Wrth gaffael iaith rhaid dod i adnabod pa elfennau o’r iaith sy’n cytuno ac yn cyd-ymddangos mewn cyd-destunau cenedl arbennig: rhaid nodi’r berthynas rhwng ‘ffurf’ y gair a ‘gweithred’ y gair hwnnw o fewn yr iaith os am fod â gwybodaeth (neu ddealltwriaeth) gynhyrchiol o’r system. Rhaid i unrhyw elfen gystrawennol gael ei hamlygu’n glir ac yn amlwg fel hyn os yw plant am ei dysgu’n ddidrafferth ac effeithiol (Lieven, 1997). Ond nid yw hygyrchedd mapio ‘ffurf-weithrediad’ pob system genedl yn amlwg bob tro. Mae i bob iaith ei heithriadau, ond tra bo i rai ieithoedd giwiau dibynadwy a chlir am genedl ei henwau, nid oes i eraill giwiau mor amlwg a chlir.
Gwahanol systemau – gwahanol batrymau
Nid pob iaith sy’n gwahaniaethu rhwng cenedl ramadegol; ceir rhai, megis Tsieinëeg (Vigliocco a Franck, 1999) a Saesneg, sydd ond yn dangos cenedl ‘naturiol’ neu ‘genedl semantaidd’, neu yr hyn y cyfeirir ato ambell waith fel ‘cenedl gysyniadol’ (conceptual gender) (gweler Vigliocco a Franck, 1999). Ceir eto eraill heb unrhyw fath o ddosraniad o ran cenedl, er enghraifft Perseg Cyfoes (Peinovich, 1979) a Ffinneg, ble y defnyddir yr un ffurfiau gramadegol wrth gyfeirio at unigolion o’r naill ryw a’r llall. Mewn ieithoedd o’r fath, ni ellir gwahaniaethu o ran cenedl ond ar gyfer enwau sy’n dynodi pobl ac anifeiliaid y gellir yn hawdd eu gwahaniaethu ar sail rhyw.
Mewn ieithoedd ac iddynt systemau cenedl gramadegol, mae’r dull o gategoreiddio enwau yn ôl cenedl yn gwbl wahanol. Fel y crybwyllwyd uchod, cyfeirir ‘cenedl’ at gategori ‘gramadegol’ enwau yn unig, ac nid o gwbl at ryw gwrthrych y cyfeirair. Ys dywed Griffiths a Jones (1995), wrth gyfeirio at y system genedl enwi yn y Gymraeg: ‘it is misleading and unfortunate that the labels masculine and feminine have to be used . . . It would be just as logical to classify nouns as red nouns and green nouns, or as round nouns and square nouns’ (t. xii). (Er hynny, nid damwain yw’r ffaith fod y genedl ‘gwrywaidd’ gan amlaf yn cynnwys enwau am wrywod, a gwrthrychau sy’n gysylltiedig â gwrywod, a’r genedl ‘benywaidd’ fel rheol yn cynnwys gwahanol enwau am fenywod, ac am wrthrychau sy’n draddodiadol gysylltiedig â benywod.) I nodi rhai enghreifftiau amlwg o’r berthynas rhwng cenedl a gramadeg (nid ‘rhyw’), er bod merched yn ‘naturiol’ fenywaidd, mae mädchen ‘geneth’ yn ramadegol niwtral yn Almaeneg (Matthews, 1997), tra bo cailín ‘geneth’ yn ramadegol wrywaidd mewn Gaeleg (Dinneen, 1938). Ac er y gall babanod fod yn naturiol wrywaidd neu fenywaidd, defnyddir babi yn ramadegol wrywaidd yn y Gymraeg.
Mewn ieithoedd a chanddynt systemau cenedl enwi gramadegol, ymrennir enwau yn fenywaidd/gwrywaidd (ac weithiau, yn ddibynnol ar yr iaith – niwtral) yn ôl pa nodweddion ieithyddol y maent yn eu rhannu gydag aelodau eraill o’r un categori. Yn ddibynnol ar sut mae’r iaith yn ‘dangos’ cenedl enwau, mae’r aelodau o’r un categori yn cymryd yr un banodau, ffurfiau ansoddeiriol, rhagenwau, rhifolion, a.y.b. fel ei gilydd, ac mae’r ffurfiau hynny’n wahanol i’r rhai a gymerir gan aelodau o’r categori(au) arall (e.e. Frigo a McDonald, 1998). Yn yr enghreifftiau canlynol o’r Sbaeneg, mae’r holl eitemau’n cytuno o ran cenedl:
-
La mesa redonda ‘y + bwrdd (benywaidd) + crwn’
-
El anillo redondo ‘y + modrwy (gwrywaidd) + crwn’
Yn yr enghraifft gyntaf rhagflaenir mesa (benywaidd) ‘bwrdd’ gan y fannod fenywaidd la, a dilynir yr un enw gan yr ansoddair wedi ei farcio gan ei ffurf fenywaidd – redonda; mae pob eitem, felly, yn cytuno o ran cenedl. Yn yr ail enghraifft rhagflaenir anillo (gwrywaidd) ‘modrwy’ gan ffurf wrywaidd y fannod el a dilynir yr enw gan yr ansoddair wedi ei farcio ar gyfer ei ffurf wrywaidd – redondo. Mae’r dewis o ffurf i gyd-fynd â’r enw yn seiliedig ar gytuneb (ond mae eithriadau ym mhob iaith). Yn Sbaeneg, os yw’r enw’n fenywaidd (e.e., yn enw sy’n diweddu gydag -a, sydd 96.3 y cant o’r amser yn fenywaidd – Teschner a Russell, 1984), bydd yn cymryd -a ar y fannod bendant ac ar y rhan fwyaf o ansoddeiriau. Yn yr un modd, os yw’r enw’n cymryd la fel ei fannod bendant, bydd hefyd yn cymryd una fel ei fannod amhendant; mae enw sy’n cymryd y ffurfiau hyn felly yn fenywaidd. Yn yr un modd, os yw’r enw’n cymryd el fel bannod bendant, bydd hefyd yn cymryd un fel bannod amhendant. Bydd yr enwau hyn, felly, gan amlaf yn wrywaidd.
Yn hynny o beth, drwy farcio cenedl enw yn y ffordd yma, gellir sefydlu rhyw fath o gytuneb rhwng elfennau o’r frawddeg – rhyw fath o ‘gytgord morffo-gystrawennol’ (Gathercole, 1995), sydd, yn ôl rhai, yn cynorthwyo’r gwrandawr wrth ganolbwyntio ar y nifer o gyfeiriadau a geir mewn disgwrs cymhleth (e.e., Bates, Devescovi, Hernandez, a Pizzamiglio, 1996), ac yn hyrwyddo rhyw fath o ‘gadw gafael’ ar y berthynas rhwng elfennau o’r frawddeg, o fewn yr un frawddeg a thu hwnt i ffiniau’r frawddeg (Vigliocco a Franck, 1999). Ond dim ond un iaith yw hon. Mae gwahaniaethau traws-ieithyddol o ran patrymau ‘amlygu’ ac ‘arddangos’ cenedl yr enw – e.e., yn ddibynnol ar yr iaith gellir dangos cenedl ar ffurfdroadau enwol mewn gwahanol gyflyrau, o ran siâp neu derfyniadau, terfyniadau ansoddeiriau, o ran yr elfennau sy’n marcio’r lluosog, mewn elfennau sy’n marcio cytundeb berfol, neu mewn gwahanol setiau o ragenwau cyd-gyfeiriadol (Maratsos, 1983). Tra bo i rai ieithoedd setiau eithaf clir o ‘reolau’ sy’n helpu siaradwr i ddewis cenedl yr enwau, ac adnabod patrymau cytundeb o fewn y gystrawen o’i herwydd, nid oes i eraill reolau mor eglur a chlir sy’n hyrwyddo’r adnabyddiaeth o genedl enw o ran nodweddion arbennig yr enw. Er hynny, mae plant yn parhau i gaffael y systemau hyn. Bwriad y papur hwn yw cyflwyno ymchwil rhagarweiniol sy’n disgrifio caffaeliad plant o system genedl enwi hynod gymhleth: y system genedl enwi yn y Gymraeg.
Y system genedl enwi yn y Gymraeg
Fel pob iaith Geltaidd, mae’r system genedl enwi yn y Gymraeg yn un gymhleth iawn. Mae hyn yn rhannol oherwydd ei chysylltiad â’r system dreiglo, sef proses sy’n sbarduno newidiadau morffoseinegol i elfennau blaen geiriau (gweler Thomas, 2001, am drafodaeth). Er mai proses seinegol yw’r treigladau (seinegol gan fod y broses yn terfynu mewn newid seinegol) cânt eu sbarduno gan ffactorau geirfaol, morffolegol, a chystrawennol (Tallerman, 1990; Willis, 1990).
Mae tri math o dreiglad yn y Gymraeg. Tan amgylchidau’r treiglad meddal (TM) ceir y cyfnewidiadau seinegol canlynol: /p/®/b/, /t/®/d/, /k/®/g/, /b/®/v/, /d/®/ð/, / ɬ/®/l/, /r̥/®/r/, /m/®/v/ a diddymir /g/, ac yn fwy diweddar (mewn rhai tafodieithoedd) cyfnewidir /tʒ/ i /j/. Y TM sy’n effeithio’r nifer mwyaf o synau ac sy’n cael ei sbarduno gan y nifer mwyaf o gyd-destunau geirfaol a chystrawennol. Tan amgylchiadau’r treiglad trwynol (TT) ceir y cyfnewidiadau seinegol a ganlyn: /p/®/m̥/, /t/®/n̥/, /k/®/ɳ̥/, /b/®/m/, /d/®/n/, /g/®/ɳ/. Tan amgylchiadau’r treiglad llaes (TLl), newidir /p/ i /f/, /t/ i /ɵ/, /k/ i /x/, ac ychwanegir /h/ o flaen llafariaid (ac mewn rhai ardaloedd, newidir /m/ a /n/ i /m̥/ a /n̥/ ar ôl ei). Sbardunir y gwahanol brosesau treiglo gan wahanol eitemau a chyd-destunau ieithyddol (gweler, e.e., Ball a Müller, 1992). Gall y sbardunwyr hyn fod yn eitemau geirfaol (arddodiaid, rhagenwau ansoddeiriol, cysyllteiriau, a.y.b.) neu yn gyd-destunau gramadegol (e.e., gwrthrych y ferf). Ar yr wyneb, gellir dadlau bod hon yn system a chanddi reolau eithaf clir: mae iddi nifer o sbardunwyr sy’n rhaid eu hadnabod, ac mae’r rheiny’n sbarduno un o dri math o broses treiglo. Gwaith y plentyn yw adnabod pa sbardun sy’n sbarduno pa dreiglad yn y mewnbwn ieithyddol y mae’n ei dderbyn, a chynhyrchu’r treiglad hwnnw yn ei allbwn ieithyddol ei hun. Ond nid yw’r broses mor syml â hynny mewn gwirionedd. Ni ellir dadlau bod mapio ‘ffurf-weithrediad’ y system yn amlwg nac yn eglur, am nifer o resymau, megis y canlynol (gweler Thomas, 2001, am drafodaeth gyflawn):
-
Mae’n effeithio nifer fechan o synau yn unig (/p, t, k, b, d, g, ɬ, r̥, m/ + llafariaid + /tʒ/).
-
Ni threiglir /ɬ/ a /r̥/ ym mhob cyd-destun ar gyfer y TM (e.e., ar ôl yn traethiadol, ar ôl y ffurfiau cymharol mor a cyn, a’r adferf pur – gweler Thomas, 1996, a Thorne, 1993).
-
Ni threiglir pob /g/ ar ddechrau benthyciadau (Thomas, 1996; Ball a Müller, 1992; Awbery, 1986; Tallerman, 1987).
-
Nid oes setiau cyflawn o sbardunwyr (e.e., nid yw pob arddodiad yn sbarduno treiglad).
-
Nid yw pob sbardun yn sbarduno’r un treiglad bob tro. Ceir yr hyn a elwir yn ‘dreiglad cymysg’ ble y sbardunir TLl ar /p, t, k/ a TM ar /b, d, g, ɬ, r̥, m/ ar ôl y geirynnau negyddol ni a na, y cysylltair oni a’r geiryn oni (Thomas, 1996; King, 1993).
-
Nid yw pob siaradwr yn gyson yn ei (d)defnydd o’r treigladau.
Marcio cenedl
Yn y Gymraeg mae cenedl gair yn cael ei amlygu’n rhannol drwy ddefnydd treigladau. Treiglir enwau benywaidd yn feddal ar ôl y fannod ac un(cath; y gath, un gath), a threiglir ansoddeiriau sy’n goleddfu enw benywaidd hefyd yn feddal (y gath fawr ddu < mawr, du). Sylwer nad yw’r ffurfiau gwrywaidd yn treiglo’n feddal yn y cyd-destunau hyn (ci; y ci, un ci; y ci mawr du). Ond nid yw pethau mor syml â hyn. Nid y genedl fenywaidd yn unig sy’n gysylltiedig â’r TM. Mewn rhai cyd-destunau, mae pob gair sy’n treiglo’n feddal yn treiglo’n feddal ar ôl sbardun (e.e., ar ôl set gaeëdig o arddodiaid). Mewn cyd-destunau eraill mae’r genedl wrywaidd hefyd yn cael ei harddangos drwy ddefnydd o’r TM. Mae’r ansoddair meddiannol (homonymaidd) ei yn sbarduno TM ar y gair sy’n ei ddilyn os yw’r meddiannydd yn wrywaidd (ei gar < car), ac yn sbarduno’r TLl (neu ddim treiglad) ar air sy’n ei ddilyn os yw’r meddiannydd yn fenywaidd (ei char < car; ei blodyn < blodyn). Mae hyn yn wir am enwau am bobl, anifeiliaid a gwrthrychau difywyd (e.e., roedd gan y lorri dwll yn ei tho – gan mai to y lorri sydd dan sylw, y lorri - enw benywaidd – yw’r meddiannydd ac felly defnyddir y TLl).
Eto, fel a drafodwyd ar gyfer y system dreiglo yn gyffredinol, ac yn ychwanegol i’r hyn a danlinellwyd eisoes fel elfennau sy’n cymhlethu’r system, mae i’r system genedl enwi yn y Gymraeg ei heithriadau anhydraidd, megis y canlynol (gweler hefyd Thomas, 2001, a Gathercole, Thomas, a Laporte, 2001):
- Ni threiglir enwau unigol benywaidd sy’n dechrau â /ɬ/ a /r̥/ ar ôl y(r) (e.e., y rhaw; y llaw) (Evans, 1981; Hughes, 1984, Thorne, 1993; Williams, 1980; Watkins, 1993; Ball a Müller, 1992). (Er hynny, mae tuedd i siaradwyr gynhyrchu’r treiglad yn y cyd-destun hwn yn yr iaith lafar – e.e., Thomas, 1996; Awbery, 1986.) Ni threiglir y synau hyn ychwaith ar ôl y rhifolyn un (Hughes, 1984; Evans, 1981; Thomas, 1996).
- Ni wahaniaethir rhwng y ddwy genedl yn y ffurfiau lluosog, dim ond yn y ffurfiau unigol.
- Ni ellir ond dangos cenedl drwy dreiglad ar y ffurfiau hynny sy’n gallu treiglo. Mae nifer o ffurfiau nad ydynt yn treiglo, a gellid yn hawdd beidio â marcio eu cenedl o fewn y cyd-destunau hynny – e.e., mae ‘ffenest’ ac ‘ysgol’ yn fenywaidd a ‘ffrwyth’ ac ‘ysbyty’ yn wrywaidd. Waeth beth yw eu cenedl, cedwir eu ffurfiau cysefin wedi’r fannod: ‘y ffenest’ (benywaidd), ‘y ffrwyth’ (gwrywaidd), ‘yr ysgol’ (benywaidd), ‘yr ysbyty’ (gwrywaidd). Mae’n bosib, wrth gwrs, i’r ffurfiau hyn gyd-ymddangos ag ansoddair sy’n gallu treiglo (e.e., ‘y ffenest ddu’), ond gallant yn hawdd gyd-ymddangos gyda ffurf nad yw’n treiglo hefyd (e.e., ‘y ffenest (benywaidd) newydd’, cymharer ag ‘y ffrwyth (gwrywaidd) newydd’). Gellir gweld sut y gall hyn gymhlethu’r system ymhellach, o safbwynt y plentyn sy’n ceisio caffael yr iaith.
- Ni threiglir ‘bach’ fel ansoddair ar ôl enwau benywaidd bob amser mewn rhai tafodieithoedd yn y gogledd. (Gellir dadlau nad ansoddair mo’r defnydd o ‘bach’ ym mhob achos o ddiffyg treiglad, ond, yn hytrach, bachigyn. Er hynny, mae’r mewnbwn ieithyddol y mae’r unigolyn yn ei dderbyn yn gamarweiniol, ac yn cymhlethu’r system. Gweler Astudiaeth 1 isod.)
- Nid yw pob sbardun yn sbarduno’r un treiglad bob tro: ei + TM = gwrywaidd, ei + TLl = benywaidd.
- Nid yw pob siaradwr yn gyson yn ei (d)defnydd o’r treigladau i farcio cenedl. Yn wir, honnwyd bod y system yn dirywio mewn rhai ardaloedd tafodieithol. Yr hyn a nodwyd yw bod gwahaniaeth mawr rhwng defnydd oedolion hŷn ac oedolion ifanc o’r system mewn ardaloedd sydd ar y ffin â Lloegr (gweler Jones, 1998, am drafodaeth ynghylch siaradwyr Rhosllannerchrugog a Rhymni, a Thomas a Gathercole, 2005, am ddata gwrthgyferbyniol o ogledd Gwynedd).
O ystyried y dasg o adeiladu ‘system’ reolaidd allan o’r myrdd hwn o afreoleidd-dra, digon yw dweud y bydd patrwm caffael y system yn y Gymraeg yn eithaf gwahanol i batrymau caffael rhai o’r ieithoedd hynny sydd ac iddynt ddulliau marcio cenedl llawer iawn mwy tryloyw.
Ymchwil ar gaffael systemau cenedl enwi gan blant
Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod plant yn sylwi ar gysondebau o fewn y systemau cenedl enwi y maent yn eu dysgu: maent yn gallu llunio system yn seiliedig ar reol sy’n cysylltu siâp ffonolegol yr enw â’r elfennau eraill sy’n cytuno, ac yn gwneud hynny’n ifanc iawn (Popova, 1973; Maratsos, 1983; Mills, 1986a; Levy, 1983a, 1983b, 1996; MacWhinney, 1978; Karmiloff-Smith, 1978, 1979; Martines a Shatz, 1996; Brisk, 1976; Cain, Weber-Olsen, a Smith, 1987; Smoczynska, 1985). Er enghraifft, mae plant sy’n dysgu Almaeneg yn dod i ddeall y system genedl (eithaf cymhleth) drwy ganolbwyntio ar y rheoleidd-dra yn y system (Mills, 1986a, 1986b; Mulford, 1985). Mae plant sy’n dysgu Sbaeneg yn gwneud defnydd o reoleidd-dra’r diweddiadau (megis yr –o a’r -a) yn gynnar iawn (e.e., Martinez a Shatz, 1996; Pérez-Pereira, 1991a). Mae plant sy’n dysgu Ffrangeg yn talu sylw i siâp ffonolegol yr enwau, ar draul gwybodaeth semantaidd (Karmiloff-Smith, 1978, 1979), a phlant sy’n dysgu Hebraeg yn gwneud defnydd o reoleidd-dra ffonolegol y system (Levy, 1983a, 1983b). Hyd yn oed mewn Pwyleg, sydd â system gyflyrol gymhleth iawn, dangosodd Smoczyn ska (1985) fod cytundeb o ran cenedl gyda’r ffurfiau unigol yn cael eu caffael yn ifanc iawn, o ganlyniad, mae’n debyg, i’r ffaith fod terfyniadau cyflyrol Pwyleg yn ddigon rheolaidd (ac yn fwy rheolaidd nag mewn iaith fel Rwsieg, sydd system genedl debyg, ond llai rheolaidd).
Mae canlyniadau traws ieithyddol o’r fath yn cynnig tystiolaeth eithaf cadarn fod plant yn ymateb i’r dasg o gaffael y system genedl enwi yn ôl nodweddion arbennig y system y maent yn ei dysgu. Gellid disgwyl, felly, bod patrymau dysgu plant sy’n dysgu systemau gwahanol yn datblygu’n wahanol: ‘whether a child initially acquires a given category by a phonological, semantic, pragmatic, or syntactic procedure will usually depend on the predominant patterns in the input’ (Karmiloff-Smith, 1979, t. 235), a: ‘the course of acquisition [for English and German] is linked closely to the structural properties of the language concerned’ (Mills, 1986b, t. 31). Yn dilyn hyn, dadleuir y bydd y plant hynny sy’n dysgu systemau cymhleth ble nad oes reolau amlwg am genedl enwau yn dibynnu ar rywbeth ehangach na rheoleidd-dra’r system er mwyn ei chaffael yn llwyddiannus. Gall hyn gynnwys dibyniaeth ar nodweddion semantaidd yr enwau. Yn wir, pan gyflwynwyd cyfres o enwau ffug a oedd yn cynnwys rhai ciwiau posib ar gyfer cenedl i blant a oedd yn dysgu Islandeg, dangosodd Mulford (1983, 1985) fod y plant yn gallu adnabod cenedl enwau am bobl yn amlach nag am anifeiliaid a phobl. Honnai Mulford (1985) fod hynny oherwydd nad yw’r –a derfynol mewn enwau Islandeg yn giw mor rheolaidd ar gyfer dynodi’r genedl fenywaidd â’r –e yn Almaeneg, efallai, gan ei fod hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddynodi elfennau eraill o’r gystrawen. (Er hynny, honnodd Pérez-Pereira (1991b), wedi ailddadansoddi’r data, fod plant ymchwil Mulford wedi talu mwy o sylw i’r ciwiau ffurfiol na’r hyn a honnai Mulford yn wreiddiol.)
Ymchwil ar y Gymraeg
Mae’r dystiolaeth hyd yma, felly, yn honni bod plant, pan ydynt yn ifanc iawn, yn dysgu’r system genedl enwi drwy arsylwi nodweddion ffurfiol y system, a’u bod yn gwneud hynny’n effeithiol iawn. Ond, pan fo ciwiau morffo-seinegol y system yn rhai amwys, gall nodweddion rhyw gwrthrych y cyfeirair gynorthwyo’r plentyn wrth y gwaith o farnu cenedl yr enw. Fel a eglurwyd yn gynharach, mae’r modd y dangosir cenedl enw yn y Gymraeg yn dra gwahanol i’r hyn a geir mewn ieithoedd eraill. Oherwydd diffyg rheoleidd-dra’r system yn y Gymraeg, mae’n debyg y bydd plant sy’n dysgu’r Gymraeg yn dibynnu ar rywbeth ehangach na strwythur ieithyddol y system. Yn wir, ac yn debyg iawn i ganlyniadau Mulford (1985), mae ymchwil diweddar gan Gathercole, Thomas, a Laporte (2001) a Gathercole a Thomas (2005) wedi dangos bod plant rhwng 5 a 9 oed sy’n siarad Cymraeg yn adnabod cenedl enwau gwir am bobl 87.2 y cant o’r amser gyda dau giw o’i gymharu ag enwau am anifeiliaid (57.1 y cant) a gwrthrychau (54 y cant). Sylwer hefyd fod perfformiad ar enwau anifeiliaid yn symud oddi wrth y lefel siawns (yn nes at 60 y cant na 50 y cant). Gall hyn fod yn arwydd fod gwybodaeth am natur biolegol gwrthrych yr enw rhywsut yn ‘agor y ffordd’ tuag at y genedl ramadgeol yn nes ymlaen yn natblygiad y system.
Mae’r astudiaethau sydd wedi eu cynnal ar ddatblygiad y system dreiglo ymhlith plant, ac mewn marcio cenedl yn benodol, yn brin iawn, yn enwedig o ran astudio’r iaith lafar. Er hynny, mae’r hyn sydd eisoes ar gael yn llunio patrwm rhagarweiniol ynglŷn â defnydd ac adnabyddiaeth plant o’r treigladau, fel a ganlyn:
-
Honnir nad yw rhannau o’r system dreiglo wedi eu meistroli gan blant 5 oed (Bellin, 1984, 1988), plant 8 oed (Ogwen a Jenkins, 1978), neu hyd yn oed gan blant 11 oed (Hatton, 1988), sy’n awgrymu mai proses hirhoedlog yw’r broses o gaffael y system. Mae hyn yn wir am blant Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith. Honnir ymhellach, drwy ddata ar y Llydaweg (Stephens, 1996) a’r Aeleg (O’Baoill, 1992), fod plant yn dechrau drwy ddysgu un ffurf ar gyfer pob enw. Awgryma hyn y gall plant fod yn ymateb i’r dasg o ddysgu’r system dreiglo drwy ddysgu am natur un eitem ar y tro – proses ddysgu dameidiog.
-
Ceir awgrym fod plant 14 oed yn ymwybodol, yn ysgrifenedig o leiaf, o farcio cenedl ar yr enw ac mewn ansoddeiriau (Jones, 1992), a’u bod yn marcio’r genedl berthnasol dros 80 y cant o’r amser yn y cyd-destunau hynny. Dywed hefyd fod plant 10 i 11 oed yn perfformio’n well gyda rhifolion nag ansoddeiriau, ac yn perfformio ar eu hisaf gyda threfnolion pan ydynt mewn perthynas â chenedl (Jones a Jones, 1984). Mae’n debyg hefyd fod plant yn dangos meistrolaeth o reolau treiglo cenedl yn y Gymraeg a’r Lydaweg ar yr un pryd â rheolau treiglo nad oes a wnelo â chenedl (gweler Jones, 1992, a Stephens, 1996).
-
Mae’n debyg mai’r TM sy’n cael ei ddefnyddio’n fwyaf cyson. (Mae hyn yn cyd-fynd â data ar oedolion – gweler e.e., Watkins, 1993; Ball, 1988). Ceir sôn hefyd fod rhai sbardunwyr yn cael eu caffael yn gynharach ac yn haws nag eraill, o fewn, ac ar draws y gwahanol dreigladau (gweler, e.e., Hatton, 1988).
-
Gall math ac amlder y mewnbwn ieithyddol ddwyn dylanwad ar ddefnydd rhai plant o’r treigladau. Mae’r plant hynny sy’n derbyn Saesneg yn unig yn y cartref yn llai cynhyrchiol gyda rhai sbardunwyr na’r rhai hynny o gartrefi ble y siaredir Cymraeg (Hatton, 1988; Bellin, 1988; Gathercole, Thomas, a Laporte, 2001; Gathercole a Thomas, 2005). Wedi dweud hynny, gall rhai siaradwyr ail iaith berfformio’n well na siaradwyr iaith gyntaf ar rai o’r sbardunwyr llai cyson (e.e., yn + TT), a hynny, mae’n debyg, oherwydd y math o ddysgu – mae plant ail iaith yn aml yn dysgu’r ffurfiau hyn mewn awyrgylch dosbarth ble pwysleisir y defnydd ‘cywir’ o’r system; mae siaradwyr brodorol, ar y llaw arall, yn dysgu am y sbardunwyr hyn mewn cyd-destunau mwy naturiol, ac yn ymateb i arferion llafar eu tafodiaith (e.e., defnydd o’r TM/ffurf gysefin yn lle’r TT ar ôl yn – e.e., yn Gaernarfon; gweler Davies, 1982).
-
Mae perfformiad plant yn newid yn ôl y math o brawf (e.g., Davies, 1982; Hatton, 1988) a steil cyfathrebu (e.g., Bellin, 1988). Hynny yw, mae plant yn perfformio’n wahanol pan ydynt mewn tasgau sy’n annog eu defnydd neu’n mesur eu dealltwriaeth o’r iaith ffurfiol i’w gymharu â thasgau sy’n annog neu’n mesur iaith naturiol.
-
Mae honiadau fod plant yn ymateb yn well ar eitemau geirfaol ‘brodorol’ nag ar fenthyciadau (Bellin, 1988; cf. Stephens, 1996). Er mai ar ddau eitem yn unig y cafwyd yr effaith yma, os dyna yw’r duedd yn gyffredinol, gall olygu un o ddau beth: (1) fod y plant yn dysgu un ffurf arbennig ar gyfer rhai eitemau; neu, (2) nad yw benthyciadau’n ymdoddi i’r system yn gyflawn.
Yn y papur hwn, disgrifir dwy astudiaeth a gynhaliwyd er mwyn adnabod patrymau caffael y system genedl ramadegol yn y Gymraeg. Er mwyn cael syniad o ddefnydd naturiol plant (ac oedolion) o’r system, casglwyd data o’u defnydd iaith mewn sefyllfa rhannol naturiol drwy ofyn iddynt adrodd stori. Er mwyn cael syniad o natur dealltwriaeth y siaradwyr o’r system ei hun (y cytundeb ar draws elfennau o’r gystrawen a chryfder ciwiau ieithyddol o ran ‘ffurf’ a ‘gweithred’ yr enw), cynhaliwyd cyfres o arbrofion byr yn cynnwys enwau am wrthrychau difywyd yn unig. Un ffordd o astudio natur dealltwriaeth plentyn o’r system yw trwy greu sefyllfaoedd ieithyddol ‘newydd’ ble mae’n rhaid i’r plentyn ddefnyddio enw newydd (neu enw ffug) mewn cyd-destun ieithyddol ble mae’n rhaid marcio cenedl yr enw. Gellir newid strwythur yr enw ffug fel bod ganddo nodweddion sy’n perthyn i’r naill genedl neu’r llall, neu newid ymddygiad yr enw mewn gwahanol gyd-destunau, a cheisio annog y plentyn i ddefnyddio’r un enw mewn cyd-destun arall ble mae’n rhaid i’r plentyn farcio cenedl yr enw fel bo’r gystrawen yn cytuno. Dull yw hwn o ddod â’r prosesau niwroieithyddol mewnol i’r wyneb. Mae ymchwil blaenorol (e.e., MacWhinney, 1978; Karmiloff-Smith, 1978, 1979; Levy 1983a, 1983b; Mulford, 1983, 1985) wedi defnyddio’r union ddull hwn, ac wedi dangos, yn gyffredinol, fod plant yn defnyddio’r ciwiau ffurfiol (diwedd yr enw, y dewis o fannod, y math o ansoddair) yn fwy na’r wybodaeth fiolegol, sydd, mewn ambell i astudiaeth, wedi cytuno ac anghytuno â chenedl ramadegol y gair. Drwy gynnal astudiaethau o ddefnydd a dealltwriaeth plant (ac oedolion) mewn sefyllfa rhannol-naturiol ac arbrofol, llwyddwyd i lunio darlun rhagarweiniol o batrwm caffael y system gan blant.
ASTUDIAETH 1: Defnyddio’r system ar lafar
Cyfranwyr
Plant
Ymrannwyd 45 o blant i bedwar grŵp oed. Roedd grŵp 1 yn cynnwys plant 4½ oed (N = 11, ystod = 4;1 i 5;5 oed, cyfartaledd = 4.9 oed). Roedd grŵp 2 yn cynnwys plant 6 oed (N = 11, ystod = 5.9 i 6.7 oed, cyfartaledd = 6.1 oed). Roedd grŵp 3 yn cynnwys plant 7½ oed (N = 12, ystod = 6.9 i 7.9 oed, cyfartaledd = 7.2 oed). Roedd grŵp 4 yn cynnwys plant 9 oed (N = 11, ystod = 8.3 i 9.7 oed, cyfartaledd = 8.9 oed). Roedd pob plentyn yn mynychu un o ysgolion Ynys Môn neu un o ysgolion ardal Bangor. Derbyniwyd llythyrau caniatâd oddi wrth pob rhiant ynghyd â holiadur yn disgrifio cefndir iaith y plentyn a’i riant/rieni. Roedd pob rhiant (namyn dau) yn honni fod y mewnbwn ieithyddol yng nghartref eu plentyn yn 100 y cant Cymraeg (ac 80 y cant yn y ddau achos arall).
Oedolion
Gwirfoddolodd 30 o oedolion, rhwng 16 a 60+ mlwydd oed, i gymryd rhan. Roeddynt oll yn siarad Cymraeg fel mamiaith ac wedi cael eu magu ar aelwydydd ble y siaradwyd Cymraeg rhwng 80 y cant a 100 y cant o’r amser. Roedd pob un yn frodor o Ynys Môn neu o ardal Bangor ac wedi ymgartrefu yno ar hyd eu hoes. Ymrannwyd yr oedolion i dri grŵp: grŵp 1 yn cynnwys oedolion rhwng 16 a 30 oed (N = 8, ystod = 17 i 25 oed, cyfartaledd = 20 oed); grŵp 2 yn cynnwys oedolion rhwng 31 a 50 oed (N = 10, ystod = 32 i 49 oed, cyfartaledd = 38 oed); a grŵp 3 yn cynnwys oedolion 51+ oed (N = 12, ystod = 52 i 60+ oed, cyfartaledd = 56 oed).
Disgrifiad o’r dasg
Crëwyd cyfres o 28 o luniau i ddisgrifio stori (gweler Ffigwr 1). Camp y cyfranwyr oedd disgrifio’r hyn a welwyd yn y lluniau ar lafar fel stori. Crëwyd y stori o’r newydd (yn hytrach na defnyddio stori oedd yn bodoli eisoes) fel bod modd rheoli’r math a’r nifer o enwau y gellid eu targedu yn y stori.

Ffigwr 1
Er mwyn creu stori naturiol, dewiswyd llunio stori a fyddai’n adlewyrchu’r ‘digwyddiadau’ arferol a geir mewn straeon plant (gweler Berman a Slobin, 1994, t. 20):
1. Arwr a’i gyfaill. Roedd y stori’n cynnwys dau arwr - bachgen (gwrywaidd) a merch (benywaidd) - a’u cyfaill, y gath (benywaidd).
2. Problem. Thema’r stori oedd diwrnod golchi dillad. Ond, chwythodd y gwynt y dillad (cymysgedd o enwau gwrywaidd a benywaidd) oddi ar y lein.
3. Ymdrech i gywiro’r broblem. Rhedodd y bachgen, y ferch a’r gath drwy’r pentref a’r fferm gyfagos i geisio dal y dillad, gan gasglu’r eitemau hynny a ddaeth i gysylltiad â gwahanol bethau (cymysgedd o enwau am wrthrychau byw a difywyd gwrywaidd a benywaidd) ar hyd eu taith.
4. Datrys y broblem yn llawen. Gyda chymorth rhai o’r cymeriadau y daethant ar eu traws (cymysgedd o enwau gwrywaidd a benywaidd am endidau byw a difywyd), casglodd y plant yr holl eitemau o ddillad ynghyd yn eu basged (benywaidd), gyda’r fam yn llawenhau am eu bod wedi dychwelyd yn saff.
Bwriedwyd cynnwys niferoedd cyfartal o enwau gwrywaidd a benywaidd, a chymysgedd o enwau am bobl, anifeiliaid, a gwrthrychau difywyd fel yr enwau targed yn y stori. Roedd yr enwau hynny a dargedwyd yn dechrau gyda’r synau canlynol: /p, t, k, b, d, g, ¬, r•, m/ (gweler Tabl 1). (O dro i dro nid oedd modd cydbwyso’r niferoedd yn llwyr yng nghyd-destun y stori gan nad oedd rhai mathau o enwau yn bodoli yn y Gymraeg – e.e., nid oedd modd dod o hyd i enw benywaidd am anifail yn cychwyn gyda /p/ – heblaw am ‘pioden’ a fyddai’n fwy tebygol o gael ei alw’n ‘aderyn’ – y gellid bod wedi ei ddefnyddio.) Er mwyn creu digon o gyfleoedd i’r siaradwyr gynhyrchu enwau ar ôl y fannod, gwnaed ymdrech ymwybodol i ailadrodd y cymeriadau a gwrthrychau targed dro ar ôl tro er mwyn hybu defnydd o’r fannod bendant (‘Mae’r ci wedi dal y bais’ yn hytrach na ‘Mae ci wedi dal pais’). Nid oedd modd sicrhau bod enghreifftiau penodol o bob cysyniad ansoddeiriol syml (e.e., bach a mawr, tew a thenau) yn ganolog i’r stori heb ehangu’n anorfod ar hyd y stori. Er mwyn annog defnydd o rai ansoddeiriau, sicrhawyd fod y stori’n un lliwgar, gan gynnwys digon o enghreifftiau o wrthrychau ac/neu anifeiliaid ‘piws’, ‘pinc’, ‘coch’, ‘brown’, ‘du’, ‘glas’, ‘gwyn’/‘gwen’, ‘gwyrdd’/‘gwerdd’, ‘llwyd’, a ‘melyn’/‘melen’.
Cyfarwyddiadau
Gwelwyd pob plentyn (ac oedolyn) yn unigol. Cyn i’r plant ddechrau adrodd eu stori, dangoswyd iddynt sut oedd gwneud hynny trwy i’r ymchwilydd adrodd stori ‘Tedi yn y sw’ wrthynt mewn cyfres o ddau lun. Roedd pob enw ac ansoddair y cyfeiriwyd ato yn y stori yn cychwyn gyda sŵn na ellid ei dreiglo yn y cyd-destunau a gynhyrchwyd (e.e., sebra, jiràff, neidr, hippopotamws, eliffant; jiràff smotiog, sebra streipiog).
Wedi clywed y stori, gofynnwyd i’r plentyn a hoffai o/hi adrodd ei stori ei hun. Cyflwynwyd iddo/iddi’r stori, a gofynnwyd iddo/iddi ddechrau gydag ‘Un tro . . . ’ er mwyn annog arddull dweud stori. Wedi iddo/iddi orffen, diolchwyd iddo/iddi a derbyniodd o/hi anrheg fechan am ei g/chyfraniad.
Gofynnwyd i bob oedolyn adrodd y stori fel pe buasai’n adrodd stori i blentyn. Recordiwyd pob sesiwn (gyda’r plant a’r oedolion) ar recordydd fideo fel bod modd trawsgrifio’r straeon wedi i’r sesiwn ddod i ben.
Y Canlyniadau
Dulliau sgorio’r data
Nodwyd pob defnydd o’r ffurfiau bannod + enw targed ac enw + ansoddair. Dadansoddwyd y ddau strwythur ar wahân. Disgrifir, yn gyntaf, y canlyniadau ar gyfer defnydd o’r fannod + enw targed, cyn trafod y canlyniadau ar gyfer defnydd o’r enw + ansoddair wedi hynny.
Bannod + enw
Ar gyfer pob defnydd o enw targed benywaidd (gweler Tabl 1), rhoddwyd sgôr o 1 bob tro y treiglwyd /p, t, k, b, d, g, m/ a phan na threiglwyd /ɬ/ a /r̥/ ar ôl y fannod. Ar gyfer pob defnydd o enw targed gwrywaidd (gweler Tabl 1), rhoddwyd sgôr o 1 bob tro y cynhyrchwyd enw gwrywaidd yn ei ffurf gysefin ar ôl y fannod. (Derbyniwyd nifer o enwau yn ychwanegol i’r enwau targed yn Nhabl 1. Dadansoddwyd ymatebion y siaradwyr i’r holl enwau ar wahân i’r dadansoddiadau ar gyfer yr enwau targed yn unig. Fodd bynnag, gan i’r canlyniadau arddangos yr un tueddiadau, adroddir ar y canlyniadau ar gyfer yr enwau targed yn unig fan hyn.)
Dadansoddwyd y data drwy ddefnyddio mesur ystadegol cymysg Analysis of Variance (ANOVA), ble yr ystyriwyd Math o Enw (byw, difywyd), Cenedl (gwrywaidd, benywaidd), ac Oed (4½ oed, 6 oed, 7½ oed, 9 oed, ac oedolion) fel newidynnau annibynnol. Oherwydd natur y data, lluniwyd y sgorau drwy gyfrifo’r nifer o weithiau y cynhyrchwyd yr enw yn ei ffurf briodol wedi’r fannod allan o gyfanswm y defnydd o’r strwythur y + enw ar gyfer y naill genedl, a chan nad oedd cyfanswm enghreifftiau o’r strwythur am fod yn gyfartal i bawb, rhaid oedd trawsnewid y data trwy ddefnyddio trawsnewidiadau arcsine.
Dangosodd y canlyniadau effaith arwyddocaol ar gyfer Cenedl (F(1, 54) = 86.222, p <.001), Oed (F (4, 54) = 8.232, p <.001), ac Oed x Cenedl (F (4,54) = 4.041, p <.01). Nid chafwyd effaith arwyddocaol ar gyfer Math o Enw (F (1,54) = .409, p >.05).
Cafwyd effaith arwyddocaol ar gyfer cenedl oherwydd fod pawb, ar gyfartaledd, wedi ymateb yn well gyda’r enwau gwrywaidd Cyfartaledd (C) = .98, Gwtriad Safonol (GS) = .110) na chyda’r enwau benywaidd (C = .75, GS = .305). O edrych ar ganlyniadau’r plant a’r oedolion ar wahân, gwelir bod y plant wedi treiglo’r ffurfiau benywaidd 60 y cant – sy’n uwch na’r lefel siawns – tra bod yr oedolion wedi gwneud hynny 88 y cant o’r amser. Mae Tabl 2 yn dangos patrymau’r data yn ôl oed.

Tabl 1
Er mwyn darganfod lleoliad yr effaith arwyddocaol ar gyfer oed, dadansoddwyd y data ymhellach trwy ddull post hoc sy’n caniatáu cymariaethau ar draws sgorau cyfartaledd. Datgelwyd bod yr oedolion (C = .942, GS = .155) wedi perfformio’n well na’r plant 6 oed (C = .728, GS = .369) ( F (1, 54) = 15.978, p < .001) a’r plant 9 oed (C = .749, Times New Roman">GS = .309) (F (1, 54) = 22.489, p < .001). O edrych yn fanylach ar y rhyngweithiad arwyddocaol rhwng oed a chenedl, gwelir nad oedd yr ymateb gwahaniaethol rhwng oedrannau yn bodoli ond pan oeddent yn ymateb i enwau benywaidd. Gweler Tabl 2.

Tabl 2
Gyda’r ffurfiau benywaidd, dangosodd prawf post hoc fod yr oedolion wedi ymateb yn arwyddocaol well na’r plant 6, 7½ a 9 oed (Student Newman Keuls, p < .05). (Nid oedd gwahaniaeth rhwng perfformiad oedolion a phlant 4½ oed, ond mae’n debyg fod hynny oherwydd na chynhyrchodd y plant ieuengaf fawr o esiamplau y gellid eu dadansoddi.)
O fewn y set o enwau benywaidd, roedd dau enw – ‘cwningen’ a ‘tylluan’ – yn dueddol o ymddwyn yn wahanol i’r gweddill gan rai o’r oedolion. Cynhyrchodd dau o’r oedolion ‘y ddylluan’, gan awgrymu’r defnydd o ‘dylluan’ (yn hytrach na ‘tylluan’) fel ffurf gysefin. Cynhyrchodd oedolyn arall ‘yr wningen’ ddwywaith yn ystod ei stori, gan eto awgrymu’r defnydd o ‘gwningen’ (yn hytrach na ‘cwningen’) fel ffurf gysefin yr enw. (Mae treigladau dwbl o’r fath wedi eu nodi eisoes yn Thomas, 1984, a Thomas, 1996.)
Ni chafwyd unrhyw sôn am ganlyniadau arwyddocaol yn ymwneud â’r math o enw (byw/difywyd). Hynny yw, roedd tuedd i bawb ymateb yn yr un ffordd i enwau benywaidd am bobl, anifeiliaid a gwrthrychau difywyd fel ei gilydd, ac i ymateb yn yr un ffordd i enwau gwrywaidd am bobl, anifeiliaid a gwrthrychau difywyd fel ei gilydd.
Enw + ansoddair
Yn gyffredinol, ni chynhyrchwyd llawer o enghreifftiau o’r strwythur enw + ansoddair yn ystod y straeon. Oherwydd hynny, dadansoddwyd pob defnydd o ansoddair ar ôl enw – yn lliwiau, meintiau, a.y.b. – a chynhwyswyd y rhai hynny a oleddfai’r enwau targed ac enwau eraill fel ei gilydd. Oherwydd prinder enghreifftiau o ansoddeiriau gan blant, nid oedd modd ymrannu’r newidynnau i gynnwys Math o Enw fel newidyn yn y dadansoddiadau ystadegol. Cynhaliwyd yr ANOVA, felly, i gynnwys Oed (4½ oed, 6 oed, 7½ oed, 9 oed, ac oedolion) a Chenedl (gwrywaidd, benywaidd) fel newidynnau annibynnol.
Eto, gwelwyd prif effaith arwyddocaol ar gyfer Oed (F (4, 40) = 3.518, p < .05). Gweler Tabl 3.

Tabl 3
Dangosodd dull post hoc sy’n caniatáu cymariaethau ar draws sgorau cyfartaledd fod yr oedolion wedi perfformio’n well na’r plant 9 oed (F (1,40) = 4.657, p < .05) a 7½
oed (F (1, 40) 8.615, p < .01), a pherfformiodd y plant 6 oed yn well na’r plant 9 oed (F (1, 40) = 5.154, p < .05) a’r plant 7½ oed (F (1, 40) = 8.011, p < .01).
Gwelwyd hefyd effaith arwyddocaol rhwng perfformiad yr ymatebwyr i’r ddwy genedl (F (1, 40) = 25.276, p < .001). Gweler Tabl 4.

Tabl 4
Dengys y data fod y cyfranwyr yn cynhyrchu ffurf gysefin ansoddeiriau sy’n goleddfu enwau gwrywaidd bron yn ddiduedd, tra bod y defnydd o’r treiglad meddal ar ôl enwau benywaidd yn anghyson.
O edrych yn fanwl ar y data, datgelwyd bod un eitem eirfaol yn gwrthod treiglad yn gyson ar ôl enwau benywaidd; yr eitem hon oedd ‘bach’, a ddefnyddiwyd yn bennaf i oleddfu enwau am bobl ac anifeiliaid. Yn ddiddorol iawn, roedd tuedd i’r plant dreiglo ‘bach’ llawer iawn mwy na’r oedolion: treiglwyd ‘bach’ rhwng 0 y cant a 84.62 y cant o’r amser yn adroddiadau’r plant a rhwng 0 y cant a 42.1 y cant o’r amser yn adroddiadau’r oedolion. Gan fod y plant wedi cynhyrchu ‘bach’ yn amlach nag unrhyw ansoddair arall yn eu hadroddiadau, nid oedd modd ailgyfrifo’u data gan eithrio’u defnydd o ‘bach’. Fodd bynnag, roedd modd ailgyfrifo defnydd yr oedolion o’r ansoddeiriau gan eithrio ‘bach’, ac o ganlyniad, gwelir cynnydd yn y defnydd o’r TM ar ‘bach’ pan yn goleddfu enwau benywaidd (gweler Tabl 5).

Tabl 5
Crynodeb: Astudiaeth 1
Mae’n amlwg, o’r data, fod y mewnbwn ieithyddol y mae plant yn ei dderbyn oddi wrth rai siaradwyr yng ngogledd-orllewin Gwynedd ac Ynys Môn yn eithaf cyson ar y cyfan o ran marcio cenedl enwau yn y Gymraeg. Er hynny, mae gwahaniaeth arwyddocaol rhwng cysondeb marcio’r ffurfiau gwrywaidd a’r ffurfiau benywaidd, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn iaith y plant. Er bod yma dystiolaeth fod plant yn gallu marcio’r genedl fenywaidd yn y cyd-destunau hyn – yn aml yn uwch na lefel siawns – maent eto i gyrraedd lefel yr oedolion, hyd yn oed yn 9 oed. Gall yr anghysondebau o ran marcio’r ffurfiau benywaidd yn y mewnbwn fod yn rhannol gyfrifol am natur hirhoedlog caffaeliad o’r system gan blant. Ond nid yw hynny’n annisgwyl. Er mwyn marcio’r genedl fenywaidd yn y cyd-destunau bannod + enw ac enw + ansoddair, rhaid gweddnewid y ffurfiau benywaidd drwy broses ieithyddol gymhleth. Er mwyn marcio’r ffurfiau gwrywaidd nid oes rhaid gwneud dim ond cadw ffurf gysefin yr enw. Wrth farcio’r genedl fenywaidd, y duedd oedd treiglo’r enw wedi’r fannod, a phan na wnaed hynny, y duedd oedd cadw ffurf gysefin y gair. Gellir dadlau, efallai, pan na threiglir y ffurfiau benywaidd yn y cyd-destunau hyn, fod y siaradwyr yn methu gwahaniaethu rhwng y ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, a bod y system, o ganlyniad, yn dirywio. Yn yr un modd, os yw’r system yn barod yn dirywio, fel a awgrymir mewn data o ardaloedd llai Cymreig – e.e., Jones, 1998 – gellir dadlau nad yw’r plant yn gwahaniaethu rhwng y naill genedl a’r llall o ganlyniad i’r dirywiad yn y system. Fodd bynnag, nid yw’n amlwg fod dirywiad yn digwydd yn nhafodiaith y siaradwyr yn yr ymchwil hon. Anaml iawn y marciwyd y ffurfiau gwrywaidd gyda threigladau perthnasol i’r ffurf fenywaidd gan y plant a’r oedolion. Pe byddai’r cyfranwyr yn ymateb ar lefel siawns, yna byddai enghreifftiau lu o’r treiglad meddal ar y ffurfiau gwrywaidd a’r ansoddeiriau i farcio’r gwrywaidd i’r un graddau ag efo’r ffurfiau benywaidd. Ond nid felly yn y data yma. Cafwyd cysondeb mewn defnydd o’r ffurfiau cysefin mewn perthynas â’r genedl wrywaidd, a chafwyd ymdrech i gynhyrchu’r TM mewn perthynas â’r genedl fenywaidd yn yr un cyd-destun.
Yn wahanol i’r disgwyl, efallai, o ystyried gwaith blaenorol ar y Gymraeg (e.e., Gathercole a Thomas, 2005; Gathercole, Thomas a Laporte, 2001) ac ar ieithoedd eraill a chanddynt systemau llai rheolaidd o ran marcio cenedl (e.e., Mulford, 1985), ni welwyd gwahaniaeth rhwng ymateb y siaradwyr i enwau am endidau byw ac am endidau difywyd o ran eu gallu i farcio’u cenedl. Nid oedd y ciw semantaidd posib am ryw gwrthrych y cyfeirair felly i’w weld yn cyfrannu tuag at ddealltwriaeth plant nac oedolion am genedl yr enw dim mwy na gwybodaeth sy’n ymwneud ag enwau am wrthrychau difywyd.
Yn olaf, darganfuwyd, o’r data, fod un eitem geirfaol – ‘bach’ – yn gwrthsefyll treiglad ar ôl enw benywaidd, a hynny’n fwyaf aml yn iaith yr oedolion. Mae hynodrwydd yr eitem hon wedi ei drafod eisoes gan eraill (e.e., Thorne, 1993; Thomas, 1996; Griffiths a Jones, 1995; a Thomas, 2001). Drwy edrych ar nodweddion arbennig yr eitem mewn cymhariaeth ag ansoddeiriau eraill, gellir gweld bod ‘bach’ yn ymddwyn fel rhyw fath o fachigyn i nifer o siaradwyr yng ngogledd-orllewin Gwynedd ac Ynys Môn. Pan y’i defnyddir felly yn hytrach nag fel ansoddair traddodiadol, bydd y rheol ‘treiglo/dim treiglo’ yn llai perthnasol. Gall llwyddiant y plant i dreiglo ‘bach’ yn y cyd-destun benywaidd fod o ganlyniad i’w defnydd cyffredinol o ‘bach’ fel ansoddair. Ond, yn raddol bach, drwy gynefino ag arferion tafodieithol eu cymuned, bydd eu defnydd o ‘bach’ fel bachigyn yn cynyddu, gan ymddangos yn ei ffurf gysefin yn eu hiaith.
Drwy dderbyn casgliadau’r astudiaeth hon, gellir dadlau, yn wahanol i ieithoedd eraill, nad yw plant yn dangos meistrolaeth arwynebol o’r system gymhleth hon yn y Gymraeg, hyd at safon yr oedolion, hyd yn oed pan maent yn 9 oed. Er hynny, mae’n amlwg fod plant yn gwahaniaethu rhwng y ddwy genedl gan mai’r ffurfiau benywaidd yn unig sy’n cael eu marcio drwy dreiglad, er nad yw hynny’n gyson. Ond yr hyn na ellir ei gasglu o ddata o’r fath yw beth yw natur dealltwriaeth plant o’r system – pa un ai ydynt yn dysgu’r system yn systemataidd drwy lunio system haniaethol gymhleth ynteu’n dysgu am rannau o’r system fesul eitem. Crëwyd Astudiaeth 2 yn arbennig er mwyn astudio hyn drwy arsylwi gallu siaradwyr i ddefnyddio ciwiau cyd-destunol er mwyn penderfynu ar genedl enw.
ASTUDIAETH 2: Natur dealltwriaeth siaradwyr o’r system
Cefndir i’r astudiaeth
Yma, adroddir ar ganlyniadau pedwar prawf a ddaw o astudiaeth fwy a gynlluniwyd yn bwrpasol er mwyn astudio gallu plant i dalu sylw i’r gwahanol giwiau ar gyfer adnabod cenedl enwau yn y Gymraeg. (Gweler Thomas, 2001, am drafodaeth lawn.) Roedd pob prawf yn cynnwys geiriau gwir a geiriau ffug. Roedd hanner y geiriau gwir yn enwau benywaidd a’u hanner yn enwau gwrywaidd. Cyflwynwyd hanner y geiriau ffug fel enwau benywaidd a’u hanner fel enwau gwrywaidd yn ôl y ciw. (Gweler Ffigwr 2 am enghreifftiau o wrthrychau ffug.)

Ffigwr 2
Tasg y plentyn oedd cynhyrchu'r un enw a gyflwynyd iddo/iddi, ond mewn cyd-destyn cenedl gwahanol i'r un a gyflwynwyd, neu gynhyrchu ffurf gydefin yr enw. Isod ceir disgrifiaf o bob un o'r profion ar wahân (sylwer bod profion 1,2,3 a 4 isod yn cyfateb i brofion 3,4,5 a 6 yn Thomas, 2001 ac yn Gathercole, Thomas a Laporte, 2001):
Prawf ciw 1: y + enw → enw + ansoddair
Bwriad Prawf 1 oedd annog defnydd o’r strwythur enw + ansoddair ar ôl clywed yr enw ar ôl y fannod. Hynny yw, cyflwynwyd yr enw drwy gyfeirio at lun ar gerdyn, a dweud, er enghraifft, ‘Ar y cerdyn yma, fedri di weld y gadair?’ a thasg y plentyn oedd gorffen ail frawddeg drwy gynhyrchu’r ansoddair: ‘Dyma lun cadair c/goch’.
Prawf ciw 2: enw + ansoddair → y + enw+ ansoddair
Yn y prawf hwn, cyflwynwyd i’r plentyn y strwythur enw + ansoddair mewn cysylltiad â llun (e.e., ‘Mae Mair wedi colli cadair goch.’). Tasg y plentyn oedd ymateb i’r ail lun fel a ganlyn: ‘Ond ’naeth hi gael hyd i’r gadair d/ddu ar ei gwely’. (Gweler Ffigwr 3 am enghraifft o’r prawf.)

Ffigwr 3
Byddai ymatebion y plant i brofion 1 a 2 yn dangos i ba raddau y mae plant yn gwneud defnydd o’r ciwiau parod yn yr iaith i benderfynu cenedl enw.
Prawf 3: y + enw → enw
Ym Mhrawf 3 ceisiwyd annog y plant i gynhyrchu ffurf gysefin yr enw wedi iddynt glywed yr enw mewn cyd-destun cenedl. Yma, cyflwynwyd yr enw ar ôl y fannod (‘Ar y cerdyn yma fedri di weld y gadair?’) a thasg y plentyn oedd dweud ‘Dyma lun c/gadair’.
Prawf 4: y + enw + ansoddair → enw
Ym Mhrawf 4 cyflwynwyd y fannod + enw + ansoddair i’r plentyn (e.e., ‘Ar y cerdyn yma fedri di weld y gadair goch?’) a thasg y plentyn oedd ateb ‘Dyma lun c/gadair’.
Crëwyd Profion 3 a 4 er mwyn gallu arsylwi i ba raddau y mae plant ac oedolion yn ymwybodol o ffurf gysefin yr enw, neu’n gallu darogan ffurf gysefin yr enw o’i gyd-destun cenedl, ac yn sylwi ar gyd-destun treigladol enwau benywaidd.
Eitemau geirfaol
Yn Thomas (2001) lluniwyd y profion i gynnwys eitemau geirfaol gwir a ffug yn dechrau gyda /p, t, k, b, d, g, ɬ, r̥, m/, a /n/ ac /f/ fel eitemau rheoli. Fodd bynnag, yn y cyddestunau bannod + enw ac enw + ansoddair, ceir bod rhai o’r synau hyn, pan maent ar flaen enw neu ansoddair, yn gweithredu fel ciw amlwg am genedl enw tra bod eraill yn gweithredu fel ciwiau llai amlwg. Er enghraifft, o gyflwyno enw ffug yn dechrau gyda /b/ ar ôl y fannod, nid oes modd dweud a yw’r gair yn air gwrywaidd (heb ei dreiglo - megis ‘y bwrdd’) neu’n air benywaidd yn dechrau gyda /p/ sydd wedi ei dreiglo i /b/ (megis ‘y bêl’). Yma, adroddir yn unig ar y dadansoddiadau o’r eitemau hynny y gellir yn hawdd eu hadnabod fel aelodau o un genedl neu’r llall yn y cyd-destunau hyn. Yn hynny o beth, yr eitemau a ganlyn yn unig a ddadansoddwyd ym mhob prawf:
Profion 1 a 3
Eitemau benywaidd:
y + /ð/ (e.e., gwir: ‘y ddaear’, ‘y ddol’, ‘y ddeilen’; ffug: ‘y ddarrig’, ‘y ddigan’, ‘y ddabir’)
y + /v/ (gyda /b/- fel ei ffurf gysefin - e.e., ‘y fwyell’, ‘y fasged’, ‘y flanced’, ‘y faniar’, ‘y felem’, ‘y fligior’)
y + /v/ (gyda /m/- fel ei ffurf gysefin - e.e., ‘y faneg’, ‘y fodrwy’, ‘y fellten’, ‘y fedan’, ‘y faben’, ‘y fallt’)
Eitemau gwrywaidd:
y + /p/ (e.e., ‘y papur’, ‘y plât’, ‘y popty’; ‘y pibot’, ‘y pwfr’, ‘y peglan’)
y + /t/ (e.e., ‘y to’, ‘y tân’, ‘y tecell’, ‘y tesol’, ‘y tarin’, ‘y taber’)
y + /k/ (e.e., ‘y clo’, ‘y crys’, ‘y cleddyf’, ‘y cwgel’, ‘y cabir’, ‘y cellig’)
y + /m/ (e.e., ‘y mynydd’, ‘y morthwyl’, ‘y map’, ‘y mafur’, ‘y magl’, ‘y merin’)
Profion 2 a 4
Eitemau benywaidd:
/p/, /t/, /k/, /b/, /d/, /g/, /m/ + ansoddair lliw wedi ei dreiglo (e.e., enw + ‘binc’)
Eitemau gwrywaidd:
/p/, /t/, /k/, /b/, /d/, /g/, /m/ + ansoddair heb ei dreiglo (e.e., enw + ‘pinc’)
O gynllunio’r profion yn bwrpasol, roedd modd gofyn y canlynol:
(i) I ba raddau mae plant yn talu sylw i’r ciwiau a’u defnyddio er mwyn
penderfynu cenedl enw?
(ii) A yw cyfuniad o giwiau yn fwy defnyddiol nag un ciw?
(iii) A oes un ciw yn fwy defnyddiol nag eraill?
(iv) Os yw cenedl yn nodwedd gynhenid enwau, a fydd y plant yn
perfformio’n well pan fyddant yn ieuengach ar brofion sy’n cynnwys y
ffurf enwol yn hytrach na’r ffurf ansoddeiriol?
Yn gyffredinol, dylai plant berfformio’n well ar eitemau sy’n cynnwys enwau gwir nag enwau ffug o fewn pob prawf. Fodd bynnag, os yw’r plant yn datblygu system haniaethol sy’n seiliedig ar reolau, yna fe ddylai eu perfformiad ar y ffurfiau ffug wella gydag oed a phrofiad.
Cyfranwyr
Plant
Ymrannwyd 48 o blant i bedwar grŵp oed. Roedd grŵp 1 yn cynnwys plant 4½ oed (N = 12, ystod = 4.0 i 5.5 oed, cyfartaledd = 4.9 oed). Roedd grŵp 2 yn cynnwys plant 6 oed (N = 12, ystod = 5.7 to 6.7 oed, cyfartaledd = 6.2 oed). Roedd grŵp 3 yn cynnwys plant 7½ oed (N = 12, ystod = 6.9 i 7.9 oed, cyfartaledd = 7.2 oed). Roedd grŵp 4 yn cynnwys plant 9 oed (N = 12, ystod = 8.3 i 9.7 oed, cyfartaledd = 8.9 oed). Roedd bob plentyn yn mynychu’r ysgol un ai ar Ynys Môn neu yn ardal Bangor, ac yn dod o gefndir Cymraeg.
Oedolion
Arbrofwyd 15 o’r 30 o oedolion a gymerodd ran yn Arbrawf 1. Dewiswyd 5 oedolyn allan o bob un o’r 3 grŵp oedran (grŵp 1 = rhwng 16 a 30 oed, cyfartaledd = 20 oed; grŵp 2 = rhwng 31 a 50 oed, cyfartaledd = 38 oed; a grŵp 3 = 51+ oed, cyfartaledd = 53 oed).
Y Canlyniadau
Dadansoddwyd y data drwy ddefnyddio ANOVA ble yr ystyriwyd Cenedl (gwrywaidd, benywaidd), Prawf (Prawf 1, 2, 3, 4), Math o Enw (gwir, ffug) ac Oed (4½ oed, 6 oed, 7½ oed, 9 oed, ac oedolion) fel newidynnau annibynnol. Rhoddwyd marc o 1 pan farciwyd y ffurf yn addas i’r genedl a marc o 0 pan na farciwyd y ffurf yn ôl cenedl gynhenid neu’r genedl a farciwyd gyda’r ciw.
Dangoswyd y prif effeithiau arwyddocaol canlynol yn y data: Cenedl (F (1. 46) = 816.366, p < .001), Math o Enw (F (1, 46) = 60.592, p < .001), Prawf (F (3, 138) = 7.565, p < .001), ac Oed (F (4, 46) = 2.652, p < .05). Datgelwyd hefyd ryngweithiadau arwyddocaol rhwng Math o Enw x Cenedl (F (1,46) = 13.471, p < .001), Prawf x Cenedl (F (3, 138) = 28.956, p < .001), Cenedl x Oed (F (4, 46) = 23.053, p < .001), Prawf x Math o Enw x Cenedl (F (12, 138) = 5.554, p <.001), a Prawf x Cenedl x Oed (F (12, 138) = 6.460, p < .001). Golygai’r effeithiau hyn y canlynol:
(i) Roedd y siaradwyr i gyd yn perfformio’n well, yn gyffredinol, ar ffurfiau gwrywaidd na benywaidd.
(ii) Roedd y siaradwyr i gyd yn perfformio’n well, yn gyffredinol, ar enwau gwir nag enwau ffug.
(iii) Roedd tuedd i’r cyfranwyr berfformio’n well ar brofion a oedd yn annog defnydd o’r enw ar ôl y fannod na’r ansoddair ar ôl yr enw gan fod tuedd i orddefnyddio’r TM ar ansoddeiriau fel bod perfformiad ar eitemau benywaidd yn uchel ond yn isel ar eitemau gwrywaidd.
(iv) Roedd yr oedolion yn perfformio’n well, yn gyffredinol, na’r plant ar y ffurfiau benywaidd gwir (ond yn tueddu i ordreiglo’r ansoddeiriau ar ôl enwau gwrywaidd yn fwy na’r plant ieuengaf), ond nid oedd gwahaniaeth rhwng yr oedolion a’r plant ar y ffurfiau ffug.
(Gweler Thomas, 2001, am drafodaeth lawn o’r canlyniadau hyn.)
Gellir gweld rhai o’r effeithiau hyn yn y rhyngweithiad canlynol a ddangosir yn Graff 6 (Math o Enw x Cenedl x Oed (F (4. 46) = 2.933, p < .05).

Graff 6
Crynodeb: Astudiaeth 2
Mae’n amlwg, o’r data, nad yw plant nac oedolion yn meddu ar ddealltwriaeth gynhyrchiol o’r system cenedl enwi yn y Gymraeg. Yn benodol, nid oedd unrhyw un o’r ciwiau a gyflwynwyd yn helpu siaradwyr i farcio’r genedl mewn cyd-destun cenedl enwi gwahanol.
Trafodaeth a chasgliadau cyffredinol
Un o’r honiadau mwyaf blaengar ymysg ymchwil ar genedl enwi yw fod plant yn sylwi ar nodweddion ffurfiol y system er mwyn penderfynu ar genedl enw (e.e., MacWhinney, 1978; Karmiloff-Smith, 1978, 1979; Böhme a Levelt, 1979; Levy, 1983a, 1983b; Mills, 1986a; Cain, Weber-Olsen, a Smith, 1987; Martinez a Shatz, 1996), a hynny, gan amlaf, pan fo plant yn dysgu systemau tryloyw sydd â mapio ffurf-gweithrediad eithaf amlwg. Mae’r data ar y Gymraeg yn groes i’r honiadau hyn am y rhesymau canlynol:
Yn gyntaf, roedd sgorau cyfartaledd ar gyfer yr enwau benywaidd yn Astudiaeth 2 yn isel iawn (C = .258). Mae perfformiad o’r fath yn awgrymu nad oedd y plant yn gweld yr wybodaeth ffurfiol a oedd yn dynodi cenedl enwau yn ddefnyddiol. (Roedd canlyniadau’r oedolion yr un mor isel - C = .585 - ond yn nes at lefel siawns.)
Yn ail, ni pherfformiodd y plant na’r oedolion yn gynhyrchiol iawn efo’r enwau ffug. Hynny yw, ni lwyddodd y plant na’r oedolion i farcio cenedl y geiriau ffug (a’r enwau benywaidd yn benodol). Eto, mae hyn yn awgrymu nad oedd y ciwiau a gyflwynwyd o ddefnydd i’r plant wrth ddyfalu cenedl enw. Hyd yn oed pan ddadansoddwyd yn unig yr eitemau hynny nad oedd yn amwys o ran ciw, roedd perfformiad yr oedolion yn dal ar lefel siawns (C = .517). (Er hynny, roedd hyn yn gynnydd o’u perfformiad pan ddadansoddwyd yr holl eitemau, gan gynnwys y rhai amwys, yn Thomas, 2001 - roedd C = .323 bryd hynny.) Mae hyn yn awgrymu bod yr oedolion yn gwneud mwy o ddefnydd o’r ciwiau anamwys na’r ciwiau amwys. Ond nid oedd fawr o gynnydd ym mherfformiad y plant ar draws y ddau set o ddadansoddiadau, gan awgrymu nad oedd y ciwiau anamwys hyd yn oed yn fawr o gymorth wrth ddyfalu cenedl y ffurfiau ffug.
Cwestiwn arall sydd wedi ei ofyn yng ngŵydd ymchwil ar genedl enwi yw i ba raddau mae plant yn dibynnu ar wybodaeth all-ieithyddol (h.y. rhyw biolegol gwrthrych y cyfeirair) er mwyn penderfynu cenedl yr enw. Mae’r ymchwil hyd yn hyn yn honni nad yw plant yn talu fawr o sylw i giwiau o’r fath, gan fod y ciwiau ieithyddol yn llawer iawn mwy defnyddiol mewn nifer o ieithoedd. Fodd bynnag, pan mae’r iaith ac iddi system genedl gymhleth, gall gwybodaeth semantaidd fod yn ddefnyddiol weithiau (e.e., Mulford, 1985). Gan fod y system yn y Gymraeg yn gymhleth iawn, mae’n dilyn ei bod yn bosib y bydd y plant yn gweld ciwiau semantaidd o ddefnydd. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth o wahaniaesth rhwng enwau am endidau byw a gwrthrychau difywyd yn Astudiaeth 1, felly nid oes unrhyw dystiolaeth fod plant yn talu sylw i nodweddion rhyw y cyfeireiriau wrth ddyfalu cenedl enw.
Cwestiwn arall a ofynnir yw, a yw un cyd-destun cenedl yn fwy defnyddiol fel ciw nag un arall. Mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod plant yn dysgu marcio enwau am eu cenedl cyn eu bod yn marcio cenedl gydag ansoddeiriau. Mae’n anodd ateb y cwestiwn hwn ar sail y data presennol, gan fod prinder enghreifftiau o’r ansoddeiriau - namyn ‘bach’ - yn adroddiadau storïol y plant yn Astudiaeth 1. Mae’r data o Astudiaeth 2 yn anos byth i’w ddehongli. Roedd tuedd i orgynhyrchu TM ar ansoddeiriau yn gyffredinol, efallai oherwydd tuedd i orgywiro eu hynganiadau o dan amgylchiadau arbrofol. Oherwydd hynny, roedd perfformiad ar y ffurfiau benywaidd yn uchel (gan fod angen treiglo’r ansoddair yn y cyd-destun benywaidd) a pherfformiad ar y ffurfiau gwrywaidd yn isel (gan nad oedd angen treiglo’r ansoddair yn y cyd-destun gwrywaidd). Roedd hyn yn wir yn nata’r plant a’r oedolion. Efallai bod y duedd i ordreiglo’r ansoddair yn dilyn ffactorau yn ymwneud ag amlder ffurfiau yn yr iaith. Gan fod yr ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl yn traethiadol, e.e.: ‘mae hi yn wlyb < gwlyb;’ ‘mae o yn goch < coch’, gall fod y plant yn clywed yr ansoddair ar ôl yn fwyaf aml - ble mae pob ansoddair yn treiglo. Cefnogir hyn gan y ffaith na welwyd gorestyniad o’r TM ar yr enwau gwrywaidd wedi’r fannod - dim ond ar yr ansoddeiriau.
Un darganfyddiad cyson yn y llyfryddiaeth ar genedl enwi yw bod plant yn dysgu marcio cenedl enwau gwir neu ‘naturiol’ erbyn eu bod tua 3 oed (e.e., Clark, 1985; Mulford, 1985; Levy, 1983a, 1983b). Nid yw’r data o’r astudiaeth hon yn cefnogi hyn, fodd bynnag. Yn gyffredinol, dengys yma fod yr oedolion yn perfformio’n well na’r plant ar y cyfan. Er hynny, roedd y plant 9 oed yn perfformio’n debyg i’r oedolion, sy’n awgrymu bod datblygiad cynyddol gydag oed ymysg oedrannau’r plant. Ond ni welwyd cynnydd gydag oed o ran perfformiad ar y ffurfiau ffug, fodd bynnag.
Yr hyn y mae’r data yn ei awgrymu, yn y pen draw, yw nad yw’r system Gymraeg yn system haniaethol, seiliedig ar reolau i blant. Nid yw plant i’w gweld yn talu sylw i nodweddion ffurfiol y sytem: nid yw’r cyd-destunau bannod + enw nac enw + ansoddair yn giwiau defnyddiol iawn i’r plant. Mae’n debyg, felly, fod y broses o gaffael iaith gan blant yn aros ar lefel fwy arwynebol, gyda phrosesu ar lefel fanylach - eitem fesul eitem. Ceir tystiolaeth i gefnogi’r syniad fod plant yn ymateb i’r gamp o ddysgu iaith mewn modd mwy tameidiog o astudiaethau diweddar yn edrych ar forffoleg berfol yn bennaf (e.e., Gathercole, Sebastián, a Soto, 1999; Braine, 1976; Clark, 1974, 1982; Bloom, Lifter, a Hafitz, 1980; Shirai ac Andersen, 1995; Pizzuto & Caselli, 1993, 1994; Rubino a Pine, 1998; Tomasello, 1992, 2000) ond hefyd ar gyfer ystod o gystrawennau gramadegol (e.e., Lieven, Pine, a Baldwin, 1997; Pine a Lieven, 1993, 1997; Pine, Lieven, a Rowland, 1998). Mae’r astudiaethau hyn yn cytuno bod defnydd cynnar o eitemau ieithyddol arbennig yn gyfyngedig. Er enghraifft, ymdrinnir â berfau fel eitemau geirfaol unigol, a rhaid dysgu am eu hymddygiad fesul un (Tomasello, 2000). Mae’r data o’r astudiaethau ar y Gymraeg yn awgrymu datblygiad tebyg ar gyfer cenedl ramadegol: gall fod y plant yn cychwyn drwy ddysgu’r system yn arwynebol, drwy ddysgu’r gwahanol ddulliau marcio cenedl ar gyfer pob enw yn unigol. Dônt i gaffael gwybodaeth fwy haniaethol gydag oed a phrofiad, ond dim ond lle mae’r system yn ddiamwys.
Casgliad
Mae’r data o’r ddwy astudiaeth yn awgrymu nad yw gwybodaeth plant Cymraeg o’r system cenedl enwi yn y Gymraeg mor gynhyrchiol ag eiddo plant yn dysgu ieithoedd eraill. Nid yw plant Cymraeg wedi meistroli’r system erbyn eu bod yn 9 oed. Nid oedd gwybodaeth semantaidd yn ddefnyddiol er mwyn penderfynu cenedl enwau, ac nid oedd modd dweud yn iawn a oedd un math o giw yn fwy defnyddiol fel ciw nag un arall gan fod tuedd i’r cyfranwyr orddefnyddio’r TM ar ansoddeiriau yn ystod y profion. Ni lwyddodd plant nac oedolion i ddangos eu bod yn talu sylw i’r ciwiau ar gyfer cenedl yr enwau pan oeddent yn delio ag enwau ffug. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r plant yn dysgu system drwy lunio darlun haniaethol o’r iaith.
Pan fo iaith a chanddi system cenedl enwi gymhleth sy’n cael ei marcio gan brosesau morffo-ffonolegol amwys, mae caffaeliad o’r system yn hir ac yn estynedig. Bydd cwrs y dysgu’n amrywiol, ac yn debygol o adlewyrchu dulliau dysgu llai systemataidd.