Llyfr Du Caerfyrddin yn clywed sôn am Gwerddon
Roeddwn yn flin i ddechrau.
Yn flin fel y gacynen
sy’n tyrchu i grombil yr afal cochaf un
i fwrw ei llid a’i cholyn.
Yn drist fel y glaw
ar feddau anhysbys yn nannedd y gwynt.
Pa les sydd yn yr anweladwy hwn, meddyliais,
nad llyfr mohono, nad yw yn ddu.
A oes 'na siw na miw ynddo am Gaerfyrddin?
Ond yna, bûm yn meddwl:
mae pwysau pechod ar lyfrau.
Y fath gyfrifoldeb,
yw cynnwys perchyll, brwydrau a Duw
o dan yr unto o ledr ac inc
heb iddynt fynd i gecru a hollti’r cyfan;
y fath swmp o hanesion
am arwyr, cleddyfau a dur
yn fy naearu.
Edrychwch arnaf mewn difri. Gwelwch y ffordd
mae fy meingefn bach yn crymu,
fy nghroen yn breuo,
fy ngewynnau yn ymddihatru.
O am gael bod fel y bluen hon o beth:
lle gwëir dewiniaeth geiriau
mewn gofod, eu rhithio o’r awyr
trwy ledrith eu hawl i fod.
Ust, rhwng ei llinellau mi glywaf leisiau,
mor ysgafn, mor feiddgar hyderus
o’u lle yn y byd â blodau’r afallen.
Elin ap Hywel