Cyfranwyr

Dr Anwen Jones

Mae Dr Anwen Jones yn Gyfarwyddwraig Dysgu ac Addysgu ac yn ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei gwaith dysgu yn canolbwyntio ar theatr Cymru ac Ewrop, ac mae hi hefyd yn cynnal cyfres o fodiwlau cydweithredol ym maes sgriptio ar gyfer y theatr. Hi yw awdur y gyfrol, National Theatres in Context: France, Germany, England and Wales (GPC, 2007). Ym 2009, cyd-olygydd y gyfrol Wil Sam: Dyn y Theatr (Gwasg Carreg Gwalch, 2009). Mae'r erthygl a gyhoeddir yma yn adlewyrchu rhan o'i gwaith ar hanes diweddar theatr genedlaethol yng Nghymru yng nghyd-destun mynegiant o genedligrwydd diwylliannol a gwleidyddol. Gellir gweld agweddau eraill ar yr ymchwil hon yn Llên Cymru, cyfrol 29 (2006) a Cof Cenedl, rhif 23 (2008). Mae hi hefyd wedi cyhoeddi erthyglau ar ddrama Ffrainc trwy gyfrwng y Saesneg ac mae'n ymchwilio i feysydd y theatr a'r ddrama yng Nghymru ac Ewrop.
Designed & Developed by WiSS Limited