Rhifyn Archif

'Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni

Dr Rhian Siân Hodges

Arf pwerus wrth drosglwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghymru yw’r system addysg cyfrwng Cymraeg. Yn wir, cydnabydda Gruffudd (2000:195) mai’r unig gyfrwng sy’n tyfu yn nhermau defnydd iaith ymhlith yr ifanc yng Nghymru yw’r system addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, cydnabydda Baker (2004:i) mai un o elfennau creiddiol adfywio ieithyddol yw’r system addysg cyfrwng Cymraeg a gwêl y gyfundrefn fel ‘a major plank in language revitalisation and language reversal’. Yn sicr, sylweddola Williams a Morris (2000) a C. H. Williams (2000), fod addysg cyfrwng Cymraeg yn lledu a datblygu’n amlwg ledled cymunedau ôl-ddiwydiannol Seisnigedig de Cymru. Ymhellach, cwympa’r baich, yn ormodol efallai, ar y system addysg er mwyn cynnal yr iaith Gymraeg yn y Gymru gyfoes o ganlyniad i ddiffyg trosglwyddo’r Gymraeg ar aelwydydd Cymru (Bwrdd yr Iaith Gymraeg 1999:2). Atgyfnertha Lewis (2006:23) y safbwynt hwn drwy nodi bod mwy na 98 y cant o blant ysgolion cyfrwng Cymraeg de-ddwyrain Cymru (gan gynnwys Cwm Rhymni ei hun) yn dod o gartrefi di-Gymraeg, sy’n pwysleisio gwerth y system addysg i’r disgyblion hynny a’u teuluoedd.[1] Yn wir, cyfeiria C. H. Williams (2000:25) at gynnydd y system addysg fel prif sffêr trosglwyddo iaith yn sgil dyfodiad cymdeithas seciwlar, drefol ac ôl-ddiwydiannol.

Felly, un o feysydd academaidd mwyaf amserol a thestunol y gymdeithas sydd ohoni heddiw yw maes addysg cyfrwng Cymraeg, yn arbennig yng nghymoedd y de. Cyfnod o dwf ac o ffyniant presennol sydd i’r system hon ers ei sefydlu dros hanner can mlynedd yn ôl. Ychydig o enwau yn unig oedd ar gofrestrau ysgolion cyfrwng Cymraeg cynnar de Cymru, ond erbyn hyn mae rhestrau aros er mwyn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg a rhieni’n brwydro dros lefydd i’w plant yn yr ysgolion hynny. Atgyfnertha Strategaeth Ieuenctid Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2006:9–10) y paradocs rhwng iaith ffurfiol y sffêr addysgol ac iaith anffurfiol y sffêr gymunedol:

The demand for Welsh-medium education continues, especially in the more Anglicised areas of south Wales, such as Rhondda, Cynon and Rhymni valleys and in Cardiff, where the community use of Welsh is relatively low.

Gostwng mae niferoedd ysgolion cyfrwng Saesneg am fod nifer cynyddol o rieni’n dewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant, a bwriad y papur hwn yw ystyried paham y maent yn gwneud hynny. Er mwyn gosod yr astudiaeth bresennol yn ei chyd-destun ehangach rhaid pwysleisio bod astudio unrhyw agwedd ar yr iaith Gymraeg yn un hynod ddiddorol oherwydd bod y cyfnod presennol yn un o her ac o hwb amlwg i’r iaith. Cydnabu Aitchison a Carter (2000:viii) hyn wrth nodi bod y Gymraeg bellach yn wynebu cyfnod tyngedfennol yn ei hanes: ‘The Welsh language is clearly at a critical juncture in its long history.’

Yn wir, mae’n gyfnod cyffrous i’r system addysg cyfrwng Cymraeg ym maes polisi, a hynny yn sgil dyfodiad Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru 1988, cyhoeddi Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Dogfennau a strategaeth allweddol a dylanwadol gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol oedd Y Wlad sy’n Dysgu (2001), cynllun strategaeth ieithyddol y Cynulliad, sef Iaith Pawb (2003) ac, yn ogystal, Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (2009). Dengys canlyniadau Cyfrifiad 2001 fod cynnydd amlwg o 40.8 y cant yn niferoedd plant ifanc 5–15 oed sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru o gymharu ag ystadegau Cyfrifiad 1991.[2] Ymhellach, mae cynnydd sylweddol yn nefnydd y Gymraeg yn ysgolion cyfrwng Saesneg Cymru hefyd yn batrwm nodedig, yn enwedig ers sefydlu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yn 1988. Mae’r cyfnod hwn felly’n hynod ddiddorol er mwyn astudio’r iaith Gymraeg yng Nghwm Rhymni. Eironi’r sefyllfa, fodd bynnag, yw’r canlynol yn ôl Aitchison a Carter (2004:2):

The paradox is that the greatest increases had been achieved in those areas where the language had traditionally been the weakest.

Ymhellach, gwelwyd dirywiad ieithyddol ymhlith pobl ifanc sydd wedi gadael y sffêr addysgol. Yn ogystal, mynegwyd pryder ymhlith gwneuthurwyr polisi bod yna wahaniaeth rhwng y sawl sy’n gallu siarad iaith leiafrifol a’r sawl sy’n defnyddio iaith leiafrifol yng Nghymru (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2004), ac yn ogystal, yn Ewrop (Euromosaic Study 1996).[3] Cwyd y canfyddiad hwn, felly, gwestiwn llosg fel y noda Gruffudd (2000:180):

... is language transmission through education likely to produce future parents who will transmit the language at home?

Cwestiwn a ofynnwyd yn ystod astudiaeth Cwm Rhymni oedd pam y byddai rhieni (y mwyafrif helaeth ohonynt yn ddi-Gymraeg ) yn dewis addysg Gymraeg i’w plant o fewn ardal Saesnigedig. Ymhellach, cododd nifer o gwestiynau ychwanegol i’r meddwl. Beth sydd y tu ôl i’r dewis? A yw’r rhesymau wedi datblygu ac esblygu ers cyfnod sefydlu’r ysgolion hyn? A fydd addysg cyfrwng Cymraeg yn sail i’r iaith ddatblygu ymhellach yng nghymoedd y de yn y dyfodol? Gyda’r system addysg cyfrwng Cymraeg bellach yn fwy blaenllaw, cyffredin a phrif lif, nid yw dewis addysg Gymraeg yn grwsâd neu’n aberth i’r un graddau ac y bu, ac adroddwyd eisoes am fuddion amrywiol y system. Prif fwriad y papur hwn yw ystyried y cwestiynau hyn trwy bwyso a mesur cymhellion rhieni (yn bennaf rhieni di-Gymraeg) dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant, yn enwedig gan nad oeddent yn meddu ar yr iaith Gymraeg eu hunain. Yn ogystal, y bwriad yw canfod a oes rhesymau eraill pam fod rhieni’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant erbyn hyn? Yr oedd yr ymchwil cynradd hefyd yn ymgais i lenwi bwlch yn ein gwybodaeth ymchwil am y maes yng Nghwm Rhymni.

Lleoliad yr Astudiaeth

Lleoliad yr astudiaeth yw Cwm Rhymni yn sir Gaerffili. Ardal ôl ddiwydiannol sy’n ymestyn 16 milltir o Rymni yn y gogledd, i Fargod yng nghanol y cwm ac i Gaerffili yn y de yw Cwm Rhymni. Ceir cymunedau amrywiol iawn yng Nghwm Rhymni ac mae’n wir dweud na fedrwn ymdrin â’r cwm fel un ardal unffurf gan fod gwahaniaethau amlwg ymhlith y cymunedau hyn. Lleolir y cwm i’r gogledd o Gaerdydd gyda Chaerffili ddim ond 8 milltir o’r brifddinas. Dengys y map isod o sir Gaerffili drefi Rhymni, Bargod, Ystrad Mynach a Chaerffili, trefi amlwg yng Nghwm Rhymni:

caerffili

Map 1: Map o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ffynhonnell: www.cartoplus.co.uk/caerphilly/intro.htm

Nid yw cymoedd y Rhondda, Taf, Cynon, Sirhywi ac Ebwy nepell oddi wrth Gwm Rhymni. Lleolir y sir felly yng nghanol cymoedd diwydiannol de Cymru.

Mae Cwm Rhymni yn rhan o sir Gaerffili a ffurfiwyd yn 1996 adeg ad-drefnu’r siroedd ledled Cymru. Yn wir, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw’r pumed awdurdod mwyaf yng Nghymru gyda 73 o Aelodau Etholedig yn cynrychioli 33 ward (Cyngor Caerffili, Drafft Ymgynghorol, 2009:9). Y mae Caerffili ymhlith y siroedd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn ne Cymru. Dengys ystadegau Cyfrifiad 2001 fod gan 27,228 o bobl, sef 16.7 y cant o drigolion poblogaeth Caerffili o 169,519, wybodaeth o’r Gymraeg i ryw raddau, tra bod gan 8.5 y cant, sef 13,916 o’r boblogaeth, yr amrediad llawn o sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg, Mynegir yr wybodaeth hon o fewn y tabl isod(www.nationalstatistics.co.uk,http://www.nationalstatistics.co.uk>).

Canran a Niferoedd Trigolion Caerffili sydd (Poblogaeth Caerffili 169,519)

Canran

Nifer

Yn deall Cymraeg llafar yn unig

2.8%

4,617

Yn siarad ond nad ydynt yn darllen/ysgrifennu Cymraeg

1.7%

2,814

Yn siarad ac yn darllen, ond nad ydynt yn ysgrifennu Cymraeg

0.7%

1,095

Yn siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg

8.5%

13, 916

Cyfuniadau sgiliau ieithyddol eraill

2.9%

4,786

Gwybodaeth o’r Gymraeg (o leiaf un sgil ieithyddol)

16.7%

27,228

Ffigwr 1: Canlyniadau Siaradwyr Cymraeg Sir Gaerffili yn ôl Cyfrifiad 2001
(Ffynhonnell: Aitchison a Carter 2004:38–39)

Felly, o ran niferoedd, mae gan yr ardal botensial amlwg i ddylanwadu ar benderfyniadau polisïau ieithyddol cenedlaethol a strategaethau cynllunio ieithyddol y dyfodol. Mae niferoedd siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu ers Cyfrifiad 1991 pan mai tua 6 y cant neu ychydig dros 9,700 o bobl oedd yn siarad Cymraeg (www.nationalstatistics.gov.uk). Fodd bynnag, cymharol isel yw’r canrannau hyn wrth ystyried cyd-destun ehangach siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyfan. Yn unol â thwf siaradwyr Cymraeg sir Gaerffili gwelwyd cynnydd aruthrol yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yr ardal. Pan ffurfiwyd sir Gaerffili yn swyddogol yn 1996 yr oedd yna wyth ysgol cyfrwng Cymraeg ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Tair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ceir un ar ddeg o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal (gan gynnwys Ysgol Gymraeg Penallta a agorwyd ym Medi 2009, nad yw’n ymddangos ar y map), ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, sef Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Dengys y map isod leoliadau ysgolion cynradd y cwm:

ysgolion

Map 2: Lleoliad Ysgolion cyfrwng Cymraeg sir Gaerffili
(Ffynhonnell: Cyngor Sirol Bwrdeistref Sirol Caerffili, 2009)

Bu twf aruthrol yn niferoedd siaradwyr Cymraeg yr ardal yn sgil llwyddiannau’r system addysg cyfrwng Cymraeg, yn adleisio’r twf cyffredinol  yn nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc ledled de-ddwyrain diwydiannol Cymru o ganlyniad i sefydlu’r system addysg cyfrwng Cymraeg (C. H. Williams, 2000:24). Ymhlith y garfan rhwng 5–15 oed y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn niferoedd siaradwyr Cymraeg Caerffili ers 1991 yn ôl Cyfrifiad 2001[4]. Yn ogystal â chynnydd ymhlith siaradwyr Cymraeg oedran ysgol yn sgil llwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg, gellir priodoli twf amlwg y Gymraeg yn ardal Caerffili i gyflwyno’r iaith Gymraeg i gwricwlwm ysgolion cyfrwng Saesneg yr ardal.[5] Dengys y tabl isod gynnydd yn niferoedd disgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg Cwm Rhymni ers cyfnod sefydlu’r ysgolion. Fodd bynnag, rhaid nodi bod niferoedd ambell ysgol wedi disgyn yn sgil agor ysgolion newydd yn y cwm:

Enw’r Ysgol

Dyddiad Agor

Nifer ar y Gofrestr ar y dyddiad agor

Nifer ar y Gofrestr Ionawr 1997

 Nifer ar y Gofrestr Ionawr 2008

Ysgol y Lawnt

1955

15

148

150

Ysgol Ifor Bach

1961

11

291

166

Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod

1963

72

170

158

Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili

1970

97

324

276

Ysgol Gymraeg Trelyn

1991

112

164

188

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon

1992

112

146

157

Ysgol Gymraeg Bro Allta

1993

150

210

284

Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell

1995

120

134

281

Ysgol Bro Sannan

2004

18

Amherthnasol

103

Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Medi

2008

34

Amherthnasol

Amherthnasol

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

1981

156

884

1195

Ffigwr 2: Datblygiad Ysgolion cyfrwng Cymraeg Cwm Rhymni
(Ffynhonnell: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Drafft Ymgynghorol 2009:14)

Yn ôl Cynllun Addysg Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Drafft Ymgynghorol) 2009–2014, yn Ionawr 2008 yr oedd 29,551 o blant 3–18 oed yn derbyn addysg yng Nghaerffili. Yr oedd 16,915 yn y sector cynradd, 12,513 yn y sector uwchradd a 123 ym maes addysg anghenion arbennig. Yr oedd 12.7 y cant o ddisgyblion cynradd y sir a 10.6 y cant o ddisgyblion uwchradd y sir yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg tra bod 3.3 y cant o ddisgyblion ag anghenion arbennig yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (Cyngor Caerffili, 2009:11). Bellach mae cynlluniau newydd ar y gweill i agor mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni.

Nod, Amcan a Hypothesis yr Ymchwil

Nod yr ymchwil hwn yw casglu, asesu a dehongli prif gymhellion rhieni, yn benodol rhieni di-Gymraeg, dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yng Nghwm Rhymni. Bwriad yr astudiaeth yw asesu teimladau, agweddau a chanfyddiadau sampl o rieni’r ardal sydd yn gysylltiedig â’r system addysg cyfrwng Cymraeg lleol. Grŵp targed er mwyn gwireddu amcanion yr astudiaeth yw rhieni sectorau meithrin, cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg Cwm Rhymni. Penderfynwyd dewis rhieni fel prif ffocws yr astudiaeth oherwydd mai nhw oedd wrth wraidd ymgyrchu a phrotestio er mwyn sefydlu’r system ers talwm. Yn wir, canfuwyd bwlch llenyddiaeth amlwg wrth ymdrin â rhesymau rhieni dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg. Bwriad yr ymchwil felly yw llenwi bwlch amlwg yn y maes.

Er mwyn cynnig strwythur pwrpasol i’r ymchwil, crëwyd hypothesis. Hypothesis astudiaeth Cwm Rhymni, sy’n seiliedig ar ymchwil Williams et al. (1978), yw bod rhieni’r ardal yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant oherwydd manteision economaidd siarad Cymraeg. Y gred yw bod rhieni am i’w plant feddu ar symudoledd cymdeithasol uwch yng Nghwm Rhymni ac yng Nghymru gyfan, ac mai addysg cyfrwng Cymraeg yn unig fyddai’n caniatáu hyn. Llwyddiant economaidd a chyfleoedd galwedigaethol ehangach, dwyieithog fyddai rhesymau’r rhieni dros ddewis y system i’w plant.

Cefndir Damcaniaethol

Cefndir damcaniaethol yr astudiaeth yw’r cysyniad o ‘gyfalaf cymdeithasol’ o eiddo’r Cymdeithasegydd Ffrengig, Pierre Bourdieu. Yn ôl Bourdieu (1986), hanfod ‘cyfalaf cymdeithasol’ yw bod yn aelod o grŵp arbennig, dilyn gwerthoedd tebyg, a meddu ar rinweddau tebyg i aelodau eraill y grŵp. I bwrpas yr ymchwil, bodolodd y ‘cyfalaf cymdeithasol’ hwn trwy gyfrwng ysgolion cyfrwng Cymraeg Cwm Rhymni. Ynghlwm wrth ysgolion cyfrwng Cymraeg yr ardal daeth aelodaeth grŵp neu gymuned Gymreig arbennig i fod yn dilyn strwythur arbennig ac, i bob pwrpas, fe rannai’r grŵp werthoedd cyfatebol mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg. Ymdebygai’r gymuned iaith ysgolion cyfrwng Cymraeg i unrhyw gymuned iaith leiafrifol arall, sef drwy osod gwerth tebyg ar yr un ymarferion ac ymddygiad diwylliannol, unigryw. Yn ôl Fishman, (1991:26):

To really know a language well, one must know its associated culture (indeed even the history of that culture) ... as well as the cultural specifics and behavioral goals ... every bit as much as it is necessary to know the associated language if one wants to know a culture well.

Ymhellach, cydnabyddai Walliman (2006:15) fod yr ystyron symbolaidd unedig hyn yn datgelu ystyron cymdeithasegol dwfn. Enghraifft amlwg yw rhieni’n protestio dros sefydlu’r system addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn ogystal, tynnwyd ar ddamcaniaeth ‘cyfalaf diwylliannol’ o eiddo Pierre Bourdieu. Yn ôl Bourdieu (1987) sgiliau yw’r rhain, gwybodaeth a dealltwriaeth, addysg a manteision hanfodol, sydd gan unigolyn er mwyn meddu ar statws uwch yn ôl hierarchaeth y gymdeithas bresennol. Honnodd Bourdieu mai prif swyddogaeth y system addysg yw atgynhyrchu diwylliant ond, yn fwy na hynny, ail-greu diwylliant mwyafrifol y gymdeithas. Arf yw addysg, felly, er mwyn gyrru normau, gwerthoedd a phŵer dosbarthiadau uwch y gymdeithas. Meddai Bourdieu (1991:167):

The culture which unifies is also the culture which separates and which legitimates distinctions by forcing all other cultures to define themselves by their distance from the dominant culture.

Diwylliant y grwpiau dominyddol yw ‘cyfalaf diwylliannol’ yn ôl Bourdieu sy’n cael ei drosglwyddo i gyfoeth a phŵer drwy’r system addysg ei hun. Nododd Bourdieu fod cysylltiad amlwg felly rhwng y system addysg a strwythur gwleidyddol y gymdeithas. Nid yw cyfalaf diwylliannol wedi’i rannu’n gyfartal rhwng disgyblion. Mae gan ddisgyblion o ddosbarthiadau uwch y gymdeithas fantais amlwg dros ddisgyblion dosbarth gweithiol am eu bod wedi cael eu cymdeithasoli i’r diwylliant dominyddol a’u bod yn ymwybodol o’r gwerthoedd y dylid eu hefelychu. Yn ôl Bourdieu (1991:38), ‘they possess the code of the message’ ac felly yn ymwybodol sut i lwyddo’n academaidd.

Gellir dweud, felly, bod rhieni’n trosglwyddo ‘cyfalaf diwylliannol’ i’w plant drwy ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol iddynt fedru llwyddo yn y system addysg a thu hwnt i hynny. Dadleuir bod rhieni sy’n dewis y system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni yn ail-greu ‘cyfalaf diwylliannol’ i’w plant. Rhieni Cymry Cymraeg o ddosbarthiadau cymdeithasol uwch a ddewisodd addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn ystod cyfnod sefydlu’r system (Khleif, 1974 a 1980, Bush, 1979, Bush et al. 1981) a’r rhieni felly’n trosglwyddo ‘cyfalaf diwylliannol’ Cymraeg arbennig i’w plant fedru llwyddo yn y system. Fodd bynnag, rhaid nodi nad oedd hyn yn bodoli ym mhob ardal o fewn Cwm Rhymni. Yr oedd rhieni am i’w plant feddu ar symudoledd cymdeithasol a gosodwyd statws a bri ar y system addysg er mwyn cyflawni hynny, er bod hyn yn llai amlwg erbyn heddiw.

Yng nghyd-destun y fath ddamcaniaethau, priodol yw crybwyll astudiaeth Williams et al. (1978) ar y Rhondda. Cydnabyddir bod hon yn un o’r astudiaethau arloesol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru, astudiaeth sy’n crisialu cymhellion rhieni dros ddewis addysg ddwyieithog i’w plant yn y Rhondda, ardal Seisnigedig, yn ystod y 1970au. Canolbwynt yr ymchwil yw gwerth a bri’r system addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn hybu symudoledd cymdeithasol disgyblion y system, enghraifft amlwg o ‘gyfalaf diwylliannol’ Bourdieu. Prif gysyniadau’r ymchwil oedd bod rhieni’n ‘burghers’ neu’n ‘spiralists’ (Watson, 1964) yn ôl cyfrwng iaith addysg yr oeddent yn dewis i’w plant. ‘Burghers’ oedd y rhieni a welodd werth i’w plant ddysgu’r Gymraeg oherwydd y byddent yn byw a gweithio yng Nghymru yn y dyfodol ac yn elwa o lu o fanteision galwedigaethol. Nid oedd ‘spiralists’ yn gweld pwrpas dysgu’r Gymraeg oherwydd nad oeddent yn gweld eu plant yn aros yng Nghymru yn y dyfodol. Hypothesis ymchwil Williams et al. yw bod rhieni’n dewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant am resymau economaidd. Yr oeddent am i’w plant feddu ar symudoledd cymdeithasol uwch ac, yn ogystal, brofi cyfleoedd galwedigaethol ehangach. Seilir hypothesis astudiaeth Cwm Rhymni ar ymchwil Williams et al., (1978) a defnyddir yr astudiaeth fel llinyn mesur er mwyn asesu datblygiad ac esblygiad rhesymau rhieni dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf.

Methodoleg

Safbwynt athronyddol yr ymchwil yw’r persbectif deongliadol a grisialwyd gan ymchwil Max Weber. Pwrpas ymchwil cymdeithasegol yn ôl persbectif deongliadol yw deall unigolion er mwyn deall y gymdeithas yn hytrach nag astudio’r gymdeithas er mwyn deall yr unigolion yn ôl fframwaith Positifaidd. Fel y crisiala Roth a Wittich (1968:14), ‘for sociological purposes, there is no such thing as a collective personality which “acts”…’. Yn ôl Weber (1964) dylem fedru deall gweithredoedd cymdeithasol drwy astudio’r ystyron a’r cymhellion sydd wrth wraidd ymddygiad dynol. Yn wir, dyma sylfaen athronyddol yr astudiaeth hon wrth gasglu barn unigolion ar y system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni.

Yn ystod yr astudiaeth hon cyfunir dulliau ymchwil ansoddol a meintiol, ac felly cyflawnir triongliant methodolegol a chynyddir dibynadwyedd a dilysrwydd yr astudiaeth. Yn gyntaf, dosbarthwyd 400 o holiaduron rhannol strwythuredig ymhlith rhieni’r sectorau meithrin, cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni. Yn sgil hynny, casglwyd gwybodaeth gyswllt o’r holiaduron er mwyn creu sampl bellach o 50 o atebwyr ar gyfer prif ddull ymchwil yr astudiaeth, sef cyfweliadau dwys.

Meini prawf y sampl ymchwil oedd y rhieni a anfonodd eu plant i sefydliadau cyfrwng Cymraeg yn Nghwm Rhymni. Tynnwyd sampl o rieni gyda gwahanol gefndiroedd ieithyddol a sosio-economaidd (gweler atodiad 1): dau riant di-Gymraeg; un rhiant Cymraeg ac un di-Gymraeg; a dau riant Cymraeg. Oherwydd cyfansoddiad ieithyddol y Cwm, yr oedd mwyafrif helaeth yr atebwyr yn perthyn i’r grŵp cyntaf, sef dau riant di-Gymraeg.

Glynwyd wrth egwyddorion Deddf Gwarchod Data 1998, ac esboniwyd y cam arbennig er mwyn trin a thrafod data sensitif mewn modd diogel. Pwysleisiai’r ymchwilydd y broses ddeublyg o storio a dinistrio data ymchwil cynradd yr astudiaeth. Yn ôl yr ymchwilydd byddai’r wybodaeth a ddatgelir gan y cyfranogwyr yn cael eu cloi mewn man diogel yn ystod cyfnod yr astudiaeth ac, yn ogystal, amlygai’r ymchwilydd y byddai’r dystiolaeth yn cael ei dinistrio ar ôl i’r cyfnod ymchwil ddod i ben.

Y bwriad pennaf wrth ddewis strategaeth ansoddol oedd blaenoriaethu barn, teimladau a chanfyddiadau sampl rhieni Cwm Rhymni. Yr oedd yn ddull ymchwil priodol er mwyn adlewyrchu angerdd, brwdfrydedd a safbwyntiau cryf rhieni tuag at addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni. Darparodd yr ymchwil ansoddol gyfle i’r atebwyr ymhelaethu ar eu safbwyntiau mewn modd dynamig a hyblyg oedd yn gweddu natur y testun dan sylw i’r dim. Pobl yw canolbwynt ymchwil ansoddol ac mae’r canlyniadau’n dibynnu ar deimladau unigryw’r unigolion.

Rhesymau Rhieni’r Sampl Ymchwil dros ddewis y system Addysg Gymraeg i’w plant

Prif ddiddordeb yr astudiaeth hon yw pwyso a mesur rhesymau sampl rhieni Cwm Rhymni dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Casglwyd a chodwyd y prif resymau gan becyn meddalwedd NVivo 2 a chrëwyd pedwar prif gategori ymchwil, yn nhrefn eu pwysigrwydd, sef rhesymau diwylliannol, addysgol, economaidd a phersonol. Darganfuwyd rhesymau amrywiol a chymhleth wrth weinyddu’r ymchwil cynradd a nodir prif ganlyniadau astudiaeth Cwm Rhymni ar ffurf canrannau a niferoedd o fewn y tablau isod: 

Prif Reswm dewis addysg cyfrwng Cymraeg

Canran

Nifer

Diwylliannol

50%

25

Addysgol

34%

17

Economaidd

8%

4

Personol

8%

4

Fel y nodir o fewn y tabl uchod, rhesymau diwylliannol oedd prif reswm rhieni’r sampl dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant am fod hanner y sampl wedi datgan hynny. Yr ail reswm oedd rhesymau addysgol gydag ychydig dros draean wedi dewis y rheswm hwn tra mai dim ond wyth y cant o’r sampl a ddewisodd y system am resymau economaidd a phersonol, fel ei gilydd. Yn wir, ynghyd â’r prif resymau, gofynnwyd i rieni’r sampl ymchwil nodi eu tri phrif reswm dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni. Dangosir canlyniadau’r ail reswm dros ddewis addysg Gymraeg ar ffurf tabl isod:

Ail Reswm Dewis Addysg Gymraeg

Canran

Nifer

Addysg

46%

23

Diwyll.

30%

15

Dim

12%

5

Econ.

8%

4

Personol

4%

2

Dengys y tabl uchod felly y bu i bron hanner y sampl ddewis rhesymau addysgol yn ail reswm dros ddewis y system addysg Gymraeg tra bod ychydig llai na thraean (30%) wedi dewis rhesymau diwylliannol. Yr oedd 12 y cant o’r sampl rhieni heb ddewis ail reswm a dim ond 8 y cant a ddewisodd resymau economaidd a 4 y cant resymau personol.

Ymhellach, gofynnwyd i rieni sampl ymchwil Cwm Rhymni ddatgan eu trydydd rheswm dros ddewis y system addysg i’w plant a gwelir o’r tabl isod mai rhesymau economaidd oedd trydydd prif reswm y sampl er bod un ymhob pump ohonynt heb ddewis trydydd rheswm a 16 y cant o’r rhieni’n dewis rhesymau addysgol ac wyth y cant resymau diwylliannol.

Trydydd Rheswm Dewis Addysg Gymraeg

Canran

Nifer

Economaidd

56%

28

Dim

20%

10

Addysgol

16%

8

Diwylliannol

8%

4

Yn awr fe edrychwn yn fanylach ar resymau penodol y rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i’w plant.

Rhesymau Diwylliannol

Rhesymau diwylliannol oedd prif resymau sampl Cwm Rhymni dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant sy’n ategu ymchwil Lyon (1996) ar Ynys Môn a Thomas (2007) yn ne-ddwyrain Cymru. Yn wir, yr oedd 50 y cant (n=25) o’r sampl ymchwil wedi datgan rhesymau diwylliannol dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yng Nghwm Rhymni. Yr oeddent yn pwysleisio ystod eang o themâu diwylliannol megis gwerth siarad Cymraeg, pwysigrwydd gwreiddiau, cenhedlaeth goll ac integreiddio i gymuned Gymreig y Cymoedd, fel y disgrifir isod.

Hunaniaeth Ddiwylliannol

Prif reswm rhieni sampl Cwm Rhymni dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant oedd oherwydd eu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig. Yr oedd hon yn thema flaenllaw ymysg rhieni di-Gymraeg y sampl (dewisodd 40 y cant o’r rhieni resymau diwylliannol yn brif reswm), ac awgryma’r data eu bod yn wladgarol eu naws, fel y nododd mam ddi-Gymraeg yn y sector uwchradd:[6]

I just wanted it, I’m Welsh, they are Welsh and I just wanted them to speak Welsh … my children didn’t have to wear a tall black hat a woollen shawl and a pleated skirt to prove they are Welsh … all they have to do is to open their mouths. (Cyfweliad 32:237–242)

Yr oedd addysg cyfrwng Cymraeg yn hyrwyddo hunaniaeth Gymreig yn hytrach na’r hunaniaeth Americanaidd, fyd-eang, gyfoes. Pwysleisiodd y fam ddi-Gymraeg ganlynol werth yr hunaniaeth Gymreig: [7]

They go to the Urdd and there’s Santes Dwynwen, other people have never heard of it, but our children have been brought up with the Welsh feel to their lives. With Sky TV, they are brought up as little Americans so I think it’s lovely that they’ve got the Welsh culture when they go to school. (Cyfweliad 56:142–149)

Balchder o fod yn Gymry: Gwreiddiau ac Etifeddiaeth

Yr oedd nifer cynyddol o’r sampl ymchwil yn falch iawn o fod yn Gymreig, ac yr oeddent wedi arddangos tueddiadau gwladgarol, er nad oedd y mwyafrif ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. Yn ôl mam ddi-Gymraeg yn y sector uwchradd:

You get a sense of being proud when you hear them speaking Welsh, you feel immensely proud that they can do it and I love to hear them speak it. (Cyfweliad 36:322–323)

Credai nifer amlwg o’r sampl y dylai’u plant ddysgu, defnyddio ac ymfalchïo ym mamiaith eu gwlad ac yr oeddent yn pwysleisio eu gwreiddiau Cymreig. Pwysleisiodd mam ddi-Gymraeg yn y sector uwchradd mai dewis naturiol oedd addysg cyfrwng Cymraeg i’w phlant:

It is important for our children to learn their own language, they are born in Wales, they are Welsh, and have the opportunity to learn, speak and use Welsh. (Cyfweliad 4: 99–101)

Gwerth Siarad Cymraeg

Y gallu i siarad Cymraeg oedd un o’r prif resymau dros dewis y system addysg cyfrwng Cymraeg yn ôl rhieni sampl Cwm Rhymni (dewisodd 35%y cant o’r rhieni resymau diwylliannol yn brif reswm). Dywedodd nifer mai ‘the language itself, it’s good for them to learn ...’ (Cyfweliad 34:36–37), oedd y prif reswm ac yn ategu ymchwil Bush et al. (1981) a Thomas (2007) er ei fod yn wahanol i ymchwil Williams et al., (1978) a nododd werth economaidd ddros dysgu’r iaith. Mynegodd mwyafrif helaeth y sampl nad oedd angen cyfiawnhau dewis addysg Gymraeg. Fel y nododd un tad iaith gymysg:[8]

... byddwn i wedi dewis y Gymraeg drostyn nhw beth bynnag, achos rwy’n meddwl bod gwerth go iawn [iddyn nhw] siarad Cymraeg eu hunain ... (Cyfweliad 2: 314–315)

Yr oedd rhai atebwyr, megis y tad iaith gymysg isod, yn y sector uwchradd, [9] am i’w teuluoedd fod yn rhai Cymraeg iaith gyntaf ac felly’n gobeithio y byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn eu helpu i greu hyn:

I would like us to be a Welsh speaking family. I’m a proud nationalist and I would like my children to be nationalists … I think Welsh people should, whenever possible, learn and speak Welsh, and anyone who comes here.(Cyfweliad 49:86-90)

Cenhedlaeth Goll

Patrwm amlwg oedd cywilydd ymhlith rhieni di-Gymraeg am nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg. Yn sgil hynny, dewisodd 25 y cant o’r rhieni ‘cenhedlaeth goll’ fel prif reswm diwylliannol dros ddewis y system addysg i’w plant. Awgrymodd un fam ddi-Gymraeg  yn y sector uwchradd fod ei theimladau dwys fel plentyn wedi dylanwadu’n ddirfawr arni’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant: [10]

When I was about ten … I remember meeting all these people on holidays and I couldn’t speak any Welsh. I just felt that was so wrong. I felt, how can I say that I’m from Wales and I can’t speak my own language?(Cyfweliad 21:7–10 a 12–13

Yn sgil y genhedlaeth goll, sbardunwyd nifer o rieni iaith gymysg sampl Cwm Rhymni i ddysgu Cymraeg. Yr oeddent yn ymwybodol o werth siarad Cymraeg yn ifanc, fel y nododd un fam yn y sector uwchradd, ‘O’n i eisiau iddyn nhw gael y cyfle gollais i, bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn naturiol fel plant ...’ (Cyfweliad 7:169–170).

Yr oedd nifer o ddysgwyr yn ymwybodol o’r gymuned Gymreig glòs yr oeddent wedi ei hamddifadu ohoni, fel y nododd dysgwraig sydd nawr yn bennaeth ysgol cyfrwng Cymraeg yn y Cwm:[11]

O’n i am iddyn nhw gael beth gollais i, y diwylliant, yr ymrwymiad, yr ymdeimlad o berthyn i gymuned Gymraeg glòs ... Ac i gael y cyfle doedd Mam a Dad ddim yn ddigon dewr i wneud drosta i. (Cyfweliad 14:72–75)

 

Cyfle Cyfartal y Gymraeg a’r Saesneg

Cyfeiriodd nifer o rieni’r sampl at bwysigrwydd dysgu’r Gymraeg yng Nghymru. Yr oeddent am i’r Gymraeg fod ar lefel gyfartal â’r Saesneg, ddim yn iaith leiafrifol o gymharu ag iaith fwyafrifol. Amlygwyd y patrwm hwn gan fam ddi-Gymraeg yn y sector uwchradd:

... we believe it is important for our children to learn their own language, they are born in Wales, they are Welsh, and have the opportunity to learn, speak Welsh and use it, not as a back up language, but as a language side by side to English ... it’s their language and we don’t want the language to die out ... (Cyfweliad 4:99–02 a 104)

Mae’n bosibl bod y sylwadau uchod yn awgrymu bod egwyddorion Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) wedi treiddio i isymwybod rhieni’r sampl ymchwil. Yn ogystal, yr oedd nifer o rieni o’r farn bod Cymru wedi profi anffafriaeth gyffredinol gan Loegr a bod angen siarad Cymraeg er mwyn ymfalchïo yn ein cenedl a dangos perchnogaeth dros ddiwylliant a thraddodiadau’r wlad (Cyfweliad 13:266–269).

Dewis Naturiol i Rieni Iaith Gymraeg

Yr oedd 100 y cant (n=2) o rieni iaith Gymraeg y sampl wedi nodi mai dewis naturiol oedd anfon eu plant drwy’r system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni (er hyn rhaid cydnabod cyn lleied o deuluoedd iaith Gymraeg a oedd yn rhan o’r ymchwil). Un o brif resymau rhieni iaith Gymraeg ac iaith gymysg dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg oedd bod y Gymraeg yn rhan gynhenid o’u personoliaeth ac mae hyn yn ategu ymchwil Packer a Campbell (1997). Ymhelaethodd mam iaith Gymraeg yn y sector uwchradd:[12]

Dyma oedd y peth naturiol i mi wneud ... oherwydd fy mod i wedi cael ’yn addysg i drwy ysgolion Cymraeg ... ’odd y ddau ohonom ni’n dysgu yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, Cymraeg oedd ein hiaith gyntaf ... byddai wedi bod yn wrthun i wneud unrhyw beth ond hynny. (Cyfweliad 11:218–224

Ynghyd â’r Cymry Cymraeg, yr oedd gan y dysgwyr hefyd le arbennig yn eu calonnau i’r Gymraeg. Yr oeddent am drosglwyddo’r iaith i’w plant hwythau hefyd. Fel y nododd un ddysgwraig, sydd bellach yn athrawes cyfrwng Cymraeg, ‘O’n i ddim wedi meddwl am funud eu hanfon nhw at ysgol Saesneg, o’n i’n siarad Cymraeg ...’ (Cyfweliad 24:88–89). Yn ei hanfod, dymuniad nifer o gyn-ddisgyblion oedd gallu siarad Cymraeg iaith gyntaf â’u plant ac yn sgil hynny, dewis naturiol iddynt, heb amheuaeth, oedd addysg cyfrwng Cymraeg (Cyfweliad 38:49). Ychydig iawn o rieni di-Gymraeg a nododd ‘dewis naturiol’ ieithyddol fel rheswm; yn hytrach, byddent yn dewis y system ar sail ‘dewis naturiol’ diwylliannol.

Integreiddio i’r gymuned Gymreig

Patrwm llai amlwg ymhlith y sampl oedd yr angen i integreiddio i’r gymuned Gymreig. Fodd bynnag, soniodd ambell deulu o Loegr eu bod am i’w plant integreiddio’n llawn i’r gymdeithas Gymreig drwy fynychu ysgol Gymraeg. Yn ôl tad di-Gymraeg yn y sector uwchradd: [13]

... even though neither of us were Welsh speaking, we felt, especially me coming from England, it’s a way to integrate with the Welsh community. (Cyfweliad 19:31–34

Mae integreiddio i’r gymuned fel arfer yn gysylltiedig ag ardaloedd y Fro Gymraeg lle y mae canran uwch o fewnfudwyr nad ydynt yn medru’r Gymraeg yn effeithio ar ddynameg Gymraeg yr ardaloedd, fel yr ategir gan ymchwil Lyon ac Ellis (1991) a Lyon (1996) ar Ynys Môn.

Rhesymau Addysgol

Rhesymau addysgol (fel y nodwyd yn y tabl uchod) yw’r ail reswm mwyaf poblogaidd dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni. Yn wir, yr oedd ychydig dros draean (34 y cant a n=17) ohonynt wedi nodi mai rhesymau addysgol a ddaeth i’r brig wrth iddynt fynegi eu penderfyniad. Er mwyn cynnig trosolwg sydyn o brif resymau addysgol y sampl, dyma’r categorïau sy’n rhan o resymau addysgol rhieni sampl Cwm Rhymni. Yr oedd y rhieni’n crybwyll safonau academaidd, enw da, addysg well (elît), gofal bugeiliol, disgyblaeth, manteision dwyieithrwydd, niferoedd disgyblion llai, ymrwymiad athrawon ac ymrwymiad rhieni. Crybwyllwn yr is-gategorïau isod.

Safonau a Chanlyniadau Academaidd Uchel

Un o brif resymau rhieni’r sampl dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant oedd bod gan ysgolion Cymraeg safonau academaidd arbennig. Yr oedd 60 y cant o’r sawl a ddewisodd resymau addysgol wedi crybwyll safonau academaidd fel prif reswm. ‘Better standard of education is the main reason’, meddai un tad iaith gymysg yn y sector uwchradd (Cyfweliad 49:85). Mae gan ysgolion cyfrwng Cymraeg ganlyniadau TGAU a Lefel A o safon uchel ac y maent yn perfformio’n dda o fewn tablau cynghrair AALl yn ôl Reynolds et al., (1998). Nododd nifer fod safonau academaidd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ddigyffelyb yng Nghwm Rhymni, sy’n atgyfnerthu ymchwil Reynolds et al., (1998) ac ymchwil Packer a Campbell (1997). Yr oedd hyn yn arbennig o wir ymhlith rhieni di-Gymraeg astudiaeth Cwm Rhymni. Blaenoriaethai rhieni di-Gymraeg fanteision addysgol tra bod rhieni iaith Gymraeg yn canolbwyntio ar resymau diwylliannol. Disgrifiodd un fam iaith gymysg ganfyddiadau trigolion lleol o’r system addysg Gymraeg:

a lot of local people around here assume that’s why you’ve chosen Welsh-medium education, because the schools are so good. (Cyfweliad 6:313–2)

Yn groes i’r hyn a ddisgwylir, daeth safonau academaidd i’r brig ymhlith sawl cenedlaetholwr hefyd:

If the education at Welsh-medium schools was not up to scratch, she would have gone to an English-medium school and she would have learnt Welsh another way. (Cyfweliad 47:255–7

Yr oedd canlyniadau arolygon Estyn yn ffactor wrth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg hefyd (Cyfweliad 17:83). Yr oedd bron fel petai canlyniadau da yn cyfiawnhau’r dewis, yn enwedig os nad oedd gan y teulu unrhyw brofiad o’r system addysg cyfrwng Cymraeg.

Enw Da Ysgolion ac Athrawon Cyfrwng Cymraeg

Ers y cychwyn cyntaf, bu gan ysgolion cyfrwng Cymraeg enw da fel ysgolion yn cynnig addysg amlochrog i’w plant. Yn wir, bu gan yr ysgolion enw da yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn bersonol. Yn sicr, yr oedd tystiolaeth amlwg bod enw da ysgolion cyfrwng Cymraeg Cwm Rhymni yn lledu ar lafar gwlad. Fel y nododd mam ddi-Gymraeg yn y sector feithrin, ‘I haven’t heard a bad thing about it!’ (Cyfweliad 47:55–6). Cyfeiriodd nifer o’r sampl at enw da’r ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg leol, a chadarnhawyd hynny gan un tad di-Gymraeg yn y sector cynradd:[14]

The feedback about the Welsh-medium comprehensive school is very positive. In terms of the quality of education, what we’ve heard and what we’ve seen is a good standard. (Cyfweliad 55:78–80

Cyfeiriodd nifer o rieni’r sampl at ddylanwad gweinyddesau meithrin, athrawon a phenaethiaid ysgolion penodol wrth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant (Cyfweliad 19:29–31). Yn ogystal, pwysleisiwyd gwerth a dylanwad sefydliad y Mudiad Ysgolion Meithrin a’r grwpiau Ti a Fi ymhlith y sampl ymchwil. Dyma a ddywedodd un fam ddi-Gymraeg yn y sector cynradd:

One of the main reasons really was the playgroup, Ti a Fi. She made a good group of friends up there and I made a good group of friends there too so it just really progressed from there. (Cyfweliad 59:70–3) 

 

Addysg ‘Well’

Yr oedd mwyafrif helaeth o’r sampl ymchwil yn gytûn bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynnig addysg well i’w disgyblion o’i chymharu ag addysg ysgolion cyfrwng Saesneg lleol ac mae hyn yn ategu ymchwil Thomas (2007). Yr oedd yn briodol pwysleisio mai barn unigolion y sampl ymchwil oedd hyn am nad oedd yr astudiaeth hon yn cynnwys archwilio’r system addysg cyfrwng Saesneg. Rhieni di-Gymraeg ac ambell riant iaith gymysg yn hytrach na rhieni iaith Gymraeg a oedd yn lleisio’r farn hon sy’n gwrthbrofi ymchwil Khleif (1974 a 1980). Yr oedd yn bosib bod addysg cyfrwng Cymraeg yn caniatáu symudoledd cymdeithasol uwch ac mae’r canfyddiad hwn yn ymdebygu i ganfyddiad ymchwil Williams et al., (1978).

Diffiniodd sawl rhiant, yn enwedig rhieni yn y Mudiad Ysgolion Meithrin, addysg well fel addysg sy’n cynnig dwyieithrwydd i’w plant. Yr oedd yn bosibl bod ymdrechion polisi Bwrdd yr Iaith Gymraeg, drwy gynllun TWF, wedi treiddio i’w hisymwybod, fel y soniodd un fam ddi-Gymraeg yn y sector feithrin, ‘a better start, at the end of the day, what do we want for our children, but the best?’ (Cyfweliad 46:90). Ymhellach, nododd cynddisgyblion o brofiad fod y system Gymraeg yn cynnig ‘addysg well, mae’n fwy teuluol’ (Cyfweliad 1: 281–4). Ymddangosodd tueddiadau elitaidd ymysg nifer fechan o rieni’r sampl ymchwil. Yr oeddent wedi dewis addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd eu barn bod y system addysg yn un well. Yr oedd eu sylwadau’n cyd-fynd ag astudiaeth Williams et al., (1978:201) lle yr oedd gan rieni’r astudiaeth ‘a belief in the superiority of bilingual education.’

Yn ôl rhai, system a ymdebygai i’r system addysg breifat oedd y system addysg cyfrwng Cymraeg, sy’n ategu ymchwil Packer a Campbell (1997). Fel yr ymhelaethodd mam ddi-Gymraeg yn y sector uwchradd: [15]

It’s almost like having a public school education in the national system, the way the teachers behave with children and their expectations ... it’s the discipline and the pride & help (Cyfweliad 30:56–9)

Diffygion Honedig Ysgolion Saesneg

Fel y nodwyd eisoes, nid pwrpas yr ymchwil hwn oedd cymharu systemau addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Saesneg, felly nid yw honiadau rhieni’r sampl yn adlewyrchu tystiolaeth gadarn ymchwil empeiraidd. Serch hynny, oherwydd mai’r Saesneg yw prif gyfrwng addysg leol, naturiol oedd y gymhariaeth rhwng y systemau addysg a wnaethpwyd gan rieni’r sampl.

Yn ôl nifer o’r sampl, yr oedd ysgolion cyfrwng Saesneg lleol yn rhai amhersonol, lle nad oedd athrawon yn ymddiddori cymaint yn y plant, yn wahanol i ysgolion cyfrwng Cymraeg lle’r oedd pawb yn adnabod pawb. Soniodd nifer o’r rhieni nad oedd yr ysgolion cyfrwng Saesneg lleol yn cynnig amrediad eang o weithgareddau allgyrsiol. Nododd un fam iaith gymysg yn y sector cynradd fod ysgolion Cymraeg yn ‘’neud fwy o bethau drwy’r ysgol, mwy o gyngherddau, mwy o bopeth’ (Cyfweliad 1:285–7). Er bod ysgolion cyfrwng Saesneg yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, y mae’r Eisteddfod yn gysylltiedig ag ysgolion cyfrwng Cymraeg, felly y mae ganddynt ddimensiwn allgyrsiol ychwanegol i’w gynnig.

Prif reswm nifer helaeth o’r rhieni di-Gymraeg dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg oedd er mwyn rhoi’r cyfle i’w plant ddysgu’r Gymraeg. Yn y bon, nid oeddent yn credu y byddai modd iddynt wneud hynny o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg yr ardal. Yr oeddent am i’w plant ddysgu’r Gymraeg ar lefel gyfartal â’r Saesneg yn hytrach nag fel ail iaith ychwanegol. Er y cynnydd yn narpariaeth y Gymraeg drwy’r cyfnod sylfaen, barn nifer oedd bod gwersi Cymraeg ysgolion cyfrwng Saesneg yn dameidiog a dim ond yn cynnig ‘a second language smattering’ (Cyfweliad 42:23) yn ôl mam ddi-Gymraeg yn y sector meithrin. Ystyriai nifer o rieni’r iaith Gymraeg yn gymhwyster ynddo ei hun. Cadarnhawyd hyn gan fam ddi-Gymraeg y sector uwchradd; ‘It’s a qualification in its own right, if there’s nothing else you come out from school with’ (Cyfweliad 34:29–30) ac roedd yn amlwg nad oedd hyn ar gael o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Manteision Dwyieithrwydd

Patrwm pendant ymhlith rhesymau rhieni oedd manteision dwyieithrwydd ynghlwm wrth siarad Cymraeg. Mae hyn yn ein hatgoffa o astudiaeth H. Thomas (2007) ar addysg cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru a nododd mai un o brif resymau y rhieni dros anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg oedd eu bod am i’w plant fod yn ddwyieithog.

Soniodd canran fechan o’r rhieni fod dwyieithrwydd yn ennyn parch ym myd proffesiynol y gweithle (Cyfweliad 32:262–5) ac, yn ogystal, bod sgiliau dwyieithog o gymorth wrth feithrin sgiliau cyfrwng Saesneg hefyd, megis geirfa eang a hyblygrwydd ieithyddol rhwng y ddwy iaith; yn ôl tad di-Gymraeg yn y sector uwchradd, ‘it gives them help with their English as well’ (Cyfweliad 52:34). Prif fantais dwyieithrwydd i’r rhieni oedd ei bod yn haws dysgu ieithoedd eraill ac mae hyn yn ategu ymchwil Baker a Prys Jones (1998). Fel y nododd un fam iaith gymysg yn y sector uwchradd:

the advantage they then have in learning other languages is quite marked. That moving on from a second language to a third and a fourth seems a lot more natural than moving on from being a monoglot. (Cyfweliad 6:37–40) 

Gofal Bugeiliol

Rheswm addysgol amlwg i rieni Cwm Rhymni oedd ‘bod gofal bugeiliol yn yr ysgolion yn dda iawn’ (Cyfweliad 17: 123–4). Ystyrid gofal bugeiliol o werth aruthrol o fewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn aml yr oedd yn sail dewis y system addysgol. Yr oedd naws ‘fwy teuluol ... lot fwy personol’ (Cyfweliad 1:279 a 289) yr ysgolion Cymraeg yn ffactor amlwg, yn enwedig i’r sawl nad oedd yn medru’r Gymraeg. Yr oedd rhwydwaith cymunedol ysgolion cyfrwng Cymraeg yn apelgar iawn wrth ddewis buddsoddi o fewn system addysg. Trafododd nifer o rieni di-Gymraeg natur groesawgar a chyfeillgar ysgolion Cymraeg. Mynegwyd hyn gan un fam yn y sector feithrin, ‘they were so welcoming, the reception was lovely, they couldn’t do enough for us’ (Cyfweliad 47:42–3). Soniodd nifer o rieni di-Gymraeg fod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gofalu am eu hanghenion unigryw o fewn system addysg cyfrwng Cymraeg, ‘they explained the situation with non-Welsh speakers with homework’ (Cyfweliad 47:44–5).

Disgyblaeth

Cytunai nifer o’r sampl fod gan ysgolion cyfrwng Cymraeg safonau disgyblaeth amlwg iawn. Ymddangosodd ‘disgyblaeth’ bron yn ddieithriad wrth gyf-weld â phob un atebydd, bron fel petai’r elfen ddisgyblaethol yn rhan annatod, ddi-gwestiwn o addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, cysylltid disgyblaeth ag ethos arbennig ysgolion Cymraeg o lwyddo i drosglwyddo’r Gymraeg i ddisgyblion di-Gymraeg. Dôi rhyw elfen ychwanegol o ddisgyblaeth yn sgil hynny. Cymharwyd disgyblaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg â’r hen ysgolion gramadeg. Cadarnhaodd tad di-Gymraeg yn y sector cynradd y sylw hwn:[16]

… there seemed to be a nice feeling like an old grammar school and they seemed to still have all the old values and traditions there; you could tell there was good discipline in the school. (Cyfweliad 59:82–5)

Rhesymau Economaidd

Rhesymau economaidd oedd y trydydd rheswm i rieni’r sampl ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yng Nghwm Rhymni. Yn wir, dewisodd 8 y cant (n=4) o rieni’r sampl ymchwil resymau economaidd dros ddewis y system i’w plant. Rhoddai rhieni bwysigrwydd amrywiol i resymau economaidd wrth ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg. Yr oedd y rhan fwyaf wedi crybwyll rhesymau economaidd fel bonws wrth ddewis y system, tra defnyddiodd eraill resymau economaidd er mwyn cyfiawnhau’r dewis. Fodd bynnag, i’r mwyafrif, nid rhesymau economaidd oedd bwysicaf wrth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ac mae hyn yn gwrthbrofi hypothesis yr ymchwil hwn. Y rhieni a flaenoriaethodd fuddion economaidd y system addysg cyfrwng Cymraeg oedd y rhai a oedd o’r gred y byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig gwell swyddi i’w plant yn y dyfodol. Yr oeddent yn arddangos penderfyniad pellgyrhaeddol ac yr oeddent am fuddsoddi yn nyfodol eu plant wrth ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg iddynt. Gallwn gyfeirio at astudiaeth Williams et al. o’r Rhondda (1978) sy’n crybwyll bod rhieni sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn ‘burghers’ sy’n gweld eu plant yn aros yng Nghymru yn y dyfodol ac felly’n gweld gwerth iddynt feddu ar y Gymraeg er mwyn iddynt brofi symudoledd cymdeithasol a swydd well yn y pen draw.

Wrth drafod y rhesymau economaidd yr oedd y rheini’n cynnwys, ‘swyddi gwell’, ‘gweithio ledled Cymru’, ‘manteision yn y gweithle’, ‘agor drysau iddynt’, ‘gwerth ychwanegol i’r Gymraeg gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru’, ‘gwell cyfleoedd’, ‘gweld o brofiad y cyfleoedd gwaith ychwanegol’ i enwi ond ychydig. Fe drown yn awr yn fanylach at y pynciau a drafodwyd gan y rhieni o fewn yr adran hon.

Cymru Ddwyieithog: Swyddi a Chyfleoedd Gwell yn Gymraeg

Swyddi gwell a swyddi mwy amrywiol yn y dyfodol oedd un o brif resymau economaidd rhieni’r sampl ymchwil. Nododd un fam ddi-Gymraeg [17] yn y sector cynradd ei bod am roi mantais i’w phlant:

The main reason was to give them an advantage in life … I wanted better for my children … I think they’ll benefit in job prospects. (Cyfweliad 13:171 a 172–3 a 175)

Fel hyn y disgrifiodd un fam iaith gymysg fuddion dwyieithrwydd ac astudio trwy addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel uwch:

Y prif beth yw, byddai mwy o gyfleoedd gyda nhw pryd maen nhw’n hŷn os maen nhw’n gallu siarad dwy iaith ... Mae’r myfyrwyr sydd wedi bod yn llywydd prifysgolion Cymru – mae’r Gymraeg yn agor gymaint o ddrysau iddynt. (Cyfweliad 3: 310–3 a 325–30)

Manteision Economaidd Dwyieithrwydd

Cyfeiriodd rhieni’r sampl at fanteision economaidd sy’n gysylltiedig â dwyieithrwydd hefyd. Yr oeddent o’r farn y byddai gan blant dwyieithog fanteision amlwg dros ymgeiswyr uniaith Saesneg. Ymhelaethodd un fam fod y gallu i siarad Cymraeg yn werthfawr iawn ym myd y gweithle yn ne Cymru ac, yn ogystal, bod siarad Cymraeg yn fonws ar CV ei phlant (Cyfweliad 7: 183–5). Cyfeiriodd nifer o rieni at yr hinsawdd economaidd wael a phrinder swyddi’r cyfnod. Yr oeddent o’r farn y byddai meddu ar y Gymraeg yn rhoi mantais hollbwysig i’w plant dros ymgeiswyr uniaith Saesneg, fel y nododd un fam ddi-Gymraeg yn y sector uwchradd:

I always felt that if they came out of school with the same qualifications as a person from the English school, because they were bilingual they’d have a better chance of getting employment. (Cyfweliad 21:64–7)

Rhesymau ‘Personol’ –  sef yr Awydd i Berthyn

Prif resymau rhieni’r sampl dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant oedd rhesymau diwylliannol, addysgol ac economaidd. Serch hynny, crybwyllodd nifer cyfyngedig o rieni prin (8 y cant  neu n=4) resymau yn gysylltiedig â’r awydd i berthyn. Mae yna arwyddocâd ehangach i’r canlyniad hwn. Yn wir, ynghyd â chymelliadau integreiddiol (yr awydd i gymathu i gymuned ieithyddol arbennig) ac offerynnol (yr awydd i feddu ar symudoledd cymdeithasol, er enghraifft drwy basio arholiad) dros ddysgu iaith (Gardner a Lambert, 1972) dadleua nifer fod dysgu iaith yn golygu awydd i fynegi hunaniaeth bersonol hefyd (Crookes a Schmidt, 1991). Yr oedd y rhesymau’n cynnwys sylwadau megis ‘heb fynychu ysgol Gymraeg – cyfle na ges i’, ‘ffrindiau lleol yn mynychu Mudiad Ysgolion Meithrin’, ‘dylanwad teulu estynedig Cymraeg’ a ‘dylanwad ffrindiau’

Teulu Estynedig yn Siarad Cymraeg

Yr oedd rhai rhieni wedi dewis addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd bod eu teuluoedd estynedig yn siarad Cymraeg. Dewis naturiol, felly, i rieni iaith Gymraeg ac iaith gymysg fel ei gilydd oedd addysg cyfrwng Cymraeg, sy’n ategu ymchwil Packer a Campbell (1997). Nododd un fam iaith gymysg yn y sector cynradd, ‘yr oedd teulu Dad yn deulu Cymraeg, mae pawb yn y teulu yn siarad Cymraeg’ (Cyfweliad 43:31–2). Soniodd canran fechan o rieni di-Gymraeg y sampl fod eu brodyr/chwiorydd wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg er nad oeddent wedi gwneud hynny eu hunain. Yn sgil hyn, yr oeddent yn fwy penderfynol o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant eu hunain.

My wife has been educated through Welsh medium education. She was the driving force behind sending the children through Welsh medium education, I supported that, and I’m a passionate Welsh man. (Cyfweliad 20:12–4)

Dylanwad Ffrindiau

Yr oedd dylanwad ffrindiau yn amlwg o fewn yr ymchwil cynradd. Yr oedd ffrindiau a oedd wedi dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn ddylanwad amlwg ar rieni’r sampl ymchwil. Yr oedd nifer sylweddol o rieni’r sampl wedi troi at eu ffrindiau am gyngor wrth benderfynu dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant:

My very good friends went to the Welsh school, I spoke to them about it, my one friend who works at the BBC, said his English spelling was a little bit behind until he was nine or ten, but he soon picked that up and it wasn’t a major issue. (Cyfweliad 55:105–8)

Rheswm sawl rhiant dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg oedd bod plant eu ffrindiau yn mynychu ysgolion y Mudiad Ysgolion Meithrin neu ysgolion Cymraeg lleol (Cyfweliad 15:17–8). Sefydlwyd rhwydwaith cymdeithasol amlwg yn sgil grwpiau Ti a Fi. Gwnaeth rhieni a phlant ffrindiau da iawn o fewn y sefydliad a dyna yn aml a’u sbardunodd i barhau ag addysg cyfrwng Cymraeg llawn fel criw o ffrindiau. Yn ôl un fam ddi-Gymraeg uwchradd, ‘we all decided to send our children to the Welsh school together at the same time’ (Cyfweliad 60:56–8). Bu grŵp Ti a Fi’n ddylanwad mawr ar nifer o rieni drwy eu cyflwyno i’r system Gymraeg yn sgil ymweliadau brwdfrydig â’r ysgolion Cymraeg lleol (Cyfweliad 47:42–6).

Casgliadau

Dengys canlyniadau ymchwil cynradd astudiaeth Cwm Rhymni fod rhieni sampl Cwm Rhymni wedi dewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant oherwydd cyfuniad o resymau amrywiol a chymhleth eu natur. Yr hyn sy’n amlwg yw bod rhieni’r sampl yn parchu’r sector addysg cyfrwng Cymraeg ac, yn ogystal, bod y system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni ac yn ne Cymru yn gyffredinol yn arf cynllunio ieithyddol llwyddiannus tu hwnt. Gallwn ddatgan mai’r system addysg cyfrwng Cymraeg sydd wrth wraidd cynnydd yn niferoedd siaradwyr Cymraeg ifanc yn ne-ddwyrain Cymru. Yn wir, mae’r astudiaeth yn cadarnhau llwyddiant y system addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd ffydd ac ymrwymiad siaradwyr di-Gymraeg yn y system addysg benodol hon.

Elfen addawol o’r ymchwil yw nodi mai rhesymau diwylliannol yn hytrach na rhai addysgol, economaidd a phersonol (yr awydd i berthyn), yw prif reswm rhieni’r sampl dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. At hynny felly, mae gan y canlyniad effaith gadarnhaol ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg ar lefel micro (Cwm Rhymni) ac ar lefel macro (Cymru) ac ar wrthdroi shifft ieithyddol yr iaith Gymraeg (Fishman, 1991). Wrth gwrs, y mae’r canlyniad hwn yn gwrthbrofi hypothesis gwreiddiol yr ymchwil a nododd y byddai rhieni Cwm Rhymni yn dewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn sgil rhesymau economaidd a hyn, felly, yn ategu ymchwil Williams et al., (1978). Fodd bynnag, mae canlyniad ymchwil hwn hefyd yn awgrymu bod gan rieni ymwybyddiaeth uwch o effeithiau pellgyrhaeddol eu dewisiadau addysgol ar ddyfodol yr iaith Gymraeg ei hunan. Ymhellach, wrth drafod cymelliadau amrywiol dros ddysgu iaith, gellid dadlau bod cymhelliad integreiddiol o ddewis iaith yn debygol o fod yn ddylanwad mwy llwyddiannus yn y hir tymor na chymhelliad offerynnol wrth ddysgu iaith (Crookes et al.,1991 ac Ellis, 1997).

Fodd bynnag, yr oedd canran o rieni wedi dewis y system addysg Gymraeg am resymau economaidd ac felly rhaid gofyn a yw’r rheswm hwn yn ddigon er mwyn sicrhau dyfodol cadarn i’r iaith Gymraeg mewn ardal sydd â defnydd cymdeithasol cymharol isel o’r iaith Gymraeg?  I gloi, rhaid datgan yn sgil casglu data cynradd yn seiliedig ar astudiaeth Cwm Rhymni mai cymelliadau integreiddiol yn hytrach na chymelliadau offerynnol yw cymhellion cryfaf rhieni’r sampl ymchwil hwn dros ddewis y system addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Yn sicr, wrth edrych i’r dyfodol, y mae hwn o bosibl yn ganlyniad pwysig wrth gynllunio twf addysg Gymraeg yng Nghymru.

Atodiad 1: Tabl Swyddi Enghreifftiol Sampl Cwm Rhymni yn ôl yr NS-SEC
(National Statistics Socio-Economic Class Classification)

 

 

 

1

Dosbarthiad Galwedigaethol

yr NS-SEC Rheolaethol

Proffesiynol Uwch

Swyddi Enghreifftiol Sampl Cwm Rhymni Llyfrgellydd Siartredig

 

Pennaeth Ysgol Gynradd/ Uwchradd

 

 

 

2

Rheolaethol/ Proffesiynol Is

Athrawon

 

 

Gweithwyr Cymdeithasol

 

 

 

3

Swyddi Canolraddol

Gweithwyr Sifil Canolraddol

 

 

Swyddogion yr Urdd/ Menter Iaith

 

 

 

4

Hunan Gyflogedig/ Ar ei Liwt ei Hun

Rhedeg Cwmni Adeiladu

 

 

Rhedeg Cwmni Dillad Babi

 

 

 

5

Goruchwyliol/ Technegol Is

Goruchwylwyr y Sector Manwerthu

 

 

Is-swyddogion Cyngor Lleol

 

 

 

6

Lled Ailadroddus

Cynorthwywyr Meithrin

 

 

Derbynyddion

 

 

 

7

Ailadroddus

Gweithwyr Ffatri

 

 

Casglwyr Sbwriel

 

 

 

8

Di-waith hir dymor

N/A

 

 

N/A

Nodiadau

[1] Roedd arolwg o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn 2004 pwysleisio llwyddiant yr ysgol ac yn ‘cadarnhau i raddau helaeth ymdeimlad cryf o Gymreictod ymhlith disgyblion yr ysgol’ er bod 99 y cant o’r disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Gweler http://www.cwmrhymni.com/newyddion/Hanes%20yr%20arolwg.htm (cyrchwyd 1 Mai 2010).

[2] Cyfrifiad 2001: Prif Ystadegau am y Gymraeg www.byigwlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/331.doc

[4] Ers Cyfrifiad 1991 bu cynnydd o 20.8 y cant ymhlith siaradwyr Cymraeg 5–15 oed yng Nghaerffili (Ffynhonnell: Tabl L67W Cyfrifiad 1991; Tabl CAS146 Cyfrifiad 2001, ill dau o NOMIS).

[5] Yn ôl Cynllun Addysg Gymraeg (20102–14) Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (2009:17) cynyddodd y niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 3 o fewn yr ysgolion cyfrwng Saesneg o 3,851yn 1996 i 6,604 yn 2008.

[6] Mam ddi-Gymraeg, 42 oed, swydd broffesiynol uwch (NS-SEC 1), prifathrawes ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, byw yn ardal gogleddol y cwm.

[7] Mam ddi-Gymraeg, 38 oed, swydd ganolraddol (NS-SEC 3) yn y gwasanaeth sifil, byw yng nghanol y cwm.

[8] Tad 43 oed o deulu iaith gymysg, siaradwyr Cymraeg, swydd broffesiynol uwch (NS-SEC 1), rheoli adran lywodraethol, hanu o orllewin Cymru, byw yng nghanol y cwm. Golyga ‘iaith gymysg’ deulu lle mae un rhiant yn siarad Cymraeg a’r llall yn siarad Saesneg.

[9]Tad o deulu iaith gymysg, 47 oed, wedi dysgu’r Gymraeg a ganddo ddaliadau cenedlaetholgar, swydd ailadroddus (NS-SEC 7) gweithiwr ffatri, byw ar waelod y cwm.

[10]Mam ddi-Gymraeg, 38 oed, byw ym mhen ucha’r cwm, yn ddi-waith (NS-SEC 8)

[11]Mam o deulu iaith gymysg, 41 oed, dysgwraig y Gymraeg, swydd broffesiynol uwch (NS-SEC 1), pennaeth ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yr ardal, byw ar waelod y cwm.

[12]Mam iaith Gymraeg, 50 oed, swydd broffesiynol is (NS-SEC 2), athrawes ysgol cyfrwng Cymraeg, hanu o gwm cyfagos ac yn byw yn ardal ddeheuol y cwm.

[13]Tad di-Gymraeg, 47 oed, swydd ganolraddol (NS-SEC 3) yn y gwasanaeth sifil, hanu o Loegr, wedi byw yn ne Cymru ers 20 mlynedd.

[14] Tad di-Gymraeg, 25 oed, swydd ‘ailadroddus’ (NS-SEC 7) yn casglu sbwriel, byw ym Margod, canol y cwm.

[15]Mam ddi-Gymraeg 43 oed, swydd broffesiynol uwch (NS-SEC 1) yn rheoli adran lywodraeth leol, hanu o Loegr ond wedi treulio’i phlentyndod yn Ne Affrig, wedi byw yn ne Cymru ers 15 mlynedd.

[16]Tad di-Gymraeg, 37 oed, swydd proffesiynol uwch (NS-SEC 1) peiriannydd sifil, hannu o ogledd y cwm, byw yng nghanol y cwm erbyn hyn.

[17]Mam ddi-Gymraeg, 28 oed, ddi-waith hir dymor (NS-SEC 8) yn byw yng ngogledd y cwm.

 


Llyfryddiaeth

Aitchison, J., a Carter, H. (2000), Language, Economy and Society: The Changing Fortunes of the Welsh Language in the Twentieth Century (Cardiff: University of Wales Press).

Aitchison, J., a Carter, H. (2004), Spreading the Word: The Welsh Language 2001 (Talybont: Y Lolfa).

Baker, C. (2004), Cylchgrawn Addysg Cymru, 13 (1) golygyddol.

Baker, C., a Prys Jones, S. (gol.) (1998), Encyclopedia of Bilingualism and Bilingual Education (Clevedon, Canada, Johannesburg: Multilingual Matters).

Bourdieu, P. (1986), ‘The Forms of Capital, yn Richardson, J.G, (gol.), Handbook for Theory and Research for the Sociology of Education (London: Greenwood Press).

Bourdieu, P. (1987), ‘What makes a social class? On the theoretical and practical existence of groups’, Berkeley Journal of Sociology 32, 1–18.

Bourdieu, P. (1991), Language and Symbolic Power, J. Thompson (gol.), wedi ei gyfieithu gan Gino Raymond and Matthew Adamson (Cambridge: Polity Press).

Bush, E. (1979), Bilingual Education in Gwent: Parental Attitudes and Aspiration, Traethawd M.Ed., heb ei gyhoeddi, Prifysgol Cymru.

Bush, E., Atkinson, P., a Read, M. (1981), A Minority Choice: Welsh medium Education in an Anglicised Area- Parents’ Characteristics and Motives (Caerdydd: Uned Ymchwil SosiolegUnit, Adran Sosioleg Prifysgol Caerdydd).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1999), Dilyniant mewn Addysg Gymraeg (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2003), Cyfrifiad 2001: Prif Ystadegau am y Gymraeg
www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/331.doc (cyrchwyd 04:05.10)

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2004), Strategaeth Addysg a Hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2006), Strategaeth Ieuenctid Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).

Crookes, G., a Schmidt, R. (1991), ‘Motivation: Reopening the research agenda’.

Language Learning, 41, 469–512.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (2009), Drafft Ymgynghorol Addysg Gymraeg 2010–2014 (Tredomen: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili).

European Commission:Mulitingualism: Euromosaic Study http://www.uoc.edu/euromosaic/web/homean/index1.html, (cyrchwyd 10.09.08]

Fishman, J. (1991), Reversing Language Shift  (Clevedon, Avon: Multilingual Matters).

Gardner, R. C., a Lambert, W. E. (1972), Attitudes and motivation second language learning (Rowley, M.A: Newbury House).

Gruffudd, H. (2000), ‘Planning for the Use of Welsh by Young People’ yn C. H. Williams (gol.) Language Revitalisation and Language Planning (Cardiff: University of Wales Press), tt. 173–207.

HMSO (1993), Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (Llundain: HMSO).

Hodges, Rh. (2009), ‘Welsh Language Use Among Young People in the Rhymney Valley’, Contemporary Wales, Vol. 22, 16–35.

Khleif, B. (1974), ‘Cultural regeneration and the school: An anthropological study of Welsh-medium schools in Wales’yn International Review of Education, Springer Netherlands, Vol. 22 (2), 176–189.

Khleif, B. (1980), Language, ethnicity, and education in Wales (The Hague; New York: Mouton).

Lewis, W. G. (2006), ‘Addysg gynradd Gymraeg: her a chyfle yr unfed ganrif ar hugain’ yn C. Redknap, W. G. Lewis, S. Rh. Williams a J. Laugharne (gol.) (2006), Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog (Bangor: Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, Bangor).

Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2001), Y Wlad sy’n Dysgu: Rhaglen Gynhwysfawr Addysg a Dysgu Gydol Oes hyd at 2010 yng Nghymru (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).

Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2003), Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).

Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2009), Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Drafft Ymgynghorol (Caerffili: Llywodraeth Cenedlaethol Cymru).

Lyon, J. ac Ellis, N. (1991), ‘Parental attitudes towards the Welsh language’, Journal of Multilingual and Multicultural Development, 12:4, 239–51.

Lyon, J. (1996), Becoming Bilingual: Language Acquisition in a Bilingual Community (Clevedon, Philadelphia, Toronto, Adelaide, Johannesburg: Multilingual Matters).

Packer, A. ac Campbell, C. (1997), Pam fod Rhieni yn dewis Addysg Gymraeg i’w Plant? Astudiaeth Ansoddol o Agweddau Rhieni, wedi ei chynnal o fewn Dalgylch Ysgol Gymraeg ei Chyfrwng, mewn Ardal Seisnigedig (Aberystwyth: Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru).

Packer, A. and Campbell, C. (2000), ‘Parental Choice in the selection of Welsh-medium education’ yn Thomas, P. T. a Mathias, J. (gol.) (2000), Developing Minority Languages: The Proceedings of the Fifth International Conference on Minority Languages July 1993 (Caerdydd, Llandysul: Gwasg Gomer).

Reynolds, D., Bellin, W. ac ab Ieuan, R. (1998), Mantais Gystadleuol: Pam Fod Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn Perfformio’n Well? (Caerdydd: Y Sefydliad Materion Cymreig).

Roth, G .a Wittich, C. (gol.) (1968), Max Weber: Economy and Society (New York: Bedminister Press).

Ellis, R. (1997), The study of second language acquisition (Oxford: Oxford University Press).

Thomas, H. (2007), Brwydr i Baradwys? Y Dylanwadau ar dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru, Traethawd PhD heb ei gyhoeddi, Prifysgol Caerdydd.

Walliman, N. (2006), Social Research Methods (London, Thousand Oaks and New Delhi: Sage Publications).

Watson, W. (1964), ‘Social mobility and social class in industrial communities’ yn M. Gluckman and E. Devons (gol.), Closed Systems and Open Minds (Llundain: Oliver and Boyd 129–56).

Weber, M. (1964), The Theory of Social and Economic Organization, cyfieithwyd gan A. Henderson and T. Parsons, golwygwyd gan T. Parsons (Glencoe: Free Press).

Williams, C. H (gol.) (2000), Language Revitalization: Policy and Planning in Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Williams, G. a Morris, D. (2000), Language Planning and Language Use: Welsh in a Global Age (Cardiff, University of Wales Press).  

Williams, G., Roberts. E. ac Isaac, R. (1978), ‘Language and Aspirations for Upward Social Mobility’ yn Williams, G. (gol.) Social and Cultural Change in Contemporary Wales (London: Routledge and Kegan Paul).

___________________

Manylion Bywgraffyddol

_________________

rhannu gyda ffrindiau

Designed & Developed by WiSS Limited