Rhifyn Archif

Golygyddol

Dyma drydydd rhifyn Gwerddon, gyda thrawstoriad diddorol iawn o erthyglau unwaith eto. Rhaid i ni fynegi ein diolchiadau i’w hawduron am eu ffydd yn y cyfnodolyn.

Hyd at ddiwedd 2007 derbyniodd Gwerddon gefnogaeth gyllidol sylweddol gan Brifysgol Aberystwyth ac er i hwnnw ddod i ben yr ydym bellach yn obeithiol fod sail wedi ei osod ar gyfer datblygu’r cyfnodolyn ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys datblygu gwefan hyblyg a chyffrous, a fydd yn caniatáu i ddiwyg y cylchgrawn ymdebygu i gyfnodolion electronig eraill. Yn dilyn penderfyniad yn Chwefror eleni gan y Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (sydd yn cynnwys cynrychiolaeth o holl brifysgolion a sefydliadau addysg uwch Cymru) i gymeradwyo cynllun busnes drafft ar gyfer Gwerddon, yr ydym yn obeithiol y bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cytuno i gynnwys cefnogaeth ariannol am dair blynedd o fewn y gyllideb ar gyfer addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg. Byddai hynny yn caniatáu i ni sicrhau goroesiad y cylchgrawn a hynny mewn gwedd newydd.

Fel rhan o’r broses hon rydym wrthi’n cyflwyno newidiadau i’r drefn olygyddol. Wrth i ni groesawu cynrychiolwyr y sefydliadau addysg uwch i’r Bwrdd Golygyddol, bydd angen i ni arolygu’r aelodaeth bresennol. Carwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn gynnes iawn am y gefnogaeth rydym wedi ei derbyn gan aelodau’r Bwrdd ers y dyddiau cynnar. Rhaid hefyd ddiolch i Anwen Jones am ei brwdfrydedd a’i heffeithiolrwydd ar hyd yr amser. Gobeithio y bydd hi’n parhau â’r gwaith yn y dyfodol agos, a hynny â theitl golygydd cynorthwyol, sy’n adlewyrchu maint a phwysigrwydd ei chyfraniad.

Mae’n bleser gennyf ddiolch unwaith yn rhagor i Dr Ioan Matthews am ei ffydd yn y prosiect ac am ei holl gymorth. Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agosach fyth â Ioan a’i gydweithwyr yn y blynyddoedd nesaf, tra ein bod ni’n wynebu’r sialens o sicrhau bod diwyg Gwerddon ar y We yn adlewyrchu safon ei gynnwys. Fel rhan o’r broses o ddatblygu’r prosiect ymhellach, gobeithiwn baratoi canllawiau manwl i gyfranwyr. Yn y cyfamser byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai awduron yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r bras ganllawiau isod. Mae’r broses olygyddol o reidrwydd yn anodd, oherwydd amrywiaeth y confensiynau yn y meysydd academaidd gwahanol ac oherwydd y ffaith bod gwahaniaethau amlwg yn y modd y cyflwynir tystiolaeth ar draws y meysydd hynny. Rydym yn derbyn amodau’r gwaith hwn yn fodlon iawn, ond ar yr un pryd byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai cyfranwyr yn defnyddio’r tri rhifyn presennol fel model i’w ddilyn o ran paratoi Llyfryddiaeth, troednodiadau ac ati. Byddai’n gymorth sylweddol i ni hefyd pe bai awduron yn sicrhau – i’r graddau y mae hynny’n bosibl iddynt – bod tablau, siartiau a lluniau ac ati, wedi eu hymgorffori yn nhestunau eu herthyglau.

e-Gyfnodolyn yw Gwerddon sy’n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn gydnaws â gofynion y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF).

Cyllidir Gwerddon gan: 

logo




 

islwytho'r erthygl

 

Designed & Developed by WiSS Limited