Amdanom ni
E-gyfnodolyn academaidd trawsddisgyblaethol yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd yn y Gymraeg.
Ers nifer o flynyddoedd bu'n freuddwyd i weld cynnydd sylweddol ym maes ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y cymunedau academaidd. Fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddo statws yr iaith o fewn addysg uwch, ystyriwyd ei bod yn hanfodol bwysig i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng ymchwil ac i’r perwyl hwnnw penderfynwyd sefydlu cyfnodolyn academaidd a fyddai'n fforwm ar gyfer cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y Dyniaethau, y Gwyddorau a’r Celfyddydau. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ar 30 Ebrill 2007.
Prif amcan Gwerddon yw symbylu trafodaeth academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, sbarduno diwylliant ymchwil yn y Gymraeg, a chynnig llwyfan addas ar gyfer cyhoeddi ymchwil o’r radd flaenaf yn yr iaith Gymraeg ar draws ystod mor eang â phosib o ddisgyblaethau – yn enwedig y rheini lle nad ydyw’r Gymraeg yn draddodiadol wedi cael llawer o sylw. Mae'n fenter hollbwysig yng nghyd-destun ehangu cyfleoedd i gyd-drafod, rhannu gwybodaeth a chyhoeddi yn Gymraeg i bawb sy'n cynnal gwaith ymchwil ysgolheigaidd, boed yng Nghymru neu du hwnt.
Golygydd Gwerddon yw'r Athro Ioan Williams, wedi ei gynorthwyo gan banel golygyddol gydag aelodaeth o nifer o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Cyhoeddir Gwerddon ar y we ddwywaith y flwyddyn. Arfernir cyfraniadau gan arbenigwyr yn y meysydd perthnasol yn y modd arferol. Croesewir cyfraniadau o unrhyw feysydd ymchwil gan unigolion neu grwpiau a cheir rhagor o wybodaeth am y drefn cyflwyno ar y wefan hon. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at gwybodaeth@gwerddon.org
Y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg sy’n ariannu’r cyhoeddiad.