fflur Huws. Fel cadeirydd y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig y mae’n gyfrifol am gydlynu darpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg yr adran, ac hefyd am gydlynu gwaith ymchwil yr adran sydd yn ymwneud â Chymru. Ei harbenigedd ymchwil yw’r persbectif Cymreig ac agweddau o’r gyfraith, a chan hynny y mae wedi cyhoeddi gwaith ar statws gyfreithiol yr iaith Gymraeg, polisïau tai fforddiadwy a llenyddiaeth Gymraeg fel sylwadaeth ar gyfraith Lloegr. Bellach y mae’n gweithio ar brosiect ar Ddatganoli a Mynediad at Gyfiawnder.