Cyfranwyr
Bryn Jones
Brodor o Lanberis yw Bryn Jones. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Brynrefail, Llanrug cyn graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 1982.
Yn dilyn cyfnod fel athro cynradd, penodwyd ef yn ddarlithydd yn y Coleg Normal yn 1995, a chyfrannodd i’r cwrs Addysg Gwyddoniaeth ac Astudiaethau Proffesiynol (Addysg).
Y mae bellach yn Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Agweddau ar addysg ddwyieithog yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru yw ffocws ei waith ymchwil presennol.