Golygyddol
Cân o Gyfarch i Gwerddon
Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg Dr Hywel Jones
Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd Dr Eleri Pryse
Annie Ellis ‘Cwrt Mawr’, Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru Wyn Thomas
Ideoleg ac estheteg yn y Mudiad Drama Yr Athro Ioan Williams
Cyfranwyr
Bwrdd Golygyddol
Dyma ail rifyn Gwerddon, gyda phedair erthygl ar bynciau tra amrywiol. Lawnsiwyd y cylchgrawn ar Ebrill 30, 2007, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar yr achlysur dymunol hwnnw darllenwyd cerdd a gyfansoddwyd yn arbennig i’w croesawu gan Elin ap Hywel, Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol. Rydym yn ddiolchgar i Elin am ganiatâd i gyhoeddi’r gerdd isod.
Erbyn hyn y mae deunydd wrth law i’r ddau rifyn nesaf o Gwerddon ac y mae’n dda gennyf ddweud bod y deunydd hwnnw’n cynrychioli trawstoriad eang iawn o bynciau a meysydd academaidd gwahanol. Credaf fod hynny yn profi bod y cylchgrawn yn dechrau ennill ei blwyf ymhlith y cymunedau academaidd yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn ymwybodol iawn bod llawer o waith yn ein disgwyl cyn argyhoeddi cynrychiolwyr rhai meysydd bod cyhoeddi erthygl academaidd yn y Gymraeg yn weithred resymol, ond yn y cyfamser da o beth yw sylwi bod cynifer o academwyr yn awyddus ac yn fodlon i rannu ffrwyth eu hymchwil gyda darllenwyr o Gymry.
Mater o gael a chael bu cynnal Gwerddon hyd yn hyn, gyda chymorth hael oddi wrth Dr Ioan Matthews a Phrifysgol Aberystwyth. Ni ellid parhau felly am gyfnod hir ac rydym yn troi am gefnogaeth a chymeradwyaeth at y pwyllgor llywio canolog sydd newydd ei sefydlu gan y Cyngor Cyllido ac Addysg Uwch Cymru. Credwn fod rôl bwysig gan Gwerddon dan y drefn newydd, nid fel cylchgrawn yn unig ond fel canolbwynt i’r diwylliant ymchwil sy’n rhan anhepgor o’r gweithgarwch cynyddol ym myd addysg uwch y mae’r Cynulliad wedi siarsio’r Cyngor Cyllido â’r cyfrifoldeb o’i hybu. Yn y cyfamser, dyma’r ail rifyn o’r cylchgrawn, gydag addewid y bydd y trydydd yn ei ddilyn yn ddiymdroi. Croesawn gyfraniadau i’r rhifynnau dilynol.
Canllawiau cyflwyno
Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Dyniaethau, y Gwyddorau a’r Celfyddydau. Gellir cyflwyno erthyglau rhwng 5,000 a 8,000 o eiriau ar ffurf dogfen Word i sylw’r golygydd cynorthwyol, Anwen Jones, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Gofynnir hefyd am gopi ychwanegol ar far data neu ddisg i’w anfon trwy’r post cyffredin i’r cyfeiriad isod:
Golygydd cynorthwyol Gwerddon Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Adeilad Parry Williams Campws Penglais Aberystwyth SY23 3AJ
Dylid dilyn canllawiau Gwasg Prifysgol Cymru wrth baratoi’r ddogfen. Gweler www.uwp.co.uk; dilynwch y ddolen gyswllt ‘cysylltu’ i gyrraedd ‘Canllawiau ar gyfer testunau Cymraeg i’w cyhoeddi’. Rhaid cynnwys unrhyw luniau, ffotograffau, tablau neu ddeunydd gweledol o fath arall fel rhan o’r ddogfen. Ni ellir eu derbyn fel ffeiliau ar wahân. Ar ôl derbyn erthyglau, fe’u hanfonir at olygydd iaith a diwyg ac yna at ddau arfarnwr a fydd yn argymell cyhoeddi ai peidio. Bydd y broses hon yn cymryd hyd at dri mis. Cysylltir ag awduron wedi hyn i nodi ymateb yr arfarnwyr cyn bwrw ymlaen gyda’r broses olygu.
Cyllidir Gwerddon gan: