Canllawiau i gyfranwyr Gwerddon

Yma ceir canllawiau ar sut i gyflwyno erthyglau i Gwerddon. Mae'r ddogfen hefyd ar gael ar ffurf Word yma.

Cyflwyno erthyglau

Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Dyniaethau, y Gwyddorau a’r Celfyddydau. Dylai erthyglau fod yn unol â’r arfer o fewn disgyblaeth, ac heb fod yn hwy na 8,000 o eiriau. Dylid cynnwys crynodeb o’r erthygl yn Gymraeg a Saesneg (hyd at 120 gair yr un), a gwybodaeth am yr awdur (hyd at 100 gair). Dylid anfon erthyglau at: gwybodaeth@gwerddon.org

MS Word yw’r feddalwedd a ddefnyddiwn.

  • Defnyddier bwlch a hanner rhwng llinellau (yn cynnwys nodiadau a dyfyniadau)
  • Dylid rhifo’r tudalennau a dynodi’r dudalen olaf gydag ‘OLAF’.
  • Gwahoddir awduron i awgrymu enwau dau arfarnwr o leiaf.

Canllawiau arddull cyffredinol

·         Un bwlch ar ôl atalnodi, yn cynnwys atalnod llawn.

·         Cilosod dyfyniadau sydd dros bum llinell o hyd, heb ddyfynodau, ac heb ddechrau / diweddu gydag elipsis (...)

·         Dyfynodau sengl ar gyfer dyfyniadau o fewn y testun, dyfynodau dwbl ar gyfer dyfyniadau o fewn dyfyniadau.

·         Rhifau tudalennau i’w nodi fel a ganlyn: 4–7, 8–13, 16–8, 20–7, 34–76, 104–6, 136–42.

·         Dyddiau i’w nodi’n llawn: 16 Medi 1400; blynyddoedd CC i’w nodi yn llawn: 536–514, nid 536–14; noder ‘y bedwaredd ganrif ar bymtheg’ yn llawn, ond defnyddier 1800au, ac 1930au, nid ‘tridegau’ neu ‘30au’.

·         Ibid. ar gyfer cyfeiriadau sy’n nodi teitl y cyfeiriwyd ato yn y nodyn blaenorol.

·         Talfyrru/Cywasgu: Ceir atalnod llawn ar gyfer rhai talfyriadau: Ffig., gol., cyf., ibid., y Parch., ond nid ar gyfer y mwyafrif o gywasgiadau: Mr, Dr. Nid oes angen atalnodau ar gyfer y mwyafrif o acronymau a thalfyriadau eraill – UDA, y DU, AS, AC, DS, ond Ph.D, M.A, M.Sc.

·         Priflythrennau: yr Eglwys (sefydliad) ond yr eglwys (adeilad); y Llywodraeth (penodol) ond y llywodraeth (cyffredinol); arlywydd yr Unol Daleithiau ond Arlywydd Obama. Defnyddier llythyren fach ar gyfer ‘de Cymru’ gan nad oes rhanbarth gwleidyddol, ond Gorllewin Abertawe ar gyfer yr etholaeth seneddol.

·         Am gyfarwyddyd pellach gweler:

Canllawiau Gwasg Prifysgol Cymru, ar gyfer materion na nodir yng nghanllawiau Gwerddon.

Rhiannon Ifans, Y Golygiadur: llawlyfr i awduron a golygyddion (Aberystwyth, 2006) 

Cyfeirio at ffynonellau

Yn ôl natur y testun, defnyddier y naill neu’r llall o’r ddwy ffurf sy’n dilyn, gan lynu’n gyson at un dull.

1.      Y dull awdur-dyddiad (a elwir weithiau yn ddull Harvard)

Dylid rhoi’r cyfeiriadau ar y ffurf ganlynol:

Yn y testun:

(Bowen a Gresham, 1967)

(Follett a Roderick, 1996)

O dan y pennawd ‘Llyfryddiaeth’ ar ddiwedd y testun, noder pob ffynhonnell y cyfeirir ati yn y testun yn y ffurf ganlynol:

Bowen, E. G. a Gresham, C. A. (1967), History of Merioneth. Vol I, From the earliest times to the age of the native princes (Dolgellau, Merioneth Historical and Record Society).

Follett, P. A. a Roderick, G. K. (1996), Genetic estimates of dispersal ability in the leucaena psyllid predator Curinus coeruleus (Coleoptera: Coccinellidae): implications for biological control, Bulletin of Entmological Research 86, 355–361.

2.      Y dull teitlau byr

Defnyddier ôl-nodion, nid troednodiadau, gan ddilyn y canllawiau canlynol:

Llyfrau:

  • teitlau llyfrau – priflythrennu, dim dyfynodau, italic.
  • teitlau penodau – priflythrennau, dyfynodau sengl, dim italic.
  • noder man cyhoeddi cyfrolau, ond nid cyhoeddwr.
  • noder teitl llawn yn y cyfeiriad cyntaf, ond cyfenw’r awdur a theitl byr mewn cyfeiriadau pellach.
  • Awdur, teitl (man cyhoeddi, blwyddyn cyhoeddi), rhif tudalen(nau).

R. T. Jenkins, Casglu Ffyrdd (Wrecsam, 1956), tt. 114–15.

G. Nesta Evans, Religion and Politics in Mid-Eighteenth Century Anglesey (Cardiff, 1953), t. 117.

Jenkins, Casglu Ffyrdd, t. 21.

Tegwyn Jones, ‘Lewis Morris: Cofnodwr Coelion’ yn E. Wyn James a Tecwyn Vaughan Jones (goln.), Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, Cyfrol 1 (Llanrwst, 2008), tt. 67–88.

Evans, Religion and Politics, tt. 118–20.

Jones, ‘Lewis Morris: Cofnodwr Coelion’, t. 70.

Erthyglau.

  • Teitlau cyfnodolion – yn llawn yn y cyfeiriad cyntaf, priflythrennu, italic.
  • Teitlau erthyglau – priflythrennu, dyfynodau sengl, dim italic.
  • Rhif cyfrol mewn rhifau arabeg neu rufeinig yn ôl arfer y cyfnodolyn, gan sicrhau cysondeb: awdur, ‘enw’r erthygl’, cyfnodolyn, cyfrol:rhif (blwyddyn cyhoeddi), rhif tudalen(nau).

Mary Clement, ‘John Vaughan, Cwrt Derllys, a’i Waith (1663–1722)’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1942 (1944), 91–92.

R. Rees Davies, ‘Owain Glyn Dŵr a’i Apêl’, Y Traethodydd, CLV, rhif 655 (2000), 207.

Ffigyrau a thablau

  • Dylid nodi ffigyrau mewn rhifau Arabaidd (1,2,3), a’u cyflwyno fel ffeiliau ar wahan (fformat pdf, ps, eps, jpg, png, tif neu gif gydag eglurdeb o 150-300 dpi. Dylent fod yn hunan-esboniadol, gyda nodyn disgrifiadol byr. Rhaid arbed ffotograffau a delweddau mewn fformat jpg, png, tif neu gif, yn ddelfrydol wedi eu trosi i pdf gydag eglurdeb o 150-300 dpi.
  • Dylai tablau ymddangos ar ddiwedd erthygl, wedi eu rhifo mewn rhifau arabaidd. Dylent fod yn hunan-esboniadol, gyda nodyn disgrifiadol byr. Fel arfer dylid gosod llinellau llorweddol uwchben ac islaw’r tabl, a llinell i wahanu penawdau oddi wrth brif gorff y tabl. Dylid osgoi llinellau fertigol. Os nad yw’r tabl yn waith gwreiddiol yr awdur, dylid nodi’r ffynhonnell o dan y tabl. 
  • Mae Gwerddon yn croesawu deunydd atodol yn cynnwys ffilm ac animeiddiadau. Bydd y ffeiliau hyn yn cael eu cyhoeddi gyda’r erthygl fel archif .zip (neu ffeil pdf).

Cyhoeddi

Bydd proflen wedi ei golygu yn cael ei hanfon at yr awdur ar ffurf Word wedi i’r broses arfarnu gael ei chwblhau. Bydd awduron yn derbyn proflen derfynol ar ffurf pdf, ynghyd â chopi pdf o erthyglau a gyhoeddir. Derbynnir erthyglau ar sail dealltwriaeth nad ydynt wedi eu cyhoeddi eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr awduron sydd yn gyfrifol am sicrhau caniatâd i atgynhyrchu deunydd sydd o dan hawlfraint.

Rhifynnau Arbennig

Yn ogystal â'r rhifynnau cyson ddwywaith y flwyddyn, bydd rhifynnau arbennig o Gwerddon yn ymddangos yn achlysurol. Dylid anfon cynigion i gyhoeddi rhifyn arbennig at y Golygydd, gan nodi’r canlynol:

  • Amlinelliad o thema’r rhifyn (tua 200 gair)
  • Enwau’r cyfranwyr
  • Teitlau’r erthyglau ac amlinelliad o’u cynnwys (tua 200 gair yr erthygl)
  • Amserlen paratoi’r erthyglau
  • Statws yr erthyglau – a ydynt wedi eu cyhoeddi eisoes gan gyhoeddwr arall, a ydynt wedi eu harfarnu, ac iaith y cyhoeddiad blaenorol. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd clirio materion hawlfraint.

Bydd y Golygydd yn penodi golygydd gwadd ar gyfer rhifyn arbennig, i gydweithredu â’r Golygydd er mwyn sicrhau bod yr erthyglau’n cael eu cyflwyno a’u bod yn cydymffurfio â chanllawiau golygyddol Gwerddon. Yn arferol bydd erthyglau yn cael eu harfarnu yn ôl ymarfer Gwerddon.

 

 

Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Dyniaethau, y Gwyddorau a’r Celfyddydau. Gellir cyflwyno erthyglau hyd at 8,000 o eiriau ar ffurf dogfen Word i sylw’r golygydd cynorthwyol

Cyllidir Gwerddon gan: 

logo




Designed & Developed by WiSS Limited