rhifyn 4

Cynnwys Rhifyn 4:

 
 

Rhifyn Archif

Golygyddol

Dyma’r rhifyn cyntaf o Gwerddon i ymddangos ar ei newydd wedd, ar wefan yr ydym yn gobeithio y bydd ein darllenwyr yn ei gweld yn gyffrous ac yn gyfleus. Ceir ar y wefan hefyd ganllawiau newydd i gyfranwyr a manylion aelodaeth y Bwrdd Golygyddol. Ers i’r rhifyn diweddaraf ymddangos bu sawl datblygiad arall. Penodwyd cynorthwyydd golygyddol rhan amser newydd, Gethin Rhys, a Chadeirydd i’r Bwrdd Golygyddol, Dr Hefin Jones o Brifysgol Caerdydd.

Prif amcan y Cadeirydd a’r Golygydd yn y cyfnod newydd yr ydym yn ei wynebu nawr yw sicrhau cydnabyddiaeth i’r cyfnodolyn ar draws y meysydd academaidd gwahanol ac ymhlith y sefydliadau sy’n gyfrifol am ariannu ymchwil. Bydd yn bwysig, hefyd, i sicrhau’r un radd o gefnogaeth gan bobl sy’n medru’r Gymraeg ym mhob un o’r meysydd academaidd. Gyda golwg ar hynny, credaf ei bod yn bwysig pwysleisio yma nad ydym yn gobeithio y bydd Gwerddon fyth yn cystadlu gyda chyfnodolion sy’n cyhoeddi ymchwil academaidd i gynulleidfa ryngwladol. O safbwynt hynny, wedi’r cyfan, mae’r Gymraeg yn yr un safle ag ieithoedd eraill sydd yn meddu ar lawer mwy o siaradwyr. Anfantais mawr ein hiaith ni yw nad yw hi wedi sefydlu ei hawliau ym mhob maes yn ei thiriogaeth hi ei hun.

Swyddogaeth Gwerddon yw sicrhau bod yna gyd-destun lle mae pob math o drafodaeth yn digwydd yn yr iaith Gymraeg a hynny ar y lefel uchaf posibl. Gwelwn Gwerddon yn rhan hanfodol o’r ymgyrch i ddiogelu’r iaith ac i ddatblygu addysg academaidd cyfrwng Cymraeg y mae sefydlu’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg wedi bod yn agwedd mor bwysig ohoni. Agwedd bwysig arall ar yr ymgyrch honno yw’r ysgoloriaethau a’r cymrodoriaethau ymchwil y mae’r Ganolfan yn gyfrifol am eu gweinyddu ac sydd erbyn hyn yn rhan bwysig o strategaeth ymchwil prifysgolion ar draws y wlad. Erbyn hyn y mae’r prosiect hwn yn aeddfedu ac yn y dyfodol agos disgwylir y bydd yn arwain at gynnydd yn y nifer o ddarlithwyr ifainc sydd yn gallu dysgu a chynnal ymchwil drwy’r Gymraeg. Cynigir yn Gwerddon gyfrwng i’r ysgolheigion newydd hyn gyhoeddi agweddau ar eu gwaith ymchwil yn y Gymraeg.


e-Gyfnodolyn yw Gwerddon sy’n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn gydnaws â gofynion y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF).

Cyllidir Gwerddon gan: 

logo




Designed & Developed by WiSS Limited