Er nad yw’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli, mae elfennau o weinyddu cyfraith trosedd, sef y broses o weithredu’r gyfraith, wedi datblygu strwythurau ac agweddau Cymreig neilltuol.[1] Gwelir hyn yng nghyswllt polisïau Llywodraeth y Cynulliad o ran atal troseddu, yn enwedig troseddu ymysg pobl ifanc, er enghraifft. Mewn ffordd, mae hunaniaeth Cymru o fewn y cyfansoddiad wedi arwain at greu rhai prosesau a pholisïau Cymreig neilltuol o ran gweinyddu cyfiawnder troseddol.[2]