Rhifyn Cyfredol

Amrywiaeth Caleidosgopig’: addysg ddwyieithog yng Nghymru heddiw

Bryn Jones

Cyflwyniad

Pwrpas y papur hwn yw adrodd ar broject ymchwil cyfredol i addysg ddwyieithog (h.y. Cymraeg a Saesneg) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Erbyn heddiw mae amrywiaeth sylweddol yn y ddarpariaeth addysg ddwyieithog, ac fel yn achos ieithoedd lleiafrifol rhanbarthau eraill yn Ewrop, mae addysg ddwyieithog yng Nghymru yn gyfuniad o addysg iaith treftadaeth/cynnal (Cymraeg Iaith 1) ac addysg drochi (Cymraeg Iaith 2). Oherwydd bod ‘amrywiaeth caleidosgopig’ (Baker 1993:15) yn nodweddu’r ddarpariaeth ddwyieithog ar draws Cymru, defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau dysgu ac addysgu dwyieithog gan athrawon.


 

Yn dilyn cyfweliadau/arsylwadau mewn ysgolion uwchradd a chynradd dwyieithog ledled Cymru yn ystod 2007–2009, bydd y papur hwn yn egluro amcanion a methodoleg y project ymchwil dan sylw, cyn symud ymlaen i drafod rhai canfyddiadau cychwynnol. Cyfeirir yn benodol at ‘drawsieithu’ wrth i athrawon ddefnyddio’r ddwy iaith yn gyfamserol yn yr un wers. Cesglir bod ‘amrywiaeth caleidosgopig’ o ymarfer addysgol dwyieithog yn ysgolion Cymru, a bydd modd defnyddio tystiolaeth yr ymchwil i lunio teipoleg o addysg ddwyieithog yng Nghymru.

Cyfeirir ar gychwyn y papur hwn at ystadegau (Cyfrifiad 2001) am niferoedd siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ogystal â’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg. Eglurir amcanion y project ymchwil a sefydlwyd ym Medi 2007 yng Nghanolfan ESRC Dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd, Prifysgol Bangor. Ceir cipolwg o ganfyddiadau cychwynnol, i gloi, trafodir goblygiadau’r ymchwil ar gyfer gweithredu polisi addysg ddwyieithog yng Nghymru a thu hwnt.

Yr Iaith Gymraeg

Gwelwyd cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. Dengys ystadegau Cyfrifiad 2001 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2003, http://bwrdd-yr-iaith.org.uk , gweler Ffigwr 1) bod 582,400 (20.8%) o boblogaeth Cymru (3 oed a throsodd) yn datgan eu bod yn gallu siarad o leiaf peth Cymraeg. Nodwyd bod 457,946 (16.3%) yn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg, a bod 138,416 (4.9%) yn deall Cymraeg llafar yn unig.

Ymhlith disgyblion ysgol y cafwyd y canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg, sef 40.8 y cant ymhlith disgyblion 5-15 oed. Ymddengys bod y cynnydd hwn yn adlewyrchu dylanwad Deddf Diwygio Addysg 1988 (gyda’r safle a roddwyd i’r Gymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol), yn ogystal â’r twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg (http://www.rhag.net/index.html).


Ffigwr 1: Canlyniadau Cyfrifiad 2001: % yn gallu siarad Cymraeg yn ôl oedran (Ffynhonnell: Hywel M. Jones, Bwrdd yr Iaith Gymraeg)


Y Gymraeg yn yr ysgolion

Yn ystod y saith deg mlynedd diwethaf mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu a ffynnu ar hyd a lled Cymru. Eleni cyhoeddwyd ymgynghoriad Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2009), a nodwyd bod y strategaeth hon ‘yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru o gael gwlad lle y mae addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn rhannau annatod o’r seilwaith addysg’(2009:1, http://wales.gov.uk/docs/dcells/consultation/090507wmscy.pdf)

Yn ôl adroddiad ystadegol diweddaraf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2007), Y Gymraeg yn yr Ysgol 2007, gwelwyd bod cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Dengys Tabl 1 bod 466 o ysgolion cyfrwng Cymraeg (30.5 y cant o’r ysgolion) yn cynnwys 54,100 o ddisgyblion, wyth ysgol a 1,200 o ddisgyblion yn fwy nag yn 2006. Gwelwyd cynnydd o 20.1 y cant yn 2006 i 20.3 y cant yn 2007 yng nghanran y disgyblion cynradd a addysgir mewn dosbarthiadau lle defnyddir y Gymraeg fel y prif gyfrwng addysgu. Yn y sector uwchradd bu cynnydd o 15.2 y cant yn 2006 i 15.4 y cant yn 2007 yng nghanran disgyblion Blynyddoedd 7–11 sy’n astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.

Tabl 1: Dadansoddiad ystadegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (2007a)

Ysgolion cynradd ym mis Ionawr 2007
Ym mis Ionawr 2007, roedd yna 466 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg (30.5 y cant o’r ysgolion) yn cynnwys 54,100 o ddisgyblion, wyth ysgol a 1,200 o ddisgyblion yn fwy nag yn 2006.
Bu cynnydd yng nghanran y disgyblion ysgol gynradd a addysgir mewn dosbarthiadau lle defnyddir y Gymraeg fel y prif gyfrwng addysgu, o 20.1 y cant yn 2006 i 20.3 y cant yn 2007.
Bu cynnydd yng nghanran y disgyblion a asesir yn y Gymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, o 20.0 y cant i 20.3 y cant.
Bu cynnydd yng nghanran y disgyblion a asesir yn y Gymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, o 19.3 y cant yn 2005 i 19.5 y cant yn 2007.
 
Ysgolion uwchradd ym mis Ionawr 2007
Bu cynnydd yng nghanran y disgyblion blynyddoedd 7–11 (oedran ysgol gorfodol) mewn ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf, o 15.2 y cant yn 2006 i 15.4 y cant yn 2007. Roedd 83.7 y cant pellach yn astudio’r Gymraeg fel ail iaith.
Roedd 16.2 y cant o ddisgyblion blwyddyn 7 yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf, gostyngiad o 16.7 y cant yn 2006.
Bu gostyngiad yng nghanran y disgyblion a asesir yn y Gymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, o 15.7 y cant yn 2006 i 15.3 y cant yn 2007, mymryn yn uwch na’r canran o ddisgyblion blwyddyn 9 yn astudio’r Gymraeg fel iaith (15.2 y cant).

 

Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain mae addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cynnwys disgyblion o sbectrwm ieithyddol eang ac amrywiol (Lewis 2008:75). Yn yr un ysgol, mae’n eithaf cyffredin gweld plant o gartrefi lle y siaredir dim ond Cymraeg, plant eraill o gartrefi lle y siaredir rhywfaint o Gymraeg, a phlant eraill nad ydynt yn cael unrhyw gysylltiad â Chymraeg gartref (Llywodraeth Cynulliad Cymru,2009:84). Mae athrawon yn wynebu amrywiaeth eang o sefyllfaoedd ac anghenion ieithyddol yn eu dosbarthiadau, ac mae goblygiadau hyn yn sylweddol o safbwynt dulliau addysgu gwahaniaethol ar gyfer disgyblion Cymraeg Iaith 1 a Iaith 2, trefniadaeth dosbarth, a hyfforddiant athrawon (Lewis 2008:76). Sylwyd bod angen edrych ar yr effaith a gaiff dosbarthiadau o’r fath ar natur ac ansawdd datblygiad Cymraeg y disgyblion sy’n dod o gartrefi Cymraeg (Lewis 2006:26). Mae Tabl 2 yn dangos yr amrywiaeth amlwg ledled Cymru yn nifer y disgyblion cynradd ac uwchradd sydd yn siarad Cymraeg gartref.

Tabl 2: Amrywiaeth ymhlith disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir yn siarad Cymraeg gartref

(Ffynhonnell: Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007a: Tabl 4 & Tabl 17)

  Cynradd Nifer % Uwchradd Nifer
Ynys Môn 1,448 33.5 1,511 39.5
Gwynedd 4,092 52.7 4,266 59.2
Conwy 773 11.0 701 10.8
Sir Ddinbych 562 8.7 779 11.4
Sir y Fflint 214 2.0 184 2.0
Wrecsam 237 2.7 241 3.6
Powys 592 6.8 499 6.3
Ceredigion 1,280 30.9 1,565 37.7
Sir Benfro 463 5.7 551 7.7
Sir Gaerfyrddin 2,491 21.4 2,487 23.1
Abertawe 304 2.0 434 3.3
Castell-nedd P. Talbot 473 5.1 553 6.3
Pen-y-bont ar Ogwr 186 1.9 13 0.2
Bro Morgannwg 371 4.0 378 4.6
Rhondda Cynon Taf 770 4.8 696 4.5
Merthyr Tudful 60 1.5 5 0.1
Caerffili 47 0.4 56 0.5
Blaenau Gwent 35 0.7 1 0.0
Torfaen 17 0.3 62 0.9
Sir Fynwy 56 1.0 5 0.1
Casnewydd 23 0.2 4 0.0
Caerdydd 838 3.9 677 3.7
Cymru 15,332 7.6 15,668 8.6

Dylid ystyried y gwahaniaethau hyn (er enghraifft, 52.7 y cant o ddisgyblion cynradd Gwynedd a 0.2 y cant o ddisgyblion cynradd Casnewydd yn siarad Cymraeg gartref) wrth gynllunio’r ddarpariaeth ieithyddol mewn ysgolion ledled Cymru.

Galw am Ymchwil

Er bod ‘cymunedau dwyieithog ac amlieithog ledled Ewrop a’r byd yn cydnabod ein llwyddiant, ac yn ystyried y system addysg cyfrwng Cymraeg yn enghraifft o arfer orau i’w hefelychu’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009:1), nodwyd droeon mai prin yw’r gwaith ymchwil i’r ddarpariaeth addysg ddwyieithog yng Nghymru (Baker 1993:25, Lewis 2008:79, Williams 2002:5). Er enghraifft, nid oes unrhyw ddata na thystiolaeth gynhwysfawr ar gael ynglŷn â dyrannu iaith mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Yn 2007 cafwyd cyfle i ddiwallu’r galw am ymchwil i addysg ddwyieithog yng Nghymru pan sefydlwyd Canolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. http://www.bilingualism.bangor.ac.uk/index.php.en

Dyma’r ganolfan ymchwil gyntaf o’i bath ym Mhrydain i ganolbwyntio’n benodol ar ddwyieithrwydd; cyllidir y fenter gan yr ESRC (Economic and Social Research Council), Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Sefydlwyd pum grŵp ymchwil sydd yn rhoi sylw i ddwyieithrwydd o safbwynt rhyngddisgyblaethol: Niwrowyddoniaeth, Seicoieithyddiaeth Arbrofol, Ymchwil wedi ei Seilio ar Gorpws, Arolwg ac Ethnograffeg, ac Ymchwil i Leferydd.

Ffocws y grwpiau ymchwil yn y Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd yw natur y berthynas rhwng dwy iaith siaradwyr dwyieithog mewn cymunedau dwyieithog. http://bilingualism.bangor.ac.uk/centre/index.php.cy?menu=2&catid=6336&subid=0

Agweddau ar addysg ddwyieithog yng Nghymru yw un ffrwd gweithgarwch o fewn y Grŵp Arolwg ac Ethnograffeg. Canolbwyntir ar bedwar project, sef Addysg Ddwyieithog yn Ysgolion Cymru, Dwyieithrwydd mewn Addysg Uwch, Ymchwil Canolfannau Cymraeg i Oedolion ac Ymchwil Mudiad Ysgolion Meithrin. Nod y Project Ymchwil i Addysg Ddwyieithog yn Ysgolion Cymru ydyw:

   a) Diffinio a dadansoddi gwahanol fodelau o addysg ddwyieithog yng Nghymru. Dyma’r arolwg cynhwysfawr cyntaf o’i fath o ddulliau addysgu a dysgu dwyieithog mewn ysgolion Cymreig.
   b) Canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio Cymraeg a Saesneg gyda gwahanol grwpiau o ddisgyblion mewn amrywiaeth o wersi ar draws y cwricwlwm cynradd (Cyfnod Sylfaen a CA2) ac uwchradd (CA3–5). Gwneir hyn yn dilyn ymgynghoriad gyda staff perthnasol yr ysgolion.

Mae tri cham i’r project ymchwil:

  1. cynnal arolwg ac arsylwi dulliau gweithredu presennol yn y dosbarth yn arwain at deipoleg o strategaethau, wedi’u seilio ar dystiolaeth, ar gyfer dyrannu dwy iaith mewn dosbarthiadau mewn lleoliadau dwyieithog;
  2. ymgynghori ag ymgynghorwyr ac ymarferwyr er mwyn diffinio strategaethau effeithiol ar gyfer dyrannu iaith;
  3. cynhyrchu deunyddiau hyfforddi ar gyfer athrawon a hyfforddwyr athrawon er mwyn dangos strategaethau effeithiol ar gyfer dyrannu iaith yn y dosbarth.

Dewis ysgolion

Dewiswyd ysgolion cynradd ac uwchradd lle y defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg fel cyfrwng addysgu mewn amrywiaeth o bynciau craidd a sylfaen. (Yn ôl bwletin ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007a, defnyddir y Gymraeg fel y prif gyfrwng dysgu ar gyfer 20.3 y cant o ddisgyblion cynradd, ac yng nghyd-destun ysgolion uwchradd nodir bod 15.4 y cant o’r disgyblion yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.)

Nid ymwelwyd ag ysgolion cynradd ac uwchradd lle cyflwynwyd y Gymraeg fel pwnc (ail iaith) yn unig. Mae angen ymchwil pellach i’r modd y cyflwynir Cymraeg Ail Iaith yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, a dylid archwilio pam bod ‘pryderon yn codi am lefelau cyflawniad mewn Cymraeg ail iaith.’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009:71). Diffiniwyd ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg fel a ganlyn yn Adran 105(7) o Ddeddf Addysg 2002.

Nodwyd bod:

‘…ysgol yn un Gymraeg os yw mwy na hanner y pynciau a ganlyn yn cael eu haddysgu (yn llawn neu’n rhannol) drwy gyfrwng y Gymraeg:
(a) addysg grefyddol, a
(b) y pynciau, heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n bynciau sylfaen ar gyfer disgyblion yn yr ysgol’

 Ystyrid dau gategori ar gyfer ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg:

(a) Categori A:
os yw o leiaf hanner y disgyblion yn cael eu haddysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg
(b) Categori B:
os yw rhai o’r disgyblion, ond llai na hanner ohonynt, mewn dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg neu os yw’r Gymraeg yn gyfrwng addysgu ar gyfer rhan, ond nid y brif ran, o’r cwricwlwm.

Yn Hydref 2007, gyda chyhoeddiad y ddogfen Diffinio Ysgolion yn ôl y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007b, http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/definingschools?lang=cy)  cafwyd diffiniadau newydd i ddisgrifio cefndir ieithyddol ysgolion Cymru. Mae yn ofynnol i ysgolion  ddatgan pa gategori sydd ‘yn fwyaf priodol’ o safbwynt:

  • y cwricwlwm (cyfrwng addysgu ym mhob cyfnod allweddol, h.y. canran y cwricwlwm cynradd a chanrannau’r pynciau uwchradd a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg);
  • iaith yr ysgol (yr iaith/ieithoedd a ddefnyddir i gyfathrebu â’r disgyblion y tu allan i’r cwricwlwm, ethos yr ysgol, yr iaith a ddefnyddir yn yr ysgol o ddydd i ddydd, a’r ieithoedd a ddefnyddir i gyfathrebu â’r rhieni);
  • y canlyniadau (y canlyniadau arferol a ddisgwylir ar gyfer disgyblion sy’n mynychu pob math o ddarpariaeth o ran eu datblygiad addysgol).
(Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007b:6)

Dyma’r pum categori ar gyfer ysgolion cynradd:

1. Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg
2. Ysgol Gynradd Ddwy Ffrwd
3. Ysgol Gynradd Drawsnewidiol cyfrwng Cymraeg ond â defnydd sylweddol o’r Saesneg
4. Ysgol Gynradd cyfrwng Saesneg yn bennaf ond â defnydd sylweddol o’r Gymraeg
5. Ysgol Gynradd cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Dyma’r pedwar categori ar gyfer ysgolion uwchradd:

1. Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg
2. Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Categori 2A/Categori 2B/Categori 2C/Categori 2CH
3. Ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg yn bennaf ond â defnydd sylweddol o’r Gymraeg
4. Ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Bydd ysgolion yn defnyddio’r categorïau hyn wrth gasglu datao fis Ionawr 2008 ymlaen, ac ymdrechir i wella’r broses o drosglwyddo gwybodaeth glir i rieni a gofalwyr ynghylch darpariaeth ieithyddol ac ethos ysgolion a lleoliadau (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007b:2).

Ffocws yr ymchwil yw cynnal arolwg ac arsylwi dulliau gweithredu presennol o ran defnyddio dwy iaith yn y dosbarth mewn sampl bwriadus o ddeg ysgol uwchradd ac ugain ysgol gynradd sy’n anfon disgyblion iddynt (deg ysgol gynradd fawr – dros gant o ddisgyblion, a deg o rai bychain – o dan gant o ddisgyblion). Gwneir hynny mewn naw Awdurdod Addysg Lleol ar hyd a lled Cymru (yn cynrychioli gwahanol gyd-destunau daearyddol ac ieithyddol-gymdeithasol). Bydd yr arolwg hwn yn ein galluogi i lunio teipoleg gychwynnol o ddyrannu iaith ar draws sbectrwm eang sy’n cynrychioli cyd-destunau ieithyddol-gymdeithasol (http://wales.gov.uk/topics/statistics/theme/?skip=1&lang=cy). Mae nifer o ffactorau allweddol yn gallu effeithio ar swm a sylwedd y ddarpariaeth ddwyieithog o fewn ysgolion, er enghraifft, ystyrir cefndir ieithyddol disgyblion, maint ysgolion a goblygiadau hyn o safbwynt lefelau staffio ac ystod oedran disgyblion o fewn dosbarthiadau unigol.

Methodoleg Ymchwil

Yn y fethodoleg defnyddir amrywiaeth o gyfryngau ymchwil er mwyn casglu’r  dystiolaeth ansoddol a meintiol ehangaf bosibl, yn cynnwys y canlynol:

  • cyfweliadau lled-strwythuredig gyda phrifathrawon, cydlynwyr iaith, athrawon a disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ffocysu ar ddyraniad/defnydd iaith ar draws yr ysgol, dyraniad/defnydd iaith o fewn pynciau unigol yn y dosbarth, asesu, cefnogaeth ieithyddol ar gyfer grwpiau gwahanol o ddisgyblion, cyswllt cartref/cymunedol, hyfforddiant;
  • arsylwi mewn dosbarthiadau heb gymryd rhan gan ffocysu ar broffil iaith y disgyblion yn y dosbarth, iaith/ieithoedd yr athro/athrawes wrth gyfarch y dosbarth cyfan/grwpiau/unigolion, iaith/ieithoedd y disgyblion gyda’r athro/athrawes/efo’i gilydd mewn grwpiau bach/yn sgwrsio fel unigolion, addysgu iaith, rhesymau pam bod yr athro/disgybl yn newid iaith mewn gwersi, strategaethau ar gyfer defnyddio dwy iaith yn y dosbarth (e.e. ymgais i wahanu, cyfieithu, sgaffaldiau ar gyfer disgyblion nad ydynt yn rhugl, trawsieithu);
  • arsylwi ysgol gyfan gan ffocysu ar ethos/amgylchedd Gymraeg yr ysgol a’r dosbarthiadau, proffil Cymraeg athrawon yr ysgol (yn cynnwys cymorthyddion, staff ategol), proffil Cymraeg holl staff eraill yr ysgol (e.e. cogyddion, glanhawyr), defnydd yr athro/athrawes o’r ddwy iaith gyda disgyblion mewn gweithgareddau heblaw dysgu  (e.e. rheolaeth, disgyblaeth), iaith y buarth, defnydd technolegol o iaith, defnydd o wasanaethau cefnogi’r Gymraeg (e.e. athrawon bro), gweithredu’r Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol;
  • tystiolaeth a gwybodaeth am ysgolion, e.e. adroddiadau arolygiadau Estyn (AEM), canlyniadau arholiadau, amserlen yr ysgol a dyraniad iaith ar draws y cwricwlwm;
  • astudiaethau achos o ddosbarthiadau penodol;
  • grwpiau ffocws/cynadleddau/ymgynghoriadau.

Defnyddir rhestr gofnodi a fydd yn ein galluogi i feintioli’r data a chynnal gwaith ystadegol. Defnyddir codau ar gyfer pob arsylliad a chyfweliad, er enghraifft, dyma’r codau ar gyfer yr ymholiad ‘Pam a phryd y mae disgyblion yn meddwl eu bod yn defnyddio Cymraeg a Saesneg yn y dosbarth?’:

1= gwella dealltwriaeth
2= cwblhau tasg mewn pwnc penodol
3= cyfathrebu gyda’r athro/athrawes
4= cyfathrebu gyda disgybl/ion eraill
5= cyfuniad (eglurwch)
6= eraill (eglurwch)
7= dim rheswm amlwg


Cipolwg ar ganfyddiadau cychwynnol:

i. Amrywiaeth caleidosgopig

Fel yn achos ieithoedd lleiafrifol rhanbarthau eraill yn Ewrop (er enghraifft, Gwlad y Basg, Cenoz et al., 1998:177), mae addysg ddwyieithog yng Nghymru yn gyfuniad o addysg iaith treftadaeth/cynnal ac addysg drochi (Lewis 2008:83). Pwysleisiodd Baker (1993:15) bod ‘the kaleidoscopic variety of bilingual education practice in Wales makes the production of a simple typology inherently dangerous … No existing typology of bilingual education in Wales captures the full kaleidoscope of colours that exists.’

Amlygwyd droeon yr angen am ddiffiniadau a disgrifiadau eglur a chyson o’r ddarpariaeth ieithyddol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog (Redknap 2006:11, Lewis 2008:78). Er y sefydlwyd yr ‘ysgolion cyfrwng Cymraeg’ cyntaf i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant o gartrefi Cymraeg, roeddent hefyd yn datblygu sgiliau iaith Saesneg y disgyblion ac felly gellir galw’r ysgolion hyn yn ‘ddwyieithog’ (Lewis 2008:78). Nid oes defnydd cyson o labeli fel ‘cyfrwng Cymraeg’, ‘dwyieithog’, ‘traddodiadol Cymraeg’, a ‘naturiol Cymraeg’ yng nghyd-destun addysg yng Nghymru.

ii. Cynllunio dyraniad iaith ar draws y cwricwlwm

Mae angen polisi ac ymarfer pendant o ran dyrannu iaith (Lewis, 2006) gyda phenderfyniadau’n gorfod cael eu gwneud ynglŷn â defnyddio’r ddwy iaith i gyflwyno’r cwricwlwm. Un o’r ystyriaethau allweddol yw natur y cydbwysedd ieithyddol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, a dwyster y mewnbwn cyfrwng Cymraeg sydd ei angen er mwyn i ddisgyblion fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg dros amser (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009:2). Mae ar ysgolion angen strategaeth er mwyn sicrhau bod disgyblion yn datblygu yn ddwyieithog.

Dyma enghreifftiau o gyfweliadau gyda phenaethiaid yn trafod dyraniad iaith ar draws y cwricwlwm. Yn gyntaf, rhan o gyfweliad gyda Phennaeth ysgol gynradd (lle mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn ddysgwyr Cymraeg) yn egluro sut mae cynllunio ieithyddol bwriadus ar draws yr ysgol yn hyrwyddo dwyieithrwydd y disgyblion.

 Y peth allweddol ynglŷn â’r ysgol ydy’r Dosbarth Derbyn … mae’r plant yn cael eu trochi … ‘dan ni’n torri asgwrn cefn y gwaith, oherwydd unwaith mae’r plant yn dechrau caffael yr iaith ac rydan ni’n gobeithio erbyn tua’r Pasg yn y Dosbarth Derbyn, bod nhw’n torri drwodd i gynnal sgyrsiau syml, mae ’na eirfa yn adeiladu, ac maen nhw’n torri trwodd i siarad tua’r Pasg yn gymharol rwydd. Y mwyafrif llethol ohonyn nhw … Ym Mlwyddyn Un mae’r Saesneg yn ymddangos yn y cwricwlwm, yna petaech chi’n gofyn imi roi canran, tua phump ar hugain i ugain y cant. Mae’n ymddangos mewn gwersi llafar yn benodol mewn storïau a thrafodaethau’n ymwneud  â storiâu yn hytrach nag mewn gwaith ysgrifennu â gogwydd mwy academaidd iddo fo. Ond wrth gwrs mae’r Saesneg yn iaith gyntaf i’r mwyafrif, beth bynnag felly. Ym Mlwyddyn Dau mae’r hafaliad yn symud i 30:70 a’r Gymraeg helaethaf. Yna ym Mlwyddyn Tri i Flwyddyn Chwech yn gweithredu 50:50. O ran Cyfnod Allweddol Dau mae’n haws ei esbonio yn y fan honno. Yr esboniad fyddan ni’n rhoi o’r defnydd o’r Gymraeg ydy mai cyfrwng addysgol ar draws y cwricwlwm ydy’r Gymraeg. A bod yr iaith yn tyfu drwy gael ei defnyddio mewn sefyllfa drawsgwricwlaidd. A dyna ydy’r nod felly … nid pwnc wedi’i ynysu ydy o … mae’n cael ei ddefnyddio yn drawsgwricwlaidd.

Cynllunnir y ddarpariaeth ieithyddol gyda’r nod o alluogi disgyblion i ddod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Sicrheir bod dysgwyr y Gymraeg yn cael digon o fewnbwn cyfrwng Cymraeg i’w galluogi i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009:42).

Yn ail, dyma enghraifft o gyfweliad gyda Phennaeth ysgol uwchradd (yn cynnwys cymysgedd o ddisgyblion Cymraeg Iaith 1 ac Iaith 2) mewn tref fechan yng ngogledd Cymru. Eglurir beth yw arfer yr ysgol ynghylch defnyddio ieithoedd mewn pynciau gwahanol.

 Gwyddoniaeth yn ddwy iaith ar wahân, dau grŵp ar wahân, does dim addysgu dwyieithog … Yn y Chweched mae gwyddoniaeth i gyd yn Saesneg. Dylunio a Thechnoleg yn ddwyieithog, defnyddir taflenni gefn wrth gefn, ac mae hyn at Lefel A.  Ieithoedd Modern Tramor trwy gyfrwng yr iaith fodern … Hanes a Daearyddiaeth trwy un cyfrwng yn CA3, ar wahân i’r dosbarth dwyieithog, TGAU yn ddwyieithog. Celf a Dylunio yn ddwyieithog … Addysg Gorfforol yn ceisio rhoi mwy o ddefnydd o’r Gymraeg … bellach does dim un wers cyfrwng Saesneg yn unig mewn Addysg Gorfforol …

Amlygir yma’r ‘amrywiaeth caleidosgopig’ o safbwynt y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd yn bodoli o fewn nifer o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Bydd arsylliadau dosbarth yn datgelu ymhellach pa ffactorau (e.e. proffil ieithyddol staff a disgyblion) sydd yn llywio’r ddarpariaeth ddwyieithog mewn ysgol. Gofynnir beth ydy ystyr ‘addysg ddwyieithog’ yn yr ysgol. Weithiau cyfeirir at ddisgyblion yn defnyddio dwy iaith yn y gwersi, dro arall cyfeirir at ‘sefyllfa ddwyieithog’ lle mae’r athro’n ddwyieithog a charfanau o ddisgyblion yn gweithredu’n unieithog drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.

iii. Datblygu llythrennedd deuol

Y gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu mewn dwy iaith yw dwyieithrwydd. Ystyr llythrennedd deuol yw’r ‘gallu ychwanegol i symud yn hyderus ac yn esmwyth rhwng ieithoedd at ddibenion gwahanol’ (Estyn 2002:1, http://www.estyn.gov.uk/publications/cy_Dual_literacy.pdf).

Honnir bod datblygu sgil llythrennedd deuol yn fanteisiol am nifer o resymau, yn cynnwys cynorthwyo datblygiad deallusol unigolion, paratoi unigolion i ddysgu ieithoedd ychwanegol a pharatoi unigolion yn effeithiol ar gyfer sefyllfaoedd dwyieithog (Estyn 2002:2).

Gwelwyd defnydd cyson o TGCh, yn arbennig y Rhyngrwyd, mewn dosbarthiadau i hyrwyddo sgiliau llythrennedd deuol y disgyblion. Cyfeirir at rôl allweddol technoleg ac e-ddysgu o fewn y ddarpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009:98), ac mae’n ddefnyddiol bod athrawon yn deall potensial TGCh i ddatblygu sgiliau dwyieithog disgyblion.

Canfuwyd bod disgyblion yn profi rhai o fanteision bod yn ddwyieithog, er enghraifft, roedd rhai yn ystyried dwyieithrwydd fel adnodd ar gyfer dibenion addysgol. Dyma un ymateb gan ddau ddisgybl deg oed (un o gartref Cymraeg a’r llall o gartref cymysg ieithyddol) pan ofynnwyd iddynt sut mae defnyddio dwy iaith yn eu helpu yn yr ysgol:

 ‘ ’Dan ni’n gallu darllen llawer mwy o lyfrau.’
‘A chael lot mwy o wybodaeth ar y cyfrifiadur.’

Un strategaeth a ddefnyddir yn gynyddol wrth i athrawon arbrofi â defnyddio’r ddwy iaith yn gyfamserol yn yr un wers yw trawsieithu.

Dywed García (2009:304) mai trawsieithu yw’r ymarfer dwyieithog mwyaf cyffredin mewn dosbarthiadau dwyieithog. Cyhoeddwyd nifer o astudiaethau achos manwl ar drawsieithu a llythrennedd deuol mewn cyd-destunau rhyngwladol, er enghraifft, sefyllfa’r Sbaeneg a’r Saesneg yn y system addysg yn yr UDA (García,2009:304). 

Yn ôl Williams (2002:40) mae trawsieithu’n ‘ffordd naturiol o ddatblygu a chryfhau’r ddwy iaith gyda’i gilydd wrth ddyfnhau’r ddealltwriaeth bynciol yr un pryd’.

Diddorol yw sylw Gruffudd (2009) bod siaradwyr Cymraeg yn trawsieithu heb feddwl am y peth! Dywed bod ‘siaradwyr Cymraeg yn gyfarwydd â gwylio teledu Saesneg, gwrando ar radio Saesneg, darllen papurau a chylchgronau Saesneg a phori gwefannau Saesneg. Maen nhw wedyn, heb sylweddoli efallai, yn gallu trafod y pethau hyn yn Gymraeg.’

Mae trawsieithu’n gofyn am sgiliau darllen, deall a chrynhoi. Methodoleg a ddefnyddir yn gynyddol yw hon lle mae’r mewnbwn (gwrando a/neu ddarllen) a’r allbwn (ysgrifennu a/neu siarad) yn fwriadol mewn ieithoedd gwahanol (Baker, 2000; García, 2009). Mae trawsieithu yn annog unigolion i ddarllen, deall a chrynhoi gwybodaeth mewn ieithoedd gwahanol, ac mae Garcia (2009:302) yn nodi bod trawsieithu yn broses hyblyg sydd yn caniatáu defnydd iaith amrywiol.

Pwysleisia Williams (2002:47) mai strategaeth ar gyfer disgyblion sydd wedi cael gafael eithaf da ar y ddwy iaith yw trawsieithu yn hytrach na dull i gyflwyno ail iaith yn y lle cyntaf. Prin yw’r defnydd o drawsieithu mewn ambell ddosbarth cyfrwng Cymraeg, er enghraifft, bydd rhai athrawon yn canolbwyntio’n benodol ar adnoddau Cymraeg i hyrwyddo’r iaith darged.

Mae sefyllfaoedd o’r fath yn hawlio ymchwil pellach. Yn ystod yr astudiaeth hon (hyd yma) mae dau fodel o drawsieithu’n dod i’r amlwg (gweler Ffigwr 2):

i. dan reolaeth yr athro/athrawes (gweithgaredd wedi’i gynllunio’n fwriadus gan yr athro/athrawes)
ii. dan reolaeth y disgyblion/wedi’i ddewis gan ddisgyblion (gweithgaredd heb ei gynllunio gan yr athro/athrawes)

Model Trawsieithu

Cyfrwng y Mewnbwn(medrau iaith goddefol:gwrando/darllen)

Cyfrwng yr Allbwn (medrau iaith gweithredol: siarad/ysgrifennu)

 

Dan reolaeth yr athro/athrawes

Saesneg

Cymraeg

Cymraeg (gan amlaf)

Saesneg (gan amlaf)

 

Dan reolaeth y disgyblion

Saesneg



Cymraeg

Dewis: Cymraeg
a/neu Saesneg

 

Dewis: Saesneg
a/neu Gymraeg

Ffigwr 2: Modelau o drawsieithu a arsyllwyd (hyd yn hyn)

Mae angen ystyried yn ofalus pryd a pham y defnyddir y naill fodel a’r llall. Mae trawsieithu dan reolaeth y disgyblion yn opsiwn gyda disgyblion sydd yn gytbwys ddwyieithog. Weithiau mae’n bosibl i ddisgyblion ddarllen a chopïo air am air heb ddeall yr ystyr ac mae angen bod yn ymwybodol o hyn pan fo disgyblion yn ‘rheoli’ y gweithgaredd. Hefyd gall disgyblion ddefnyddio’r famiaith ar draul yr ail iaith. Mae angen cynllunio pa fodel sydd yn berthnasol: nid tasg fympwyol ydy trawsieithu.

Gwelwyd enghraifft o drawsieithu dan reolaeth yr athrawes mewn gwers daearyddiaeth gyda 17 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn cynnwys siaradwyr Cymraeg Iaith 1 ac Iaith 2. Gofynnodd yr athrawes i’r dosbarth gyd-ddarllen gwybodaeth Saesneg am Fasnach Deg ar wefan Oxfam (http://www.oxfam.org.uk/coolplanet/kidsweb/banana/george.htm). Roedd y gwaith darllen yn datblygu ac yn atgyfnerthu sgiliau darllen disgyblion Saesneg Iaith 1 ac Iaith 2. Gofynnwyd yn Saesneg beth oedd ystyr termau fel crops, harvested, chemicals a chafwyd ymatebion yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rhoddwyd esboniad yn y Gymraeg ar gyfer ambell derm, er enghraifft, environment, community. Crynhowyd prif negeseuon y gwaith darllen yn y Gymraeg. Gofynnwyd i’r holl ddisgyblion gwblhau taflen waith yn y Gymraeg yn egluro pam bod cefnogi nwyddau Masnach Deg yn syniad da.

Ceir enghraifft o drawsieithu dan reolaeth disgyblion ymysg disgyblion 9–11oed mewn gwers hanes isod.

Roedd grŵp o chwe disgybl yn cynnwys cymysgedd o ddisgyblion Cymraeg I1 a I2 yn trafod arferion bwyta pobl Oes y Cerrig. Roedd y grŵp yn ‘gytbwys ddwyieithog’ ac roeddent yn gweithio’n annibynnol heb fawr o gyswllt gyda’r athrawes. Roedden nhw wedi derbyn gwybodaeth Saesneg, ‘Diet and Eating Habits in the Stone-Age’ oddi ar y Rhyngrwyd (gweler Ffigwr 3). Defnyddiwyd y medrau goddefol (gwrando a darllen) i brosesu’r mewnbwn.

Ffigwr 3: Mewnbwn: gwybodaeth Saesneg oddi ar y Rhyngrwyd. 

Defnyddiwyd y medrau iaith gweithredol (siarad ac ysgrifennu) i brosesu’r allbwn. Trafodwyd y wybodaeth yn Gymraeg ac roedd y sgwrs yn seiliedig ar ddehongli’r wybodaeth berthnasol ar gyfer cwblhau’r dasg dan sylw. Cofnodwyd y canfyddiadau yn y Gymraeg – gan ddefnyddio termau Cymraeg ar gyfer organau gwahanol, er enghraifft, iau, arennau, ymennydd, a hynny heb gymorth geiriadur.

Roedd y cyflwyniad gorffenedig i’r dosbarth cyfan yn y Gymraeg.

 

 

Ffigwr 4: Allbwn: gwaith llafar ac ysgrifenedig y disgyblion.

  • Byddant byth yn gwastraffu anifeiliaid.
  • Byddant yn llosgi esgyrn drwg.
  • Roeddynt yn bwyta braster o tu fewn esgyrn. (mâr)
  • Roeddyn nhw yn gweld planhigion fel rydym ni yn gweld llysiau.
  • Roeddynt yn bwyta organau fel Iau, arenau ac yr ymennydd.
  • Mi fysynt yn ei goginio/berwi o dan tân.

(Gadawyd y sillafu fel ag yr oedd yn y gwreiddiol.)

Gwelwyd enghreifftiau o ddisgyblion uwchradd yn dewis cyfrwng iaith ar gyfer cyflwyno gwaith i weddill y dosbarth. Er enghraifft, mewn gwers Gwyddoniaeth TGAU roedd y dosbarth yn defnyddio gwefan Saesneg i gywain gwybodaeth am y Prosiect Genom Dynol (Human Genome Project). Nod y dasg oedd creu poster a rhoi cyflwyniad i weddill y dosbarth. Penderfynodd dwy ferch – un o gartref Cymraeg a’r llall o gartref Saesneg – i greu poster Cymraeg ar y cyd a rhoi cyflwyniad yn Gymraeg i weddill y dosbarth. Pan ofynnwyd pam iddynt weithredu fel hyn, yr ateb oedd: ‘I osgoi copïo air am air, fel ein bod ni’n deall y wybodaeth yn well.’

Mae angen ymchwil pellach i gefnogi’r honiad bod llythrennedd deuol ‘yn cynorthwyo datblygiad deallusol unigolion trwy wella eu gallu i feddwl, deall a mewnoli gwybodaeth mewn dwy iaith’ (Estyn 2002:2). Mae ymchwil niwrowyddonol yn cynnig posibiliadau diddorol a gwerthfawr yn y cyd-destun hwn. Mae’r grŵp niwrowyddoniaeth yng Nghanolfan ESRC Dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd (<http://www.bilingualism.bangor.ac.uk/index.php.en>) yn canolbwyntio ar sut mae dwyieithrwydd yn datblygu yn yr ymennydd dynol.  Mae niwrowyddoniaeth yn datblygu’n gyflym ym maes ymchwil addysg ddwyieithog, ac mae angen mewnbwn o’r fath i gefnogi ein hymchwil i addysg ddwyieithog yng Nghymru.

iv. Amrywiaeth ac ‘amrywiaith’

Amlygir amrywiaeth (o ran methodoleg addysgu a modelau cynllunio) ac ‘amrywiaith’ (o ran proffil ieithyddol y disgyblion) yn yr ysgolion a arsyllwyd. Mae mwyafrif o’r dosbarthiadau dan sylw yn cynnwys disgyblion o gefndir ieithyddol amrywiol, er enghraifft, siaradwyr Cymraeg Iaith 1 ac Iaith 2, a siaradwyr nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Dyma’r ‘amrywiaeth caleidosgopig’ sydd yn sail i’n hymchwiliadau yn ysgolion cynradd ac uwchradd dwyieithog ac amlieithog Cymru ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. Mae Brentnall (2009:21) yn nodi bod angen cynllunio’n ofalus i ddiwallu anghenion addysgol dysgwyr o leiafrifoedd ethnig sy’n dysgu iaith neu ieithoedd ychwanegol. Gwlad amlieithog yw Cymru ac mae ‘mwy a mwy o ddysgwyr yn mynd hefyd i ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Bydd anghenion ychwanegol gan y disgyblion hyn o ran cymorth i ddysgu Saesneg a Chymraeg fel y gallant ddysgu pob un o bynciau’r cwricwlwm.’ Perthnasol yw sylw Brentnall (2009:21) bod angen hyfforddi athrawon i ddygymod â her a sialens yr ystafell ddosbarth amlieithog. Dywed bod ‘gofyn mabwysiadu dulliau o hyfforddi athrawon sy’n gyson ar draws y wlad a rhoi sylw i fethodoleg yr ystafell ddosbarth’.

Diweddglo

I gloi, ystyrir goblygiadau’r project ymchwil ar gyfer polisi a gweithredu addysg ddwyieithog yng Nghymru a thu hwnt ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain.

i. Goblygiadau’r project ymchwil

 Mae’r ymchwil yn amlygu nifer o’r materion a adnabuwyd eisoes (Lewis 2006:26) fel ystyriaethau allweddol ym maes addysg ddwyieithog yng Nghymru a thu hwnt. Cyfeirir yn benodol at

  • fanteision ac anfanteision addysgu disgyblion Iaith 1 (lleiafrifol) ac Iaith 2 (fwyafrifol) yn yr un dosbarth;
  • trefniadaeth dosbarth o fewn dosbarthiadau cymysg ieithyddol;
  • adnabod strategaethau gwahanol a gwahaniaethol i ateb gofynion disgyblion o gefndiroedd ieithyddol amrywiol;
  • natur ac ansawdd yr iaith (a’r cyfnewid iaith) a ddefnyddir gan athrawon;
  • sicrhau dilyniant o fewn ysgolion cynradd ac o’r sector cynradd i’r sector uwchradd;
  • codi ymwybyddiaeth o fethodoleg addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog;
  • sicrhau bod canlyniadau’r ymchwil yn bwydo i hyfforddiant cychwynnol a mewn-swydd.

Bydd ein teipoleg o strategaethau ar gyfer dyrannu dwy iaith mewn lleoliadau dwyieithog, yn seiliedig ar dystiolaeth, o ddiddordeb ac yn berthnasol i systemau addysg ddwyieithog lle mae’n rhaid gwneud penderfyniadau’n ymwneud â defnyddio dwy iaith wrth gyflwyno’r cwricwlwm mewn ysgolion mewn rhanbarthau ieithoedd lleiafrifol. ‘Ar lefel Ewropeaidd, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn gyfeirbwynt allweddol i gymunedau eraill sydd wedi datblygu, neu wrthi’n datblygu, rôl ieithoedd llai eu defnydd mewn addysg.’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009:33).

Wrth i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog barhau i fynd yn gynyddol fwy amrywiol a ‘chaleidosgopig’, bydd y prosiect ymchwil hwn yn rhoi sylw i’r prif faterion y mae angen eu hystyried wrth gynllunio’r ddarpariaeth yn strategol i wynebu sialensau’r unfed ganrif ar hugain.

ii. Deilliannau disgwyliedig

Isod rhestrir rhai o ddeilliannau disgwyliedig yr ymchwil, ac ystyrir ffyrdd y gellir defnyddio’r canlyniadau:

  • Teipoleg o Addysg Ddwyieithog yng Nghymru. Llunio teipoleg o addysg ddwyieithog sydd yn berthnasol i Gymru heddiw yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil.
  • Diffinio addysg ddwyieithog. Defnyddir termau allweddol fel ‘addysg ddwyieithog’ ac ‘addysg cyfrwng Cymraeg’ yn llac iawn, ac nid oes cysondeb o ran dehongliadau o fewn na rhwng ysgolion. Trafodir cwestiynau a godwyd fel:
    ‘Ydy addysg ddwyieithog yn golygu defnyddio dwy iaith ymhob gwers?’
    ‘Beth ydy ystyr sefyllfaoedd dwyieithog?’
  • Dulliau trefnu addysg ddwyieithog. Darlunnir polisïau iaith gan egluro sut y dyrennir y defnydd o’r ddwy iaith ar draws y cwricwlwm. Trafodwyd ystod eang o ddulliau o drefnu dysgu dwyieithog, er enghraifft, i) cyflwyno rhai pynciau trwy gyfrwng un iaith ac eraill trwy gyfrwng yr iaith arall. ii) cyflwyno modiwlau trwy gyfrwng un iaith ac eraill trwy gyfrwng yr iaith arall, iii) defnydd o’r ddwy iaith o fewn yr un wers/cyfnod.
  • Strategaethau addysgu dwyieithog. Arsyllwyd amrywiaeth o strategaethau o safbwynt defnydd athrawon o ddwy iaith yn y dosbarth. Er enghraifft, cyfieithu, sgaffaldio ar gyfer disgyblion nad ydynt yn rhugl, cyflwyno geirfa/termau, trawsieithu. Cyflwynir modelau o drawsieithu ar draws y cwricwlwm. Gwelwyd defnydd cyson o ‘gyfnewid iaith’ mewn gwersi yn cynnwys ‘cyfnewid iaith mewn-frawddegol’ a ‘chyfnewid iaith rhyng-frawddegol.’ Trafodir pam a phryd mae athrawon yn newid iaith yn y dosbarth.
  • Deall cyd-destun dwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog. Dylid deall ac adnabod pa ffactorau (amlwg ac ymhlyg) sy’n dylanwadu ar y ddarpariaeth ddwyieithog mewn ysgolion (er enghraifft, cefndir ieithyddol athrawon, hyfforddiant athrawon a staff ategol, ethos ysgolion, cefndir ieithyddol disgyblion, agweddau rhieni/gwarcheidwaid, athrawon a disgyblion, gofynion y cwricwlwm ac asesu, polisïau AALl, ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, ffactorau lleol).
  • Marchnata addysg ddwyieithog. Amlygwyd sut mae ysgolion yn marchnata manteision dwyieithrwydd i rieni/gwarcheidwaid, ac yn creu cyswllt ysgol/cartref llwyddiannus. Cyfeirir yn benodol at sut mae ysgolion yn cyflwyno gwaith cartref mewn iaith sydd yn wahanol i iaith y cartref. Mae angen egluro manteision dwyieithrwydd i’r disgyblion (cynradd ac uwchradd), ac ystyrir cyflwyno cymhwyster i gydnabod sgiliau dwyieithog disgyblion.
  • Iaith ar draws y cwricwlwm. Mae codi ymwybyddiaeth athrawon o iaith  ar draws y cwricwlwm yn parhau. Cyfeirir yma’n benodol at ffyrdd o ddysgu iaith a chynnwys integredig – CLIL (Content and Language Integrated Learning.) Trafodir addysg ddwyieithog yng nghyd-destun cwricwlwm cyfredol Cymru, a chyfeirir yn benodol at ddwyieithrwydd disgyblion yng nghyd-destun y Cyfnod Sylfaen, Cwricwlwm Cenedlaethol 2008, Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru, Llwybrau Dysgu 14–19. Cyfeirir yn benodol at sicrhau dilyniant o fewn ac ar draws Cyfnodau Allweddol, a’r sialensau sydd yn wynebu rhai ysgolion wrth gyflwyno’r Llwybrau Dysgu 14–19 i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg.
  • Defnydd ac ansawdd iaith. Archwilir defnydd iaith disgyblion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd yn cynnwys cyfathrebu gyda’r athro, disgyblion yn cyfathrebu mewn sefyllfaoedd grŵp yn ogystal ag yn unigol gyda’i gilydd. Cyfeirir at ansawdd iaith athrawon a disgyblion mewn gwahanol bynciau, yn cynnwys siaradwyr Cymraeg Iaith 1 ac Iaith 2.
  • Ymchwil a hyfforddiant. Yn ogystal â chyhoeddi canlyniadau’r ymchwil cyflawn, datblygir pecyn hyfforddiant (cychwynnol ac mewn-swydd) yn adnodd gwerthfawr i gefnogi ac ysgogi ymarferwyr dwyieithog ledled Cymru.

Dywed Jones (1997:v) bod Cymru ‘yn cynnig llwyfan cyfoethog i ymchwilwyr ym maes dwyieithrwydd’ a gobeithio bydd y project ymchwil hwn yn taflu goleuni ar y llwyfan sydd wedi denu diddordeb a sylw cynulleidfaoedd ledled Cymru a’r byd.

Cydnabyddiaeth: Hoffai’r awdur gydnabod arweiniad a chefnogaeth Dr Gwyn Lewis a Dr Enlli Thomas, Prifysgol Bangor, wrth lunio’r papur hwn.

Llyfryddiaeth

 

Baker, C. (1993), ‘Bilingual Education in Wales’, In European Models of Bilingual Education.

H. Baetens Beardsmore (ed.), 7–29, (Clevedon: Multilingual Matters).

Baker, C. (2006), Foundations of Bilingual Education and Bilingualism (Clevedon: Multilingual Matters).

Brentnall, J. (2009), ‘Pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru sy’n dysgu iaith ychwanegol’, yn Iaith yn y Gymru Amlieithog, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1, 25, (Bangor: Trafodion Addysg).

Cenoz. J., & Genesee, F. (1998), Beyond Bilingualism: Multilingualism and Multilingual Education, (Clevedon: Multilingual Matters).

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, (2003), Cyfrifiad Poblogaeth 2001: Y Canlyniadau Cyntaf ar yr Iaith Gymraeg, Bwletin Ystadegol 22/2003, (Caerdydd: Cynulliad Cenedlaethol Cymru).

Estyn, (2002), Datblygu llythrennedd deuol: Papur trafod Estyn.

(Caerdydd: Estyn). www.estyn.gov.uk

García, O., (2009), Bilingual education in the 21st Century: A Global Perspective. (Chichester: Wiley-Blackwell).

Gruffudd, H., (2009), Golwg ar drawsieithu, (Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg).

Jones, D., (1997), Cyflwyniad i Ddwyieithrwydd, (Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg).

Lewis, W.G., (2006), ‘Addysg gynradd Gymraeg: her a chyfle yr unfed ganrif ar hugain’, yn Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 21-35, (Bangor: Trafodion Addysg).

Lewis, W.G., (2007), ‘Teaching and Learning in Bilingual Situations in Wales Today: an Overview of the main Issues and Considerations’, yn Journal of Education 5 (1) 21–35, (Mauritius: Mauritius Institution of Education).

Lewis, W.G., (2008), ‘Current challenges in bilingual education in Wales’, yn Multilingualism and Minority Languages: Achievements and challenges in education, AILA Review 21 (2008): 69–86, (Amsterdam: John Benjamins Publishing Company).

Llywodraeth Cynulliad Cymru, (2003), Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog. (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).

Llywodraeth Cynulliad Cymru, (2007a), Y Gymraeg yn yr ysgol 2007, Bwletin Ystadegol 63/2007, (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru). www.cymru.gov.uk/ystadegau

Llywodraeth Cynulliad Cymru, (2007b), Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/definingschools?lang=cy

Llywodraeth Cynulliad Cymru, (2009), Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Ymgynghoriad, Dogfen Ymgynghori Rhif: 067/2009, (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).

http://wales.gov.uk/docs/dcells/consultation/090507wmscy.pdf

Redknap, C., (2006), ‘Addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog: camau tuag at strategaeth holistaidd’, yn Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1–19, (Bangor:Trafodion Addysg).

Roberts, G. & Williams, C., (gol.), (2003). Addysg Gymraeg Addysg Gymreig, (Bangor: Ysgol Addysg, Prifysgol Cymru).

Williams, C., (2002), Ennill Iaith: Astudiaeth o Sefyllfa Drochi yn 11–16 oed, Trafodion Addysg, (Bangor: Ysgol Addysg).

http://www.rhag.net/index.html (Gwefan Rhieni Dros Addysg Gymraeg).

http://ciltcymru.org.uk (Gwefan CILT Cymru)

Cyfeiriad yr awdur:
Bryn Jones
Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
b.jones@bangor.ac.uk

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

e-Gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

islwytho'r erthygl

Manylion
Bywgraffyddol

Bryn Jones

Designed & Developed by WiSS Limited