Rhifyn Archif

Rhagair

gan Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Dyw ysgolheictod ddim yn gallu stopio. Neu os yw hi mae bywyd diwylliant yn darfod. Gan fod ysgolheictod o bob math yn ymarfer ieithyddol yn arbennig yn y dyniaethau mae codi cwestiynau neu ymholi yn dasg greiddiol. Does dim yn wahanol yn hyn o beth mewn ysgolheictod a sgrifennir mewn iaith ‘leiafrifol’, gan nad oes dim yn lleiafrifol yn yr iaith ei hun, dim ond y nifer sy’n ei siarad. Pan fo’r nifer sy’n ei siarad a’r peuoedd lle’i siaredir ar gynnydd fel yn achos yr iaith hon, bydd ysgolheictod blaengar o ran ffurf a chynnwys, methodoleg a thestun, yn rhan o ymdrech ehangu peuoedd iaith ei hun, ac o ymestyn ffiniau dealltwriaeth gymdeithasol yr un pryd.

Yn hyn o beth mae’r gyfrol hon y caf y fraint o rageirio iddi yn arloesiad blaengar ysgolheigaidd. Yn ei dull a’i deunydd y mae’r un mor gynhyrfus-flaengar â gwaith yn nyddiau mawr ysgolheictod llenyddol-destunol y ganrif o’r blaen. Roedd temtasiwn weithiau i ysgolheigion testunol yn gweithio ar ddeunyddiau hanesyddol dybio bod y gwaith wedi’i wneud a bod y testun hwn neu’r llall wedi’i olygu. Ond nid gwir hynny ychwaith gan fod dealltwriaeth pob darlleniad gan unrhyw ddarllenydd o destun hanesyddol yn amrywio a bod yr amrywiaeth yn dwysáu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’r ymgais i ailddarllen ac ailddeall ymhob oes wrth wraidd ein hermeniwteg Ewropeaidd.

Mae’r hyn y gorfu i ni ei ddysgu am berthnasoldeb ysgolheictod llenyddol ac ieithyddol yn ystod chwedegau’r ganrif a fu yn fwy gwir, os gellir dweud y fath beth a bod yn athronyddol gywir, am ysgolheictod astudiaethau diwylliannol a chymdeithasol. Yn y rheini ni ellir ymguddio yn y testun gan fod hwnnw neu honno yn symud. Ar lawer cyfrif ysgolheictod perfformio sy fwyaf heriol, ac nid yn unig am y rheswm gor-syml fod pob perfformiad mewn celf fel mewn bywyd yn darfod. Osgoi’r ymgais i aralleirio yw llwyddiant celf ddramatig leoliadol, ac nid yw hyd yn oed y dull clyweledol fel cofnod neu atgynhyrchiad o foment perfformiad yn datrys pos atgynhyrchu.

Ond mae modd mynd ati drwy dirweddau a thirluniau, atgofion teuluol a lleoliad pensaernïol, i ddeall a dehongli’r penodol, fel yn ysgrif yr Athro Mike Pearson, gŵr y mae ei gywreinrwydd wrth ysgolheica’r un mor gyfriniol i mi â’i berfformiadau gwreiddiol.

Nid mewn perfformiad gweledol symudol yn unig y cynhyrchir delwedd ond drwy naratif print a geirfa ac ymddangosiadau cyrddau cyhoeddus a adroddir yn y wasg a’r cyfryngau. Dyma faes astudiaeth ddiwylliannol hanesyddol Gwenan Schiavone. Profa’n ddigamsyniol nad yw’r cysyniad o ‘enwogrwydd’ yn un anachronistaidd wrth drin y wasg dorfol ar dro’r ddwy ganrif o’r blaen.

Mae cenedl enwau gramadegol wedi profi yn ail dadleuol i hunaniaeth genedligol ethnig a gwleidyddol ei hun. Yn Gymraeg am gyfnod fe drodd dadleuon gwleidyddol am gydraddoldeb cymdeithasol yn ffrae am derfyniadau, mewn dryswch dwys rhwng ffurf yr arwyddiadur a natur yr arwyddedig. Dadl rhwng ‘pawb a’i gender’ fel y dwedir yn y de-orllewin. Mwy dadleuol fyddai honni bod astudiaeth Dr Enlli Thomas yn arwyddo tuag at symleiddiad treigladau cytseiniaid dechreuol fel modd o hyrwyddo caffaeliad ieithyddol ieuenctid ac oedolion!

Ar ôl chwe blynedd yn broffesiynol gyfrifol am y broses ddegawd yn ôl, doeddwn i fawr cliriach am y cysyniad o ‘farchnata iaith’. Cododd Dr Diarmit McGiolla Chriost fwy o gwestiynau am y broses o geisio cyfreithloniad gwleidyddol i hyrwyddo ieithyddol. Er efallai mai hen werthoedd amlieithedd ac amlddiwylliannedd fel sail resymol dinasyddiaeth luosaidd yw’r llinell foesol orau yn y diwedd.

Diben rhagair yw annog darllenydd i ddarllen y deunydd. Yr hyn y mae’r cynnwys sy’n dilyn yn ei brofi yw bod y ddwy efaill-ysfa ysgolheigaidd sylfaenol i gyffredinoli am strwythurau ac i fanylu ar brofiadau a phethau penodol yn fyw ac yn iach yn ein Prifysgolion ar waethaf tanwariant difrifol ar addysg uwch ac ymchwil yng nghyllideb debygol pob darpar lywodraeth yng Nghymru. Bydded darllen yr ysgrifau hyn yn ysbrydoliaeth i ni fynd ati i newid hynny.

 

islwytho'r erthygl

 

Designed & Developed by WiSS Limited