Rhifyn Cyfredol

Llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia

Elin Royles

Cyflwyniad

Ymysg y rhesymau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol dros sefydlu llywodraeth ranbarthol, un rheswm cyffredin yn achos Sbaen a’r Deyrnas Gyfunol oedd cryfhau ac adfywio democratiaeth. Yn achos Sbaen eglura Subirats: ‘Much of the case for decentralization ... focuses on the idea that regionalization can improve democracy and policy responsiveness through better representation, identification with civil society and adapation of policy to place’ (2005: 180). Yn y Deyrnas Gyfunol, yn ymhlyg yn y prosiect datganoli, yr oedd ymdrech i ddod â llywodraeth yn agosach at y bobl. Eglurodd y Papur Gwyn, Llais dros Gymru: ‘Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i greu democratiaeth newydd ym Mhrydain lle bydd mwy yn cael eu cynnwys ac yn cymryd rhan. Mae ei chynigion ar gyfer Cynulliad i Gymru’n adlewyrchu’r nodau hyn’ (Swyddfa Gymreig, 1997: 15). Pwysleisiwyd y gallai cymdeithas sifil fod yn ganolog i greu gwleidyddiaeth newydd a hyrwyddo mwy o gyfranogaeth.

Hyd yn hyn, y duedd yw cymharu cymdeithas sifil yng Nghymru â’r Alban (Paterson a Wyn Jones, 1999). Bwriad yr erthygl hon yw ehangu’r astudiaeth drwy asesu effaith llywodraeth ranbarthol ar y berthynas rhwng cymdeithas sifil a chyrff datganoledig yng Nghymru a Chatalwnia. Er mwyn ymchwilio i hyn, asesir y graddau y mae strwythurau llywodraeth ranbarthol yn hybu cyfranogaeth cymdeithas sifil yn y broses wleidyddol; manylir ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar y graddau y mae cymdeithas sifil yn ymwneud yng ngwaith llywodraeth ranbarthol. Yn olaf, dadansoddir a yw llywodraeth ranbarthol yn effeithio ar hunaniaeth cymdeithas sifil. Mae’r casgliadau’n seliedig ar dystiolaeth astudiaethau achos manwl ansoddol o drawsdoriad o fudiadau cymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia.[1] Yr astudiaethau achos dan sylw oedd y mudiadau iaith, sef Cymdeithas yr Iaith a Cymuned, ac yng Nghatalwnia, Plataforma per la Llengua; mudiadau hoywon, lesbiaid, a phobl ddeurywiol, sef Stonewall Cymru, ac yng Nghatalwnia Casal Lambda a Coordinadora Gai-Lesbiana (CGL); ac Oxfam Cymru ac Intermòn Oxfam yng Nghatalwnia, y ddau’n ymgyrchu dros faterion datblygiad rhyngwladol ac yn aelodau o Oxfam International.[2]

O ran strwythur, dechreuir drwy drafod syniadau damcaniaethol perthnasol a gosodir y cyd-destun i’r gymhariaeth. Ar sail hyn, bydd yr adrannau sy’n dilyn yn trafod casgliadau’r ymchwil o ran effaith datganoli ar y rhyngberthynas rhwng cymdeithas sifil a llywodraeth ranbarthol. I gloi, trafodir goblygiadau ehangach yr ymchwil i’n dealltwriaeth o ddatganoli a diwylliant gwleidyddol yn y ddwy genedl a mynd ati i geisio awgrymu gwersi i Gymru. Y gobaith yw cyfrannu at y llenyddiaeth ar gymdeithas sifil a diwylliant gwleidyddol yng Nghymru a Chatalwnia ac at y llenyddiaeth ehangach ar lywodraeth ranbarthol yn Ewrop.

 

Cymdeithas sifil: y llenyddiaeth ddamcaniaethol

Mae fframwaith Cohen ac Arato (1999) yn gwahaniaethu rhwng cymdeithas sifil, y wladwriaeth a’r economi, a hefyd gymdeithas wleidyddol a chymdeithas economaidd. Yn sylfaenol, diffinnir cymdeithas sifil fel sffêr rhyngweithio cymdeithasol. Mae’n cynnwys y teulu, ffurfiau o gyfathrebu cyhoeddus fel y cyfryngau, a’r sffêr cysylltiadol (associational), yn eu mysg gyrff gwirfoddol a mudiadau cymdeithasol (Cohen ac Arato, 1999: ix). Cyfeiria cymdeithas wleidyddol at bleidiau gwleidyddol, a mudiadau gwleidyddol, sy’n cynnwys seneddau. Mae’r gymdeithas economaidd yn cynnwys grwpiau cynhyrchu a dosbarthu fel busnesau, partneriaethau a mentrau cydweithredol (Cohen ac Arato, 1999: ix). Dadleuir bod cymdeithas economaidd a chymdeithas wleidyddol yn bwysig i alluogi cymdeithas sifil i hyrwyddo democratiaethau cynrychioliadol i fod yn fwy democrataidd  (Cohen ac Arato, 1999: 413). Honnir mai prif wendid y model yw’r tueddiad i ddelfrydu cymdeithas sifil ac i gymryd yn ganiataol ei allu i hyrwyddo democrateiddio (Alexander, 1993: 801; Calhoun, 1995: xii–xv). Fodd bynnag, gellir goresgyn yr anawsterau hyn drwy dderbyn mai model delfrydol ydyw a drwy drafod llenyddiaeth ehangach. Yma, canolbwyntiwn ar lenyddiaeth sy’n ymhel â pherthynas y gymdeithas sifil â’r wladwriaeth a thueddiadau sy’n cwestiynu ei gyfraniad democrataidd.

Mae perthynas y gymdeithas sifil â’r wladwriaeth yn gallu amrywio’n fawr. Dwy lenyddiaeth sy’n trafod y ddau begwn o ran natur perthnasau rhwng y wladwriaeth a chymdeithas sifil yw’r safbwynt Trydedd Ffordd a’r llenyddiaeth neo-gorfforaethol. Mae’r safbwynt cyntaf yn pwysleisio gwerth partneriaeth rhwng cymdeithas sifil a’r wladwriaeth er mwyn adfer democratiaeth a chyfoethogi cyfraniad cymdeithas sifil i waith llywodraeth. Cam pellach yw bod cymdeithas sifil hefyd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn hyrwyddo datblygu cymunedol (Giddens, 1998: 69; 2000: 81). Mynegir consýrn gan y feirniadaeth neo-gorfforaethol y gall partneriaeth rhwng cymdeithas sifil a’r wladwriaeth ddatblygu’n rhy glòs gan fygwth rôl ddemocrataidd cymdeithas sifil. Er mwyn egluro’r consýrn, gwahaniaethir rhwng lluosogyddiaeth (pluralism) a neo-gorfforaetholdeb (neo-corporatism). Yn ôl Schmitter mae lluosogyddiaeth yn:

"system of interest intermediation in which the constituent units are organized into an unspecified number of multiple, voluntary, competitive, non-hierarchically ordered and self-determined ... categories which are not ... controlled in leadership selection or interest articulation by the state and which do not exercise a monopoly of representational activity within their respective categories." (1979: 15)

Mewn gwrthgyferbyniad, mae’r llenyddiaeth neo-gorfforaethol yn tynnu sylw at berthnasau neilltuol rhwng grwpiau dethol breintiedig â’r wladwriaeth. Mae neo-gorfforaetholdeb yn hawlio bod tuedd i un grŵp gynrychioli pob sector diddordeb. O ganlyniad, mae cystadleuaeth gan grwpiau eraill yn y sector yn brin (Wilson, 1990: 69). I’r llywodraeth, mantais strwythurau i gynnwys rhai grwpiau mewn llunio penderfyniadau yw elwa ar arbenigedd a bod yn ymarferol wrth gyfyngu ar nifer y grwpiau sy’n cyfrannu (Wilson, 1990: 69–70). Fodd bynnag, hawlia’r llenyddiaeth neo-gorfforaethol y gallant freintio grŵp penodol gan greu elît oddi mewn i gymdeithas sifil. Ar yr un pryd, wrth gyfyngu ar y cyfleoedd i fudiadau eraill ymwneud â’r system wleidyddol, gallant greu anghydraddoldeb rhwng grwpiau. Canlyniad arall posibl yw bygwth ymreolaeth mudiadau a llethu parodrwydd mudiadau i feirniadu a sicrhau bod y llywodraeth yn atebol (Wilson, 1990: 69).      

Fel gyda fframwaith Cohen ac Arato, mae’r llenyddiaeth yn pwysleisio potensial cymdeithas sifil i hyrwyddo democratiaeth drwy annog cyfranogaeth. Eto, tynnir sylw at dueddiadau sy’n cyfyngu ar gyfraniad democrataidd cymdeithas sifil (Foley ac Edwards, 1996: 39). Yn eu mysg mae’r lleihad yn nifer y rhai sy’n aelodau o gymdeithasau a dylanwad grymoedd negyddol oddi mewn i gymdeithas sifil (Putnam, 2000). Gall cymdeithas sifil hefyd ddwysáu’r anghydraddoldeb grym a dylanwad sy’n bodoli oddi mewn i gymdeithas sy’n codi o addysg, arian a statws (Whitehead, 1997). Felly, gwelir bod y berthynas rhwng cymdeithas sifil a’r wladwriaeth yn gallu amrywio ac ni ellir cyffredinoli na chymryd yn ganiataol ei botensial democrataidd.

Cyd-destun cymdeithas sifil a llywodraeth ranbarthol Cymru a Chatalwnia

Yn aml, tra ystyrir Catalwnia yn y rheng flaenaf o genhedloedd diwladwriaeth, gosodir Cymru yn yr ail reng (Keating, 2001a: xv; Guibernau, 1999). Trafodwn yn fras gyd-destun llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia. Mae seiliau hanesyddol hunanlywodraeth Catalwnia yn gymaint cadarnach nag yng Nghymru. Integreiddiwyd Cymru yn rhan o wladwriaeth Lloegr cyn y cyfnod modern, y cyfnod a gysylltir â datblygiad y wladwriaeth fodern (Paterson a Wyn Jones, 1999: 173; Davies, 1994; Watkin, 2007). Parhaodd graddau o arwahanrwydd gwleidyddol, system gyfreithiol a Chatalaneg fel iaith gweinyddiaeth tan 1714 (Guibernau, 2001: 138). Nid dyma ddiwedd hanes ymreolaeth Catalwnia gan iddi hefyd brofi dau gyfnod o hunanlywodraeth yn ystod y cyfnod 1913 i 1932.

Ar yr un pryd, mae tebygrwydd o ran nodweddion hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru a Chatalwnia. Eu hanes a’u traddodiadau diwylliannol yw seiliau’r ddwy genedl a’r iaith yw prif nodwedd hunaniaeth. Ond mae statws uwch y Gatalaneg wedi rhoi sail gadarnach i hunaniaeth genedlaethol sifig Gatalaneg yn seiliedig ar iaith. Pwysleisir mai Catalaniaid yw’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghatalwnia a dilyna’r llywodraeth ranbarthol bolisi o integreiddio drwy iaith (MacInnes, 2001: 112–3; Argelaguet, 2006: 445). Mae hunaniaeth genedlaethol Gymreig a rôl allweddol yr iaith wedi bod yn fater mwy cymhleth a dadleuol. Yn y ddau achos fodd bynnag gwelir patrwm o hunaniaeth ddeuol, hynny yw teimlo’n Brydeinig a Chymreig neu’n Sbaeneg neu’n Gatalaneg i ryw raddau neu’i gilydd, fel a welir yn Nhabl A (Paterson a Wyn Jones, 1999: 185; Gunther et al., 2004: 184–5).

Hunaniaeth Genedlaethol yng Nghymru (%) 1997–20

Hunaniaeth Genedlaethol 1997 1999 2001 2003 2007
Cymreig nid Prydeinig 17.2 17.7 24.5 22.7 25.1
Mwy Cymreig na Phrydeinig 25.7 20.7 23.5 28.1 21.4
Cyfartal Cymreig a Phrydeinig 34.3 38.3 29.4 30.2 33.8
Mwy Prydeinig na Chymreig 10.4 7.8 11.2 8.9 9.8
Prydeinig, nid Cymreig 12.4 15.5 11.3 10.1 9.9

(Ffynonellau: Arolwg Referendwm Cymru 1997, Arolwg Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999, 2001 Wales Life and Times Study, Arolwg Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003; Arolwg Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007).

Hunaniaeth Genedlaethol yng Nghatalwnia (%) 1979–2006*

Hunaniaeth Genedlaethol 1979 1982 1992 1998 2001 2006
Catalaneg, nid Sbaenaidd 15 9 15 15 15 14
Mwy Catalaneg na Sbaenaidd 12 18 21 27 26 25
Cyfartal Catalaneg a Sbaenaidd 36 41 36 37 36 42
Mwy Sbaenaidd a Chatalaneg 7 9 8 6 6 8
Sbaenaidd, nid Catalaneg 31 23 20 15 15 9
Dim ateb / ddim yn gwybod         2 4

(Ffynhonell: 1979-98, Gunther et al., 2004: 184; Argelaguet, 2006 o Centro de Investigacions Sociológicas)

*er mwyn safoni a gallu cymharu dros amser, yn yr enghreifftiau o 1979 i 1998, ni chafodd y categorïau ‘ddim yn gwybod’ a ‘dim ateb’ eu cynnwys cyn cyfri’r canrannau.

O ystyried y cyd-destun hanesyddol, nid yw’n annisgwyl bod gwahaniaethau rhwng cymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia. Dadleuir fod diffyg strwythurau sefydliadol yn golygu fod cymdeithas sifil Cymru wedi datblygu mewn cyd-destun Prydeinig (Wyn Jones a Lewis, 1998: 9). Datblygodd mudiadau cymdeithas sifil Gymreig, hynny yw mudiadau mwy penodol Gymreig, pan grëwyd sefydliadau cenedlaethol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen ac yn fwyfwy felly yng nghyfnod y Swyddfa Gymreig (Paterson a Wyn Jones, 1999: 174–5). Ar y cyfan, honnir fod cymdeithas sifil yn wan. Gwnaeth gyfraniad cyfyngedig i drafod datganoli cyn refferendwm 1997 ond wedi hynny daeth yn slogan gan adlewyrchu’r gobeithion am wireddu democratiaeth gyfranogol (Paterson a Wyn Jones, 1999: 193, 181; Davies, 1999; Hain, 1999).

Yng Nghatalwnia, trafodir hanes cyfoethog cymdeithas sifil, ei chryfder a’i chyfraniad allweddol i hanes y genedl  (Giner, 2001: 170–1). Mae’n glir bod cymdeithas sifil benodol Gatalaneg wedi bodoli yn hanesyddol a bod trefniant tiriogaethol Catalanaidd cymdeithas sifil a hynny i raddau helaeth yn annibynnol ar y drefn ar lefel Sbaen (Keating, 2001a: 147). Os mai diffyg strwythurau sefydliadol Cymreig oedd yn egluro gwendid cymdeithas sifil, diddorol nodi bod Keating yn honni i’r gwrthwyneb bron am Gatalwnia: ‘This separate Catalan associative life is characteristic of a society with a distinct identity but which lacked until recently its own institutions of government’ (2001a: 177). Er y cyfyngu ar gymdeithas sifil dan Franco, parhaodd yn allweddol. Yn ystod blynyddoedd olaf Franco, datblygodd cymdeithas sifil annibynnol a gyfrannodd at hybu democrateiddio ac, yn hyn o beth, roedd Catalwnia ar y blaen i rannau eraill o Sbaen (Greer, 2007: 100; McRoberts, 2001: 56).

Wrth sefydlu llywodraeth ranbarthol, cydnabuwyd eu statws hanesyddol fel ‘cenhedloedd’. Ond, yn ymarferol, mae gwahaniaethau clir rhwng pwerau, strwythurau a gwleidyddiaeth llywodraeth ranbarthol Cymru a Chatalwnia. Yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 1998, etifeddodd y Cynulliad bwerau eilradd mewn amrywiol feysydd. Yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd y gallu i greu ei ddeddfwriaeth ei hun (Mesurau’r Cynulliad) yn yr ugain maes polisi datganoledig yn dilyn caniatâd gan San Steffan. O ran aelodaeth, etholwyd 60 Aelod Cynulliad am dymor o bedair blynedd. O ran strwythur, dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 crëwyd un corff cyfreithiol a phennwyd y dylai’r Cynulliad hefyd weithredu gyda chabinet (Sherlock, 2000: 61). Gyda Deddf 2006, crëwyd rhaniad cyfreithiol rhwng y corff gweithredol a’r ddeddfwrfa gan greu Llywodraeth y Cynulliad a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. O ran ei gwleidyddiaeth, yn y tri etholiad yn 1999, 2003 a 2007, y Blaid Lafur a enillodd y mwyafrif o seddi. Llywodraethodd fel gweinyddiaeth leiafrifol ond sefydlwyd clymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol o Hydref 2000 i Fai 2003 ac wedi etholiadau 2007, sefydlwyd clymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.[3]

Yn ôl Statud Ymreolaeth Catalwnia, ymysg y pwerau wedi eu neilltuo i lywodraeth ganolog Sbaen oedd amddiffyn, materion rhyngwladol, mewnfudo, gweinyddu’r gyfraith a chynllunio economaidd (Edwards, 1999: 671). Mae cymhlethdod yn perthyn i’r datganoli yma hefyd gan fod rhai pwerau wedi’u neilltuo i’r llywodraeth ranbarthol, rhai’n cael eu rhannu rhwng y llywodraeth ranbarthol a’r wladwriaeth, ac yna feysydd lle mae gan y Generalitat bwerau gweithredol (Pagès, 2005: 92–3). Enillwyd consesiynau pellach yn yr 1980au a’r 1990au a throsglwyddwyd mwy o bwerau i’r Generalitat (Nagel, 2001: 134). Diwygiwyd Statud Ymreolaeth Catalwnia yn 2006 a chynyddwyd grymoedd y llywodraeth mewn ystod o feysydd, megis trethi, apwyntiadau barnwrol a mewnfudo (Senedd Catalwnia, 2006). Diddorol nodi bod y ddeddf honno’n creu dyletswydd i hybu cydraddoldeb yn yr un modd â Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a 2006.[4] O ran strwythur, system seneddol sydd i lywodraeth ranbarthol Catalwnia ac etholir 135 o ddirprwyon am dymor o bedair blynedd. Y brif blaid lywodraethol o 1979 i 2003 (pum tymor llywodraethol), oedd clymblaid y CiU.[5] Dros y blynyddoedd, cafodd gefnogaeth gwahanol bleidiau i lywodraethu.[6] Yn dilyn etholiadau 2003, sefydlwyd clymblaid deirplaid, y PSC, IC-V a’r ERC, ac ym mis Tachwedd 2006, ailsefydlwyd yr un glymblaid.[7]

Ymwneud cymdeithas sifil â llywodraeth ranbarthol yng Nghymru a Chatalwnia

Yng Nghymru a Chatalwnia gwelir gwahaniaeth rhwng dulliau’r llywodraeth ranbarthol i hybu ymwneud cymdeithas sifil â’r broses wleidyddol.  Yn achos Cymru, dylanwadwyd ar gynllunio’r Cynulliad gan y gobeithion am wleidyddiaeth gynhwysol, a llywodraeth agored a thryloyw. Rhoddwyd pwyslais ar greu strwythurau i annog ymwneud â’r sefydliad yn wahanol i’r cyfnod mwy caeedig cynt. Un dull oedd drwy bwyllgorau pwnc y Cynulliad. Sianel arall oedd Cyngor Partneriaeth y Sector Wirfoddol a sefydlwyd yn sgil cyfrifoldeb cyfreithiol. Dyma gymal unigryw yn y Deyrnas Gyfunol a ddeuai ag Aelodau Cynulliad a chynrychiolwyr o 21 sector o gymdeithas sifil ynghyd. Yn ychwanegol, gosodwyd dyletswydd ar i’r Cynulliad gydymffurfio â’r egwyddor o gyfle cyfartal i bawb (Chaney, 2002b: 26). Yn sgil hyn, ariannwyd rhwydweithiau gan y Cynulliad a’r canlyniad oedd hyrwyddo cyfranogaeth grwpiau ‘lleiafrifol’ yn ymwneud â hil, rhywedd, anabledd a rhywioldeb oedd cynt wedi eu tan-gynrychioli.[8]

Yn fwy cyffredinol, dylanwadodd y gwerthoedd  llywodraeth agored a hygyrch ar ddulliau gweithredu’r Cynulliad. Mae’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth, mynediad i wybodaeth ac i gyfarfodydd y Cynulliad yn enghreifftiau o hyn. Ar y cyfan, canlyniad y gwerthoedd a’r strwythurau ffurfiol oedd hyrwyddo lefel uchel o ymwneud cymdeithas sifil â gwaith y Cynulliad. Mewn ymateb, datblygodd nifer o fudiadau ddulliau soffistigedig o ddylanwadu o ganlyniad i ailstrwythuro, proffesiynoli ac ehangu adnoddau a niferoedd staff. Roedd hyn yn aml yn cynnwys penodi swyddog yn canolbwyntio’n benodol ar gyswllt â’r Cynulliad. Gyda’r lefel hyn o broffesiynoldeb, gallai nifer o fudiadau ddilyn strategaeth ddeuol o ddefnyddio dulliau ffurfiol ac anffurfiol yn eu hymwneud â’r Cynulliad a’r llywodraeth. O bersbectif diwedd yr ail dymor, roedd hi’n amlwg fod nifer o fudiadau’n datblygu’n fwyfwy soffistigedig gan iddynt feithrin cysylltiadau da â’r Gweinidogion a gweision sifil a gwneud defnydd mwy strategol o wleidyddion y gwrthbleidiau.

Fodd bynnag, nid oedd cysondeb o ran ymwneud mudiadau cymdeithas sifil â’r Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad. Yn gyntaf, roedd gwahaniaethau cynyddol o ran gallu ac adnoddau ac anghydraddoldeb grym a dylanwad rhwng gwahanol gyrff cymdeithas sifil wrth i rai mudiadau fethu â manteisio ar y cyfleoedd newydd i ddylanwadu. Yn ail, cafodd diffyg eglurder y trefniadau cyfansoddiadol effaith wahanol ar gyrff cymdeithas sifil a’u hymwneud â’r Cynulliad. Rhoddodd y rhaniad grym cymhleth rhwng y Cynulliad a San Steffan bwysau pellach ar gyrff llai. Y paradocs oedd i’r cymhlethdod hwn hwyluso perthynas rhai mudiadau â’r Cynulliad, sef y rheiny oedd â mwy o adnoddau. O’r achosion a astudiwyd, y rheiny oedd Oxfam Cymru a Stonewall Cymru a oedd yn ymwneud gan mwyaf â meysydd heb eu datganoli (Royles, 2007). Yn drydydd, yn sgil symud i weithio yn null llywodraeth gabinet, israddiwyd nifer o’r strwythurau ffurfiol a grëwyd i fod yn gynhwysol. Daeth arbenigedd a gallu’n allweddol i ddatblygu cysylltiadau lefel uchel â gweinidogion a gweision sifil er mwyn cael dylanwad gwirioneddol ar bolisi.

Awgrymai’r dystiolaeth fod y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu perthynas fwy neilltuol â rhai cymdeithasau nag eraill. Er enghraifft, yng nghyfnod cynnar datganoli, roedd awgrym fod Cymdeithas yr Iaith a Chymuned yn annerbyniol i rai AC ac felly’n cael eu gweld y tu allan i waith y llywodraeth mewn cymhariaeth â chyrff eraill yn gysylltiedig â’r Gymraeg. Adlewyrchai hyn agweddau negyddol tuag at y Gymraeg ymysg carfan o’r Blaid Lafur Gymreig. Yn ystod yr ail dymor, bu peth newid yn yr hinsawdd o ran y Gymraeg a chafodd hyn ddylanwad ar berthynas y mudiadau â’r gwrthbleidiau ac i ryw raddau â Llywodraeth Lafur y Cynulliad. Yn fwy cyffredinol, yr awgrym o’r ymchwil oedd bod rhai grwpiau, oherwydd dulliau gweithredu a gwahaniaethau ideolegol, yn llai derbyniol i Lywodraeth y Cynulliad a rhai Aelodau Cynulliad. 

Consýrn arall oedd bod ariannu a rhwydweithiau polisi yn rhan o’r duedd i Lywodraeth y Cynulliad ddatblygu perthynas fwy neilltuol gyda rhai mudiadau. Roedd posibilrwydd bod ariannu a phartneriaethau nid yn unig yn creu cysylltiadau cryfach gyda’r llywodraeth ond yn effeithio ar awtonomi mudiadau. Awgrymai’r ymchwil y gallai perthynas gref arwain at fod yn fwy cymodlon gan ddylanwadu ar allu’r mudiadau i sicrhau bod y llywodraeth yn atebol. Tra bod rhai mudiadau a dderbyniai arian gan Lywodraeth y Cynulliad yn ddigon hyderus i gwestiynu’r llywodraeth, cydnabyddai eraill y gallai derbyn cyllid effeithio ar eu safbwyntiau. Enghraifft arall oedd y Cyngor Partneriaeth Sector Wirfoddol oedd yn tueddu i roi rhai cyrff mewn sefyllfa fwy pwerus wrth ‘gynrychioli’ eu sector heb sicrwydd digonol o’u gallu i wneud hynny. Er yr ymdrechion i ymateb i hyn, bodolai problemau o hyd ac roedd yna anghysonderau (Llywodraeth y Cynulliad, 2004b: 16). Ar yr un pryd roedd cyrff oedd â chysylltiadau anffurfiol da â’r llywodraeth yn gweld y strwythurau ffurfiol, megis y Cyngor Partneriaeth Sector Wirfoddol, yn llai pwysig gydag awgrym eu bod yn fwy trafferthus.[9] Cam cadarnhaol oedd hyrwyddo’r defnydd o secondiadau rhwng y llywodraeth a’r sector wirfoddol a chymunedol (Llywodraeth y Cynulliad, 2004b: 74). Yn ôl rhai mudiadau, bu hyn yn fodd o gryfhau gallu mudiadau, a gwella eu cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol â’r llywodraeth.[10] Felly, er mai’r Cyngor Partneriaeth oedd y brif sianel ffurfiol yn ystod y ddau dymor cyntaf, nid oedd hi’n eglur bod y strwythurau’n gweithio i hyrwyddo cyfle mwy cyfartal rhwng mudiadau (Royles, 2007: 55,151–2).

Ymddangosai fod trefniadau ariannu a ‘phartneriaethau’ agos yn gallu creu sefyllfa gymhleth. Ar y naill law, roedd y trefniadau’n ganolog i adeiladu a chryfhau cymdeithas sifil. Mae’r duedd i ddatblygu partneriaeth gyda chyrff penodedig hefyd yn ddealladwy o ran effeithlonrwydd, ac yn fodd o gynyddu lefelau cyfranogaeth ac arbenigedd. Ond, ar y llaw arall, nid oedd hi’n amlwg fod Llywodraeth y Cynulliad yn llawn ymwybodol bod effeithiau negyddol yn gallu tarddu o gysylltiadau cryfach a pherthnasau ariannu gyda mudiadau, gan gynnwys y Cyngor Partneriaeth (Chaney a Fevre, 2001b: 148; Chaney, 2002a: 6). Gall datblygu perthynas neilltuol â rhai mudiadau gyfyngu ar ddatblygiad mudiadau eraill ac effeithio ar allu cymdeithas sifil i fagu’r gallu i feirniadu a chraffu sy’n arferol mewn democratiaeth iach. Mae’r sefyllfa’n creu consýrn mai cyfyngedig yw’r lleisiau a all ddal y llywodraeth yn atebol a hynny mewn hinsawdd lle bo gallu lleisiau eraill i gwestiynu hefyd yn wan (Royles, 2007: 165–6).

Gyda Deddf Llywodraeth Cymru 2006 crëwyd hinsawdd newydd ar gyfer y berthynas rhwng y Cynulliad a chymdeithas sifil. Yn gyntaf, drwy’r gwahaniad cyfreithiol roedd mwy o eglurder a allai wella atebolrwydd. Golygai hyn fod swyddogaethau megis y rheidrwydd i ddatblygu partneriaeth gyda’r sector wirfoddol a’r cyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb wedi’u trosglwyddo i’r llywodraeth. O’r herwydd, roedd potensial i strwythurau megis y Cyngor Partneriaeth Sector Wirfoddol fod yn ffordd gadarnach o sicrhau mewnbwn i waith y llywodraeth. Yn ail, cynigiai’r ddeddf gyfleoedd newydd i gymdeithas sifil ddylanwadu ar y broses ddeddfwriaethol a rhoddwyd anogaeth i fudiadau bwyso ar y llywodraeth a’r Cynulliad. Crëwyd trefniadau ar gyfer deisebau cyhoeddus (Rheol Sefydlog 28) a gosod rheidrwydd ar i’r Cynulliad ystyried unrhyw ddeiseb gyhoeddus (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007: 16). Er gwaetha’r cyfleoedd newydd, roedd hi’n ymddangos bod nifer o fudiadau’n cael trafferth dygymod â’r sefyllfa newydd. I rai mudiadau, nid oeddent yn ymwybodol iawn o oblygiadau Deddf 2006, yn aml oherwydd sefyllfa adnoddau. Roedd hyn hefyd yn arwydd o’r diffyg eglurder sy’n perthyn i’r pwerau (Rawlings, 2005: 845; Trench, 2006; Elis-Thomas, 2009). Ar y llaw arall, roedd mudiadau eraill yn llwyr ymwybodol o oblygiadau’r ddeddf ac yn ddyfeisgar. Rhan o’r ymwybyddiaeth hyn oedd ceisio dylanwadu a chraffu ar y broses ddeddfwriaethol a alwai am fwy o arbenigedd. Tra bo rhai’n datblygu arbenigedd cyfreithiol mewnol er mwyn cryfhau eu hymdrechion lobïo, roedd eraill yn ddibynnol ar ewyllys da am gymorth cyfreithiol. Roedd parhau i ddylanwadu yng Nghaerdydd a Llundain yn bwysig ac yn galw am adnoddau. Cam diddorol oedd bod nifer o fudiadau’n dod yn ymwybodol o fanteision ffyrdd strategol i geisio dylanwadu ar y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad: defnyddio rhwydweithiau a chlymbleidio. Erbyn 2009, yr awgrym, ar sail ymgais Sustrans Cymru drwy’r system ddeisebu i bwyso ar y Cynulliad i geisio cael y grym gan San Steffan i gyflymu creu rhwydwaith cenedlaethol o ffyrdd di-geir, oedd cwestiynu gwerth buddsoddi amser ac adnoddau. Roedd yr angen i flaenoriaethu agenda ddeddfu’r llywodraeth, problemau gwleidyddol ac arafwch trosglwyddo pwerau yn effeithio ar barodrwydd y llywodraeth i fabwysiadu argymhellion deddfwriaethol (Williamson, 2009).

Yng Nghatalwnia, yn ystod llywodraethau Convergència, roedd gan yr holl gyrff a astudiwyd berthynas dda gyda’r llywodraeth ranbarthol a chredent fod mudiadau eraill yn eu maes yn yr un sefyllfa. Fodd bynnag, prin oedd strwythurau pwrpasol i hybu cyfranogaeth cymdeithas sifil. Honnai’r llywodraeth mewn grym er 2003 na ddatblygwyd strategaeth i ddyfnhau democratiaeth gyfranogol yn ystod y cyfnod 1980–2003 (DGPC, 2006a: 8). Yn hytrach, patrwm amrywiol a mympwyol o berthnasau a gaed, gan amlaf yn seiliedig ar ariannu.

Un sianel ffurfiol oedd i gymdeithas sifil ymwneud â’r llywodraeth, sef drwy gynghorau (consells) i gynnull y prif gyrff mewn maes penodol i ymgynghori a chydweithio gyda’r Generalitat ar bolisïau cyhoeddus. Roedd pob un o’r mudiadau a astudiwyd yn aelod o gyngor. Gwelai Plataforma, a oedd yn aelod newydd o’r Cyngor Iaith, fod ei phresenoldeb yn ddefnyddiol ac yn ffordd o ddylanwadu ar benderfyniadau’r Uned Gwleidyddiaeth Iaith.[11] Fodd bynnag, mae astudiaeth Font a Blanco o’r cynghorau’n fwy beirniadol (gw. hefyd DGPC, 2006c: 26).  Roedd anghysondeb rhwng defnydd adrannau o gynghorau, ac roedd nifer uchel staff y Generalitat ar fwyafrif y cynghorau yn awgrymu eu bod yn ceisio sicrhau eu bod yn fwyafrif (Font a Blanco, 2003: 281). Mae Font a Blanco hefyd yn cwestiynu’r dulliau apwyntio, y graddau roedd y mudiadau yn gynrychioliadol a hefyd natur harbenigedd (2003: 282).            

Heblaw am y cynghorau, nid oedd yna strwythurau systematig i sicrhau mewnbwn cymdeithas sifil i waith y Generalitat. O’r herwydd, roedd ymwneud anffurfiol â’r llywodraeth yn allweddol (Font a Blanco, 2003: 279). Datblygai’r mudiadau gysylltiadau uniongyrchol â’r gweinidogion. Yn yr un modd, anffurfioldeb oedd prif nodwedd y berthynas â’r pleidiau gwleidyddol ac eglurwyd fod perthynas dda yn aml yn seiliedig ar gysylltiadau personol.[12] Gallai’r pwyslais ar berthnasau anffurfiol olygu bod gallu ac adnoddau mudiadau yn bwysicach i ddatblygu perthynas â’r llywodraeth. Yn ôl Keating mae anffurfioldeb yn greiddiol yma gan fod gwleidyddiaeth yng Nghatalwnia yn:

characterized by networks and personal linkages. Differences are resolved and common positions are established through compromise and bargains rather than through institutional authority. This type of politics, less rooted in state structures, is better able to operate in the more flexible conditions of the new world; but often at the cost of obscurity, lack of accountability and clientelism (2001a: 198).

Ariannu oedd hanfod perthynas nifer o gyrff â’r Generalitat a’r awgrym oedd bod grantiau blynyddol yn cael eu dosbarthu ar gyfer prosiectau i nifer o fudiadau yn yr un sector.[13] Ffynhonnell ddiweddar ac arwyddocaol o arian ar gyfer mudiadau oedd rhaglen profiadau gwaith Adran Waith y Generalitat. Byddai’r adran yn talu 80 y cant, a’r mudiad yn talu 20 y cant o’r cyflog. Roedd yr holl gyrff a astudiwyd wedi cael staff tymor byr a fu’n fuddiol.[14] Ym maes hawliau pobl hoyw a lesbiaid, ers sefydlu’r Generalitat, derbyniai nifer o fudiadau rywfaint o gyllid gan y llywodraeth. Ond nid oedd hyn o reidrwydd yn golygu datblygu polisïau neu lunio deddfwriaeth i hyrwyddo hawliau pobl hoyw a lesbiaid.[15] Yn fwy cyffredinol, eglurwyd fod y broses grantiau’n anghyson gyda phenderfyniadau ar lefel adrannol heb strategaeth ehangach. Roedd hi’n gwestiwn hefyd i ba raddau roedd y broses ariannu’n un agored.[16] 

Fel yn achos Cymru, roedd gwahaniaethau rhwng mudiadau. Amlygai’r llenyddiaeth ehangach ddau realiti gwahanol cymdeithas sifil Catalwnia: un gyfran o gymdeithasau â graddau uchel o adnoddau o ganlyniad i ddarparu gwasanaethau a ffioedd, ac eraill yn byw ar gyfraniadau gwirfoddolwyr a grantiau gan wahanol lefelau o lywodraeth (Sarasa, 1998b: 997). Mae goblygiadau ariannu llywodraethol i fudiadau yng Nghatalwnia yn ddiddorol. Roedd y cyrff a astudiwyd a dderbyniai rhyw gyfran o gyllid gan y Generalitat yn dadlau nad oedd hyn yn amharu ar eu hannibyniaeth na’u gallu i feirniadu’r llywodraeth. Pwysleisiwyd fod cael ffynonellau ariannol amgen a’u hadnoddau eu hunain yn bwysig.[17] Eglurwyd fod y system o dderbyn arian ar gyfer gweithgarwch a phrosiectau penodol, yn hytrach na chyllid craidd, yn golygu nad oedd ariannu’n effeithio ar eu hannibyniaeth.[18] Ar y cyfan, mae’n eglur fod darparu grantiau wedi hybu cymdeithas sifil weithgar. Gwnaed y sylw hwn gan un o’r rhai a gyfwelwyd:

The government has a commitment to promoting civil society … They are just making sure that part of civil society is able to do the activities and have an impact on the society or on democracy … It could be more like not affecting the independence but making sure that maybe civil society keeps doing things that the government doesn’t know how to do.[19]

Mae’r llenyddiaeth ehangach ar Gatalwnia’n tynnu sylw at beryglon gorddibyniaeth mudiadau ar arian cyhoeddus (McRoberts, 2001: 117). Honnir mai hon yw’r brif her sy’n wynebu cymdeithas sifil yng Nghatalwnia (Sarasa, 1998b: 982). Fel gyda sylwadau Keating uchod, hawlia Sarasa fod grantiau gan y llywodraeth yn agor y drws i aneglurder yn y berthynas rhwng y llywodraeth a mudiadau a clientelism gwleidyddol. Un cam at ddygymod â hyn oedd deddf cymdeithasau (1997) oedd yn ceisio rheoli natur perthnasau rhwng cymdeithas sifil a’r wladwriaeth (Sarasa, 1998b: 997). Eglurwyd mewn cyfweliadau bod sefyllfa cefnogaeth sefydliadol yn hollbwysig; heb hynny ni allent oroesi. Er mwyn sicrhau diwylliant democrataidd yng Nghatalwnia, roedd cael arian gan y wladwriaeth yn bwysig.[20]

Yn dilyn sefydlu’r llywodraeth deirplaid yng Nghatalwnia yn 2003, crëwyd strategaeth gyfranogaeth. Parhaodd annog cyfranogaeth yn un o dri phrif amcan rhaglen y llywodraeth a etholwyd yn 2006. Yn 2004, sefydlwyd Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cyfranogaeth Dinasyddion. Gan geisio annog cyfranogi, pwysleisiwyd: ‘high-intensity participatory policies with initatives that help us to consolidate the rights of the public to be informed, to be consulted and to take part in decisions’ (DGPC, 2005b: 4). Er mwyn rhoi’r syniad o ddemocratiaeth gydgynghorol (deliberative democracy) ar waith, roedd gan y gyfarwyddiaeth nifer o swyddogaethau. Yn eu mysg oedd hybu a chefnogi adrannau i weithio mewn ffyrdd mwy cyfranogol, er enghraifft drwy ddatblygu gofod sefydlog i ddinasyddion a chymdeithas sifil gyfrannu i’w gwaith a hyrwyddo strwythurau i’r cyhoedd ddylanwadu ar bolisïau (DGPC, 2005b: 2). Er bod y pwyslais yn yr ieithwedd ar gynnwys dinasyddion, roedd rôl allweddol mudiadau cymdeithas sifil yn glir yn eu gwaith. Drwy’r model democratiaeth gydgynghorol, canolbwyntiwyd ar greu prosesau a gofod ar gyfer trafodaeth a deialog er mwyn gwrando ar farn ystod eang o’r cyhoedd ac er mwyn cynnwys y farn honno, a hynny heb ildio i gyfaddawd gwleidyddol nac osgoi cyfrifoldebau cyhoeddus (Fishkin a Laslett, 2003; DGPC, 2006a: 11; DGPC, 2006b: 18). Wrth roi’r syniadau hyn ar waith, rhoddwyd pwyslais ar sicrhau fod y drafodaeth neu’r ddeialog yn dilyn camau sylfaenol. Ymysg yr egwyddorion oedd darparu gwybodaeth ddigonol i’r rhai’n cymryd rhan i’w galluogi i ddatblygu amryw o sianeli a dulliau i dderbyn cyfraniad gwahanol ddinasyddion (yn arbennig mewnbwn cymdeithas sifil) a hefyd adrodd yn ôl ar y casgliadau terfynol gan egluro a chyfiawnhau’r rhesymau (DGPC, 2006b, 20–22; DGPC 2006a: 12).

O ganlyniad i wendidau’r strwythurau ffurfiol blaenorol i hyrwyddo cyfranogaeth, gosodwyd canllawiau i ailfodelu dulliau sefydlog ar gyfer mewnbwn cymdeithas sifil (DGPC, 2006c: 25).[21] Wrth gynllunio, tynnwyd sylw at bwysigrwydd gwerthuso ansawdd cyfranogi: i ba raddau y ceid trafodaeth agored a rhydd; a oedd cefnogaeth ac adnoddau ar gael i’r rhai sy’n cyfrannu; ai ffurfioldeb oedd y drafodaeth ynteu a oedd cyfle i gyfrannu syniadau neu argymhellion amgen a allai gael dylanwad (DGPC, 2006c: 28). Yn ychwanegol at gynllunio cyfranogol, pwysleisiwyd bod angen i’r llywodraeth weithredu yn ôl gwerthoedd cydgynghorol. Yn arwyddocaol, dadleuwyd os oedd mwy o hyder gan fudiadau yn eu mynediad uniongyrchol, mwy anffurfiol i’r strwythurau llunio penderfyniadau na thrwy’r gofod sefydlog, y gallai’r mynediad anffurfiol arwain at hepgor deialog ar y cyd gan fodloni ar drafodaethau mwy unigol (DGPC, 2006c: 29). Cymysg oedd agwedd y cyfwelai tuag at sefydlu’r gyfarwyddiaeth. Er y gwelid hyn fel cam cadarnhaol, i rai roedd yr adran benodol yn arwydd o ddiffyg ymroddiad i hybu cyfranogi.[22] Roedd eraill yn cwestiynu mai ymdrech i gyfreithloni gwaith y Generalitat ydoedd.[23] Eglurodd swyddogion y Generalitat fod adrannau’n gwahaniaethu yn eu hymroddiad i gynnwys grwpiau yn eu gwaith gan dueddu i ystyried cyfrannu fel cost ychwanegol (DGPC, 2006a: 14).[24]

I grynhoi, mae perthynas cymdeithas sifil â llywodraeth ranbarthol yng Nghymru a Chatalwnia wedi dilyn patrwm gwahanol. Yn achos Cymru, ymgorfforwyd dulliau ffurfiol i geisio sicrhau ymwneud cymdeithas sifil yng ngwaith y Cynulliad, ac roedd llawer o’r rhain yn ddyfeisgar. Ond, yn ymarferol, perthnasau anffurfiol a dueddai i fod fwyaf effeithiol a’r canlyniad oedd bod gallu ac adnoddau yn fwy pwysig i geisio cael dylanwad ar y llywodraeth. Er gwaetha’r hinsawdd newydd a grëwyd gan Ddeddf 2006, awgrymai’r ymchwil fod yr un gwahaniaethau a ddatblygodd rhwng mudiadau yn ystod y ddau dymor cyntaf yn parhau a bod yr angen am adnoddau a gallu yn cynyddu.

Er bod patrwm gwahanol yng Nghymru a Chatalwnia, roedd anffurfioldeb ac ariannu yn elfen amlwg yn y berthynas rhwng llywodraeth ranbarthol a’r mudiadau yn y ddwy wlad. Yng Nghatalwnia, yng nghyfnod llywodraethau Convergència, cyfyngedig oedd y strwythurau ffurfiol fyddai’n sicrhau bod mudiadau’n cael mewnbwn ystyrlon. Roedd cynghorau Catalwnia’n codi nifer o’r un problemau â’r Cyngor Partneriaeth Sector Wirfoddol yng Nghymru. Roedd tuedd i adlewyrchu rhai o’r rhybuddion yn y llenyddiaeth neo-gorfforaethol a drafodwyd yn yr adran gyntaf. Hynny yw, gall strwythur penodol i gynnwys rhai grwpiau yn y broses o lunio penderfyniadau arwain at freintio un grw^p a’r grw^p hwnnw’n ‘cynrychioli’ sector ac yn cyfyngu ar y cyfleoedd i grwpiau eraill ymwneud â’r llywodraeth (Wilson, 1990: 69). Yn y ddau achos, tra bo grantiau’n allweddol i hybu cymdeithas sifil weithgar, roedd goblygiadau cyllid gan y llywodraeth i ariannu cymdeithas sifil yn debyg. Yng Nghatalwnia, awgrymwyd bod dosbarthu grantiau i nifer o fudiadau o fewn sector yn rhannol osgoi’r duedd i wneud un corff yn ‘gynrychioliadol’ o sector. Gellid hawlio hefyd bod cefnogi gweithgarwch nifer o fudiadau yn yr un sector yn hyrwyddo lluosogyddiaeth. Roedd natur luosogol cymdeithas sifil yng Nghatalwnia o’i gymharu â Chymru yn drawiadol.[25] 

Hyd yma yng Nghymru, nid oedd strwythurau’r llywodraeth wedi llwyddo i greu system agored o gyfranogaeth ac roedd y gwahaniaethau rhwng gallu ac adnoddau mudiadau yn gwneud hyn yn anoddach. Gellid honni nad aethpwyd ati o ddifri i weithredu dyletswydd statudol y Generalitat i hyrwyddo cyfranogaeth dinasyddion mewn bywyd gwleidyddol (Erthygl 8 Statud Catalwnia) tan ddyfodiad y llywodraeth deirplaid.[26] Bryd hynny, fel yng Nghymru, datblygwyd cynlluniau dyfeisgar a blaengar ar lefel Ewropeaidd. Mae’r argymhellion yn awgrymu bod dylanwad syniadau democratiaeth gydgynghorol yn gallu cynyddu ymwybyddiaeth o’r goblygiadau a’r sialensau sy’n codi wrth geisio gwneud cyfranogaeth yn ganolog i waith llywodraeth ranbarthol.

Egluro ymwneud cymdeithas sifil â llywodraeth ranbarthol

Gellir tynnu sylw at nifer o ffactorau cyffredin sy’n egluro natur y berthynas rhwng mudiadau a llywodraeth ranbarthol yng Nghymru ac yng Nghatalwnia. Yn y ddwy genedl, un o’r prif resymau am y berthynas rhwng cymdeithas sifil a’r llywodraeth oedd eu harbenigedd a’u gweithgarwch. Yn achos Cymru a Chatalwnia gwelwn fod mudiadau’n chwarae’r rhan o ehangu cefnogaeth a chyfreithloni llywodraeth ranbarthol yng nghyd-destun y bleidlais isel mewn etholiadau (Balcells, 1996: 177; McRoberts, 2001: 164). [27] Roedd elfen arall yng Nghatalwnia, sef tensiwn yn y berthynas â’r llywodraeth ganolog ac ymdrechion i ddatganoli grymoedd (Gunther et al., 2004: 322; Heywood, 2000). Golygai hyn fod cefnogaeth mudiadau cymdeithas sifil yn cryfhau statws llywodraeth Catalwnia wyneb yn wyneb â grym y llywodraeth ganolog (Greer, 2007:134). 

Hefyd yn gyffredin rhwng Cymru a Chatalwnia yw’r ffaith bod ewyllys gwleidyddol, ac yn fwy penodol yr amcan o adfer cenedl, yn allweddol i ddeall graddau’r berthynas rhwng cymdeithas sifil a llywodraeth ranbarthol. Yng Nghymru, un dimensiwn o’r prosiect adeiladu cenedl yw’r ymdrechion i gryfhau statws cyfansoddiadol y Cynulliad. Soniwyd eisoes am bwysigrwydd cymdeithas sifil yn galw am bwerau pellach i’r Cynulliad. Dimensiwn cysylltiedig yw cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad i fudiadau. Roedd bod yn agored yn annog creu clymbleidiau a chymunedau polisi i gefnogi gallu’r Cynulliad i weithredu er gwaethaf cyfyngiadau ei bwerau (ac o bosib o ganlyniad iddynt). Rhoddwyd cefnogaeth i fudiadau oedd yn cyd-fynd ag agenda llywodraethol y Blaid Lafur o greu Cymru newydd, ‘agored’ ac allblyg a grisialwyd yn y disgrifiad ‘an outward-looking Wales’. Ar yr un pryd, roedd ochr wahanol, sef perthynas anodd rhai Aelodau Cynulliad, ac yn benodol felly aelodau’r Blaid Lafur lywodraethol, â rhai mudiadau iaith. Ar y cyfan, cyfrannodd mudiadau cymdeithas sifil at gyfiawnhau gwerth bodolaeth y Cynulliad; cyfrannwyd hefyd at y prosiect o adeiladu cenedl. Yn achos Catalwnia roedd ymwneud mudiadau â’r Generalitat nid yn unig yn gysylltiedig â cheisio gwrth-wneud effeithiau’r gyfundrefn unbenaethol ond â pholisi’r llywodraeth o adfer cenedl. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, roedd ariannu cymdeithasau yn rhan o’r ymwybyddiaeth o botensial cymdeithas sifil i gyfrannu at y broses o adfer cenedl. Gellir dadlau fod y gefnogaeth a roddwyd i ystod eang o gyrff yn hyrwyddo’r gwerthoedd oedd yn ganolog i weledigaeth Pujol a’r CiU o adfer y genedl Gatalaneg ac yn hybu creu cenedl sifig drwy gyfrwng cymdeithas sifil (Keating, 2001b: 265). Drwy’r astudiaethau achos ceir enghreifftiau o’r modd y bu sectorau o gymdeithas sifil yn allweddol i’r prosiect o adfer cenedl. Yr enghraifft amlycaf yw achos yr iaith gan fod cefnogaeth ariannol i’r mudiadau yn cyd-fynd ag un o brif amcanion y llywodraeth Convergència, sef cryfhau statws yr iaith a sicrhau fod y Gatalaneg yn cael ei normaleiddio.

Mae rhai awduron sy’n trafod goblygiadau’r prosiect o adfer cenedl yn tynnu sylw at agweddau perthnasol o ddiwylliant gwleidyddol Catalwnia.  Trafoda Argelaguet gyfraniad hyrwyddo’r iaith Gatalaneg wrth ailadeiladu cenedl i gryfhau’r ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol Gatalaneg a’r gefnogaeth i’r pleidiau cenedlaetholgar (2006: 433). Wrth olrhain ymdrechion llywodraethau Convergència i sicrhau grymoedd pellach wrth ailadeiladu cenedl, dadleua Greer fod y grymoedd a enillodd y Generalitat yn adlewyrchu rhwydweithiau o fudiadau rhanbarthol a ddymunai ddatblygu agenda bolisi a oedd yn benodol Gatalaneg. Wrth ennill pwerau, crëwyd cynghreiriau rhwng y llywodraeth a’r rhwydweithiau o elît rhanbarthol mewn meysydd megis iechyd, addysg, a hyn wedyn yn fodd o sicrhau cefnogaeth i’r blaid lywodraethol (Greer, 2007:161). Trafoda Keating sut yr aeth y Generalitat ati i fagu cysylltiadau gyda chymdeithas sifil a goblygiadau hyn. Hawlia y gwelwyd:

Conscious effort to build national consciousness and solidarity through these private associations. Critics complain that this is a strategy to spread nationalist ideology through the society; even critics sympathetic to nation building complain that the aim is really to build clientelistic links from the CiU into civil society to maintain the hegemony of the ruling party and ideology (Keating, 2001a: 178).

Rhaid hefyd ystyried y ffactorau a olygodd mai cyfyngedig oedd y strwythurau ffurfiol i sicrhau y gallai cymdeithas sifil ymwneud yng ngwaith Generalitat Catalwnia. Gellid dadlau mai’r trawsnewidiad democrataidd a ddylanwadodd ar ymwneud ffurfiol cymdeithas sifil â llywodraeth ranbarthol. Rhwng 1981 a 1985 cynyddodd nifer y mudiadau cofrestredig mewn rhai meysydd ond, diflannodd nifer o’r cyrff fu fwyaf gweithgar yn ystod cyfnod cynnar democratiaeth (1977–80) (Sarasa, 1998b: 997).[28] Ar un wedd, nid yw’r dirywiad yn annisgwyl gan mai dyna fu profiad Dwyrain Ewrop hefyd yn dilyn gwawr democratiaeth. Eglurir y dirywiad hwn gan symudiad arweinwyr ac aelodau’r mudiadau at wleidyddiaeth bleidiol yn dilyn sefydlu democratiaeth.[29] Ffactor arall yw lleihad grym y blaid gomiwnyddol (PSUC) yn dilyn y trawsnewidiad ac ymddengys fod dirywiad rhai mudiadau’n gysylltiedig â sefyllfa’r blaid honno (Greer, 2006). Y trydydd ffactor yw natur y trawsnewidiad. Y pleidiau gwleidyddol a arweiniodd wrth drafod Statud Hunanreolaeth Catalwnia. Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y trawsnewidiad, dadleuir i’r pleidiau fynd ati’n bwrpasol i gryfhau eu safle, ar draul cymdeithas sifil:

The elite pact which characterised the Spanish transition included Catalan and Catalanist elites. They helped to demobilize the popular movements (neighbourhood movements, students, part of the trade union and non-party nationalist mobilisation), while they institutionalised a new party system, different but not totally separate from the Spanish one (Nagel, 2001: 128).

Cyfeiria Gunther et al. at dueddiadau tebyg ar draws Sbaen (2004: 129). Cryfhawyd safle’r pleidiau gwleidyddol i’r fath raddau nes fod Keating yn honni eu bod yn dominyddu cymdeithas sifil (2001b: 223).[30] Fel yn y Cymunedau Ymreolaethol eraill, sefydlwyd strwythurau a sefydliadau llywodraeth ranbarthol a ymdebygai i strwythurau llywodraeth Sbaen (Gunther et al., 2004: 296). Un o’r goblygiadau posib, felly,  oedd efelychu trefniadau’r wladwriaeth ganolog ac felly’r diffyg ymddiriedaeth yng nghyfranogaeth dinasyddion (Vernet, 2003: 249).

I grynhoi, mae’r ffactorau sy’n egluro natur y cysylltiadau rhwng llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yn debyg yng Nghymru a Chatalwnia. Roedd gan fudiadau cymdeithas sifil gyfraniad pwysig i gyfreithloni bodolaeth llywodraeth ranbarthol ac i’r prosiect o adfer cenedl. Gellid hawlio bod ffactorau mwy hir-dymor wedi cael mwy o ddylanwad. Hynny yw, dylanwadwyd gan strwythurau’r llywodraeth ganolog a chryfhawyd goruchafiaeth y pleidiau gwleidyddol yng Nghatalwnia. Yng Nghymru, cyfrannodd yr ymdrech ymwybodol i ddatblygu strwythurau amgen i rai llywodraeth San Steffan at hyrwyddo ymwneud mudiadau â’r Cynulliad. Ond, o ystyried y cyd-destun ehangach, gwelir bod gwendid cymdeithas sifil cyn datganoli a goruchafiaeth y Blaid Lafur yn golygu bod tuedd i gadarnhau natur y wleidyddiaeth a fodolai eisoes ac ni welwyd hyd yn hyn gamau breision tuag at hyrwyddo lluosogyddiaeth cymdeithas sifil yng Nghymru.

Hunaniaeth cymdeithas sifil

Elfen eithriadol o ddiddorol yng nghyd-destun cenhedloedd diwladwriaeth ydi hunaniaeth mudiadau cymdeithas sifil. Un o ganlyniadau mwy annisgwyl a mwyaf arwyddocaol sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol oedd annog addasu o fewn mudiadau a’r effaith ar y rhelyw o gymdeithasau oedd symudiad tuag at fydolwg mwy Cymreig. Nid oes patrwm clir o ran tueddiad bydolwg mudiadau ac nid yw’r addasu wedi bod yn gyson ar draws mudiadau. Yn hytrach, gellir deall y modd mae mudiadau’n eu gweld eu hunain fel safbwyntiau gwahanol ar y sbectrwm Cymreig–Prydeinig, a’u lleoliad yn aml yn dibynnu ar eu sefyllfa cyn datganoli. Ymysg y mudiadau a astudiwyd, roedd yr addasu fwyaf amlwg pan oeddent gynt wedi gweithredu mewn cyd-destun a meddylfryd mwy Prydeinig: hynny yw a chanddynt nodweddion cymdeithas sifil yng Nghymru (Paterson a Wyn Jones, 1999: 191–3). Enghraifft yw Oxfam Cymru a ddatblygodd fydolwg mwy Cymreig gan ymrwymo i: ‘making a distinctive contribution to the creation of a Wales with a strong sense of civic nationhood that is inclusive, participatory and externally focused’ (2001a). Ar un eithaf cymdeithas sifil Cymru, ceir mudiadau lle na fu unrhyw shifft yn eu bydolwg a bron dim ymaddasu ers datganoli. Ar yr eithaf arall, ceir y mudiadau sydd wedi ymaddasu’n gyson ers datganoli a rhai’n meddwl yn yr hir-dymor o ran eu cyfeiriad a chynyddu ymreolaeth o’r cyrff sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Gyfunol. Ym mwyafrif yr achosion, mae mudiadau’n gynyddol weld eu hunain fel mudiad Cymreig ar yr un pryd â pharhau cysylltiad â’r mudiad yn Lloegr. Y rheswm dros hyn yw’r manteision sy’n gysylltiedig ag arbenigedd y canol, eu gallu, eu cefnogaeth ariannol a phwysigrwydd cael llais a dylanwad i bledio’r achos yn San Steffan.

Mae’r arwyddion o addasu a chryfhau bydolwg Cymreig yn niferus gan gynnwys cydnabod fod Cymru’n wahanol, cynyddu ymreolaeth y mudiadau yng Nghymru oddi wrth y lefel Deyrnas Gyfunol, ac ail-strwythuro. Bellach, mae nifer o fudiadau’n gweld y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad fel eu prif darged gwleidyddol. Trafodwyd eisoes arwyddion eraill o’r ymaddasu hwn: ehangu adnoddau, datblygu strwythurau llunio penderfyniadau a pholisi yng Nghymru, a hynny ar gyfer amodau Cymru. Newidiodd nifer o fudiadau eu henwau gan ychwanegu Cymru/Wales i’r enwau a fodolai eisoes. Yn fwy arwyddocaol roedd nifer yn mynegi eu bod yn fudiad ‘Cymreig’. Roedd ymdrech mewn nifer o achosion i gael cydnabod y swyddfa yng Nghymru fel swyddfa ‘genedlaethol’, nid ‘rhanbarthol’. Proses oedd y shifft i fydolwg mwy Cymreig i nifer o fudiadau, proses o negydu mwy o ymreolaeth oddi wrth y corff canolog. Fodd bynnag, mae Stonewall Cymru’n dangos nad oedd y shifft yn duedd ar draws cymdeithas sifil. Fe’i sefydlwyd fel rhan o gymdeithas sifil Gymreig. Ond, wrth gryfhau’r berthynas â Stonewall oedd yn gweithredu ar draws y Deyrnas Gyfunol, awgrymwyd symudiad tuag at nodweddion cymdeithas sifil yng Nghymru (Royles, 2007, 139–41). Erbyn 2007, eglurwyd bod gan Stonewall Cymru nodweddion mudiad Cymreig a mudiad Prydeinig gyda swyddfa yng Nghymru.[31]

Gan fod datganoli’n aeddfetach yng Nghatalwnia a hanes ei chymdeithas sifil yn gyfoethocach, mae’n anodd ceisio asesu effaith uniongyrchol llywodraeth ranbarthol ar fydolwg a hunaniaeth mudiadau. Cododd y casgliadau mwyaf arwyddocaol o ystyried y mudiadau pobl hoyw a lesbiaid. Yn achos Casal Lambda a’r Coordinadora, roeddent yn gweld eu hunain fel mudiad Catalaneg ac nid oedd yr un o’r grwpiau yng Nghatalwnia’n perthyn i’r glymblaid o fudiadau hoyw’n gweithredu ar lefel Sbaen gyfan. Y rheswm a roddwyd oedd y teimladau cenedlaetholgar oddi mewn i’r mudiadau hynny.[32] Roedd Casal Lambda a oedd yn fwy Catalaneg yn chwarae rhan amlwg mewn cynghreiriau o fudiadau Catalaneg/cenedlaetholgar mewn meysydd amrywiol.[33] Roedd hyn yn adlewyrchu tueddiad rhai grwpiau i gysylltu eu hunain â’r frwydr genedlaethol ac annibyniaeth (Vilà, 2000: 274).

Ar draws y mudiadau cafwyd datganiadau clir beth oedd bod yn fudiad ‘Catalaneg’: gweithio oddi mewn i diriogaeth Catalwnia, ymwybyddiaeth glir o bwysigrwydd iaith a diwylliant Catalwnia, ac ymwneud â’r weinyddiaeth yng Nghatalwnia lawn cymaint ag yn Sbaen. Ymysg nodweddion mwy ffurfiol bod yn fudiad ‘Catalaneg’ oedd yr elfen gyfreithiol o fod wedi cofrestru gyda’r Generalitat.[34] Mewn rhai achosion lle'r oedd y bydolwg Catalaneg yn gryfach, pwysleisiwyd eu bod hefyd yn gwthio am fwy o hunanlywodraeth i Gatalwnia ac yn teimlo pellter oddi wrth wladwriaeth Sbaen.[35]

Roedd sefyllfa Intermòn yn adleisio rhai enghreifftiau yng Nghymru. Sefydlwyd y corff gwreiddiol fel elusen yng Nghatalwnia yn 1956. Dim ond wedi 1986 y datblygodd ar draws Sbaen nes dod yn un o’r mudiadau datblygu rhyngwladol mwyaf. Yn rhan o’r shifft hwn, lleolwyd rhai adrannau pwysig ym Madrid. Roedd dilema sylfaenol o ran bydolwg y mudiad. Ffactorau a bwysleisiai’r elfen ‘Gatalaneg’ oedd gwreiddiau’r mudiad yng Nghatalwnia.[36] Ond, yn ymarferol, nid oedd llawer o ymreolaeth i’r gangen yng Nghatalwnia ac roedd Intermòn Oxfam bellach yn gorff Sbaenaidd ac iddo strwythur datganoledig ac a oedd yn aelod o Oxfam International.[37] Llywodraeth Madrid oedd prif ffocws yr ymgyrchu. Er bod cangen Catalwnia’n ymwneud fwyaf â’r Generalitat, nid oeddent yn gweld y Generalitat fel ffocws pwysig ar draws eu holl ymgyrchoedd. Gwelir felly fod mudiadau’n newid o ganlyniad i leoliad y canolbwynt grym a’u prif darged gwleidyddol. Rhaid cofio bod Intermòn Oxfam, fel Oxfam Cymru, yn dilyn agenda ryngwladol. Gall hyn effeithio ar weithgarwch mudiadau ar y lefel ranbarthol a’r lefel wladwriaethol.

Ar y cyfan, nid yw’n hawdd asesu effaith datganoli ar hunaniaeth a bydolwg cymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia. Yn achos Catalwnia, roedd hi’n anos asesu gan fod sefyllfa’r mudiadau yn wahanol i Gymru. Byddai astudio mudiad oedd â chefndir o weithio ar draws Sbaen ac a oedd wedi dechrau gweithredu yng Nghatalwnia ers sefydlu’r Generalitat wedi hwyluso deall y broses addasu yno. Yng Nghymru, fodd bynnag, o ganlyniad i ddatganoli gwleidyddol, cryfhawyd yr ymwneud â’i sefydliadau gwleidyddol gan gryfhau’r bydolwg Cymreig ymysg mudiadau cymdeithas sifil. Roedd hyn yn ddatblygiad annisgwyl a arweiniodd at sefyllfa debycach i’r mudiadau a astudiwyd yng Nghatalwnia. Yno, roedd cymdeithas sifil benodol Gatalaneg yn bodoli a’r canlyniad oedd bod safbwynt mudiadau ar y cwestiwn cenedlaethol yn llawer cliriach. Eto, roedd eithriadau, ond dangoswyd beth bynnag fo hanes y mudiad, bod maes gweithgarwch a’r graddau mae’r pwerau’n gorwedd ar y lefel ranbarthol yn effeithio ar fydolwg mudiadau. Yn ddi-os mae’r cwestiwn cenedlaethol yn dylanwadu ar fydolwg y mudiadau sy’n gweithredu o fewn cenhedloedd diwladwriaeth.

Casgliadau: Gwersi i Gymru?

Un o’r cysylltiadau allweddol i lywodraeth ranbarthol yw eu cyswllt â mudiadau cymdeithas sifil. Dyma gyswllt sydd nid yn unig yn gallu bwydo’n ymarferol i bolisïau’r llywodraeth, ond yn gallu bod yn greiddiol i hanfod natur diwylliant gwleidyddol ac i gyfeiriad datganoli yn y genedl.

Roedd cymdeithas sifil Gatalaneg yn rhagflaenydd ac yn allweddol i sicrhau llywodraeth ranbarthol. Yng Nghymru datganoli, yn hytrach, oedd y sbardun i hyrwyddo cymdeithas sifil benodol Gymreig. Ni chymerodd y Generalitat gamau tebyg i Gymru o ran cyflwyno strwythurau i hybu cyfraniad cymdeithas sifil tan y llywodraeth deirplaid yn 2003. Er y gwahaniaethau hyn, ymdrechodd llywodraeth ranbarthol Cymru a Chatalwnia i adeiladu cymdeithas sifil o’r brig i’r bôn. Ni ellid gwadu fod derbyn cyllid gan y llywodraeth yn hollbwysig i gynorthwyo mudiadau ond y perygl oedd y gallai arian y llywodraeth waethygu’r anghydraddoldeb rhwng grwpiau. Dyma sefyllfa anodd y tu hwnt i Gymru ac i Gatalwnia. Yng Nghymru, yr awgrym oedd y gallai sefyllfa fregus mudiadau, yn enwedig o dderbyn arian llywodraethol, eu gwneud nhw’n betrus o ran beirniadu’r llywodraeth. Roedd y ddilemma yn ymwneud ag ariannu’r mudiadau i’w gweld gliriaf yng Nghatalwnia. Tra bod tystiolaeth fod grantiau ac ariannu wedi cyfrannu at luosogyddiaeth cymdeithas sifil, dadleua McRoberts mai effaith derbyn arian gan awdurdodau cyhoeddus oedd, ‘Catalan civil society is no longer free-standing. Indeed, the Catalan case suggests that this may no longer be possible anywhere today despite the claims of neo-liberal theorists’ (2001: 4). Awgrymai’r astudiaethau achos nad oedd cyllid y llywodraeth o reidrwydd yn effeithio ar hyder nac ychwaith yn rhwystro mudiadau rhag bod yn feirniadol o’r llywodraeth. Un rheswm am hyn oedd dosbarthu arian i fudiadau drwy grantiau a phrosiectau yn hytrach na thrwy ariannu craidd. Byddai’n dda gallu awgrymu mai un o’r gwersi i Gymru, felly, fyddai annog ariannu drwy grantiau a phrosiectau yn hytrach nag arian craidd. Ond, mae’n annhebyg y byddai’r amodau hynny’n sicrhau bod mudiadau’n gallu goroesi. Fodd bynnag, gwers glir o’r ymchwil yw bod angen mwy o ymwybyddiaeth a thrafodaeth lawnach o oblygiadau posib arian llywodraeth ranbarthol ar gymdeithas sifil.

Yng Nghymru ac yng Nghatalwnia roedd perthnasau anffurfiol rhwng cymdeithas sifil a’r cyrff datganoledig yn tueddu i fod yn fwy dylanwadol na pherthnasau ffurfiol. Yn y llenyddiaeth ar Gymru, codwyd y goblygiadau negyddol posibl yng nghyswllt twf perthnasau neo-gorfforaethol (Chaney a Fevre, 2001a). Yn achos Catalwnia, tynnwyd sylw at ddiffyg tryloywder a bygythiad y tueddiad tuag at clienteliaeth, sef llywodraethu er budd diddordebau cefnogwyr gwleidyddol (Sarasa, 1998a; Keating, 2001a). Bwriad cymalau yn neddf cymdeithasau Catalwnia oedd cynorthwyo i reoli effeithiau negyddol posib perthynas mudiadau penodol â’r llywodraeth. Rhoddid pwyslais ar ddiogelu annibyniaeth ac ymreolaeth mudiadau a gosodwyd canllawiau ac egwyddorion penodol i’w dilyn wrth ddosbarthu grantiau (Generalitat de Catalunya, 1997b: 28). Gellid ystyried deddfwriaeth fel ffordd o geisio rheoli natur perthynas y llywodraeth â chymdeithas sifil yng Nghymru hefyd.

Dadleua Keating fod pwyslais ar rwydweithiau a chysylltiadau personol yn elfen amlwg o natur gwleidyddiaeth yng Nghatalwnia fel yn rhannau eraill deheuol o Ewrop (2001a: 198). Mae casgliadau’r ymchwil hwn yn codi’r cwestiwn a yw anffurfioldeb, pwyslais ar rwydweithiau a chysylltiadau personol yn nodweddion annatod o berthynas llywodraeth ranbarthol â chymdeithas sifil yng nghyd-destun ‘llywodraethiant gwledydd bach’. Dyma ddadl eithriadol o ddiddorol sy’n haeddu sylw pellach, yn arbennig yn y cyd-destun Cymreig. Fodd bynnag, boed y fath nodweddion yn anochel ai peidio, y wers yw ceisio sicrhau fod ymdrechion llywodraeth ranbarthol i hyrwyddo ffyniant cymdeithas sifil yn ymwybodol o’r angen i ddiogelu ymreolaeth mudiadau.

Heb amheuaeth, un o effeithiau datganoli grym i Gymru a Chatalwnia oedd cydnabod potensial cyfraniad cymdeithas sifil i adfer cenedl. Er gwaethaf ei hanes cyfoethog, roedd rhai awduron yn honni fod cymdeithas sifil Catalwnia bellach yn wannach ac yn llai gwleidyddol. Fodd bynnag, roedd lluosogyddiaeth mudiadau cymdeithas sifil yn drawiadol, yn enwedig o’r safbwynt Cymreig. Cydnabuwyd y lluosogyddiaeth hwn gan y Generalitat fel nodwedd yr oedd angen ei diogelu a’i hyrwyddo (Generalitat de Catalunya, 1997b: 6). Yng Nghymru, er bod tystiolaeth o gymdeithas sifil luosog yn dipyn prinnach, un o ganlyniadau uniongyrchol a mwyaf annisgwyl datganoli oedd hyrwyddo bydolwg mwy Cymreig ymysg mudiadau. Yng Nghatalwnia, o ganlyniad i hanes a pharhad cymdeithas sifil ar ffurf ‘ranbarthol’, roedd hi’n haws i fudiadau gyfrannu at y genedl a’i chynrychioli (Greer, 2007: 20). Fel yr eglura Keating wrth gyfeirio at yr Alban, Quebec a Chatalwnia:

nation-building has taken place as much within the civil society as in the state. In all three cases, we have seen a reconfiguration of social actors and interests, as well as of politics, on national lines ... In all three, there is a consciousness that the national project, in the contemporary world, cannot be carried by governmental institutions alone but must also be rooted in civil society (2001a: 265).

Roedd astudio Catalwnia yn gwneud deall cyfraniad mudiadau yng Nghymru i adfer y genedl, er gwaethaf cyfyngiadau presennol datganoli, yn fwy eglur. Dyma drawsnewidiad clir o’r sefyllfa ble y bu cymdeithas sifil fwy neu lai’n absennol o’r drafodaeth ar ddatganoli (Paterson a Wyn Jones, 1999: 181). Hawlia Greer mai canlyniad perthynas llywodraeth ranbarthol â mudiadau rhanbarthol, hyd yn oed mewn achosion lle ceir rhwydwaith o fudiadau tipyn llai gwydn nag achosion Catalawnia a’r Alban, yw bod llywodraeth ranbarthol yn tyfu. Dadleua:

a lesson of European regionalism is that regional governments can create their own webs of regional organizations ... Regionalization starts for all manner of reasons, but creates strong governments with competencies, power, and flexibility when there are regional organizations that can compel parties to give the regions the powers to guarantee autonomy and stability (Greer, 2007: 187–8).

Yn ddi-os, roedd perthynas cymdeithas sifil â llywodraeth ranbarthol yng Nghymru a Chatalwnia yn adlewyrchu natur diwylliant gwleidyddol ehangach. Yng Nghymru, mae gwendid cymdeithas sifil wedi ei gysylltu â ‘monist political culture’ (Morgan a Mungham, 2000: 210). Gellir cyfeirio at ddwy agwedd amlwg i’r diwylliant gwleidyddol hwn. Un yw dylanwad model llywodraeth seneddol San Steffan a’i ddiwylliant gwleidyddol mwy elitaidd ar y Cynulliad. Yr ail yw parhad dominyddiaeth un blaid o wleidyddiaeth Cymru. Mae goruchafiaeth y Blaid Lafur ar lefel San Steffan a lefel llywodraeth leol yng Nghymru wedi creu graddau o unbleidiaeth sy’n eithaf unigryw mewn termau rhyngwladol. Cyfeiria Wyn Jones a Scully at rai o nodweddion system wleidyddol a ddominyddir gan un blaid wrth drafod y nodweddion hyn yng Nghymru:

ones where the most important cleavages occur within the dominant party rather than between parties, and where other political actors are required to provide implicit recognition of this state of affairs, orienting their behaviour around shaping the battles occuring within the dominant political force (2008: 68). 

Nid oes yna ymchwil manwl diweddar ar gael i asesu effaith yr unbleidiaeth hon ar ddiwylliant gwleidyddol Cymru. Ond, serch hynny, mae’n amlwg bod goblygiadau i gymdeithas sifil o ran llethu amrywiaeth, lluosogyddiaeth trafodaeth wleidyddol a hefyd, felly, weithgarwch, amlygrwydd a rôl wleidyddol cymdeithas sifil. Mae casgliad Wyn Jones a Scully yn cyd-fynd â chasgliadau’r ymchwil hwn: ‘There remains some distance still to be travelled before a mature and pluralistic democracy may be said to exist in Wales’ (2008: 68).

Mae’r gwrthgyferbyniad â diwylliant gwleidyddol Catalwnia’n drawiadol gan nad oes yr un blaid wedi bod yn ddominyddol yno. I’r gwrthwyneb, tan 2003 y tueddiad oedd bod y prif bleidiau’n gwneud yn well mewn etholiadau i lefelau gwahanol o lywodraeth, yn blaid lywodraethol ar un lefel ac yn wrthblaid ar lefel arall o lywodraeth (Balcells, 1996: 183). Effaith hyn yw diwylliant gwleidyddol mwy lluosog, gan gynnwys gwleidyddiaeth aml-bleidiol, a hynny ar wahanol lefelau o lywodraeth. Rhaid cydnabod fod y pwyslais ar gryfhau’r pleidiau gwleidyddol yn ystod y trawsnewidiad (y gellid ei ddeall fel dylanwad gwleidyddiaeth y wladwriaeth) a llywodraethu hir CiU wedi effeithio ar nifer o fudiadau. Ond, ar y cyfan, gall y cyd-destun diwylliant gwleidyddol ehangach annog datblygiad cymdeithas sifil fwy lluosog ac amrywiol. Yng Nghymru, awgrym canlyniadau’r etholiadau i’r Cynulliad o 1999 hyd 2007 yw bod datganoli’n graddol wanhau’r unbleidiaeth sydd wedi nodweddu gwleidyddiaeth Cymru cyhyd (Wyn Jones a Scully, 2008: 84). Gallai hyn arwain at greu gwleidyddiaeth fwy lluosog yng Nghymru a allai yn ei dro effeithio ar gymdeithas sifil a’i hymwneud â llywodraeth ranbarthol.

Yn olaf, mae ymchwilio i effaith llywodraeth ranbarthol ar y berthynas rhwng cymdeithas sifil a llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a Chatalwnia wedi tynnu sylw at allu’r lefel ranbarthol fel lleoliad ar gyfer dyfeisgarwch yn y broses o hyrwyddo cyfranogi yn y broses ddemocrataidd. O bersbectif y cyfnod cyn datganoli, mae graddau’r dyfeisgarwch a’r canlyniadau yn ystod dau dymor cyntaf datganoli o ran mewnbwn cymdeithas sifil i waith llywodraeth ranbarthol yng Nghymru yn sylweddol. Serch hynny, er gwaetha’r camau hyn, mae’r ymchwil wedi dangos bod datblygiadau Catalwnia’n berthnasol i Gymru. Y Generalitat oedd y llywodraeth gyntaf yn Sbaen i sefydlu adran benodol i hybu cyfranogaeth dinasyddion gan greu, drwy hynny, oblygiadau amlwg i gymdeithas sifil. Mae’r hinsawdd hwn wedi annog ailystyried cyfranogaeth oddi mewn i’r pleidiau gwleidyddol ac mewn etholiadau hefyd (Font, 2005). Manylwyd ar y dulliau a’r strwythurau sydd wedi eu datblygu yng Nghatalwnia i roi’r syniad o ddemocratiaeth gydgynghorol ar waith. Mae gwersi i’w dysgu yma yng Nghymru o ran datblygu ymhellach strwythurau cyfranogi Llywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad Cenedlaethol. Ond, er y gydnabyddiaeth gynyddol o rôl cymdeithas sifil,  mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i effaith ac amcan cyfranogi o ran meithrin cymdeithas sifil a natur y gymdeithas sifil honno.

I gloi, her fawr i’r ddwy ddemocratiaeth ifanc sydd wedi profi newid cyfansoddiadol er 2006 yw datblygu’r berthynas rhwng sefydliadau datganoledig a chymdeithas sifil mewn modd sy’n ymwybodol o’r goblygiadau i ymreolaeth cymdeithas sifil. Dyma gam allweddol er mwyn sicrhau diwylliant gwleidyddol democrataidd cadarn yng nghyd-destun llywodraeth ranbarthol, cam a fydd yn ei dro yn effeithio ar gyfeiriad datganoli.

Cydnabyddiaeth

Diolch i Richard Wyn Jones am ei sylwadau ar ddrafft blaenorol o’r casgliadau ymchwil hyn a diolch i’r arfarnwyr anhysbys am eu sylwadau. Diolch i’r holl rai a gytunodd i gael eu cyf-weld yng Nghymru ac yng Nghatalwnia: heb hynny ni fyddai’r ymchwil yn bosibl. Mae pob camgymeriad neu wall yn gyfrifoldeb yr awdur.

Nodiadau

 

[1] Ariannwyd y gwaith ymchwil i astudio effaith datganoli ar gymdeithas sifil yn ystod tymor cyntaf datganoli i Gymru drwy gyfrwng ysgoloriaeth ddoethuriaethol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ystod y cyfnod 2000–2003. Ariannwyd y gwaith ymchwil ar Gymru yn 2007 gan Wobr Goffa Syr David Hughes Parry, Prifysgol Aberystwyth. Ariannwyd y gwaith ymchwil ar Gatalwnia gan Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Goffa Saunders Lewis. Cynhaliwyd y gwaith maes hwnnw yn ystod 2005 a 2006. Mawr yw’r diolch am y gefnogaeth ariannol hon.

[2] Am wybodaeth bellach am y mudiadau, gweler: Cymdeithas yr Iaith, http://cymdeithas.org/; Cymuned, www.cymuned.org; Plataforma per la Llengua, http://www.plataforma-llengua.cat/; Stonewall Cymru, http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/default.asp; Casal Lambda, http://www.lambdaweb.org/; Coordinadora Gai-Lesbiana (CGL), http://www.cogailes.org/;

Oxfam Cymru, http://www.oxfam.org.uk/applications/blogs/cymru/;

Intermon Oxfam, http://www.intermonoxfam.org/ca/page.asp?id=1

[3] Canlyniad Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 oedd Llafur 28, Plaid Cymru 17, Ceidwadwyr 9, Democratiaid Rhyddfrydol 6. Canlyniad Etholiad y Cynulliad Mai 2003 oedd Llafur 30, Plaid Cymru 12, Ceidwadwyr 11, Democratiaid Rhyddfrydol 6, Annibynnol 1. Canlyniad Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007 oedd Llafur 26, Plaid Cymru 15, Ceidwadwyr 12, Democratiaid Rhyddfryddol 1, Annibynnol 1.

[4] Mae cyfeiriadau at ddyletswydd i hybu cydraddoldeb yn adrannau adrannau 4, 40 a 41 Statud Ymreolaeth Catalwnia 2006 (gweler Generalitat de Catalunya, 2009b). Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, gosodwyd dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb drwy adran 48 ac adran 120. Mae’r elfennau hyn yn parhau yn adran 77 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweler Chaney, 2009).

[5] Prif bleidiau’r glymblaid oedd y Convergència Democràtica de Catalunya (CDC), plaid fwy adain dde genedlaetholgar a gâi ei harwain gan Jordi Pujol, a’r Unió Democràtica oedd yn blaid fwy democrataidd Gristnogol.

[6] Gan fod CiU yn llywodraeth leiafrifol yn dilyn etholiad 1980, dibynnai ar gefnogaeth yr ERC a’r UCD. I gydnabod hyn, cafwyd clymblaid gydag ERC y tymor dilynol ac roedd safle ganddynt yn y cabinet yn ystod llywodraeth 1984-7. ERC – Esquerra Republicana de Catalunya yw’r blaid fwyaf cenedlaetholgar sy’n galw am annibyniaeth i Gatalwnia. Gweler Baras a Dalmases, 1998b: 176–8.

[7] PSC – Partit Socialistes de Catalunya – ffurfiwyd adeg y trawsnewidiad gan ddod â thair plaid sosialaidd Catalwnia ynghyd. Y rheiny oedd El Partit Socialista de Catalunya-Congrés (PSC-C), La Federació Catalana del PSOE a’r el Partit Socialista de Catalunya – Regrupament (PSC-R). Gweler Baras a Dalmases, 1998b. Y PSC sy’n gysylltiedig â’r PSOE, y blaid sosialaidd ar lefel wladwriaethol Sbaen. Cynghrair yw’r IC-V – Iniciativa per Catalunya Verds o’r blaid fwy comiwnyddol a’r blaid werdd. Yn rhagflaenu Iniciativa oedd Partit Socialista Unificat de Catalunya (PSUC) a ddaeth i ben yn 1987 ac yna sefydlwyd Inicativa per Catalunya (IC). Ers yr 1990au bu mewn clymblaid gyda’r gwyrddion (Verds). Am fwy o wybodaeth am y pleidiau, gweler Baras a Dalmases, 1998b.

[8] Cyfweliad Cymru 48, 26.7.07. Am fanylion am y rhwydweithiau eraill a noddwyd gan y Cynulliad gweler Chaney a Fevre, 2002b.

[9] Cyfweliad Cymru 46, 15.2.07.

[10] Cyfweliad Cymru 46, 15.2.07.

[11] Cyfweliad Catalwnia 20, 13.9.06.

[12] Cyfweliad Catalwnia 17, 8.9.06; Cyfweliad Catalwnia 19, 12.9.06; Cyfweliad Catalwnia 20, 13.9.06.

[13] Cyfweliad Catalwnia 10, 27.10.05; Cyfweliad Catalwnia 19, 12.9.06.

[14] Cyfweliad Catalwnia 17, 8.9.06; Cyfweliad Catalwnia 6, 25.10.05.

[15] Cyfweliad Catalwnia 19, 12.9.06; Cyfweliad Catalwnia 16, 8.9.06. Un ddeddf a gefnogwyd gan lywodraeth Pujol ar ddiwedd yr 1990au oedd deddf ar gyfer partneriaid ‘llei parellas de fet’. Gweler Vilà, 2000: 282.

[16] Cyfweliad Catalwnia 1, 17.10.05.

[17] Cyfweliad Catalwnia 17, 8.9.06; Cyfweliad Catalwnia 19, 12.9.06.

[18] Cyfweliad Catalwnia 2, 18.10.05.

[19] Cyfweliad Catalwnia 6, 25.10. 05.

[20] Cyfweliad Catalwnia 16, 8.9.06.

[21] Cyfweliad Catalwnia 1, 17.10.05.

[22] Cyfweliad Catalwnia 10, 27.10.05.

[23] Cyfweliad Catalwnia, 12, 3.11.05.

[24] Cyfweliad Catalwnia 1, 17.10.05.

[25] Cyfweliad Catalwnia 7, 26.10.05; Cyfweliad Catalwnia 11, 28.10.05; Cyfweliad Catalwnia 16, 8.9.06; Cyfweliad Catalwnia 19, 12.9.06;  Cyfweliad Catalwnia 13, 4.11.05. Ymysg yr esboniadau a roddwyd am y gwahaniaeth oedd bod lluosogyddiaeth cymdeithas sifil yn adlewyrchu’r dwysedd mudiadau cymdeithasol, y pwyslais yng Nghatalwnia ar ymwneud mewn mudiadau a gweithredu ar y cyd.

[26] Geiriad Erthygl 8, 2: ‘It is incumbent on the “Generalitat” as a public authority, to develop conditions within its area of jurisdiction such that the freedom and equality of individuals and the groups of which they form part may be effective and real, to remove any obstacles which may prevent or impede their full development and to facilitate the participation of all its citizens in political, economic, cultural and social life’ (Generalitat de Catalunya, 1997a).

[27] Erbyn Etholiad y Cynulliad 2007, gwelwyd cynnydd ym maint y bleidlais, o 38.2% yn 2003 i 43.5% yn 2007.

[28] Daw’r data yma gan y Generalitat o’r gofrestr o’r mudiadau sydd wedi’u cofrestru yn ôl y gyfraith. Pasiwyd y ddeddf gyntaf ar gyfer cydnabod a chofrestru mudiadau yn 1964 (Sarasa, 1998b).

[29] Cyfweliad Catalwnia 6, 25.10.05.

[30] Cyfweliad Catalwnia 5, 24.10.05; Cyfweliad Catalwnia 10, 27.10.05.

[31] Cyfweliad Cymru 48, 26.7.07.

[32] Cyfweliad Catalwnia 17, 8.9.06.

[33] Cyfweliad Catalwnia 19, 12.9.06.

[34] Cyfweliad Catalwnia 20, 13.9.06.

[35] Cyfweliad Catalwnia 16, 8.9.06.

[36] Cyfweliad Catalwnia 13, 4.11.05.

[37] Cyfweliad Catalwnia 15, 8.9.06; Cyfweliad Catalwnia 24, 14.9.06.

Llyfryddiaeth

 

Alexander, J. C. (1993), ‘The Return to Civil Society’, Contemporary Sociology (Cyf. 22, Rhif 6) 797–803.

Argelaguet, J. (2006), ‘Subjective National Identities in Catalonia’, Nationalism and Ethnic Politics (Cyf. 12, Rhif 3) 431–54.

Balcells, A., Walker, G. J. (goln.) (1996), Catalan Nationalism: Past and Present (Basingstoke: Macmillan).

Baras, M., Matas Dalmases, J. M. (1998a), ‘El Sistema Electoral i Les Eleccions a Catalunya’, yn M. Caminal Badia a J. Matas Dalmases (goln.), El Sistema Politics de Catalunya (Madrid: Tecnos).

Baras, M., Matas Dalmases, J. M. (1998b), ‘Els Partits Politics i el Sistema de Partits’ yn M. Caminal Badia and J. Matas Dalmases (goln.), El Sistema Politics de Catalunya (Madrid: Tecnos).

Calhoun, (1995), Critical Social Theory (Oxford: Blackwell Publishers).

Chaney, P. (2002a), Social Capital and the Participation of Marginalized Groups in Government: A study of the Statutory Partnership between the Third Sector and Devolved Government in Wales (Paper prepared for the Fifth ISTR International Conference, Cape Town, South Africa, July 2002).

Chaney, P. (2002b), ‘Social Capital and the Participation of Marginalized Groups in Government: A Study of the Statutory Partnership Between the Third Sector and Devolved Government in Wales’, Public Policy and Administration (Cyf. 17, Rhif. 4) 20–38.

Chaney, P. (2009), Cyfle Cyfartal a Hawliau Dynol: Degawd Cyntaf Datganoli yng Nghymru. Adroddiad a Gomisiynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

http://wales.gov.uk/docs/awc/publications/090630equalityhumanrepcy.doc      11.11.09

Chaney, P., Fevre, R. (2001a), ‘Ron Davies and the Cultivation of “Inclusiveness”: Devolution and Participation in Wales’, Contemporary Wales (Cyf. 14) 21–50.

Chaney, P., Fevre. R. (2001b), ‘Welsh Nationalism and the challenge of ‘Inclusive Politics’, Political Opportunities, Social Movements, and Democratization (Cyf. 23) 227–54.

Chaney, P., Hall, T., Dicks, B. (2000). ‘Inclusive Governance? The case of “Minority” and Voluntary Sector Groups and the National Assembly for Wales’, Contemporary Wales (Cyf. 13) 203–30.

Cohen, J. L., Arato, A. (1999), Civil Society and Political Theory (Massachusetts: MIT Press).

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2007), Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Hawlfraint y Goron).

Davies, J. (1994), A History of Wales (Llundain: Penguin Books).

Davies, Ron (1999), Devolution: Process Not an Event (Sefydliad Materion Cymreig, Papurau Gregynog , Cyfrol 2 (2)).

Direcció General de Participació Ciutadana (2005a), ‘Participació i nou Estatut’, Activitat Parlamentària (Rhif 7, Ionawr 2005) 34–52.

Direcció General de Participació Ciutadana (2005b), Participation and New Statute of Autonomy for Catalonia. Papur heb ei gyhoeddi.

Direcció General de Participació Ciutadana (2006a), ‘Incorporar la Ciutadania en la Política Autonòmica’, Innovació Democràtica (Rhif 1, Mawrth 2006) 7–16.

Direcció General de Participació Ciutadana (2006b), ‘Procesos de Debat i Deliberació’, Innovació Democràtica (Rhif 1, Mawrth 2006) 17–24.

Direcció General de Participació Ciutadana (2006c), ‘Espais Estables de Participació’, Innovació Democràtica (Rhif 1, Mawrth 2006) 25–32.

Edwards, S. (1999), ‘Reconstructing the Nation: The Process of Establishing Catalan Autonomy’, Parliamentary Affairs (Cyf. 52) 666–76.

Elis-Thomas, D. (2009), Cyfansoddiad Newydd Cymru – y Ddwy Flynedd Gyntaf Darlith Cymdeithas y Cyfreithwyr, Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009.

Fishkin, J., Laslett, P. (goln.) (2003), Debating Deliberative Democracy (Oxford: Blackwell).

Foley, M. W., Edwards, B. (1996), ‘The Paradox of Civil Society’, Journal of Democracy (Cyf. 7, Rhif 3) 38–52.

Font, J. (gol.) (2005), La política i la participació: polítics, partits i eleccions Polítiques 49 (Barcelona : Fundació Jaume Boffil).

Font, J., Blanco, I. (2003), ‘Organs de participació ciutadana i associativa de la Generalitat de Catalunya: anàlisi i propostes’ yn Fernández, A., Muñoz, X., Sisternas, X. (goln.), Informe Pi i Sunyer sobre l’Administració de la Generalitat de Catalunya (Barcelona: Fundació Carles Pi i Sunyer d’estudis autonomics i socials).

Generalitat de Catalunya, cyfieithiad John Beattie (1997a), The Catalan Statute of Autonomy, Guardens Legislació Temàtica (Catalunya: Generalitat de Catalunya).

Generalitat de Catalunya (1997b), Llei 7/1997, de 18 de juny d’Associacions Guardens de Legislació 9 (Catalunya: Generalitat de Catalunya).

Generalitat de Catalunya (2009a), The normalisation of democracy and the autonomous regions, 1980–2003.

http://www.gencat.cat/generalitat/eng/guia/antecedents/antecedents19.htm 12.1.09

Generalitat de Catalunya (2009b), Statute of Autonomy of Catalonia

http://www.gencat.cat/generalitat/eng/estatut/titol_1.htm                              10.11.09

Giddens, A. (1998), The Third Way: The Renewal of Social Democracy (Cambridge: Polity Press).

Giddens, A. (2000), The Third Way and its Critics (Cambridge: Polity Press).

Giner, S. (1980), The Social Structure of Catalonia (Sheffield: Anglo-Catalan Society).

Giner, S. (2001), ‘Catalonia: The Tradition of Modernity’, Scottish Affairs: Stateless Nations in the 21st Century (Rhifyn Arbennig) 166–80.

Greer, S. L. (2006). Demanding Only Autonomy: Catalonia in the Spanish Democratic Transition, Papur heb ei gyhoeddi, ar gael o: http://deepblue.lib.umich.edu/index.jsp

Greer, S. L. (2007), Nationalism and self-government: the politics of autonomy in Scotland and Catalonia (Albany: State University of New York Press).

Guibernau, M. (1999), Nations without states: political communities in a global age (Cambridge: Blackwell Publishers).

Guibernau, M. (2001), ‘Catalonia After 20 Years of Autonomy’, Scottish Affairs: Stateless Nations in the 21st Century (Rhifyn Arbennig) 137–50.

Gunther, R., Montero, J. R., Botella, J. (2004), Democracy in Modern Spain (London: Yale University Press).

Hain, P. (1999), A Welsh Third Way, Tribune Pamphlet (London: Tribune Publication).

Heywood, P. (2000), ‘Spanish Regionalism: A Case Study’, yn Smith, A. a Heywood, P., Regional Government in France & Spain (London: Constitution Unit).

Intermòn Oxfam (2006), 50 anys d’Intermòn Oxfam,

http://www.intermonoxfam.org/page.asp?id=2008&idioma=2 29.10.06

Keating (1997), ‘Stateless nation-building: Quebec, Catalonia and Scotland in the changing state system’, Nations and Nationalism (Cyfrol. 3, Rhif 4) 689–717.

Keating, M (2001a), Nations Against The State: The New Politics Of Nationalsim In Quebec, Catalonia and Scotland (Basingstoke: Palgrave).

Keating, M. (2001b), Plurinational Democracy: Stateless Nations in a Post-Sovereingty Era (Oxford: OUP).

Llywodraeth y Cynulliad (2004a), Adroddiad Comisiwn Richard: Comisiwn ar bwerau a threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Caerdydd: The Stationery Office).

Llywodraeth y Cynulliad (2004b), Independent Commission to Review the Voluntary Sector Scheme – Final Report,

http://new.wales.gov.uk/docrepos/40382/sjr/voluntary/reviewreport?lang=en 19.9.06

Llywodraeth y Cynulliad (2006). Cyllideb Derfynol 2006,

http://new.wales.gov.uk/about/finance/assemblybudgets/previousbudgetindex/2006finalbudget/?lang=cy 13.11.08

MacInnes, J. (2001), ‘Dual National Identity in Scotland and Catalonia’, Scottish Affairs: Stateless Nations in the 21st Century (Cyfrol Arbennig) 104–21.

McAllister, I. (1980), ‘The Labour Party in Wales: The Dynamics of one-partyism’, Llafur (Cyfrol. 3, Rhif. 1) 79–89.

McRoberts, K. (2001), Catalonia: Nation Building Without a State (Oxford: Oxford University Press).

Morgan, K. O. (2002), Rebirth of a Nation: A History of Modern Wales (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen).

Morgan, K., Mungham, G. (2000), Redesigning Democracy: The Making of the Welsh Assembly (Penybont: Seren).

Nagel, J. (2001), ‘Catalan Nation-Building and the Transition to Democracy in Spain’, Scottish Affairs: Stateless Nations in the 21st Century (Cyfrol Arbennig) 122–36.

Oxfam Cymru (2001), Oxfam Cymru Vision (dim cyhoeddwr).

Paterson, L., Wyn Jones, R. (1999), ‘Does civil society drive constitutional change?’ yn B., Taylor, K., Thomson (goln.), Scotland and Wales: Nations Again? (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Pagès i Rejsek, J. (2005), ‘Les Competències de la Generalitat’, yn L’autonomia política de Catalunya: Orígens, competències i organització de la Generaliat (Barcelona: Generalitat de Catalunya).

Putnam, R. D. (2000), Bowling Alone: The Collapse and Revival of American Community (Llundain: Simon & Schuster).

Rawlings, R. (2005), ‘Hastening slowly: the next phase of Welsh devolution’, Public Law 824–52.

Royles, E. (2007), Revitalising Democracy? Devolution and Civil society in Post-devolution Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Sarasa, S. (1998a), ‘Prefaci: la societat civil catalana’, yn Giner, S. (gol.), La societat catalana (Barcelona: Institut d’Estadística de Catalunya).

Sarasa, S. (1998b), ‘Associacionisme, movements social i participació cívica’, yn Giner, S. (gol.), La societat catalana (Barcelona: Institut d’Estadística de Catalunya).

Schmitter, P. C. (1979), ‘Still the Century of Corporatism?’, yn P. C. Schmitter, G. Lembruch (goln.), Trends Towards Corporatist Intermediation (London: Sage).

Sherlock, A. (2000), ‘Born free, but everywhere in chains? A legal analysis of the first year of the National Assembly for Wales’, Cambrian Law Review (Cyfrol. 13) 61–7.

Subirats, J. (2005), ‘Multi-level Governance and Multi-level Discontent: The Triumph and Tensions of the Spanish Model’, yn S. L. Greer (gol.),Territory, Democracy and Justice (Basingstoke: Palgrave Macmillan).

Swyddfa Gymreig (1997), Papur Gwyn: Llais Dros Gymru – Cynigion y Llywodraeth ar gyfer Cynulliad Cymreig (DG: Llyfrfa ei Mawrhydi).

Trench, A. (2006), ‘The Government of Wales Act 2006: the next steps in devolution for Wales’, Public Law, 4 (gaeaf), 687–96. 

Vernet i Llobet, J. (2003), Estudis sobre l’autogovern de Catalunya (Barcelona: Publicacions del Parlament de Catalunya).

Vilà, A. A. (1998), ‘Els Moviments Socials a Catalunya’, yn M. Caminal Badia and J. Matas Dalmases (goln.), El Sistema Politics de Catalunya (Madrid: Tecnos).

Vilà, E. (2000), ‘Moviment gai i lèsbic’, yn A. Mirabet i Mullol (gol.), Homosexualitat a l’inìci del segle XXI (Barcelona: Claret).

Watkin, T. G. (2007), The Legal History of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Whitehead, L. (1997), ‘Bowling in the Bronx: The Uncivil Interstices between Civil and Political Society’, yn R. Fine a S. Rai (goln.), Civil Society: Democratic Perspectives (Llundain: Frank Cass).

Williamson, D. (2009), ‘Legislative logjam knocks cycle scheme off track’, Western Mail (21 Ionawr 2009).

Wilson, F. L. (1990), ‘Neo-corporatism and the Rise of New Social Movements’, yn R. J. Dalton a M. Kuechler (goln.), Challenging the Political Order: New Social and Political Movements in Western Democracies (Cambridge: Polity Press).

Wyn Jones, R., Lewis, B. (1998), The Wales Labour Party and Welsh Civil Society: Aspects of the Constitutional Debate in Wales,

http://www.aber.ac.uk/~iwpwww/ 25.05.99

Wyn Jones, R., Scully, R. (2008), ‘Welsh Devolution: The End of the Beginning and the Beginning of...?’ yn A. Trench (gol.), The State of the Nations 2008 (Exeter: Imprint Academic).

e-Gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

islwytho'r erthygl 

Manylion
Bywgraffyddol

Elin Royles

Designed & Developed by WiSS Limited