Rhifyn Cyfredol

Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r 'Ferch o'r Scerr'

Leila Salisbury

Ar drothwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhwng 1795 a 1806, bu Iolo Morganwg, casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru, wrthi’n ddyfal yn cywain cyfoeth y diwylliant gwerin Cymreig ym Mro Morgannwg.[1] Bu wrthi’n croniclo, nid yn unig yr alawon a’r geiriau, ond hefyd fanylion am y cyd-destun cymdeithasol ehangach a fu’n gefndir ac yn gynhaliaeth iddynt. Yr oedd hen arferion a thraddodiadau brodorol bellach yn cael eu hystyried yn bynciau eithriadol o bwysig ym meddylfryd y cerddor, y llenor a’r bardd rhamantaidd. Casglu oedd chwiw’r cyfnod.

Yng ngeiriau G. J. Williams:

Bardd rhamantaidd oedd Iolo ... Cyffroid ef gan arferion, defodau, hen goelion, yr un cyffro ag a gaffai beirdd rhamantaidd y ganrif ddiwethaf ... nid yn unig hynny, ymddiddorai hefyd yng ngorffennol crefftau’r werin, yn nysg y werin. Casglai ddywediadau, diarhebion, a chof llafar y werin honno.[2]

Eglura D. Gwenallt Jones sut oedd gweithgarwch Iolo, yn hyn o beth, yn cyd-fynd â holl ymdeimlad ehangach y cyfnod, mewn perthynas â gweithgarwch unigolion blaenllaw eraill yr oes:

Darganfyddiad mwyaf y ddeunawfed ganrif oedd darganfod gorffennol llenyddiaeth Cymru ... rhyfeddod a gorfoledd i feirdd ac ysgolheigion y ddeunawfed ganrif oedd gweled bod gan Gymru hen hanes a hen farddoniaeth. Gwelir y syndod a’r llawenydd hwnnw yn llythyrau’r Morisiaid, llythyrau Goronwy Owen a llythyrau Ieuan Brydydd Hir.[3]
Gwelir y syndod a’r llawenydd hwnnw hefyd yn llythyron a llawysgrifau Iolo Morganwg.
 Ceir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ddwy ar bymtheg o lawysgrifau gwahanol sy’n cynnwys alawon gwerin a gofnodwyd gan Iolo Morganwg ar drothwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y maent yn amrywio’n fawr o ran maint a chynnwys; er enghraifft, ceir rhai ohonynt ymysg llythyron at ei gyfeillion yn Llundain (e.e. ‘Cainc y Cathreiwr’ a ‘Haw, haw, Brithi i’r Buarth’ NLW 13221E, t. 92–3), eraill ymysg traethodau a sylwadau ar gerddoriaeth a chwaraeon Cymru’r cyfnod (e.e. ‘[hen gywydd deuair]’ NLW 13131A, t. 463 a ‘Brigant, neu chware'r Brigant’ NLW 13146A, t. 450–52), a rhai alawon wedi’u gosod yn arbennig ar wahân ar bapur erwydd (e.e. ‘Y Pannwr’ a ‘Hwp y diri dando’ NLW IAW 145). Treian o’r alawon yn unig sydd â geiriau yn perthyn iddynt, a’r rheini wedi eu gosod, naill ai fel rhan anhepgorol o’r gân, megis islaw’r nodiant, neu fel cerdd annibynnol ar wahân, ond sy’n dwyn yr un teitl. Y ddwy brif ffynhonnell sy’n cynnwys y mwyafrif o’r alawon a gofnodwyd gan Iolo yw NLW IAW 145 ac NLW 13146A.

Gellir cymharu cyfraniad Iolo i fyd llenyddol a hanesyddol Cymru’r ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ochr yn ochr â’i gyfraniad i fyd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, ac mae’n amlwg mai casglu deunydd, ei gofnodi a’i osod yn ei gyd-destun ehangach oedd ei wir arbenigedd. Fodd bynnag, nid yr un amcan oedd yn gyrru Iolo i dadogi cerddi caeth ar Dafydd ap Gwilym a cherddi rhydd ar Rhys Goch ap Rhiccert â’r hyn oedd yn ei ysgogi i gofnodi alawon gwerin ei gynefin. Dwyn canu’r gorffennol i olau dydd oedd ei fwriad ac roedd hyn yn rhan o feddylfryd rhamantaidd y cyfnod, fel yr esbonia D. Gwenallt Jones isod:

Yn wahanol i feirdd clasurol Lloegr a Ffrainc, nid yn ôl at feirdd Groeg a Rhufain yr aeth beirdd clasurol Cymru am safonau a phatrymau, ond yn ôl at feirdd ei gorffennol hi ei hun. Credai beirdd Cymru yn y ddeunawfed ganrif fod beirdd eu gwlad hwy yn well na beirdd Groeg a Rhufain.[4]

Yng ngoleuni’r dystiolaeth uchod, gellir honni mai swyddogaeth Iolo, yng nghyd-destun traddodiad barddol Cymru’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd efelychu ‘safonau a phatrymau’ beirdd o’r gorffennol, a’u priodoli i feirdd ei gyfnod ef.

Honna P. J. Donovan mai bwriad Iolo, wrth efelychu’r cerddi, oedd ‘[c]reu traddodiad, creu gorffennol ... gwych’.[5] Fodd bynnag, dadlau i’r gwrthwyneb a wna Geraint Jenkins:

He wrote, read and copied ceaselessly in a bid ‘to bring long hidden truths to light’.[6]

Dal gafael ar drysorau’r gorffennol, a’u gosod ar gof a chadw oedd ei ymgais wrth gywain cyfoeth y diwylliant gwerin Cymreig, yn hytrach na’u hefelychu a’u dynwared. Wrth graffu ar yr alawon gwerin a gasglodd Iolo ni cheir tystiolaeth iddo fyth eu ffugio, ac o sylwi ar natur amatur ei nodiant gellir honni nad oedd ganddo’r crebwyll cerddorol i’w ffugio ychwaith. Fel y dywed Meredydd Evans:

[Mae] cerddoriaeth yn dod o’r bywyd, dyna lle mae diddordeb Iolo.[7]

Nid cerddor wrth reddf mohono ond, yn hytrach, hynafiaethydd oedd yn effro i arferion a thraddodiadau brodorol ei gynefin, ac roedd yn perthyn yn uniongyrchol i’r bywyd hwnnw, i’r taplasau, y twmpathau dawns a’r gwyliau mabsant. Ni chafodd Iolo fyth ei drwytho yn nhraddodiad cerddoriaeth werin Cymru, o gymharu â’r modd y cafodd ei drwytho yn nhraddodiad llenyddol a barddol Cymru’r gorffennol, yn ogystal â Chymru ei gyfnod ef ei hun. Gellir honni bod Iolo, o safbwynt traddodiad barddol a llenyddol Morgannwg ei ddydd, yn fardd ac yn ffugiwr ond, o safbwynt ei waith ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, yn ddi-os, casglwr ydoedd. 

Daeth holl rym y Diwygiad Methodistaidd â deffroad newydd i ganu crefyddol Cymru’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwelwyd yr emyn yn chwarae rhan annatod yng ngoblygiadau’r Diwygiad, a maes o law daeth yn arf pwerus ar ran yr achos. Fel yr atega E. G. Millward:

Arf angenrheidiol yn y frwydr dyngedfennol honno oedd yr emynau diwygiadol; cyfrwng i ddod â’r gwrandäwr i fwlch yr argyhoeddiad. [8] 

Yn sgil dyfodiad y Diwygiad i Gymru tua 1735 gwelwyd newid syfrdanol yn hanes traddodiad gwerin Cymru’r oes. Diwygiwyd yr arferion, y dathliadau a’r gweithgarwch a gysylltid ag adegau arbennig o’r flwyddyn gymaint nes peri iddynt golli eu hunaniaeth fel rhan o draddodiad gwerin y wlad. O ganlyniad, dirywiodd arferion megis canu carolau haf a charolau’r Nadolig, dathliadau Calan Mai, canu gorchest a chanu gwasael, hyd nes iddynt gael eu diarddel a’u gwrthod yn answyddogol gan y gymdeithas a diflannodd nifer fawr ohonynt i ddifancoll llwyr. Disodlwyd y crwth a’r delyn unrhes, a oedd yn cyfeilio i’r hen benillion yn y cyfnod cyn y Diwygiad, gan y ffidil a’r delyn deires newydd Eidalaidd.[9] Erbyn degawdau clo’r ddeunawfed ganrif, daeth y crythorion prin a oedd ar wasgar yng Nghymru felly i gynrychioli hen arfer a oedd yn graddol ddiflannu o’r tir. Ceir tystiolaeth gan Edward Jones ‘Bardd y Brenin’ o gryfder traddodiad canu penillion yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif:

The natives are so enamoured with them [penillion telyn] as to be constantly chanting them whenever they meet with a Harp, or a Crwth.[10]

Fel yr awgryma’r enw, y delyn oedd prif offeryn cyfeilio’r penillion telyn. Fodd bynnag, noda Cass Meurig, y ‘ceir ambell gyfeiriad uniongyrchol at ddefnyddio ffidil yng nghyd-destun canu penillion’.[11] Yn ogystal, enillodd y ffidil ei lle fel cyfrwng cyfeiliant i faledi’r oes, gan lwyr ddisodli’r crwth o ganlyniad i hynny.

Cyfnod o newid cyfeiriad oedd hanner olaf y ddeunawfed ganrif – newid cyfeiriad o safbwynt cymdeithasol, ym meddylfryd a syniadaeth y bobl, yn ogystal â newid cyfeiriad ar lefel ysbrydol a chrefyddol, gyda’r emyn yn ennill ei droedle fel cyfrwng cenhadol effeithiol, yn enwedig yng ngweithiau Williams Pantycelyn ac eraill. Fodd bynnag, ochr yn ochr â’r canu crefyddol hwn cydfodolai gweithiau beirdd y canu rhydd, sef y penillion telyn a oedd, i bob pwrpas, yn ‘perthyn i’r byd cyn-fethodistaidd, os nad cyn-gristionogol’.[12] Dywed Thomas Parry:

Yr oedd llawer o nodweddion y gymdeithas wir Gymreig yn aros yn y ddeunawfed ganrif.[13]

Tystia hyn i’r ffaith mai annoeth fyddai honni y gwelwyd tranc pob agwedd o’r traddodiad gwerin yng Nghymru yn sgil diwygiadau’r oes. 

Ceir cofnod o amryw faledi a chaneuon serch y cyfnod ymhlith casgliad Iolo Morganwg o alawon Bro Morgannwg y ddeunawfed ganrif,[14] megis ‘Nutbrown maid (Etifeddes y Coety)’,[15] ‘Y mwya’ gar fy nghalon’,[16] ‘Y Ferch o’r Scerr. Tho.s Evans Delynwr ai cant’[17] ac ‘Y feindwf fun’.[18] Dyna brawf pellach o natur boblogaidd y canu rhydd, er gwaetha’r ffaith mai dirmygu’r cyfrwng hwnnw a wnâi beirdd y canu caeth – rhai megis Goronwy Owen (1723–69), Ieuan Fardd (1731–88) a Morrisiaid Môn, a hynny gyda chryn afiaith. Er ceid rhai eithriadau hefyd, megis Edward Richard (1714–77) a bontiai’r canu caeth a’r canu rhydd:

Gwelodd Goronwy Owen fod iaith y canu rhydd yn iaith sathredig, a bod iaith hyd yn oed y canu caeth yn yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau’r ddeunawfed ganrif yn o sathredig, ac yn llawn o eiriau llanw ... ond ni chytunai Edward Richard â dwyn yr hen eiriau i mewn; gwell oedd ganddo ef iaith fyw y carolau a’r dyrïau.[19]

‘Mân-glyttwyr Dyriau[20] ... sydd hyd Gymru yn gwybetta’[21] yw’r disgrifiad a rydd Goronwy Owen ohonynt ym 1752, a galwai William Wynn hwynt yn ‘bumkins’.[22] Er hynny, ceir deuoliaeth rhwng beirdd y canu caeth a beirdd y canu rhydd, sydd i raddau yn adlewyrchu sgil effeithiau’r newidiadau cymdeithasol a ddaeth i rym yn ystod degawdau cynnar y Diwygiad. Er enghraifft, lluniodd Goronwy Owen gyfieithiad ar fesur salm, ‘a barchuswyd gan hen arfer ac a oedd, felly, yn gynsail dderbyniol’.[23] Hefyd, rhaid mai cellwair yr oedd William Wynn wrth ddefnyddio’r term ‘bumkins’, gan iddo yntau lunio cerddi yn null y beirdd gwerinol, megis carolau plygain.[24] Yn ogystal â hyn, ceid casgliad pur helaeth ym meddiant Morrisiaid Môn o gerddi a cheinciau y gellir eu hystyried yn faledi ac yn hen benillion, a gellir honni i’r mab hynaf, Lewis, a ymddiddorai mewn canu penillion, gynnal yr arfer o ganu gwasael yn eu bro enedigol ym Mhentre-eiriannell, Sir Fôn, drwy lunio pum cân wasael.[25] Eglura E. G. Millward y berthynas gymhleth a fodolai rhwng beirdd y naill draddodiad a’r llall:

Ymagweddu fel newydd-glasurwyr elitaidd ac etifeddion hen draddodiad y canu caeth yr oedd y beirdd hyn wrth gollfarnu dulliau’r beirdd gwerinol. Yn ymarferol, yr oedd y dulliau hynny’n rhan bwysig o’u harfogaeth farddonol ... pan oedd y traddodiad barddol yn tynnu ei draed ato yn yr unfed ganrif ar bymtheg fe welir y canu rhydd – a fuasai’n cydoesi, mae’n rhaid, â’r canu caeth – yn dechrau dod i’r golwg yn y llawysgrifau.[26]

Mewn gwirionedd, yn dilyn y dirywiad a welwyd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg o safbwynt boneddigion yn ymwrthod â noddi beirdd, fe orfodwyd y beirdd i ymgymryd â chyfrwng ‘llai caethiwus, sef mesurau a oedd yn seiliedig ar alawon cerddorol. Enillodd y canu carolaidd, fel y’i gelwid, ei blwyf, ac nid oes amheuaeth nad dyma ganu poblogaidd y ddeunawfed ganrif’.[27]

Gwŷr megis Huw Morys (1622–1709)[28] a Twm o’r Nant (1739–1810),[29] yn ogystal â Iolo Morganwg, oedd yn arddel y cyfrwng poblogaidd hwn ac yn arbrofi â dulliau newydd y canu rhydd, er enghraifft, y cerddi acennog, neu’r ‘canu ‘cyfacen’ fel y gelwid ef gan Iolo’.[30] Term arall a ddefnyddir i ddisgrifio’r math newydd hwn o ganu, a oedd yn rhydd o unrhyw fesurau gosod, a lle yr oedd mydryddiaeth y llinell yn gwbl ddibynnol ar y gainc, oedd ‘y canu caeth newydd’.[31] Mae Thomas Parry, E. G. Millward, Brinley Rees a Cass Meurig yn gytûn mai ar donau Seisnig, yn amlach na pheidio, y cenid y cerddi hyn. Yng ngeiriau Cass Meurig:

Cyfeiria’r term ‘canu baledi’ at y ‘canu caeth newydd’ ... canu a oedd yn boblogaidd iawn yng Ngogledd Cymru yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif. Baledi stryd a ffair o Loegr adeg y Chwyldro Diwydiannol oedd prif darddiad y canu hwn, mae’n debyg; wrth i’r broses o deithio fynd yn haws, ac wrth i fwy o Gymry fentro i weithio yn Llundain, daeth llawer o’r ceinciau Seisnig yn adnabyddus iawn yng Nghymru.[32]

Dylid nodi nad cerddi paganaidd eu naws yn unig a ddôi o dan gochl y canu caeth newydd. Daeth carolau o bob math, gan gynnwys carolau plygain, carolau Pasg, haf a Chalan Mai, i amlygrwydd, a hynny yn ystod y Diwygiad.[33] Cynrychiolai’r rhain syniadaeth bur wahanol i emynau’r Diwygiad:

Un gwahaniaeth o bwys rhyngddynt a gwaith emynwyr y Diwygiad Methodistaidd: cenir y carolau yn y person cyntaf lluosog ac ni welir ynddynt y pwyslais cyson ar brofiad yr unigolyn a geir yn yr emynau diwygiadol. Annerch ac annog ei gynulleidfa a wnâi bardd y carolau ... nid cynnal ymson â’i enaid ei hun.[34]

Dyma un o’r ffactorau sylfaenol a wahaniaethai destunau’r ddwy garfan – y modd y canolbwyntiai’r emynwyr ar ‘rannu’r profiad ysbrydol, yr “hunan”, ag eraill’,[35] ar y naill law, a phwyslais beirdd yr hen benillion telyn ar ‘deimladau dynol sylfaenol a bywyd y gymdeithas wledig’,[36] ar y llaw arall, gan ‘[dd]erbyn bywyd fel y mae, yn ei hagrwch a’i harddwch ... heb ddim hunandosturi nac ymwybod dwfn â phechod’.[37]

Holl hanfod y canu caeth newydd oedd canu mawl. Defnyddiai’r bardd caeth fformiwlâu stoc i ddyrchafu ei wrthrych, ac nid eithriad yw technegau beirdd y canu rhydd, megis Twm o’r Nant a Huw Morys ychwaith. Eglura A. Cynfael Lake sut oedd themâu a motifau beirdd y canu caeth yn ymdebygu’n fawr i’r rheini a ddefnyddiai beirdd y canu rhydd yn ogystal:

Nid oedd wal ddiadlam yn gwahanu’r beirdd caeth ac awduron y carolau, neu'r baledi. Yr un, mewn gwirionedd, oedd pynciau canolog y ddau gyfrwng – sef mawl a marwnad, crefydd a serch, er bod themâu’r canu rhydd – a’r mesurau a ddefnyddid – yn fwy amrywiol.[38]

Dylid nodi mai math gwahanol o fformiwlâu stoc oedd gan feirdd y canu rhydd, gyda’r gerddoriaeth a’r farddoniaeth wedi’u priodi’n gelfydd a baledwyr profiadol yr oes yn dwyn y traddodiad yn ôl i’w darddle, sef y traddodiad llafar, ac yn ‘ychwanegu at faled hir drwy amrywio alaw a rhythm o bennill i bennill’.[39] Ceir grym a chadernid i’r caneuon mawl, sy’n adlewyrchu statws cymdeithasol y gwrthrych, sef neges lywodraethol y canu rhydd i bob pwrpas.

‘[B]aledau celwyddog, y caneuau ofer, a’r gogangerdd fasweddgar ... sorod y bobl’,[40] yw’r disgrifiad o ganu rhydd seciwlar y cyfnod a rydd ‘awdur eglwysig (Gruffydd Jones, Llanddowror?)’[41] y llyfr hyfforddiadol, Cerdd Seion (1745). Ymateb tebyg a geir yng ngherdd Timothy Thomas isod:

Ac os ’dych chwi, wrth ganu,
’N amcanu’ch clod eich hun;
Mewn sŵn, heb gofio’r sylwedd,
Fel maswedd ar eich min;
Gwybyddwch, daw diwrnod,
Dychryndod, mawr ei drai,
I gwrdd â’r fath gantorion;
Gelynion ŷnt, heb drai.[42]

‘Bardd cymdeithasol’[43] yw’r term a rydd E. G. Millward am faledwyr y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yng nghyfnod Huw Morys daeth yr emyn a’r gân rydd seciwlar i ymdebygu’n fwy i’w gilydd. Er enghraifft, yng ngherdd grefyddol Pantycelyn, ‘Ffarwel, bleserau’r byd’, a genid ar y mesur salm, ceir cyffyrddiad carolaidd iddi, a gellir ystyried ‘Mae’r nefoedd ynghlo oddi wrthyf ers tro’ fel cerdd serch seciwlar.[44] Dylanwadodd arddulliau a ffurfiau’r bardd gwlad yn drwm ar Williams Pantycelyn drwy gydol ei yrfa fel emynydd, sy’n profi apêl y canu rhydd i’r emynwyr fel cyfrwng i ‘ddiwygio cymdeithas’.[45] Canodd Huw Morys ar yr un mesur, sef y mesur salm, i’w gariad, sy’n pontio naws ac arddull canu crefyddol y cyfnod â chaneuon serch. Gwelir yng ngwaith Jac Glan-y-gors (1766–1821), ‘gelyn anghymodlon i’r Methodistiaid ... fel y rhan fwyaf o faledwyr y cyfnod’,[46] elfen gref o ddychan, sef nodwedd amlycaf y canu hwnnw.

Er i Iolo feistroli celfyddyd cerdd dafod erbyn iddo droi’n ugain oed, gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Iorwerth Gwilim’ wrth gystadlu yn erbyn ei gyd-feirdd mewn eisteddfodau lleol, megis yr un a gynhaliwyd yn Llantrisant ym 1767,[47] llwyddodd hefyd i gyfrannu’n helaeth at ganu rhydd Morgannwg y cyfnod. Yng ngeiriau Huw Meirion Edwards:

As a free-metre poet he is most remarkable for his versatility, for his uncanny ability to adopt a multitude of styles and voices which all bear the hallmark of the same unique creative talent.[48]

Eglura Iolo Morganwg yn fynych, yn ei gasgliad o alawon gwerin Bro Morgannwg y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gefndir amryw o’r caneuon a gasglodd, gan fanylu ar hanes a tharddiad yr alaw. Dyma gefndir ‘Nutbrown maid (Etifeddes y Coety)’:

This tune is frequently to be met with in Glamorgan, sung by the common people, and in MS collections of old Music, it is known by the title of Nut-brown Maid, in Welsh it is called Y Fynachlog (The Abbey) and was formerly much used as a psalm-tune, but is now oftener applied to Elegiac Songs. From the English title of it, and also its peculiar adaption to this uncommon stanza of the ancient and beautiful English Song of the Nut-brown Maid, which I have no where else observed, that it is its original tune. It appears from its simplicity to be very old.[49]

Yn wyneb y dystiolaeth uchod, a’r ffaith mai cân oedd y ‘Nutbrown maid (Etifeddes y Coety)’ a ddefnyddid ‘as a psalm-tune’, gellir honni y bodolai perthynas glòs rhwng y canu caeth newydd a chanu crefyddol y cyfnod.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif daeth tro ar fyd ym myd y canu caeth. Ym mro enedigol Iolo, hefyd yng Ngwynedd, gwelwyd deffroad barddol ac ysgolheigaidd, a olygai arbrofi o’r newydd â’r mesurau caeth. Fodd bynnag, disgleirio drwy gyfrwng y mesurau rhydd a wnâi beirdd Morgannwg – mesurau megis yr awdl-gywydd, y cywydd deuair hirion a’r cywydd deuair fyrion, yn ogystal â’r triban. Yr oedd Iolo yn ymwybodol iawn o lawysgrifau’r cwndidwyr,[50] a hoffai ganu ar fesur cywydd deuair fyrion, a gellir dychmygu iddo feddu ar gasgliadau o weithiau’r hen gywyddwyr yn ei gartref yn Nhrefflemin. Daeth yntau yn feistr ar y canu caeth a’r canu rhydd, gan ymfalchïo yng ngweithiau beirdd ei gynefin gymaint nes peri iddo fynd ati i dadogi cywyddau o’i waith ei hun ar Dafydd ap Gwilym,[51] yn ogystal â cherddi rhydd ar Rhys Goch ap Rhiccert.[52] Eglura G. J. Williams ei fwriad yn hyn o beth:

Aeth ati o ddifrif i adlunio hanes ei fro a hanes ei bywyd llenyddol, a dechrau peri i feirdd a llenorion a haneswyr Cymru weld y gorffennol trwy’r niwloedd hud a greasai ef, ac i edrych ar yr hen Forgannwg fel magwrfa ein holl draddodiadau diwylliannol ... cyfnod y myfyrio a’r breuddwydio oedd hwn.[53]

Dyrchafu ei gymdogaeth oedd prif amcan Iolo wrth ffugio a dynwared gweithiau beirdd ei fro. Dyma hefyd un o themâu ei gerddi serch, sef canu mawl i Forgannwg, a hynny naill ai’n uniongyrchol drwy gyfeirio at bentrefi ac ardaloedd ym Morgannwg, neu’n fwy cynnil drwy ddefnyddio tafodiaith ei gynefin. Ceir ymhlyg yng ngherddi serch Iolo elfen drosiadol gref, sy’n dwyn deuoliaeth amwys effeithiol i’r thema dan sylw. Er yr ymddengys mai cyfeirio at rinweddau gwragedd yr ardal a wnâi Iolo, gyda’i ddefnydd o ddelweddau ac ieithwedd garwriaethol briodol, yr hyn a wnâi mewn gwirionedd yw adlewyrchu nodweddion Bro Morgannwg. Eglura Huw Meirion Edwards hyn ymhellach:

In one short but striking poem, just as in the cywyddau to Euron, the girl’s beauty and moral virtues are implicitly identified with the unparalleled qualities of ‘Gwladforgan’ itself. The opening verse is disarmingly direct:

Mae tŷ gwyn bach ym Mro Gwladforgan,
Ac yn ei gylch mae gwlad a pherllan,
Ac yno’n trigo gyda’i dynon
Mae’r unig ferch a gâr fy nghalon.[54]

Mae’r penillion isod a briodolir i Rhys Goch, sy’n rhan o gerdd o’r enw ‘Canu’r Marw o’i Serch’, yn enghraifft o’r modd yr aeth Iolo ati i ddyrchafu tafodiaith Morgannwg:
Dien [teg, hardd] i mi meingorph wisgi
Dioer os tydi am gwrthodi,
Gwn wynofi gan ymboeni,
Gwae fi poeni, gwae fi poeni.
Poeni beunydd dwyn ei cherydd
Ochawr ni’m bydd o lawenydd,
Y fory’r dydd ac fe dderfydd,
Gwae fi derfydd, gwae fi derfydd.[55]
Canu ar fesur cywydd deuair fyrion a wnâi Iolo, gan amlaf, yn y cerddi rhydd a briodolir ganddo i Rhys Goch ap Rhiccert. Mewn llawysgrif o’i eiddo cofnododd Iolo alaw ar fesur hen gywydd deuair, i daflu goleuni ar rai o fesurau’r cyfnod, lle cyfeiriai hefyd at Rhys Goch ap Rhiccert:
Y mae ym Morganwg lawer o hen ysgrif lyfrau cerddi Teuluaidd fal au gelwir yno. Y maent yn unodl ddieithr [?gydag] ambell un iawn drwy’r gân ac yn llwyr ddigynghanedd, y mesurau cyffredinaf yw’r hen gywydd deuair ar ba fesur y mae’n [?dda] gennyf glywed hen flaeneu wraig yn canu’r mesur hwn ar erddigan agos hyd eith fy nghof fal hon ... Yr wyf wedi clywed ceingiau bychain eraill ar ba rhai y cenid y mesur bach hynn. Mesur arall ar gan deuluaidd o’r hen ganiad yw’r gyhydedd gyrch ar y Gynghanedd lefn neu golofn Prydain. Un arall hefyd yr hen garol Gwasaela, ac weithiau rhai fesurau eraill – a llawer o’r hen Ganiadau ar fesurau amrafaelion, ag mewn oedran cymhelled yn ol a’r flwyddyn 1300 o leiaf; yn wir y mae caniad Serch Rhys Goch ap Rhiccert o Dir Iarll cyn belled yn ôl ar flwyddyn 1150, o leiaf.[56]
Honnai Iolo mai bardd o’r ddeuddegfed ganrif oedd Rhys Goch ap Rhiccert.[57] Fodd bynnag, mae’r gyfrol Casgliad o Hen Ganiadau Serch: Yn cynnwys rhai a briodolir i Rys Goch ab Rhiccert ab Einion ab Collwyn yn taflu goleuni ar y mater wrth honni na ddylai’r bardd hwn ‘be placed further back than the year 1350’.[58] Nid ar chwarae bach felly yr olrheinir dyddiadau’r bardd o Dir Iarll. Cadarnheir hyn ymhellach:
Dau beth sydd yn dra sicr: sef mai nid Rhys Goch ab Rhiccert a gyfansoddodd y caneuon a briodolir iddo yn yr Iolo MSS., ac yn ail, mai mewn oes ddiweddarach nag oes Dafydd ap Gwilym y cyfansoddwyd hwynt.[59]
Yn wyneb y dystiolaeth uchod, byrdwn y ddadl hon yw mai bardd o’r ddeunawfed ganrif a gyfansoddodd y cerddi serch, yn hytrach na bardd o gyfnod y Gogynfeirdd, a hynny fel rhan o faniffesto ehangach Iolo i geisio dathlu a dyrchafu traddodiad barddol a llenyddol Morgannwg.

Tueddai Iolo i dadogi amryw gerddi ar feirdd ‘dilys a dychmygol’,[60] ac y mae lle i gredu dwy ochr y ddadl hon, gyda Geraint Jenkins a Daniel Huws[61] ar y naill law o’r farn mai cymeriad ffuglennol oedd Rhys Goch ap Rhiccert, ac awdur anhysbys Casgliad o Hen Ganiadau Serch ar y llaw arall yn ceisio profi, drwy ddatgan yr ymddengys ei enw mewn achrestrau, mai cymeriad hanesyddol ydoedd. Eglura G. J. Williams hyn ymhellach:

Cymerir gŵr o’r llyfrau achau, megis Rhys Goch ap Rhiccert, a gwneuthur iddo chwarae ei ran ym mhasiant bywyd llenyddol Morgannwg.[62]
Does dim amheuaeth na fu gŵr o’r enw Rhys Goch ap Rhiccert drigo ym Morgannwg ganrifoedd maith cyn dyddiau Iolo, ond ni cheir tystiolaeth i brofi y bu Rhys Goch erioed yn barddoni.[63] O ganlyniad i ffugiadau Iolo, drwy gyfrwng y cerddi a dadogwyd ganddo ar Rhys Goch, trodd Iolo un o gymeriadau Morgannwg y gorffennol yn fardd dychmygol ar gyfer Morgannwg y ddeunawfed ganrif. Dyma ddadl Geraint H. Jenkins:
Iolo fabricated enough material to fill scores of volumes ... emboldened by his success, he then began to spin fabulous tales, fabricate brutiau (chronicles), conjure up imaginary poets like Rhys Goch ap Rhicert.[64]
Nodir yn Casgliad o Hen Ganiadau Serch sut y rhoddir y frawddeg ‘Rhys Goch o Dir Iarll ab Rhiccert ab Einion ab Collwyn ai cant, cylch 1140’,[65] ar ddiwedd pob cân yn yr Iolo Manuscripts,[66] lle cofnodwyd y cerddi a briodolir i’r bardd dan sylw. Er nad oes sicrwydd mai Iolo oedd yn gyfrifol am ychwanegu’r frawddeg honno, y mae’n bur debyg iddi gael ei hysgrifennu ganrifoedd wedi’r ddeuddegfed ganrif,[67] yn enwedig wrth gofio mai o lyfr Siôn Bradford,[68] (a fu farw ym 1785), fel yr honnir yn Casgliad o Hen Ganiadau Serch, y cododd Taliesin ab Iolo ganiadau Rhys Goch ap Rhiccert ar gyfer yr Iolo Manuscripts. Dyma bennill clo un o’r cerddi yn yr Iolo Manuscripts a briodolir iddo:
O daw ymorol fanol feinir,
Pwy ganai i’r llwyn mwyn min glasdir,
Mab sy’n hir arwain orhoen alaeth
Cariad dan wydd herwydd hiraeth
Anniwyg cadarn a geir arno,
Oes a wnai gannoes aros Gwenno.[69]
Crynhoa P. J. Donovan gyfraniad Iolo i draddodiad y canu rhydd, a hynny gan ystyried ei weledigaeth ar gyfer Morgannwg ei ddydd:

Yr hyn y mae’n rhaid inni ddal arno yw bwriad Iolo wrth gyfansoddi’r cerddi hyn: nid cyfranogi yn y traddodiad a oedd yn fyw yn ei amser ef ond creu traddodiad, creu gorffennol llenyddol gwych i ‘Wladforgan’ yng nghaneuon rhydd ‘y bardd teulu’.[70]

Meddai Iolo ar weledigaeth y tu hwnt i bob un o’i gyfoeswyr. Cododd dystiolaeth o’r gorffennol pell a’i strwythuro i’w ddibenion ei hun, gan droi hen hanes yn berthnasol i Forgannwg ei gyfnod ef.

Ffenomen a nodweddai Ramantiaeth – y mudiad hwnnw a ddylanwadodd ar lenyddiaeth, cerddoriaeth, celfyddyd, athroniaeth a diwinyddiaeth Ewrop ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif – i bob pwrpas, oedd tuedd gwŷr megis Thomas Chatterton,[71] James Macpherson[72] ac Iolo i ffugio gweithiau llenyddol. Nid ffenomen anghyffredin felly, yn ystod y ddeunawfed ganrif, oedd mympwyon cylch o lenorion carismataidd y dydd i addasu’r gorffennol i ddibenion y presennol, ac nid Iolo oedd yr unig un ychwaith a arddelai’r awydd hwnnw i drawsnewid ac i ail-greu hanes ei fro. Dylanwad Rhamantiaeth oedd i gyfrif am hynny. Fodd bynnag, yr oedd Iolo ben ac ysgwydd uwchlaw ei gyfoedion ym Morgannwg yn hyn o beth, ac ef, yn anad neb arall, naill ai drwy ffugio neu gasglu deunydd, oedd yn gyfrifol am ddyrchafu rhinweddau’r fro honno i’r un statws â Gwynedd, sef ei bennaf uchelgais. Llwyddodd yn ei ymgais i argyhoeddi haneswyr ac ysgolheigion, a hynny gymaint nes peri iddynt ddechrau ystyried Morgannwg o ddifrif fel un o’r ardaloedd hynny a gynigiai fagwrfa a noddfa i draddodiad barddol a llenyddol Cymru. Noda Ceri Lewis:

No less unmistakable are manifestations of certain features of the Romanticism ... with its emphasis on feeling and the sublime and the free expression of the passions and individuality.[73]
Dylanwadodd Rhamantiaeth yn drwm ar weithiau Iolo, megis ei gywyddau cynnar a luniodd yn ystod ei lencyndod, yn ogystal â’i ffugiadau. Wrth ystyried mai rhai o brif elfennau, nid yn unig amryw o’i gywyddau cynnar, ond hefyd ei gerddi a’i ganeuon rhydd, yw serch a chariad, gellir honni mai Iolo oedd ‘un o ragflaenwyr y Mudiad Rhamantaidd’[74] yng Nghymru.

Ceir yng nghyfrol Tegwyn Jones Tribannau Morgannwg oddeutu pedwar ugain o dribannau serch,[75] ac yn eu plith gwelir themâu megis priodas, gwrthodiad, torcalon, gwerthoedd a moesau serch, tymhorau a lleoliadau serch, y defnydd a wnaed o lateion yn ogystal â charu yn yr awyr agored. Honna Brinley Rees yn Dulliau’r Canu Rhydd 1500–1650, mai testunau tebyg a geir yn nhraddodiad canu serch ehangach Ewrop hefyd, fel a ganlyn:

Dadansoddwyd y defodau a geir yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym a’i ddilynwyr a’u cymharu’n fanwl â phethau tebyg ym marddoniaeth y Cyfandir. Yr un yw’r elfennau a geir yn y cerddi serch sydd ar fesur rhydd: y carwr yn curio ac yn mynd i’w fedd oherwydd fod saeth Ciwpid dan ei ais, y ferch yn greulon o brydferth a didaro, athrodwyr yn ceisio creu anghydfod rhyngddynt, y bardd yn pwysleisio mai gwell iddi ei gariad ef na chyfoeth Eiddig ac yn anfon adar yn llateion ati, ac felly yn y blaen.[76]
Yn union fel Lewis Morris, a arbrofodd â’r mesur triban a’r pennill telyn, dylanwadodd gweithiau Dafydd ap Gwilym, ‘meistr y canu serch’,[77] yn drwm ar Iolo, yn enwedig ei gerddi serch.[78] O ganlyniad, yn amlach na pheidio, ymddengys yr un math o themâu yng nghasgliad Iolo o benillion serch Morgannwg ei ddydd. Er enghraifft, nid yn unig yn y caneuon gwerin a gasglodd, ond hefyd yn y cerddi hynny a briodolwyd ganddo i Rhys Goch, ceir elfen gref o ymrafael rhwng yr haf a’r gaeaf – gyda’r gaeaf yn cynrychioli marwolaeth ac anobaith, a thymor yr haf yn cynrychioli holl rin a chyffro cariadon ifanc. Dyma bennill agoriadol cerdd a briodolwyd i Rhys Goch sy’n pwysleisio pwysigrwydd yr haf fel tymor caru:
Gorthrwm a thrwm a thrist fyddaf,
Ni charaf un tro tra fo gauaf,
Oni ddel mai glasai glosydd
A gwyrddlen penn pob glwys irwydd
Mae immi glas urddas gwyrddail,
Calon hoywfron hyfryd adail.[79]
Isod ceir enghraifft arall o bennill serch sy’n canu mawl i’r haf, ond y tro hwn fe ymddengys ym mhoclyfr Iolo, sef y ‘Casgledydd Penn Ffordd’:
Mae’r merched yn llawenu,
Wrth weld y caeau’n glasu
O! gan wedyd fe ddaw’r hâf
Ag amser frâf [sic] i garu.[80]
Nodir ar odrau’r gerdd y dyfynnir ohoni uchod, ‘traddodiadol ym Morganwg gan gathreiwyr’, sy’n cadarnhau sylw E. G. Millward mai ymdrin â ‘theimladau dynol sylfaenol a bywyd y gymdeithas wledig’[81] a wnâi gweithiau beirdd y canu rhydd, ac nid eithriad yw’r tribannau. Ategir hyn ymhellach gan T. H. Parry-Williams yn ei ragymadrodd i’r gyfrol Hen Benillion:
Bywyd gwledig, amaethyddol, awyr-agored yw awyrgylch y mwyafrif ohonynt – bywyd diddordeb mewn tymor a thywydd, mewn gŵyl a ffair, mewn offer ac anifail. Bywyd ifanc afieithus ydyw hefyd, gan amlaf, – bywyd diddordeb mewn serch a charu, mewn gogan a chellwair.[82]
Yn wyneb y dystiolaeth uchod gellir honni bod y themâu a geir yng ngherddi beirdd y canu rhydd, yn ogystal â’r baledi a’r penillion telyn, yn pontio pob agwedd ar draddodiad llafar gwlad y cyfnod, traddodiad y ‘canu “gwerinol”, “answyddogol” ... cynnyrch celfyddyd ddihyfforddiant, ddiddiwylliant, “anymwybodol”’,[83] chwedl T. H. Parry-Williams.

Thema arall a ganfyddir ym mhenillion serch Iolo, yn ogystal â’r caneuon gwerin a gasglodd, sydd yn amlwg o dan ddylanwad cywyddau serch Dafydd ap Gwilym, yw’r arfer o garu yn yr awyr agored. Noda Siwan Rosser mai arfer cyffredin oedd hwn, ‘yn enwedig adeg Calan Mai’,[84] gyda’r fedwen nid yn unig yn cynrychioli byd natur, ffrwythlonedd a thyfiant, ond hefyd ddyfodiad yr haf. Atega Catrin Stevens hyn isod, gan bwysleisio pwysigrwydd y fedwen yn nhraddodiad y canu serch:

The most popular test of a lover’s intentions was associated with the birch tree. Indeed the birch was extremely significant in the folklore of courtship throughout the centuries. The love poems of the medieval poets contain many references to seeking to court girls under the green leaves of the birch tree. They seek an oed dydd (a date by day) ... with the girls and try to draw them out into the bedwlwyn (birchgrove).[85]
Ymddengys hyn mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym, ‘Yr Haf’, sy’n enghraifft o ymgais y bardd i fod yn un â natur, yn ymochel yn nhyfiant yr haf rhag llid yr Eiddig. Ceir cyfeiriad ynddi hefyd at y fedwen:

Eiddig, cyswynfab Addaf,
Ni ddawr hwn oni ddaw’r haf.
Rhoed i’w gyfoed y gaeaf,
A rhan serchogion yw’r haf.

Minnau dan fedw ni mynnaf
Mewn tai llwyn ond mentyll haf.
Gwisgo gwe lân amdanaf,
Gwnsallt bybyr harddwallt haf.
Eiddew ddail a ddadeiliaf.
Annwyd ni bydd hirddydd haf.
Lledneisferch os anerchaf,
Llon arail hon ar ael haf.[86]

Cadarnheir hyn ymhellach:

As a rule, the folk fancy of the British Isles makes lovers meet in the flowering meadows or the green woods of springtime. The sun shines from a clear sky, the thrush and lark are singing. Nature smiles on the ploughboy and his sweetheart, and their love knows no reserve, holds no guilt ... encounters are gravely joyful, mistrust is gently sad, the mood of the courtship songs is nearly always tender, sweet, naively fond, seldom desperate.[87]

Dyma gerdd o’r enw ‘The Banks of Sweet Primroses’ sydd hefyd yn perthyn i draddodiad canu yn yr awyr agored:
 
As I walked out one midsummer’s morning,
For to view the fields and to take the air,
Down by the banks of the sweet primroses,
There I beheld a most lovely fair.[88]
Yr oedd Iolo, wrth briodoli cerddi serch i amryw feirdd o’r gorffennol, yn ogystal â chasglu alawon gwerin ei gynefin, yn gwbl ymwybodol o fotifau a thechnegau’r cyfrwng hwnnw. Yng ngeiriau Huw Meirion Edwards:
The great bulk of the poetry which Iolo composed in their names [beirdd Morgannwg o’r unfed ganrif a’r ail ganrif ar bymtheg] consists of lyrics of love in a natural setting, pastorals and May-songs, with bird-messengers and bird-dialogues a common feature.[89]
Yn hyn o beth, ei weledigaeth oedd creu traddodiad canu serch poblogaidd i Forgannwg, gan gynnwys holl agweddau’r traddodiad hwnnw, er mwyn tynnu sylw tuag at arferion a thraddodiadau’r oes a fu.

Cyfeiria Arfon Gwilym at rai o’r themâu hynny a welir yn y caneuon gwerin y gellir eu hystyried yn ganeuon serch:

Caneuon serch yw’r caneuon gwerin mwyaf niferus: caneuon mawl neu ganeuon yn ymwneud â methiant i ennill cariad ac ymweliadau liw nos.[90]

Ceir yng nghasgliad Iolo o alawon gwerin Bro Morgannwg ganeuon serch sy’n ymdrin â gwrthodiad a thorcalon o fewn perthynas, gyda’r bardd yn datgan ei wewyr a’i boen meddwl:

Blin yw caru yma'c accw,
blin fod heb y blinder hwnnw
o'r blinderau blina blinder,
cur anifyr caru'n ofer.[91]

Er na phriodolir geiriau ar gyfer yr alaw ‘Pwyo pen y gofid, Triban (Pont Rhyd y Fenn 1796)’ yn llawysgrif Iolo, fe awgryma Phyllis Kinney[92] eiriau ar ei chyfer, sy’n mynegi torcalon a thristwch y bardd:

Mi wn am fachgen gwirion
A galar yn ei galon,
A phwy yw hwnnw ond myfi
Amdanat ti, lliw’r hinon.

Amdanat ti, lliw’r hinon,
Amdanat ti, lliw’r hinon,

A phwy yw hwnnw ond myfi
Amdanat ti, lliw’r hinon.[93]

Wrth drafod y cerddi serch a briodolwyd i Rhys Goch, noda Huw Meirion Edwards y cyd-destun ehangach a esgorodd yn y pen draw ar themâu megis gwrthodiad a thorcalon:
Under the civilizing influence of continental amour courtois, the poems are full of the joys and sufferings of unrequited love.[94] 
Olrheinir serch cwrtais[95] i gyfnod brenhinoedd, breninesau ac uchelwyr yr Oesoedd Canol, a chafwyd bri ar y math hwn o ganu yng ngweithiau beirdd y llysoedd. Ffyddlondeb a theyrngarwch mintai o wŷr tuag at eu pennaeth oedd wrth wraidd y traddodiad hwnnw, a hynny’n bennaf wrth iddynt ymbaratoi ar gyfer ymladd mewn brwydr, gyda delfrydau sifalrïaidd, megis dewrder ac anrhydedd, maes o law, yn cael eu haddasu’n ddelfrydau ac yn fotifau yng nghanu serch y cyfnod. Eglurir hyn ymhellach:

Ystyrid serch yn nwyd dyrchafol a allai urddasoli’r milwr ond hefyd ei osod dan reidrwydd i ennill cymeradwyaeth ei riain trwy ei ddewrder ac i’w brofi ei hun yn deilwng trwy ei ymgysegriad iddi.[96]

Yr oedd disgwyl i’r milwr, wedi iddo gael ei urddo’n farchog, ymddwyn yn unol â gofynion yr anrhydedd hwnnw, drwy ymarfer cwrteisi, nid yn unig mewn brwydr ond hefyd tuag at ferched. Rhaid oedd iddo fod yn deilwng ohonynt, ac ymddengys motifau ac anturiaethau o’r fath yn chwedl Culhwch ac Olwen, ‘y fwyaf cyntefig a’r hynaf o’r chwedlau yng nghasgliad y Mabinogion’,[97] gydag Ysbaddaden Bencawr yn gosod tasgau, neu anoethau, i Culhwch er mwyn iddo ennill Olwen yn wraig iddo.

Yn y math hwn o ganu dyrchefid y gwrthrych serch i’r fath raddau nes peri iddo gyrraedd statws anghyraeddadwy, sy’n ymdebygu i eilunaddoliad. Perthyn y motifau hyn i chwedloniaeth ryngwladol ehangach, gyda straeon gwerin tebyg yn ymddangos yn nhraddodiadau llenyddol Ffrainc, Yr Almaen a Lloegr. Dyma enghraifft o benillion y gellir eu priodoli ar y naill law yn gerddi serch, ac ar y llaw arall yn gerddi y cenid alawon arnynt adeg dathliadau a gwyliau’r fro. Ceir ynddynt themâu sy’n adlewyrchu teimladau’r bardd, sy’n gymysg o fawl i Forgannwg, torcalon a gwrthodiad:

Cân Hwp a diri dando

Caru ’mhell a charu’n agos, – Hwp a diri dando,
Newid cariad pob pythewnos, – dyna ganu etto,
Er hyn i gyd ni all fy nghalon, – Siân fwyn Siân,
Lai na charu’m hen gariadon,
o’r brwyn, dere dere’r llwyn,
ni sonia’i fwy am Siantan fwyn.

Ffol wyf fi, a ffol yw bagad, &c
Ffol yw’r mab ni charo’i gariad, &c
A ffol iawn yw’r mab a garo, &c
Lle na bo dim cariad iddo, &c
&c, &c.

Os bum ffol mi fydda’ ffelach,
Mwy nid af i ymgais ffrylach,
I gael y gair fy mod yn chwanog,
I garu’r merched saith am geiniog.

Er nad wyf ond dierth yma,
Fal rhyw dderyn ar ddisgynfa,
Nid wy’n prisio am wyr trawsion,
Mwy na’r gath sy’n siglo’i chynffon.

Mi wrthodais ffol yr oeddwn,
Merch a gara’r tir a gerddwn,
Ag a gerais, do’n garedig,
Merch a ngwerthai am ychydig.

Do mi welais heddy’r boreu,
Merch a gawn pan fynnwn innau,
Ag a welais, Do, brydnawn,
Merch a garwn ag nis cawn.

Os daw gofyn pwy’n yw’r Prydydd, &c
Mab dy ’nawr yn treiglo’r gwledydd, &c
O achos caru hardd ei golwg, &c
Blodeu merched Sir Forganwg, &c
&c, &c.[98]

Yn ddi-os, gwelir fod merched yn cael eu parchu fel gwrthrych serch y bardd, a bron y gellir honni y cawsant eu portreadu fel duwiesau. Ceir yng nghasgliad Iolo o alawon gwerin gân o’r enw ‘Y feindwf fun’, sy’n cyfeirio’n benodol at ‘Duwies serch’:

Gwr iefanc wyf a roes ei serch, er curio mawr ar garu merch,
Ag oni chaf liw’r haf mewn hedd, y feindwf fun caf fynd i fedd.

Pan gwelais i liw’r eira gwyn, fal ewig wisgi’n ael y Bryn,
Mwy teg ei phryd na blodau’r haf, y feindwf fun hi’m gwnaeth yn glâf.

Mae sôn am helen deg ei grân, ag medd y Beirdd ’roedd fflora’n/Dido lân,
’r oedd Duwies serch yn hardd ei llun, mwy teg ymhell yw’r feindwf fun.

Y feindwf fun yw’r unig ferch, a drows ynghalon i mewn serch,
I’m gwir iachau ni aned un, ond eiliw’r tes y feindwf fun.

Ystyria gwen liw lili’r haf, dy serchu’n fawr am gwnaeth yn glâf,
Wyn nychu’n eilun gwael ei lun o’th garu’n faith y feindwf fun.

Yr emen rwydd bydd imi’n ràn, o bydd fy mhriod eiliw’r càn,
Cawn dreulo’n oes yn wir gyttun, mi th garaf fyth y feindwf fun.[99]

Wrth ystyried llinellau megis ‘Ag oni chaf liw’r haf mewn hedd, y feindwf fun caf fynd i fedd’ a ‘dy serchu’n fawr am gwnaeth yn glâf’, a ddyfynnir uchod, gellir gweld llif ymwybod y bardd wrth iddo deimlo holl wewyr serch a chariad, nes peri iddo fod yn glaf o gariad.

Thema arall a ymddengys yn fynych ym mhenillion a chaneuon serch Iolo yw’r defnydd a wneid o’r llatai, sef anifail a ddefnyddid fel negesydd serch, ‘i gludo neges rhwng dau gariad’.[100] Ceir y motif hwn yng ngweithiau Dafydd ap Gwilym, sef prif ladmerydd cyfnod cynnar beirdd yr uchelwyr a arddelai’r dechneg hon. Dyma dri chwpled o’r gerdd ‘Y Cyffylog’:

Disgyn heddiw ger rhiwallt
Is tŷ gwen, ys teg ei gwallt,
A gwybydd, er delw Gybi,
Ger rhiw, a yw gywir hi.
Gŵyl ei thro, gwylia a thrig
Yno, ederyn unig.[101]

Yr oedd yr anifeiliaid a ddefnyddid fel llateion yn cael eu dewis am reswm penodol, gydag adar megis yr eryr, yr ehedydd, yr wylan, yr aderyn du pigfelyn a’r cyffylog yn cael eu dethol am eu hehediad uniongyrchol a’u cyflymder. Dewisid anifeiliaid eraill megis y carw a’r eog hefyd i gyfleu neges serch y bardd orau.[102] Dyma un o’r caneuon gwerin a gasglodd Iolo ym Mro Morgannwg, sef y ‘Rhuppynt hir’, ac yn ddi-os, hon yw’r enghraifft orau o blith ei holl ganeuon o’r math hwn o ganu serch:

mi a baraf, i'm gwenaraf
gan a garaf gair o gerydd
am lyfasu fy niflasu
a'm lliasu, em lliosydd.

dere'r deryn, du pigfelyn,
sy'n y dyffryn, yn ei deffro,
dwg fy neges at fachgenes,
am wawr gynes 'wy'n mawr gwyno.[103]

Eglura Dafydd Johnston berthynas y traddodiad hwn o anfon llatai â chysyniad serch cwrtais:

Un o gonfensiynau arbennig y canu serch Cymraeg oedd yr arfer o anfon llatai ... at y gariadferch ... roedd confensiwn y llatai’n agwedd ar serch cwrtais, gan ei fod yn cyfleu delwedd o’r ferch fel bod anghyraeddadwy na ellid ond ymbil â hi am drugaredd.[104] 

Gellir honni, gyda defnydd y bardd o ‘go-between’,[105] chwedl Catrin Stevens, yr ailymddengys y ddelwedd o wrthych serch y bardd fel duwies, a gellir dychmygu’r dduwies honno’n trigo ymhell oddi wrth feidrolion cyffredin, mewn man cwbl anghysbell.

Fodd bynnag, gwelwyd adwaith yn erbyn serch cwrtais yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar, yng ngweithiau beirdd megis Guto’r Glyn (c.1435–c.93), Dafydd ab Edmwnd (1450–97) a Dafydd ap Gwilym. Ffrwyth yr adwaith hwn oedd diddordeb beirdd amatur, megis Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd o Fathafarn (c. 1395–1486) ac Ieuan Gethin (1437–90), yn ogystal â beirdd proffesiynol, megis Tudur Penllyn (c. 1420–85) a Hywel Dafi (1450–80), mewn poblogeiddio canu maswedd y cyfnod. Eglura Siwan Rosser rai o nodweddion y canu maswedd mewn perthynas â’r canu serch parchus ym maledi’r ddeunawfed ganrif:

Y mae ieithwedd lafar, ddelweddol a masweddus y baledi yn rhoi iddynt flas y pridd, tra bo’r epithetau serch confensiynol yn adleisio canu’r beirdd proffesiynol gynt.[106]

Ceir delweddaeth ffantasïol a dychmygol, yn amlach na pheidio, yng nghanu maswedd beirdd gwrywaidd uchelwrol, wrth iddynt bortreadu’r ferch mewn modd condemniol ac israddol. Atega Dafydd Johnston hyn isod:

Byddai’r freuddwyd o gael caru’n rhydd gyda merch nwydus yn y goedwig mor wahanol i ddefodau disgybledig y llysoedd. A dyna sut y mynnai dynion yr Oesoedd Canol ddychmygu merched ... os byddai merch yn gwrthod ildio, dim ond ei natur dwyllodrus allai fod yn ei chadw rhag cydnabod ei chwant, ac felly roedd yn iawn ei chymryd trwy drais.[107]

Dyma enghraifft sy’n adlewyrchu hyn i’r dim, mewn cerdd o’r enw ‘The Bonnie Wee Lassie Who Never Said No’, sy’n darlunio’r ferch fel gwrthrych serch y bardd ac, i bob pwrpas, yn gwbl rydd i bleserau cnawdol dynion:
I come to a cross and I met a wee lass,
Says I: My wee lassie, are you willing to go?
Take share of a gill, she said, Sir, I will,
For I’m the wee lassie that never said no.[108]
Yr oedd y modd y cyfeirid yn gyffredinol at ferched yn y canu hwn yn rhan o’r adwaith yn erbyn serch cwrtais, a nodweddid gan ‘agwedd sinigaidd a bwysleisiai wendidau merched, a defnyddio’r rheini’n esgus i’w trin gyda dirmyg’.[109] Eglura A. L. Lloyd y graddau yr aeth y beirdd i adlewyrchu ffaeleddau merched:
In many parts of the world one finds erotic folk songs that are ostensibly from the woman’s viewpoint without really being so ... we know from Burns, for instance, that men may convincingly and with pleasure make erotic poems in which they speak as women.[110]
Yr oedd y canu hwn yn boblogaidd ar lefel ryngwladol, ac yn arbennig efallai yng ngwaith y minstreliaid ledled Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol.  

Yn ogystal â hyn, cafwyd bri ar ganu maswedd yng ngweithiau cylch y Morrisiaid yn ystod y ddeunawfed ganrif, ond prin iawn yw’r deunydd anllad yn y cerddi sy’n gysylltiedig â’r alawon gwerin a gasglodd Iolo. Cadarnheir hyn ymhellach gan Huw Meirion Edwards:

It has been seen that his poetry had always been concerned with values such as honesty, fidelity, personal freedom and moral decency in general.[111]
Y mae hyn hefyd yn wir am yr alawon gwerin a gasglodd, sydd nid yn unig yn gwrthod cydymffurfio â chonfensiwn y canu maswedd, ond sydd hefyd yn datgan gwerthoedd a moesau sydd i’r gwrthwyneb i’r canu hwnnw, megis y pennill canlynol a nodwyd yn ei boclyfr:

Un yn serchu cyfoeth bydol,
Arall rhyw fasweddau cnawdol,
Doeth ai serch ar waith dwyfolion,
Lle bo’r trysor bydd y galon.[112]

Cyfeiria ‘Hu Gadarn’ at y modd y gosodid ‘geiriau maswedd’[113] ar amryw ganeuon serch mewn oes ‘pan oedd moesau ein cenedl heb fod mor bur ag yn awr’.[114] Yng ngoleuni’r wybodaeth uchod ynghylch egwyddorion moesol Iolo, nid yn unig wrth lunio penillion serch ond hefyd wrth eu casglu, annoeth fyddai datgan y llinell uchod yn ysgafn, gan nad yw caneuon serch Iolo yn perthyn i’r un garfan â chanu maswedd Morrisiaid Môn.[115] Priodas, torcalon, gwrthodiad, cyngor ar serch, tymhorau serch, lleoliadau serch, serch cwrtais, defnyddio llateion a charu yn yr awyr agored yw prif themâu yr alawon gwerin a gasglodd Iolo ar drothwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y gellir eu priodoli’n ganeuon serch.

Ymdriniaeth o’r alaw ‘Y Ferch o’r Scerr’

Ceir pymtheg o ganeuon yng nghasgliad Iolo Morganwg o alawon gwerin y gellir eu priodoli’n ganeuon serch. Mae’r delweddau a ymddengys o dan y pennawd hwn yn amrywio’n fawr, fel y soniwyd uchod, gyda’r gân ‘Rhuppynt hir’,[116] sy’n perthyn i draddodiad hynafol y canu llatai, y cysyniad o wrthodiad a thorcalon, a adlewyrchir yn ‘Pwyo pen y gofid, Triban (Pont Rhyd y Fenn 1796)’[117] a ‘[blin yw caru]’,[118] yn ogystal â’r modd y defnyddid y cyfrwng hwn i ganu mawl i Forgannwg, megis yn ‘Llanbedr ar fynydd. cainc ar fesur Triban (a dance)’.[119] Dyma ymdriniaeth ag un gân serch yn benodol, sef ‘Y Ferch o’r Scerr. Tho.s Evans Delynwr[120] ai cant’.

Mae’r faled dan sylw, ‘Y Ferch o’r Scerr’,[121] yn perthyn i deulu sylweddol o ganeuon serch a welir yng Nghymru, ac y mae geiriau’r alaw yn boblogaidd ar daflenni baledi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er mai’r alaw yn unig a geir mewn un llawysgrif o eiddo Iolo, ceir penillion ganddo ar gyfer y faled hon mewn dwy lawysgrif arall o’i eiddo (sef NLW 13099B, tt. 150–1 a t. 214). Pum pennill a nodir yn y ddwy lawysgrif, ar ffurf ymddiddan rhwng y telynor (Thomas Evans) a’r ferch. Ceir fersiwn o’r dôn yng nghyfrol Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844).[122] Er hyn, rhaid cofio y codwyd nifer o alawon gwerin o gasgliadau llawysgrifol Iolo ei hun ar gyfer y gyfrol hon, a hynny gan ei fab, Taliesin ab Iolo. Yn anffodus i Iolo, yn dilyn y sylw a’r pwysigrwydd a roddwyd i gyhoeddiad Jane Williams, cafodd ei holl waith a’i lafur ar yr alawon ei esgeuluso. Noda Jane Williams, yn y nodiadau yng nghefn ei chyfrol, mai fersiynau o gopïau Iolo yw ei phenillion hithau, a hynny am mai gan Taliesin ab Iolo y cafodd hi’r deunydd, ac iddo yntau lunio’r ddau bennill iddi ar sail copïau ei dad.[123] Serch hynny, mae fersiwn Jane Williams a fersiwn Iolo, o safbwynt y geiriau, yn amrywio gryn dipyn. O edrych ar y penillion, gellir honni mai drafftiau ydynt, gan fod Iolo yn nodi awgrymiadau ac amrywiadau geiriol ar ymyl y ddalen. Gellir honni felly mai atgynyrchiadau mwy terfynol o fersiynau anorffenedig Iolo a grëwyd gan Jane Williams ar gyfer ei chyfrol hithau, ac mai esiamplau yn unig oedd y gwreiddiol yn llaw Iolo.

Er na phriodolir geiriau ar gyfer yr alaw a gofnodwyd gan Iolo, fodd bynnag, ceir penillion ganddo ar gyfer ‘Y Ferch o’r Scerr’ a gofnodwyd mewn llawysgrif arall o’i eiddo (sef NLW 13099B, tt. 150–1 a t. 214). Dyma’r penillion:

Mab wyf i sy'n byw mewn penyd,
Am f'anwylyd fawr ei bri,
Gwaith ei charu mwy na digon,
Curio [nychu, dihoeni] wnaeth fy nghalon i,
Gwell yw dangos beth yw'r achos,
Nag i’m aros yn fy nghur,
Mentra seren ato'i'n llawen,
Di gai barch a chariad pur.

Pwylla'r bachgen gwyllt ei eiriau,
'Ddwyf dan ofnau rhwymo'm llaw,
Gwaith cael digon o rybuddion,
Wrth gariadon yma 'thraw;
Ddwy'n ry ifanc eto i ddianc,
Cymra'i bwyll cyn mynd rhy bell,
Pan bo 'i 'n barod rhyw ddiwarnod,
Di gai glyw os byddi gwell. 

Cofia fi f'anwylyd fanol,
Dan synhwyrol blodau'r sir,
Gwaith 'ddwy'n caru'r ffordd y cerddi,
Beth dal imi wadu'r gwir,
Mentra'n wisgi deuliw'r lili,
Paid ag oedi main ei hael,
Dere'n fodlon deurudd dirion,
Torra'i gloion am dy gael.

Llawer promais teg wrth geisio,
Hynny’n hudo meddwl merch,
’N ol priodi, cael tifaru,
Cilio’n syth mae’r annwyl serch,
Dos di’n holliach cyn bo’i hwyrach,
Mae’n bryd bellach i mi fynd,
Os daw’r meddwl yno i’n gwbwl,
Odid fawr na chofia’m ffrynd.

Os daw gofyn am y glanddyn,
Sy’n y dyffryn acw draw,
Mab a wnaiff i’r mud a’r marw,
Wêd yn loÿw dan ei law,
Mae’n nhwy’n ceisio’n nodi heibio,
Mwstro mawr yn ymyl môr,
Os ca’i nghariad imi’n ddifrad,
Bach eu sgil betae nhwy scôr.[124]

Ceir nodyn ar ddiwedd y penillion sy’n datgan mai ‘Thomas Evan Telynor o’r Drenewydd Nottais ym Morganwg ai cant, cylch y flwyddyn 1760’.[125] Gellir honni y clywodd Iolo fwy nag un fersiwn o’r penillion hyn yn ei gynefin, ac iddo fynd ati i’w gosod ar bapur, gan roddi rhwydd hynt i’r canwr neu’r adroddwr eu datgan fel y mynnent. 

Y mae’r stori garwriaethol rhwng y telynor tlawd a’r ferch o’r Scerr (Elizabeth Williams (c.1747–76)) yn bur gyfarwydd ar lafar gwlad, ond ceir amrywiadau mwy diweddar arni sy’n ychwanegu at natur gymhleth yr hanes diddorol hwn. Carwriaeth fyrhoedlog a gawsant, gydag un ffynhonnell yn tystio y cafodd Thomas Evans y frech wen, a hynny, yn ôl rhai, mor ddrwg nes iddo golli ei olwg. Er hyn, ceir tystiolaeth arall sy’n honni na chollodd y telynor ei olwg o gwbl, ond mai disgybl iddo, William Mathew, oedd yn ddall o achos y frech wen, felly camddealltwriaeth rywbryd oedd honni mai Thomas Evans oedd y telynor dall o’r Nottais yn y cyswllt hwn. Fel yr eglurir yn fanwl yn erthygl Jenkin Howell yn Y Genhinen,[126] yr oedd ‘anfoddlonrwydd mawr o du rhieni y ferch’, a dyna gefndir y llinell honno, ‘mwstro mawr yn ymyl môr’, sy’n cyfeirio at y ffaith mai wrth lan y môr yr oedd tyddyn y Scerr, sef cartref Elizabeth. Yn sgil yr anffawd hwn terfynodd Elizabeth y garwriaeth, ac felly ffrwyth ei alar a’i golled yw’r gân werin hon. Y mae manylion yr hanes hwn yn amrywio o ffynhonnell i ffynhonnell, gyda rhai yn honni mai o achos statws cymdeithasol y telynor, a oedd i bob pwrpas yn delynor ffair, a ddaeth â’r garwriaeth i ben, gyda’i thad Isaac Williams yn trefnu iddi briodi â Thomas Kirkhouse, bonheddwr o ogledd Lloegr.[127]

Ceir hefyd gryn ddryswch ynghylch tarddiad y gân, gyda ‘Cadrawd’ yn dadlau mai cyfansoddiad Thomas Evans oedd y geiriau a’r alaw,[128] ac ar y llaw arall, M. O. Jones a ‘Llyfnwy’ yn honni mai Dafydd Llewelyn o’r Nottais biau’r geiriau.[129] Ategir isod ddadl Llyfnwy:

Bu raid i Thomas Morgan (Llyfnwy) geisio tacluso peth ar yr hanes a’i ateb oedd sôn am Thomas Evans fel y carwr a chyfansoddwr yr alaw ac am David Llewellyn fel awdur y geiriau. Rhaid bod y stori wedi ennill ei phlwyf fel yr aeth y ganrif rhagddi, gan dderbyn manylion ychwanegol a mân newidiadau oddi wrth bob cenhedlaeth.[130]

Noda Allan James duedd cymdeithas i gymhwyso hanesion i’w diben ei hun:

Un o brif nodweddion llên gwerin, wrth gwrs, oedd ei bod yn gymunedol a di-ffin, deunydd na fwriedid iddo gael ei ddiffinio’n achyddol gyfleus yn ôl egwyddorion oes bur wahanol ei naws a’i phwyslais ... Gwelwyd tuedd, felly, i geisio pennu ffiniau ac awduriaeth mewn maes lle byddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei hystyried gan y gwerinwr ei hun yn hollol amherthnasol a di-fudd. Symudodd y ddwy gân [Y Ferch o Gefn Ydfa a’r Ferch o’r Sger], gydag amser, o gyd-destun i gyd-destun dan ddylanwad amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol a’r broses gymhleth honno a sicrhaodd i’r naill gân a’r llall le amlwg yn hanes diwylliannol y rhanbarth.[131]

Yr alaw yn unig a geir yn fersiwn Iolo o ‘Y Ferch o’r Scerr’, yn ogystal â chyfeiriad at yr awdur, sef ‘Tho.s Evans Delynwr ai cant’.

Ffigwr 1: 'Y Ferch o'r Scerr. Thos. Evans ai cant', cofnodwyd gan Iolo Morganwg (NLW IAW 145, f.9). Atgynhyrchir trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yr oedd yn y cyfnod hwnnw draddodiad o nodi’r ymadrodd ‘ai cant’ yn gynffon i nifer o alawon gwerin a cherddi caeth, megis cywyddau hefyd. Er enghraifft, ar waelod y gerdd ‘Cân y Maensaer, neu’r Maensaer Mwyn’,[132] sef un o’r caneuon gwaith a gasglodd Iolo, ceir y nodyn, ‘traddodiad gwlad ai cant’.[133] Hefyd, defnyddiodd Lewis Morris yr ymadrodd ‘L.M. ai cant’ i hawlio perchnogaeth ar ei ganeuon gwasael, a gyfansoddwyd ym 1717.[134] Arddelai Iolo y traddodiad hwn, a rhoddai ei flaen lythrennau ar ddiwedd teitlau yn aml, er enghraifft, ‘Mesur Carol Haf I.M.’[135] a ‘Cyhydedd Gyrch 8 a Saith I.M.’.[136]

Dyma drawsgrifiad golygedig o ‘Y Ferch o’r Scerr’, sy’n profi nad yr alaw arferol, gyfarwydd, gyhoeddedig, yn unig y gellir ei chanu ar eiriau teimladwy’r telynor o’r Nottais:[137]



Ffigwr 2: Golygiad o 'Y Ferch o'r Scerr. Thomas Evans Delynwr a'i cant'.

Diweddglo

Y mae’n amlwg mai cymhwyso ac efelychu motifau a thechnegau beirdd o gyfnod cynharach yn hanes traddodiad barddol Morgannwg a wnâi Iolo yn y cerddi rhydd hynny a dadogwyd ar Rhys Goch ap Rhiccert a’r cerddi caeth a dadogwyd ar Ddafydd ap Gwilym, neu ‘Dafydd Morgannwg’, fel y galwai Iolo ef. Dyma, i bob pwrpas, ymgais lew ganddo i ddwyn holl rinweddau’r ardal honno i olau dydd, ac yn fwy pwysig efallai i sylw gweddill Cymru. Cydnebydd P. J. Donovan gyfraniad Iolo i draddodiad canu rhydd Morgannwg:

Gallwn ni o Forgannwg ymffrostio yn y ffaith fod gennym, nid yn Rhys Goch na Rhys Brydydd, ond yn Iolo Morganwg, un o feirdd meistrolgar y canu rhydd.[138]

O ystyried y themâu a ymddengys yn yr alawon gwerin a gasglodd Iolo, ceir cipolwg ar draddodiad gwerin, barddol a llenyddol Bro Morgannwg y ddeunawfed ganrif, sydd hefyd yn olrhain motifau o draddodiad barddol yr Oesoedd Canol. Dywed D. Gwenallt Jones:

I Lewis Morris, Theophilus Jones, Iolo Morganwg ac eraill yr oedd hynafiaeth Cymru yn hŷn na hynafiaeth pob gwlad arall, a’i hiaith a’i barddoniaeth yn blodeuo cyn bod sôn am Roeg a Rhufain.[139]

O ganlyniad, roedd cymhelliant cryf yn gyrru ac yn ysbrydoli, nid yn unig yr unigolion uchod, ond hefyd nifer helaeth o feirdd a hynafiaethwyr eraill y cyfnod, i ddwyn sylw o’r newydd tuag at eu ‘gorffennol gwych’. Iolo y bardd a’r ffugiwr oedd wrthi yn hyn o beth, ond cymhelliant cwbl wahanol a’i gyrrodd i gasglu alawon gwerin ei gynefin – Iolo y casglwr oedd ar waith yma. I gau pen y mwdwl dywed Daniel Huws:
Ffaith sylfaenol yw nad oedd yr un cymhellion ag oedd mewn perthynas â thestunau llenyddol: nid oedd yr un gynulleidfa. Prin y byddai uchelgais yn ei yrru i ffugio alawon, na chwaith yr ysfa i brofi damcaniaeth.[140]

Nodiadau

 
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
[1] Daniel Huws, ‘Iolo Morganwg and Traditional Music’ yn Geraint H. Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg, (Cardiff, 2005), t. 333.

[2] G. J. Williams, Edward Lhuyd ac Iolo Morganwg (Caerdydd, 1964), t. 19.

[3] D. Gwenallt Jones, Blodeugerdd o’r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1943), t. ix.

[4] D. Gwenallt Jones, Blodeugerdd o’r Ddeunawfed Ganrif: Detholiad o Farddoniaeth Glasurol y Ganrif (Caerdydd, 1947), t. xxiv.

[5] P. J. Donovan (gol.), Cerddi Rhydd Iolo Morganwg (Caerdydd, 1980), t.  xi.

[6] Geraint H. Jenkins, Facts, Fantasy and Fiction: The Historical Vision of Iolo Morganwg (Aberystwyth, 1997), t. 3.

[7] Cyfweliad â Meredydd Evans a Phyllis Kinney (Cwmystwyth, Aberystwyth), dyddiedig 30/10/2006.

[8] E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1991),  t. 19.

[9] Cass Meurig, ‘Canu i Gyfeiliant Ffidil yng Nghymru’r Ddeunawfed Ganrif’, Canu Gwerin, Cyf. 24 (2001), 20.

[10] Ibid., 21.

[11] Ibid., 22.

[12] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 18.

[13] Thomas Parry, Baledi’r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1986), t. 139.

[14] Er mai ‘casgliad’ yw’r term a ddefnyddir, nid casgliad yng ngwir ystyr y gair yw’r toreth o alawon gwerin a gofnodwyd gan Iolo. Mae’r alawon ar wasgar mewn casgliadau llawysgrifol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

[15] NLW IAW 145, f.17.

[16] Ibid., f.11.

[17] Ibid., f.9.

[18] NLW 21423E, rhif 13.

[19] Jones, Blodeugerdd o’r Ddeunawfed Ganrif: Detholiad o Farddoniaeth Glasurol y Ganrif, t. xix.

[20] Dyriau = ‘dyri, dyrif ... cerdd ar fesur rhydd wedi ei hacennu’n rheolaidd ac iddi weithiau gyffyrddiadau cynganeddol, baled, telyneg, pennill, cathl.’ Gw. R. J. Thomas, Gareth A. Bevan, P. J. Donovan (gol.), Geiriadur Prifysgol Cymru, Arg. Cyntaf, Cyfrol I (Caerdydd, 1968–87), t. 1146. Yn ogystal â hyn, defnyddiai Lewis Morris a’i ddau frawd ‘y term “dyrif” yn aml i enllibio’r prydyddion poblogaidd a ganai ar fesurau rhydd.’ Gw. Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 15.

[21] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 15.

[22] Ibid.

[23] Ibid.

[24] Ibid.

[25] Gw. T. H. Parry-Williams (gol.), Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (Caerdydd, 1931), ac erthygl Mari Elin Jones, ‘Gwaith Prydydd da’i Awenydd ... : Cerddi Gwasael a Phenillion Telyn Lewis Morris’, Canu Gwerin, Cyf. 26 (2003), 5.

[26] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 16.

[27] A. Cynfael Lake (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1993), t. xii–xiii.

[28] Huw Morys (1622–1709) a elwid hefyd yn ‘Eos Ceiriog’. Bardd o Lansilin, Sir Ddinbych, a ddisgrifir yn Meic Stephens: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997), t. 522, fel ‘bardd mwyaf toreithiog a dawnus yr ail ganrif ar bymtheg’. Tua 1647 symudodd y teulu i Bontymeibion yn Nyffryn Ceiriog, a maes o law rhoddai ei gyfansoddiadau fri ar fesurau rhydd cynganeddol, yn ogystal â charolau Calan Mai a charolau Haf.

[29] Thomas Edwards, neu Twm o’r Nant (1739–1810). Anterliwtiwr a hanai o Sir Ddinbych ydoedd, ac a fagwyd yn Nant Isaf, Henllan. ‘Y mae’r anterliwtiau cynnar yn llawn maswedd ac yn ysgafnach eu tôn a’u deunydd na’i waith diweddarach, sy’n adlewyrchu deallusrwydd miniog, dychymyg toreithiog a haenau o fyfyrdod dwys’. Gw. Stephens: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, t. 219.

[30] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 16.

[31] Ibid.

[32] Meurig, Canu Gwerin, Cyf. 24, 21.

[33] ‘Awgrymir weithiau mai canu gwyliol y werin sydd y tu ôl i ddechrau’r canu rhydd a chyfeiria Gruffydd Robert yn ei Ramadeg at y “messurau rhyddion y mae’r bobl annhechnennig yn i arfer wrth ganu, carolau, a chwndidau, ne rimynnau gwylfeudd”.’ Gw. Brinley Rees, Dulliau’r Canu Rhydd 1500–1650 (Caerdydd, 1952), t. 16.

[34] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 17.

[35] Ibid., t. 19.

[36] Ibid., t. 18.

[37] Ibid., t. 18–19.

[38] Lake, Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y Ddeunawfed Ganrif, t. xiii.

[39] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 29.

[40] Ibid., t. 20.

[41] Ibid.

[42] Ibid.

[43] Ibid., t. 27.

[44] Ibid., t. 21.

[45] Ibid., t. 26.

[46] Ibid., t. 25.

[47] Huw Meirion Edwards: ‘A Multitude of Voices: The Free-Metre Poetry of Iolo Morganwg’, yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 98.

[48] Ibid., t. 121.

[49] NLW IAW 145, f.17.

[50] Math ar garol oedd y ‘cwndid’ a ddaeth i boblogrwydd ymhlith beirdd crwydrol Morgannwg a Gwent rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau’r ddeunawfed ganrif. Cyfansoddwyd y carolau hyn ar fesurau digynghanedd y glêr, a hynny gan gwndidwyr megis Lewis Hopkin, Llywelyn Siôn, Edward Dafydd o Fargam ac Edward Evan. Defnyddid y term ‘cwndid’, yn ogystal â ‘carol’, ym Morgannwg fel ‘enw ar gerddi rhydd yr unfed ganrif ar bymtheg’. Gw. Rees, Dulliau’r Canu Rhydd 1500–1650, t.  24.

[51] Erbyn 1789, gyda chyhoeddi argraffiad Cymdeithas y Gwyneddigion o waith Dafydd ap Gwilym (Owen Jones a William Owen Pughe (gol.): Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)), yr oedd Iolo yn bur gyfarwydd â llyfrgelloedd ac archifdai ledled y wlad, ac ef oedd yn gyfrifol am ychwanegu deunydd o’i ben a’i bastwn ei hun ar gyfer y gyfrol, heb yn wybod i’r golygyddion mai twyll oedd y cyfan. Aeth Iolo gam ymhellach gan enwi Dafydd ap Gwilym yn Dafydd Morgannwg.   

[52] Ceri W. Lewis, ‘Iolo Morganwg and Strict-Metre Welsh Poetry’, yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius t. 80. Ei enw llawn oedd Rhys Goch ap Rhiccert ap Einion ap Collwyn, yr oedd yn gyndad i Rhys Brydydd a Lewys Morgannwg, a cheir cryn ddryswch ynghylch ei ddyddiadau.

[53] G. J. Williams: Iolo Morganwg – Y Gyfrol Gyntaf (Caerdydd, 1956), t. 370.

[54] Edwards, ‘A Multitude of Voices’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 102.

[55] Anhysbys: Casgliad o Hen Ganiadau Serch: Yn cynnwys rhai a briodolir i Rys Goch ab Rhiccert ab Einion ab Collwyn, Cyf. III (Caerdydd, 1902), t. 4.

[56] NLW 13131A, 463.

[57] ‘Gwyddom oherwydd eu nodweddion iaith, arddull a mydr na all hynny fod ... mae’n debyg mai’r hyn oedd yn ei feddwl ef [Iolo] oedd y cerddi hynny y cafodd J. H. Davies hyd iddynt mewn llawysgrif o’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ar bymtheg (a gyhoeddwyd yn Hen Ganiadau Serch (1902)).’ Gw. Donovan, Cerddi Rhydd Iolo Morganwg, t. xi.

[58] Anhysbys, Casgliad o Hen Ganiadau Serch, Cyf. III, t.  7.

[59] Ibid., t. 20.

[60] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 26.

[61] Huws, ‘Iolo Morganwg and Traditional Music’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 340.

[62] G. J. Williams, ‘Iolo Morganwg’, Y Llenor, Cyf. XV (1936), 228 – 229.

[64] Geraint H. Jenkins: ‘On the Trail of a “Rattleskull Genius”: Introduction’, yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 19.

[65] Anhysbys, Casgliad o Hen Ganiadau Serch, Cyf. III, t. 4.

[66] Taliesin Williams, Iolo Manuscripts: a Selection of Ancient Welsh Manuscripts (Llandovery, 1848).

[67] Anhysbys, Casgliad o Hen Ganiadau Serch, Cyf. III, t. 5.

[68] Siôn neu John Bradford (1706–85). Gwëydd, pannwr a lliwydd ydoedd wrth ei grefft, a hanai o Fetws, Tir Iarll ym Morgannwg. Yr oedd hefyd yn fardd ac yn gasglwr llawysgrifau, ac yn aelod o gylch llengar ym Mlaenau Morgannwg ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif. Ef hefyd oedd athro barddol Iolo Morganwg.

[69] Anhysbys, Casgliad o Hen Ganiadau Serch, Cyf. III, t. 5.

[70] Donovan, Cerddi Rhydd Iolo Morganwg, t. xi.

[71] Thomas Chatterton (1752–70). Bardd a ffugiwr barddoniaeth ffug-ganoloesol o Loegr ydoedd, a gyflawnodd hunanladdiad pan nad oedd ond yn ddwy ar bymtheg mlwydd oed, a hynny mewn ardal druenus yn Llundain o’r enw Holborn. Yn rhyfedd ddigon, yn ystod y 1790au, pan oedd Iolo ei hun yn ystyried hunanladdiad, cafodd lety yn yr ardal honno ‘within a door or two’ o’r fan lle bu Chatterton farw. Defnyddiai Chatterton y ffugenw ‘Thomas Rowley’ wrth ffugio hanes a barddoniaeth, a safai gyfuwch â ffugwyr gorau ei ddydd. Cai ei ystyried yn un o bennaf eiconau Rhamantiaeth y ddeunawfed ganrif. Gw. Geraint Phillips: ‘Forgery and Patronage: Iolo Morganwg and Owain Myfyr’, yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 414.

[72] James Macpherson (1736–96). Bardd o’r Alban ydoedd a gyfansoddodd dros 4,000 o linellau pan oedd yn fyfyriwr, a ffrwyth y gwaith hwnnw oedd cyfrol o’r enw The Highlander (1758). Yn ogystal â hyn, enillodd fri fel golygydd y cylch o gerddi yn chwedl Osian, The Works of Ossian (1765), a roddodd fod yn ddiweddarach i ddadleuon brwd ar wreiddioldeb y gwaith. Er enghraifft, aeth Samuel Johnson i’r afael â datrys y dirgelwch y tu ôl i waith Macpherson drwy deithio i’r Alban i chwilio am dystiolaeth lawysgrifol; wrth gwrs, ofer fu’r ymgais. Er hyn, llwyddodd y gwaith i ennyn chwilfrydedd a thanio dychymyg darllenwyr ymhell y tu hwnt i’r Alban.

[73] Lewis, ‘Iolo Morganwg and Strict-Metre Welsh Poetry’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 76.

[74] Stephens, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, t. 640.

[75] Tegwyn Jones, Tribannau Morgannwg (Llandysul, 1976), tt. 98–116.

[76] Rees, Dulliau’r Canu Rhydd 1500–1650 (1952), t. 35.

[77] Dafydd Johnston, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry (Pen-y-bont ar Ogwr, 1998), t. 11.

[78] Edwards, ‘A Multitude of Voices’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 120.

[79] Anhysbys, Casgliad o Hen Ganiadau Serch, Cyf. III, t. 25.

[80] NLW 13146A, 225. Ceir fersiwn tebyg yng nghyfrol Tegwyn Jones, Tribannau Morgannwg, t. 107.

[81] Millward, Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, t. 18.

[82] T. H. Parry-Williams, Hen Benillion (Llandysul, 1940), t. 14.

[83] Ibid., t. 9.

[84] Siwan M. Rosser, Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o’r ferch ym maledi’r ddeunawfed ganrif (Caerdydd, 2005), t. 33.

[85] Catrin Stevens, Welsh Courting Customs (Llandysul, 1993), t. 117.

[86] Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1952), t. 71.

[87] The Folk Songs of Britain, Volume 1: Songs of Courtship, Peter Kennedy, Alan Lomax a Shirley Collins, CD Topic 12T157.

[88] Ibid.

[89] Edwards, ‘A Multitude of Voices’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 109.

[90] Arfon Gwilym, Cerddoriaeth y Cymry (Talybont, 2007), t. 66.

[91] NLW 21423E, rhif 14.

[92] Casgliad o ddogfennau personol Phyllis Kinney a Meredydd Evans (mae’r rhain yn eu meddiant hwy). Ceir ynddynt olygiadau a nodiadau eglurhaol o alawon gwerin Iolo Morganwg yn ogystal â thraethodau ac erthyglau am gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

[93] NLW IAW 145, f.10. Ceir fersiwn tebyg yng nghyfrol Tegwyn Jones, Tribannau Morgannwg, t. 110.

[94] Edwards, ‘A Multitude of Voices’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, t. 112.

[95] ‘Math o serch rhamantaidd a ddarlunnir mewn cyd-destun sifalrïaidd ac a folid mewn barddoniaeth a rhamantau ... gynt defnyddid y term amour courtois (a gafwyd gyntaf gan yr ysgolhaig Ffrengig Gaston Paris yn 1883) ar y ffenomenon, ond defnyddir hefyd y term Profensaleg canoloesol, fin’amor.’ Gw. Stephens, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, t. 662.

[96] Ibid.

[97] Ibid., t. 120.

[98] NLW 13099B, 199–200.

[99] NLW 21423E, rhif 13.

[100] Gwilym, Cerddoriaeth y Cymry, t. 66.

[101] Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym, t. 304.

[102] Stevens, Welsh Courting Customs, t. 155.

[103] NLW 13099B, t. 135.

[104] Johnston, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol, t. 15.

[105] Stevens, Welsh Courting Customs, t. 155.

[106] Rosser, Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o’r ferch ym maledi’r ddeunawfed ganrif, t. 17.

[107] Johnston, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol,  t. 12.

[108] The Folk Songs of Britain, Volume 2: Songs of Seduction, Peter Kennedy, Alan Lomax a Shirley Collins, CD Topic 12T158.

[109] Johnston, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol, t. 13.

[110] A. L. Lloyd, Folk Song in England (London, 1967), tt. 202 a 184.

[111] Edwards, ‘A Multitude of Voices’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, tt. 117–8.

[112] NLW 13146A, 269.

[113] Hu Gadarn: ‘Nodiadau Cerddorol: Hen Alawon Cymreig y Ddeunawfed Ganrif’, Y Brython, Cyf. 1, Rhif 37, Hydref 18 (1906), 3.

[114] Ibid.

[115] Gw. erthygl Cathryn Charnell-White, ‘Women and Gender in the Private and Social Relationships of Iolo Morganwg’ yn Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius, tt. 359–81, am wybodaeth ychwanegol ynghylch agwedd gymysg Iolo at ferched yn fwy cyffredinol.

[116] NLW 13099B, 135.

[117] NLW IAW 145, f.10.

[118] NLW 21423E, rhif 14.

[119] NLW 13146A, 173.

[120] Thomas Evans (1728–1819). Gŵr a aned yn Sir Gaerfyrddin oedd Thomas Evans, ond a fagwyd gan ei rieni i fod yn saer, wedi iddynt symud i’r Nottais, Sir Forgannwg. Fodd bynnag, yr hyn a ai â’i fryd yn fwy na dim arall oedd canu’r delyn, a chafodd yrfa ddisglair fel telynor talentog a chymharol enwog. Ymhen y rhawg, ac yntau wedi tyfu’n lanc, syrthiodd mewn cariad â’r ferch o’r Scerr, sef Elizabeth Williams. Gw. Jenkin Howell, ‘Y Traddodiad am Y Ferch o’r Scer a’r Telynwr Dall o’r Nottais’, Y Genhinen, Cyf. 13, Rhif 4 (1895), 280–1.

[121] NLW IAW 145, f.9.

[122] Daniel Huws (gol.), Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg (Aberystwyth, 1994), tt. 42–3.

[123] Gw. Ibid. am y ddau bennill a dderbyniodd Jane Williams gan Taliesin ab Iolo.

[124] NLW 13099B, 150– 1, a 214.

[125] Ibid., 151.

[126] Jenkin Howell, ‘Y Traddodiad am Y Ferch o’r Scer a’r Telynwr Dall o’r Nottais’, Y Genhinen, Cyf. 13, Rhif 4 (1895), 280–1.

[127] Gw. erthygl Allan James yn ogystal, ‘Y Ferch o Gefn Ydfa a’r Ferch o’r Sger’ yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Llynfi ac Afan, Garw ac Ogwr (Llandysul, 1998), tt. 84–111, am gefndir manylach o’r hanes.

[128] D. Emlyn Evans, ‘Y Ferch o’r Scer’, Y Cerddor, Cyf. V, Rhif 56, (1893), 94.

[129] Ibid.

[130] James, ‘Y Ferch o Gefn Ydfa a’r Ferch o’r Sger’ yn Edwards (gol.), Llynfi ac Afan, Garw ac Ogwr  (1998), t. 97.

[131] Ibid., 110.

[132] NLW 13146A, 424–5.

[133] Ibid., 425.

[134] Jones, ‘Gwaith Prydydd da’i Awenydd... : Cerddi Gwasael a Phenillion Telyn Lewis Morris’, 5.

[135] NLW 21375A, f.36v.

[136] NLW IAW 145, t. 12.

[137] Mae’r trawsgrifiad golygedig o’r alaw hon yn seiliedig ar olygiad Phyllis Kinney, yn ei chasgliad personol o alawon gwerin Iolo Morganwg, yn ogystal ag awgrymiadau Mr Wyn Thomas.

[138] Donovan, Cerddi Rhydd Iolo Morganwg, t. xi.

[139] Jones, Blodeugerdd o’r Ddeunawfed Ganrif, t. x.

[140] Daniel Huws, Caneuon Llafar Gwlad ac Iolo a’i Fath (Penygroes, 1993), t. 12.

e-Gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

islwytho'r erthygl 

Manylion
Bywgraffyddol

Leila Salisbury

Designed & Developed by WiSS Limited