2. Nodweddion Cymraeg sy’n brin yn ieithoedd y byd
Anodd cyfrif pa faint o ieithoedd a siaredir yn y byd heddiw; bydd llawer yn cynnig amcan oddeutu chwe mil. Mae pob iaith yn wahanol yn ei seiniau, ei geirfa, y cysyniadau a gynrychiolir gan yr eirfa, ei chystrawennau, ei phriod-ddulliau, yr hyn y gellir ei ragdybio wrth siarad yr iaith. Serch hynny, y mae llawer o adeiladwaith iaith yn gyffredin i bob un o ieithoedd y byd. Cyferbynia pob iaith gytsain a llafariad; berf, enw a rhagenw; gosodiad a chwestiwn; a llawer arall. Mae nifer o briodweddau mathemategol, fel hierarchedd a dychweledd, yn gyffredin i ramadeg pob iaith. Defnyddia bron pob iaith y cytseiniaid p, t, c, m, n a’r llafariaid a, i, w, ac mae gan y mwyafrif mawr ansoddeiriau, cymalau perthynol, rhifolion a threfn rifo. Mae nodweddion eraill yn gyffredin i lawer o ieithoedd: nid pob iaith o bell ffordd sydd â ffurfiau unigol a lluosog i enwau, ond ceir y nodwedd hon mewn cyfran go fawr o ieithoedd y byd. Eto mae nodweddion eraill yn brin. Yn ychydig iawn o ieithoedd y byd y defnyddir y gytsain ll, fel yn llaw, efallai mewn llai na hanner un y cant ohonynt. Mae bodolaeth ll yn un o hynodion y Gymraeg.
Un o amcanion ymchwil ieithyddiaeth yw darganfod beth sy’n bosib mewn iaith, beth sy’n ffurfio gallu ieithyddol dynolryw. Hoffem wybod beth sy’n gyffredin i bob iaith, ac sydd felly’n rhan o adeiladwaith y bod dynol, pam mae rhai nodweddion yn gyffredin ac eraill yn anghyffredin, a beth sy’n amhosib mewn iaith. Dylai hyn ein galluogi i ddarlunio adeiladwaith ein gallu ieithyddol ac i ddechrau ymchwil i le iaith yn yr ymennydd ac i’w tharddiad. Fel deunydd crai i’r ymchwil hwn mae pob iaith yn bwysig: mae pob iaith yn dweud rhywbeth newydd wrthym am adeiladwaith iaith neu am lwybrau meddwl y bobl sy’n ei siarad. Ond mae nodwedd ieithyddol brin yn arbennig o bwysig am yr union reswm ei bod yn brin, oherwydd ei bod yn ymgorffori tystiolaeth nad yw i’w chael mewn lle arall.
Mae’r Gymraeg yn bwysig i faes ieithyddiaeth oherwydd bod ganddi, o ystyried holl ieithoedd y byd, nifer o nodweddion sy’n brin. Mae rhai o’r nodweddion hyn yn gyffredin i’r ieithoedd Celtaidd i gyd, ac eraill yn arbennig i’r Gymraeg. Yn y traethawd hwn fe edrychir ar rai o nodweddion hynod y Gymraeg, a thrafod pump yn arbennig: cytseiniaid trwynol dilais, y treigladau, y drefn rifo draddodiadol, arddodiaid rhediadol, a ffurf gyfartal ansoddeiriau. Mae arwyddion bod defnydd pob un o’r rhain yn cilio yn iaith lafar heddiw, yn arbennig yn llafar pobl ifanc, er bod cyfradd a chyflymder y newid yn wahanol ymhob achos. Bron wedi diflannu o’r iaith mae’r drefn rifo draddodiadol, a hyn yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf; cyfyngir gradd gyfartal ansoddair i gyweiriau ffurfiol yr iaith; prin y clywir y cytseiniaid trwynol dilais mh, nh ac ngh yn llafar pobl ifanc erbyn hyn, er eu bod yn dal yn gyffredin yn iaith pobl hŷn; ac mae rhedeg arddodiaid a threiglo wedi mynd yn ddewisol yn hytrach na gorfodol yn iaith lafar heddiw.
Bydd pob iaith yn newid yn barhaol, ond mae’r nodweddion hyn yn rhannau sefydlog o ramadeg y Gymraeg ers mil o flynyddoedd a mwy. Pam y maent yn newid rŵan? Awgrymir isod mai nodweddion prin, sef nodweddion na cheir mewn ieithoedd eraill, yw’r cyntaf i newid dan amodau dwyieithedd fel a geir yng Nghymru heddiw. Bwrn meddyliol yw gorfod cyfnewid rhwng Saesneg a Chymraeg dro ar ôl tro bob dydd. Ffordd hawdd i leihau’r bwrn yw rhoi hwi i nodweddion Cymraeg na cheir eu tebyg yn Saesneg.
3. Ffynonellau
Seilir y rhan fwyaf o ddadl y traethawd hwn ar waith ysgolheigion eraill, yn arbennig llyfr Mari Jones (1998) ar Gymraeg Rhosllannerchrugog a Rhymni, ond hefyd erthygl Gareth Roberts (2000) ar ddefnydd rhifau yn y Gymraeg, ac arolwg a gyflawnwyd ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2006), ymysg eraill. Cymharodd Mari Jones lafar Cymry Cymraeg o oedrannau amrywiol yn Rhosllannerchrugog ac yn Rhymni. Edrychodd ar nifer fawr o nodweddion unigol yng Nghymraeg ei siaradwyr, gan gynnwys rhai’n ymwneud â threiglo a rhai’n ymwneud â rhedeg arddodiaid. Dangosodd fod Cymraeg pobl ifanc yn wahanol i iaith y cenedlaethau hŷn mewn nifer o ffyrdd perthnasol i’r traethawd hwn. Dyfynnir ei chanlyniadau’n helaeth isod. Yn yr adran ar rifau dibynnir ar waith Roberts yn olrhain hanes cyfundrefn rifo’r Gymraeg dros y ddwy ganrif ddiwethaf; ac wrth drafod achosion newidiadau yn yr iaith, manteisir ar arolwg o ddefnydd y Gymraeg a gyflawnwyd ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y flwyddyn 2004 er mwyn helaethu ar y wybodaeth a gafwyd o Gyfrifiad 2001.
Lle mae’n briodol, ategir y ddadl ag ystadegau mynychder defnydd o bum casgliad o destunau Cymraeg. Yn gyntaf defnyddir Pedair Cainc y Mabinogi (Williams, 1930), pedwar hanesyn o lawysgrif o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, cyfanswm o 24,313 gair, i gynrychioli Cymraeg y gorffennol pell. Cyfyngir ar ddefnydd y testun hwn gan na fydd ei orgraff yn nodi na threigladau na chytseiniaid trwynol dilais yn gyson. Yn ail, defnyddir cyfieithiad newydd y Beibl[1] (1988) i gynrychioli Cymraeg ffurfiol cywir y cyfnod diweddar. Gan fod rhai agweddau ar eirfa a phriod-ddull y Beibl yn adlewyrchu arbenigrwydd ei gynnwys a’r ffaith ei fod yn gyfieithiad, cyfyngir ei ddefnydd yma i batrymau’r seiniau a’r treigladau a welir ynddo. Fe gynnwys 839,905 gair. Yn olaf, defnyddir tri chasgliad o destunau diweddar i gynrychioli Cymraeg naturiol heddiw. Y tri yw (i) Cronfa Electroneg o Gymraeg (Ellis, 2001), sy’n cynnwys miliwn o eiriau o Gymraeg ysgrifenedig diweddar; (ii) Cronfa Bangor (Deuchar, 2004, 2006), 52,404 gair o Gymraeg llafar oedolion, hanner yn sgyrsiau anffurfiol preifat, a hanner yn sgyrsiau lled-ffurfiol o raglenni radio; (iii) Cronfa Cymraeg Plant (Bob Morris Jones, 2006), 133,841 gair o Gymraeg llafar plant seithmlwydd oed, y rhain yn sgyrsiau naturiol anffurfiol rhwng plant.
Cynnwys y casgliad olaf hwn lafar plant iau yn ogystal, ond defnyddir llafar y plant hynaf yn unig yma, gan gymryd bod gan blant feistrolaeth go lwyr ar seiniau a gramadeg y Gymraeg erbyn saith oed. Yr un yw dadl Mari Jones (1998: 47), sydd hefyd yn defnyddio iaith plant saith oed. Cefnogir y ddadl yn achos seiniau gan Ball, Müller a Munro (2005). Defnyddia Enlli Thomas (2007) a Thomas a Gathercole (2007) lafar plant iau eto wrth archwilio cyfraddau treiglo fel arwydd meistrolaeth o gyfundrefn cenedl y Gymraeg. Dadleua Thomas a Gathercole (2007) fod gan y plant feistrolaeth ddigonol ar y treigladau yn yr oed hwn.
Gwnaethpwyd y Gronfa Electroneg yn bwrpasol i gynrychioli Cymraeg ysgrifenedig diweddar, a gellir cymryd ei bod yn cynrychioli’r iaith safonol. Gwnaethpwyd y ddwy gronfa lafar at bwrpasau eraill ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli Cymraeg llafar heddiw yn deg; ond mae’r siaradwyr bron i gyd yn hanu o’r ardaloedd Cymraeg ac o deuluoedd cymharol addysgedig. Mae rhai o siaradwyr Cronfa Bangor yn gyflwynwyr radio proffesiynol. Disgwylir felly fod dylanwad Cymraeg traddodiadol yn gryfach na’r cyffredin arnynt, a Chymraeg eu sgyrsiau felly’n debycach o wrthbrofi byrdwn y traethawd hwn na’i gefnogi. Nid ymchwil i seiniau’r iaith oedd pwrpas gwreiddiol y ddwy gronfa lafar hyn; serch hynny, awgryma orgraff y ddwy (e.e. basai ‘buasai’, dou ‘dau’, deud ‘dweud’, gorod ‘gorfod’, nw ‘nhw’, timod ‘yr wyt ti’n gwybod’) yn gyson fod y trawsysgrifwyr wedi anelu at gofnodi seiniau llafar y siaradwyr, ac felly defnyddiaf y trawsysgrifiadau fel y maent.
Yn y drafodaeth isod, fe gymherir Cymraeg llafar a Chymraeg ysgrifenedig yn aml. Cymerir yn ganiataol fod yr iaith ysgrifenedig yn cynrychioli cyflwr gwreiddiol, digyfnewid y Gymraeg, a’r iaith lafar wedi newid yn ddiweddar. Wrth gwrs, nid yw hyn yn wir yn gyffredinol, ond yn achos y nodweddion a drafodir yma mae pob rheswm i feddwl fod iaith ysgrifenedig ffurfiol heddiw wedi eu gwarchod fel y buont ar hyd yr oesoedd. Mae pob un o’r nodweddion a drafodir yn hen iawn yn y Gymraeg; fe ddeellir eu hanes a’u datblygiad yn dda, ac nid oes rheswm i amau na fu pob un ohonynt yn rhan o’r iaith lafar fel yr iaith ysgrifenedig yn y gorffennol.
4. Seiniau’r Gymraeg
Mae nifer o seiniau’r Gymraeg yn anghyffredin o ystyried holl ieithoedd y byd, er nad oes yr un ohonynt yn unigryw. Soniwyd am ll uchod: mae’n sain anghyffredin yn ieithoedd y byd, ac wrth gwrs mae’n cynrychioli dieithrwch ac arwahanrwydd y Gymraeg i’r cenhedloedd o amgylch y Cymry, fel y tystia erthygl Saesneg Rees (2005) yn y Western Mail. Byrdwn Rees yw bod ysgolheigion o Goleg Bangor wedi darganfod bod ‘the double ll sound that makes Welsh special, yet so difficult for others to pronounce’ yn cael ei defnyddio yn yr iaith Tera (tua chan mil o siaradwyr) yn Nigeria. Ni ellir dychmygu’r fath stŵr am unrhyw sain Gymraeg arall. Serch hynny, nid yw ll yn brin eithafol yn ieithoedd y byd: fe’i ceir yn y Gymraeg, yn rhai o ieithoedd Indiaid arfordir gorllewinol Gogledd America, yn rhai o ieithoedd yr Affrig, ac yn nhafodieithoedd dwyrain Tibet a rhai ieithoedd cyffiniol — Llasa yw enw prifddinas Tibet.[2] Bydd rhai miliynau o bobl y byd yn cynanu ll yn eu hiaith feunyddiol.
Un sain yw ll mewn cyfundrefn fwy yn seiniau’r Gymraeg, sef y gwrthgyferbyniad rhwng cytseiniaid lleisiol a rhai dilais.[3] Cyffredin iawn yn ieithoedd y byd yw gwrthgyferbyniad rhwng cytseiniaid lleisiol a rhai dilais, ond mae rhychwant y gwrthgyferbyniad Cymraeg yn hynod o anghyffredin. Cynnwys y gwrthgyferbyniad y cytseiniaid canlynol:
|
ffrwydrol |
ffrithiol |
trwynol |
tawdd |
| dilais |
p t c |
ff th ch |
mh nh ngh |
ll rh |
| lleisiol |
b d g |
f dd |
m n ng |
l r |
Er bod gwrthgyferbyniad llais cytseiniaid ffrwydrol a ffrithiol yn gyffredin, ychydig iawn o ieithoedd sydd yn cyferbynnu cytseiniaid trwynol a thawdd lleisiol a dilais. Ceir cytseiniaid trwynol dilais mewn ambell iaith, e.e. Byrmaneg, Angami (gogleddddwyrain yr India) ac iaith Gwlad yr Iâ, a cheir amryw fath ar r ddilais mewn ambell iaith, e.e. Tsietsien, Nifch (ynys Sachalin), ac Edo (Nigeria). Serch hynny, anghyffredin iawn yw’r seiniau unigol hyn ar y cyfan, ac mae cyfres gyfan y Gymraeg yn hynod o anghyffredin.
Gellir dweud fod y cytseiniaid trwynol dilais yn ymylol yng nghyfundrefn seinegol y Gymraeg, oherwydd eu cysylltiad agos â’r gyfundrefn dreiglo. Prin mae cytsain drwynol ddilais yn digwydd ond fel ffurf dreigledig ar gytsain arall. Ceir cytseiniaid trwynol dilais yng nghanol gair fel treiglad trwynol ar ôl rhagddodiad, fel yn amharod, annheilwng, anghyson; fe’u ceir ar ddechrau gair fel treiglad trwynol ac, yn bennaf ar lafar, fel treiglad llaes fel yn ei mham hi, ei nhain hi. Ychydig iawn o eiriau, fel nhw, Nhad, Nghariad, y gellid dadlau bod ganddynt gytsain drwynol ddilais gysefin, ac mae hyd yn oed y rhain yn deillio o gymathiad neu dalfyriad.
Ymddengys fod patrwm defnydd cytseiniaid trwynol dilais yn newid yng Nghymraeg llafar heddiw. Yn ei hastudiaeth o Gymraeg Rhosllannerchrugog a Rhymni, edrychodd Mari Jones (1998) ar nifer o nodweddion unigol yn llafar ei siaradwyr, rhai ohonynt yn ymwneud â threiglo. Un nodwedd oedd treiglad trwynol ar ôl y geiriau fy ac yn. Yn Rhosllannerchrugog ac yn Rhymni, ni threiglai siaradwyr dan ugain oed yn drwynol ond tua hanner yr amser. Weithiau treiglent yn feddal, ond fel arfer ni threiglent o gwbl. Dyfynna Jones ddau arolwg cynharach sy’n cefnogi ei chanlyniadau. Nodwedd arall oedd treiglad llaes m ac n. Yr oedd siaradwyr dan ugain oed wedi colli’r treiglad hwn yn llwyr, er bod y siaradwyr hynaf yn treiglo’n gyson.
Y treigladau hyn yw prif gyd-destun y cytseiniaid trwynol dilais yn y Gymraeg. O golli’r treigladau hyn, crebachai baich gwrthgyferbyniol y cytseiniaid bron i ddim. Dywedir yn aml (dyfynnir Martinet, 1955, fel arfer) fod baich gwrthgyferbyniol bach yn arwain at golli cyferbyniad. Mewn geiriau eraill, honnir y bydd y cytseiniaid trwynol dilais yn diflannu o’r iaith os nad ydynt mwyach yn gwneud gwaith defnyddiol. Fel arfer, siaredir yn nhermau cyferbyniad, yn yr ystyr bod nhad a nad yn eiriau gwahanol am fod cyferbyniad rhwng y seiniau nh ac n. Yn ôl Labov (1994: 328-9), ysgogir colli cyferbyniad seinegol (e.e. nh/n) gan gyfuniad o achosion yn cynnwys diffyg parau lleiafaint (fel nhad/nad), dosbarthiad rhagweladwy, a diffyg hyglywedd. Serch hynny, mae’r ychydig iawn o ymchwil ymarferol a wnaed hyd yn hyn heb gefnogi model sy’n dibynnu ar gyferbyniadau seinegol yn unig (Surendran a Niyogi, 2006). Mae’n siŵr fod pethau’n gymhlethach, er enghraifft mae Blevins (2004: 204−9) wedi dangos fod effaith pwysig i’r gwaith gramadegol a wneith sain.
Ceir argraff bendant fod defnydd cytseiniaid trwynol dilais yn lleihau wrth edrych ar enghreifftiau o Gymraeg diweddar llafar ac ysgrifenedig. Yn ysgrifenedig (cyfieithiad newydd y Beibl, y Gronfa Electroneg o Gymraeg), ceir cytsain drwynol ddilais tuag unwaith bob 100 gair ar gyfartaledd. Gellir cymryd bod hyn yn cynrychioli mynychder y cytseiniaid mewn Cymraeg traddodiadol. Yn sgyrsiau llafar oedolion Cronfa Bangor, defnyddir y cytseiniaid hyn ychydig yn amlach, tuag unwaith bob 75 gair ar gyfartaledd. Yn sgyrsiau plant Cronfa Cymraeg Plant, maent yn brinnach o lawer, unwaith bob 2,514 gair.
Mae’r newid yn llafar y plant yn syfrdanol ond, o edrych yn fanylach, hyd yn oed yn llafar yr oedolion, cyfranna’r un gair nhw bedair o bob pump o’r cytseiniaid trwynol dilais. Ni ddigwydd nhw yn y Beibl, ac nid yw’n gyffredin yng Nghymraeg ysgrifenedig y Gronfa Electroneg. Cymerir lle nhw yn llafar y plant i raddau mawr gan nw, â chytsain leisiol. Nid anallu’r plant i gynhyrchu cytseiniaid trwynol dilais sy’n gyfrifol am hyn: o’r 85 o blant y cofnodir eu llafar yn y gronfa, defnyddia 31 gytsain drwynol ddilais o leiaf unwaith. Defnyddia pob un o’r 31 y gair nw hefyd. Dengys y tabl fynychder defnydd cytseiniaid trwynol dilais ar ffurf cyfradd bob deng mil gair:
Felly gwelir lleihad cyson yn nefnydd y cytseiniaid trwynol dilais, o Gymraeg traddodiadol i Gymraeg llafar oedolion, lle y’u cedwir fwyaf trwy un gair, i lafar plant, lle maent ar ddiflannu.
5. Treiglo cytseiniaid
Mae’r ieithoedd Celtaidd yn enwog am eu treigladau. Treiglir cytsain ddechreuol gair yn ôl cyd-destun gramadegol ymhob un o’r ieithoedd Celtaidd. Er bod manylion y treiglo’n amrywio o iaith i iaith yn seinegol ac yn ramadegol, cyflyrir treiglo gan sbardunau tebyg yn y pedair iaith: gan eiriau unigol, arddodiaid a geirynnau yn arbennig (treiglo cyswllt); gan y genedl fenywaidd; a chan gyd-destun cystrawennol (treiglo swyddogaethol).
Mae treigladau’ r ieithoedd Celtaidd yn bwysig i faes ieithyddiaeth fel tystiolaeth ynglŷn â’r ffordd y bydd ymennydd rhywun yn adnabod geiriau wrth iddo wrando ar iaith lafar. Pan wrandewir ar rywun yn siarad, deellir pob gair cyn gynted ag y’i lleferir. Yn wir, gellir dangos drwy arbrofion fod yr ymennydd wedi adnabod bron pob gair cyn clywed ei ddiwedd. Ymddengys felly mai seiniau dechreuol gair sydd bwysicaf i’r ymennydd adnabod y gair. Yn y geiriadur sydd ym mhen pob un ohonom, fel mewn geiriadur argraffedig, gellid meddwl, chwilir am air gan ddechrau â’i seiniau cyntaf. Ond ni all hynny fod yn llythrennol wir: gan fod sain ddechreuol gair Cymraeg yn amrywio yn ôl treiglad, rhaid mai rhywbeth amgen na threfn seml sy’n dechrau â sain gyntaf gair fel y’i clywir yw mynegai geiriadur yr ymennydd. Yn y ffordd hon mae bodolaeth treigladau’r Gymraeg yn cyfyngu ar ddamcaniaethu ynglŷn â’r ffordd y bydd yr ymennydd yn amgyffred iaith lafar.
Nid yw cyfnewid cytseiniol fel y cyfryw yn arbennig o brin yn ieithoedd y byd. Yn Hebraeg, er enghraifft, treiglir y chwe chytsain p/t/c/b/d/g yn ph/th/ch/f/dd/gh ar ôl llafariad. Cyflyru seinegol pur yw hyn: y cyd-destun seinegol sy’n penderfynu’r treiglad, yn wahanol i gyflyru gramadegol treigladau’r Gymraeg. Ceir cyfnewid cytseiniol â chyflyru seinegol yn nifer o ieithoedd y byd gan gynnwys, yn ogystal â’ r Hebraeg, Ffinneg a’r iaith Lwo, a siaredir yng Nghenia a Thansanïa. Cytsain o fewn gair a gyfnewidir yn Ffinneg a Lwo, a chytsain ar ddechrau sillaf yn Hebraeg. Prinnach yw cyfnewid gytseiniol sy’n effeithio ar gytsain ddechreuol gair yn unig, ond fe geir hyn er enghraifft yn Siapaneg: meddalir cytsain ddechreuol ail elfen gair cyfansawdd. Mae amodau meddalu’r Siapaneg braidd yn astrus: yn sylfaenol meddalir oni fydd cytsain leisiol ar ôl y gytsain sydd i’w threiglo. Gwelir y meddalu yn y cyfenwau adnabyddus Yamazaki, o yama ‘mynydd’ a saki ‘penrhyn’, a Honda, o hon ‘sail’ a ta ‘cae dyfredig’.
Gwelir trefn gymhleth o gyfnewid gytseiniol yn yr iaith Nifch, a siaredir ar ynys Sachalin a’r tir mawr cyfagos. Cynnwys y gyfnewid laesu a chaledu, ac effeithir ar gytsain ddechreuol gair ac ar rai cytseiniaid o fewn gair. Yn ei chymhlethdod ymddengys y gyfundrefn yn debyg i dreigladau’r ieithoedd Celtaidd, ond dangosodd Shiraishi yn ddiweddar mai seinegol yw’r cyflyru. Yn ôl Shiraishi (2004: 164), mae cytsain ddechreuol pob morffem heblaw’r gyntaf mewn ymadrodd cystrawennol yn agored i’w threiglo, a chyd-destun seinegol sy’n penderfynu pa dreiglad a geir, ai treiglad llaes ai treiglad caled ai dim treiglad. Felly math ar sandhi yw’r cyfnewid yn Nifch, sef newid seinegol otomatig a geir wrth gysylltu geiriau. Mae’n sylfaenol wahanol i’r treiglo cystrawennol a geir yn Gymraeg. Yn yr ieithoedd Atlantaidd, a siaredir yng ngorllewin yr Affrig, yn unig y ceir trefn cyfnewid cytseiniol i’w chymharu â’r ieithoedd Celtaidd. Yn rhai o’r ieithoedd Atlantaidd gogleddol, gan gynnwys ieithoedd niferus eu siaradwyr fel Pwlâr, Woloff a Serêr, ceir cyfnewid cytseiniol a gyflyrir gan gyd-destun morffemig. Yn yr iaith Pwlâr, er enghraifft, ceir cyfresi o dair cytsain sy’n cyfnewid (McLaughlin, 2006, t. 174):
|
1.
|
llaes
|
w
|
f
|
r
|
s
|
y
|
h
|
y
|
w
|
G
|
|
2.
|
ffrwydrol
|
b
|
p
|
d
|
c
|
j
|
k
|
g
|
g
|
g
|
|
3.
|
trwynol
|
mb
|
p
|
nd
|
c
|
nj
|
k
|
ng
|
ng
|
ng
|
Fel yn y Gymraeg, geilw cyd-destun arbennig am un aelod o’r gyfres: treiglad llaes, ffrwydrol, neu drwynol. Yn wahanol i’r Gymraeg, rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid yn unig a bair dreiglad yn yr ieithoedd Atlantaidd: treiglo cyswllt yn unig a geir. Dengys yr enghraifft isod (o Lyovin, 1997, t. 195) dri aelod y gyfres r/d/nd yn cael eu cyflyru gan dri ôlddodiad:
| rawaandu |
dawaadi |
ndawakon |
| ci |
cŵn |
cynos |
Yn yr iaith Serêr ni cheir ond dwy gytsain ymhob cyfres: dengys yr enghraifft isod (o Torrence, 2005, t. 5) gyflyru gan ragddodiaid:
| mexe retaa |
oxe retaa |
inwe ndetaa |
owe ndetaa |
| gadawaf |
gedy |
gadawn |
gadawant |
O gymharu’r gyfundrefn Atlantaidd â’r un Geltaidd fe welir eu bod ill dwy’n cael eu cyflyru gan sbardunau gramadegol a’u bod yn annibynnol ar gyd-destun seinegol, a bod ganddynt ill dwy nifer o wahanol dreigladau: cysefin/meddal/trwynol/llaes yn achos y Gymraeg, llaes/ffrwydrol/trwynol yn achos Pwlâr. Gwelir gwahaniaeth yn gyntaf ym math y cyflyru: treiglo cyswllt yn unig a geir ym Mhwlâr a’r ieithoedd Atlantaidd eraill, gan nad oes ond cyflyru morffolegol; cyflyrir treiglo swyddogaethol y Gymraeg gan gystrawen hefyd. Yn ail, amlwg a hollbresennol yng ngramadeg y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill yw treiglo.
Diddorol yw cyfrif amledd treiglo yn y Gymraeg. Yn y Beibl a’r Gronfa Electroneg, treiglir tuag un gair o bob chwech. Wrth gwrs ni threiglir na llafariaid na chytseiniaid di-dreigl, ac o gyfrif geiriau treigladwy’n unig, treiglir tua dau o bob pum gair. Gellir dweud yn wir fod treiglo’n hollbresennol yn y Gymraeg ysgrifenedig o leiaf.
Gwnaeth Ball (1993) astudiaeth o arferion treiglo oedolion Cwmtawe a Môn, yn eu Cymraeg llafar, yn yr 80au cynnar. Cafodd nad oedd gwahaniaeth yn nefnydd y treiglad meddal rhwng Cymraeg llafar naturiol yr ardaloedd hyn a Chymraeg safonol traddodiadol.[5] Prin iawn oedd treiglo llaes a thrwynol yn llafar siaradwyr ifanc y barnwyd mai’r Saesneg oedd eu hiaith bennaf, ond clywodd dreiglo llaes a thrwynol yn weddol gyson gan siaradwyr y barnwyd mai’r Gymraeg oedd eu hiaith bennaf, er bod y gyfradd yn dibynnu ar ffurfioldeb y sgwrs ac ar y sbardun unigol. Ymddangosai fod rhai geiriau unigol wedi peidio â pheri treiglad yn yr iaith lafar, er eu bod yn peri treiglad yn yr iaith safonol.[6]
Gellir tybio felly fod treiglo yng Nghymraeg llafar yr ardaloedd Cymraeg chwarter canrif yn ôl yn debyg ar y cyfan i dreiglo yng Nghymraeg safonol y Beibl a’r Gronfa Electroneg, heblaw fod rhywfaint o ddewis weithiau yn achos treiglad llaes a thrwynol.
Clywodd Mari Jones (1998) sefyllfa wahanol iawn ymysg pobl ifanc Rhosllannerchrugog a Rhymni. Cafodd fod treiglad llaes m ac n, fel yn ei mham hi, ei nhain hi, wedi diflannu’n llwyr yn llafar pobl ifanc, er bod y to hynaf yn treiglo’n ddieithriad. Ni rydd ddadansoddiad o ddefnydd y treiglad llaes yn gyffredinol, ond dywaid fod defnydd y treiglad trwynol wedi disgyn i’r hanner yn llafar pobl dan ugain oed. Byddai deuparth yr oedolion yn defnyddio’r treiglad meddal pan ddisgwylid hynny, ond prin iawn oedd treiglo’n feddal yn llafar pobl ifanc.[7] Yr un oedd y sefyllfa yn Rhosllannerchrugog ac yn Rhymni fel ei gilydd, heblaw bod pobl hŷn yn treiglo’n amlach yn Rhosllannerchrugog.
Lleiafrif yw’r Cymry Cymraeg yn Rhosllannerchrugog, a lleiafrif bach yn Rhymni, a maentumiodd Thomas a Gathercole (2005) fod y sefyllfa ym Môn a Gwynedd yn wahanol. Edrychasant ar gyfradd treiglo o achos cenedl fenywaidd yn llafar plant ac oedolion wrth iddynt ddweud stori. Yr oedd y gyfradd yn uwch nag a welodd Mari Jones ym mhob achos — ond heb fod yn agos at gant y cant. Bydd oedolion ardaloedd Cymreiciaf Cymru yn treiglo 86% o’r geiriau y disgwylid eu treiglo (ar gyfartaledd), a phlant 59 y cant (ar gyfartaledd).
Edrychodd Mari Jones a Thomas a Gathercole ar gysondeb treiglo mewn safleoedd gramadegol penodol. Ffordd arall i fesur newid yn y treigladau yw cyfrif mynychder treiglo yn gyffredinol, sef nifer y geiriau treigledig mewn testun. Nodwyd uchod fod tuag un gair o bob chwech yn cael ei dreiglo ar gyfartaledd mewn Cymraeg ysgrifenedig, a gellir cyfrif mynychder yn y ddwy gronfa lafar hefyd. Gwelir o’r tabl mai cymharol ychydig o wahaniaeth sydd yng nghyfraddau treiglo’r gwahanol gronfeydd:

Beth bynnag, o edrych yn fanylach ar dreiglo yn y cronfeydd llafar, gwelir nad canlyniad treiglad ystyrlon yw pob ffurf dreigledig. Treiglad sefydlog a geir mewn rhai geiriau. Arbennig o gyffredin yw ddim negyddol (’m yn aml yn y trawsysgrifiadau) a’r geiriau gofynnol beth, faint a le (fel yn le ma fe?). Mae golygyddion y Gronfa Electroneg hefyd yn trin y geiriau hyn fel ffurfiau cysefin, heb eu treiglo. Enghreifftiau llai cyffredin yw bïau, gilydd, a’r gyd yn i gyd. Treiglir geiriau eraill heb reswm amlwg ac yn groes i arferion Cymraeg traddodiadol, yn arbennig ffurfiau’r ferf gwneud a geiriau cyffredin yn dechrau â rh, e.e. mae raid ni fynd, ma’ rywun wedi marw, fasech chi wedi medru wneud rywbeth, fi sy’n neud y coginio, dan nhw ddim allu dod. Os torrir y treigladau hyn allan o’r cyfrif, a chyfrif treigladau cynhyrchiol yn unig, mae’r darlun yn wahanol iawn. Wrth gwrs gellid dadlau ynglŷn â rhai enghreifftiau a yw’r treiglad yn gynhyrchiol ai peidio, fel ei bod hi’ n anodd cyfri’r treigladau anghynhyrchiol i’r dim, ond o gyfrif tair hapsampl o gant o eiriau treigledig yr un o bob cronfa (chwe chan treiglad i gyd) ceid yn gyson fod tuag un o bob tri yn dreiglad anghynhyrchiol yn sgyrsiau’r oedolion, a dau o bob tri yn iaith y plant. Felly, o gyfrif treigladau cynhyrchiol yn unig (a chaniatáu fod cyfran fach o dreigladau anghynhyrchiol yn y Gronfa Electroneg hefyd), ymddengys fod cyfradd dreiglo sgyrsiau’r oedolion tua hanner y gyfradd draddodiadol, a chyfradd y plant tua chwarter y gyfradd draddodiadol.
Arbennig o ddiddorol yw sylwi fod nifer o’r geiriau amlaf eu defnydd sy’n dechrau â rh yn cael eu treiglo’n aml heb reswm gramadegol: (yn nhrefn mynychder) rhyw, rhywbeth, rhoi/rhoid, rhywun, rhaid, rhywle. O’r 273 enghraifft o rhyw, rhywbeth, rhywun, rhywle yn sgyrsiau oedolion Cronfa Bangor, dechreua 224 ag r yn hytrach na rh. Mae 118 o’r rhain mewn safle lle y disgwylid treiglad meddal (gan gynnwys 18 ar ôl yn traethiadol, lle na threiglir rh yn draddodiadol). Mae’r lleill, 106 ohonynt, wedi treiglo’n r heb reswm amlwg.[9] Felly, mewn sefyllfa lle na ddisgwylir treiglad, defnyddir r dros ddwywaith cyn amled â rh (106:49). Yr un yw’r patrwm yn llafar y plant. Hwyrach y dylasid cymharu hyn â lledaeniad nw ar draul nhw, a’i ystyried yn rhan o leihad yn nefnydd cytseiniaid tawdd dilais yn gyffredinol. Cefnogir y dadansoddiad hwn gan newid arall a welir yn helaeth: cynenir y geiriau rhein, rheina a rheini yn hein, heina a heini yn hanner enghreifftiau Cronfa’r Plant.
Mae Mari Jones (1998) a Thomas a Gathercole (2005) yn nodi fod oedolion a phlant fel ei gilydd yn hepgor treiglo yn aml. Mae cipolwg ar y cronfeydd sgyrsiau a ddefnyddir yma’n cefnogi eu canlyniadau. Gwelir enghreifftiau o hepgor pob math ar dreiglad: treiglad cyswllt, treiglad cenedl fenywaidd, a threiglad swyddogaethol. Yn llai aml, treiglir lle na ddisgwylid treiglad. Yn ddiamau mae treiglo wedi mynd yn beth dewisol yn hytrach na gorfodol yn Gymraeg llafar diweddar, ac y mae mynychder treigladau cynhyrchiol yn lleihau.
6. Y drefn rifo
Yn Gymraeg tan yn ddiweddar cyfrifid fesul ugain. Mewn unrhyw lyfr a gyhoeddwyd cyn hanner olaf yr ugeinfed ganrif, gwelir ymadroddion fel fferm fynyddig o ryw saith ugain cyfer (Bywgraffiadur Cymreig, 1953), deuddeg ac wyth ugain (Esra 2:3, hen gyfieithiad), agos naw ugain ei bwysau (Williams, 1857). Rhifyddeg bôn ugain yw hyn; trefn rifo ugeiniol oedd trefn draddodiadol y Gymraeg, fel yr ieithoedd Celtaidd eraill.
Ar ôl 200, defnyddir cant fel bôn ychwanegol, e.e. deucant a deg a deugain o siclau (Ecsodus 30:23). Defnyddir y bôn ychwanegol hwn weithiau rhwng 100 a 200 hefyd, er enghraifft deugain a chant yn hytrach na saith ugain yn ddeng niwrnod a deugain a chant (Genesis 7:24).
Graddau uwch deg yn hytrach nag ugain yw’r bonau uwch: deg i’r drydedd radd (10³ ) yw mil a deg i’r chweched radd (106) yw milfil a miliwn. Serch hynny, rhifir y 75 Ceir tafodieithoedd heb rh, h a’r cytseiniaid trwynol dilais yn y De-ddwyrain, ond mae pob un o’r siaradwyr sy’n defnyddio’r ffurfiau r hyn yn cynanu rh neu h mewn geiriau eraill. bonau uwch hyn yn ugeiniol, fel yn tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant ‘153,600’ (II Cronicl 2:17), neu wyth ugain mil o filltiroedd yr eiliad (rhan 81 o’r CEG). Geiriau benthyg wrth gwrs yw mil (o’r Lladin) a miliwn, biliwn (o’r Saesneg).
Nid geirfa a gramadeg yn unig sy’n ffurfio trefn rifo: mae ffordd o feddwl am feintiau ynghlwm wrth y drefn. Gwelir hyn yn eglur o ystyried mynegiant amcangyfrifon, fel yn y frawddeg, Erbyn amser y trên bydd rhyw saith i wyth ugain o bobl ifainc ar y platfform (Morgan, 1957: 13). Nid yw’n bosib cyfieithu’r frawddeg hon i Saesneg llafar naturiol oherwydd myn y Saesneg, a’i threfn rifo ddegol, fod amcangyfrifon yn cael eu mynegi fesul deg. Nid oes ffordd dwt i drosi saith i wyth ugain, neu 140–160, i lafar naturiol Saesneg.
Nid amcangyfrifon yn unig ond priod-ddulliau ac ymadroddion rhethregol a fynegir yn ugeiniol. Mae ailadrodd rhethregol y Fanaweg yn
| My |
ta |
shey, |
ny |
shey |
feed |
| P’un |
oes |
chwech |
neu |
chwech |
ugain |
(o Carrey y Pheccah), yn taro clust y Cymro, ond fe gollid yr effaith yn llwyr o’i gyfieithu i iaith ddegol fel y Saesneg.
Amlygir blaenoriaeth ugain ar ddeg yn y Gymraeg gan ymchwil Hammarström (2005). Cyfrifodd ef amlder defnydd rhifau gwahanol yn y British National Corpus, cronfa o gant o filiynau o eiriau o Saesneg diweddar llafar ac ysgrifenedig. Dangosodd fod mynychder yn lleihau’n gyson po fwyaf y rhif, heblaw bod gan luosrifau deg (10, 20, 30, 40, a’u tebyg) fynychder llawer uwch na’r disgwyl. Gan nodi fod ymchwil arall (yn arbennig Jansen a Pollmann, 2001) wedi dangos yr un peth yn rhai o ieithoedd Ewrop â chanddynt drefn rifo ddegol, aeth ymlaen i edrych ar nifer o ieithoedd degol o rannau eraill o’r byd, a chael yr un canlyniad eto. Y Gymraeg yn unig oedd yn wahanol: o gyfrif mynychder lluosrifau deg yn y Gronfa Electroneg, cafodd fod lluosrifau ugain yn amlwg yn fynychach eu defnydd na’r lleill.
Trafododd Sigurd (1972) swydd ‘rhifau crynion’. Bydd rhif crwn yn cael ei ddefnyddio’n amlach na’r rhifau cyfagos oherwydd bod ganddo swydd ychwanegol: gall fynegi amcangyfrif yn ogystal â swm union. Cynigiodd Sigurd fod ‘crynder’ rhif ynghlwm wrth fôn y drefn rifo, ond ni thrafododd ond trefn ddegol Swedeg a Saesneg yn ei erthygl. Dengys Jansen a Pollmann (2001) fod patrwm mynychder y rhifau o ddau i fil yn debyg mewn erthyglau newyddiaduron yn Isalmaeneg, Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg. Dangosant hefyd mai’r un rhifau a ddefnyddir i fynegi amcangyfrifon yn y pedair iaith, a dangos ei bod yn bosib rhoi cyfrif am fynychder rhif yn y pedair iaith fel ei gilydd yn nhermau ei faintioli a’i ddefnydd at amcangyfrif. Dangosant felly mai’r un peth yw crynder yn y pedair iaith, a chynnig diffiniad mathemategol o grynder a seilir ar y rhif deg. Awgryma gwaith Hammarström mai ugain, yn hytrach na deg, sydd yn gynsail i grynder yn y Gymraeg.
Nid yn y Gymraeg yn unig y ceir trefn rifo ugeiniol wrth gwrs, ond fel y dywaid Comrie (2005, t. 210), mewn byd degol yr ydym yn byw. Defnyddia mwyafrif mawr ieithoedd y byd drefn rifo ddegol, a’r drefn ddegol sydd drechaf ymron pob rhan o’r byd. Yr unig eithriadau yw’r gwledydd Celtaidd a Chanolbarth yr Amerig, lle mae trefn ugeiniol yn arferol yn yr ieithoedd brodorol. Hefyd ceir rhifo ugeiniol mewn ychydig o ieithoedd Gorllewin yr Affrig a Gini Newydd, a cheir ymadroddion ugeiniol unigol mewn trefn sy’n ddegol yn y bôn yn rhai o’r ieithoedd Romawns a Germanaidd — tybed a ydyw quatre-vingt y Ffrangeg i’w briodoli i ddylanwad hen ieithoedd Celtaidd cyfandir Ewrop?
Mae trefn rifo ugeiniol draddodiadol y Gymraeg felly yn beth prin, arbennig; ond mae ar ddarfod. Fel y dywaid Comrie, i’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg, i bob pwrpas, mae trefn rifo ddegol wedi cymryd lle’r drefn ugeiniol draddodiadol.[10] Dwy drefn ddegol a ddefnyddir yn Gymraeg erbyn hyn: y rhifau Saesneg a’r rhifau newydd Cymraeg a ddysgir yn yr ysgolion. Daeth sawl cenhedlaeth o Gymry Cymraeg yn gyfarwydd â gwneud rhifyddeg yn Saesneg oherwydd yr addysg uniaith Saesneg a oedd yn orfodol ar bawb o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chlywir rhifau Saesneg yn gyffredin ar lafar yn Gymraeg heddiw. Mae Roberts (2000) wedi olrhain hanes y rhifau degol Cymraeg newydd (un deg un, un deg dau ac ati). Ymddengys y drefn yn gyntaf ar glawr yng ngwerslyfr rhifyddeg John William Thomas (1832). Mae’n debyg iddi gael ei dyfeisio’n bwrpasol ychydig flynyddoedd ynghynt yn ateb i 76 ‘[T]he traditional vigesimal numeral system of Welsh ... has been replaced for most purposes for most speakers by an artificial transparent decimal system.’ (Comrie 2005, t. 229) deimlad bod y rhifau traddodiadol yn anghyfleus at gyhoeddi rhifau emynau yng ngwasanaethau’r eglwysi a’r capeli: teimlasid bod angen rhifau a gyfatebai’n well i’r rhifolion Arabaidd degol a argreffid yn y llyfrau emynau. Ychydig o ddylanwad a gafodd y drefn newydd yng Nghymru ar y pryd, ond cafodd ei mabwysiadu gan ysgolion y Wladfa y yr Ariannin yn nes ymlaen yn y ganrif er mwyn hwyluso dysgu rhifyddeg yn Gymraeg ar sail y rhifolion Arabaidd degol (R. O. Jones, 1997: 312). Gyda thwf addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru’r ugeinfed ganrif, mabwysiadwyd y drefn ddegol yn ysgolion Cymru hefyd, ac erbyn hyn mae wedi cymryd lle’r drefn draddodiadol nid yn unig yn yr ysgolion ond mewn llafar beunyddiol hefyd. Dywaid Roberts (2000) fod y drefn draddodiadol yn mynd yn brinnach brinnach, nas defnyddir erbyn hyn ond i ddweud oedran hyd at tua 30 oed, ac i ddweud yr amser, o leiaf pan ddarllenir o gloc â bysedd. Noda fod rheol gynt gan y BBC fod y drefn ugeiniol yn iawn hyd at 30, ond y dylid defnyddio’r drefn ddegol am rifau uwch; a bod yr hen reol hon yn dal yn ddylanwadol yn anffurfiol yng Nghymraeg y radio a’r teledu. Tuedd cyhoeddiadau ysgrifenedig yw osgoi’r broblem trwy ddefnyddio ffigurau: ‘dylid defnyddio ffigurau am rifau dros 10 a geiriau hyd at hynny’ yw rheol y cylchgrawn hwn (Gwerddon, 2006).
Yn gyffredinol, mae Cymry Cymraeg heddiw yn cael anhawster i ddeall rhifau ugeiniol traddodiadol uwchben tua 30. Bydd pobl hŷn yn eu defnyddio i ddweud yr amser neu oedran hyd at tua 30. Mae llawer o bobl ifanc na wyddant ond y rhifau degol.
Pam mae hyn yn bwysig? I ddefnyddwyr y Gymraeg, gorau po fwyaf effeithiol y drefn rifo. At gyfrif, at rifyddeg, at fathemateg, gwna unrhyw fôn y tro, boed wyth, deg, deuddeg, neu ugain – defnyddir y rhain i gyd, ac eraill, yng ngwahanol ieithoedd y byd. Yr oedd gan wareiddiad Maia Canolbarth yr Amerig fathemateg datblygedig wedi’i seilio’n llwyr ar drefn rifo ugeiniol, gyda nodiant ugeiniol i ysgrifennu’r rhifau. Mae trefn fôn ugain gystal ag unrhyw fôn arall at bwrpasau ymarferol, ond yng Nghymru heddiw mae rhwyddineb yn nhrefn ddegol y Saesneg a’r ffigurau Arabaidd degol yn ofynnol. Dan yr amodau hyn mae trefn draddodiadol y Gymraeg yn anghyfleus oherwydd bod gofyn i Gymro Cymraeg feistroli’r ddwy drefn a gallu trosi’n rhwydd rhyngddynt, rhywbeth sy’n gofyn cryn fedrusrwydd rhifiadol. Haws yw cydymffurfio â’r drefn Saesneg a rhyngwladol nad oes modd ei gwrthwynebu.
Rhestra Comrie (2005, §4) nifer o enghreifftiau o drefn rifo iaith yn cael ei disodli. Nid oes rhaid mai iaith lleiafrif ydyw: mae Siapaneg ac iaith Tai ill dwy wedi mynd i ddefnyddio rhifau’r Tsieineg. Mewn perygl arbennig y mae trefnau rhifo bôn heblaw deg: fe wyddys am golli llawer yn y gorffennol, ac y mae mwyafrif y rhai sydd yn weddill yn fregus. Dywaid Comrie ein bod eisoes mewn sefyllfa lle mae cymaint o drefnau rhifo wedi darfod, fel nad yw’r rhai hynny sy’n weddill ond yn gysgod gwan o’r hyn sy’n bosib.[11] ‘Yr hyn sydd yn bosib mewn iaith ddynol’ yw craidd maes ieithyddiaeth, a chyda darfodiant trefnau rhifo amrywiol daw’n anos anos ymchwilio i allu rhifiadol dynoliaeth. Yn achos y Gymraeg, caiff yr ieithydd syniad da am ramadeg y rhifau traddodiadol o ddogfennau sy’n goroesi o’r gorffennol. Mae’n debyg ei bod yn rhy hwyr i ymchwilio i’r agweddau seicolegol, effeithiau trefn rifo ugeiniol ar ddirnadaeth a llwybrau meddwl y rhai sy’n ei defnyddio. Mae’n annhebyg erbyn hyn bod neb ar ôl yng Nghymru sy’n meddwl yn naturiol yn y drefn ugeiniol.
7. Rhediadau arddodiaid
Yn y Gymraeg, fel yn yr ieithoedd Celtaidd eraill, ffurfdroir arddodiad i ddangos person a rhif. Ynghyd â’r arddodiad ar, er enghraifft, ceir y ffurfiau rhediedig arnaf, arnat, arno, arni, arnom, arnoch, arnynt. Mae terfyniadau’r ffurfiau’n debyg i derfyniadau rhediadau berfau, ac fel gyda berfau, gellir defnyddio ffurf rediedig fel y mae, neu gyda rhagenw ategol: arnaf neu arnaf i – cymharer clywaf a clywaf i.
Ceir geiriau cyfansawdd yn cyfuno arddodiad a rhagenw mewn nifer fach o ieithoedd y byd, er enghraifft Hebräeg ac iaith y Maori (Seland Newydd). Yn yr ieithoedd hyn beth bynnag, cyfuniadau amlwg o arddodiad a rhagenw a geir. Dichon mai yn yr ieithoedd Celtaidd yn unig y ceir rhediadau arddodiaid ar lun y rhai berfol.
Noda Mari Jones (1998, tt. 71 a 176) fod ffurfiau rhediedig arddodiaid yn mynd i golli’n gyflym yn llafar Cymry ifanc. Yn Rhymni defnyddiai siaradwyr dan eu trigain 77 ‘[W]e are probably already in a situation where so many numeral systems have died out that what remains is only a pale reflection of the “human potential” with respect to numeral systems.’ (Comrie 2005, t. 229) oed ffurf gysefin arddodiad gyda rhagenw dair gwaith o bob pedair pan ddisgwylid ffurf rediedig. Llai trawiadol oedd y newid yn Rhosllannerchrugog: byddai siaradwyr dan ddeugain oed yn ffurfdroi tua dwywaith allan o dair.
Gwelir agwedd arall ar y newid yng Nghronfa Bangor a Chronfa’r Plant. Yn y ddwy gronfa defnyddir ffurf oedd gynt yn ffurf rediedig fel ffurf gyffredin, mewn brawddegau fel
gan: Genna dad fi motobeic.
gan: Ga’ i dipyn bach o gwaith gynna hen go eniwê.
gan: Ti’m eisiau cymryd gynna uffern o neb.
wrth: Dw i mynd i ddeud ’tho mami.
wrth: Deud ’tha Charlie awn ni yna reit fuan
wrth: ... wedi gweud wrtho hi cadw’n dawel
am: Dw i clywed llawer amdano hwn.
am: A hwn amdano teulu sydd yn arfer fod yn super heroes
ar: Drycha arno hon.
Mae amdano, arno, wrtho, genna fel petaent wedi cymryd lle ffurf gysefin a ffurfiau rhediedig am, ar, wrth, gan.
Dengys ystadegau mynychder defnydd y pum arddodiad a ddefnyddir amlaf yng Nghronfa’r Plant (sef, am, ar, gan, o, wrth), fod patrwm gwahanol i bob un. Gydag o, er enghraifft, y ffurf gysefin sydd wedi trechu: ni ddefnyddir ffurfiau rhediedig gydag enw, a defnyddir y ffurf gysefin gyda rhagenw fel arfer (75%):
|
|
fi/i
|
ti
|
chdi
|
fo/fe/o/e
|
hi
|
ni
|
chi
|
nhw/nw
|
|
o
|
1
|
2
|
|
12
|
|
1
|
|
22
|
|
ohono/ono
|
|
|
|
6
|
|
|
|
|
|
onan
|
|
|
|
|
|
1
|
|
|
|
ohonyn/onyn
|
|
|
|
|
|
|
|
6
|
Patrwm gwahanol sydd i gan. Nid oes ond dwy enghraifft o’r ffurf gysefin gan, ond cyffredinolir y ffurf rediedig genna (gydag amrywiadau gynna/genno/gynno) i enw a phob rhagenw a’r ffurf rediedig gen i enw:
|
|
fi/i
|
ti
|
chdi
|
fo/fe/o/e
|
hi
|
ni
|
chi
|
nhw/nw
|
enw
|
|
gan
|
|
|
|
|
|
|
|
|
2
|
|
gen/gin/gyn
|
35
|
14
|
|
|
|
|
|
|
21
|
|
genna
|
28
|
|
16
|
|
|
2
|
1
|
2
|
7
|
|
gynna
|
6
|
|
2
|
|
|
|
|
|
1
|
|
genno
|
3
|
|
|
3
|
|
7
|
1
|
|
3
|
|
gynno
|
2
|
|
1
|
6
|
|
3
|
|
3
|
3
|
|
genni
|
|
|
|
|
3
|
|
|
|
3
|
|
gennyn
|
|
|
|
|
|
|
|
2
|
|
Gwelir olion y rhediadau traddodiadol ym mynychder uchel gen/gin gyda fi/i/ti ac yn y ddwy enghraifft o gennyn nw.
Gwelir mwy o ôl y rhediadau gyda’r arddodiaid eraill am, ar ac wrth. Yn achos wrth, mae tuedd i gyffredinoli’r ffurf wrtha/wrtho (a’r amrywiadau ’tha, ’tho, w’tha, w’tho):
|
|
fi/i
|
ti
|
chdi
|
fo/fe/o/e
|
hi
|
ni
|
chi
|
nhw/nw
|
enw
|
|
wrth
|
1
|
|
|
|
|
|
|
|
4
|
|
wrthat
|
|
4
|
|
|
|
|
|
|
|
|
wrtha
|
4
|
1
|
3
|
|
|
1
|
|
|
1
|
|
wrtho
|
1
|
1
|
|
2
|
|
|
1
|
|
2
|
|
wrthi
|
|
|
|
|
1
|
|
|
|
|
|
wrthan
|
|
|
|
|
|
1
|
|
|
|
Gydag am ac ar, cyffredinolir y ffurf gysefin weithiau, ond defnyddir y rhediadau’n gywir yn amlach o lawer:
Mae hefyd chwe enghraifft o arna/arno/arni gydag enw.
Gwelir patrwm tebyg yn iaith oedolion Cronfa Bangor. Gyda nifer tebyg o enghreifftiau perthnasol (tros dri chant ymhob cronfa), cedwir at y rhediadau ran fwyaf, ond gwelir yr un duedd i gyffredinoli ffurf rediedig gen/gynna (bron hanner yr enghreifftiau ag enw), a thuedd lai i gyffredinoli’r ffurf rediedig wrtha/wrtho (llai na chwarter yr enghreifftiau ag enw), a ffurf gysefin o (llai na chwarter yr enghreifftiau â rhagenw). Cedwir at rediadau am ac ar ag ond ychydig o eithriadau.
Anghyffredin yw defnydd ffurf rediedig arddodiad heb wrthrych ategol, fel yn Gad dy law arni! a Dw i ’rioed ’di chyfarfod hi, ’m ond ’di clywed sôn amdani. Mae tair enghraifft yng Nghronfa ’r Plant a naw yng Nghronfa Bangor, pob un yn y trydydd person.
Gwelir yma fwy o ddefnydd ar y rhediadau nag a welodd Mari Jones. Fel yn achos
|
|
fi/i
|
ti
|
chdi
|
fo/fe/o/e
|
hi
|
ni
|
chi
|
nhw/nw
|
|
am/ar
|
3
|
1
|
|
4
|
|
2
|
|
1
|
|
rhediad
|
9
|
8
|
1
|
25
|
|
3
|
|
2
|
ymchwil Thomas a Gathercole (2005, trafodir uchod) i dreiglo, mae’n debyg mai ardal sy’n cyfrif am y gwahaniaeth: mae siaradwyr y ddwy gronfa’n hanu o’r ardaloedd Cymraeg ac o deuluoedd addysgedig gan mwyaf; gellir tybied, felly, bod mwy o ddylanwad Cymraeg traddodiadol ar eu llafar.
Ar y cyfan, yng Nghymraeg llafar heddiw, ymddengys fod yr arfer o redeg arddodiaid wedi mynd yn fater o ddewis yn hytrach na rheol, a bod tuedd i gyffredinoli un ffurf yn achos rhai arddodiaid. Gan hynny mae gramadeg y Gymraeg wedi newid – nid oes un enghraifft o fethu rhedeg arddodiad yn na’r Pedair Cainc na’r Beibl na’r Gronfa Electroneg. Serch hynny, nid yw’r rhediadau yn agos at fynd i golli eto.
8. Gradd gyfartal ansoddair
Y mae gan bob iaith fodd i fynegi cymhariaeth (Cuzzolin a Lehmann, 2004, t.1212). Nodweddiadol o ieithoedd Ewrop yw’r gystrawen Gymraeg: Mae aur yn drymach na phlwm (cymharer Saesneg heavier than lead, Almaeneg schwerer als Blei). Yma dangosir y gymhariaeth trwy ffurfdroi’r ansoddair: trwm:trymach, heavy:heavier, schwer:schwerer. Yn Ffrangeg goleddfir yr ansoddair â’r gair plus yn hytrach na’i ffurfdroi: plus lourd que le plomb, a cheir yr un dull yn Gymraeg dan rai amodau: mwy dealladwy, mwy addurnol. Mae’r ddau ddull hyn, lle dengys yr ansoddair gymhariaeth, yn gyffredin yn ieithoedd Ewrop a’r cyffiniau, ond yn anghyffredin iawn mewn rhannau eraill o’r byd.[12] Bydd ansoddair Cymraeg hefyd yn ffurfdroi i ddangos cymhariaeth eithaf, e.e. aur sydd drymaf. Unwaith eto, mae hyn yn gyffredin yn Ewrop ond yn brin y tu allan i Ewrop.
Ffurfdroir ansoddair Cymraeg hefyd i ddangos cymhariaeth gyfartal: Mae’r llyfr hwn cyn drymed â phlwm. Er bod graddau cymharol ac eithaf ansoddair yn arferol yn ieithoedd Ewrop, mae gradd gyfartal yn brin iawn. Fe’i ceid yn Hen Wyddeleg, ond nid yn yr iaith ddiweddar. Fe’i ceir hefyd ar ffiniau dwyreiniol Ewrop yn yr Estoneg ac yn rhai o ieithoedd y Cawcasws, er enghraifft yr iaith Wybycheg,[13] y bu farw ei siaradwr olaf ym 1992, a’r iaith Megreleg. O weddill y byd, noda Haspelmath a Buchholz (1998) a Henkelmann (2006) ieithoedd Awstronesaidd fel Tagalog (a siaredir yn ynysoedd y Ffilipinos) a Maleieg (a siaredir yn Maleisia ac Indonesia), a hefyd iaith yr Esgimo (dyfynnant enghraifft o dafodiaith yr Ynys Las). Prin iawn yw ieithoedd y ffurfdroir eu hansoddeiriau i ddangos cymhariaeth gyfartal: rhydd Henkelmann (2006) enghreifftiau lawer o ddulliau arall o fynegi cymhariaeth gyfartal yn ieithoedd y byd.
Yr oedd y ffurfdroad cyfartal yn dra chynhyrchiol yng Nghymraeg y gorffennol, fel y dengys lliaws o briod-ddulliau sy’n ei ddefnyddio: dued â bol buwch, gwynned â’r eira, coched â machlud haul. Ym Mhedair Cainc y Mabinogi mae o leiaf 62 enghraifft mewn 24,313 gair (un bob 392 gair). Cymharer hyn â’r 684 enghraifft ym miliwn geiriau’r Gronfa Electroneg (un bob 1,595 gair), y ddwy enghraifft o’r gair lleied yn 52,404 gair sgyrsiau oedolion Cronfa Bangor (un bob 26,202 gair), a’r diffyg enghreifftiau yn 133,841 gair sgyrsiau plant Cronfa Cymraeg Plant.
Mae ffordd arall o fynegi cymhariaeth gyfartal yn y Gymraeg, sef y gystrawen gyda mor, fel yn mor ddu â bol buwch. Mae’n ddiddorol cymharu mynychder defnydd y gystrawen hon â ffurfdro’r radd gyfartal. Ym Mhedair Cainc y Mabinogi mae pedair enghraifft o’r gystrawen gyda mor, bob un ag ansoddair nad oes iddo ffurf radd gyfartal (llwyddiannus, anweddus, difflais, dielw). Mae 1,383 enghraifft yn y Gronfa Electroneg, 726 ohonynt ag ansoddeiriau y mae iddynt ffurf radd gyfartal. Yn sgyrsiau’r oedolion, mae 22 enghraifft, tri chwarter ohonynt ag ansoddeiriau y mae iddynt ffurf radd gyfartal, ac yn sgyrsiau’r plant mae pum enghraifft, pob un ag ansoddair y mae iddo ffurf radd gyfartal. Dengys y tabl y mynychderau hyn ar ffurf cyfradd bob deng mil gair: Testun Nifer i bob deng mil gair

Gwelir dwy duedd amlwg. Yn gyntaf, mae defnydd mor + ansoddair wedi cynyddu’n fawr ar draul ffurfdro’r radd gyfartal. Ffurfdroid ansoddair ffurfdroadwy yn ddieithriad yn y gorffennol; prin y defnyddir y ffurfdro ar lafar erbyn hyn. Yn ail, mae cymariaethau cyfartal fel y cyfryw’n brin yn y cronfeydd llafar.
O gyfrif cymhariaethau anghyfartal, ar y llaw arall, gwelir eto fod y mynychder yn llai ar lafar ond, yn wahanol i ffurfdro’r radd gyfartal, mae ffurfdro’r radd gymharol yn dal yn gynhyrchiol iawn. Dengys y tabl nesaf fynychder cymariaethau anghyfartal fel y cyfryw, ffurfiau fel mwy trwm, a rhai fel trymach.
Gall y ffigurau fod ychydig yn gamarweiniol oherwydd mynychder defnydd y ffurf radd gymharol ungair mwy, sydd yn fwy niferus na’r un ffurf gymharol arall yn llafar y plant.[14] Serch hynny mae tuedd amlwg. Ar y naill law mae patrwm mynychder cymhariaeth fel y cyfryw yn debyg yn y ddau dabl: ychydig yn fwy yn y Pedair Cainc nag yn y CEG, ac yn llai ar lafar, a chymhariaeth anghyfartal yn fynychach na chymhariaeth gyfartal ym mhob testun. Gwahanol iawn, ar y llaw arall, yw patrwm mynychder ffurfdroi. Yn wahanol i’r radd gyfartal, defnyddir ffurfdro’r radd gymharol yng Nghymraeg diweddar gymaint ag yn iaith y gorffennol, ac ar lafar gymaint ag yn yr iaith ysgrifenedig.
Ni ellir ond casglu o’r ystadegau hyn fod defnydd ffurfdro gradd gyfartal ansoddair ar drai yng Nghymraeg heddiw. Fe’i defnyddir yn llai yng Nghymraeg diweddar nag yn iaith y gorffennol, yn llai ar lafar nag mewn ysgrifen (sydd yn awgrymu cysylltiad â ffurfioldeb), ac yn llai yn llafar pobl ifanc nag yn llafar pobl hŷn.

9. Dwyieithedd yn peri newid
Yn ddiweddar gwelwyd cynnydd yng nghanran y Cymry Cymraeg ym mhoblogaeth Cymru am y tro cyntaf, a chynnydd yn nifer y Cymry Cymraeg am y tro cyntaf ers tros bedwar ugain mlynedd.
Yn ôl Cyfrifiad 2001 gall 582,368 o bobl Cymru siarad Cymraeg, sef 21% o’r boblogaeth, neu 25 y cant o’r rheini a anwyd yng Nghymru. Mae canran y plant yn uwch o dipyn na chanran yr oedolion, a hynny oherwydd y twf mewn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2004 cyflawnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg arolwg ieithyddol (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2006) er mwyn ymhelaethu ar yr wybodaeth sydd i’w chael o Gyfrifiad 2001. Mae rhai o’i ystadegau’n awgrymiadol.
Awgryma’r arolwg fod 73 y cant o’r plant sy’n medru Cymraeg wedi’i dysgu y tu allan i’w cartref, ac nad ystyriai ond 44 y cant ohonynt eu bod yn rhugl yn yr iaith. Mae llawer o siaradwyr ifanc cyfrifiad 2001 felly â’r Saesneg yn iaith frodorol iddynt, a heb fod yn rhugl yn y Gymraeg. Cafodd arolwg y Bwrdd fod 88 y cant o’r rheini sy’n rhugl eu Cymraeg yn defnyddio’r iaith bob dydd: gellir eu hystyried yn siaradwyr gweithredol. Hwyrach ei bod yn annisgwyl fod bron i 40 y cant o siaradwyr dan 16 oed nad ystyrient eu hunain yn rhugl, hwythau yn dweud eu bod yn defnyddio’r iaith bob dydd. Awgryma hyn yn gryf y gallai llawer o siaradwyr ifanc ail-iaith fynd ymlaen i fod yn siaradwyr rhugl gweithredol.
Er bod canran y rhai sy’n medru Cymraeg yn cynyddu yng Nghymru gyfan, mae’n dal i ddisgyn yn ardaloedd Cymraeg y gogledd a’r gorllewin. Un rheswm yw mewnfudiad pobl ddi-Gymraeg i’r ardaloedd hyn; dangosir mor niweidiol yw’r mewnfudiad hwn i’r iaith gan Phillips a Thomas (2001). Rheswm arall yw bod cynifer o Gymry Cymraeg yn gadael eu cynefin, llawer yn cael eu denu i Gaerdydd a’r cylch gan swyddi gyda’r cyfryngau a’r cyrff gwleidyddol a sefydlwyd yno yn y degawdau diwethaf. Hyd yn ddiweddar yr oedd yn bosib byw bywyd trwyadl Gymraeg mewn rhannau helaeth o Gymru. Erbyn hyn mae dwysedd Cymry Cymraeg wedi disgyn cymaint yn yr ardaloedd Cymraeg fel nad yw hi’n bosib mwyach fyw heb ddibynnu ar y Saesneg. Rhaid wrth y Saesneg i gyfathrebu â chymdogion, cydweithwyr, siopwyr ac eraill wrth gyflawni gorchwylion beunyddiol. Anodd yw mesur y fath beth yn fanwl, ond gellir awgrymu fod cyfanswm y geiriau Cymraeg a leferir bob dydd yn yr ardaloedd Cymraeg wedi lleihau’n aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf.
Er nad oes mesur uniongyrchol o ba faint o Gymraeg a siaredir, gellir archwilio’r tebygolrwydd y bydd sgwrs yn Gymraeg yn hytrach nag yn Saesneg. Dengys arolwg Bwrdd yr Iaith fod 60 y cant o sgyrsiau siaradwyr Cymraeg Cymru y tu allan i’w cartrefi, yn yr iaith Saesneg. Seilir y ffigur ar atebion i gwestiwn ynglŷn â’r 'sgwrs ddiweddaraf a gawsoch gyda rhywun nad yw’n perthyn i’ch teulu'. Gan ddod o gyfeiriad hollol wahanol, mae Hywel Jones (2007) yn trafod dulliau o amcangyfrif dwysedd siaradwyr Cymraeg trwy ddefnyddio ystadegau Cyfrifiadau 1991 a 2001. Ymysg mesurau eraill fe drafodir un (t. 25−26), 'y gellir ei ddehongli fel y tebygolrwydd y bydd siaradwr Cymraeg yn cwrdd â siaradwr arall'. Rhydd hyn amcan anuniongyrchol o ganran sgyrsiau damweiniol siaradwyr Cymraeg a allai fod yn Gymraeg. Dros Gymru gyfan, mae’r tebygolrwydd wedi disgyn o 44 y cant yn 1991 i 37 y cant yn 2001, a hynny er bod y ganran oedd yn medru Cymraeg wedi codi. 'Y ffaith bod y rhai sydd yn gallu siarad Cymraeg wedi’u gwasgaru’n fwy . . . sy’n gyfrifol am hynny,' medd Jones, hynny yw, y mae cyfran y Cymry Cymraeg wedi disgyn yn yr ardaloedd Cymraeg a chodi yn yr ardaloedd di-Gymraeg. Sylwer bod ffigur arolwg y Bwrdd a ffigurau Jones yn cytuno’n dda, sef oddeutu 40 y cant Cymraeg a 60 y cant Saesneg, er iddynt ddeillio o ffynonellau gwahanol iawn. Gellir casglu bod Cymry Cymraeg, ar gyfartaledd, yn siarad mwy o Saesneg na Chymraeg y tu allan i’w cartrefi, a chyfran y Saesneg yn cynyddu’n gyflym.
Gall defnyddio ail iaith effeithio ar iaith frodorol dyn: cydnabyddir hyn yn gyffredinol erbyn heddiw. Trafoda Cook (2003) rai o’r effeithiau a welir a’r dystiolaeth drostynt. Isod cyflwynaf ddwy astudiaeth i gynrychioli llawer o waith arall. Mae’r ddwy’n ymdrin â seineg: o ddadansoddi cynaniad gyda chymorth offer trydanol mae’n bosib cael canlyniadau pendant mewn ffigurau. Dengys astudiaethau eraill effaith gymharol mewn cystrawen a phriod-ddull, ond anos o lawer yw cael canlyniadau pendant diamau yn y meysydd hyn.
Dadansoddodd Major (1992) gynaniad y cytseiniaid ffrwydrol dilais (p, t, c) yn Saesneg pum siaradwr brodorol oedd yn byw ym Mrasil ers rhai blynyddoedd. Yr oedd pob un yn medru’r Bortiwgeeg (iaith swyddogol Brasil), a hefyd yn siarad llawer o Saesneg bob dydd. Mae amseriad lleisio[15] y ffrwydrolion dilais yn wahanol iawn yn Saesneg a Phortiwgeeg siaradwyr brodorol. Cafwyd bod amseriad lleisio tri o’r siaradwyr yn ymdebygu’n amlwg i’r Bortiwgeeg: siaradent Saesneg ag acen Bortiwgeeg. Tuedd gyson a welwyd wrth gymharu cytseiniaid y pum siaradwr â Saesneg brodorol arferol: mwyaf oedd y gwahaniaeth po ruglaf Portiwgeeg y siaradwr.
Gellid dadlau bod sefyllfa Cymry dwyieithog yng Nghymru yn wahanol, ond awgryma Bond a’i gyd-weithwyr (2006) fod yr un dylanwadau’n peri newid i iaith dros genedlaethau mewn sefyllfa debyg i un Cymru. Bu gwlad Latfia dan iau Rwsia am hanner canrif cyn adennill ei hannibyniaeth ym 1991. Yr oedd yn orfodol ar bawb ddysgu Rwsieg, ac yn ymarferol yr oedd rhaid wrth Rwsieg i fyw bywyd beunyddiol. Yr oedd y sefyllfa ieithyddol yn debyg i un Cymru heddiw. Dadansoddodd Bond a’i gyd-weithwyr gynaniad llafariaid y Latfieg gan Latfiaid o wahanol oedrannau, a chael fod effaith cyfundrefn llafariaid y Rwsieg yn amlwg ar eu hiaith. Cafwyd bod yr effaith yn gynyddol: mwyaf oedd yr effaith po ieuaf y Latfiad. Awgryma Bond a’i gyd-weithwyr fod iaith y rhieni’n newid rywfaint dan ddylanwad y Rwsieg, bod plant yn dysgu iaith newidiedig y rhieni, a bod iaith y plant wedyn yn newid o’r newydd dan ddylanwad y Rwsieg.
Cefnogir canlyniadau Bond a’i gyd-weithwyr gan sylwadau Latfiaid a ddihangodd i Awstralia ar ôl y goresgyniad Rwsiaidd, a’u plant a fagwyd yn ddwyieithog yn Latfieg a Saesneg. Wedi ymweld â’u mamwlad am y tro cyntaf ar ôl 1991, byddant yn sôn am argraff fod acen y Rwsieg ar Latfieg heddiw.[16]
Gyda’r Saesneg yn ymwthio fwyfwy i fywyd beunyddiol pob Cymro Cymraeg a chyda’r Saesneg yn iaith frodorol neu’n brif iaith i gyfran fawr o’r rhai sy’n medru Cymraeg, mae’n anorfod bod y Gymraeg yn newid i gyfeiriad y Saesneg. Mae teithi’r Gymraeg yn wahanol i rai’r Saesneg: nid seiniau a geirfa’n unig, ond hefyd y cysyniadau a gynrychiolir gan yr eirfa, trefn y geiriau, priod-ddulliau, yr hyn y gellir ei ragdybio wrth siarad yr iaith. Bwrn meddyliol yw gorfod cyfnewid rhwng dwy ffordd o feddwl dro ar ôl tro bob dydd. Fel y dywaid Nadkarni (1975 t. 681, dyfynnir gan Ross, 2007):
| Bilingualism is, after all, a psychological load – not so much because it requires knowing two language systems, but because, in a situation of intensive bilingualism, one is called upon to conduct communication through these two distinct systems all the time, using now one system and now the other. In such a situation, the tendency towards lessening the psychological load is quite natural; and this sets processes in motion whose result is a gradual convergence of systems in a speaker’s head. |
A’r Saesneg yn iaith â’i chanolfan y tu allan i Gymru, rhaid mai’r Gymraeg sy’n newid, sy’n cydymffurfio â theithi’r Saesneg.
Pa nodweddion sy’n debyg o newid? Ymddengys fod nodweddion prin yn debycach o newid na nodweddion cyffredin a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, yn rhinwedd eu prinder fel y cyfryw, mae nodweddion prin iaith benodol yn annhebyg o fodoli yn yr ieithoedd o’i hamgylch. O’r herwydd bydd dylanwad allanol bob amser yn erbyn y nodweddion prin. Gan fod nodweddion prin y Gymraeg yn absennol, yn rhinwedd eu prinder, o’r Saesneg fe ddôi dwyieithedd yn haws o gael eu gwared. Y canlyniad yw’r duedd iddynt ddiflannu dan bwysau dwyieithedd.
Yn ail, rhaid ystyried pam mae rhai nodweddion yn brin i ddechrau. Dibynna prinder neu gyffredinedd nodwedd yn ieithoedd y byd, ar y naill law, ar ba mor aml y bydd yn dod i fod wrth i iaith newid trwy’r oesoedd ac, ar y llaw arall, ar ba mor aml y bydd yn diflannu wrth i iaith newid (Blevins, 2004: 193). Nodweddion prin yw’r rheini sy’n annhebyg o ddod i fod, neu’n debyg o ddiflannu. Mae rhai nodweddion, y treigladau er enghraifft, yn ffrwyth damwain hanesyddol, cyfuniad annhebygol o newidiadau yn iaith y gorffennol. Gall y cyfryw nodweddion fod yn sefydlog, fel y bu’r treigladau yn y Gymraeg ers pymtheg canrif a mwy. Mae nodweddion eraill yn brin oherwydd eu bod yn hawdd eu colli: cytseiniaid trwynol dilais er enghraifft. Ychydig iawn o egni clybodol sydd i’r cytseiniaid hyn (Blevins, 2004: 30) ac maent felly’n anodd eu clywed. Mae tuedd iddynt ddiflannu neu ymgyfuno â’u cymheiriaid lleisiol. Yn groes i hyn, gall arwyddocâd arbennig i sain mewn cyfundrefn ramadegol rwystro newid i’r sain honno (Blevins, 2004: 205), ac y mae cytseiniaid trwynol dilais y Gymraeg yn rhan bwysig o drefn y treigladau ac felly o adeiladwaith gramadeg yr iaith. Hyn fydd wedi’u diogelu dros y canrifoedd. Gyda dirywiad y treigladau daw diwedd ar bwysigrwydd gramadegol y cytseiniaid hyn, ac felly ar y rhwystr i newid. Gyda dwyieithedd daw pwysedd i addasu i’r Saesneg. Felly’r newid.
10. Rhagolygon
Yn aml fe gymerir yn ganiataol fod dwyieithedd Cymru’n rhwym o arwain at unieithedd Saesneg. Nid yw hyn yn wir: mae dwyieithedd sefydlog yn ddigon cyffredin trwy’r byd. Un canlyniad posib i ddwyieithedd yw fod un o’r ieithoedd yn marw. Canlyniad posib arall yw bod un o’r ddwy iaith yn ymdebygu at y llall fel a ddisgrifiwyd uchod. Pen draw ymdebygu yw’r cyflwr a alwodd Malcolm Ross (2007 a chyhoeddiadau cynharach) yn Saesneg yn metatypy. O ganlyniad i ddwyieithedd bydd patrymau mynegiant a chystrawen un o’r ddwy iaith yn newid i gyfateb i’r iaith arall (Ross, 2007, t. 116). Mae’r iaith sy’n dynwared fel arfer yn arwydd hunaniaeth i’w siaradwyr, fel y mae’r Gymraeg, a’r iaith a ddynwaredir fel arfer yn iaith ehangach ei defnydd, fel y Saesneg. Bydd o leiaf rai o’r siaradwyr yn fwy cartrefol yn yr iaith ehangach ei defnydd. Dechreua’r dynwared ym maes ystyr: newidia priodddull ac arddull, a newidia ystyron geiriau i gyfateb i eirfa a chysyniadau’r iaith a ddynwaredir. Daw cyfieithu rhwng y ddwy iaith felly’n waith peirianaethol. Y cam nesaf yw ailwampio’r gramadeg, yn gyntaf ar lefel y cymal, wedyn ar lefel ymadrodd, yn olaf yn adeiladwaith gair. Daw cyfieithu rhwng y ddwy iaith yn fater o drosi gair am air fel yn yr enghreifftiau hyn o’r cronfeydd llafar:
| Dad |
a |
fi |
'di |
gweld |
un |
o |
heina. |
| Dad |
and |
me |
have |
seen |
one |
of |
those. |
|
|
|
|
|
|
|
|
| Dim |
pob |
un |
o |
nw'n |
aros |
lan. |
|
| Not |
every |
one |
of |
them's |
staying |
up. |
|
Wrth gwrs lleiafrif yw brawddegau fel y rhain yn y Gymraeg, ond fe ddangosant un ffordd y gallai’r iaith ddatblygu.
Mae’r traethawd hwn wedi dadlau fod rhai rhannau unigryw o ramadeg y Gymraeg wedi newid dan bwysau dwyieithedd. Un rhan o newid mwy ydyw: gan gymaint y newid mewn amser byr, mae iaith rhai o’r to ifanc yn wahanol iawn i iaith y to hynaf. Mae bron pob un o’r newidiadau wedi mynd â gramadeg y Gymraeg yn nes at un y Saesneg.
A oes ots os ymdebyga’r Gymraeg i’r Saesneg? Ers canrifoedd mae’r Gymraeg yn benthyg geiriau, priod-ddulliau a chystrawennau oddi wrth y Saesneg ac ieithoedd eraill: cyflymder a thrwyadledd newid heddiw sy’n newydd. Ar un olwg, cyhyd â bod y Gymraeg yn dal yn offeryn effeithiol at gyfathrebu, nid yw’r newidiadau’n bwysig iawn. Yn siŵr iawn, nid yw o bwys i’r Cymro cyffredin fod rhai o hynodion gramadegol y Gymraeg ar ddarfod. I’r ysgolhaig ym maes ieithyddiaeth ar y llaw arall, amrywiaeth sy’n rhoi blas ar ei waith a deunydd crai i’w ymchwil. Os yw colled iaith yn drychineb, mae colled rhan o iaith neu golled arwahanrwydd iaith yn aflwydd ond ychydig yn llai.
----------------------------------------------------------------------------------------------
1. Hoffwn ddiolch i’r Dr. Owen. E. Edwards ac i’r Gymdeithas Feiblaidd am adael imi ddefnyddio’r
cyfieithiad.
2. Cynenir[ إʰɛsa] yn nhafodiaith Llasa ei hun.
3. Cynenir cytseiniaid dilais y Gymraeg ag anadliad cryf, ac ychydig iawn o lais sydd i’r cytseiniaid lleisiol: gan hynny, gwell gan rai sôn am ffortis/lenis ynteu anadlog/dianadl; gweler P. W. Thomas (1996, t. 758[b] ), G. E. Jones (2000, t. 32). Cedwir at y termau traddodiadol lleisiol/dilais yma.
4. Peidiwyd â chynanu cymar lleisiol ch yn yr Oesoedd Canol. Fe’i ceid fel treiglad meddal g ac mewn geiriau fel tŷ, a ysgrifennid tig yn Hen Gymraeg i gynrychioli’r cynaniad tygh [tɨɣ], cymh. tigh Gwyddeleg a Gaeleg.
5. ‘The full study records no noticeable change in soft mutation triggering.’ (Ball 1993, t. 203).
6. ‘[F]or some of the rarer mutation triggers non-mutation is now the norm rather than simply a stylistic variant.’ (Ball 1993, t. 203).
7. ‘[W]hile still used in a historically appropriate way by two-thirds or more of adult informants, the soft mutation was far more unstable amongst the younger generation who, in most cases, omitted it altogether.’ (Jones 1998, t. 59).
8. Er mwyn cysondeb cymharu fe gyfrifir pob cronfa yn yr un modd, â meddalwedd dadansoddi
ffurfiant (Phillips, 2001, §2.3). Ychydig yn llai yw cyfradd y Gronfa Electroneg os cyfrifir treigladau yn y dadansoddiad a geir gyda hi oherwydd na ddadansoddir pob enghraifft o ddim, beth, a faint fel treiglad.
9. Ceir tafodieithoedd heb rh, h a’r cytseiniaid trwynol dilais yn y De-ddwyrain, ond mae pob un o’r siaradwyr sy’n defnyddio’r ffurfiau r hyn yn cynanu rh neu h mewn geiriau eraill.
10. ‘[T]he traditional vigesimal numeral system of Welsh ... has been replaced for most purposes for most speakers by an artificial transparent decimal system.’ (Comrie 2005, t. 229)
11. ‘[W]e are probably already in a situation where so many numeral systems have died out that what
remains is only a pale reflection of the “human potential” with respect to numeral systems.’ (Comrie 2005, t. 229)
12. Mewn ieithoedd eraill (Cuzzolin a Lehrmann, 2004), dangosir cymhariaeth trwy gyferbynnu dau
ansoddair: Mae plwm yn drwm a choed yn ysgafn; neu ag elfen (arddodiad, terfyniad) sy’n meddwl
‘o’i gymharu â’: Wrth goed, plwm sydd yn drwm; neu â berf sy’n meddwl ‘rhagori’: Rhagora plwm ar
goed o ran trymder.
13. Sillefir hefyd Ubykh, Ubıh, Oubykh, ac ati.
14. Cyfrifwyd priod-ddulliau fel cyfarch gwell iti a henffych well (yn y Pedair Cainc), a mwy neu lai, ond ni chyfrifwyd enghreifftiau lle defnyddiwyd gradd gymharol ansoddair fel arddodiad, er enghraifft, uwch ben y weilgi, is traed ei wely. Ni chyfrifwyd ychwaith enghreifftiau o mwy yn yr ystyr ‘chwaneg, rhagor’, ar lun more Saesneg. Yr oedd hyn yn arbennig o gyffredin yn llafar y plant.
15. Hyd y cyfnod heb lais rhwng gollwng awyr ar ddechrau’r gytsain, a lleisio ar gyfer y sain nesaf: voice onset time, VOT.
16. Clywais hyn gan Indra Bērziņš, Melbourne, Awstralia, wrth iddi sôn am ei phrofiadau ei hun a phrofiadau ei rhieni a’u cydnabod.