Rhifyn Archif

Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?

Huw Lewis

Cyflwyniad

Dros y degawdau diwethaf mae galwadau gwahanol leiafrifoedd diwylliannol wedi hawlio lle amlycach ar yr agenda wleidyddol, ac yn sgil hyn gwelwyd nifer cynyddol o ymdrechion i estyn mesur o gydnabyddiaeth a chefnogaeth i grwpiau o’r fath (Kymlicka, 1995a). Un maes lle mae’r newid hwn i’w weld yn glir yw polisi iaith. Drwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hefyd am ran sylweddol o’r ugeinfed ganrif, y ‘synnwyr cyffredin’ oedd bod dirywiad ieithoedd o’r fath yn rhywbeth y dylid ei groesawu, neu hyd yn oed ei annog. Deilliai hyn o’r ffaith fod ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i gael eu dehongli fel creadigaethau cyntefig a oedd yn gwbl anghyson â thueddiadau modernaidd neu Ddarwinaidd yr oes (G. H. Jenkins, 1999; Jenkins a Williams, 2000). Datblygiad a chynnydd oedd y flaenoriaeth, a dim ond trwy gyfrwng rhai ieithoedd mawr y gellid cyflawni hynny. O ganlyniad, gweithred gwbl hurt ac afresymol fyddai ceisio ffrwyno a gwrthdroi dirywiad unrhyw beth a oedd yn debygol o arafu’r broses o gyflawni amcanion o’r fath (Nelde et al., 1996; Williams a Morris, 2000). Fodd bynnag, yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, aethpwyd ati i herio’r rhesymeg hon, a daeth lles gwahanol ieithoedd lleiafrifol i gael ei ystyried yn bwnc na ellid ei ddiystyru.

Canlyniad y newid sylweddol hwn o ran agweddau oedd i gamau gael eu cymryd, o tua’r 1960au ymlaen, i ddatblygu rhaglenni polisi a fyddai’n anelu at geisio atal dirywiad ieithoedd lleiafrifol ac adfer eu rhagolygon. Yn wir, erbyn heddiw mae ymdrechion i adfer rhagolygon ieithoedd o’r fath i’w gweld ar waith mewn nifer helaeth o leoliadau ar draws y byd, yn arbennig felly mewn ystod o genhedloedd lleiafrifol, megis Québec (Chevrier, 1997 a 2003), Catalonia (Costa, 2003), Gwlad y Basg (Azurmendi et al, 2001) a Chymru (Williams, 2000). Ymhellach, dros y blynyddoedd diwethaf mae’r arferion polisi a gysylltir â’r ymdrechion adferol hyn wedi datblygu’n fwyfwy soffistigedig ac yn fwyfwy pellgyrhaeddol o ran eu sgôp. Bellach, mae’n gyffredin i weld polisïau iaith sy’n effeithio mewn rhyw fodd ar sawl agwedd o rediad y wladwriaeth ddemocrataidd fodern, gan gynnwys y drefn gyfiawnder, y drefn addysg, y cyfryngau a’r economi.

Wrth gwrs, ni ddylai’r sylw cynyddol a roddwyd i sefyllfa grwpiau lleiafrifol gael ei ddehongli fel proses a gyfyngwyd i’r sffêr diwylliannol yn unig. Yn hytrach, dylid ei ddehongli fel rhan o symudiad cyfoes ehangach, sydd hefyd yn cwmpasu galwadau gan nifer o grwpiau cymdeithasol eraill, megis menywod, pobl hoyw a phobl anabl (Young, 1990; Parekh, 2000). Bu’r degawdau diwethaf yn gyfnod lle gwelwyd y grwpiau hyn hefyd yn ymdrefnu’n wleidyddol, gan alw am gydnabyddiaeth o’u hanghenion arbennig, ac o ganlyniad, fel yn achos lleiafrifoedd diwylliannol, mae cymdeithas wedi cymryd camau er mwyn bod yn fwy cynhwysol.

Esgorodd yr ymdrechion hyn i gyflwyno mesurau sy’n estyn cydnabyddiaeth a chefnogaeth arbennig i wahanol grwpiau lleiafrifol ar drafod ac anghydweld helaeth ymhlith athronwyr gwleidyddol, yn enwedig felly o fewn cylchoedd rhyddfrydol. Ar y naill llaw, mynnodd to newydd o athronwyr – carfan a ddisgrifir weithiau fel y rhyddfrydwyr diwylliannol – y dylai rhyddfrydwyr gefnogi ymdrechion i gydnabod anghenion ac amgylchiadau arbennig gwahanol leiafrifoedd diwylliannol. O bosib yr amlycaf a’r mwyaf cynhyrchiol o’r to newydd hwn o ryddfrydwyr yw’r athronydd o Ganada, Will Kymlicka (1989; 1995b).[1] Mae Kymlicka yn seilio ei ymdriniaeth o alwadau lleiafrifoedd diwylliannol ar ddwy ddadl sylfaenol: i ddechrau, dadl sy’n hawlio fod gallu person i arddel ymreolaeth unigol yn ddibynnol ar bresenoldeb cyd-destun diwylliannol sefydlog (Kymlicka, 1995b: Pennod 5); ac yn ail, dadl sy’n pwysleisio nad yw mesurau sy’n estyn cydnabyddiaeth i leiafrifoedd yn tanseilio cydraddoldeb sifig ar draws y gymuned wleidyddol (Kymlicka, 1995b: Pennod 6). Ar sail dadleuon o’r fath, daw Kymlicka i’r casgliad y dylai rhyddfrydwyr gymeradwyo mesurau sy’n ymdrechu i gefnogi rhagolygon gwahanol ddiwylliannau lleiafrifol. Er enghraifft, yn y cyd-destun ieithyddol, dylai rhyddfrydwyr gymeradwyo mesurau sy’n estyn cydnabyddiaeth swyddogol i ieithoedd lleiafrifol ac sy’n sefydlu hawliau i dderbyn amrediad o wasanaethau cyhoeddus allweddol trwy gyfrwng yr ieithoedd hynny (Kymlicka, 1995b).

Ar y llaw arall, fodd bynnag, ymatebodd rhyddfrydwyr egalitaraidd trwy ddadlau y dylid gwrthwynebu ymdriniaethau amlddiwylliannol tebyg i un Kymlicka ar bob cyfri. Yn nhyb yr ail garfan hon, byddai dilyn argymhellion Kymlicka, gan ymdrechu i gefnogi diwylliannau lleiafrifol trwy ffurfioli gwahaniaethau oddi fewn i’r gymuned wleidyddol, yn arwain at danseilio egwyddorion rhyddfrydol sylfaenol: byddai cydraddoldeb sifig yn cael ei beryglu a byddai rhai ffyrdd o fyw yn cael eu dyrchafu ar draul eraill. Heb amheuaeth, un o ladmeryddion amlycaf y safbwynt hwn oedd yr athronydd o Sais, Brian Barry, a hawliodd yn ei gyfrol enwog, Culture and Equality (2001): ‘multiculturalist policies are not in general well designed to advance the values of liberty and equality.’ Yn hytrach, yn nhyb Barry, ‘the implementation of such policies tends to mark a retreat from both’ (Barry, 2001: 12).

Mae’r anghydweld cyffredinol hwn o ddiddordeb arbennig yng nghyd-destun trafodaethau ynglŷn â’r math o bolisïau a fabwysiedir fel rhan o ymdrechion i adfer rhagolygon ieithoedd lleiafrifol. Er gwaetha’r ffaith fod yr ymdrechion hyn bellach yn fwyfwy cyffredin, teg yw nodi nad ydynt wastad wedi datblygu mewn amgylchiadau cwbl gytûn. Yn wir, ym mhob un o’r achosion a nodwyd uchod – Québec, Catalonia, Gwlad y Basg a Chymru – mae amryw o’r polisïau a gyflwynwyd fel rhan o’r ymdrech i drawsnewid rhagolygon yr iaith leiafrifol wedi bod yn sail i gryn anniddigrwydd ymhlith rhai rhannau o’r boblogaeth. Weithiau caiff y gwrthwynebiadau hyn eu mynegi mewn termau ymarferol. Er enghraifft, clywir yn fynych am ddadleuon sy’n cwestiynu cost dwyieithrwydd. Fodd bynnag, ar adegau eraill, caiff y gwrthwynebiadau eu mynegi mewn termau moesol, wrth i rai carfanau hawlio bod polisïau penodol, boed ym maes addysg, cyflogaeth neu gynllunio, yn tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig megis rhyddid unigol neu gyfle cyfartal.

Heb amheuaeth, mae hawliadau moesol o’r fath wedi brigo i’r wyneb yn gyson fel rhan o’r drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â pholisïau iaith cynhwysfawr Québec (Chevrier, 1997 a 2003) a Chatalonia (Costa, 2003). Yn wir, yn achos Quebec, cafodd amryw o’r dadleuon moesol hyn – dadleuon sy’n cyffwrdd ar faterion megis rhyddid mynegiant a hefyd hyd a lled yr hyn y gellir ei fynnu fel mater o hawl ym maes addysg – eu hamlinellu’n fanwl yn ystod yr achosion llys niferus a ddygwyd mewn perthynas â pholisïau iaith y dalaith dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf (Supreme Court of Canada, 1984, 1988a, 1988b a 2005). Fodd bynnag, nid dim ond mewn perthynas â rhai achosion blaenllaw y codir cwestiynau ynglŷn â dilysrwydd moesol gwahanol bolisïau iaith. Mae’r un math o dueddiadau hefyd ymhlyg yn nifer o’r gwrthwynebiadau a fynegir yn achos rhai o’r polisïau a weithredir o blaid y Gymraeg yma yng Nghymru, a hynny er gwaethaf natur tipyn mwy cymedrol y polisïau hynny.

Sut ddylai rhyddfrydwyr ymateb i’r gwrthwynebiadau moesol a godir mewn perthynas ag ymdrechion i adfer ieithoedd lleiafrifol? A yw rhai o’r camau polisi ymarferol a gymerir fel rhan o ymdrechion o’r fath yn euog o fynd yn rhy bell ac o danseilio egwyddorion rhyddfrydol pwysig? Bydd yr erthygl yn ystyried y cwestiwn hwn trwy edrych yn fanwl ar un agwedd ddadleuol o’r broses o adfer iaith yma yng Nghymru: y camau a gymerwyd dros y blynyddoedd diwethaf i godi statws y Gymraeg ym maes cyflogaeth, gan drin yr iaith fel sgil hanfodol mewn perthynas â rhai swyddi cyhoeddus. Dyma arfer sydd wedi esgor ar wrthwynebiad chwyrn mewn rhai cylchoedd. Fodd bynnag, a oes sail i gredu ei fod yn arfer sy’n tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol?

Caiff y drafodaeth ei strwythuro yn y modd canlynol. Yn yr adran nesaf, amlinellir natur y datblygiadau a welwyd yng Nghymru ym maes cyflogaeth ers tua diwedd y 1980au. Bydd hyn wedyn yn arwain at drafodaeth sy’n crynhoi prif nodweddion y gwrthwynebiad a fynegwyd yn erbyn y polisi o drin y Gymraeg fel sgil hanfodol mewn perthynas â nifer o swyddi cyhoeddus: hynny yw, ei fod yn tanseilio cyfle cyfartal ym maes cyflogaeth ac, yn benodol, yn tramgwyddo’r egwyddor o benodi ar sail teilyngdod. Yn dilyn hynny, eir ati i gloriannu i ba raddau y dylai gwrthwynebiad o’r fath gymell rhyddfrydwyr i wrthwynebu’r polisi, ynteu a oes modd datblygu amddiffyniad credadwy ohono oddi fewn i fframwaith ryddfrydol. I ddechrau, ystyrir i ba raddau y mae’r polisi yn un y gall rhyddfrydwyr ei gymeradwyo fel enghraifft o ragfarnu cadarnhaol: dadl a gaiff ei gwrthod. Yn dilyn hynny, ystyrir amddiffyniad rhyddfrydol arall: un sy’n mynnu nad yw’r sawl sy’n gosod gofynion ieithyddol yn tramgwyddo’r arfer o benodi ar sail teilyngdod ond, yn hytrach, yn ymestyn ychydig ar ei ystyr er mwyn ymateb i anghenion cymdeithas gynyddol ddwyieithog. Dadleuir bod hon yn ddadl lawer cryfach, ac y dylai rhyddfrydwyr, ar ei sail, fodloni o ran egwyddor i gymeradwyo polisïau cyflogaeth tebyg i’r rheini a fabwysiadwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith y gellir cymeradwyo’r polisïau hyn o ran egwyddor yn golygu na fyddai gan ryddfrydwyr yr un gair drwg i’w ddweud ynglŷn â hwy. Yn hytrach, fel y dadleuir yn ystod adran olaf yr erthygl, mae cyd-destun cymdeithasol gweithredu’r polisïau hyn, a’r graddau y gall y cyd-destun hwn ddylanwadu ar allu ieithyddol unigolion, hefyd yn elfen y dylid ei hystyried, ac yn y cyd-destun Cymreig, o leiaf, mae’n bosib fod hon yn elfen y mae angen ei hystyried ymhellach.

Y Gymraeg yn y Gweithle

Er gwaethaf ei gwendidau, roedd pasio Deddf Iaith 1993 yn garreg filltir bwysig o safbwynt statws y Gymraeg, gan iddi osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i drin y Gymraeg yn gyfartal â’r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau (HMSO, 1993; Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1996). Wrth reswm, y newid mwyaf trawiadol a ddeilliodd o’r gorchymyn statudol hwn oedd y cynnydd sylweddol a fu yn statws gweledol y Gymraeg, trwy gyfrwng amrediad eang o arwyddion a thaflenni. Serch hynny, roedd y ddeddf hefyd yn meddu ar oblygiadau pwysig i’r ystyriaeth a roddwyd i’r Gymraeg wrth i gyrff cyhoeddus drefnu a recriwtio staff. Wedi’r cyfan, os yw corff yn bwriadu cynnig darpariaeth ystyrlon o wasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd, yna mae’n hollbwysig fod hyn yn ymestyn y tu hwnt i ffurflenni ac arwyddion dwyieithog. Rhaid iddo hefyd gynnwys y gallu i ymwneud yn uniongyrchol â swyddogion perthnasol trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y noda May:

The end result envisaged for each organisation is that public-service provision through Welsh should be a natural, integral part of the planning and delivery of that service. For this to occur, a sufficient number of Welsh-speaking staff is required ... This, in turn, will require the active recruitment of Welsh-speaking staff (May, 2001: 264). 

Felly, ar y lefel swyddogol o leiaf, gellir dadlau fod Deddf Iaith 1993 wedi arwain at sefyllfa lle’r oedd disgwyl i gyrff cyhoeddus roi sylw arbennig i’r gwaith o recriwtio a phenodi staff a siaradai Gymraeg.

Yn sicr, dyna yw’r awgrym wrth ddarllen y canllawiau ar gyfer llunio cynlluniau iaith a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym 1996. Wrth drafod yr angen am staff sy’n siarad Cymraeg, noda’r canllawiau hyn: ‘dylai’r sefydliad, mewn modd gwrthrychol, glustnodi’r gweithleoedd a’r swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg yn sgil hanfodol a’r rhai lle mae’n ddymunol’ (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1996: 37). Yna, ychydig yn ddiweddarach fe ychwanegir:
dylai’r sefydliad ystyried y ffordd orau i gyflawni yr amcanion staffio a bennir ... Gall y dewis sydd ar gael gynnwys trosglwyddo staff sy’n siarad Cymraeg i weithleoedd neu swyddi penodol, darparu hyfforddiant dysgu Cymraeg i staff, a recriwtio siaradwyr Cymraeg i weithleoedd neu swyddi penodol (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1996: 37).

Gwelir felly fod y canllawiau swyddogol a ddeilliodd o ddeddf 1993 yn disgwyl i gyrff cyhoeddus gynllunio’n fwriadus er mwyn cyrraedd sefyllfa lle’r oedd nifer o swyddi allweddol yn cael eu dal gan unigolion a oedd yn meddu ar y gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.[2]

O ganlyniad, dros yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf gwelwyd cynnydd graddol yn nifer y swyddi cyhoeddus a hysbysebwyd fel rhai lle câi’r gallu i siarad Cymraeg ei ystyried fel sgil dymunol neu hanfodol (Cwmni Iaith, 2006). Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi bod yn amharod i ddatblygu’r math o raglenni hyfforddiant a recriwtio pellgyrhaeddol a ddisgrifiwyd uchod (Cwmni Iaith, 2006; Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2009a). Un broblem y cyfeirir ati o bryd i’w gilydd yw’r prinder siaradwyr Cymraeg sydd ar gael i lenwi rhai mathau o swyddi (Cwmni Iaith, 2006; Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2009a). Yn sicr, yn sgil sefyllfa’r Gymraeg fel iaith leiafrifol, ni ellir gwadu bod y gronfa o ymgeiswyr posib dipyn yn llai yn achos y swyddi hynny sy’n galw am y gallu i siarad yr iaith. Serch hynny, mae cyrff cyhoeddus hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â dilysrwydd moesol yr arfer o ofyn am sgiliau ieithyddol penodol (Cwmni Iaith, 2006; Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2009a). I raddau helaeth, mae pryder o’r fath yn ddigon dealladwy. Mae ymdrechion i ddyrchafu statws y Gymraeg ym maes cyflogaeth wedi bod yn sail i anniddigrwydd cyson ymhlith rhai carfanau. Yn wir, cafodd natur ddadleuol y pwnc ei gadarnhau mewn ymchwil o eiddo Stephen May (2000), sy’n astudio agweddau gwahanol bobl tuag at y polisïau iaith a fabwysiadwyd yng Nghymru ers y 1990au cynnar. Fel y noda May: ‘In short, the idea of minority language compulsion, even within a bilingual framework, still engenders considerable opposition – particularly, with respect to employment’ (May, 2000: 118).

Y Gwrthwynebiad

Eto i gyd, beth yn union ynglŷn â’r arfer hwn sydd wedi codi gwrychyn rhai pobl? A siarad yn gyffredinol, mae’r sawl sy’n wrthwynebus i’r broses o’r farn bod dynodi swyddi penodol fel rhai lle caiff y gallu i siarad Cymraeg ei ystyried fel sgil hanfodol, yn arwain at drin y sawl nad ydynt yn siarad yr iaith mewn modd annheg. Mae rhai wedi mynd mor bell ag awgrymu mai rhagfarn hiliol yn erbyn siaradwyr Saesneg sy’n cymell cyflogwyr i ymddwyn yn y fath fodd. Enghraifft enwog oedd achos Jones v Cyngor Sir Gwynedd (1985). Bryd hynny, dygwyd achos tribiwnlys yn erbyn y cyngor o dan Ddeddf Cysylltiadau Hil 1974. Deilliodd hyn o’r ffaith fod dwy wraig, Phyllis Jones a Justine Doyle, yn mynnu eu bod wedi dioddef rhagfarn hiliol wrth law’r cyngor, gan iddo wrthod cynnig swyddi iddynt yn rhai o gartrefi henoed y sir ar sail y ffaith nad oeddent yn siarad Cymraeg. Yn y gwrandawiad gwreiddiol, dyfarnodd y tribiwnlys cyflogaeth o blaid y ddwy, gan gadarnhau’r cyhuddiad fod Cyngor Gwynedd wedi ymddwyn tuag atynt mewn modd hiliol trwy wrthod eu cyflogi ar sail eu gallu ieithyddol. Fodd bynnag, blwyddyn yn ddiweddarach, cafodd y dyfarniad ei wrthdroi mewn achos apêl (Davies, 1994). Wrth wrthdroi’r dyfarniad gwreiddiol nododd y Barnwr Kilner Brown:

Recognising the obvious – that the Welsh are a nation and an ethnic group – the industrial tribunal concluded that the Welsh ethnic group could and should be sub-divided into two distinct sub-groups, namely, those who were described as English-speaking Welsh and those who were described as Welsh-speaking Welsh ... So, the industrial tribunal concluded that the two ladies were discriminated against by being required to become members of the first group when they were members of the second ... the decision is wholly unreasonable ... We cannot believe that, for example, a Mrs Jones from Holyhead who speaks Welsh as well as English is to be regarded as belonging to a different racial group from her dear friend, Mrs Thomas from Colwyn Bay who speaks only English. The concept seems to us to be as artificial as the proposition that 5,000 or so spectators at Cardiff Arms Park who are fluent in Welsh are a different racial group from the 45,000 or so whose command of the Welsh tongue is limited to the rendering of the Welsh national anthem, or ‘Sosban Fach’. An Englishman who dared to suggest this would be in danger of his life! (Employment Appeal Tribunal, 1986: 5).


Derbyniwyd felly nad oedd dim byd hiliol ynglŷn ag ymgais Cyngor Gwynedd i sicrhau bod y bobl hynny a weithiai i adran gwasanaethau cymdeithasol y sir yn meddu ar y gallu i siarad Cymraeg.[3]

Fodd bynnag, hyd yn oed os derbynnir nad rhagfarn hiliol sy’n esgor ar y dyhead i ddynodi swyddi penodol fel rhai sy’n galw am y gallu i siarad Cymraeg, mae nifer yn dal o’r farn ei fod yn arfer sy’n meddu ar oblygiadau difrifol i’r syniad o degwch ym maes cyflogaeth. Yn nhyb y bobl hyn, tra nad oes unrhyw hiliaeth ar waith, mae’r arfer o osod gofynion ieithyddol ar gyfer rhai swyddi yn parhau’n annerbyniol, gan ei fod yn tanseilio’r syniad o gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth a’r arfer o benodi ar sail gallu a theilyngdod. Un a arddelai safbwynt o’r fath oedd y darlledwr profiadol Vincent Kane. Daeth hyn i’r amlwg wrth iddo drafod statws cynyddol y Gymraeg ym maes cyflogaeth yn ystod rhaglen deledu a ddarlledwyd gan BBC Wales ym 1995, fel rhan o’r gyfres materion cyfoes Kane’s Wales (1995). Yn nhyb Kane, roedd yr ymdrechion i godi statws y Gymraeg yn y maes hwn yn prysur arwain at sefyllfa annerbyniol. Bellach, nid ar sail cystadleuaeth agored a chyfartal a oedd yn gwobrwyo gallu a theilyngdod y câi nifer o swyddi eu dosbarthu ond, yn hytrach, ar sail ystyriaethau ieithyddol artiffisial. Mynnodd fod hyn yn anfoesol – ‘the morality of it should give us pause for thought’ – a hefyd ei fod yn beryglus o ran safon ac effeithiolrwydd y gweithlu Cymreig:

there’s an elitism built into our society that few nations in the world would tolerate. One in five can make it to the top, and the yardstick, the first condition, is not are you any good, have you anything inspirational to offer, but can you speak Welsh. Only if you can say yes to that will your ability, your experience and your ideas be scrutinised. And since the base from which the candidates emerge is so much narrower – half a million instead of three million – the spread of talent is also so much narrower. And therefore, though I do not deny that there are able, gifted Welsh speakers in high places, the likelihood of the person appointed being anything from mediocre to useless is that much greater (Kane’s Wales, 1995).

Heb amheuaeth, roedd elfen sylweddol o ormodiaeth yn perthyn i’r dadleuon hyn o eiddo Kane. Wedi’r cyfan, cymedrol fu’r newidiadau a welwyd ym maes cyflogaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, yn groes i’r hyn a awgryma Kane, nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried fel sgil hanfodol yn achos y mwyafrif helaeth o swyddi cyhoeddus. Yn sicr, ni cheir dim tebyg i’r math o ‘elitaeth strwythurol’ y cyfeiriodd ato. Fodd bynnag, hyd yn oed os gellir casglu nad yw’r pwyslais ar sgiliau iaith o fewn y farchnad lafur Gymreig yn ddim byd tebyg i’r hyn a ddisgrifiwyd gan Kane, mae’r cyhuddiad sylfaenol a wneir ganddo – bod gosod gofynion ieithyddol ar gyfer swyddi penodol yn tanseilio cyfle cyfartal a’r arfer o benodi ar sail teilyngdod – yn un difrifol sy’n galw am ystyriaeth bellach.

Yn sicr, mae’r cyhuddiad yn un a fyddai’n hawlio sylw rhyddfrydwyr. Wedi’r cyfan, fel y noda David Miller, ‘The principle of equality of opportunity stands at the very heart of contemporary liberalism’ (Miller, 2002: 45). Golyga hyn fod Miller, ynghyd â rhyddfrydwyr eraill, o’r farn y dylai cymdeithas ryddfrydol fod yn un sy’n ceisio sicrhau fod pob aelod unigol yn meddu ar yr un cyfle i ddatblygu ac i gyflawni eu hamcanion. Wrth reswm, mae hon yn egwyddor arbennig o berthnasol ym maes cyflogaeth – un sy’n gwbl allweddol i ragolygon yr unigolyn (Miller, 1999: 157). Yn y maes hwn ceir amrywiaeth eang o safleoedd sydd oll yn amrywio o ran eu grym, eu dylanwad a’u gwobrwyon ariannol. Eto i gyd, ni all pawb ddal yr un swyddi; rhaid dewis rhwng amrediad o ymgeiswyr posib. O ganlyniad, cred rhyddfrydwyr fod tegwch yn dibynnu ar sicrhau fod pawb yn medru cystadlu am wahanol safleoedd ar seiliau cyfartal. Fel y noda Miller: ‘Given that there are scarce goods such as well-paid careers and places at top universities – scarce in the sense that more people want to have these goods than there are goods to go round – equality of opportunity obtains when people can compete for the goods on equal terms’ (Miller, 2002: 45).

Wrth gwrs, er mwyn sicrhau cystadleuaeth gyfartal o’r fath rhaid sicrhau fod pawb yn medru ymgeisio a bod neb yn cael ei atal yn sgil rhagfarnu agored, er enghraifft ar sail dosbarth, hil, rhyw neu grefydd. O ganlyniad, mae’r egwyddor o recriwtio a phenodi ar sail gallu a theilyngdod wedi datblygu i fod yn ganolog i ddealltwriaeth rhyddfrydwyr o’r hyn sy’n cynnal tegwch a chydraddoldeb mewn meysydd megis cyflogaeth. Yn ôl yr egwyddor hon, dylai swyddi gael eu dosbarthu i’r sawl sy’n meddu ar y sgiliau a’r cymwysterau gorau, a hynny mewn modd sy’n trin pawb yn ddiwahân, heb unrhyw ystyriaeth o’u cefndir cymdeithasol neu ddiwylliannol. Fel yr eglura Miller:

The end result envisaged for each organisation is that public-service provision through Welsh should be a natural, integral part of the planning and delivery of that service. For this to occur, a sufficient number of Welsh-speaking staff is required ... This, in turn, will require the active recruitment of Welsh-speaking staff (May, 2001: 264). According to a widely held view, when there are a number of applicants for an available job, justice demands that the job be offered to the best-qualified applicant. We express this by saying that the best-qualified applicant deserves the job or, in a slightly different formulation, that the principle involved is one of hiring by merit. This is the principle that condemns discrimination on grounds of sex, race, or religion when hiring employees as well, of course, as good old-fashioned nepotism (Miller, 1999: 156).


I raddau helaeth, felly, gellid dadlau mai mynegiant penodol o’r egwyddor o gyfle cyfartal yw’r arfer o benodi ar sail teilyngdod: arfer sydd wedi treiddio’n ddwfn i isymwybod cymdeithasau rhyddfrydol-ddemocrataidd. O ganlyniad, os yw’r broses o ddynodi nifer cynyddol o swyddi fel rhai lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol yn un sydd yn wir yn arwain at danseilio egwyddorion o’r fath, oni ddylai rhyddfrydwyr gasglu fod y broses yn un annerbyniol o safbwynt moesol?

Rhagfarnu Cadarnhaol

Wrth gwrs, nid yw cwestiynau o’r math hwn yn rhai cwbl newydd i ryddfrydwyr. Dros y deugain mlynedd diwethaf, daeth y syniad o gynnwys ystyriaeth o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol fel rhan o’r broses o ddosbarthu swyddi yn fwyfwy cyffredin yn sgil y twf a fu mewn rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol. Dyma bolisïau a ddatblygwyd er mwyn ceisio sicrhau lle mewn meysydd allweddol, megis addysg a’r economi, i aelodau o grwpiau cymdeithasol gwan a gafodd, yn draddodiadol, eu hatal rhag cyfranogi’n llawn. Yn raddol, daeth yn fwyfwy amlwg nad oedd modd sicrhau tegwch a chyfle cyfartal i aelodau grwpiau o’r fath dim ond trwy gyfrwng mesurau a oedd yn gwahardd rhagfarnu agored ac uniongyrchol. Er mor bwysig oedd y cam i wahardd rhagfarnu agored, dadleuwyd fod angen gwneud mwy er mwyn dad-wneud effaith y rhwystrau hynny a oedd wedi ffrwyno datblygiad rhai pobl, weithiau am genedlaethau. Cafodd y teimladau hyn eu crynhoi yn effeithiol ym 1965 gan Arlywydd America, Lyndon B. Johnson:

You do not take a person who for years has been hobbled by chains and liberate him, bring him up to the starting line of a race and then say, “You’re free to compete with all the others,” and still justly believe that you have been completely fair ... it is not enough just to open the gates of opportunity. All our citizens must have the ability to walk through those gates (dyfynnwyd yn Cahn, 2002: xii).


Yn fuan wedi’r datganiad hwn cyflwynodd Johnson orchymyn gweithredol (Gorchymyn 11246) a oedd yn galw ar gyrff ffederal i lunio rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol a fyddai’n anelu at sicrhau cyfranogiad llawnach gan ferched a grwpiau lleiafrifol eraill. Dylai hyn gynnwys ‘an analysis of areas within which the contractor is deficient in the utilization of minority groups and women, and further, goals and timetables to which the contractor’s good faith efforts must be directed to correct the deficiencies’ (dyfynnwyd yn Cahn, 2002: xii). Y gobaith oedd y byddai gweithredu rhaglenni o’r fath yn cyfrannu at ddad-wneud effeithiau seicolegol a strwythurol blynyddoedd o ragfarnu, ac yn arwain at sefyllfa lle gellid sôn am gyfle cyfatal ystyrlon.

Wrth reswm, roedd y broses o ddatblygu a chyflwyno rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol, yn America a thu hwnt, yn un ddadleuol, yn arbennig felly i ryddfrydwyr. Trwy fabwysiadu rhaglenni o’r fath roedd cyrff yn camu i ffwrdd o’r syniad traddodiadol o benodi ar sail teilyngdod heb unrhyw ystyriaeth o gefndir cymdeithasol a diwylliannol. Yn wir, fel y noda Iris Marion Young, mae rhagfarnu cadarnhaol yn galw am roi ystyriaeth benodol i nodweddion o’r fath: ‘They call for consciously and explicitly preferring members of particular groups on account of their group membership’ (Young, 1990: 197). O ganlyniad, nid yw’n syndod fod rhai rhyddfrydwyr wedi dewis gwrthwynebu datblygiadau o’r fath. Er hyn, mae amryw o ryddfrydwyr eraill wedi derbyn bod rhagfarnu cadarnhaol mewn meysydd megis addysg a chyflogaeth yn hanfodol er mwyn dad-wneud effeithiau blynyddoedd o ragfarn strwythurol. Dadleuwyd bod mynd trwy broses o’r fath, er yr anawsterau, yn hanfodol er mwyn cyrraedd sefyllfa lle gellir sôn am gyfle cyfartal gwirioneddol. Er enghraifft, ceir dadl gref o blaid rhagfarnu cadarnhaol gan Ronald Dworkin (2002). Yn yr erthygl hon mae Dworkin yn beirniadu’r rhyddfrydwyr hynny sy’n amharod i ymgyrchu er lles cydraddoldeb ystyrlon, gan lynu yn hytrach at y syniad traddodiadol o gystadleuaeth sy’n ddall i wahaniaethau cymdeithasol a diwylliannol. Mae’n datgan: ‘If we must choose between a society that is in fact liberal and an illiberal society that scrupulously avoids formal racial criteria, we can hardly appeal to the ideals of liberal pluralism to prefer the latter’ (Dworkin, 2002: 105).[4]

Eto i gyd, i ba raddau y dylai trafodaethau rhyddfrydwyr megis Dworkin ynglŷn â rhagfarnu cadarnhaol ddylanwadu ar ein dehongliad o ddilysrwydd rhyddfrydol y polisïau hynny a fabwysiadwyd o blaid y Gymraeg ym maes cyflogaeth? I ba raddau y gellir dehongli’r polisïau hyn fel enghraifft o ragfarnu cadarnhaol? A fyddai eu dehongli yn y fath fodd yn cynnig dull rhyddfrydol o’u dilysu yn wyneb gwrthwynebiadau tebyg i’r rhai o eiddo Kane a nodwyd uchod? Fel yr eglurwyd, amcan rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol yw sicrhau lle mewn meysydd allweddol, megis addysg a’r economi, i aelodau o grwpiau gwan a gafodd, yn draddodiadol, eu hatal rhag cyfranogi’n llawn yn sgil rhagfarn strwythurol. A yw’r rhain yn amgylchiadau a wynebwyd gan siaradwyr Cymraeg hefyd? Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, dylid nodi bod y ganran o siaradwyr Cymraeg sy’n bresennol mewn rhai meysydd gwaith allweddol yn go isel. Er enghraifft, yn 2008 dim ond tua 13 y cant o wasanaeth sifil Llywodraeth y Cynulliad oedd yn meddu ar y gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008).[5] Er hyn, anodd fyddai defnyddio manylion o’r fath fel sail i ddadlau fod siaradwyr Cymraeg wedi dioddef o ragfarn strwythurol ym maes cyflogaeth yn yr un modd â merched neu bobl groenddu. Wedi’r cyfan, prin iawn yw’r achosion o bobl yn methu ag ennill swyddi ar sail y ffaith eu bod yn siaradwyr Cymraeg.

Hyd yn oed pe bai modd llunio achos cryf sy’n tystio i ragfarnu strwythurol yn erbyn siaradwyr Cymraeg, a bod hyn wedi arwain at dangynrychioli sylweddol mewn meysydd allweddol o fewn yr economi, yr hyn sy’n arwyddocaol yw nad mewn termau o’r fath y caiff y polisïau sy’n galw am wybodaeth o’r Gymraeg eu cyflwyno na’u hamddiffyn (gweler, er enghraifft, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1996: 36–42; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1999: 17). Pan ystyrir y dadleuon o blaid y polisïau hyn, gwelir nad sicrhau cyfranogiad gan siaradwyr Cymraeg fel grŵp penodol sydd wedi dioddef rhagfarn ym maes cyflogaeth yw’r nod. Yn hytrach, y nod yw sicrhau gweithlu sy’n meddu ar y gallu i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Nid yw union gefndir diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolion sy’n cyflawni’r swyddi hyn yn arbennig o bwysig; nid oes unrhyw bwyslais yn cael ei roi ar yr angen i gyflogi pobl sydd wedi’u geni a’u magu yn siarad Cymraeg. Yn hytrach, yr unig beth sy’n bwysig yw eu bod, ar adeg eu penodi, yn meddu ar y gallu i gyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, nid fel enghraifft o ragfarnu cadarnhaol o blaid siaradwyr Cymraeg y dylid cloriannu’r polisïau hyn.

Ymestyn Ystyr Teilyngdod

Os na ellir eu trin fel enghraifft o ragfarnu cadarnhaol o blaid siaradwyr Cymraeg, yna a oes modd amddiffyn polisïau o’r fath rhag y cyhuddiad eu bod yn tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol megis cyfle cyfartal a’r arfer o benodi ar sail teilyngdod? Fel y noda Young (1990), anodd yw gwadu fod rhagfarnu cadarnhaol yn arwain at lastwreiddio ychydig ar y pwyslais traddodiadol o recriwtio a phenodi ar sail teilyngdod a dim arall. Fodd bynnag, yr hyn sy’n arwyddocaol ynglŷn â’r dadleuon a ddefnyddir gan y Cymry hynny sydd o blaid gosod gofynion ieithyddol ar gyfer swyddi penodol yw’r ffaith eu bod yn mynnu nad oes bwriad o gwbl ganddynt i gamu i ffwrdd o’r arfer o benodi ar sail teilyngdod. Yn hytrach, dadleuir mai’r oll a wneir wrth ddynodi rhai swyddi fel rhai lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol yw ymestyn ychydig ar ystyr teilyngdod. Dadleuir fod Cymru’n gymdeithas ddwyieithog, lle dylai amrediad eang o wasanaethau fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Wrth reswm, bydd cyflawni hyn mewn modd ystyrlon yn galw am weithlu sydd â’r gallu i ymwneud â’r cyhoedd trwy gyfrwng y ddwy iaith. O ganlyniad, dadleuir y dylai’r gallu i siarad Cymraeg gael ei ystyried fel sgil cwbl allweddol mewn perthynas â nifer helaeth o swyddi. Er enghraifft, noda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei ganllawiau i gyrff cyhoeddus, ‘dylent (cyrff cyhoeddus) drin sgiliau ieithyddol mewn modd tebyg i unrhyw sgiliau eraill sydd eu hangen yn y gweithle’ (1996: 37). Ychwanegir ychydig yn hwyrach, ‘Mae’r angen i gysylltu sgiliau ieithyddol â rhai swyddi yn adlewyrchu realiti bod yn gyflogwr sy’n amcanu at geisio cyflwyno gwasanaethau o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg’ (1996: 39; gweler hefyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2005). Eto i gyd, a ddylai’r ymdrech hon i ymestyn ystyr teilyngdod gael ei hystyried fel cam derbyniol o safbwynt moesol? A yw’n deg ymestyn y cysyniad i gynnwys sgiliau sydd ond ym meddiant un rhan o’r boblogaeth? Onid yw hynny yn arwain at roi’r sawl nad yw’n siarad Cymraeg mewn sefyllfa annheg?

Mae’n bwysig cofio nad yw cynnal cyfle cyfartal ym maes cyflogaeth yn ddibynnol ar drefnu pob swydd dan haul mewn modd lle gallwn fod yn sicr y bydd pob unigolyn yn medru cystadlu amdanynt (Barry, 2001: 55). Fel y noda David Miller, does neb yn meddu ar yr hawl i gyflawni pa bynnag swydd y dymuna: ‘There is no such thing as a right to have a particular opportunity open to one – say, the opportunity to work in one particular job’ (Miller, 2002: 57). Yn hytrach, derbynnir fod gofynion penodol, ac weithiau rhai go bellgyrhaeddol, yn gysylltiedig â phob swydd. Yn wir, fel y noda Glyn Williams (1988, 1994) mae hyn yn rhan anochel o’r broses o broffesiynoli. Ym mhob achos, bydd rhai pobl yn meddu ar y sgiliau perthnasol tra bod eraill ddim. A siarad yn gyffredinol, nid ydym yn teimlo bod y rhai sydd ar eu colled mewn achos o’r fath yn dioddef unrhyw anghyfiawnder sylfaenol, cyhyd ag y bo’r bobl hyn heb gael eu rhwystro rhag datblygu’r sgiliau perthnasol yn y lle cyntaf.[6]

O ystyried hyn felly, mewn gwlad fel Cymru, lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu mewn mwy nag un iaith, onid yw’n gwbl briodol fod yr amrediad o sgiliau a ystyrir, wrth i gyflogwyr ddiffinio ystyr teilyngdod, yn cynnwys dimensiwn ieithyddol. Fel y noda Wilson McLeod:

if public policy suggests that citizens should be able to use their autochthonous language in dealing with government, it is necessary, and justifiable, to allow government to employ a reasonable number of persons to meet those citizens’ needs. Indeed, it would undermine such a policy if only a token number of employees were available, so that attempts to exercise the right to use the autochthonous language were slow, frustrating or fruitless (McLeod, 1998).

Nid rhyw ychwanegiad mympwyol mo’r dimensiwn ieithyddol chwaith. Yn hytrach, mewn nifer helaeth o feysydd – ystyrier, er enghraifft, y gwasanaethau gofal ac iechyd – gall y gallu i siarad iaith fod yn sgil allweddol sy’n galluogi’r unigolyn i gyfathrebu’n glir gan gyflawni’r swydd i safon foddhaol. O ystyried hyn, dylai rhyddfrydwyr gydnabod nad oes dim byd annerbyniol, o safbwynt moesol, ynglŷn â’r broses o ddynodi nifer cynyddol o swyddi fel rhai lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol.

Yn wir, dylid pwysleisio fod gofynion ieithyddol de facto eisoes yn perthyn i bob swydd yng Nghymru, nid dim ond y rhai hynny sy’n galw am wybodaeth o’r Gymraeg (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1999). Cyfeirio a wneir, wrth gwrs, at y swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad Saesneg yn gwbl hanfodol. Anaml y ceir datganiad swyddogol sy’n nodi gofynion o’r fath wrth hysbysebu swyddi ond, serch hynny, go brin y câi rhywun ei gyflogi yng Nghymru heddiw heb feddu ar y gallu i siarad Saesneg. Felly, os yw pobl megis Vincent Kane am ddadlau fod gosod gofynion ieithyddol ar gyfer swyddi penodol yn broses annheg, sy’n tanseilio cyfle cyfartal ac yn ymwrthod â’r arfer o benodi ar sail teilyngdod, rhaid iddynt egluro pam fod gofynion o’r fath yn annerbyniol mewn perthynas â’r Gymraeg tra’n dderbyniol yn achos y Saesneg.

Arwyddocâd Amgylchiadau Cefndirol

Fodd bynnag, cyn bodloni ar gasgliadau’r adran uchod, dylid rhoi sylw i’r effaith y gall amgylchiadau cefndirol eu cael ar allu ieithyddol gwahanol unigolion. Wrth drafod cyfle cyfartal a’r syniad o deilyngdod mewn meysydd megis cyflogaeth, mae rhyddfrydwyr yn amrywio o ran y pwyslais a roddir ar arwyddocâd amgylchiadau cefndirol gwahanol unigolion. Wrth gwrs, mae rhyddfrydwyr egalitaraidd yn tueddu i ddadlau fod ein hamgylchiadau cefndirol yn arbennig o bwysig: bod ffactorau megis y cyfoeth a etifeddir, natur yr addysg a dderbyniwyd, neu amgylchiadau magwraeth yn sicr o ddylanwadu ar allu unigolion i gystadlu a llwyddo (Rawls, 1971). O ganlyniad, er mwyn sicrhau fod pawb yn meddu ar gyfle cyfartal ystyrlon, dadleuir y dylid ymdrechu i gyfyngu cymaint â phosib ar effaith amgylchiadau cefndirol ar ragolygon gwahanol unigolion. Er enghraifft, yn achos addysg mae Stuart White (2002: 62) yn nodi, ‘For equality of opportunity it is necessary to structure education systems so that children with the same ability and motivation – let us say the same ‘potential’ – have equal prospects of developing their ability, of realizing their potential.’ Eto i gyd, beth yn union yw goblygiadau’r drafodaeth gyffredinol hon ynglŷn â chydraddoldeb amgylchiadau cefndirol i’r drafodaeth bresennol ynglŷn â gofynion ieithyddol mewn maes megis cyflogaeth?

Uchod, wrth amddiffyn yr ymgais i ymestyn ystyr teilyngdod i gynnwys dimensiwn ieithyddol, dadleuwyd nad oes dim sy’n arbennig o annerbyniol ynglŷn â nodi bod rhai swyddi’n galw am sgiliau sydd ond ym meddiant rhai aelodau o’r gymdeithas. Nodwyd bod hyn, ar y cyfan, yn gam teg, cyhyd ag y bo’r rheini sydd ar eu colled heb gael eu hatal rhag datblygu’r sgiliau perthnasol. Eto i gyd, i ba raddau y gellir dadlau mai dyma yw’r sefyllfa yng Nghymru mewn perthynas â sgiliau iaith? A yw pawb sy’n cystadlu am swyddi wedi cael cyfle teg i ddysgu’r Gymraeg? Ynteu, a yw amgylchiadau cefndirol rhai pobl wedi’u hatal trwy wneud y dasg o ddysgu’r iaith yn un arbennig o anodd?

Ystyrier, i ddechrau, beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â magwraeth. Wrth reswm, nid pawb yng Nghymru sydd wedi’u magu mewn amgylchiadau lle caiff y Gymraeg ei defnyddio a’i chlywed. Felly, nid yw’r bobl hyn yn cael y cyfle i ddysgu’r iaith yn naturiol, fel y caiff y rhai sy’n cael eu magu mewn amgylchiadau lle siaredir y Gymraeg. O ganlyniad, ar sail magwraeth – un o’r ffactorau cefndirol hynny a drafodir gan ryddfrydwyr – gellid dadlau fod rhai pobl yn meddu ar fantais dros eraill o ran y cyfle sydd ganddynt i ddysgu Cymraeg. Fodd bynnag, mae’n bosib na fyddai’r fantais hon yn meddu ar unrhyw arwyddocâd, pe bai’r drefn addysg – un arall o’r ffactorau cefndirol y cyfeirir ati – yn cyfrannu at unioni’r sefyllfa.

Heb os, gwelwyd newidiadau sylweddol yn natur ieithyddol y drefn addysg yng Nghymru dros y trigain mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd twf aruthrol, ar y lefel cynradd ac uwchradd, yn y ddarpariaeth o addysg Gymraeg a dwyieithog (Williams, 2002). Yn ogystal, ers pasio Deddf Addysg 1988, cafodd y Gymraeg ei dysgu fel pwnc penodol hyd yn oed yn yr ysgolion hynny sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Saesneg. O ganlyniad, nid oes amheuaeth fod y cyfleoedd i ddysgu Cymraeg wedi ehangu’n sylweddol. Yn wir, caiff hyn ei bwysleisio gan y ffaith fod cynifer o blant o gefndiroedd di-Gymraeg nawr yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg (Williams, 2002). O ystyried hyn, i ba raddau y gall y Cymry hynny sy’n cyrraedd y farchnad lafur heb fedru siarad yr iaith ddadlau eu bod dan anfantais pan fo rhai swyddi yn galw’n benodol am y gallu hwnnw?

Yn y cyswllt hwn, mae’n werth nodi pwynt diddorol a wnaed gan David Miller (2002). Wrth drafod y dehongliad rhyddfrydol o gyfle cyfartal, mynnodd Miller na all unigolion honni eu bod yn dioddef o annhegwch a diffyg cyfle os yw’r anawsterau sy’n eu llethu yn deillio, nid o amgylchiadau cefndirol anffafriol, ond yn hytrach o benderfyniadau cynt o’u heiddo hwy:

a person’s opportunities have to be judged at some suitably chosen starting point, since each decision that is made to avail oneself of an opportunity, or not to do so, is likely to affect the opportunity set at a later point. For example, a person who decides to leave school at sixteen cannot later complain that she was denied the opportunity to go to university, if by staying on at school she could have achieved that goal ... The liberal ideal, then, is that initial opportunity sets should be equal, not necessarily opportunity sets at some later time when choices have already been made (Miller, 2002: 47, pwyslais yn y gwreiddiol).

 
Felly, o drosi’r ddadl hon i faes cyflogaeth, gwelir na allaf ddadlau fod fy nghyfleoedd yn cael eu cyfyngu mewn modd annheg, os yw’r ffaith nad wyf yn meddu ar set o sgiliau allweddol – ieithyddol, cyfrifiadurol a.y.b. – ac felly’n methu ymgeisio am swyddi sy’n fy niddori, yn deillio o ddim mwy na methiant ar fy rhan i fy hun i fanteisio ar gyfleoedd i’w datblygu.[7] Ond, a ellid defnyddio’r ddadl hon mewn perthynas â’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg? A ellid casglu nad oes ganddynt sail i gwyno gan fod gan bawb gyfle digonol i ddysgu’r iaith bellach yn sgil y datblygiadau sylweddol a fu ym maes addysg?

Ar y cyfan, ni fyddai hynny’n gwbl deg. I ddechrau, rhaid cofio nad ni ein hunain, ond ein rhieni, sydd, fel arfer, yn dewis natur yr addysg a dderbyniwn. O ganlyniad, pan fo plentyn o gefndir di-Gymraeg yn digwydd mynychu ysgol Saesneg, ac felly’n colli’r cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl, nid ef fel unigolyn sydd wedi dewis hynny ac felly ni ellir dweud yn bendant ei fod wedi gwrthod y cyfle. Ar ben hynny, ac efallai’n bwysicach, er y bu cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o addysg Gymraeg, erys tyllau sylweddol yn y ddarpariaeth honno (Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2009b). Er enghraifft, clywir yn bur fynych nad yw’r ddarpariaeth a gynigir gan amryw o awdurdodau lleol yn cyfateb i’r galw amdano (Rhieni Dros Addysg Gymraeg, 2007: 2–3). O ganlyniad, anodd fyddai dadlau fod pob plentyn yng Nghymru yn meddu ar gyfle teg i ddysgu’r Gymraeg ac i ddatblygu eu gafael ohoni i lefel a fyddai’n caniatáu iddynt ei defnyddio yn y gweithle. At ei gilydd felly, mae’n amheus a gellid casglu fod dadl Miller ynglŷn â gwrthod cyfleoedd yn sefyll yn y cyswllt hwn. Ond beth, felly, yw oblygiadau casgliad o’r fath? A yw’n golygu bod rhaid derbyn bod yr holl syniad o osod gofynion ieithyddol ym maes cyflogaeth yn annerbyniol?

Nid yw’r problemau a drafodwyd uchod ynglŷn ag effaith amgylchiadau cefndirol ar sgiliau iaith unigolion yn golygu bod yn rhaid casglu fod gofynion ieithyddol ym maes cyflogaeth, o’u hanfod, yn annerbyniol. Fel y dadleuwyd eisoes, mewn gwlad fel Cymru, lle yr amcenir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn mwy nag un iaith, mae’n gwbl briodol fod yr amrediad o sgiliau a ystyrir yn berthnasol yn achos rhai swyddi yn cynnwys dimensiwn ieithyddol. Nid yw hyn yn tanseilio egwyddorion rhyddfrydol megis yr egwyddor o benodi ar sail teilyngdod. Yn hytrach, mae’r cyflogwr yn estyn ychydig ar ystyr teilyngdod er mwyn ymateb i ofynion cymdeithas gynyddol ddwyieithog.

Fodd bynnag, wrth gymryd cam o’r fath, yn enwedig mewn maes pwysig megis cyflogaeth, rhaid sicrhau fod y cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau perthnasol yn cael eu dosbarthu mewn modd sydd mor deg â phosib. Hynny yw, tra bod y polisi o ddynodi swyddi penodol fel rhai sy’n galw am y gallu i siarad Cymraeg yn un derbyniol o ran egwyddor, ni ddylai gael ei weithredu mewn modd sy’n caniatáu i rai ennill mantais, tra bo eraill yn wynebu rhwystrau yn sgil amgylchiadau cefndirol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Fel y dadleua Rawls (1971), ni ddylai cyfleoedd bywyd gwahanol unigolyn gael eu cyfyngu gan amgylchiadau o’r fath. Yn achos y Gymraeg fe welwyd ei bod yn anochel y bydd magwraeth rhai pobl yn rhoi mantais iddynt dros eraill, gan na fydd pawb yn cael eu magu mewn amgylchiadau lle caiff y Gymraeg ei defnyddio. O ystyried hyn mae’n hollbwysig, o safbwynt cyfiawnder, fod y drefn addysg, yn arbennig, yn cyfrannu at unioni’r sefyllfa. Yr awgrym ar hyn o bryd, fodd bynnag, yw nad yw hynny’n digwydd mewn modd effeithiol iawn. I raddau helaeth, tra bo’r amrediad o swyddi lle gelwir am wybodaeth o’r Gymraeg yn parhau’n gymharol gyfyng, nid yw effaith y gwendid hwn mor ddifrifol â hynny. Serch hynny, os bydd ymgais rhywdro yn y dyfodol i ddyfnhau ymhellach ar statws y Gymraeg yn y gweithle, yna dylid edrych o ddifri ar y sefyllfa.[8] Wrth reswm, nid oes lle yma i fanylu ar beth fyddai hyn yn ei olygu’n ymarferol. Fodd bynnag, yn y termau mwyaf cyffredinol, rhagwelaf y dylai arwain at gymryd camau breision sydd â’r nod o ddarparu cyfle real i bob plentyn feistroli’r Gymraeg yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol.[9]

Casgliadau

Yn ystod yr erthygl hon, dangoswyd ei bod yn bosib llunio dadl ryddfrydol sy’n cymeradwyo’r broses o osod gofynion ieithyddol ar gyfer amrediad o swyddi cyhoeddus. Er gwaethaf amryw o wrthwynebiadau, nid yw mesurau o’r fath yn rhai sy’n gwahaniaethu mewn modd annheg, ac nid ydynt, o ran egwyddor, yn tanseilio gwerthoedd normadol pwysig megis cyfle cyfartal a’r arfer o benodi ar sail teilyngdod. O ganlyniad, ni ddylai rhyddfrydwyr gondemnio polisïau tebyg i’r rhai a weithredwyd yn raddol yng Nghymru dros y deg i bymtheg mlynedd diwethaf. Er hynny, nid yw’r ffaith y gellir cymeradwyo’r polisïau hyn o ran egwyddor yn golygu na fyddai gan ryddfrydwyr yr un gair drwg i’w ddweud ynglŷn â hwy. Yn hytrach, fel y dangoswyd yn ystod rhan olaf yr erthygl, mae’r cyd-destun lle caiff y polisïau hyn eu rhoi ar waith, a’r graddau y mae’r cyd-destun hwn yn cyfrannu at ganiatáu i rai ennill mantais annheg dros eraill, hefyd yn elfen y dylid ei hystyried, ac yn y cyd-destun Cymreig, o leiaf, mae’n bosib y bydd hon yn elfen y bydd yn rhaid ei hystyried ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.

Nodiadau

1. Gwnaed cyfraniadau pwysig hefyd gan ysgolheigion megis Joseph Carens (2000), Joseph Raz (1994), Jeff Spinner (1994) a Yael Tamir (1993).

2. Wrth i'r erthygl hon gael ei pharatoi cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y drafft cyntaf o'i mesur iaith arfaethedig. Byddai'r mesur hwn, yn ei ffurf bresennol, yn arwain at ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac at drosglwyddo ei ddyletswyddau rheoleiddio i Gomisiynydd Iaith newydd. Ymhellach, byddai'r arfer o lunio cynlluniau iaith unigol yn dod i ben a safonau iaith cyffredinol yn cael eu mabwysiadu yn lle hynny. Nid yw'n hysbys ar hyn o bryd beth fydd union natur y safonau hyn, na chwaith pa oblygiadau fydd iddynt o ran arferion presennol cyrff cyhoeddus mewn meysydd megis cyflogaeth (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2010). Y bwriad yw i gynigion y llywodraeth gael eu trafod mewn pwyllgorau scrwtineiddio, gyda rhai ACau yn gobeithio y byddai modd i'r mesur terfynol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad cyn yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2011.

3. Er gwaethaf hyn, mae ensyniadau o hiliaeth yn dal i chwarae rhan yn nadleuon rhai o'r bobl hynny sy'n wrthwynebus i'r arfer o drin y Gymraeg fel sgil hanfodol ym maes cyflogaeth. Er enghraifft, yn 1998 dygwyd achos tribiwnlys, unwaith eto o dan Ddeddf Cysylltiadau Hil 1974, yn erbyn Cyngor Ynys Môn. Roedd yr achos yn aflwyddiannus, ond roedd yr amgylchiadau a arweiniodd ato yn debyg iawn i rai achos Jones v Gwynedd. Mynnodd Peter Boylan ei fod wedi dioddef rhagfarn hiliol wrth law Cyngor Môn, gan iddo fethu ag ennill swydd fel swyddog ieuenctid ar sail y ffaith nad oedd yn medru siarad Cymraeg (Tribunals Service, 1998). Cafwyd cadarnhad pellach o wytnwch y dadleuon hyn ynglŷn â hiliaeth yn parhau i ddylanwadu ar wrthwynebiad rhai pobl i'r arfer o drin y Gymraeg fel sgil hanfodol ym maes cyflogaeth. Fel y noda May, yn achos rhai o'r bobl a gafodd eu cyfweld ganddo, 'it was viewed as at best discriminatory and at worst racist' (May, 2000: 121). Am drafodaeth fanylach ynglyn a chyhuddiadau o hiliaeth mewn perthynas ag ymgyrchoedd iaith yng Nghymru, ac yn benodol sut mae gwahanol garfanau gwleidyddol wedi defnyddio cyhuddiadau o'r fath i danseilio ymgyrchoedd o blaid y Gymraeg, gweler Brooks (2006).

4. Mae rhai o ladmeryddion rhyddfrydol rhagfarnu cadarnhaol yn ddigon parod i gydnabod fod gweithredu rhaglenni o'r fath yn medru arwain at gwestiynau anodd. Gweler, enghraifft, Kymlicka (2001:196-9) a Beauchamp (2002: 213-4). Mae'r cwestiynau a godir gan yr awduron hyn yn cynnwys y canlynol. Ai rhagfarnu cadarnhaol yw'r dull gorau bob tro o sicrhau tegwch i leiafrifoedd mewn meysydd megis cyflogaeth neu addysg? A yw'r polisiau a fabwysedir wastad yn helpu'r sawl sydd wir mewn angen? A ydynt weithiau yn medru arwain at roi hwb i unigolion sydd eisoes mewn safle cymharol freintiedig? A yw aelodau o un grwp (dynion gwyn fel arfer) weithiau yn talu pris rhy uchel yn sgil gweithredu'r polisiau hyn? Mae'r rhain oll yn gwestiynau dilys. Fodd bynnag, cwestiynau ymarferol ydynt mewn gwirionedd - hynny yw cwestiynau ynglŷn â'r dull mwyaf priodol i ddefnyddio rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol, yn hytrach na chwestiynau ynglŷn â dilysrwydd yr egwyddor sylfaenol. Nid yw'r cwestiynau a godir gan Kymlicka neu Beauchamp yn arwain at wrthod y syniad o gynnig cymorth arbennig i grwpiau gwan. Yn hytrach, holi a wneir pa fath o gymorth sydd ei angen.

5. O ran maes gweinyddiaeth gyhoeddus yn gyffredinol, dangosodd ymchwil gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn dilyn Cyfrifiad 2001 mai tua 20 y cant o'r gweithlu gwrywaidd a tua 17 y cant o'r gweithlu benywaidd sy'n siarad Cymraeg (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2001).

6. Mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â'r graddau y mae pawb yng Nghymru yn meddu ar gyfleoedd teg i ddysgu'r Gymraeg. Dychwelaf at y pwynt pwysig yma yn y man.

7. Wrth gwrs, er mwyn i'r ddadl hon sefyll, rhaid i'r cyfleoedd hynny i ddatblygu gwahanol sgiliau fod yn rhai realistig.

8. Yr awgrym yw bod hwn yn faes lle mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dymuno gweld datblygiadau pellach. Gweler, er enghraifft, Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2008, 2009a, 2009c).

9. Diddorol fydd gweld i ba raddau y bydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru (2010) yn llwyddo i sicrhau hyn. Cyhoeddwyd y strategaeth hon wrth i'r erthygl gael ei chwblhau. 

Llyfryddiaeth

Barry, B. (2001), Culture and Equality (Cambridge: Polity Press).

Beauchamp, T. L. (2002), ‘In Favour of Affirmative Action’, yn Cahn, S. M. (gol.), The Affirmative Action Debate (London: Routledge), tt. 209–23.

Brooks, S. (2006), ‘The Idioms of Race: The ‘Racist Nationalist’, yn ‘Wales as Bogeyman’, yn Chapman, R. (gol.), Idiom of Dissent (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 139–65.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1996), Cynlluniau Iaith Gymraeg: Eu Paratoi a’u Cymeradwyo yn Unol â Deddf Iaith Gymraeg 1993 (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2005), Cynllun Iaith Gymraeg – Cyngor Sir Gâr: Ymchwiliad o dan Adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Ar gael o: http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/3437.pdf (cyrchwyd 28 Ebrill 2010).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2008), Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog: Dogfen Ymgynghorol (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2009a), Recrwtio a’r Iaith Gymraeg: Cyngor o dan Adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2009b), Mesur y Galw am Addysg Gymraeg: Dogfen Arferion Da (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2009c), Hyrwyddo a Hwyluso Gweithleoedd Dwyieithog (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2010), Gohebiaeth breifat parthed dadansoddiad gan yr ystadegydd Dr Hywel Jones, o ganlyniadau Cyfrifiad 2001 (T39). Ebyst dyddiedig Ebrill 21 a 30. 

Cahn, S. M. (2002), ‘Introduction’, yn Cahn, S. M. (gol.), The Affirmative Action Debate (London: Routledge), tt. xi-xiv.

Carens, J. H. (2000), Culture, Citizenship and Community: A Contextual Exploration of Justice as Evenhandedness (Oxford: Oxford University Press).

Chevrier, M. (1997), Laws and Language in Québec: The Principles and Means of Québec’s Language Policy (Québec: Gouvernemet du Québec, Ministère des Relations Internationales).

Chevrier, M. (2003). ‘A Language Policy for a Language in Exile’, yn Larrivée, P. (gol.), Linguistic Conflict and Language Laws: Understanding the Québec Case (London, Palgrave Macmillan), tt. 118–61.

Costa, J. (2003), ‘Catalan Linguistic Policy: Liberal or Illiberal?’, Nations and Nationalism, 9 (3), 413–32.

Cwmni Iaith (2006), Cynllunio a Rheoli Sgiliau Dwyieithog: Astudiaeth ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith).

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1999), Dwyieithrwydd Gweithredol (Aberystwyth: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg).

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2010), Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru). Ar gael o: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-wl.htm (cyrchwyd 7 Mawrth 2010).

Davies, G. P. (1994) ‘Yr Iaith Gymraeg a Deddfwriaeth’, yn Williams, Rh. H., Williams, H. a Davies, E. (goln), Gwaith Cymdeithasol a’r Iaith Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 41–73.

Dworkin, R. (2002), ‘Bakke’s Case: Are Quotas Unfair?’, yn Cahn, S. M. (gol.), The Affirmative Action Debate (London: Routledge), tt. 103–12.
Employment Appeal Tribunal (1986), Gwynedd County Council v Jones, EAT 554/85.

HMSO (1993), Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (London: HMSO).

Jenkins, G. H. (1999), ‘Cymru, Cymry a’r Gymraeg: Rhagymadrodd’, yn Jenkins, G. H. (gol.), Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a’i Pheuoedd 1801–1911 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 1–34.

Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (2000), ‘Hynt yr Iaith Gymraeg 1900 – 2000: Rhagymadrodd’, yn Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (goln), ‘Eu Hiaith a Gadwant’? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 1–26.

Kane’s Wales (1995) [Rhaglen Deledu], BBC1 Wales, 12 Tachwedd 1995.

Kymlicka, W. (1989), Liberalism, Community and Culture (Oxford: Oxford University Press).

Kymlicka, W. (1995a), ‘Introduction’, yn Kymlicka, W. (gol.), The Rights of Minority Cultures (Oxford: Oxford University Press), tt. 1–27.

Kymlicka, W. (1995b), Multicultural Citizenship: A Liberal Theory of Minority Rights (Oxford: Oxford University Press).

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2008), Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a’r Cynllun Iaith Gymraeg 2007-08 (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2010), Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).

May, S. (2000), ‘Accommodating and Resisting Minority Language Policy: The Case of Wales’, International Journal of Bilingual Education and Bilingualism, 3 (2), 101–28.

May, S. (2001), Language and Minority Rights: Ethnicity, Nationalism and the Politics of Language (New York: Longman).

Miller, D. (1999), Principles of Social Justice (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press).

Miller, D. (2002), ‘Liberalism, Equal Opportunities and Cultural Commitments’, yn Kelly, P. (gol.), Multiculturalism Reconsidered (Cambridge: Polity Press), tt. 45–61.

McLeod, W. (1998), ‘Autochthonous Language Communities and the Race Relations Act’, Web Journal of Current Legal Issues. Ar gael o: http://webjcli.ncl.ac.uk/1998/issue1/mcleoad.html (Cyrchwyd 9 Hydref 2009).

Nelde, P., Strubell, M. a Williams, G. (1996), Euromosaic: The Production and Reproduction of the Minority Language Groups in the European Union (Luxembourg: Office for Official Publications of the European Communities).

Parekh, B. (2000), Rethinking Multiculturalism: Cultural Diversity and Political Theory (London: Macmillan).

Rawls, J. (1971), A Theory of Justice (Oxford: Oxford University Press).

Raz, J. (1994), ‘Multiculturalism: A Liberal Perspective’, Dissent, Gaeaf, 67–79.

Rhieni Dros Addysg Gymraeg (2007), Maniffesto ar Gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007 (Casnewydd: RHAG).

Spinner, J. (1994), The Boundaries of Citizenship: Race, Ethnicity and Nationality in the Liberal State (Baltimore: Johns Hopkins University Press).

Supreme Court of Canada (1984), Attorney General of Québec v Quebec Protestant School Boards.

Supreme Court of Canada (1988a), Ford v Attorney General of Québec.

Supreme Court of Canada (1988b), Forget v Attorney General of Québec.

Supreme Court of Canada (2005), Gosselin v Attorney General of Québec.

Tamir, Y. (1993), Liberal Nationalism (Princeton: Princeton University Press).

Tribunals Service: Employment (1998), Boylan v Isle of Anglesey County Council. Case No: 2900883/97.

White, S. (2007), Equality (Cambridge: Polity Press).

Williams, C. H. (2000), ‘On Recognition, Resolution and Revitalization’, yn Williams, C. H. (gol.), Language Revitalization: Policy and Planning in Wales (Cardiff: University of Wales Press), tt. 1–47.

Williams, G. (1988), ‘Discourse on Language and Ethnicity’, yn Coupland, N. (gol.), Styles of Discourse (London: Croom Helm), tt. 254–92.

Williams, G. (1994). ‘Discourse on ‘Nation’ and ‘Race’: A Response to Denney et al’, Contemporary Wales, 6, 87-103.

Williams, G. a Morris, D. (2000), Language Planning and Language Use: Welsh in a Global Age (Cardiff: University of Wales Press).

Williams, I. W. (gol.) (2002), Gorau Arf: Hanes Sefydlu Ysgolion Cymraeg 1939–2000 (Talybont: Y Lolfa).

Young, I. M. (1990), Justice and the Politics of Difference (Princeton University Press: Princeton).

___________________

Manylion Bywgraffyddol

_________________

rhannu gyda ffrindiau

Designed & Developed by WiSS Limited