Rhifyn Archif

Annie Ellis ‘Cwrt Mawr’, Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru

Wyn Thomas

Mynegodd Cymru ddiddordeb neilltuol ym mhriodas Tom Ellis,[1] Aelod Seneddol Meirionnydd ac Annie Davies,[2] Cwrt Mawr, Llangeitho, ar ddiwrnod cyntaf Mehefin 1898. Yng nghapel y Tabernacl, Aberystwyth, y cynhaliwyd y gwasanaeth a thra chwifiai baneri i ddathlu pwysigrwydd yr achlysur o dŵr y castell a’r coleg gerllaw, canai côr o gantorion dethol dan arweiniad y cerddor David Jenkins gadwyn o alawon Cymreig, gan gynnwys ‘Y Deryn Pur’ a ‘Clychau Aberdyfi’[3] i ddiddanu’r gynulleidfa ddisgwylgar. Yn ystod y gwasanaeth, clywyd yr emyn-dôn ‘Penlan’[4] am y tro cyntaf ac, yn ôl traddodiad, wrth i’r briodferch gamu’n nerfus drwy ddrws yr addoldy y bore hwnnw, safodd Tom Ellis ar ei draed wrth glywed y geiriau:

                        Pan y’i gwelais, syth mi sefais,
                        Yn fy nghalon mi feddyliais,
                        Wele’r ddynes, lana’r deyrnas
                        A’i gwên yn harddu’r oll o’i chwmpas.[5]

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, canodd ‘Eos Dâr’[6] eitemau o ganu penillion fel rhan o ddathliadau’r neithior yn y Pier Pavilion a’i berfformiad yn fynegiant o’i barch a’i edmygedd o’r gwleidydd a’i briod newydd. Ym mhriodas John Herbert Lewis, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Fflint, a Ruth Caine[7] ddeng mis ynghynt y cafodd Tom Ellis y syniad o ddwyn agweddau ar ganu brodorol ei gydgenedl i mewn i ddigwyddiadau’r dydd. Fel un o feibion y werin, bu ei yrfa gyhoeddus hyd at y cyfnod hwnnw yn ymdrech i bwysleisio a hyrwyddo buddiannau Cymru – ei haddysg, ei llenyddiaeth, ei hiaith a’i cherddoriaeth. Drwy gyfrwng ei unplygrwydd a’i weithgarwch a’i gyfathrach â’i gyd-aelodau yn Nhŷ’r Cyffredin, yn Albanwyr, yn Saeson ac yn Wyddelod, llwyddodd i achub pob cyfle i ddwyn sylw i arwahanrwydd y genedl Gymreig ac nid eithriad ychwaith oedd dydd ei briodas, a hynny ym mhresenoldeb y fath dyrfa o foneddigion dylanwadol a ddaeth ynghyd o bob cwr o’r wlad i dalu gwrogaeth i’r pâr ifanc. Breuddwyd fawr Tom Ellis oedd gweld ymreolaeth lwyr yng Nghymru – senedd, a sicrwydd hunanlywodraeth a fyddai’n fodd o ddyrchafu statws y genedl.

 

Yn ogystal, yr oedd yn dyheu am weld Cymru newydd. Ers cyfnod sefydlu Mudiad Cymru Fydd yn 1886, yr oedd wedi dadlau’n frwd fod gwahanol agweddau ar weithgarwch Rhyddfrydiaeth yng Nghymru, megis cadwraeth yr iaith Gymraeg a chydnabyddiaeth swyddogol iddi, cyfoeth y traddodiad llenyddol a’r angen i’w feithrin a holl ddylanwad y bywyd cerddorol Cymreig, yn deilwng o gael eu diogelu a’u defnyddio er budd Cymru benbaladr, yn fonedd a gwreng yn ddiwahân.[8] Fel yr ategodd yn un o’i areithiau:

            There is finer ore for the making of Welsh national wealth in its
            peasant and cottage homes even than in its rocks and hills. And
            if it is a fitting social aim to repay the services of the past by
            devotion to the services of the present and future, then shall we 
            be wise and dutiful in patiently planning and strenuously 
            endeavouring to brighten and enrich the life of Wales whence 
            
from age to age have arisen the leaders of the causes we love 
            and the discoverers of the light by which we live.[9]

Roedd Annie Davies, fferm Cwrt Mawr, Llangeitho, yn gymeriad o’r un anian. Hanai o linach Fethodistaidd David Charles (Caerfyrddin) ar ochr ei thad ac o linach y Parch. Peter Williams, y diwinydd a’r esboniwr, ar ochr ei mam.[10] Yn dilyn cyfnod yn ysgol Llangeitho, addysgwyd hi mewn ysgolion preifat yn Aberystwyth, Llundain a Chaer cyn dychwelyd yn 1892 yn fyfyrwraig i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yno bu’n astudio Hanes, Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg a Mathemateg ond nid hyd at safon gradd. Roedd yn un o saith o blant ac, o bryd i’w gilydd, danfonid hi a’i chwaer Sarah[11] i gadw tŷ i’w brodyr, John a Walter, yn 59 Chancery Lane, Llundain – y naill yn fyfyriwr y gyfraith a’r llall yn fyfyriwr meddygol. Yn ystod yr ymweliadau achlysurol hyn â’r brifddinas y cafodd Annie ‘Cwrt Mawr’ flas ar fywyd cymdeithasol lliwgar Cymry-Llundain. Ymgartrefodd yng nghapel Charing Cross a chroesawyd hi’n wresog i gartref y bargyfreithiwr W. Llywelyn Williams a’i wraig, a oedd yn gyrchfan boblogaidd i Gymry’r brifddinas yr adeg honno. Yno cynhelid ffug-eisteddfodau, cyngherddau, ymrysonau a thrafodaethau achlysurol ac o ganlyniad fe’i llysenwyd ‘Y Wladfa’ gan y sawl a âi yno. Dyma’r adeg yr oedd Mary Davies (‘Mair Mynorydd’) yn ei hanterth fel cantores, ond ni fu ei hymrwymiadau proffesiynol ar lwyfannau’r ‘music halls’ hyd yn oed yn rhwystr iddi ddwyn myfyrwyr ac ymwelwyr ifanc o Gymru, gan gynnwys rhai fel Annie Davies, dan ei hadain a darparu cyfleoedd iddynt ymddangos ym mywyd cyhoeddus y brifddinas. Pryd hynny y tyfodd cyfeillgarwch mynwesol Annie a hi ac er bod merch y ‘Cwrt Mawr’ yn rhyw lun ar delynores, ac yn ôl trefn a ffasiwn yr oes, yn canu’r piano, ni ddisgwylid iddi ddilyn gyrfa mewn unrhyw faes er gwaethaf ei chymhwyster a’i phriodoldeb i wneud hynny. Yn hytrach, cyfrifoldeb Annie Ellis yn y man oedd cefnogi ei gŵr ac ymddiddori yn yr un gweithgarwch cymdeithasol a diwylliannol y bu ef mor bleidiol trostynt, gan ddilyn yr un egwyddorion Rhyddfrydol ag a goleddai yntau.

Cyn canol mis Ebrill 1899, fodd bynnag, roedd Tom Ellis yn ei fedd a gorfodwyd i’w weddw ddygymod â bywyd ar ei phen ei hun unwaith yn rhagor.[12] Dychwelodd o 9 Cowley Street, Llundain, i fyw yn Aberystwyth[13] a chan ddilyn esiampl Mary Davies, fe ymdrechodd i groesawu myfyrwyr Cymraeg y coleg i’w chartref yn 6 Maes Lowri a’u cefnogi yn eu gweithgaredd amrywiol. Yn dilyn perswâd ei chyfeilles, ‘Mair Mynorydd’, fe ymaelododd Annie Ellis â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym mis Medi 1908.[14] Erbyn hynny, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi’i sefydlu ac ymdrechion arloesol aelodau Cymdeithas ‘Y Canorion’ yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ynghyd â momentwm y casglu cynnar yn graddol gynyddu. Yn ogystal, mae’n rhaid bod dylanwad uniongyrchol ei brawd, John Humphrey Davies,[15] a’i ddiddordeb ysol ef ym myd casglu hen lawysgrifau, hanes llenyddiaeth Gymraeg a thraddodiad y baledi wedi ei chyfeirio i’r maes. Ers blynyddoedd, pwysleisiai John bwysigrwydd astudio hanes Cymru a gwerth diogelu’r trysorau Cymreig ar wasgar ymhlith ei gydgenedl. Cyfeiriwyd ato gan J. Glyn Davies fel prif hynafiaethydd Sir Geredigion a ‘chwilotwr mileinig am hen lyfrau’,[16] a’i gasgliad helaeth ef a Syr John Williams o gyfrolau a llawysgrifau a ddaeth yn y man yn sail i sefydlu Llyfrgell Genedlaethol i Gymru. Ymddiddorai J. H. Davies mewn hen rigymau llafar gwlad, carolau, halsingod, arferion gwŷr hysbys, dyddiaduron a barddoniaeth y Trioedd, ac yn rhinwedd ei swydd fel Cofrestrydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, rhwng 1905 a 1919 ymdrechodd i uno’r Coleg â bywyd y werin o’i gwmpas. Er nad oedd ganddo ddoniau cerddorol amlwg,[17] yn ôl tystiolaeth ei lawysgrifau ymddengys iddo gofnodi geiriau rhai caneuon traddodiadol o Sir Aberteifi, gan gynnwys y faled Saesneg ganlynol:

 

I was go to Llandysul

I live in Llandysul in Shir Aberteifi
A letter inform me my uncle was dead,
To ask me in minute to go up to Llundain
For big lot of money was left me, ’twas said
So I was determined to go on my siwrne
And booking my ticket, first class was I fain
If I was go third class I was never engounter
Y weddw fach lân, I was see in the train.

 The widw and me side by side set together
In the carridge was no one but us and no more
Distawrwydd was broke by my preety companion
Who ask me the time by the watch I was wore.
Wrth gwrs, I tell her and then conversation
Was speaking between us indeed till my brain
Was go on the bendro, rown i bron mynd yn wallgo
Gyda’r widw fach lân, I was see in the train.

 She was so taliedd I venture to ask her
How old was the child she was have to her breast
Ah! Sir she did say and she did llefain shocking
And the plentyn she carried to her bosom she pressed
When you speak of my child, I’m quite broken hearted
His father my husband, oh my heart breaks with pain
And what she was do lean her head on my wasgot
Did widw fach lân, I was see in the train.

 By the time the train it was cum to the stashiun
A cwpwl of miles from the big one in town
When the widw was say as she look thro’ the window
“Good gracious alive”, why there goes Mr Brown,
He’s my late husband’s brother, dear sir, would you kindly
Take hold of my baby, I’ll be back again
Wrth gwrs, I was say ac allan i’r platform
Aeth y widw fach lân, I was see in the train.

 Three minutes go by, the gard whisl blowing
The train was a moving, no widw appears
So I holler out, “Stop, stop” but they pay no ’tenshien
With a puff and a puff, it was off I was fear
I was in this condishun indeed for an hour
My watch, ha! Where was it and where was my chain
My purse and my ticed, loose change was all gone
O ddrato’r hen weddw, I was see in the train.

 When I find out my colled indeed I was crying
Then they stopped the train and “tickets” I heard
So I tell the collector while shiggling the baby
The loss I was lost, but he doubted my word
So I call the policeman and a lot come about me
Then they take the babi, How shall I explain!
For indeed ’twas no babi, ’twas a doll bren a dummy
The villain old widow, I see in the train.[18] 

Yn ogystal â hyn, fe gofnodwyd ganddo fersiwn Gymraeg o’r gân ‘Auld Lang S’yne’.

Yr hen amser gynt

 Bu’n hoff i mi wrth deithio ’mhell
Gael croesaw ar fy hynt
Mil hoffach yw cael henffych well
Gan un fu’n gyfaill gynt.

 Cytgan:  

Er mwyn yr amser gynt, fy ffrins
Yr hen amser gynt,
Cawn wydraid bach cyn canu’n iach
Er mwyn yr amser gynt.

 Yn chwareu buom lawer tro
A’n penau yn y gwynt
A phleser mawr yn cadw co’
O’r hyfryd amser gynt.

 Er digwyddiadau mwy na rhi
Er gwario lawer punt
Try pob rhyw goll, ni chollais i
Y cof o’r amser gynt.[19]

Fel un o gyfeillion a chymwynaswyr Coleg Aberystwyth,[20] anfonid gwahoddiadau cyson at Annie Ellis a’i brawd i fynychu achlysuron Cymreig y myfyrwyr, yn enwedig dathliadau Gŵyl Ddewi ac eisteddfod flynyddol y Gymdeithas Geltaidd. Yn ystod y digwyddiadau hyn y clywid alawon a cheinciau traddodiadol yn ogystal â rhai o gyfansoddiadau cyfoes Cymru’r cyfnod (gweithiau gan Joseph Parry, David de Lloyd, David Jenkins a’u tebyg) yn cael eu perfformio gan unawdwyr a phartїon o blith rhengoedd y myfyrwyr. Yn y man, daeth enwau Gwen Taylor, Tudor Williams, Lewis Mendus a J. Ifor Rees[21] yn gyfarwydd yn y gymdogaeth, yn bennaf oherwydd eu doniau fel cantorion a dehonglwyr medrus y traddodiad brodorol Cymreig.[22] Ar yr adegau cyhoeddus hyn hefyd gwahoddid rhai fel Jenny Parry (‘Telynores Lleifiad’), Reuben Roberts a Lloyd Wyn Roberts (meibion John Roberts, ‘Telynor Cymru’), a Robert Williams, ‘Eos y Berth’ o Lanllechid, i ddarparu eitemau ar y delyn a datganiadau cerdd dant er diddanwch i’r cynulleidfaoedd a ddeuai ynghyd. Ond Annie Ellis yn anad neb arall fu’n ysbrydoliaeth i aelodau’r Gymdeithas Geltaidd yng Ngholeg Aberystwyth i wahodd Mrs Mary Davies i’w hannerch, fel y nodwyd yng nghofnodion y Gymdeithas ar 8 Tachwedd 1909:

            Gan fod Mrs Mary Davies, Llundain, yn ymweld â’r dref yma yn
            mis Ionawr, penderfynwyd yn ôl awgrym Mrs T. E. Ellis ein bod
            yn gofyn iddi roi darlith i ni ar ‘Welsh Folk Songs’ ar nos Fercher,
            Ionawr 12ed, 1910.[23]

Roedd hwn yn benderfyniad arwyddocaol a roes fod i ddatblygiadau allweddol yn hanes Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y canolbarth ac a fu’n sbardun i weithgarwch ymarferol yn y maes ymysg trigolion Aberystwyth a’r cylch. Gwen Taylor, myfyrwraig yn yr Adran Gymraeg, oedd yn gyfrifol am drefnu’r adloniant cerddorol ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus pwysig hwnnw ddechrau Ionawr 1910 a chanwyd enghreifftiau o alawon gwerin Cymru gan Dora Rowlands (Llangollen) a Jennie Williams (Aberystwyth)[24] cyn i Mary Davies ei hun ddwyn y ddarlith i ben drwy ganu dwy alaw draddodiadol syml.[25] Fel hyn yr adroddwyd am yr achlysur yng nghofnodion y Gymdeithas Geltaidd:

            Darlithiodd y gantores enwog yn Seisnig [sic] gan nad
            oedd yn ddigon hyderus ynddi ei hun i geisio areithio 
            yn iaith y Gymdeithas. Yr oedd y cyfarfod yn 
            hir-ddisgwyliedig, ac erbyn wyth o’r gloch, yr oedd Neuadd 
            yr Arholiadau yn orlawn o fyfyrwyr, aelodau, y 
            ‘staff’ ac ymwelwyr sydd yn enwog yn hanes Cymru,
            fel Mrs T. E. Ellis.[26]

Ar gais arbennig golygydd cylchgrawn y myfyrwyr, lluniwyd crynodeb o’r ddarlith hanesyddol hon gan Gwenan Jones, Trysoryddes y Gymdeithas Geltaidd a myfyrwraig yn yr Adran Addysg, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 1910 o The Dragon:

            Mrs Davies said that folk-songs were the direct 
            expression of the mind of the people. Music is the
            most expressive of the arts, and true folk-music is
            an outcome of the whole man. It is national rather
            than individual, and is distinct from art music. 
            There are three kinds of folk-music. The first consists
            of Harp melodies, which are instrumental airs and 
            ‘penillion’ airs ... The second class, Ballad music, is less Welsh
            in character and far inferior to the third class, Folk 
            songs. These are often found with the original words, 
            and the old modal scales have been kept. This has 
            
caused seeming irregular rhythms and unnatural
            modulations, which were taken as ignorant errors by
            18th century folk critics. But the loss of these would
            rob the folk-songs of their characteristic qualities which
            give them their charm.[27]

Ac ar ôl dwyn sylw’r gwrandawyr i gyd-destun cerddoriaeth frodorol y genedl ac at 4rai o brif gasgliadau cerdd y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys cyhoeddiadau John Parry ‘Ddall’ (Rhiwabon), Edward Jones (‘Bardd y Brenin’) a Maria Jane Williams (Aberpergwm), cyfeiriodd Mary Davies yn ei hanerchiad at y gwaith arloesol o gywain caneuon gwerin a gyflawnwyd gan gefnogwyr y maes ym Mangor:

            Many [folk songs] are still uncollected, and the Folk-
            Song Society, together with the ‘Canorion’ of Bangor
            are doing their best to unearth them.[28]

Roedd cyfraniad y Dr John Lloyd Williams i fyd cerddoriaeth draddodiadol y genedl, ynghyd â gwerth arbennig Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a ymddangosodd am y tro cyntaf yn 1909, yn hysbys i lawer yn y cylchoedd Cymreig bryd hynny ond Coleg y Gogledd fu’n brif ganolfan i weithgarwch o’r fath ers cyfnod sefydlu’r Gymdeithas Alawon Gwerin yn 1906, a nod y mwyafrif o garedigion y maes yr adeg honno oedd ennyn mwy o gefnogaeth mewn ardaloedd eraill ac ymhlith carfanau eraill o Gymry’r dydd.


Llwyddiant ysgubol fu ymweliad Mary Davies ag Aberystwyth y mis Ionawr hwnnw. O ganlyniad i’w darlith ac ymhen dim o dro, penderfynwyd sefydlu cangen o Gymdeithas y Canorion yn y Coleg gyda’r gobaith y byddai’r bwrlwm a welwyd ym Mangor yn gynharach yn y ganrif yn cydio yn y canolbarth hefyd. Fel y cofnododd Ysgrifennydd y Gymdeithas Geltaidd ar drothwy 1910:

            Creodd araeth [sic] ddyddorol ac addysgiadol
            
Mrs Mary Davies FRAM, Llundain, gymaint o 
            ddyddordeb ymhlith y myfyrwyr mewn alawon
            gwerin nes y teimlwyd fod yr amser wedi dod i
            sefydlu Cymdeithas o Ganorion yn y Coleg tebyg
            i’r Gymdeithas sydd eisoes mewn bodolaeth ym 
            
Mangor.[29]

Rhaid bod yr awydd i sefydlu cangen o Gymdeithas y Canorion yn Aberystwyth yn galondid aruthrol i arloeswyr y maes bryd hynny ac yn gyfrwng i wireddu breuddwydion J. Lloyd Williams, fel Golygydd y Cylchgrawn ac Alfred Perceval Graves, a fu mor hael ei gefnogaeth i’r gwaith yn y Gogledd. Ond er cymaint y brwdfrydedd i sefydlu cymdeithas ‘Y Canorion’ yn Aberystwyth cafwyd cryn anghytundeb ynghylch statws a swyddogaeth cangen o’r fath ymhlith aelodau’r Gymdeithas Geltaidd yn y Coleg. Penodwyd unigolion i wasanaethu fel aelodau cynorthwyol ar bwyllgor y Gymdeithas Geltaidd, ac yn eu plith Yr Athro Edward Edwards (Llywydd), Yr Athro David Jenkins (Llywydd Mygedol yr Adran Gerddoriaeth), Yr Athro Edward Annwyl (Llywydd Mygedol yr Adran Lenyddol), D. Brynmor Anthony (Is-Lywydd), Gwen Taylor (Trysoryddes), R. R. Jones, Dolgellau (Ysgrifennydd), a Dora Rowlands (aelod o’r pwyllgor).[30] Ond ystyrid Cymdeithas y Canorion yng Ngholeg Aberystwyth fel adain o’r Gymdeithas Geltaidd yn hytrach na chymdeithas annibynnol, a chyfrifoldebau pennaf yr is-bwyllgor hwn oedd cynnal gweithgaredd a pherfformiadau cerddorol fel cyfrwng diddanwch o fewn i’r Coleg ac yn y gymuned y tu hwnt. Er 1899 roedd yr arfer o drefnu Cyfarfod Adloniadol (ynghyd ag eitemau cerddorol), eisteddfod ac Ymgomwest (soirée) flynyddol, pryd y deuai telynorion a datgeiniaid canu penillion adnabyddus i’r Coleg i ddiddanu’r myfyrwyr a’u gwesteion, wedi’u hen sefydlu. Sicrhau parhad yr adloniant cerddorol hwnnw oedd dyletswydd pennaf ‘Y Canorion’ yn Aberystwyth yn y misoedd cynnar hynny ac er i natur a chynnwys y cyngherddau hyn droi yn fwy Cymreig a gwerinol eu naws yn dilyn ymweliad Mary Davies yn 1910, nid oedd casglu na chofnodi alawon gwerin yn y gymdogaeth y tu hwnt i’r Coleg yn flaenoriaeth i’r aelodau ar y dechrau, o’i gymharu â’r hyn a gyflawnwyd gan Gymdeithas ‘Y Canorion’ ym Mangor rai blynyddoedd ynghynt.[31] O dipyn i beth, fodd bynnag, gwelwyd ôl eu dylanwad a thyfodd eitemau o ganu traddodiadol Cymru yn fwy amlwg a phoblogaidd yng nghyngherddau wythnosol Coleg Aberystwyth. Sefydlwyd triawdau a phedwarawdau ymhlith y myfyrwyr yn bennaf i berfformio trefniannau lleisiol o ganeuon gwerin y genedl, ac er efallai fod rhai casglyddion digon dibrofiad ymhlith aelodau ‘Y Canorion’ hynny, ni chafwyd yr un cyswllt agos rhwng cywain alawon brodorol a’u perfformio yn seremonїau a chyfarfodydd cyhoeddus Aberystwyth fel ag y cafwyd gan John Morris, R. E. Vaughan Jones, Owen Bryngwyn a’u tebyg yng Ngholeg y Gogledd ym Mangor yn gynharach yn y ganrif. Fodd bynnag, Dora Rowlands (Dora Herbert Jones yn ddiweddarach) oedd cantores amlycaf ‘Canorion’ Aberystwyth yn y cyfnod rhwng 1910 ac 1913. Hi yn anad neb arall fu’n ymgorffori’r adfywiad canu gwerin a oedd ar droed yng Nghymru’r adeg honno, a’i dehongliadau meistrolgar hi o alawon fel ‘Doli’, ‘Yr Hen Erddygan’ a ‘Gwcw Fach’ fu’n gyfrwng i ennyn diddordeb ymhlith y myfyrwyr eraill yn y maes.[32] Ei gallu anghyffredin hi fel unawdydd a chantores draddodiadol fu’n fodd hefyd i ddenu sylw a chefnogaeth gerddorol rhai fel Lewis Knight,[33] Tudor Williams[34] a Gwen Taylor ac, yn y man, y myfyrwyr hyn a ystyrid yn bedwarawd lleisiol swyddogol ‘Cymdeithas y Canorion’ yn y coleg.[35]

Yn eisteddfod flynyddol y Gymdeithas Geltaidd ym mis Chwefror 1910,[36] gwahoddwyd y cyfansoddwr David Jenkins (Pennaeth yr Adran Gerdd) a Madam Lucie Barbier, athrawes ganu swyddogol y Coleg, i feirniadu’r cystadlaethau cerdd a chyhoeddwyd yn ystod y digwyddiad hwnnw y byddai Mrs Tom Ellis yn cynnig gwobr o £1-1-0 am gasgliad gwreiddiol o alawon Cymreig anghyhoeddedig yn Eisteddfod y Gymdeithas y flwyddyn ddilynol.[37] Roedd hyn yn arwydd pellach o haelioni a chefnogaeth ymarferol Annie Ellis ynghyd â’i dymuniad i weld sefydlu’r arfer o gasglu caneuon brodorol fel rhan naturiol o weithgaredd yr achos yn Aberystwyth, yn unol â nod ac amcanion Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn genedlaethol. Roedd cynnal cystadleuaeth o’r fath yn adlewyrchu’r hyn a ddigwyddai yn Eisteddfodau Cenedlaethol y cyfnod hefyd ac yn cynrychioli awydd swyddogion Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru i weld casglyddion caneuon traddodiadol ar waith ym mhob cwr o Gymru.[38] O ganlyniad i’w darlith, roedd Mary Davies wedi llwyddo i ddarbwyllo nifer o efrydwyr Cymraeg Aberystwyth o werth arbennig y caneuon traddodiadol hyn a’r angen i ddwyn deunydd ynghyd ar fyrder er mwyn sicrhau perfformiadau ohonynt a’u poblogeiddio ymhlith Cymry’r dydd. Cydnabu hefyd mai trwy gyfrwng y traddodiad llafar yn unig y byddai alawon o’r fath yn goroesi, a than arweiniad di‑syfl Annie Ellis mentrwyd ffurfioli gwaith ‘Y Canorion’ cynnar yn Aberystwyth, er mwyn cydymffurfio â dyheadau arloeswyr y Gymdeithas Alawon Gwerin yn y Gogledd.

Erbyn canol mis Mawrth 1910, deufis wedi ymweliad Mary Davies â’r dref, roedd yr ysfa i ddeall mwy am fyd y caneuon gwerin ar gynnydd ymhlith y myfyrwyr a mabwysiadwyd yr arfer o gael nodiadau yn olrhain hanes, cefndir a thras yr alawon brodorol a berfformid yng nghyngherddau cyhoeddus y Gymdeithas Geltaidd – arwydd pellach o ddiddordeb y datgeiniaid yn y traddodiad a’u hawydd i ddyrchafu hynodrwydd y grefft ymysg cynulleidfaoedd digon anwybodus y cyfnod. Fel y dengys rhaglen y cyngerdd a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 1910:

                        Alaw: Cân y Broga: Mr Tom Williams

            Cawsom yr alaw hon oddi wrth Mr Jack Edwards, Great
            Darkgate Street, Aberystwyth yr hwn a glywodd ei chanu
            gan frodor o Lanon 48 mlynedd yn ôl. Dyddorol yw sylwi
            fod ystori y broga i’w chael hefyd yn llên gwerin 
            Lloegr – gweler Chappells – ‘Book of English folksongs’. 
            Digwydda y flattened 7th fwy nag unwaith yn yr alaw, ac
            y mae hyn yn nodweddiadol o wir alawon gwerin. Y mae
            hon heb ei chyhoeddi hyd yn hyn a chanwyd hi y noson hon 
            am y tro cyntaf yn gyhoeddus.[39]

Yn yr un cyngerdd, canodd yr Athro David Jenkins, Pennaeth yr Adran Gerdd, y gân ‘Rhywun’ ar yr alaw ‘Clywais lawer sôn a siarad’ a gasglwyd ganddo yn ardal Aberaeron, ac yn dilyn cymeradwyaeth y gynulleidfa ymrwymodd i gynnal noson arbennig ar faes alawon gwerin dan adain y Gymdeithas Geltaidd ym 1911.[40] Ond roedd cyngerdd mis Mawrth 1910 yn achlysur o bwys hefyd am mai dyma pryd yr ymddangosodd y Ffrances, Madame Lucie Barbier, am y tro cyntaf yn canu caneuon gwerin yn y Gymraeg. Fel yr adroddodd gohebydd The Dragon:

            Mae Madam Barbier, serchog wraig ein hathraw Ffrancaeg [sic]
            newydd eisoes wedi ymdaflu yn hollol i fywyd Cymreig yn
            ogystal ag i fywyd cyffredinol y Coleg. Canodd yn Gymraeg am y
            tro cyntaf yng nghyngerdd mis Mawrth eleni pryd y clywsom hi yn
            canu ‘Doli’, alaw a gasglwyd gan J. Lloyd Williams, ‘Ffarwel
            Mari’ a ‘Gwcw fach ...’ Nid yn aml y clywir y fath ganu 
            swynol a chlasurol hyd yn oed yn ein Coleg ni.[41]

Bu’r cyngerdd dan nawdd ‘Y Canorion’ y mis Mawrth hwnnw yn llwyddiant ac yn gyfrwng i ddwyn sylw penodol i faes canu gwerin y genedl ymhlith myfyrwyr Aberystwyth, fel y tystia’r Ysgrifennydd wrth gofnodi ei atgofion o’r digwyddiad:

            Mae y Gymdeithas [Y Canorion] wedi dechrau yn odidog dan nawdd
            Y Gymdeithas Geltaidd a hyderwn y bydd iddi dyfu yn gyflawn
            faintioli, yn anrhydedd i’r fam-Gymdeithas. Rhwydd hynt iddi.[42]

Cyfrol J. Lloyd Williams, Ceinion y Canorion,[43] oedd prif ffynhonnell brintiedig cantorion Coleg Aberystwyth yr adeg honno, ac yn wyneb y fath fwrlwm cerddorol cynyddodd y diddordeb ym myd yr alawon gwerin a’r arferion brodorol i’r fath raddau fel y gwahoddwyd John Humphrey Davies, Cofrestrydd y Coleg, i draddodi darlith ar fyd y ‘Baledi Cymreig’ ddiwedd mis Tachwedd 1910.[44] Roedd Mary Davies yn bresennol bryd hynny hefyd, yn bennaf er mwyn canu rhai o’r enghreifftiau cerddorol ac i gyflwyno eitemau perthnasol a recordiwyd ganddi mewn gwahanol ardaloedd o Gymru drwy gyfrwng y ffonograff.[45] Ers dechrau’r flwyddyn golegol ym mis Hydref 1910, etholwyd swyddogion newydd i weithredu ar bwyllgor Cymdeithas y Canorion i barhau’r gwaith da a gyflawnwyd eisoes. Yn eu plith yr oedd:

            Yr Athro Stanley Roberts (Llywydd),
            Mr John Hughes (Is-lywydd),
            Mr Eddie J. Thomas (Ysgrifennydd),
            Miss Dora Rowlands a Miss Dilys Jones (aelodau o’r pwyllgor)[46]

Er cymaint oedd y cyfrifoldeb o drefnu eisteddfod, cyngherddau achlysurol ac Ymgomwest flynyddol, ni chaniatawyd i’r ‘Canorion’ yn Aber fod yn gorff annibynnol ac fe barhaodd yr aelodau i weithredu dan oruchwyliaeth swyddogion y Gymdeithas Geltaidd, a hynny er gwaethaf eu llwyddiant a’u dylanwad yn y Coleg.[47] O bryd i’w gilydd deuai rhai o’r Canorion ynghyd i ddiddanu mewn cyngherddau eraill yn y Coleg – digwyddiadau fel ‘The Capping Soirée’[48] adeg y seremonïau graddio a’r ‘Annual Sports Concert’,[49] a rhoddai hyn gyfle i ddwyn sylw pellach i’r diddordeb cynyddol ym myd caneuon gwerin Cymru, yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr di-Gymraeg a’r ymwelwyr o wledydd tramor. Dora Rowlands, Gwen Taylor, Lewis Mendus a Tom Williams oedd y diddanwyr mwyaf gweithgar a llwyddiannus yn hyn o beth. Fel y cofnoda un o ohebwyr The Dragon: ‘We have been led confidently to expect artistic and sympathetic performances from them’.[50]  sy’n ategu apêl a phoblogrwydd y cantorion hyn ar adeg pan oedd y gefnogaeth i faterion Cymreig, yn enwedig materion a ddaliai gyswllt agos â chefn gwlad Cymru, yn prysur ddirywio.

Deuai Annie Ellis i gefnogi digwyddiadau o’r fath a gelwid arni’n aml i gyflwyno’r alawon neu i draddodi anerchiad byr i ddwyn sylw i weithgaredd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru mewn ardaloedd eraill yr adeg honno. Fel un o Is-lywyddion CAGC,[51] ynghyd â David Lloyd George, yr Arglwydd Mostyn a Syr John Rhys, roedd yn ymwybodol o bwysigrwydd lledaenu enw da’r Gymdeithas, denu aelodau newydd a sicrhau mwy o gasglyddion ifanc brwdfrydig fyddai’n barod i genhadu a chywain alawon traddodiadol mewn ardaloedd gwahanol o Gymru a’u dwyn i sylw J. Lloyd Williams ym Mangor. Gobaith Annie Ellis oedd y deuai cynnyrch y casglyddion newydd hyn yn y man yn ddeunydd i’w gyhoeddi ar dudalennau Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac y byddai’n gyfrwng i ymestyn repertoire ac ehangu gorwelion myfyrwyr ac aelodau staff y Coleg yn Aberystwyth.

Yn eisteddfod y Gymdeithas Geltaidd ym mis Mawrth 1911, er enghraifft, dyfarnwyd gwobr o hanner gini i John Hughes (o Bencader), myfyriwr yn yr Adran Gymraeg, am gasglu tair cân werin Gymreig anghyhoeddedig, ac er mai ef yn unig fu’n barod i fentro y flwyddyn honno[52] fe barhaodd Annie Ellis i noddi’r gystadleuaeth am flynyddoedd. Ei gobaith oedd y deuai alawon newydd i olau dydd a fyddai’n cynnal y diddordeb yn y maes ac yn diwallu anghenion cynheiliaid y traddodiad yn dilyn eu cyhoeddi ar dudalennau cylchgrawn y gymdeithas.[53]

Ym mis Mawrth 1911 cynhaliwyd dau ddigwyddiad arall o bwys yn hanes ‘Canorion’ Aberystwyth.[54] Fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi ar Fawrth 3ydd perfformiwyd detholiad o’r chwareugan Aelwyd Angharad, a fu mor boblogaidd yn siroedd y gogledd adeg sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.[55]

 

Yn ogystal â darparu diddanwch o safon, llwyddodd y perfformiad o’r operetta yn Aberystwyth, fodd bynnag, i uno’r Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg, fel yr eglurodd gohebydd The Dragon:

            In a College where many cannot speak Welsh there is 
            an obvious difficulty, which it is unwise to ignore, but a very
            solution was found this year in the performance of
            selections from the operetta ‘Aelwyd Angharad’. Ignorance
            of Welsh was not a barrier to the enjoyment of the music
            and the company made a charming picture in their quaint
            costumes.[56]

Oherwydd y prysurdeb eisteddfodol a’r prinder amser i ymarfer yr adeg honno o’r flwyddyn, sylwodd gohebydd The Dragon nad oedd pob agwedd ar y perfformiad cyntaf hwnnw o’r Aelwyd yn deilwng o ganmoliaeth:

            The performance itself was a little ragged, especially in the 
            concerted pieces, and the enunciation of some of the
            speakers was not clear. But despite these indications of
            insufficient rehearsal, the presentation of the Operetta as
            a whole was very effective.[57]

Dora Rowlands oedd seren y perfformiad o Aelwyd Angharad yn 1911 (roedd hi erbyn hynny wedi ennill ei lle fel cantores fwyaf adnabyddus y Coleg), ac yn ôl ei harfer fe lwyddodd i swyno’r gynulleidfa trwy gyfrwng ei chymeriadu dihafal a’i dehongliad cyfareddol o’r alawon Cymreig:

            The leading parts were well sustained and, in particular,
            the singing of Miss Dora Rowlands, as Gwen, gave unmixed
            pleasure. Llelo Llawchwith (Mr Roger Thomas), however would 
            do well to check his tendency to exaggerate humour into
            buffoonery. Restraint would add greatly to the force of his
            acting.[58]

Roedd carfan o fyfyrwyr Bangor a Chaerdydd, ynghyd â rhai cyn-fyfyrwyr o goleg Aberystwyth, yn bresennol yn y perfformiad cyntaf hwn yn y canolbarth o Aelwyd Angharad, ac fe arweiniodd hynny yn y man at ledaenu poblogrwydd y gwaith.[59] Llwyddiant yr achlysur ac apêl cyffredinol y gerddoriaeth a barodd i ohebydd The Dragon annog aelodau’r Gymdeithas Geltaidd i fentro eto i’r maes a dwyn adloniant tebyg i sylw myfyrwyr y dyfodol.[60]     

 

Uchafbwynt gweithgaredd cerddorol y ‘Canorion’ yn 1911, fodd bynnag, oedd ymweliad pedwar o fyfyrwyr Aberystwyth â Pharis i berfformio alawon gwerin Cymreig dan gyfarwyddyd Madame Lucie Barbier, athrawes leisiol y Coleg. Fel prif gynrychiolydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y canolbarth a chaperone i’r diddanwyr ifanc, teithiodd Annie Ellis yn eu cwmni’n ogystal. Fel yr adroddodd J. Lloyd Williams flynyddoedd lawer yn ddiweddarach:

            The visit of four Welsh students from Aberystwyth – Miss Dora 
            Rowlands, Miss Gwen Taylor, Mr Tudor Williams and Mr L. S.
            Knight – to Paris, under the able guidance of Madame Barbier is
            worth mentioning. They sang six Welsh folk-tunes arranged in 
            parts, and nine as solos, at the Salle des Sociétés Savantes, and
            also at the Sorbonne, and gave great delight to the audiences 
            assembled.

In a letter dated March 31st [1911], Mrs T. E. Ellis who, with Mrs Herbert Lewis accompanied the party says:

            I must write to tell you of the spendid reception the ‘Caneuon’ have 
            had. The students who came over from Aberystwyth have done their 
            part well, and have charmed the various audiences who have listened 
            to them. ‘Yr Hen Erddygan’ has been the favourite quartette. Last 
            night at a very ‘smart’ gathering, the audience began to applaud 
            before the end of the second line. It really HAS been delightful hearing 
            these simple and charming Welsh songs sung in this gay city
where 
            simplicity is so lacking …
                  Tonight the students sing at the Sorbonne and Mr Timothy Lewis is 
            giving a lecture on ‘Welsh Folk Songs and Music’.[61]

 

Er mai trafod llên gwerin a thraddodiadau llenyddol y gwledydd Celtaidd[62] ac nid ymdriniaeth o gerddoriaeth  werin Cymru oedd testun darlith Timothy Lewis y noson honno,[63] fe gafwyd ymateb hynod gadarnhaol i holl berfformiadau’r pedwarawd ac i safon a chynnwys y trefniannau a ganwyd ganddynt. Nid ar chwarae bach yr oedd ymgymryd â menter fel hon. Y bwriad yn ystod yr ymweliad â Pharis yn 1911 oedd cynnal cyfres o gyngherddau hwnt ac yma yn y ddinas er mwyn arddangos doniau’r pedwarawd a dathlu cyfoeth yr alawon Cymreig ymysg y trigolion. Drwy gysylltiadau Madame Lucie Barbier llwyddwyd i ddenu nawdd a chefnogaeth ar gyfer y digwyddiadau unigol gan gymdeithasau, sefydliadau ac unigolion gwahanol, fel a ganlyn:

            Mawrth 28 1911      Cyngerdd prynhawn dan adain Musique d’Ensemble a
                                        chyda nawdd Mme. Desmarais
            Mawrth 29 1911      Cyngerdd yr hwyr dan adain Le Lied en Tous Pays yn
                                        La Salle des Sociétés Savantes
            Mawrth 30 1911      Cyngerdd prynhawn dan adain Audition d’Élèves
            Mawrth 30 1911      Cyngerdd yr hwyr yn La Sociétés d’Entre Nous 
            Mawrth 31 1911      Cyngerdd prynhawn dan adain Musique d’Ensemble a
                                        chyda nawdd Mme. Benard
            Mawrth 31 1911      Cyngerdd yr hwyr dan adain L’Association des
                                       
Professeurs de Langues Vivantes de l’Enseignement 
                                        
Public yn Amphitheatre Richelieu, Prifysgol Paris y 
                                        Sorbonne[64]

Er bod rhai o aelodau’r pedwarawd wedi mynegi pryder fod gormod o ddeunydd traddodiadol yn rhaglen y cyngherddau a gynhaliwyd ganddynt ym Mharis, mae’n amlwg yn ôl tystiolaeth papurau dyddiol y cyfnod y bodlonwyd y cynulleidfaoedd a ddaeth ynghyd gan gyfoeth y lleisiau ifanc, ansawdd sain ac amrywiaeth y caneuon brodorol Cymreig a berfformiwyd iddynt.[65] Fel hyn yr ymatebodd golygydd Le Pays Breton yn dilyn y cyngherddau:

            Daeth carfan o fyfyrwyr o Brifysgol Cymru yn Aberystwyth i
            Baris yr wythnos ddiwethaf i ddangos i’r Ffrancwyr nid yn unig 
            mai’r Cymry yw’r pêl-droedwyr gorau yn y byd ond mai hwy hefyd 
            yw’r cantorion gorau.[66]

Bu’r digwyddiad hefyd yn gyfrwng i ddwyn sylw i’r berthynas agos rhwng Cymru a Llydaw, i’r cysylltiadau ieithyddol a’r tebygrwydd diwylliannol rhyngddynt. Yn ogystal, bu perfformiadau’r pedwarawd o Gymru yn gymorth i danio chwa o genedlaetholdeb ymysg Llydawyr y brifddinas a chafwyd apêl ar dudalennau’r wasg i ddefnyddio’r iaith a sicrhau ei pharhad drwy gynnal cyngherddau tebyg yn y dyfodol. Roedd ymateb brwdfrydig René Lenormand, sylfaenydd Cymdeithas ‘Le Lied en Tous Pays’, a sefydlwyd gan gerddorion a llenorion y ddinas i hyrwyddo caneuon Ffrengig mewn gwledydd tramor a chaneuon rhyngwladol yn Ffrainc, yn adlewyrchu barn y mwyafrif a ddaeth ynghyd i’r cyngherddau Cymreig:

            Bravo! Roedd pob dim yn hyfryd ac fe’m swynwyd gan natur
            y lleisiau ffres a gyddfol hyn. Mae ganddyn nhw gryfderau nas
            gwelir yma, ac mae ansawdd y sain yn gwbl gyfareddol.[67]

Ar dudalennau papur dyddiol Le Matin ar Ebrill 2ail, fodd bynnag, y cafwyd y ganmoliaeth amlycaf i gamp a gorchest y cantorion ifanc:

            Nid cerddorion proffesiynol ond myfyrwyr yw’r rhain.
            Mae eu lleisiau’n berffaith a’u harddull yn ddilychwin.
            Canwyd caneuon gwerin Cymreig ganddynt mewn 
            harmoni perffaith – rhai ohonynt yn ddifrifol neu’n
            arwrol, rhai eraill yn llon a thyner. Mae gan y caneuon 
            nodweddion unigryw o safbwynt lliw ac acen, a 
            thrafodwyd y nodweddion hyn yn huawdl ddigon gan
            yr Athro Lewis. Cafodd y bobl ifanc hyn – Meistri Williams
            a Knight, Miss Rowlands a Miss Taylor – dderbyniad gwresog 
            gan y cyhoedd, ac fe gyfeiliwyd iddynt gan Madame Barbier,
            Ffrances yr ŷm ni’n ddyledus iddi am ddwyn ein cerddoriaeth ni
            i Loegr. Mewn anerchiad byr, mynegodd ei dymuniad y dylai 
            ein cyfansoddwyr ni fynd i Gymru er mwyn cael eu hysbrydoli
            gan y traddodiad iach a gyflwynwyd i ni ac fe gyfeiriodd y 
            byddai hyn yn un o’r dulliau mwyaf dymunol i wireddu ysbryd
            yr ‘entente cordiale’.[68]

Parhaodd cyswllt agos Annie Ellis â Choleg Aberystwyth trwy gydol 1912 a 1913. Sicrhaodd ailberfformiad o Aelwyd Angharad gan aelodau’r ‘Canorion’ ym mis Chwefror 1912[69] a phan benodwyd hi’n llywydd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr adeg y Pasg y flwyddyn honno (arwydd pellach o’r parch eithriadol oedd iddi ymhlith Cymry Aberystwyth y cyfnod hwnnw), trefnodd adloniant yn seiliedig ar alawon a cheinciau traddodiadol Cymreig yng nghwmni Dora Rowlands a’r pedwarawd lleisiol a fu ym Mharis y flwyddyn flaenorol.[70] Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd Tom Ellis wedi trefnu achlysur tebyg a oedd yn cyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg i ddwyn cyfarfod cyntaf o gyn-fyfyrwyr y Coleg ynghyd un mlynedd ar hugain ynghynt.

Fel gweithwraig ddyfal, cyflawnodd Annie Ellis waith gorchestol fel prif gynrychiolydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y canolbarth cyn dyfodiad y Dr J. Lloyd Williams i’r Coleg yn 1914.[71] Erbyn y cyfnod hwnnw roedd y gamp o gynnau’r diddordeb yn y maes, o godi’r ymwybyddiaeth o alawon y traddodiad a chenhadu ymhlith cynheiliaid y gân wedi eu cyflawni a hynny’n unig oherwydd ei hymdrechion hi. Yn yr un modd, roedd y gwaith o gasglu alawon brodorol yn ardaloedd diarffordd Sir Geredigion (Tregaron, Llandysul, Penuwch a’r cyffiniau) hefyd yn prysur fynd rhagddo – ac Annie Ellis yn ddolen gyswllt bwysig rhwng casglyddion profiadol y maes (rhai tebyg i’r Fonesig Ruth Herbert Lewis) a’r gymdogaeth y gwyddai hi gymaint amdani.

Wrth gyfeirio at lwyddiant yr ymgyrchoedd casglu alawon gwerin hyn ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, nododd J. Lloyd Williams y newid graddol a fu yng ngweithgaredd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y cyfnod:

            The Officials of the Society continue to collect interesting folk 
            songs and to accumulate more information about those already
            collected. The centre of interest has this year shifted from
            Caernarfon and Meirioneth to Cardiganshire and Montgomery
            where Mrs Mary Davies assisted by Mrs T. E. Ellis, the
            Misses Davies, Plas Dinam and others have secured some 
            interesting ‘finds’ and several new workers. Many phonographic
            records have also been obtained in this district.[72]

Ymweld â Sir Aberteifi i feirniadu yn Eisteddfod Llangeitho a wnaeth Mary Davies ym mis Gorffennaf 1910, ac yn ôl ei harfer gwnaeth yn fawr o’r cyfle drwy gasglu rhai caneuon gwerin nodweddiadol o’r gymdogaeth yn ystod ei harhosiad yn y canolbarth. Fel un o gasglyddion mwyaf profiadol y Gymdeithas yr adeg honno, roedd cael cefnogaeth Annie Ellis a oedd yn enedigol o’r fro ac yn gyfarwydd â’r ardal a’i thrigolion, ac a siaradai Gymraeg, yn fanteisiol iawn iddi. Yn ystod ymweliad Mary Davies â Llangeitho yn 1911 y recordiwyd cân ‘Y Ddau Farch’ gan wraig fferm Penrheol (Llangeitho) a hynny drwy gyfrwng ffonograff ym mharlwr y Cwrt Mawr.[73] Yn yr eisteddfod hon cynigiai Annie Ellis wobr o ddwy gini am y perfformiad gorau o gân werin Gymreig sy’n tystio ymhellach i’w hawydd i gefnogi a diogelu hen arferion y traddodiad llafar yn ei chymdogaeth enedigol.[74]


 

Rhaid bod y cyfle i gydweithio unwaith eto gyda Mary Davies ar yr achlysur hwn wedi bod yn brofiad amheuthun i Annie Ellis ac yn baratoad da ar gyfer ei hymweliad ag ardal Llandysul yng nghwmni’r Fonesig Ruth Herbert Lewis ym mis Mehefin 1913. Cyfeiria rhifyn cyntaf Cylchgrawn Alawon Gwerin Cymru at gyfoeth y caneuon gwerin a oedd ar gael yn yr ardal ddeheuol hon o’r sir. Yno ar lannau afon Teifi, yn ôl J. Lloyd Williams, y cofnodwyd ‘Ym Mhontypridd mae ’nghariad’, ‘Y Fwyalchen Ddu Bigfelen’ a’r gân ‘A ei di’r Perot Pêr?’ a ymddangosodd yn llawysgrif ‘Orpheus’ o ganu gwerin cynnar a gyflwynwyd yn Eisteddfod Llangollen ym 1858.[75] Gwyddai John Humphrey Davies yn dda am yr ardal hefyd, am gyfoeth geiriol caneuon a baledi’r fro,[76] ac mae’n siŵr iddo gynghori ei chwaer ar y mater a’i chyfeirio i’r mannau lle yr oedd bywyd diwylliannol y gymdogaeth ar ei gryfaf. Yn ogystal, tystia un o lythyrau Ruth Herbert Lewis at Amy Preece, Ysgrifenyddes Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru bryd hynny, eu bod ar un o’r teithiau casglu wedi cael cymorth a chyfarwyddyd un o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth a darlithydd yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe, yn ystod eu harhosiad yn y dref.[77]


 

Am wythnosau cyn dyfodiad Annie Ellis a Ruth Herbert Lewis i ardal Llandysul bu Miss Mary Hughes[78] (chwaer John Hughes, myfyriwr yn Adran y Gymraeg, Coleg Aberystwyth, a gafodd y wobr am y casgliad gorau o alawon gwerin anghyhoeddedig yn eisteddfod y Gymdeithas Geltaidd yn 1911) yn ddiwyd yn chwilio am gantorion a chefnogwyr canu gwerin y gymdogaeth er mwyn i’r ddau ymwelydd eu recordio. Cofnododd Ruth Lewis ei hatgofion o’r daith gasglu yn yr ardal rhwng 24 a 26 Mehefin (1913) ar ffurf dyddiadur, a chyfeirir ynddo at lwyddiant diamheuol Annie Ellis yn dwyn perswâd ar rai o drigolion y fro i rannu eu caneuon a’u recordio drwy gyfrwng y ffonograff.[79] Enwogrwydd Annie Ellis, fel gwraig un o gyn-wleidyddion Rhyddfrydol amlycaf ei gyfnod, a’i chyfeillgarwch â rhai o weinidogion Anghydffurfiol blaenllaw’r genedl fu’r dylanwad pennaf ar gymeriadau ardal Llandysul. Fel y cyfeiria J. Lloyd Williams:

            Lady Lewis, Mrs Tom Ellis and Mrs Mary Hughes 
            [sic] had an interesting song-collecting experience in the 
            Llandyssul-Llangeler district. A great deal of tact and 
            diplomacy had to be used in dealing with the old singers, 
            and the arguments employed varied according to the
            temperament of the persons. In spite of every effort,
            they failed to induce one old lady of 96 to sing any of 
            her songs.[80]

Yn un o’i llawysgrifau cofnododd Annie Ellis eiriau rhai o’r caneuon a glywyd yn ystod y daith yng nghyffiniau Llandysul yn 1913 a hynny am nad oedd Ruth Herbert Lewis yn deall digon o Gymraeg i allu dilyn rhediad nac ystyr y penillion.[81] Gan Mrs Jenkin Jones, Manordeifi, Charles Street, Llandysul, a casglwyd y caneuon canlynol:

Hapus Ddydd

O hapus ddydd pan oeddwn
Yn llon o gylch fy mam,
Heb hidio fawr am undyn,
Gan neb ni fynnwyn gam.
Dedwyddwch lond fy mynwes,
A gwridog ruddiau iach,
Fy oriau’n llawn pleserau,
Pan oeddwn yn blentyn bach.[82]

Cân Serch i fy Hen Gariad

Mi welais ryw ddydd fy hen gariad,
Mi welai fy llygaid o draw,
Mi ddaethai yn llon ac yn serchog
Tuag ataf i siglo fy llaw.
Ond nawr ni ddaw e’n agos
Dim mwy na ’ta fe wedi ei gloi.
Rhowch i mi resymol resymau,
Beth ga’s eich meddyliau chwi droi.[83]

Shic Shac

Tra byddo calch ar dalcen plas
Ac ar y glomen blufyn glas
A thra bo’r ych yn rhodio’r ddôl,
F’anwylyd fach, ni ddŵai nôl.[84]

Deryn Bach

Deryn bach yn y llwyn ganai[’n] fwyn,
Nes yn synnu gyda’i swyn,
Swyna’i lais, eiria’ lu
Ar y gangen fry.
O mae’r deryn wrth ei fodd,
Pan mae’n diolch am bob rhodd,
Moliant Duw, nodau gwiw
Cana’r deryn bach.[85]

Y Wennol 

Gwennol fwyn, ti ddaethost eto
I’n dwyn ar gof fod haf ar wawrio,
Wedi bod yn hir ymdeithio,
Croesaw, croesaw iti.

 Nid oes un rhyw berchen aden
Mor gariadus [â’r] wen ddolen,
Pawb a’th weled sydd yn llawen
Meddai’r wennol, ‘twi, twi, twi’.[86]

Llwyddwyd hefyd i holi Jenkin Jones, ei gŵr (crydd a hanai o Dregaron) wedi iddo ddychwelyd o’i waith. Ond fel y noda Ruth Herbert Lewis yn ei dyddiadur:

            He was rather early Victorian in his choice
            of songs. He sang us ‘Lliw Gwyn Rhosyn yr haf’,
            and ‘Yr asyn a fu farw’. He knew ‘Hen Ŵr mwyn’
            but could not remember ‘Dei Cantwr’. Most of what
            he knew had been published.[87]

Yn ogystal â’r caneuon hyn, fodd bynnag, cofnododd Annie Ellis ddau bennill o eiriau’r gân serch ‘Shôn Dafydd’ yn ystod perfformiad Jenkin Jones:

Shôn Dafydd

Shôn Dafydd a fydd addfwyn
Pan gyntaf gwelais chi
A’ch gwallt oedd fel y frân, Shôn,
A’ch talcen gwyn yn hy.
Ond nawr mae’ch pen yn foel, Shôn,
A’ch barf fel sidan gwyn
A gwywo wnaeth [eich] gruddiau glân
Ond hardd i chwi er hyn.

Am drigain mlynedd hir, Shôn
’Rym wedi byw yn hir,
A charu pan yn ieuanc, Shôn
A charu ry’m o hyd.
Ffarwel yn awr fy annwyl Shôn,
Mi welaf angau draw,
Cawn gwrdd yfory’n ieuanc,
Ffarwel, rhowch im eich llaw.[88]

Nid nepell o Bencader cyfarfu Annie Ellis a Ruth Herbert Lewis â James Thomas, gŵr dall o’r Gelli Newydd, Gwyddgrug, a ganodd dair cân iddynt. Yn ei dyddiadur, disgrifia Ruth Herbert Lewis un o’r alawon, ‘Cŵn hela’, fel a ganlyn:

            A delightful tune to an early 17th century ballad (vide 
            J. H. Davies) with a prolonged note at the start of each
            line and the third line repeated very fast.[89]

Er na chofnododd Annie Ellis yr alaw yn y cyswllt hwn, fe sicrhaodd fod geiriau tri o’r penillion yn nhafodiaith de Sir Geredigion wedi eu diogelu:

Cŵn hela

Pan oeddwn yn trafeili,
Mewn lle cyfyng ar lan Cothi,
’Mysg y coed ac ellti’ gwylltion,
Lle mae’n gorwedd bryfed gewrion.

Druan bach, ni allent beidio,
Maent, mae’n fynych wedi treio,
Dim yn hidio am fath enaid,
Dim mwy na’r corgwn dôf a’r defaid.

Beth ’ta hap i Dafis enwog,
O’r Trawsmawr a’i gŵn calonog [sic]
Yn nghyd â helwyr tre Caerfyrddin
A tharo maes i ddechrau’ch dilyn.[90]

Dehongliad James Thomas o ‘Gân yr Asyn’, fodd bynnag, oedd yr un a ddenodd sylw Annie Ellis ar y daith gasglu gofiadwy honno, yn bennaf am fod y cyffyrddiad chwareus yng nghwpled olaf y gân wedi apelio’n fawr ati:


Cân yr Asyn

 Trigolion bro a bryniau
A phawb yn ddiwahan,
Cydneswch yma’n gryno
I wrando hyn o gân.
Rhyw hanes am ddamweiniau
Sy’i glywed nos a dydd,
Oherwydd hyn mae llawer,
Yn teimlo’i bronnau’n brudd.

Cytgan

Rhowch hanes yn ddi-gêl,
I gadw’r oes a ddêl
Am un o’r prif ddamweiniau,
Fuodd yn y Swansea Vale.

Ar fore dydd yr angladd
Daeth tyrfa fawr ynghyd
I roi’r gymwynas ola’
Tra’i gorph e’ yn y byd.
Roedd pob un yno’n wylo
Heb neb yn gwneuthur gwên,
Wrth weld y corph yn gorwedd
Is-law i gwt yr ên.

Ym mynwent plwyf Llangellwain,
Fe’i claddwyd dan y gwys
A phob un o’i berthnasau,
A deimlent alar dwys,
Ac yno bydd yn gorffwys
Nes codi’r seren ddydd,
A chael pedolau newydd
A’i draed yn rhodio’n rhydd.[91]

Cyn ffarwelio â chyffiniau Llandysul, llwyddodd Annie Ellis i gofnodi fersiwn o’r gân ‘O bra boys’ o ganu Sian Jones, gwraig ffraeth a byrlymus 94 oed o Lanfihangel ar Arth:

O bra boys 

Ow ni’n rhodio pentre Buar
O bra boys;
Fe glywn i fab a merch yn siarad,
O bra boys;
Ar lan afon mewn lle dirgel
Ar fore ddydd, tywyll tawel,
Pan oedd y mab ar bwynt ymadael,
O bra boys.

Clywn ni’r mab yn dweud o ddifrad
O bra boys;
Ryw eiriau breision wrth ei gariad,
O bra boys;
Er ’y mod yn bur newynog
Rwyt ti’n mhoilid ar fy stumog,    
’Rhen soga segur sych yn serchog,
O bra boys.

Gronda Samuel dawel dirion
O bra boys;
Y ti yw’r mwynaf ar fy nghalon,
O bra boys.
Ond dy gael yn gymwys gydmar,
Cyn yr êl hi’n rhy ddiweddar;
Waeth gwn ar fyrder âf i’r ddaear,
O bra boys.

 Wyt ti’n cofio’r porc a’r wyau,
O bra boys;
Welais i’n slurio yn dy weflau,
O bra boys;
Llawer boled llawn o gwrw,
Gest ti gen i nes bo ti’n feddw;
Does gen ti ddim cof am hwnnw,
O bra boys.[92]

Wrth ddirwyn eu gwaith i ben yn ardal Llandysul, gobaith Ruth Herbert Lewis ac Annie Ellis oedd y byddai Mary Hughes a rhai o gefnogwyr eraill Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y parthau hynny yn parhau’r gwaith o gasglu caneuon traddodiadol y fro ac yn mentro i ardaloedd cyfagos fel Rhydlewis a Chastell-newydd Emlyn. Cyfeiriwyd droeon yn ystod yr ymweliad at gyfoeth y deunydd brodorol yn yr ardaloedd hynny o dde Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin, ac er i Annie Ellis fynegi ei dymuniad i ddychwelyd yno yn ystod misoedd yr haf 1913, ni cheir unrhyw dystiolaeth i brofi iddi gyflawni ei bwriad.[93] Eto i gyd, roedd cenhadaeth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac ysbryd y casglu wedi cydio yn ddwfn ynddi ac ymdrechodd lawer tro i annog rhai o fyfyrwyr Aberystwyth, ar sail eu diddordeb ym myd y canu traddodiadol, i’w dilyn i’r maes. Un o’r myfyrwyr hynny a ddeuai i ymweld â hi’n gyson yn ei chartref ym Maes Lowri, Aberystwyth, oedd y darpar weinidog, Lewis Mendus – gŵr a fu’n flaenllaw ym mywyd cerddorol a diwylliannol y Coleg ac a fentrodd o bryd i’w gilydd i faes casglu alawon brodorol.[94] Mewn llythyr at Annie Ellis yn 1913, fel hyn y disgrifiodd Mendus ei brofiad cyntaf o gofnodi alaw Gymreig:

            I drove my grandfather to meet the St. David’s motor bus
            this morning and in driving home alone, my thoughts went
            back to Laura Place and Cwrt Mawr and I remembered that
            I once told you I would try to get some folk songs. Well, I
            pulled up at a cottage and before long the old woman was         
            singing away finely! She sang two songs. I took them down. 
            But I fear they won’t be a new contribution: [95]

Er na theimlai’r casglwr ifanc fod ei gyfraniad yn un gwerthfawr, cofnododd benillion dwy gân gyfarwydd ynghyd â nodiant sol-ffa un ohonynt:

 Mae gennyf ddafad gernig
Ag arni bwys o lân [sic];
Yn pori ar y mynydd
Ym mysg y meillion mân

Chorus (yn gyflym)

Cered y byd i’r sawl a’i caro
A finnau’n llon ac iach,
Cael llymed nawr ac yn y man
O’r cwrw melyn bach

Roedd gennyf hefyd fochyn,
A marlad bychan twt,
A deg o ddefaid tewion
A mochyn heb un cwt.[96]

Fersiwn o’r gân ‘Twll bach y clo’ oedd cynnwys yr ail gyfres o benillion a gofnodwyd ganddo:

Y gŵr a aeth i fyny i’r llofft uwch ben
Y wraig aeth ag allwedd y drws o dan ei phen,
A Gweno’n gweu sanau wrth olau tân glo
A ‘huwcyn’[97] oedd yn spïo trwy dwll bach y clo.

Chorus

Clywch floedd fechgyn
Clywch, clywch, clywch etc., etc.[98]

Er na chofnododd gerddoriaeth ‘Twll bach y clo’, hyderai Lewis Mendus y byddai ei gyfeilles, Morfydd Llwyn Owen,[99] yn ddigon cyfarwydd â’r alaw i allu ei gyfeirio at fersiwn gyhoeddedig ohoni.[100] Tystia natur gyfeillgar yr ohebiaeth a fu rhwng Mendus ac Annie Ellis dros y blynyddoedd fod y gweinidog o Drefforest yn ymddiried cryn dipyn iddi ac yn barod i rannu ei gyfrinachau â hi – gan gynnwys hynt a helynt ei garwriaethau. Cyfeiria Mendus ati’n aml fel ‘Mother Confessor’, ‘upon whom I can inflict a mood now and then knowing that she uses my confessions with discretion’.[101]

Naws debyg sydd hefyd i gynnwys llythyrau Dora Rowlands at Annie Ellis yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu diddordeb Dora yn y Gymdeithas Geltaidd, yng ngweithgaredd y Canorion a bywyd diwylliannol Cymreig y Coleg, ynghyd â’i gallu cynhenid fel perfformwraig yn ddolen gyswllt agos rhyngddynt. Rhaid hefyd eu bod wedi dod i adnabod ei gilydd yn dda yn ystod yr ymweliad â Pharis yn 1911 a rhannent ddiddordeb byw ym myd yr alaw werin a gobeithion y Gymdeithas. Yn ôl ei harfer, ymddiddorai Annie Ellis yn fawr yn y merched o Gymru a ddeuai i Aberystwyth i astudio gofalai amdanynt a chroesawai nifer ohonynt i’w chartref a’u cefnogi yn eu bywyd colegol. Bu’n ysbrydoliaeth i nifer ohonynt ac yn gefn i’r rhai anghenus, fel y nododd Dora Rowlands:

            Y dylanwad mwyaf grasusol arnom ni, ferched y coleg, yn
            f’amser i oedd caredigrwydd a hynawsedd Mrs. Tom Ellis.
            Roedd croeso bob amser i ni yn ei chartref artistig a chwaethus
            yn Laura Place. Bob p’nawn Sul, yr oedd y bwrdd te yn grwn
            o ferched y Coleg, a bu yn ail gartre i nifer ohonom. Dyna’n wir
            ‘addysg bellach’ o bwys i bob un ohonom. Y wraig osgeiddig 
            hon, heb fymryn o rodres – yn llywio’i chartref mewn ‘steil’ a
            hyn i gyd yn Gymraeg, gan brofi i ni nad Saeson yn unig oedd
            yn fyddigions.[102]

Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi iddi briodi ac ymgartrefu yn Llundain, sefydlodd Annie Ellis gronfa ‘The Students’ Loan Fund’ i gasglu arian ar gyfer myfyrwyr tlawd y Coleg yn Aberystwyth, a’r ffynhonnell swyddogol hon a ddarparai ysgoloriaethau i’r rhai a wynebai drafferthion ariannol yn ystod eu cyfnod yn astudio. Ond roedd perthynas Annie Ellis a Dora Rowlands yn wahanol i unrhyw berthynas arall rhyngddi a myfyrwyr y Coleg. Datblygodd cyfeillgarwch mynwesol rhyngddynt rhwng 1910 ac 1913 a barodd am oes gyfan.[103] Cyfeiriai Dora ati fel ‘Fy mam yn Aber, mam annwyl iawn iawn i mi ...’[104] ac wedi profiadau bythgofiadwy Ffrainc a Paris, cyfarchai hi’n aml fel ‘Fy Anwylaf Notre Dame’ fel arwydd o’r agosatrwydd arbennig a nodweddai eu perthynas. Wrth wynebu salwch ac anawsterau marwolaeth ei mam yn ystod ei blwyddyn gradd yn Aberystwyth byddai Dora yn troi at Annie Ellis am gysur a chydymdeimlad, ac amlygir hyn droeon yn ei llythyrau:

            Diwrnod ofnadwy oedd ddoe, diwrnod fy mhen blwydd a
            bu Mam farw tua wyth o’r gloch. Yr oedd hi’n gofyn am
            gael myned. Yr oedd yn boen mor fawr. Mae ’nghalon yn 
            rhy llawn i ddweud llawer ond gwn yn eithaf eich bod chwi 
            yn gwybod.[105]

Yn dilyn ei chyfnod yn Aberystwyth ac wedi iddi gwblhau ei chwrs gradd yn yr Adran Gymraeg, daeth cyfle i Dora Rowlands weithio fel ysgrifenyddes yn swyddfa’r aelod seneddol, Syr John Herbert Lewis, a dal cyswllt agos ag un o hoelion wyth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ynghyd â’r cylch cerddorol Cymreig yn Llundain, gan gynnwys Morfydd Llwyn Owen a Mary Davies. Bryd hynny, mynegodd Dora ei llawenydd mewn gair at Annie Ellis:

            I had such a lovely letter from Mrs [Herbert] Lewis the
            other day and she said you had been talking to her about 
            what I was going to do and discussing things ... She asks
            would I like to live with her for 3 months and go to a
            secretarial school in South Kensington (one that you know         
            of, I think) and pay her back by keeping Kitty and Mostyn 
            company and giving them 2 lessons a week in Welsh and
            speaking Welsh with them ... Think, Notre Dame, anwyl,
            I should be in the same town as you again and likely to see 
            you often.[106]

Ar gais Annie Ellis daeth Dora Rowlands yn athrawes Gymraeg i T. I. Ellis hefyd yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Westminster ac, yn hyn o beth, parhaodd y cyswllt agos rhyngddynt, a gwireddwyd dymuniad Dora i gael dangos ei diolchgarwch i’r un a fu mor gefnogol iddi yn ystod ei gyrfa golegol:

            I think of you, oh so often fy anwyl, anwyl Notre Dame.
            I would love to do something worthy of you – and I do hope
            and pray that I may do something with my life – something 
            lasting as an outcome of your kindness to me ... I have an 
            intense longing these days to do something for my country 
            or my language or its music.[107]

Misoedd yn ddiweddarach roedd Dora’n mynegi yr un dyhead unwaith yn rhagor:

            Diolch a chan diolch i chwi am eich calon fawr garedig. Ni
            welais erioed newid ar honno ac mi fydd yn ddiwrnod du 
            iawn arna i os achosa i iddi unrhyw friw. Mae gennyf ofn 
            ofnadwy i chi orfod meddwl llai ohona i, oes yn wir. My only
            hope of ever thanking you, for the countless ‘little unremembered
            acts of kindness’, the strong undercurrent of sympathy I always
            feel when I’m with you, the influence that keeps me ‘yn ymdrechu
            tua’r nod’ will be in serving you, if only I can.[108]

Yn dilyn marwolaeth ddisyfyd ei gŵr yn 1899 nodweddwyd bywyd Annie Ellis gan ymroddiad llwyr i wasanaeth sawl achos. Fel aelod blaenllaw o lys Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Phanel Penodi Canolog y Brifysgol yng Nghymru[109] bu’n chwarae rhan weithredol yn nhwf a datblygiad addysg uwchradd y genedl. O ganlyniad i ddiddordeb arbennig ei brawd, John Humphrey Davies, ym myd casglu llawysgrifau bu’n aelod dylanwadol o Gorff Llywodraethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel areithydd huawdl gelwid arni’n aml i gynrychioli ‘The League of Nations’[110] a bu’n frwd iawn ei chefnogaeth i Gwilym Davies a’i Neges Heddwch flynyddol.[111]

O safbwynt cerddorol, ymddangosodd droeon yng nghyfarfodydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym Mangor (Mehefin, 1913) ac yn y Fenni (Awst, 1913) yn adrodd hanes ei phrofiad yn casglu yn ardal Llandysul[112] gan grybwyll yn enwedig yr anawsterau a gafwyd i ddarbwyllo unigolion y fro i ganu a chofnodi alawon a’r angen mawr am weithwyr pellach yn y maes:

            Mrs Ellis went on to say that the movement wanted
            assistance of all kinds, the musical genius who could
            rapidly write down what he heard, the student to bring
            scientific knowledge, the minister, the doctor, and the
            school master who were the highest authorities in the
            village on everything, the monied and leisured classes 
            who subscribed, and the humble classes who interested
            old people in a way that made them produce their greatest
            possessions, while a more clever person took down the
            tunes and words.[113]

Yn ystod absenoldeb Ruth Herbert Lewis bu Annie Ellis hefyd yn barod ar adegau i gadeirio cyfarfodydd o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn enwedig wedi iddi gartrefu yn Llundain yn y cyfnod ar ôl Medi 1913, a thystia ei nodiadau ar gyfer darlith gyhoeddus ar draddodiadau cerddorol Cymru a draddodwyd ganddi yn Falmouth, ei bod yn ddigon hyddysg a phrofiadol yn y maes i allu traethu’n awdurdodol arno:

            It was in 1844 that Welsh folk music received recognition –
            in that year, the volume published by Maria Jane Williams
            of Aberpergwm showed that Welsh folk music could be so
            beautiful in form and expressive in feeling – and ‘Y Fwyalchen’,
            ‘Y Deryn Pur’ and other songs immediately took their places
            among the best of the Welsh melodies.   
                  ... I daresay you have all heard of the fanatical
            enthusiasm of the folk song collector. It is a pity that there
            was none of this enthusiasm in Wales say 200 years ago – it
            is certain that if there had been, much treasure would have been
            stored up that has now disappeared for ever.[114]

Credai fod yr angen am gefnogaeth i waith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn parhau ac fel ei gŵr Tom Ellis flynyddoedd ynghynt, credai na ddylid anwybyddu’r agwedd werthfawr hon ar fywyd diwylliannol y genedl – er gwaethaf dirmyg a gwg y cyfansoddwyr proffesiynol a fu mor elyniaethus i gynnyrch y traddodiad brodorol ar ddechrau’r 20fed ganrif:

            If people spend their time in collecting old implements,
            vessels, old furniture, old MSS; are the old songs of Wales
            of less value than their old furniture or their proverbs or
            folk tales? ... Every year, the older folk singers are passing on and the
            opportunity of procuring new songs are getting fewer.[115]

Fel un a fu’n amlwg yn y maes ac a gafodd brofiad helaeth o gasglu deunydd yn ne-orllewin Cymru, sylweddolai Annie Ellis bwysigrwydd y grefft a’r angen dybryd am barhâd i weithgarwch o’r fath er mwyn cynnal cyhoeddiadau tebyg i’r Cylchgrawn ac i sicrhau sefydlogrwydd yn hanes y Gymdeithas fel mudiad ac iddo arwyddocâd cenedlaethol.

Yn 1913 ymgartrefodd Annie Ellis yn Llundain unwaith yn rhagor, gan ymroi i agweddau gwahanol ar fywyd Capel Charing Cross. Bu’n aelod brwdfrydig o’r Ysgol Sul a’r Gymdeithas Ddirwestol,[116] cyfrannai erthyglau’n gyson i gylchgrawn Y Gorlan,[117] ac ynghyd â Ruth Herbert Lewis, sefydlodd gymdeithas i ddiogelu buddiannau merched o Gymru a ddeuai i weithio yn Llundain. Priododd y Parch. Peter Hughes Griffiths, gweinidog Charing Cross, yn 1916. Parhaodd ei chyswllt â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru am weddill ei hoes, ac er iddi ddymuno ymddiswyddo o’i chyfrifoldebau fel Is-Lywydd y mudiad yn 1916, gofynnwyd iddi ail-ystyried yng ngoleuni ei phrofiad a’i dylanwad yn y maes.[118] Fel un o ganolfannau pwysicaf yn hanes cerddorol a diwylliannol Cymry-Llundain y cyfnod, a chyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr a dieithriaid o Gymru, yng nghapel Charing Cross y cafodd Annie Ellis gyfle i werthfawrogi dawn Morfydd Llwyn Owen fel cantores, cyfeilyddes a chyfansoddwraig. Flynyddoedd yn ddiweddarach bu’n barod iawn ei chefnogaeth i Leila Megane cyn iddi adael Prydain i gael hyfforddiant pellach gan Jean de Reszke ym Mharis.[119] Yn ddi-os roedd bywyd cymdeithas y capel yn gyforiog o gyfarfodydd llenyddol, eisteddfodau (yn bennaf rhwng aelodau capeli Cymraeg y brifddinas) a nosweithiau diwylliannol, a dylanwad rhai fel Mary Davies a Ruth Herbert Lewis yn amlwg ar weithgareddau’r cyfnod. Yn y man, roedd enw’r Parch. Peter Hughes Griffiths yn ymddangos ar dudalennau Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru fel ffynhonnell geiriau rhai o’r alawon gwerin a gwybodaeth am arferion y Calan Cymreig,[120] ac ysbrydolwyd sawl aelod o’r gynulleidfa hyd yn oed i gasglu caneuon traddodiadol o Gymru mewn gwahanol rannau o’r byd o ganlyniad i ddylanwad uniongyrchol selogion y mudiad o’u hamgylch.[121]

Fel arwydd o werthfawrogiad aelodau Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru o gyfraniad Mary Davies i fywyd cerddorol y genedl, trefnodd Annie Hughes Griffiths a Sir. E. Vincent Evans (Trysorydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ar y pryd) dysteb genedlaethol yn 1927 i gydnabod maint ei dylanwad yn y maes. Gyda’r un ymroddiad a gofal, pan ddaeth salwch difrifol i darfu ar yrfa lewyrchus Laura Evans-Williams[122] fel cantores ac athrawes leisiol yn Llundain, bu Annie Hughes Griffiths yn flaenllaw yn sefydlu cronfa i’w chynorthwyo hithau hefyd yn ei hangen. Cymeriad rhadlon, parod ei chymwynas oedd Annie ‘Cwrt Mawr’ a’i gofal o’r tlawd, yr anghenus a’r difreintiedig yn ei chymdogaeth yn flaenoriaeth amlwg iddi trwy gydol ei hoes.

Etifeddodd T. I. Ellis ddiddordeb ei fam yn nhraddodiad canu gwerin Cymru yn ogystal. Yn ystod ei ymweliadau achlysurol â chartref y Dr Mary Davies yn 12a Eaton Road, Hammersmith, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Westminster y dysgodd yntau rai o’r alawon traddodiadol a pharhaodd i ymwneud â’r maes tra oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Yno bu’n flaenllaw yn y Gymdeithas Geltaidd,[123] canai unawdau dan gyfarwyddyd Madame Lucie Barbier yng nghyngherddau’r Coleg[124] a lluniodd adolygiadau o gyfarfodydd diwylliannol y myfyrwyr ar dudalennau The Dragon. Yn 1926, penodwyd yntau’n Ysgrifennydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru gan ddilyn Dora Herbert Jones i’r swydd,[125] ac fel Tom Ellis ei dad bu’n weithiwr di-fefl dros faterion Cymreig yn enwedig ym myd addysg.

Cyn diwedd ei hoes, etholwyd Annie Hughes Griffiths yn Is-Lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, bu’n gynrychiolydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y Gyngres Geltaidd a gynhaliwyd yn Llundain yn 1930 (ynghyd â Jennie Williams, Aberystwyth)[126] a bu’n gefnogol iawn i weithgareddau cerddorol Urdd Gobaith Cymru, yn enwedig ymysg plant a ieuenctid y Mudiad. Ar adeg pan nad oedd cynrychiolaeth o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, a chyn dyfodiad J. Lloyd Williams i’r dref, bu’n barod i ysbrydoli myfyrwyr y cyfnod a chwifio baner y traddodiad brodorol yn un o gadarnleoedd cerddoriaeth gyfoes Ewropeaidd y dydd. O ganlyniad i egni ac ymroddiad Annie ‘Cwrt Mawr’ yn unig yr heuwyd had byd canu gwerin y genedl yng nghanolbarth Cymru a’i brwdfrydedd heintus hi fu’n ysgogiad i lawer i fentro a thalu sylw haeddiannol i’r maes ym mherfformiadau’r gymdogaeth. Er nad oedd yn arloeswraig, gwnaeth ddiwrnod da o waith yn enw Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, brwydrodd yn ddyfal a diflino ar ei rhan a bu’n gennad ffyddlon ac yn batrwm i eraill i’w hefelychu.

 


Nodiadau

[1] Tom Edward Ellis, 1859–99.

[2] Annie Jane Davies, 1873-1942 – seithfed plentyn teulu Cwrt Mawr, Llangeitho.

[3] Mewn llythyr at David Jenkins dyddiedig 25 Ebrill, 1898, rhydd Tom Ellis resymau dros ei ddewis o alawon – ‘I should on many grounds like to have ‘Clychau Aberdyfi’ for 
      1.   it is a love-lyric
      2.   it tinkles like marriage-bells
      3.   it has a flavour and reminiscences of Meirioneth’.
Gw. T. I. Ellis: Thomas Edward Ellis – Cofiant, Cyf. II (Lerpwl, 1948), 43.

[4] Emyn-dôn o waith David Jenkins (1848–1915) a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y briodas. Gw, John Hughes (gol.), Y Llawlyfr Moliant Newydd (Abertawe, 1956), 135

[5] Gw. Mari Ellis (gol.), Y Golau Gwan – Llythyrau Tom Ellis at Annie Davies (Caernarfon, 1999), 186.

[6] Canodd Daniel Evans (‘Eos Dâr’) gyfres o benillion a oedd yn gorffen gyda’r cwpled: ‘Mae Cymru gyfan yn bloeddio’n awr/ Byw byth fyddo Cynlas a Chwrt Mawr.’

[7] Y Fonesig Ruth Herbert Lewis, yn ddiweddarach, un o gasglyddion mwyaf gweithgar ac aelod blaenllaw o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru.

[8] Ymunodd T. E. Ellis hefyd â Chymdeithas y Brythonwys yn 1886, sef cymdeithas o Gymry-Llundain a deimlai’r awydd i drafod pynciau llenyddol, cerddorol a chymdeithasol. Trefnai’r gymdeithas gyngerdd blynyddol ar adeg Gŵyl Ddewi ac roedd y gantores Mary Davies (‘Mair Mynorydd’) yn un a ymddangosai’n gyson ar yr achlysuron hynny.

[9] T. E. Ellis, ‘Social Life in Rural Wales’, Speeches and Addresses, (Wrexham, 1912), 139.

[10] Mari Ellis, ‘T. E. Ellis a Cheredigion’, Ceredigion, Cyf. XIV, Rhifyn 2 (2002), 24–37.

[11] Sarah Maria Davies (g. 1864), merch hynaf teulu Cwrt Mawr, Llangeitho. Er iddi ddymuno bod yn genhades, yn 1887 priododd y Parch. John Maurice Saunders a fu’n weinidog yn yr Unol Daleithiau ac yn Seland Newydd am gyfnod. Yn ystod ei mordeithiau, ysgrifennodd storïau byrion ar gyfer Y Drysorfa, Yr Ymwelydd Misol a Young Wales. Sicrhaodd gryn enwogrwydd fel awdures ac areithydd cyhoeddus. Gweler Mari Ellis, ‘Sarah Maria Saunders y Ddynes Newydd’, Y Casglwr, 74 (2002), 3–8.

[12] Ganwyd mab Annie Ellis, Thomas Iorwerth Ellis, yn 1899, yn ystod ei chyfnod yn Llundain yn dilyn marwolaeth ei gŵr y flwyddyn honno.

[13] Bu’n byw am gyfnod yn ‘Llwyn’, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, ond oherwydd yr angladdau niferus a âi heibio i’w chartref i gyfeiriad mynwent y dref, symudodd i rif 6 Maes Lowri (Laura Place), nepell o’r coleg a bu’n byw yno hyd at 1913.

[14] Llsg. LlGC. Archif Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Gohebiaeth B1 (1905–1939). Llythyr dyddiedig 24.09.1908 oddi wrth Mary Davies at L. D. Jones (‘Llew Tegid’), Bangor.

[15] John Humphrey Davies, 1871–1926, trydydd mab Robert J. a Frances Davies, Cwrt Mawr, Llangeitho, ac un o ysgolheigion amlycaf ei gyfnod. Yn ystod ei yrfa, bu’n gyfrifol am ddwyn llenyddiaeth Gymraeg o safon i olau dydd, gan gynnwys Llythyrau Morisiaid Môn a rhai o weithiau Morgan Llwyd. Penodwyd ef yn Gofrestrydd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth ym 1905 ac yn 1919 yn Brifathro. Cyhoeddwyd ei gyfrol A Bibliography of Welsh Ballads yn 1911 a bu’n ohebydd cyson ar dudalennau Cymru Coch, O. M. Edwards. Fel hyn y canodd Bedwyr iddo –
                ‘Wele wyneb annwyl inni – a gŵr
                 Garodd wlad ei eni,
                 Carodd wres ei hanes hi,
                 A chwarddodd gyda’i cherddi.’

[16] Llsg. LlGC. Casgliad John Humphrey Davies. Llythyr oddi wrth J. Glyn Davies dyddiedig 3.2.1896.

[17] Daeth John Humphrey Davies yn aelod o Gyngor Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1909 a chynorthwyai’r gwaith drwy roi sylwadau ar farddoniaeth a mydr y caneuon gwerin a gyhoeddid yn Cylchgrawn y Gymdeithas. Cyfeiriai’r darllenwyr at ffynonellau’r geiriau ac ychwanegai benillion o gasgliadau llawysgrifol a oedd yn ei feddiant. Dyma a ddywed J. Lloyd Williams amdano yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: ‘Principal Davies knew little about music but he was the highest authority in Wales on its ballad literature and his exhaustive knowledge was always at the command of the Society.’

[18] Llsg. LlGC. Llawysgrif Cwrtmawr, 958A – ‘Caniadau’ (geiriau caneuon gwerin o Sir Geredigion). Ymhlith y casgliad hwn yn llaw John Humphrey Davies ceir geiriau ‘I blas Gogerddan’, ‘Yn Iach i ti Gymru’, ‘Ar hyd y nos’, ‘Gwenith Gwyn’, Codiad yr Hedydd’, ‘Merch Megan’, Llwyn Onn’, ‘Alawon fy ngwlad’, ‘Clychau Aberdyfi’, ‘Cainc y delyn’, ‘Morwynion glân Meirionydd’, ‘Yr hen amser gynt’ a ‘Bugail Aberdyfi’.

[19] Ibid.

[20] Penodwyd Annie Ellis yn aelod o Gyngor Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1902 a pharhaodd i wasanaethu’r sefydliad yn ffyddlon am gyfnod o ddeugain mlynedd hyd at Hydref 1942.

[21] Myfyrwyr yn yr Adran Gymraeg oedd Gwen Taylor (o Wrecsam) a T. Ifor Rees (graddiodd y ddau yn 1910), tra mai yn yr Adran Ffrangeg yr astudiai Tudor Williams o Aberhonddu (graddiodd yn 1911). Myfyriwr diwinyddol a astudiai yn yr Adran Roeg oedd Lewis Mendus (graddiodd yntau yn 1910).

[22] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth, SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2.

[23] Ibid. Y Gymdeithas Geltaidd – cofnodion y cyfarfod ar 8 Tachwedd , 1909.

[24] Gw. Gwenan Gibbard, Brenhines Powys - Dora Herbert Jones a cherddoriaeth werin Cymru, (Llanrwst, 2003), a Wyn Thomas, ‘Ffarwel i Aberystwyth …’ – Jennie Williams a byd yr alaw werin yng Nghymru’, Cynheiliaid y Gân – Cyfrol deyrnged i Phyllis Kinney a Meredydd Evans  (Caerdydd, 2007), 251–79.

[25] Anhysbys, ‘Welsh Folk Songs’, The Dragon, Cyf. XXXII, Rhif 3 (1910), 146.

[26] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth, SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2. Cofnodion 12.01.1910.

[27] Gwenan Jones, ‘Y Gymdeithas Geltaidd: January 12th’, The Dragon, Cyf. XXXII, Rhif 3 (1910), 146.

[28] Ibid.

[29] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth, SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2. Cofnodion cyfarfod 17 Ionawr 1910.

[30] Ibid.

[31] John Morris: ‘Y Canorion a’r casglu cynnar’, Canu Gwerin, Rhif 13 (1990), 5–28.

[32] Graddiodd Deborah Jarrett – neu ‘Dora’ – Rowlands o Langollen yn y Gymraeg yn 1913.

[33] Myfyriwr o Abertawe oedd Lewis Stanley Knight, a raddiodd mewn Hanes yn 1912.

[34] Tenor o ardal Defynnog ger Aberhonddu oedd Tudor Williams.

[35] Gwenan Mair Gibbard, op.cit.

[36] Ar 26 Chwefror 1910 y cynhaliwyd yr eisteddfod.

[37] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth, SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2. Cofnodion 26 Chwefror 1910. Er na nodwyd gofynion y gystadleuaeth ar yr achlysur hwnnw, erbyn cyfarfod y Gymdeithas Geltaidd ar 5 Mai 1910 cyfyngwyd y nifer i dair cân werin anghyhoeddedig.

[38] Ym Mhrifwyl Caerfyrddin 1911, er enghraifft, gwobrwywyd Soley Thomas (ffermwr o’r Van ger Llanidloes) a Jennie Williams o dref Aberystwyth am eu casgliadau o alawon traddodiadol siroedd Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin.

[39] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth, SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2. Rhaglen cyngerdd 16 Mawrth 1910.

[40] Ibid.

[41] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2. Adroddiad cyngerdd 16 Mawrth 1910.

[42] Ibid..

[43] J. Lloyd Williams: Ceinion y Canorion (Bangor, c. 1909)

[44] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth, SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2. Cyfarfod 30 Tachwedd 1910.

[45] DJW: ‘Y Gymdeithas Geltaidd’, The Dragon, Cyf., XXXIII, Tachwedd (1910), 95. Nid oes cofnod o’r eitemau a chwaraewyd ganddi yn ystod y ddarlith. Gweler hefyd Wyn Thomas, ‘Y Ffonograff Cymreig a byd yr alaw werin’, Canu Gwerin (2006), 40–64.

[46] Llsg. LlGC. Casgliad University College of Wales, Aberystwyth, SRC and Societies. Y Gymdeithas Geltaidd, cyfrol G2. Sesiwn 1910–11. 

[47] Yn rhifynnau 1910 o The Dragon rhestrir enwau swyddogion Cymdeithas y Canorion ar wahân i swyddogion y Gymdeithas Geltaidd. Erbyn 1911, fodd bynnag, dim ond aelodau pwyllgor y Gymdeithas Geltaidd sy’n ymddangos yng nghylchgrawn y myfyrwyr.

[48] Anhysbys, The Dragon, Cyf., XXXIII, Tachwedd (1910), 113.

[49] J.E.D., The Dragon, Cyf. XXXIII, Tachwedd (1910), 225–6.

[50] R.O.W.,‘The Capping Soirée – An Impression’, The Dragon, Cyf. XXXIII, Tachwedd (1910), 59.

[51] Dyrchafwyd hi yn Is-Lywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1909–10. Gw. Second Annual Report and Financial Statement (Bangor, 1910).

[52] Yr Athro Stanley Roberts (Prifysgol Cymru, Aberystwyth) oedd beirniad y gystadleuaeth i lunio casgliad o ganeuon gwerin y flwyddyn honno. Roedd yn aelod amlwg o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym mlynyddoedd cynnar ei sefydlu. Graddiodd John Hughes (Pencader) yn y Gymraeg yn 1912. Roedd yn frawd i Mary Hughes (gw. isod) a fu’n weithgar yn cynorthwyo Ruth Herbert Lewis yn y gwaith o gasglu alawon gwerin yn ardal Llandysul ym mis Mehefin 1913.

[53] Gw. Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyf. II, Rhif 2 (1919), 107, 111–3. Yn un o gasgliadau eisteddfod myfyrwyr Aberystwyth yr ymddangosodd yr alaw ‘Y Byddar a’r Mud’, sef fersiwn anghyfarwydd o ‘Cob Malltraeth’, dan y ffugenw ‘Devinos’. Mewn cystadleuaeth debyg y gwelwyd yr alaw ‘Y Ferch o’r Bedlam’ am y tro cyntaf hefyd. Gwaith ‘Mynwy’ oedd y casgliad eisteddfodol hwnnw, er na wyddai Golygydd y Cylchgrawn  yn 1919 pwy ydoedd.

[54] Erbyn 1911 nid oedd y Canorion yn cael ei rhestru fel cangen o’r Gymdeithas Geltaidd nac ychwaith fel cymdeithas annibynnol yn The Dragon.

[55] Aelwyd Angharad, neu Hwyrnos Lawen Llwyngwern, Chwareugan, yn dangos dull ac arferion bywyd gwledig Cymru Fu, gan J. Lloyd Williams a Llew Tegid (Bangor, d.d.). J. Lloyd Williams a gyfansoddodd y gerddoriaeth ac L. D. Jones (‘Llew Tegid’) a luniodd y geiriau ar gyfer yr operetta hon. Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf gan blant Capel Seion, Cricieth, ym mis Mehefin 1899. Gw. Hywel Teifi Edwards, ‘Aelwyd Angharad’, Cynheiliaid y Gân – Cyfrol deyrnged i Phyllis Kinney a Meredydd Evans (Caerdydd, 2007), 58–74.

[56] A.E.C., ‘The St. David’s Day Soirée’, The Dragon, Cyf. XXXIII, May (1911), 164–5.

[57] Ibid., 164.

[58] Ibid., 164.

[59] Rhoddwyd perfformiad pellach o’r Aelwyd gan ‘Gymdeithas Angharad’ yn Neuadd y Plwyf (Aberystwyth) ar 30 Tachwedd 1920. Erbyn hynny, roedd J. Lloyd Williams yn byw yn y dref ac yn bennaeth yr Adran Fotaneg yn y Coleg. Noda T. I. Ellis mai yn ystod ymweliad J. Lloyd Williams â’r Cwrt Mawr yn 1919 y cafwyd y syniad o berfformio Aelwyd Angharad yn Aberystwyth yn 1920. Ymhlith y perfformwyr yr adeg honno yr oedd Cassie Davies, Mair Howells, D. Lloyd Jenkins a D. H. Jenkins.

[60] Yn dilyn llwyddiant Angharad yn 1911, mae’n amlwg bod aelodau’r Gymdeithas Geltaidd yn Aberystwyth wedi talu mwy o sylw i gerddoriaeth y genedl. Bwriadwyd gwahodd Mary Davies yn ôl i draddodi’r ddarlith flynyddol, er nad oes tystiolaeth bellach i hyn ddigwydd. Er hynny, cadwodd David Jenkins ei addewid a rhoddodd gyflwyniad ar ‘Alawon Cymru’ ym mis Chwefror 1912 a Dora Rowlands yn canu’r enghreifftiau cerddorol.  

[61] J. Lloyd Williams,‘The History of the Welsh Folk Song Society’, Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyf., III, Rhan 2 (1934), 99.

[62] John Humphreys Davies, Cofrestrydd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a wahoddwyd i ddarlithio yn y Sorbonne y noson honno ond oherwydd salwch gorfodwyd iddo ofyn i’w gyd-weithiwr Timothy Lewis i lenwi’r bwlch ar ei ran.

[63] Roedd Timothy Lewis yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yr adeg honno.

[65] Gobeithir gweld ymdriniaeth lawnach ar ymweliad y pedwarawd â Pharis yn 1911 yn Wyn Thomas, ‘Cerddorion a cherddoriaeth Cymru yn Ffrainc, 1911–13’, Canu Gwerin (2008) [yn bresennol ar y gweill]. Trefnwyd ymweliad â Pharis gan bedwarawd arall yn 1913 ond ni theithiodd Annie Ellis na Ruth Herbert Lewis gyda hwy bryd hynny.

[66] Anhysbys, Le Pays Breton, 1Ebrill 1911.

[67] Llsg. LlGC. 22694D f. 82. Llythyr oddi wrth René Lenormand at Mme. Lucie Barbier, dyddiedig 3 Ebrill 1911.

[68] Anhysbys, Le Matin, 2 Ebrill 1911.

[69] Perfformiwyd Aelwyd Angharad unwaith eto ar 30 Tachwedd 1920 gan the UCW Angharad Society. Gw. The Dragon, Cyf. XLIII, Chwefror (1921), 108–10 lle disgrifir y gwaith fel a ganlyn: ‘Aelwyd Angharad is a natural growth of the soil, rooted deeply in all that we conceive to be characteristically Welsh’ .

[70] Anhysbys, ‘The Old Students’ Association’, The Dragon, Cyf. XXXIV, Mai (1912), 260.

[71] Penodwyd Dr J. Lloyd Williams fel olynydd i’r Athro R. H. Yapp i Gadair yr Adran Fotaneg yn Aberystwyth ym mis Hydref 1914. Yn dilyn ei ymadawiad â Bangor, cychwynnodd gyfnod ffrwythlon arall yn ei hanes fel cerddor, ysgolhaig a golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.  

[72] J. Lloyd Williams, ‘Report of the Musical Editor’, Second Annual Report and Financial Statement for the year ending 30th June, 1910 (Bangor, 1910), 7.

[73] Mrs Jones, Penrheol, Llangeitho oedd yn canu. Gw. Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Cyf. I, Rhif 3 (1911), 146-7. Canwyd y gân ‘Cariad Cyntaf’ yn Eisteddfod Llangeitho (1890) hefyd. Gweler Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Cyf. I, Rhif 4 (1912), 166–7.

[74] J. Lloyd Williams, ‘Editor’s Note’, Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyf. I, Rhif 2 (1910), 66. Cefnogai aelodau teulu Cwrt Mawr eisteddfod flynyddol Llangeitho drwy noddi cystadlaethau a chyflawni eu dyletswydd fel Llywyddion y Dydd o bryd i’w gilydd. Rhoddwyd lle amlwg iddynt yng ngweithgareddau’r gymdogaeth ac ystyrid hwynt fel uchelwyr neu ‘sgweiars’ y fro (Dr Mari Ellis, mewn sgwrs â’r awdur, Medi 2004).

[75] Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyf. I (1909), 24-8. Gweler hefyd Meredydd Evans, ‘Pwy oedd Orpheus Eisteddfod Llangollen 1858?’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, Cyf. 5 (Caerdydd, 2002), 59-64.

[76] Gwyddai John Humphrey Davies am waith David Jones (‘Mole catcher’) a chasglwr baledi o ardal Llandysul o ganol y 18fed ganrif. Gw. Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyf. I, Rhif 4 (1912), 203

[77] Llsg. LlGC. Archif Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Gohebiaeth B1 (1905–39). Llythyr dyddiedig 21.07.1912 at Amy Preece.

[78] Wedi graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1911, penodwyd Mary Hughes, Pentop, Llanllwni yn athrawes Saesneg a Hanes yn Ysgol Ramadeg Llandysul cyn iddi dderbyn swydd fel darlithydd yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe. Yn ystod ei chyfnod fel athrawes yn Llandysul sefydlodd barti drama a daeth ei chyflwyniadau blynyddol yn ddigwyddiadau o bwys yn y dref. Perfformiwyd gweithiau fel When we are married (J.B.Priestley) a Joan of Arc (yn y Gymraeg a Saesneg) ganddynt. Priododd David Lewis, mab hynaf J.D. Lewis, sylfaenydd Gwasg Gomer, Llandysul, a chofnodwr rhai o faledi Sir Geredigion. Gwobrwywyd ef yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin (1911) am y casgliad gorau o faledi’r sir. Cofnododd Mary Hughes rai o’i hatgofion mewn erthygl fer yng nghylchgrawn yr ysgol. Gweler Mary Lewis, ‘I Remember’, The Adastra, Rhif 7, Christmas Term (1939), 19–21.

[79] Kitty Idwal Jones, ‘Adventures in Folk-song Collecting’, Welsh Music, Cyf. V, Rhif 5, Gwanwyn (1977), 33–52.

[80] J. Lloyd Williams, ‘The History of the Welsh Folk Song Society’, Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyf. III, Rhan 2, Rhif 10 (1934), 101.

[81] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A384. Llyfr nodiadau o wneuthuriad Jack Edwards, Stationer, Aberystwyth.

[82] Ibid., tt. 7-8. Nodwyd y geiriau a’r alaw mewn sol-ffa. Dyddir y cofnod, 24.06.1913.

[83] Ibid., t. 5. Nodwyd y sol-ffa ar gyfer llinellau 2,5, 7 ac 8 yn unig.

[84] Ibid., t. 7. Dim ond geiriau pennill cyntaf y gân hon a gofnodwyd gan Annie Ellis.

[85] Ibid., t. 9. Nodir y geiriau a’r sol-ffa yn llinellau 1,5,6,7 ac 8 yn y llsg.

[86] Ibid., t. 11. Nodir y geiriau’n unig ar gyfer y gân hon.

[87] Kitty Idwal Jones, op.cit., 45.

[88] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A384, tt. 15–17.

[89] Kitty Idwal Jones, op.cit., 47.

[90] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A384, tt. 23–5.

[91] Ibid., 31–35. Cofnod anghyflawn o’r faled yw hwn, ysywaeth.

[92] Ibid., 39–43.

[93] Rhai wythnosau’n ddiweddarach, urddwyd hi i Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Fenni (Awst 1913). 

[94] Roedd Mendus yn ganwr ac ymddangosodd droeon ar lwyfannau Aberystwyth yn perfformio yng nghwmni Dora Rowlands. Gw. The Dragon, Cyf., XXXIV, Mai (1912), 269.

[95] Llsg. LlGC. Casgliad T.I. Ellis, A351. Llythyr oddi wrth Lewis Mendus at Annie Ellis, dyddiedig 9.09.1913.

[96] Ibid.

[97] Mae Mendus yn cynnig ‘hewkin’ fel fersiwn wahanol o’r gair ‘Huwcyn’ ynghyd â’r eglurhad canlynol: ‘Huwcin [sic], she explained was a man from the North and generally a rascal. Anyway, a term of reproach’.

[98] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A351. Llythyr oddi wrth Lewis Mendus at Annie Ellis, dyddiedig 9.09.1913.

[99] Morfydd Llwyn Owen (1891–1918), cyfansoddrwaig, cantores a phianyddes. Cydweithiodd gyda Ruth Herbert Lewis i gynhyrchu cyfeiliannau i’r alawon a gyhoeddwyd yn Folk-Songs Collected in Flintshire and the Vale of Clwyd (Hughes a’i Fab, Wrecsam, 1914).

[100] Cyn canol mis Medi 1913, roedd Lewis Mendus wedi’i sefydlu’n weinidog yn Nhrefforest (Pontypridd), man geni a chartref Morfydd Owen.

[101] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A351. Llythyr oddi wrth Lewis Mendus at Annie Ellis, dyddiedig 9.09.1913.

[102] Oldfield-Davies, Alun (gol.), ‘Dora Herbert Jones’, Y Llwybrau Gynt (Llandysul, 1972), 99.

[103] Bu Dora Rowlands yn byw yng nghartref Annie Ellis yn Llundain am gyfnod yn 1915 cyn iddi ddechrau gweithio i’r Aelod Seneddol, John Herbert Lewis.

[104] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A349. Llythyr oddi wrth Dora Rowlands at Annie Ellis, (d.d. ond ca. 1913).

[105] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A349. Llythyr oddi wrth Dora Rowlands at Annie Ellis (d.d.).

[106] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A349. Llythyr oddi wrth Dora Rowlands at Annie Ellis, dyddiedig 13.07.1913 o Neuadd Alexandra, Aberystwyth.

[107] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A351. Llythyr oddi wrth Dora Rowlands at Annie Ellis, dyddiedig 14.08.1913.

[108] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A351. Llythyr oddi wrth Dora Rowlands at Annie Ellis, dyddiedig Mawrth 1914. Danfonwyd y llythyr o 23 Grosvenor Road, Westminster – cartref Ruth Herbert Lewis yn Llundain. Symudodd Dora i fyw yng nghartref Annie Ellis yn 1915 (gw. Llsg. LlGC C1990/7/12 – Dyddiadur Kitty Idwal Jones, 27.04.1915).

[109] Penodwyd hi i’r pwyllgor hwn yn dilyn marwolaeth y Dr Mary Davies yn 1930.

[110] Yn 1924 teithiodd Annie Ellis a Mrs Gwilym Davies i’r Unol Daleithiau i ddenu cefnogaeth gwragedd yr Unol Daleithiau i’r ‘League of Nations’.

[111] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A228.

[112] The Fifth Annual Report and Financial Statement for the Year ending 30th June 1913 (Wrexham, 1913), 2.

[113] Ibid., t. 2.

[114] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, A384 (Nodiadau ac areithiau). Traddodwyd y ddarlith hon yn Falmouth, Cernyw (d.d.).  

[115] Ibid..

[116] Roedd Annie Ellis yn Ysgrifenyddes Cangen Charing Cross o’r North Wales Women’s Temperance Association a’r Dr Mary Davies yn Llywydd.

[117] Cylchgrawn misol Capel Charing Cross.

[118] Llsg. LlGC. Archif Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru A1. Cofnodion 1908–34.

[119] Roedd Annie Hughes Griffiths yn bresennol ym mhriodas Leila Megane a T. Osborne Roberts yng Ngwesty’r Waldorff, Efrog Newydd 24 Mawrth 1924. Teithiodd yno yng nghwmni Mrs Gwilym Davies ar ran The League of Nations.

[120] Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyf. III, Rhif 9, Rhan 1 (1930), 31–3.

[121] Er enghraifft, cofnododd Silyn Roberts, un o aelodau Capel Charing Cross, y gân ‘Gwcw Fach’ yn ystod ei ymweliad â Canada.

[122] Laura Evans-Williams (1883–1944) o Henllan ger Dinbych, cantores broffesiynol ac un o unawdwyr blaenllaw y byd oratorio ym Mhrydain ddechrau’r 20fed ganrif. Yn dilyn hyfforddiant yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain (c.1906), sicrhaodd gryn enwogrwydd o ganlyniad i berfformiad o Messiah (Handel) a’r perfformiad cyntaf o The Apostles (Elgar) yng Ngŵyl Harlech. Ystyrid hi’n ddehonglydd caneuon gwerin Cymreig o gryn allu. Gweler John Davies, ‘Who was Harry Drew?’, Cerddoriaeth Cymru, Cyf. 10, Rhif 5, Gaeaf 2000-01 (2001), 23.

[123] Anhysbys: ‘St. David’s Day Soirée, The Concert’, The Dragon, Cyf. XL, June (1918), 127-8.

[124] Anhysbys: ‘Lit. and Deb Concert’, The Dragon, Cyf., XL, No. 1, December (1917), 40.

[125] Llsg. LlGC. Casgliad T. I. Ellis, B172. Llythyr oddi wrth Dora Herbert Jones dyddiedig 14.08. 1926.

[126] Welsh Folk Song Society, The 21st Annual Report and Financial Statement (June 1929–June 1930), (Wrexham, 1930), 2. Jennie Williams neu Jennie Ruggles-Gates – casglwraig caneuon gwerin a chantores o dref Aberystwyth. Gw. Wyn Thomas: ‘Ffarwel i Aberystwyth …’ – Jennie Williams a byd yr alaw werin yng Nghymru’, Cynheiliaid y Gân – cyfrol deyrnged i Phyllis Kinney a Meredydd Evans (Caerdydd, 2007), 251–79.

 

Sylwadau

Dim sylwadau wedi'u postio

 

islwytho'r erthygl

 

___________________

Manylion Bywgraffyddol

_________________

rhannu gyda ffrindiau

Designed & Developed by WiSS Limited