Rhifyn Archif

Ideoleg ac estheteg yn y mudiad drama

Ioan Williams

‘Ymhob cylch, mewn crefydd, mewn gwleidyddiaeth, mewn economeg, mewn athroniaeth, gellir dangos diffyg unrhyw feddwl Cymreig i’n harwain ar lwybr a fyddai’n naturiol i’n cenedl, ac felly’n lles iddi. A hyd yn oed mewn beirniadaeth lenyddol y mae rhagfarnau’r oes yn fwgwd ar ein llygaid fel na welom wahaniaeth rhwng pethau sy’n wir bob un ond yn eithaf gwahanol i’w gilydd.’

            J. Saunders Lewis, ‘Dafydd Nanmor’ (1925), R. Geraint Gruffydd (gol.), Meistri’r Canrifoedd (1973), t. 81.

­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­Fy amcan yn yr erthygl hon yw canolbwyntio sylw ar ddadl gyhoeddus rhwng dau o lenorion Cymraeg pwysicaf y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, Tom Parry a Kate Roberts, a gynhaliwyd ar dudalennau’r Genedl Gymreig rhwng Chwefror ac Ebrill 1931. Trôi y ddadl hon o gwmpas anghydfod ynglŷn â pholisi estheteg y cwmni drama amlycaf ei gyfraniad i ddatblygiad y mudiad drama yng ngogledd Cymru yn y blynyddoedd hynny – Cymdeithas Ddrama Gymraeg Coleg Prifysgol Bangor. Asgwrn y gynnen oedd y polisi o gyfieithu y dramâu a gynhyrchid gan y cwmni ym mis Mawrth bob blwyddyn, yn hytrach na dewis dramâu a gyfansoddwyd yn y Gymraeg.

 

Tyfodd Cymdeithas Ddrama Gymraeg myfyrwyr Bangor allan o weithgarwch anffurfiol y myfyrwyr ar ddechrau'r dauddegau, pan arferent gyflwyno drama Gymraeg yn Neuadd Powys yn ystod yr wythnos gyd-golegol. Ffurfiolwyd y gweithgarwch hwn yn 1923, gyda sefydlu'r Gymdeithas Ddrama, dan lywyddiaeth R. Williams Parry, a'i hamcan oedd, 'hyrwyddo mudiad y Ddrama yng Nghymru, a hynny trwy lwyfannu dramâu, a sicrhau actio ar radd uchel, heb ystyried na thraul na thrafferth'.[1] Dechreuodd rhaglen flynyddol y gymdeithas yn 1924 yn Chwaraedy'r Sir, gyda pherfformiad o Change J. O Francis, yn y fersiwn Cymraeg, dan y teitl Gwyntoedd Croesion, a pharhau'r flwyddyn ganlynol gyda drama Gymraeg, Y Ddraenen Wen gan R. G. Berry. Ond 1926 a welodd gyfraniad sylweddol cyntaf y gymdeithas i hanes y mudiad drama, gyda pherfformiad o gyfieithiad yr Athro Ifor Williams o Tŷ Dol  Ibsen, wedi ei chyfarwyddo gan J. J. Williams, Bethesda.

Yn ddiau, fe sefydlodd y cyflwyniad o Tŷ Dol ddrama flynyddol y Gymdeithas yn un o'r digwyddiadau pwysicaf ym myd y ddrama Gymraeg yng ngogledd Cymru. 'O!' meddai gohebydd Y Brython, 'y fath lwyddiant ydoedd!': 'Dyma arweiniad i Gymru; dilyned ôl ei Phrifysgol, ac y mae dyfodol y ddrama Gymraeg yn sicr ... Pe clywn fod y cwmni yna yn perfformio y ddrama eto - a hynny hanner can milltir o ffordd - awn yno.' [2]

Dichon bod llwyddiant ysgubol Tŷ Dol yn gyfrifol am symbylu uchelgais newydd ymhlith aelodau'r cwmni, i ddyrchafu'r Ddrama Gymraeg 'i uwch tir a lletach llwyfan'.[3] Yr hyn y byddid wedi disgwyl o ganlyniad i hynny oedd datblygiad ar y polisi o gyfieithu campweithiau dramayddol y byd ac yn eu plith, efallai, rai o blith y gorau o ddramâu Cymraeg. Cafwyd datganiad yn y rhaglen gogyfer â pherfformiad 1927 a oedd yn addo hynny:

Oherwydd prinder dramâu Cymraeg, ni phetrusodd y Gymdeithas  gyfieithu dramâu cenhedloedd eraill, cyfansoddiadau a ystyrir yn safonol gan feirniaid a chan y lliaws sydd â'u chwaeth yn ddigon disgybledig i fwynhau a gwerthfawrogi drama dda. Trwy geisio cadw safon yn yr actio ac yn y ddrama a berfformir, a thrwy ddangos i'r cyhoedd hufen cynhyrchion gwledydd eraill, hyderir medru graddol feithrin traddodiad drama yng Nghymru, a rydd inni, rywdro, ddramâu Cymraeg y bydd wiw gan genhedloedd eraill yn eu tro eu cyfieithu a'u hactio.

Ond ar hyd y blynyddoedd rhwng 1927 a 1939 ni chafwyd ond tri chynhyrchiad y gellid eu rhoi yn y categori hwnnw: perfformio cyfieithiad Tom Parry ac R. H. Hughes o Hedda Gabler Ibsen yn 1930; cyflwyno Ephraim Harris D. T. Davies am y tro cyntaf ers i gwmni Dan Matthews, Pontarddulais, sefydlu fersiwn llwyfan hynod lwyddiannus o'r ddrama honno; a llwyfannu drama gyntaf John Gwilym Jones, Y Brodyr, yn 1934. Bu sôn hefyd, tua 1935 am gynhyrchiad o Gwm Glo J. Kitchener Davies, y gwrthodwyd gwobr Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd iddi y flwyddyn cynt. Ond camodd awdurdodau'r coleg ymlaen yn wyneb y perygl hwnnw i wahardd gwrhydri'r Gymdeithas, a chafwyd y cyfieithiad Cymraeg o Cross Currents J. O. Francis (Gwyntoedd Croesion) yn ei lle.

Heblaw am y cyflwyniadau hyn, cyfieithiadau o'r Saesneg a gafwyd yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, ac eithrio yn 1928, pan welwyd tair drama fer Gymraeg - a'r rheiny'n ddramâu oedd yn gyfredol ar lwyfan theatr fasnachol Lloegr yn ystod y blynyddoedd hynny:

1928    Outward Bound gan Sutton Vane, wedi ei chyfieithu gan R. Williams Parry fel Gadael Tir

1929    Dear Departed, gan Stanley Houghton, wedi ei chyfieithu gan R. Ellis Jones fel Yr Ymadawedig, a Jane Clegg gan y dramodydd o Wyddel, St John Ervine, wedi ei chyfieithu gan R. Williams Parry

1931    Lonesome Like gan Stanley Brighouse, fel Unigrwydd, a Rutherford and Son gan Gita Sowerby, y ddwy wedi eu cyfieithu gan R. Ellis Jones

1932    Hobson's Choice gan Houghton, wedi ei chyfieithu gan H. Llywelyn Williams fel Gorfod

1935    Change gan J. O. Francis , wedi ei chyfieithu gan Magdalen Morgan fel Deufor-Gyfarfod

1936    The Coming of Simon Eval gan Hugh Beresford a C. St. Brelade Seale, wedi ei chyfieithu gan Jeremiah Jones fel Dyfodiad Seimon Belial

1937    Boyd's Shop gan St. John Ervine, wedi ei chyfieithu gan Oswald Rees Owen fel Siop Morgan

1938    Gold and Silver gan Betty Eynon Evans, wedi ei chyfieithu gan D. T. Llywelyn fel Arian ac Aur

1939    Ma's Bit of Brass gan Ronald Gow, wedi ei chyfieithu gan Oswald Rees Owen fel Arian Sychion.

Dyna, felly, gefndir y ddadl a dorrodd allan yn y flwyddyn 1931 rhwng Tom Parry a Kate Roberts. Y symbyliad y mae'n debyg oedd erthygl a gyhoeddwyd gan Tom Parry, is-lywydd y Gymdeithas. Cyhoeddwyd yr erthygl honno yn Y Genedl, 9 Chwefror 1931, yn un mewn cyfres o hysbysebion i'r ddrama flynyddol, ond dangosodd yr awdur o'r dechrau fod ganddo fwy yn ei feddwl na hysbyseb gyffredin. Dechreuodd drwy ganmol y myfyrwyr am eu cariad tuag at gelfyddyd drama pob gwlad, 'a llwyddiant drama Cymru yn arbennig' ac am eu haberth 'er mwyn diddanwch y cynulliad a fo'n gwrando arnynt, ac er mwyn coethi chwaeth a meithrin barn caredigion y ddrama yng Nghymru oll'. Onid dyna reswm, gofynnodd, am iddynt gael eu cefnogi? Ond yn lle hynny, caent eu beirniadu am danseilio'r union achos yr oeddynt yn ei arddel gan sawl 'cyfaill beirniadol' hunangyfiawn:

Beirniedir hwy'n aml am fynd dros Glawdd Offa, ac yn wir dros Fôr y Gogledd, i geisio dramâu. 'Nid ydynt hwy', ebe'r cyfaill beirniadol, gyda dicter cyfiawn (o'i safbwynt ef ei hun), 'yn cefnogi dim ar ddramodwyr Cymreig. Pa ddisgwyl cael drama fawr yng Nghymru, a'r cwmnïau'n anwybyddu pob ymgais creadigol gan ein dynion ni ein hunain? Choelia i byth nad oes rhyw ddrama Gymraeg y gellir ei hactio ym Mangor yna. Beth am A a B ac C? Rhyw agwedd academaidd, ffroenuchel a thrahaus yw peth fel hyn.'

Pwy bynnag oedd y cyfaill beirniadol hwnnw - rhywun fel J. Tywi Jones sy'n dod i'r meddwl! - ymddengys ei fod wedi llwyddo i fynd dan groen academaidd y darlithydd ifanc. 'Cymer dy wynt, frawd', medd TP, gan fynd ymlaen i gynnig i'r beirniaid asesiad o sefyllfa'r ddrama yng Nghymru o'i chymharu â gwledydd eraill gydag awgrym o goegni academaidd:

Nid oes neb gweddol glir ei lygad na wêl fod bron pob gwlad yn Ewrop yn curo Cymru am ddrama. Bwrier y bai ar y Methodistiaid, Senedd Lloegr neu'r tywydd, nid oes wadu'r ffaith. Rhaid i ni heddiw geisio gosod sylfeini traddodiad newydd, ac yn rhywle o gwmpas y sylfeini yr ydym hyd yma, heb osod ond ychydig o gerrig y muriau ar ei gilydd. Meddylier am saer maen wedi myned am drip gyda'r Ysgol Sul, a gweled cipolwg wrth basio yn y siarri ar dŷ hardd iawn. Cymerodd ato, a chan fod arno eisiau tŷ newydd ei hunan, penderfynodd ei adeiladu ar ddelw hwnnw a welodd ar y daith. Fel saer doeth, y mae'n dechrau trwy chwilio am y plan, ac yn myfyrio arno.

Cawsom ninnau yng Nghymru gipolwg ar adeilad gwych y ddrama, a phenderfynu codi adeilad cyffelyb ar ein tir ninnau, a rhaid i ni gael y plan.

A dyma'r cyfiawnhad, meddai Parry, am benderfyniad y Gymdeithas Ddrama i gyfieithu a pherfformio dramâu gwledydd eraill:

Fel rhan o astudiaeth y plan y bwriedir y dramâu estron a berfformir gan Chwaraewyr y Coleg, ac nid fel pethau i fodloni arnynt a byw ynddynt. Nid oes neb yn edmygu fwy ar ddramodwyr Cymru na myfyrwyr Coleg Bangor, ac yn wir byddant yn barod i gyfaddef bod y gwŷr hynny wedi mynd cam ymhellach na hwy eu hunain, ac wedi dechrau cloddio'r sylfeini, tra daliant hwy i astudio'r plan. Ond eu dadl hwy ydyw bod raid para i astudio, a rhwng pawb fe osodir maen ar faen yn yr adeilad cyflawn a welwn oll â llygad y dychymyg.

Ymhen wythnos i ddyddiad yr erthygl hon, dyna lythyr gan Kate Roberts yn ymddangos yng ngholofnau'r Genedl sy'n dangos ei bod hi, er yn raddedig o'r un coleg ac o'r un adran â Tom Parry, yn rhannu rhagfarnau ei gyfaill beirniadol:

Syr - Ni fedraf weld bod grym o gwbl yn nadl T. P. dros gyfieithu dramâu o ieithoedd eraill i Gymraeg o hyd ac o hyd. Nid oes dim o'i le mewn cyfieithu unrhyw waith llenyddol o iaith arall er mwyn ei wneuthur yn batrwm, ond mae dal ymlaen i gyfieithu ac i roddi gwaith cyfieithiedig o flaen cynulleidfaoedd y naill flwyddyn ar ôl y llall, yn niweidiol iawn. Yn un peth, y mae'n niweidiol i'r gynulleidfa; nid yr un peth yw bywyd cenhedloedd eraill â'n bywyd ni; ac o weld bywyd cenhedloedd eraill o hyd ac o hyd, yn union fel y gwelir bywyd cenhedloedd eraill yn y darluniau byw, daw'r Cymry i feddwl nad oes dim bywyd ond un fel yna.

Un o ddylanwadau gwaethaf ar fywyd Cymry Cymreig heddiw yw dylanwad y darluniau byw. Ac er mai yn Gymraeg y clyw'r dyrfa y dramâu estron hyn gan goleg Bangor, eto estron yw'r bywyd a'r awyrgylch ynddynt, ac wrth eu cael o hyd ac o hyd, fe â'r gwrandawyr i deimlo mai dyna yw bywyd Cymru hefyd.

 

Peth arall, nid yw'n hollol ddrwg i bobl sydd â'u huchelgais at ysgrifennu drama weled un sydd heb fod i fyny i'r clasuron weithiau. Weithiau mae gweled peth symol yn symbyliad i beth gwell, yn enwedig i rywun weled cynifer o glasuron ag a welwyd ym Mangor hyd yn hyn.

Ond y peth yr oedd arnaf eisiau ei ddywedyd wrth T. P. oedd hyn. Mae gennym ni yng Nghymru rai dramâu a ddaw i fyny â'r mwyafrif o'r dramâu a gyfieithwyd yn ddiweddar ym Mangor. Imi enwi dim ond dwy: Ephraim Harris a Gwaed yr Uchelwyr. Paham nad actia Bangor y ddwy hyn? [5]

Ni chynigiodd Tom Parry ateb i'r llythyr hwn tan Fawrth  yr ail ac erbyn hynny roedd dau gyfaill arall wedi dod ymlaen i gynnal breichiau Kate Roberts. Yn rhifyn Y Genedl gogyfer â Chwefror 23 ymddangosodd llythyr oddi wrth W. Gilbert Williams (1874-1966), hanesydd lleol a dramodydd ei hun. 'Purion peth,' meddai Williams, oedd cyflwyno drama Ibsen, 'ond ffolineb ydyw i eraill gochi'r llwybr a gerddodd ef.' Ym marn y sylwebydd hwn roedd etifeddiaeth diwylliant y Cymru yn rhagorach o lawer nag eiddo cenhedloedd eraill, tra bod dramâu tramor 'mor angheltaidd ac anghymreig yn eu natur fel na all cynulleidfa gyffredin o Gymry eu deall na'u mawrhau.' Lleisiodd, hefyd, efallai am y tro cyntaf, gŵyn yr athro ysgol sy'n ymdrechu i gynnal yr iaith yn erbyn darlithwyr y colegau prifysgol sy'n ei thanseilio: '[O]feredd yw i ysgolion Cymru geisio meithrin hunan-barch yn y plant pan yw'r colegau'n gweithio i'r gwrthwyneb.'

Yn syth ar ôl llythyr Gilbert Williams, yn yr un golofn a than yr un pennawd, 'Drama Coleg Bangor', ymddangosodd cyfraniad gan Elinor Hannah Thomas, a oedd wedi sefydlu ei hun fel dramodydd gyda Y Crwydryn (1922), dan y ffugenw Awena Rhun. Croesawodd hi 'dipyn o synnwyr o'r diwedd' ar yr pwnc, a hynny oddi wrth 'un o blant y colegau ... ac nid oddi wrth neb llai'. Teimlai hi fod yr union arweinwyr deallusol yr oedd eu hysgrifeniadau a'u hareithiau'n bwydo balchder cenedlaethol yn euog o fychanu popeth Cymreig, gan godi modelau estron yn ei erbyn: 'Os bydd eisiau patrwm at rywbeth neu'i gilydd rhaid cael enaid rhyw genedl arall o hyd i edrych i fyny ato.' Arweiniai ei phrif ddadl hithau'n uniongyrchol o'r pwyntiau a wnaethpwyd gan Kate Roberts. Ym myd y ddrama, oni ddylid gadael i Gymru weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun? 'Pam na adewir iddi hi chwarae teg i ymddatblygu a pherffeithio yn ei chwrs naturiol ei hun? ... Onid gwell a fyddai i Gymru ... [d]orri tir newydd a rhoddi i genhedloedd eraill rywbeth i synnu ato.'

I Thomas Parry ei hun, pan ddychwelodd at y ddadl ar Fawrth 2, 'colofnau'r geidwadaeth' a fynnai 'gyfyngu popeth i ffiniau Cymru, a gwahardd datblygiad' oedd y tri chyfaill a oedd wedi ymosod ar bolisi cyfieithu'r myfyrwyr. Cyn cynnig atebion i'w dadleuon, gosododd allan rywfaint o'i ysgolheictod diamheuol ei hun er mwyn sicrhau cyd-destun priodol. Onid oedd Gruffydd Gryg wedi ymosod ar Dafydd ap Gwilym am dorri ar y traddodiad Cymreig? Onid o Loegr y daeth llawer o'r pethau gorau yn llenyddiaeth Cymru - patrymau canu rhydd Dic Hughes; syniadau Tri Aderyn Morgan Llwyd; 'Gweledigaethau' Ellis Wynne; ysbryd cywyddau Goronwy Owen; ysbrydoliaeth canu ysgafn Ceiriog a Thalhaiarn. Onid o gyfieithu cathlau Heine ac Omar Khayaam y daeth coethder ein llenyddiaeth ddiweddar. Ac yn olaf , ym myd iaith, 'Tybio bod yr iaith Gymraeg yn hunan-ddigonol a wnaeth William Owen Pughe; astudio Ieitheg Gymharol a wnaeth John Rhys.'

A chyda'r cyd-destun ideolegol wedi ei sefydlu - creadigrwydd artistig yn erbyn ceidwadaeth gul - â T.P. i'r afael â phrif ddadleuon y gwrthwynebwyr. Kate Roberts yn gyntaf, gyda'r ddadl bod cyflwyno darluniau o fywyd estron yn niweidiol i'r Cymry cyffredin:

[B]eth a ddangosir mewn drama dda? Yn sicr, nid nodweddion gwahaniaethol ac arwynebion cenedl arbennig. Y mae drama fawr yn ymwneud â dyfnion bethau'r meddwl dynol, â'r gwrthdarawiad rhwng dynion o wahanol natur, ac yn sicr y mae hynny'n gyffredin i bob gwlad. Peth ail-raddol yw awyrgylch mewn drama. Estron i Lundain, bid siŵr, yw awyrgylch Julius Caesar, Hamlet a Saint Joan, ond y mae celfyddyd ac egwyddorion y dramâu hyn yn gartrefol ymhobman. Ac y mae Nora Helmer, Jane Clegg a Hedda Gabler yn Gymry yn haenau dyfnaf eu cymeriadau.

Prin y gellid cymryd ail ddadl y nofelwraig o ddifrif, meddai T.P., sef bod gweld pethau symol yn symbyliad i bethau gwell, oherwydd petai hynny'n wir byddai drama Gymraeg wedi codi i'r entrychion erbyn hynny. Ond rhydd fwy o sylw i'r pwynt na ddylid cyflwyno cyfieithiadau tra bod dramâu Cymraeg ar gael. 'Pa les,' gofynna, 'a ddaw o actio'r un ddrama dro ar ôl tro?' Ac wedyn, dau bwynt pwysicach, cyn terfynu gyda phigiad bach ad hominem i awdur Rhigolau Bywyd (1931): 1. Ceir mewn dramâu estron enghreifftiau o holl gywreinrwydd y llwyfan, nas ceir mewn dramâu Cymraeg oherwydd diffyg chwaraedy o safon 2. Mae gan genhedloedd eraill Ewrop ddramâu sy'n well na dim byd a gynhyrchwyd yn y Gymraeg - ac mae myfyrwyr Bangor yn perfformio'r campweithiau hynny, 'am yr un rheswm yn union ag y mae pencampwyr y stori fer yn darllen Maupassant a Tchecov, yn lle o eu cyfyngu eu hunain i'r Mabinogion'.

O ran y cyhuddiad bod ysgolheigion y colegau'n tanseilio hunan-barch y Cymry, etyb T. P. nad ymffrost ddall yw hunan-barch: 'Nid dim diffyg hunan-barch a bair i Gymro gyfaddef bod Keats yn fwy nag Islwyn, neu nad oes safon uchel i'r ddrama yng Nghymru.' Ac os cyhuddir beirniaid o ddiffyg ffydd yn enaid y genedl am wneud y gymhariaeth honno, gofynna: 'Ai dynion di-ffydd sy'n bwrw blynyddoedd mewn llafur blin i ymchwilio i hanes y wlad, ei hiaith a'i llên?' Nid yw cyfaddef gwendid cymharol y ddrama yng Nghymru yn gyfystyr â chyhuddo'r Cymry o ddiffyg cynhenid, ond yn hytrach yn fater o dderbyn canlyniad diffyg cyfleusterau. Ac yn yr amgylchiadau hyn, myn T.P. na all fod cwestiwn o gymryd patrwm bywyd cenhedloedd eraill wrth gyflwyno dramâu mawrion y byd. 'Pam y perfformir y Messeia yn hytrach na Mor Tiberias gan gorau Cymreig?' Ei apêl sylfaenol ef, felly, body n rhaidf i'r Cymry arddel safonau diamodol yr estheteg ddyneiddiol os ydyn nhw am honni bod iddynt lle ymhlith cenhedloedd gwareiddiedig y byd.

Mae ateb Kate Roberts i'r erthygl hon yn nodweddiadol finiog a diffwdan. 'Synnaf yn fawr', meddai ar y dechrau, i weld Tom Parry yn cymharu addasiadau creadigol â chyfieithu llythrennol:

A oes rhywbeth Cymreiciach na Gweledigaethau'r Bardd Cwsg yn holl lenyddiaeth Cymru? Bywyd Cymru a ddisgrifir gan Elis Wyn, ac nid bywyd Sbaen. Beth sydd yn y dramâu a wneir gan gwmni Bangor? Bywyd y gwledydd y benthyciwyd hwy ganddynt heb newid dim arno. [6]

Cytuna hi mai dyfnion bethau meddwl dynol a geir mewn drama fawr, ond ni chytuna ei fod yn dilyn o hynny mai peth cymharol ddibwys yw awyrgylch drama, a hynny oherwydd fe wêl gysylltiad hanfodol rhwng y naill a'r llall:

Af cyn belled â dywedyd bod awyrgylch yn gyfrifol am y ffurf a gymer 'dyfnion bethau'r meddwl'. Er enghraifft, nid damwain ydyw bod bywyd Cymru'n Biwritanaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac nid damwain ydyw mai bywyd gwerinol yw'r bywyd Cymreig heddiw. Mae achosion i'r pethau hyn. Bywyd Piwritanaidd Cymru a roes fod i Change J. O. Francis. Yn nhrefn naturiol pethau yr oedd yn rhaid i'r gwrthdaro yna ddyfod, oblegid hanes crefydd yng Nghymru. Buasai Change yn amhosibl yn Ffrainc.

Oherwydd mai gwerinol yw bywyd Cymru, medd Kate Roberts, amherthnasol yw cyflwyno dramâu iddynt sy'n troi o gwmpas ysgariad gŵr a gwraig. Fe ddylai bywyd '[r]oi ffurf i'w llenyddiaeth', fel mae bywyd Lloegr wedi rhoi ffurf i'r darlun hwnnw o fywyd a geir yn nramâu cyfredol theatr Lloegr: 'Er mai o wledydd eraill y cafwyd deunydd y dramâu hyn, Seisnig yw eu dull o feddwl ac fel Saeson y sieryd y cymeriadau.'

Mater o gyfartaledd yw'r ddadl yn y bôn, meddai Kate Roberts. Nid yw hi'n gwrthwynebu cyfieithu a chyflwyno dramâu tramor o gwbl, ond gwrthwyneba eu cyfieithu a'u cyflwyno yn lle pethau sy'n adlewyrchu realiti Cymru: [G]allaf ddychmygu amdanom ni yng Nghymru yn cael cyn lleied o fywyd Cymreig a chymaint o fywyd estron nes myned ohonom i feddwl nad oes dim ond y bywyd estron i'w gael.' Gan fod dramâu fel Ephraim Harris, Gwaed yr Uchelwyr, Pobl yr Ymylon ac Yr Anfarwol Ifan Harris ar gael, pam peidio â'u cyflwyno ar lwyfan Bangor? A phe bai angen cyfieithu, pam lai dramâu Molière, yn hytrach na'r rhestr ddiddiwedd o weithiau sydd wedi ymddangos yn theatrau'r West End, pan yw'r gyfundrefn addysg yng Nghymru ei hun yn sicrhau bob pobl Cymru'n medru eu darllen yn yr iaith wreiddiol?

Bu rhywfaint mwy o drafodaeth ar yr achos hwn yn y wasg Gymraeg a Saesneg ar ôl ymddangosiad yr ail lythyr hwn. Cafwyd cyfraniad arall gan Awena Rhun yr wythnos wedyn, a llythyr gan y cynhyrchydd, J. J. Williams, yn amddiffyn y Gymdeithas am eu hymdrechion i 'ennyn diddordeb eang yn nrama Ewrop' ac yn tynnu sylw at y ffaith mai dim ond un o'r dramâu a gynhyrchwyd ym Mangor oedd â 'blas drama ffasiynol Llundain' arni. [7] Cafwyd sawl erthygl olygyddol hefyd yn cloriannu'r dadleuon. Camodd 'Sylwedydd' ymlaen, i atgoffa darllenwyr Y Genedl mai diffyg dramâu Cymraeg da oedd wrth wraidd y broblem - os oedd yna broblem o gwbl: 'A oes rhywbeth yn llesteirio dramodwyr gorau Cymru? Nid drwg digymysg, y mae'n sicr ydyw cyfieithu dramodau tramor da ...'[8] Cynigiodd Edward Morgan Humphreys, ('Celt') ateb i'r cwestiwn hwn yn the Liverpool Post. Yn ei arolwg ef o'r 'lively correspondence' yn Y Genedl, ymdrechodd yn lew i gadw'r ddysgl yn wastad: 'Personally, I cannot see why there should not be room for both original and translated plays,' meddai, er yn cyfaddef, 'It may not have been necessary to translate some of the plays that have been done. They had little to teach us ... Perhaps it would not be a bad idea for the College Welsh Drama Society to ransack the stock that exists by next year.' [9] Y prif reswm, awgrymodd ef, pam bod drama newydd yn brin, oedd ansicrwydd awduron ynghylch y cyfle i'w cyflwyno i'r cyhoedd a'r ateb i'r broblem honno fyddai'r 'central rallying point' o Chwaraedy Cenedlaethol. Tebyg oedd safbwynt Owen Roberts ('Caerwyn'), mewn arolwg ar gyflwr y ddrama yng Nghymru a ymddangosodd yn Y Genedl, 30 Mawrth. Tueddai ef i edrych tuag at y cymorth y gellid ei gael gan grwpiau fel pwyllgor Wythnos Ddrama Gymraeg Abertawe a beirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol yn hytrach na'r Chwaraedy Cenedlaethol. Ond tebyg yn y bôn oedd ei farn yntau ynghylch y mater o gyfieithu dramâu tramor: 'Ni fynnwn er dim weled cilgwthio gwaith Cymry i ddifancoll er mwyn rhoddi lle i waith estroniaid, ond hyd nes byddo gwaith dramawyr Cymreig yn deilwng ac yn unol â safonau drama uchelryw rhodder lle i'r naill a'r llall ...'[10]

Un peth sydd gan y sylwebyddion hyn yn gyffredin - a llawer tebyg iddynt ar hyd y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel - yw argyhoeddiad diysgog bod methiant y Cymry i gynhyrchu 'drama uchelryw' yn ganlyniad i'r ffaith eu bod yn anghyfarwydd â'r celfyddydau theatraidd a bod angen darparu addysg iddynt drwy gyfrwng cyflwyniadau o ddramâu safonol a gynhyrchwyd mewn gwledydd eraill. Roedd Kate Roberts wedi cael profiad go chwerw rai blynyddoedd ynghynt a barodd iddi amau'r ddamcaniaeth honno. Fel un o dri beirniad yn Nowlais yn 1922 anogodd grwpiau gweddol amrwd eu rheolaeth o dechnegau dramataidd i fynnu 'y cyfansoddiad goreu posibl' yn anad yr un ystyriaeth arall wrth ddewis testun. [11] Ond o ddadansoddi sylwadau beirniaid y cystadlaethau, sylweddolodd y grwpiau yn gyflym iawn mai'r ddrama Saesneg a ystyrid y cyfansoddiad gorau posibl, ac o ganlyniad bu iddynt droi iffwrdd oddi wrth y ddrama Gymraeg yn gyfan gwbl. Y canlyniad yn Nowlais ymhen chwe blynedd oedd dewis beirniad uniaith Saesneg a gwahardd dramâu Cymraeg - a gwelwyd yr un ffenomen ar hyd ac ar led y wlad.

Fe all mai synfyfyrio ar y profiad hwnnw oedd un o'r ffactorau a ganiataodd i Kate Roberts fedru gweld rhai pethau gymaint yn gliriach na'r bobl o'i chwmpas. Yn sicr, gwelodd hi dri pheth hanfodol. 1. Ni fu erioed angen cyflwyno dramâu a gyfieithwyd i'r Gymraeg yr oedd y Cymry yn gallu eu darllen a'u gweld yn cael eu perfformio yn Llundain, Lerpwl, Caerdydd ac Abertawe gyda'r holl gyfleuster technegol. 2. Bod cyflwyno'r dramâu wedi'u cyfieithu o Saesneg a dramâu tramor fel ei gilydd yn hollol aneffeithiol fel modd o symbylu creadigrwydd yng Nghymru. 3. Bod rhyw gymhlethdod seicolegol ar waith ym meddwl y Cymry pan ystyrid dramâu wedi eu cyfieithu o'r Saesneg o'u cymharu â dramâu Cymraeg.

Fe wnaeth Kate Roberts y tri phwynt hyn yn gryf mewn erthygl bapur newydd yn 1935, gan gyfeirio at ymdrechion 'colegau neilltuol a threfi neilltuol' i roi chwarae teg i'r ddrama Gymraeg a cheisio ei gwella:

Yr hyn a wnaeth y lleoedd y cyfeiriaf atynt ydoedd chwarae ychydig ddramâu Cymraeg a llawer mwy o gyfieithiadau. Nid chwarae cyfieithiadau oblegid iddi fynd yn big arnynt am ddramâu Cymraeg a wnaethont, oblegid buont am flynyddoedd heb actio Ephraim Harris, eithr actio rhai Saesneg neu Ffrangeg (Saesneg gan mwyaf) wedi eu cyfieithu, a'u llwyfannu wedyn yn ôl dull Lloegr, am eu bod yn tybio eu bod yn well na'r rhai Cymraeg. Rhaid cydnabod bod rhai ohonynt yn salach na'r dramâu Cymraeg y gallasent eu perfformio.

A ydyw'r ddrama Gymraeg rywfaint gwell o'u hymdrech? Dim gronyn. Ffrwythau cyntaf ymdrechion o'r fath fuasai rhoi symbyliad i awduron ysgrifennu dramâu Cymraeg ar eu cyfer hwy. Pe cyraeddasai'r rhan yma o fudiad y ddrama ei amcan, fe fuasai rhyw awdur ac ychydig uchelgais at gyfansoddi drama ynddo, wedi troi o gwmpas eu llwyfan ac wedi cael syniad ar sut i lunio drama a chael syniad am chwaraewyr a chwaraeai gymeriadau ei ddrama ef.

Effaith arall mudiad o'r natur fuasai dylanwadu ar chwarae cwmnïau bychain o gwmpas y lleoedd hyn. Ond ni clywais iddynt gael yr effaith yma. Yn wir, gwn am gwmni drama mewn ardal yng Ngogledd Cymru sy'n bur agos i dre sy'n ymhyfrydu yn ei pherfformiad o ddrama Gymraeg bob blwyddyn, sydd yn chwarae'r pethau mwyaf ofnadwy ar enw drama, ie, sydd yn mynd o gwmpas y wlad ac yn llwyddo.[12]

Y gwelediad dyfnaf a fynegodd Kate Roberts yng nghwrs y ddadl rhyngddi hi a Tom Parry oedd na ellid wrth greadigrwydd celfyddydol nad oedd yn fynegiant o'r adeiledd dwfn a oedd yn rheoli gweithgarwch cymuned a'r artistiaid unigol a'i cynhyrchodd. Rhaid, felly, wrth ymffurfiad neilltuol 'ddyfnaf bethau meddwl' unrhyw gymuned, a hynny'n eigwneud yn amlwg nad oedd modd trosglwyddo'r pethau hynny'n ddidramgwydd drwy ffiniau ieithyddol a diwylliannol. A dyma'r union bwynt a gafodd ei anwybyddu'n gyfan gwbl gan Tom Parry yn ei ymgais i ateb ei dadleuon hi.

Mae'r methiant hwn yn fwy nodedig oherwydd i Parry ei hun ddangos yn y cyfnod hwnnw ei fod yn ymwybodol o'r cysylltiad cymhleth rhwng adeiledd dwfn cymunedau neilltuol ac argaeledd neu gynaliadwyaeth traddodiadau celfyddydol. Dangosodd hyn yn ei astudiaeth ar Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (1935), lle mae'n trin gwaith baledwyr y ddeunawfed ganrif fel datblygiad o'r hen draddodiad canu caeth Cymreig ar fesurau newydd. [13] Yn 1810, meddai Parry, 'y bu farw'r olaf o feirdd yr uchelwyr, yr olaf o'r beirdd cymdeithasol, a Thwm o'r Nant oedd hwnnw'. A bu farw'r hen draddodiad gydag ef, oherwydd darfod o'r gymdeithas a oedd wedi ei gynnal ac ymddangos unigoliaeth newydd a fynnai furfiau mynegiant newydd.

Pe bai Parry wedi dal gafael gadarn ar y gwelediad hwnnw credaf y byddai wedi gallu deall a derbyn dadleuon Kate Roberts mewn perthynas ag effaith niweidiol polisi Cymdeithas Ddrama Gymraeg Bangor. Ond roedd ganddo gymhlethdod meddwl a'i hataliai rhag gwneud hynny, a'r cymhlethdod hwnnw wedi ei wreiddio yn ei gysyniad o draddodiad fel endid ffurfiol, a oedd yn y bôn yn annibynnol ar strwythurau cymdeithasol.

Daw'r cymhlethdod hwn i'r golwg wrth iddo drin y berthynas rhwng y baledwyr gwerinol ar y naill law a deallusion cydnabyddedig y cyfnod ar y llaw arall, y Morisiaid, yr hawliai eu bod yn cynrychioli hen draddodiad caeth yr awdl a'r cywydd. Arddengys Parry'n gwbl eglur eironi canolog y cyfnod dan sylw, sef y ffaith y gadawyd yr hen draddodiad i farw allan gan yr union ddeallusion a oedd yn llafurio i roi anadl einioes i esgyrn sychion y ffurfiau caeth hynafol. Fe welai Parry dranc traddodiad caeth y baledwyr yn ganlyniad naturiol i ddyfodiad yr unigoliaeth newydd a ymledai yng Nghymru yn sgil cyflwyno strwythurau cymdeithasol ac economaidd a darddodd yn Lloegr. Ond ni welai'r gwahaniaeth trawiadol rhwng yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr ac yng Nghymru. Ar un ochr i Glawdd Offa cafwyd priodas glòs rhwng y synwyrusrwydd newydd a fynegid ym marddoniaeth gyfoes Coleridge a Wordsworth a hynafiaetheg dynion fel yr Esgob Percy - gwele eu Lyrical Balads a The Rime of Ancient Mariner. Ar yr ochr arall mynegwyd gelyniaeth gan gynrychiolwyr y mudiad hynafiaethegol tuag at gynrychiolwyr traddodiad gwerinol a hynny er gwaethaf cysylltiadau go agos rhwng y naill blaid a'r llall. Mynegwyd 'agwedd gymysg o ddirmyg a thosturi a rhyw oddefgarwch ffroenuchel' tuag at y baledwyr, gan Goronwy Owen a'r Morisiaid, esboniodd Parry, agwedd y mae'n ei gweld yn ganlyniad naturiol i'w swyddogaeth fel pendefigion deallusol. Parodd maint eu dawn, meddai Parry:

... iddynt ymddiddori yng ngorffennol eu cenedl, a cheisio datrys ei hen lenyddiaeth. Parodd iddynt hefyd ymddiddori ym mhresennol y genedl gyfagos, a thrwy gymathu dau draddodiad ceisient ymgyrraedd at safonau a oedd yn gwbl ddieithr i bawb ond hwy eu hunain. Ffurfiasant felly bendefigaeth lenyddol, a rhaffau cynhaliol y coterie hwn oedd y cannoedd llythyrau a ysgrifennent y naill i'r llall. [14]

Ar ddiwedd y llyfr ceir disgrifiad gwrthrychol a chytbwys o'r sefyllfa a ddeilliodd o amharodrwydd y coterie snobyddlyd hwnnw i gyfryngu rhwng y ddau draddodiad caeth:

Ac felly y trengodd y mesurau caeth newydd a'r hen draddodiad cymdeithasol, ac y blodeuodd yr hen fesurau caeth a thraddodiad unigoliaeth newydd.Y broblem nesaf oedd cael yr hen fesurau caeth, y cywydd a'r awdl, ddygymod â'r unigoliaeth hon, peth cwbl anghynefin iddynt. Ni allwyd llwyr gymathu'r ddeubeth hyd awdl Yr Haf.[15]

Hynny yw, ni allwyd cyfryngu rhwng ysbryd yr oes newydd a'r hen ffurfiau rhwng 1810 a 1910! Onid yw hynny'n disgrifio canrif o ffurfiolrwydd hesb? Ac onid yw'r gwrthgyferbyniad â'r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr wrth i'r un mudiadau deallusol gael eu gweithio allan yn un y mae ymron yn amhosibl methu â sylwi arno? Yr hyn sy'n drawiadol yn ei absenoldeb yma yw diffyg unrhyw gydnabyddiaeth o ganlyniadau echrydus i farddoniaeth Gymraeg a ddeilliai o fuddugoliaeth y 'deallusion' Cymreig!

Pe bai Tom Parry wedi medru troi at waith y Morisiaid gyda'r un gwrthrychedd cytbwys ag sy'n nodweddu ei asesiad o waith y baledwyr, fe ddichon y byddai wedi holi mwy ynglŷn â tharddiad eu hymlyniad digymrodedd wrth ffurfiolrwydd estheteg. Yr hyn oedd yn atal hynny oedd ei ymlyniad ef ei hun wrth y traddodiad 'newydd', ffurfiol yr oeddynt wedi ei symbylu. Un canlyniad i hwnnw oedd ei ddrwgdybiaeth ddigymrodedd o'r cysyniad o'r werin ddiwylliedig a fu'n elfen ffrwythlon iawn o'r mudiad rhamantaidd yn Lloegr.

Rhan o amcanion Parry yn ei lyfr, yn dilyn Saunders Lewis, yw gosod seiliau clasuraeth newydd sy'n darlunio llenyddiaeth fel cynnyrch astudiaeth drylwyr a meddwl disgybledig, 'mater o benderfynu ... mater o ewyllys, mater o fyned ati'.[16] A thu ôl i'r glasuraeth honno, y tueddai - eto fel Saunders Lewis - i'w holrhain at yr Awgwstiaid Cymreig, ceir gwrthymateb cryf yn erbyn rhai agweddau ar ramantiaeth beirniadaeth lenyddol gyfoes, ac yn arbennig yn erbyn yr honiad mai diwylliant gwerinol yw'r diwylliant Cymreig, mynegiant greddfol enaid y genedl. Amcan Tom Parry wrth olrhain canu caeth newydd y ddeunawfed ganrif yn ôl i hen draddodiad yr ysgolion barddol oedd tanseilio'r ddadl a glywai yn y byd o'i gwmpas, sef mai rhywbeth greddfol, gwerinol oedd barddoniaeth, rhywbeth yn perthyn i'r werin ddi-ddysg yn hytrach na dysgedigion yr ysgolion newydd a geid yn Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd.

Gwrthyd Parry'n bur ddiymdroi y cysyniad gwleidyddol o'r werin fel yr elfen sy'n gwrthwynebu'r bendefigaeth, am y rheswm syml nad oes dim pendefigaeth bellach. Felly hefyd y syniad diweddarach o'r werin fel pobl sy'n gweithio â'u dwylo o'u cyferbynnu â'r rhai sy'n gweithio mewn ysgol neu lyfrgell, oblegid 'dyma ddosbarthu ffôl ac afresymol ar gymdeithas'.[17] Y werin, yn ôl Parry, yw 'pawb trwy'r byd oll sydd heb ei hyfforddi yng nghelfyddyd llenyddiaeth',[18] ond wrth iddo gyflwyno'r diffiniad hwnnw cawn adlais diddorol iawn o'r union raniad cymdeithasol y cyfeiriodd Awena Rhun a Gilbert Williams ato yn y ddadl am bolisi artistig y Gymdeithas Ddrama. Yn ddiweddar, meddai Parry, fe gaed ystyr newydd i'r gair 'gwerin' mewn gwrthgyferbyniad â'r brifysgol:

Tyfodd ymdeimlad â rhyw wahaniaeth annelwig rhwng 'pobl y Colegau' a'r 'werin'. Sonnir am y Brifysgol a'r werin, gydag awgrym fod yma ddau eithaf, a bod eisiau dulliau arbennig i gymodi'r ddeubeth. Er ymffrostio o arweinwyr y genedl ddeng mlynedd ar hugain yn ôl fod y werin wedi deffro ac yn mynnu breintiau addysg iddi ei hun, ac i fardd ganu am weithiwyr a roes ei geiniog brin at godi'r Coleg, dyma'r werin a'i Phrifysgol, erbyn heddiw, wedi ymddieithrio, a myned y geiriau i gynrychioli dau ddosbarth cwbl wahanol yn y gymdeithas Gymreig. Ni olyga hyn fod neb yn edrych ar y Brifysgol fel hafan foethus i blant y cyfoethogion, na bod y dynion a'r merched a hyfforddir ynddi yn uwch, o ran safle a swydd, na'r sawl na fuont ar ei chyfyl. Ni feddylir chwaith am yr athrawon yn unig. Mewn gwirionedd, rhyw haniaeth ddigon ansylweddol yw'r ymadrodd 'y Brifysgol', yn gysylltiedig, mae'n wir, â rhyw ychydig o'r athrawon, ond yn golygu dysg yn gyffredinol, ac yn awgrymu cryn lawer o falu hen ddelwau hoff. Mewn gair, fe dyfodd rhyw syniad o bendefigaeth newydd, nid pendefigaeth tir na thras, ond pendefigaeth dysg. Uchelwyr dysg ar y naill law, a'r gweddill o'r genedl, sydd heb gyrraedd at binaclau na dyfnderoedd y ddysg honno, ar y llaw arall; a dyma'r rhai a elwir y werin. [19]

Onid dyma agwedd drawiadol debyg i eiddo'r Morisiaid? Heb y duedd at ddirmyg a thosturi, efallai, ond agwedd ddigon ffroenuchel tuag at y gweithwyr cyffredin nas ceir ond yn anaml iawn, 'yn mwynhau darllen cywyddau Iolo Goch, neu'n gloddesta ar Rheol Buchedd Sanctaidd, [20] neu'r 'tlotaf o ddynion', sy'n mynnu rhoi 'rhywbeth â lliw arno' i guddio moelni parwydydd, heb wybod paham.

Ceir awgrym go gryf yn y geiriau hyn o'r ffordd yr oedd Tom Parry yn meddwl am raglen Cymdeithas Ddrama Gymraeg Coleg Prifysgol Bangor fel cyfrwng addysgiadol yn nwylo pendefigaeth ddeallusol. Ni ellir synnu, ychwaith, o weld yr agwedd honno yn eiddo i ddarlithydd ifanc a feddylia amdano'i hun yn olyniaeth John Rhŷs a John Morris-Jones. Ond yr hyn a allai beri syndod yw ei fod yn methu â gweld aneffeithiolrwydd lwyr ei raglen addysgiadol. Y peth mwyaf trawiadol am y ffordd yr ymatebodd i feirniaid y Gymdeithas yw'r ffaith ei fod mor anymwybodol o'r gagendor amlwg rhwng ei siarad didaro am uchel bethau'r meddwl dynol a sylwedd rhaglen y gymdeithas. Dichon y byddai rhai'n dueddol i ddadlau ei fod yn hyn o beth yn rhannu rhagfarn sawl un ymhlith beirniaid ac ysgolheigion mwyaf disglair ei genhedlaeth - ac yn eu plith Saunders Lewis, yr oedd yn gymaint o edmygydd ohono. Ond os oedd awdur Williams Pantycelyn yntau'n edrych tuag at bendefigaeth feddyliol y genedl am ymwared rhag drygau'r oes, ni ddisgwyliai eu canfod yn rhengoedd athrawon colegau prifysgol Cymru. Rhaid cydnabod hefyd, os credai Saunders Lewis fod gwerth diamodol i gynnyrch aruchel y theatr ar ei gorau, at gyrhaeddiad y Comedie Française yng nghyfnodau disgleiriaf ei hanes y trodd ef am fodel, yn hytrach na'r Gaiety ym Manceinion.

Rhaglen y Gaiety dan gyfarwyddyd Annie Horniman yn y cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf oedd model yr arlwy ddramataidd a gynigid gan Gymdeithas Ddrama Bangor, fel y cyfaddefodd J. J. Williams. Rhaid cydnabod bod i'r Gaiety safle digon parchus yn hanes y theatr rep yn Lloegr, ond o'r braidd y gellid dadlau ei bod yn fodel y gallai unrhyw theatr Gymraeg ei efelychu. Enghreifftiau o fân-ddiwylliant bwrgeisiol Lloegr a gawn yn nramâu Houghton, Beresford, Rutherford et al, a'u prif swyddogaeth oedd cymodi'r ystrydebau moesol a chymdeithasol ym mywyd beunyddiol Lloegr yn y cyfnod hwnnw. O'r braidd y gellid dadlau fod unrhyw rai ohonynt yn dal yn fyw yng nghof y genedl erbyn hyn, ac eithrio Hobson's Choice - a honno'n unig yn y ffilm a wnaethpwyd gan David Lean yn 1954, gyda Charles Laughton a John Mills. Y syndod yw i gymdeithas a hawliai 'hyrwyddo'r mudiad drama' wneud y fath frechdan rhwng cyflwyno Tŷ Dol yn 1926 a Hedda Gabler yn 1930 a meddwl eu bod yn 'dyrchafu'r Ddrama Gymraeg i uwch tir a lletach llwyfan'.

Mae'n wir, wrth gwrs, os yw,n drosedd ddiwylliannol mewnforio modelau israddol Saesneg i Gymru a'u gwerthu fel ymgorfforiadau o gelfyddyd diamodol, nid darlithwyr a myfyrwyr Bangor oedd yr unig droseddwyr yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf. Ymron o ddechrau'r Mudiad Drama, ac yn fwyfwy ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, fe glywid ymhobman gwynion nad oedd y ddrama a gynhyrchid yn y Gymraeg yn ddigon da. Prin oedd y lleisiau a ofynnodd y cwestiwn hollbwysig, Digon da i beth? A hynny, wrth gwrs, oherwydd yr oedd pawb o leiaf yn hanner ymwybodol o'r ateb, sef 'Digon da o'i chymharu â chynnyrch Theatr yr Abaty yn Nulyn a theatr broffesiynol Lloegr'. Yr hyn sy'n denu sylw neilltuol at rôl Cymdeithas Ddrama Bangor yn y lle cyntaf yw'r anghyfartaledd rhwng ei hamcanion artistig uchelgeisiol ar y naill law a sylwedd ei rhaglen flynyddol ar y llall. Ac yn yr ail le, y cymysgedd o hunanfoddhad academaidd, cywilydd a dryswch meddwl a symbylodd un o ddarlithwyr y coleg a oedd yn prysur ennill cydnabyddiaeth deg fel un o golofnau disgleiriaf y diwylliant Cymraeg ymhlith y to ifanc, i gamu ymlaen i'w hamddiffyn - a hynny cyn i neb ymosod arni o gwbl. Dyna a awgrymodd i Kate Roberts fod drwg yn y caws lle roedd perthynas Tom Parry ei hun â'r Gymdeithas yn y cwestiwn:

Yr hyn sydd wedi difetha achos Bangor ydyw i T.P. ysgrifennu ysgrif ar y pwnc i gychwyn. Yn yr ysgrif honno fe roes y gwrthddadleuon cyn bod dadl - ffaith a ddengys ynddi hi ei hunan fod yna deimlad o euogrwydd tua Bangor. Mae i ddyn gyfarfod â gwrthddadleuon cyn bod dadl yr un peth ag ymddiheuriad.[21]

O un safbwynt gellid dadlau nad oedd llawer o ots am hynny. Bu'r ffurfiau ar theatr a gynhaliwyd gan y Mudiad Drama yn fandyllog o ran iaith, yn addasu'n reddfol i lanw a thrai'r Gymraeg a'r Saesneg mewn cymunedau lleol ac yn ymateb yn reddfol hefyd i ofynion diwylliannol y cymunedau hynny. Mudiad atblygol oedd y Mudiad Drama yn y bôn, a'i egni cynhaliol yn tarddu o haenau dyfnaf, hunanamddiffynnol y cymunedau Cymraeg. Enghraifft nodweddiadol, felly, oedd y cwmni bach lleol y soniodd Kate Roberts amdano'n hwylio ymlaen gyda pherfformiadau dramâu a fyddai wedi dod â gwrid i fochau aelodau o Gymdeithas Ddrama Bangor. Yn y bôn theatr werinol oedd y theatr a gynhyrchwyd gan y Mudiad Drama, yn gweddu i ddiffiniad Tom Parry o'r werin annysgedig, er gwaethaf dadleuon Saunders Lewis.[22] Ac fel theatr werinol, a chanddi frith atgofion o ffurfiau celfyddydol wedi'u benthyg oddi wrth gyfnodau cynt a chyfryngau eraill, methodd â chynhyrchu testunau dramataidd a allai fodloni gofynion estheteg. Tebyg oedd y theatr hon i gorff gwaith baledwyr y ddeunawfed ganrif fel y'u disgrifiwyd gan Tom Parry. Dangosodd Parry nad oedd modd i'r baledwyr gynhyrchu dim o werth llenyddol oherwydd buont yn byw mewn cymdeithas doredig lle na phrofwyd yr undeb rhwng haenau uwch a haenau is sy'n angenrheidiol gogyfer â datblygu ffurfiau celfyddydol a fedr fodloni gofynion estheteg a chymdeithasol llawn y gymdeithas honno. Methodd Tom Parry â gweld bod hynny'n wir hefyd am y Mudiad Drama, yn rhannol efallai, oherwydd nerth gafael modelau Saesneg ar ei ddychymyg.

Edrychai Kate Roberts, ar y llaw arall, ar gyflwr y ddrama yng Nghymru'n gyfan gwbl wrthrychol, oherwydd, efallai, y symbyliad a roddwyd iddi gan ffug-ddadleuon ei chyd-ddisgybl gynt. Roedd hi, wrth gwrs, wedi bod yn weithgar gyda'r ddrama o ddechrau ei gyrfa. Pan oedd yn Ystalyfera, cydweithiodd â Beti Eynon Davies a Margaret Price i gynhyrchu tair drama yn nhraddodiad y Mudiad Drama. 'Comedi o Gwm Tawe' oedd Y Canpunt , sy'n troi ar ymdrechion pâr diniwed ifanc i gael y swm hwnnw o arian o ddwylo perthynas er mwyn priodi. Comedi arall oedd Wel! Wel!, sy'n codi hwyl ar y ffordd y mae straeon di-sail yn ymledu yng nghymuned werinol Cwmllynfell. Ond melodrama yw Y Fam, sy'n trin tynged dau blentyn bach y mae'u tad wedi ailbriodi ar ôl marwolaeth eu mam. Hofran y mae Y Fam rhwng byd y dychymyg a'r goruwchnaturiol, rywfaint yn null melodramâu J. Eddie Parry. Yn ystod y nos daw mam y plant yn ôl i gysuro ei phlant am greulondeb y llysfam, gan adael gyda'i merch ifanc. Erbyn y bore, a brawd y ferch fach wedi ei adael yn ei dristwch, darganfyddir corff ei chwaer ar y grisiau tu allan i'r tŷ a gwêl y fam newydd y bydd yn rhaid iddi fyw yn y tŷ bellach yn ymwybodol o bresenoldeb parhaol y fam y mae hi wedi ei disodli.

Nid yw'r dramâu bychain hyn namyn enghreifftiau go fywiog o ystrydebau celfyddydol cynnyrch y Mudiad Drama ac awgrymai triniaeth goeg Kate Roberts o'r perfformiad o Beddau'r Proffwydi yn Laura Jones fod Kate Roberts wedi pellhau oddi wrthynt erbyn 1930. Ymgais oedd ei drama nesaf hi i fynd i'r afael â'r union ffenomen gymdeithasol a lesteiriodd ddatblygiad y Mudiad Drama, sef y ffaith bod yna rwyg yng Nghymru rhwng trwch y boblogaeth ar y naill law ac ar y llall yr ysgolheigion a hawliai'r fraint o'u harwain. Drama dair act yw Ffarwel i Addysg, sy'n cyflwyno hanes merch ifanc o deulu gwerinol sy'n herio rheoliadau caeth y coleg ynghylch ble i garu, ac sy'n cael ei diarddel o ganlyniad i genfigen cyfaill a malais Warden ei neuadd ac yn gorfod dychwelyd adref i ad-drefnu ei bywyd. Yn ymateb i gais am ei gyngor ef, tynnodd Saunders Lewis sylw'r awdur at ffocws ansefydlog y ddrama:

Beth ddylai fod yn destun y ddrama? Os bywyd y coleg, dylai'r olygfa fawr fod yng nghyfarfod y senedd, - yr athrawon oll, yr eneth o'u blaen, y warden faleisus, a'r bachgen, yna Annie'n torri i mewn yn ei hysteria, a chymeriadau'r athrawon gwryw a benyw yn ymddangos drwy'r cwbl. Felly ni byddai ond dau brif bwnc (1) serch ifanc a chenfigen a (2) awyrgylch colegau Cymru, a'r genfigen yno hefyd, cenfigen yr hen o rai iengach a chenfigen hen ferch o eneth synhwyrus.[23]

Digon gwir hynny - a gwir hefyd, fel y dywed Saunders Lewis, y byddai Ffarwel i Addysg wedi gwneud gwell nofel na drama yn nwylo Kate Roberts. Serch hynny, mae angen cydnabod y ddrama fel ymgais wirioneddol onest i wynebu'r gwacter brawychus a welodd Kate Roberts yng nghnewyllyn bywyd Cymru gyfoes - a hynny trwy uniongyrchedd drama. Trawiadol iawn yw sylwi bod yr olygfa fawr a ddisgrifiodd Saunders Lewis yn Senedd y Coleg wedi ei hysgrifennu'n barod, a hynny gan y dramodydd Almaenig Frank Wedekind, yn Deffro'r Gwanwyn (1891). Ond o gymharu ei waith ef ag eiddo Kate Roberts gwelwn ar unwaith pam na chymerodd hi'r un llwybr. Sylwedd yr olygfa a ysgrifennodd Wedekind yw gwrthgyferbyniad noeth a threisiol rhwng dwy genhedlaeth. Nid gwrthgyferbynnu culni adweithiol y Senedd a naturioldeb merch ifanc sy'n dilyn ei greddf yw amcan Kate Roberts. Yn wir, un o'r pwyntiau y mae hi'n straffaglu i'w wneud yn eglur yn ei drama - a hynny dan ddylanwad gwrthramantiaeth Gwaed yr Uchelwyr - yw bod pethau pwysicach hyd yn oed i ferch ugain oed na dilyn ei greddf.

Prif amcan Kate Roberts yn Ffarwel i Addysg yw dangos amherthnasedd yr addysg a gynigid yng ngholegau Cymru i fywyd dosbarthiadau gwerinol Cymru. Er mwyn cyflawni'r amcan hwnnw bu'n rhaid iddi ymgorffori'r darganfyddiad hwnnw ym mhrofiad un o'i chymeriadau. Dyna Gwen, sy'n dychwelyd adref ar ôl cael ei diarddel ac yn darganfod nad addysg yw'r hyn y mae ei thad wedi dymuno iddi ond cydymffurfiad slafaidd â delfrydiaeth ffals. Mae tad Gwen wedi aberthu er mwyn ei hanfon i'r Coleg oherwydd ei fod yn credu bod addysg yn ddrws ymwared o dlodi, ond wrth iddi hi sylweddoli maint ei aberth am y tro cyntaf, sylweddola hefyd nad oedd y wobr yn werth yr aberth.

Y broblem a wynebodd y dramodydd wrth drin y sefyllfa hon oedd nad oedd yna broses y gellid ei dramateiddio. Nid yw deunydd y ddwy act gyntaf ond rhag-baratoad. Nid yw'r broses seicolegol o sylweddoli amherthnasedd yr hyn a gynigir yn y coleg yn dechrau nes i Gwen gyrraedd ei chartref ar ddechrau'r drydedd act. Ar y pwynt yna cyflwynir dau gymeriad newydd, tad Gwen a'i modryb, a'r amcan dramataidd yw i baratoi'r gynulleidfa i ddeall cyd-destun argyfwng moesol nad oedd sôn amdano o gwbl tan hynny.

Yr unig ddolen gyswllt rhwng y ddwy act gyntaf a'r drydedd yw'r berthynas garwriaethol rhwng Gwen a Dafydd. Mae'r garwriaeth benchwiban a fu rhyngddynt yn y coleg wedi peri i Gwen gael ei diarddel ac yn ei symbylu i sylweddoli nad oedd gwir werth yn yr addysg a gynigid yno. Wedyn, wrth i Dafydd gynnig ei phriodi er gwaethaf gwarth y diarddeliad, mae ei phenderfyniad hi i'w wrthod yn ganlyniad i'w difrifoldeb newydd, yn dod â'r ddrama at ryw fath o uchafbwynt. Y mae hi'n ei wrthod, er ei bod yn ei garu, er mwyn bod yn driw i'r sythwelediad y mae hi wedi'i datblygu. Creadur digon gwannaidd yw Dafydd, gydag elfen o anwadalwch yn ei natur nad yw Gwen, bellach, yn credu ei bod yn medru ei anwybyddu o aros yn driw i'w hunan.

Diwedd digon diflas sydd i'r ddrama, felly, gyda Gwen fach yn wylo ar ei phen ei hunan ym mharlwr tŷ ei thad. Diwedd digon annramatig, hefyd, ys dywed Saunders Lewis. Serch hynny, mae Ffarwel i Addysg  ymhlith y mwyaf diddorol o'r dramâu a gynhyrchwyd yn y cyfnod anodd hwnnw rhwng Gwaed yr Uchelwyr a Buchedd Garmon. Byddai'n gyfleus iawn gallu dweud, yn arbennig wrth ddwyn y gymhariaeth rhwng Kate Roberts a Tom Parry i'r meddwl, ei bod wedi awgrymu ffordd ymlaen i'r ddrama Gymraeg, ond o'i darllen yn ei chyd-destun llawn, gwelwn ei bod wedi datgelu rhywbeth diddorol iawn am y math ar ddrama y gellid ei ddisgwyl yng Nghymru yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf. Wrth iddi ffarwelio ag addysg ac â chariad rhamantaidd ei hieuenctid, y mae Gwen yn wynebu byd go unig a gwag. Byddai'n anodd dychmygu unrhyw ddrama arall y gallai hi fod yn chwarae rhan fwy sylweddol ynddi yn y dyfodol nag eiddo ei modryb ddibriod y mae ei chyngor yn ei chynorthwyo wrth benderfynu gwrthod Dafydd.

Nid ystyrid unigrwydd a gwacter yn ddeunydd addas i ddrama - o leiaf nid tan ymddangosiad Wrth Aros Godot (1953) - ac wrth gwrs bu digonedd o drafod ers hynny ar y syniad bod campwaith Beckett wedi lladd am byth y ffurfiau ar ddrama glasurol Ewrop sy'n canoli ar brofiad rhyng-bersonol. Ond mae Ffarwel i Addysg yn awgrymu'n gryf mai dyna'r cwbl y gallai unrhyw un ei ddisgwyl o wynebu'r gwirionedd am y ffordd yr adeiladwyd y Gymru gyfoes.

Yr hyn sy'n ein hwynebu ni, felly, wrth ddod â'r gymhariaeth estynedig hon i'w therfyn yw gwrthgyferbyniad rhwng dwy agwedd ar Gymreictod sy'n dal yn gyfredol yn y Gymru sydd ohoni: cysondeb digyfaddawd sy'n arwain at unigedd diffrwyth ar y naill law ac ar y llall meddwl anghyson ac adranedig, sy'n tueddu at y phariseaeth ddeallusol y credai J. R. Jones ei fod yn ganlyniad anorfod i Brydeindod. Trist o beth yw sylwi ar y rôl ganolog y Brifysgol yn yr anghydfod rhwng Tom Parry a Kate Roberts, ond tristach fyth yw sylweddoli cyn lleied sydd wedi newid ers eu dyddiau nhw. Ymatebodd Saunders Lewis i'r sefyllfa hon gyda beirniadaeth ddeifiol ar y Brifysgol oherwydd ei methiant i osod seiliau i feddwl Cymreig, er rhaid sylwi hefyd bod sefyllfa sawl un o arwresau ei ddramâu - Magi Excelsior a Sara Problemau Prifysgol er enghraifft - yn awgrymu'n gryf fod angen newid seiliau economaidd a chymdeithasol bywyd Cymru cyn bod meddwl Cymreig gwahanredol yn ymarferol. Gellid dadlau nad cyfrifoldeb deallusion y Brifysgol yw ceisio symbylu'r newid hwnnw, wrth gwrs, ond yn hytrach sylwebu ar wahanol agweddau ar ddiwylliant a bywyd eu gwlad fel yr â heibio. Boed hynny fel y bo, credaf fod y cipolwg ar sefyllfa'r y deallusyn Cymraeg a gawn wrth astudio'r gwrthdaro a gafwyd rhwng Tom Parry a Kate Roberts yn y flwyddyn 1931 yn gymorth i ni sylweddoli'r math ar ddewis rydym ninnau'n parhau i'w wynebu yn y Brifysgol sydd ohoni. Gellid dadlau mai da o beth yw profi bod rhai pethau yn ein byd ni sy'n gwrthsefyll pob treigl amser.

 






[1]     Rhaglen Cymdeithas Ddrama Gymraeg Coleg  Prifysgol Bangor, 1925.

[2]     Y Genedl Gymreig, Mawrth 15 1926, t. 5.

[3]     Ibid.

[4]     Rhaglen y Gymdeithas 1928-29.

[5]     16 Chwefror  1931, t. 2.

[6]     9 Mawrth 1931, t. 5.

[7]     16 Mawrth 1931, t. 5.

[8]     2 Mawrth 1931, t. 4. John Owen (1864-1953), o bosib, a ysgryfenai golofn wythnosol i'r Goleuad o 1930 ymlaen dan y ffug enw hwn.

[9]     Liverpool Post and Daily Mercury, 5 Mawrth 1931, t. 11. Bu Humphreys (1882-1955) yn golygu'r Genedl tan 1930, pan ymddiswyddodd a mynd yn newyddiadurwr annibynnol.

[10]    Y Genedl Gymreig, 30 Mawrth 1931, t. 4.

[11]    Y Brython, 19 Hydref 1922, t. 4.

[12]    4 Rhagfyr 1935: wedi ei ddyfynnu o bapurau D. R. Davies yn y Llyfrgell Genedlaethol, Bocs 2/3, t. 109.

[13]    Dyfynnodd eiriau David Samuel: 'A Baledwyr y blynyddoedd sydd wedi ein gadael, pwy oeddynt? Onid disgynyddion beirdd a llenorion y Canol Oesoedd?' Gweler Baledi'r Ddeunawfed Ganrif, Gwasg Prifysgol Cymru, (Caerdydd , 1935), t. 25.

[14]    Ibid., t. 8.

[15]    Ibid., t. 165.

[16]    Ibid., t. 144.

[17]    Ibid., t. 46.

[18]    Ibid., t. 48.

[19]    Ibid., t. 46.

[20]    Ibid., t. 48.

[21]    Y Genedl Gymreig, 9 Mawrth 1931, t. 5.

[22]    Gwelir 'Welsh Drama and Folk Drama', The Welsh Outlook, VII, June 1920, t. 168: 'My conclusion ... must be that Welsh drama when it is good, is not "folk" drama, and I think this is matter for rejoicing. ... [W]hat is of present and urgent interest is that we should recognise that the drama of art, of deliberate intention, may be a far more precious thing ...'

[23]    20 Mai 1931. Gweler Annwyl Kate, Annwyl Saunders, gol. Dafydd Ifans, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth, 1992), t. 84.

 

Sylwadau

Dim sylwadau wedi'u postio

 

islwytho'r erthygl

 

___________________

Manylion Bywgraffyddol

_________________

rhannu gyda ffrindiau

Designed & Developed by WiSS Limited