Rhifyn Archif

Llais y genhades Gymreig, 1887–1930

Gwennan Mair Schiavone

Gyda lawnsio’r rhifyn cyntaf o Gwerddon, gwelwn gyfnodolyn Cymraeg sy’n gwthio ffiniau’r traddodiad print Cymreig. Y mae yng Nghymru draddodiad cryf o gyfnodolion Cymreig, a bydd Gwerddon yn awr yn sefyll yn gadarn yn gyfraniad cyfoes i’r traddodiad hwnnw. Dros ganrif a hanner yn ôl gwelwyd hefyd ohebiaeth o fath newydd yn cyrraedd cartrefi Cymru. Drwy gyfrwng y wasg, daeth y gynulleidfa Gymreig i gyffyrddiad â’r wlad fawr honno yn y Dwyrain - India. Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig oedd craidd y cyswllt hwn, a thrwy gyfrwng ei chyhoeddiadau daeth y gynulleidfa Gymreig, ac yn arbennig felly’r gynulleidfa Bresbyteraidd Gymreig, i wybod am ei gwaith, a daethant i gyswllt â’i chenhadon. Drwy gyfrwng yr ohebiaeth, daethant i adnabod gwlad a diwylliant newydd.

 

Sefydlwyd y Genhadaeth Dramor yng Nghapel Rose Place, Lerpwl, ym mis Ionawr 1840, ac yn y flwyddyn ddilynol, ar yr 22ain o Fehefin, cyrhaeddodd Thomas Jones - yn genhadwr cyntaf y Genhadaeth - ei faes ym Mryniau Khasia, yng ngogledd-ddwyrain India. Ym 1850, ehangwyd y maes cenhadol i Wastadedd Sylhet dan ofal y Parchedig William Pryse. Daeth y gwaith hwn ar y Gwastadedd i ben fodd bynnag ym 1872, hyd nes yr anfonwyd John Pengwern Jones, a’i wraig, a Miss Sarah A. John - cenhades gyntaf y Genhadaeth - i ailafael yn y gwaith ym 1887. Ymhen deng mlynedd ehangwyd y maes ymhellach i gynnwys Bryniau Gogledd Lushai, ac ym 1905 mabwysiadwyd Bryniau Gogledd Cachar yn faes ychwanegol. Parhaodd gweithgarwch y Genhadaeth hyd at ganol y 1960au, a thros gyfnod o ganrif a mwy yn oes y Genhadaeth daeth ei gwaith yn fyw i Gymru drwy gyfrwng y Wasg Genhadol. Er mai hanes gwaith ar gyfandir pellennig sydd gennym yma, y mae’r hanes hwnnw yr un mor berthnasol ac yr un mor greiddiol i hanes Cymru yn ganolog. Roedd y cenhadon eu hunain yn gweithredu’n uniongyrchol yng ngogledd-ddwyrain India, ond yr hyn sy’n allweddol i’w sylweddoli yw’r ffaith eu bod ar yr un pryd yn ‘weithredol’ yng Nghymru. Cenhadaeth Gymreig oedd hon ym mhob ystyr, cenhadaeth a reolid gan Bwyllgor yn ninas Lerpwl, a chenhadaeth a ariennid fwy neu lai yn gyfan gwbl gan Eglwysi’r enwad Cymreig.[1] Yr oedd y Genhadaeth a’r cenhadon eu hunain yn rhan o brofiad y gynulleidfa hon, a’r llinyn cyswllt rhwng y cenhadon ar y maes, a’r Eglwys a’i chynulleidfa gartref yng Nghymru yn cael ei feithrin a’i gynnal drwy gyfathrebu uniongyrchol o’r naill gyfandir i’r llall.

Er mor fawr ac mor gymhleth oedd gweithgarwch y cenhadon ar y maes cenhadol ei hun, yr oedd gan y cenhadon ddyletswydd ddeublyg i’w chyflawni - yn ogystal â chludo Methodistiaeth Galfinaidd Gymreig i’r gymdeithas honno ‘a drigai mewn tywyllwch’ yn India, yr oedd ganddynt gyfrifoldeb i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn Lerpwl a chyflwyno eu gwaith i’r gynulleidfa Gymreig mewn modd a fyddai’n sicrhau eu diddordeb ac yn cynnal y fflam genhadol yn eu plith.[2] Yr oedd diogelu a chynnal y cyswllt hwn yn rhan ganolog o’r gwaith ers ei ddechrau, ac er bod y cenhadon, yn sgil eu penodiad, yn cyflwyno eu hunain i wasanaeth tramor am oes yn enw’r Genhadaeth, nid mudwyr parhaol mohonynt. Yr oedd yn orfodol iddynt gadw cyswllt rheolaidd drwy lythyr ac adroddiad, ac yr oedd yn rhaid iddynt ddychwelyd i Gymru am gyfnodau o ‘ffyrlo’ - seibiant o’r maes - ar derfyn cyfnodau penodol o wasanaeth. Roedd y rheolau hyn wedi eu hamlinellu’n eglur, a’r cenhadon eu hunain yn ymwybodol fod ganddynt gyfrifoldeb dros ddwy wlad, a thros ddwy gynulleidfa yn ystod cyfnod eu gwasanaeth. Roedd cyfnodau o ffyrlo yn darparu llwyfan uniongyrchol i’r cenhadon gyflwyno eu hunain, a hyrwyddo eu gwaith drwy apêl bersonol. Byddai eu darlithoedd a’u pregethau gerbron yr eglwysi yn cael eu hysbysebu’n frwd a’u mynychu gan gynulleidfaoedd niferus, a’r ‘Arddangosfeydd Cenhadol’ a gynhelid yn cynnig llwyfan pellach i arddangos eu gwaith mewn modd gweledol a thrawiadol.

Serch hynny, nid yr ymddangosiadau personol hyn oedd prif gyfrwng y gohebu, ac er bod y gwaith hwnnw’n gyson ac yn dra effeithiol, nid oes amheuaeth mai’r prif lwyfan cyhoeddus i waith y Genhadaeth ydoedd ei gohebiaeth yn y wasg genhadol. Y wasg genhadol oedd prif wyneb cyhoeddus y Genhadaeth yng Nghymru, a thrwy gyfrwng ei thudalennau gwelwyd y cyfathrebu llawnaf a mwyaf cyson oddi wrth y gweithwyr ar y maes. O fewn y tudalennau hyn y ceir yr agoriad helaethaf i weithgarwch y Genhadaeth, a rhwng cloriau’r cyfnodolion hyn cawn ein tywys nid yn unig i ddeall nod a gwaith y Genhadaeth, ond cawn hefyd fynediad i fywyd y cenhadon eu hunain ar y maes.

Roedd y wasg genhadol yn cynnig cyfraniad arbennig i waith a datblygiad y Genhadaeth Dramor, a thros gyfnod yr anturiaeth gwelwyd y wasg yn datblygu’n gynyddol yn rhan greiddiol o’r gwaith. Drwy gyfrwng y cyhoeddiadau hyn y daeth yr achos cenhadol yn wirionedd byw, ac yn ganolog i fywyd y gynulleidfa Bresbyteraidd Gymreig. Roedd dau brif gyhoeddiad drwy gyfrwng y Gymraeg a oedd yn gyfrifol am bresenoldeb y Genhadaeth yng Nghymru.[3] Ar ei enedigaeth, cyfnodolyn Y Drysorfa a gynigiai’r llwyfan cyntaf i’r gwaith mewn print cyhoeddus.[4 ] Cylchgrawn misol enwad y Methodistiaid Calfinaidd oedd Y Drysorfa ac ym 1847 gwelwyd cynnwys adran ‘Y Cronicl Cenhadol’ fel adran ar wahân o fewn Y Drysorfa er mwyn rhoi llwyfan penodol i ohebiaeth y Genhadaeth Dramor. O fewn yr adran hon gwelwyd adroddiadau rheolaidd ynghylch y gwaith cenhadol yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr ag adroddiadau am weithrediadau’r enwad, newyddion crefyddol a thrafodaethau diwinyddol ac athrawiaethol eraill. Yr oedd yr adran, neu’r atodiad hwn, yn cael ei gyhoeddi fel ‘cylchlythyr’ ar wahân yn ogystal.

Yn ddiweddarach, gwelwyd cyhoeddi cyfnodolyn, neu gylchgrawn, gan yr Eglwys Bresbyteraidd yn benodol ar gyfer gohebiaeth y Genhadaeth Dramor, sef Y Cenhadwr. Argraffwyd y rhifyn cyntaf o’r Cenhadwr ym 1922 ac fe ymddangosodd yn fisol yn ddi-dor hyd 1974 gan gynnig llwyfan uniongyrchol hynod o werthfawr i’r Achos Cenhadol gerbron y gynulleidfa Gymreig. Gyda dyfodiad y cyfnodolyn hwn, cyflwynwyd y gwaith cenhadol mewn modd amrywiol drwy gyfrwng adroddiadau byr yn cyflwyno hanes datblygiadau a digwyddiadau penodol ar y maes. Roedd yn cynnig cyflwyniad i iaith, arferion a diwylliant y brodorion; portreadau o’r cenhadon eu hunain; ynghyd â defnydd cyson o ddeunydd ffotograffig a gyfrannai’n fawr tuag at adnabyddiaeth y darllenydd o’r gwaith a’r gweithwyr eu hunain ar y maes.

Bu’r Cenhadwr a’r Drysorfa yn offerynnau hynod o effeithiol a chwbl hanfodol i sicrhau ffyniant a datblygiad y Genhadaeth. Drwy gydol y rhifynnau, yr hyn a welir yw ymgais y Cyfundeb i fagu diddordeb y gynulleidfa yn yr Achos drwy gyflwyno’r maes, a cheisio dod â’r cyfan yn rhan o’u dychymyg, ac yn rhan o’u bywydau. Yr hyn sy’n drawiadol, ac sy’n ychwanegu trywydd diddorol iawn i ystyriaeth o’r cyhoeddiadau hyn, yw’r ffaith mai’r menywod a benodwyd yn genadesau a oedd yn gyfrifol am y mwyafrif helaeth o’r ysgrifau a gyhoeddwyd yn y naill gyfnodolyn a’r llall. Gyda phresenoldeb cynyddol menywod sengl fel cenadesau ar y maes cenhadol o’r 1890au ymlaen, gwelwyd presenoldeb cynyddol yng nghyfran eu gohebiaeth yn y wasg. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif ymddengys mai’r cenadesau oedd prif ohebwyr y Genhadaeth Dramor. Eu hargraffiadau a’u hymateb hwy i’r gwaith cenhadol a’u presenoldeb yn India oedd y rhan helaethaf o’r erthyglau a gyhoeddwyd yn y wasg genhadol. Geiriau a delweddau o enau’r cenadesau hyn oedd yr wyneb a gyflwynwyd i’r gynulleidfa gartref, ac wrth edrych yn fanylach ar eu hysgrifau, canfyddir fod llawer mwy ymhlyg yn eu geiriau nag adroddiadau arwynebol o’r gwaith yn unig. O fewn y llythyrau a’r erthyglau, ceir dim llai nag ymdreiddiad dwfn i fywyd a phrofiadau’r menywod eithriadol hyn, a’r cyfan wedi ei gyflwyno mewn modd cynnil, ond hynod o gydnaws a thrawiadol.

Roedd y cenadesau hyn yn ffigyrau eithriadol yn y cyfnod wrth iddynt dderbyn cyfleoedd a oedd ymhell y tu hwnt i’r hyn a oedd yn agored i’r fenyw yn gyffredinol yng Nghymru’r cyfnod.[5] Trwy law’r Genhadaeth, plannwyd y cenadesau mewn swyddi o statws ar y maes cenhadol - yn athrawesau, yn nyrsys, yn fydwragedd ac yn weithwyr cymdeithasol; roedd gan y menywod hyn waith pwysig i’w gyflawni. Roeddent yn sefydlwyr ysgolion, ysbytai, a chartrefi i wragedd a phlant amddifad, yn ddiwygwyr cymdeithasol, ac yn rhan o gynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch datblygiad a dyfodol y gwaith. Roeddent hefyd, wrth gwrs, yn efengylwyr - yn lledaenu’r gair o ddrws i ddrws, ac yn bregethwyr gerbron cynulleidfaoedd o ddynion a menywod, o bob oed a gallu - mewn capel, ac mewn gwasanaeth awyr agored. Dyma fenywod a enillodd i’w hunain statws cydnabyddedig o fewn cylch crefyddol caeth yr Eglwys Bresbyteraidd, a hynny ddegawdau cyn bod y fath gyfleoedd yn datblygu i fenywod o fewn yr Eglwys yng Nghymru ei hun. Wrth gwrs, saif y ddadl nad yw’r menywod hyn i’w cymharu â’u cyfoedion yng Nghymru, gan mai ‘dramor’ y daeth y cyfleoedd hyn iddynt, ond eto, nid ‘alltudion’ oeddent. Y mae’r cenadesau yn perthyn i hanes Cymru gan mai yno y seiliwyd ac y rheolwyd eu gwaith, ac roedd eu cysylltiad clòs â’r wlad trwy bresenoldeb a phrint yn cadarnhau mor ganolog oedd eu rôl yng Nghymru yn ogystal. Rhaid dod â hanes y Genhadaeth a’i gweithwyr yn ôl i brif ffrwd hanes Cymru, ac mae’r wasg genhadol, fel ag yr oedd yn nyddiau’r Genhadaeth ei hun, yn cynnig allwedd berffaith i ddilyn rhan o’r cyswllt hwnnw, ac yn cynnig cyfraniad arbennig yn yr achos hwn tuag at hanes menywod Cymru yn y cyfnod.

Wrth edrych yn benodol ar ysgrifau’r cenadesau o fewn y cyfnodolion hyn, cawn flas ar eu profiadau hwy dan glogyn y Genhadaeth Dramor. Gyda’u cyfraniad i’r rhifynnau hyn, gwelwyd mor ganolog oedd y cenadesau yn hanes y gwaith, ac mor allweddol ydoedd eu gohebiaeth er mwyn ennyn cefnogaeth a nawdd y gynulleidfa Gymreig. O fewn naratif yr ysgrifau, gellir canfod llais uniongyrchol y genhades, ac mae’r llais hwnnw’n llunio delwedd yn nychymyg y darllenydd o’r genhades ei hun, a’r hyn a gynrychiolai.

Cyflwyno’r maes cenhadol a’r gwaith ar y maes oedd prif bwrpas yr ohebiaeth yn y cyfnodolion hyn, gan ddod â Chymru ac India’n nes at ei gilydd, a sicrhau bod y maes cenhadol yn India yn ddarlun byw ac amlweddog ym meddyliau’r darllenwyr Cymreig. Drwy gyfrwng ysgrifau’r cenadesau ceir cyflwyniad i’r daith gorfforol i India, a’r daith ddaearyddol drwy faes y Genhadaeth yn ei ehangder mewn arddull disgrifiadol a theimladwy, ac mae presenoldeb personol ‘y genhades’ yn amlwg o fewn y naratif. Ymateb y menywod hyn i’r byd newydd a brofwyd ganddynt a geir yn yr ysgrifau ar yr olwg gyntaf, gydag ymgais i gludo’r darllenydd i ryfeddod y byd hwnnw. Llais y ‘dieithryn’ sydd yma, wrth i’r menywod ddod wyneb yn wyneb â’u hamgylchfyd newydd.

Naid ddychmygol i wlad arall a gawn, wrth i’r cenadesau gludo’r darllenydd ar y daith enfawr honno i begwn arall y byd yn ddaearyddol, ac i begwn arall o ran ffordd o fyw a ffordd o feddwl. Ceir yma fynegiant o anferthedd y daith, a’r pryder ymysg y cenadesau wrth ymgymryd â thaith o’r fath mewn cyfnod pan nad oedd teithio’n rhwydd nac yn arfer cyffredin. I’r mwyafrif helaeth o’r cenadesau hyn, y daith i India oedd eu taith gyntaf i wlad dramor,[6] ac mewn gwirionedd nid oedd ganddynt fawr o syniad o’r hyn a fyddai’n eu hwynebu.[7] Wrth droedio’r tir am y tro cyntaf, clywir llais y dieithryn, neu’r anturiaethwr, yng ngwaith y cenadesau wrth iddynt sylwi ar bopeth, a gwneud nodyn o bob rhyw fanylyn bychan o’u cwmpas. Roedd pob golygfa yn tanio eu synhwyrau, ac ymddengys yr ysgrifau fel cofnodion dyddiadurol wrth i’r cenadesau ddod i adnabod y wlad a’i rhinweddau. Roedd yr adnabyddiaeth hon yn greiddiol i’r genhades allu ymgartrefu ar y maes, ac roedd dealltwriaeth o’r amgylchfyd yn allweddol i allu gweithio ymysg y brodorion. Ynghyd â chynnig gwahoddiad i’r darllenydd yng Nghymru i gael golwg ar y wlad a’r genedl ddieithr honno a fyddai’n mynnu ei diddordeb, ei sylw, a’i chefnogaeth, rhaid cofio bod yr un dieithrwch yn wynebu’r cenadesau eu hunain, ac roedd yr ysgrifau hyn o’u heiddo’n adlewyrchiad gonest o ymateb y genhades i newydd-deb yr hyn a oedd o’i chwmpas. Roedd y genhades bellach yn rhan o’r byd a ddisgrifiai, ac o fewn yr ysgrifau gwelir ymgais y genhades i ddehongli ei sefyllfa, ac i gwestiynu ei hunan wrth iddi geisio ei lleoli ei hun o fewn y darlun amryliw hwnnw.[8] Dyma a geir yn y dyfyniad canlynol o ysgrif gan Miss E.A. Roberts wrth iddi gyrraedd Sylhet a chreu disgrifiad byw o’r hyn a welai:

Tery y gwahaniaeth chwi ar unwaith, a dengys pa mor wahanol y rhaid meddwl a gweithredu ymhob peth perthynol i’r India. Mor wahanol yw y brif heol yn Sylhet i ddim a welir yng Nghymru! Masnachwyr a mân-werthwyr yn eistedd a’u gliniau draws ei gilydd ynghanol eu perlysiau a’u grawn yn eu bythynnod bychain; prynwyr yn sefyll gerllaw a’u harian yn eu brethyn; brwydr geiriau yn myned ymlaen i geisio tynnu pris y nwyddau i lawr; bloedd i glirio yr heol i wneud ffordd i ryw berson o safle pwysig wedi ei ddilladu mewn dull Indiaidd, â gwisgoedd tanbaid amryliw; gorymdaith gyda drums ac udgyrn yn dwyn canopy o sidan ar bolion er ei ddal uwchben y priodfab yr hwn y maent yn myned i’w ymofyn; seirph-swynwr gyda nifer o bobl o’i gwmpas; dynion yn cyrcydu ar fin y ffordd i gael eu heillio. Mor dra dyddorol yr olwg …[9]

Fel rhan o’r ymgais honno, difyr gweld y modd y mae cyfeiriadau at Gymru yn ymddangos yn yr ysgrifau, fel yn yr enghraifft uchod. Wrth geisio denu’r darllenydd i mewn i’r ysgrifau, ac i fod yn rhan o’r anturiaeth, gwelir cyfeirio at Gymru, a chyfosod Cymru ag India mewn disgrifiadau lu sy’n cymharu’r cyfarwydd a’r hyn sydd eto’n anghyfarwydd. Roedd cyfeiriadau o’r fath yn fodd i ennyn y darllenydd i uniaethu â’r wlad ddieithr ac yn fodd i atgyfnerthu’r delweddau a grëid gan y cenadesau wrth iddynt gyflwyno’r wlad a’i thirwedd yn arbennig. Yr oedd hefyd yn fodd i’r cenadesau osod eu hunain o fewn y darlun a dod i delerau â’u bywyd newydd. Yn hyn o beth, yr oedd cyflwyno eu profiad i gynulleidfa ehangach yn cynnig cwmnïaeth o fath ar eu taith, ac yn atgof i’r darllenydd o fawredd y daith honno ar ran y cenhadon ac o faint y gagendor a oedd rhyngddynt.

Nid ar yr olwg gyntaf, nac ym mlynyddoedd cyntaf eu gwasanaeth i’r Genhadaeth yn unig y gwelwyd y rhyfeddu a’r manylu yma ar y byd o’u cwmpas. Roedd bywyd y genhades yn ymddangos fel un anturiaeth fawr, a’r hyn a welid yn gyson yn y cyfnodolion oedd disgrifiadau o deithiau a phrofiadau, a golygfeydd o’r newydd a brofwyd gan y cenadesau wrth iddynt deithio’r wlad, a phrofi ei hynodrwydd. Yn yr ysgrifau hyn, roedd y cenadesau eu hunain yn cyflwyno’r cyfan yn anad dim fel teithwyr chwilfrydig. Argraff o ‘lais y teithiwr’ a geir wrth iddynt gyflwyno’r wlad a’i thirwedd, a’i phobl - gyda’u diwylliant, eu crefydd, eu credoau, a’u gwisgoedd a’u hymborth - mewn ffordd a oedd yn mynnu sylw’r darllenydd. Ceir yma gasgliad cyfoethog o ysgrifau ethnograffig, lle gwelir y genhades yn ymdreiddio i fywyd y wlad hon a’i threfniadaeth gymdeithasol. Ym mis Ionawr 1927, er enghraifft, ceir ysgrif gan Miss Hetty Evans, Karimganj, yn trafod trefn y castes a’r outcastes, gan gyflwyno amlinelliad manwl o’r outcastes traddodiadol - y rhai a elwid yn gyffredin - ‘Y Namasudriaid’.[10] Yn yr un flwyddyn ceir cyfres o ysgrifau diddorol gan Miss Dilys G. Edmunds ar alwedigaethau a threfn y castes - megis y barbwr Indiaidd, y pysgotwr Indiaidd, y crochenydd, a’r llythyr-gludwyr, ynghyd â lluniau o’r dynion wrth eu gwaith.[11]

Er bod yr ysgrifau hyn yn enghreifftiau o ysgrifennu teithiol sy’n cyflwyno gwybodaeth ac yn ffeithiol o ran eu cynnwys, ceir yma ddisgrifio a chyflwyno mewn modd llenyddol, personol a theimladwy. Y mae’r casgliad rhyfeddol hwn o ysgrifennu teithiol yn enghraifft o arddull a chynnwys unigryw mewn llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod dan sylw, ac o bosibl mewn unrhyw gyfnod arall yn ei hanes. Yr oedd gan rai, yn naturiol, ddawn lenyddol a oedd yn rhagori ar eraill a chanddynt y gallu i greu delweddau a chyflwyno awyrgylch mewn modd arbennig. Un o’r cenadesau hynny oedd Miss Laura Evans, fel ag a welir yn y darn canlynol wrth iddi ddisgrifio ei hamgylchfyd mewn modd trawiadol:

Deffroais gyda’r wawr; yr oedd yn llawn lleuad, fel na feddyliais mai y wawr oedd - clywn swn coed a bamboo yn llosgi a phobl yn gweiddi ac yn siarad; edrychais allan drwy y ffenestr, yr oedd yr awyr yn goch, meddyliais ar y cyntaf fod hanner y dref ar dân, ond deallais yn fuan mai cochni yr haul yn codi yr oeddwn yn ei wel’d, ac mai swn y bobl yn mwynhau eu hunain oeddwn yn ei glywed.[12]

Ymateb personol ac onest y cenadesau i’r hyn a oedd o’u cwmpas sydd yn yr ysgrifau, a chyda’r chwilfrydedd a ymddengys yn eu disgrifiadau a’u delweddau, yr oedd y cenadesau yn cyflwyno eu hunain i’r gynulleidfa fel teithwyr yn gymaint ag fel cenadesau dros Grist. Taith o ddarganfod oedd hon i’r cenadesau, taith a ymestynnai’n hwy na’r daith gorfforol, ac roedd y daith honno’n dechrau o’r funud y troedient fwrdd y llong ar yr ymadawiad cyntaf o Gymru, gan barhau hyd at derfyn eu hoes.

Gwelir ymgais y cenadesau i gyflwyno’u canfyddiadau gerbron y gynulleidfa Gymreig drwy doreth o ysgrifau a mân nodiadau, gydag ymdrech i fod mor gywir ac mor fanwl â phosibl. Yn hyn o beth, diddorol yw gweld ymhlith yr ysgrifau gwreiddiol yn llawysgrif y cenadesau eu hunain, ymgais i fraslunio mewn pensil yr hyn y ceisient ei ddisgrifio, yn union fel y disgwylir ei ganfod mewn llyfr nodion gan deithiwr.[13] Mewn llythyr personol o eiddo’r genhades Miss Katie Williams er enghraifft, wrth iddi gyrraedd India am y tro cyntaf a disgrifio ei thaith o Calcutta i’w gorsaf yn Sylhet, ceir ganddi lun o ‘native hut’ a llun o gwch a ddefnyddid gan y brodorion[14] - roedd popeth mor newydd ac mor ddiddorol i’r cenadesau a’r darluniau hyn yn dangos brwdfrydedd yr anturiaethwraig ar ei thaith.

Yn ddiweddarach, gyda datblygiad technoleg, daeth defnydd o gamera yn gymorth mawr i’r cenhadon chwilfrydig, a chydag ymddangosiad Y Cenhadwr, gallai’r cenhadon amgáu lluniau i gyd-fynd â’u hysgrifau gan gynnig darlun a phrofiad mwy cyflawn i’r darllenydd. Ceir lluniau o’r maes a’i dirlun a’i adeiladau pwysig, a lluniau o’r cenhadon eu hunain wrth eu gwaith. Yn ogystal, ceir lluniau cyson o’r brodorion - yn cyfleu eu bywydau ‘amrwd’ a ‘phaganaidd’; ynghyd â lluniau ohonynt yn sgil gwaith y cenhadon - megis lluniau o blant yn yr ysgolion cenhadol, cleifion yn yr ysbytai a thrigolion mewn gwasanaethau crefyddol. Roedd y lluniau’n fodd i bortreadu’r gwahaniaethau yn sgil dylanwad a llwyddiannau’r Genhadaeth, ac yn fodd i’r gynulleidfa gartref weld sgil-effeithiau eu cyfraniadau hwy, megis trwy luniau o gleifion mewn ysbytai yn gorwedd ar welyau a gyfrannwyd gan unigolion o Gymru.[15]

Roedd y lluniau hyn yn gyfraniad gwerthfawr i ohebiaeth y Genhadaeth ac yn fodd o gadarnhau i’r darllenydd yr hyn yr oeddent yn ei ddarllen. Gyda’r casgliad o luniau, câi’r darllenydd fynediad i’r byd rhyfeddol a amgylchynai’r cenadesau, a chyfle i fyfyrio ar y ddelwedd o’r genhades eithriadol a oedd mor fentrus a dewr yn trigo o fewn y byd hwnnw.

Nid oes amheuaeth fod y casgliad ffotograffig a geir yn nhudalennau’r wasg, ac yn y casgliad o archifau, yn gasgliad rhyfeddol o ran cyfnod ei gylchrediad yng Nghymru, a’i gynnwys yn gyfraniad amheuthun i ddealltwriaeth o waith y Genhadaeth a’i delwedd gyhoeddus, ac yn gyfraniad tuag at hanes y maes yn India ei hun trwy ei gofnod o gyfnod arbennig yn ei hanes.[16]

Roedd yr amgylchfyd ar y maes mor wahanol i’r hyn a oedd yn gyfarwydd i’r cenadesau hyd at hynny, a’r cyfnodolion yn amlygu’r gwahaniaethau sylfaenol rhwng y ddau fyd. Wrth negodi a chyflwyno’r anghyfarwydd, ceir elfen o gyfosod y newydd â’r cyfarwydd, gyda Chymru’n cael ei defnyddio’n aml fel y gwrthbwynt.

Ar y cyfan, fodd bynnag, nid oedd angen defnyddio gwrthbwynt uniongyrchol i gwblhau’r darlun, gan fod y disgrifiadau eu hunain yn ddigon i’r darllenydd weld a phrofi’r gwahaniaethau sylfaenol hyn drosto’i hun, a hynny ar gefnlen lle roedd Cymru a Christnogaeth yn cynrychioli’r hyn oedd yn ‘normal’ o fewn y darlun. Dangosodd Edward Said fod yr elfen hon o gyflwyno gwlad, diwylliant a chymdeithas fel ‘arall’ yn ganolog mewn ysgrifau gan Ewropeaid wrth gyflwyno gwlad ddieithr, gan ei bod yn rhan o’r broses o ddangos Ewrop a’r Ewropeaid fel y pegwn ‘normal’ o’r darlun, gan gyfleu’r argraff annatod mai hwy oedd y dras oruchaf.[17] Ymddengys y nodwedd hon yn gyson mewn cyfnodau o imperialaeth, gan fod y broses yma o osod gwlad a chenedl fel ‘arall’ yn fodd i’r wlad imperialaidd sefydlu a chyfiawnhau ei rheolaeth dros genedl goloneiddedig. Y mae Mary Louise- Pratt hefyd yn disgrifio’r patrwm o ddarlunio ‘arfer a defod’ gwlad ddieithr o fewn ysgrifennu teithiol drwy gyfosod arferion ‘normal’ y teithiwr gyda’r cyfatebol yn y wlad ddieithr, fel rhan o’r ymgais i ‘gyfundrefnu’r gwahaniaethau’.[18]

Gellir priodoli’r syniadaeth yma i ysgrifau’r cenadesau hefyd i raddau wrth iddynt hwythau gyflwyno credöau, arferion a diwylliant y brodorion mewn dull cyffelyb. Yn yr un modd ag yr oedd yn rhaid i’r imperialydd gyfiawnhau ei waith drwy amlygu’r angen am ei ymyrraeth, yr oedd yn rhaid i’r Genhadaeth gyfiawnhau ei hymyrraeth a’i gweithgarwch gerbron ei chynulleidfa. Fel yr imperialydd, cofier mai gorchfygu a gwyrdroi cymdeithas oedd nod y cenhadwr hefyd, a hynny drwy sefydlu Eglwys Fethodistaidd yn India ‘ar eu llun a’u delw eu hunain’. Gorfoleddai’r Parchedig T. Charles Williams, M.A., ar dudalen flaen rhifyn cyntaf Y Cenhadwr ym mis Ionawr 1922 fod y Genhadaeth bellach wedi llwyddo gyda’r nod hwnnw.[19]

O fewn y cyfnodolion gwelir y cenadesau’n cyfiawnhau’r ymyrraeth hon drwy gyflwyno’r gynulleidfa i dristwch tywyllwch ac anwybodaeth y brodorion, a dangos y modd y gallai’r Genhadaeth ‘achub’ y trueiniaid yn eu hanobaith trwy eu harwain at Grist. Cyflwynwyd eithafion eu harferion paganaidd a’u credöau ofergoelus mewn modd a oedd yn ‘profi’ mai’r Genhadaeth yn unig a allai ddyfod â goleuni i’w bywydau – Cristnogaeth oedd yr allwedd i ‘achub y byd’. ‘Angen mawr yr India’ oedd cael ei hennill i gorlan Crist:

‘… Pan gaiff Duw ei le, fe lithra popeth arall i’w le yn naturiol … Y mae ar yr India angen mwy o gariad – cariad o’r un natur â chariad yr Arglwydd Iesu. Y mae arni eisieu mwy o allu – dyma ei chri mawr – gallu gwleidyddol, ond ni ddaw gwir allu heb undeb, a Christ yw’r Unwr Mawr.[20]

Yn ysgrifau’r cenadesau, amlygir yr elfen hon yn benodol mewn ystyriaethau ynghylch safle’r ferch yn y gymdeithas Hindwaidd neu Fwslemaidd, gyda’r gred sylfaenol mai Cristnogaeth yn unig a allai ryddfreinio’r menywod.[21] Roedd Miss Elizabeth Williams yn fwy na pharod i farnu caethiwed y ferch o fewn y ‘[g]yfundrefn ddrwg’ er mwyn arwain y darllenydd i sylweddoli bod angen am gludo ‘ffordd yr Efengyl’ i’w byd,[22] ac yr un oedd neges Miss Katie E. Williams wrth sôn am y merched yr ymwelai hi â hwy yn y zenanas:

… y maent mor blentynnaidd a syml … Nis gall neb ond yr Iesu eu codi i’w lle priodol; a dyma ydym ninnau yn ceisio ei wneyd trwy adael iddynt gael clywed am dano bob cyfleusdra a gawn.[23]

Yma, ymddengys llais y goruchafol, llais y coloneiddiwr, neu’r imperialydd mewn ffordd yn ysgrifau’r cenadesau. Er na fyddai’r cyswllt hwn rhwng y Genhadaeth a’r Ymerodraeth wrth fodd pawb, yr oedd cyswllt anhepgor rhwng y naill a’r llall.[24]

Wedi’r cyfan, yr Ymerodraeth Brydeinig oedd wedi darparu’r ffordd i’r Genhadaeth allu sefydlu yn y wlad yn y lle cyntaf, a thrwy gyfnod ei gwasanaeth yn India, gwelwyd cydweithio rhwng y Genhadaeth a’r Llywodraeth drwy ddarpariaeth tir, a llety, ac ar brydiau gwmnïaeth fel cyfeillion. I fwyafrif y brodorion, yr un oedd yr Ewropeaid beth bynnag eu ‘rôl’ yn yr Ymerodraeth, a diddorol gweld yn hynny o beth fod y cenadesau yn cael eu galw’n ‘Mem Sahebs’ yn union fel menywod eraill Ewropeaidd yn y wlad.[25] Gwelwyd hefyd nifer o genhadon a chenadesau yn derbyn medalau’r llywodraeth am wasanaeth nodedig i’r Llywodraeth – y Kaiser-I-Hind Medal, a gwelwyd y Gyfundeb ei hun yn clodfori llwyddiant y cenhadon wrth eu derbyn.

Yr oedd safle’r cenhadwr yn ei hanfod yn un lled amwys wrth gwrs, gan nad oedd yn rhan uniongyrchol o’r gymdeithas imperialaidd, nac ychwaith yn rhan o’r gymdeithas frodorol.[26] O’r herwydd, gwelwyd y cenhadon yn eu gosod eu hunain y tu mewn a’r tu allan i’r gymdeithas a’r diwylliant Ymerodraethol a brodorol fel ei golydd ar gyfnodau gwahanol. Serch hynny, roedd yr elfen o gyfiawnhau eu gweithgarwch drwy wahaniaethu rhwng trallod y brodorion, a’r rhagoriaeth y gallai’r Genhadaeth ei chynnig, yn ddiamheuaeth yn plethu i batrwm disgwrs imperialaidd. Y mae llais y coloneiddiwr, yr imperialydd goruchafol, i’w ganfod yn yr ysgrifau yn ogystal felly, er ei fod yn fwy amlwg o bosibl i’r darllenydd cyfoes. Er na fyddai darllenydd nodweddiadol y cyfnod hwnnw’n gwneud cysylltiad uniongyrchol â’r Ymerodraeth, nid oes amheuaeth nad yw llais y cennad pwerus a enillodd rym dan law yr Ymerodraeth yn adleisio’n eglur o fewn yr ysgrifau.

Serch hynny, nid amlygir y duedd i egsploitio a bychanu’r trigolion brodorol yn yr un modd gan y cenhadwr a’r imperialydd. Yn hytrach, yr hyn a geir yw cyflwyno i’r gynulleidfa yr her a wynebai’r cenhadon, yr hyn a geisient ei ddileu mewn ymgais i ‘achub’ y ‘trueiniad’ - a hynny er lles y genedl honno wrth gwrs. Roedd cyflwyno’r rhinweddau hyn yn fodd i dystio i’r gynulleidfa yr angen am eu cefnogaeth a’u nawdd, a’r gobaith oedd y byddai’n arwain y darllenydd i ddeall dwyster bywydau anoleuedig y pagan a oedd ‘yn byw yng nghaethiwed arferiad â phechod, heb unrhyw obaith am ymwared hyd nes y cânt rywun i ddyweyd wrthynt am gariad y Gwaredwr’.[27] Cyflwynid ffydd y Mwslim a’r Hindw, gyda’u defodau a’u credöau, mewn modd a oedd yn pwysleisio’r frwydr a wynebai’r cenhadon yn eu gwaith. Câi’r darllenydd ei atgoffa’n gyson o’r her a wynebai’r cenhadon, ac roedd cyflwyno rhinweddau neilltuol y wlad yn fodd o ennyn edmygedd y darllenydd o safiad y genhades, gan atgyfnerthu’r ddelwedd o’i dewrder.

Roedd elfen gref o bwysleisio rhwystrau ac anawsterau o fewn yr ysgrifau hyn i’w ddisgwyl ac yn arfer cyffredin mae’n debyg os yw’r ysgrifau i’w gosod o fewn, neu mewn cymhariaeth â, disgwrs disgwyliedig y teithiwr benywaidd, gan fod y mynegiant o ddewrder yn wyneb anhawster yn rhinwedd cyson mewn ysgrifennu teithiol gan fenywod.[28] Pwysleisid mawredd ac aberth y cenadesau wrth iddynt adael gwlad a chynefin, tylwyth a chyfaill, a hynny oll er mwyn achub ‘trueiniaid’ ym mhen arall y byd. O ganlyniad, ymddangosai’r genhades fel arwres gerbron ei chynulleidfa - yr hon a lwyddai i wynebu’r anawsterau â dewrder a gwrhydri, ac a lwyddai i oresgyn y sialens drwy ffydd a gofal Duw. Yr oedd y syniad hwn i’w ganfod yn gyson yn eu hysgrifau ac yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau o sefyllfaoedd o ddydd i ddydd, yn ogystal â disgrifiadau o’r anawsterau sylfaenol a wynebai cenhadwr ar y maes.

Câi’r darllenydd ei atgoffa’n gyson o ddewrder y cenadesau mewn sefyllfaoedd megis ‘ystormydd rheibus a chwythai ymaith doau eu cartrefi’, gyda diolch i’r Arglwydd am ‘ddirfawr ymwared’ rhag difrod gwaeth; [29] neu wrth ddisgrifio teithiau drwy dir anghysbell lle trigai anifeiliaid peryglus. Er enghraifft, wrth ddisgrifio taith o bron i 250 o filltiroedd ar draws Bryniau Lushai yng nghwmni cenhades arall - Miss Katie Hughes - edrydd Miss Winifred Jones hanes eu ‘taith luddedig’ ar droed ac ar gefn ceffyl, drwy jungle a thros fryniau pan ddaeth anawsterau ar eu traws hwy, ac yma clywir llais yr anturiaethwr a’r teithiwr dewr. Wedi llwyddo i ddianc rhag ymosodiad gan fuwch wedi gwylltio ‘a oedd yn cicio ac yn dechrau cornio o’u blaenau’, rhaid oedd ceisio croesi afon garegog mewn rafft:

Yr oedd pedwar dyn yn tynnu y raft â’u holl nerth, ond yn methu ei symud. O’r diwedd dyma fi yn tynnu fy ’sgidiau a fy sanau, a ffwrdd â fi i badlo; a chyda hynny gwthiwyd yr afon yn nes i lawr, a dyma Miss Hughes yn glanio yn iach …
Beth oedd yna? Y fi, yng nghanol yr afon yn brwydro â’r cerrig! Mi gefais dasg! Daeth y pennaeth ac un o’r dynion yn ôl i roi help llaw imi, ac mi es innau drwodd yn iach … Yr oedd pontydd ar yr afonydd eraill i gyd ond un; pontydd sigledig iawn, ond aethom drostynt - mewn ffydd.[30]

Roedd y cenadesau yn fenywod dewr a oedd yn barod i fentro a wynebu perygl. Gwelwyd hwy’n teithio i ardaloedd lle nad oedd merched croenwyn wedi bod o’r blaen, a hynny’n ddi-ofn ac yn ddewr. Dyna hanes Miss Ellen Hughes wrth deithio i bentref Nongryllent yn Nosbarth Shillong, a’r daith yno yn anturiaeth ynddi’i hun:

Ar y ffordd gwelsom lawer o olion traed teigrod, y rhai a lechant y dydd yn y llwyni gerllaw. Hefyd olion traed elephantiaid gwylltion, y rhai sydd yn crwydro yn heidiau ar hyd y wlad yn yr haf, pan y mae y rice yn tyfu ar y meusydd. Yr oedd ôl troed aml i elephant yn ddeunaw modfedd o drawsfesur (diameter).[31]

Câi’r darllenydd ei atgoffa fod y cenhadon yn ffigyrau eithriadol wrth ildio eu bywydau yng Nghymru a chamu i wlad lle roedd y rhwystrau a’r anawsterau mor eang ac mor helaeth mewn bywyd bob dydd. Ymddengys fod tuedd yn y cyfnodolion i bwysleisio’r aberth a’r dewrder hwn a brofwyd gan y cenhadon, gyda mwyafrif y llythyrau a gyhoeddwyd yn deillio o’r Gwastadedd - lle wynebai’r cenhadon yr anawsterau mwyaf o ran ymlyniad crefyddol, gwrthwynebiad y brodorion, ac amgylchiadau byw llethol a heriol o ran hinsawdd a darpariaeth. Yn ogystal â’r dewrder llythrennol yn wyneb gwrthwynebiad y brodorion, a’r frwydr grefyddol, ceir pwyslais nodedig ar ddewrder eu hysbryd a chryfder eu ffydd a’u dyfalbarhad.

Darluniwyd y ffaith fod bywyd cenhades yn gallu bod yn eithriadol o unig, gyda’r cenadesau’n mynegi’n gyson faich ‘trymder yr unigrwydd llethol’[32] wrth iddynt weithio’n aml mewn ardal ar eu pen eu hunain, gyda’r cyswllt â chenhadon eraill ar y maes yn gallu bod yn ysbeidiol ac yn fylchog. Roedd yn fynegiant o unigrwydd corfforol, ond hefyd yn fynegiant o unigrwydd ysbrydol yn sgil absenoldeb unrhyw gwmnïaeth Gristnogol. Mewn mynegiant o’r fath, ceir awgrymiadau o’r teimlad o hiraeth yn frith yn ysgrifau’r cenadesau - yr hiraeth am Gymru, am gyfaill a theulu; yr hiraeth am y cyfarwydd yng nghanol dieithrwch eu hamgylchfyd; a’r hiraeth am bresenoldeb Duw. Roedd hon yn frwydr, yn anturiaeth gorfforol, seicolegol ac ysbrydol i’r cenadesau, a’r darllenwyr yn cael eu hatgoffa’n gyson o’u safiad. Dyma’r argraff a geid mewn ysgrif gan Miss Shoshie Dass ym 1900, wrth iddi ddisgrifio natur ei bywyd a’i gwaith. Dywed fod y gwaith yn y zenanas yn ‘… waith caled a lled ddigalon’ a’r ‘hinsawdd yn orchfygol o boeth … megis mewn ffwrn’. Roedd anawsterau’r gwaith yn her i’w ffydd a’i gobaith, ac yn ei hysgrif, roedd yn ymbil am weddïau eglwysi Cymru drosti a thros ei gwaith yn ei hunigrwydd ysbrydol:

…Yr ydym yn teimlo fod arnom angen tywalltiad helaeth o’r Ysbryd Glân; y mae y bobl yn swrth ac anystyriol, heb allu sylweddoli fod eu heneidiau yn gorwedd mewn marwolaeth a phechod. Ysbryd Duw yn unig a all eu deffro. Gweddiwch drosom a thros ein gwaith.
Y mae arnom fwy o angen nag erioed am weddïau taerion eglwysi Cymru. Bydd ein calon yn diffygio yn aml wrth weled anghrediniaeth a phechadurusrwydd y bobl.[33]

Mynegiant o emosiwn y genhades a geir yn y cyfeiriadau hyn, gydag onestrwydd y genhades yn apelio at gydymdeimlad y darllenydd. Roedd y teimladau yn sicr yn ddidwyll, ond rhaid cofio fod mynegiant o’r fath gerbron cynulleidfa estynedig hefyd yn rhan annatod o’r ymgais i ddenu cefnogaeth y darllenwyr, ac yn gyfle i ymbil ar y darllenwyr i ‘weddïo drostynt a thros y gwaith’ ac i wneud eu rhan wrth gefnogi’r gwaith.

Dyma’r ddelwedd o’r ‘genhades’ nodweddiadol a gyflwynwyd gerbron y gynulleidfa yng Nghymru - y fenyw ddewr a ddangosai’r fath wroldeb wrth gyflwyno ei hunan i’r gwaith, a’i pharodrwydd rhyfeddol i aberthu cymaint er mwyn eraill er mor fawr oedd yr her a’i hwynebai. Hon oedd y fenyw a gynrychiolai’r angen i’r Eglwys gefnogi ei gwaith a chyfrannu tuag at hwyluso ei gweithgarwch blaengar. Serch hynny, nid delwedd o fenyw wan yn ymbil am gydymdeimlad a thosturi sydd yma, ond yn hytrach ddelwedd o fenyw ddewr - ‘arwres’ i’w chefnogi a’i mawrygu. Ffigwr i’w hedmygu oedd y genhades yn y cyfnodolion hyn, ac roedd mynegiant o’i byd newydd o’i chwmpas - yn creu delwedd o fenyw eithriadol.[34] Ategwyd a phwysleisiwyd y ddelwedd hon o ffigwr y genhades fel merch fentrus mewn teyrngedau ac ysgrifau coffa, gyda’r genhades ei hun yn ymgorfforiad o rinweddau arwres.

Dyma felly, y ‘genhades’ a gyflwynwyd yn y wasg genhadol Gymreig, gyda’i llais ei hun a’r ddelwedd a grëwyd ganddi ac a atgyfnerthwyd gan eraill yn creu’r argraff mai ffigwr i’w hedmygu ydoedd. Roedd yn cynnig esiampl i’w darllenwyr – yn enghraifft o fenyw i’w chlodfori o fewn yr Eglwys ac ymhlith ei chynulleidfa, ac yn esiampl, yn ‘fodel’ i’w chyfoedion, yn arbennig y menywod yn eu plith. Roedd yn dangos ei gallu a’i chyrhaeddiad, gyda’i mawredd wedi ei ddyrchafu mewn print a llun ar lwyfan cyhoeddus y genedl. Ni châi ei delwedd ei chyfyngu i’r wasg genhadol yn unig ychwaith, a gwelwyd ysgrifau, a phortreadau gan, a thros, y cenadesau yn gyson mewn papurau cenedlaethol ac mewn papurau lleol.[35]

Roedd ‘y genhades’ yn deithiwr dewr nad oedd yn ofni’r anghyfarwydd fel dieithryn; roedd hi’n anturiaethwr o fath wrth ymchwilio’r tirlun newydd; ac yn ffigwr o statws goruchafol wrth ‘achub’ cenedl o’u tywyllwch. Dyma’r lleisiau a atseiniai yn ei hysgrifau a dyma’r delweddau a gyflwynai gerbron ei darllenwyr – roedd hi’n ffigwr rhyfeddol, ac yn ‘eithriad’ yn eu byd hwy. Serch hynny, nid eilun pellennig na ‘model’ y tu hwnt i gyrraedd ei chynulleidfa mo hon, canys er mor fawr oedd ei delwedd ger eu bron, roedd y genhades yn ffigwr real, ac yn cynrychioli’r hyn y gallai ei chynulleidfa ymestyn tuag ato a’i gyrraedd. Roedd hi’n symbol o allu’r ferch drwy law y Genhadaeth, ac yn symbol o’r boddhad a’r balchder mewnol y gallai ei chynulleidfa ei brofi. Roedd y genhades yn cynnig model newydd i’r ferch Gristnogol o fewn y gynulleidfa Fethodistaidd Galfinaidd Gymreig, ac yn cynnig delwedd annisgwyl o ferch yn y wasg Gymreig o ystyried statws merch yn y cyfnod hwnnw, a’i delfryd gymdeithasol. Roedd y genhades yn cynnig her i ferched Cymru, gan ddangos iddynt yr hyn y gallant anelu at ymgyrraedd, fel a welir yng ngeiriau Miss E.A. Roberts, a hynny mor gynnar â Rhagfyr 1902:

Yn gyffredinol yr ydym dan yr argraff mai anghyhoedd yn unig yw bywyd merch i fod, fod ei gallu i’w ddefnyddio yn y cartref yn unig, ac mai eiddo’r meibion yw y dyledswydd cyhoeddus. Ond nid felly yn hollol y mae. Y mae gan ferch ei dyledswydd bersonol a chyhoeddus … Gyda Christ y mae hon yn allu mawr. Nid ydym ni ferched eto wedi dychmygu yr hyn allwn wneyd trwyddo ef … Byddai yn dda iawn gennyf weled Canghenau y Chwiorydd yn ymroi o ddifrif i’r gwaith gogoneddus hwn.[36]

Roedd y genhades yn dangos y statws y gallai merched Cymru ei ennill yn enw’r Genhadaeth, ac yn tystio i’r profiadau a ddeuai i’w rhan yn sgil y gwaith. Dangosai’r teimlad o werth ac o gyflawniad y gallai merch ei ennill trwy gyfrannu at gymdeithas anghenus, a’r modd y byddai, yn sgil hynny, yn cael ei gwerthfawrogi a’i mawrygu’n gyhoeddus. Oedd, roedd yn rhaid bod yn fentrus ac yn ddewr, ac roedd yn rhaid bod yn barod i aberthu, ond roedd y budd a ddeuai yn fwy na’r gost. Câi’r genhades gyfle i deithio, ac i anturio ar gyfandir pellennig, a chyfle i ‘achub’ bywydau o ddyfnder eu trallod, a hynny gyda pharch, edmygedd a chefnogaeth cynulleidfa estynedig yn gefn iddi.

Safai’r cenadesau hyn yn gadarn ar y llwyfan cyhoeddus yng Nghymru fel ffigyrau i’w hedmygu a’u hefelychu, ac roedd y cylchgrawn i ferched Cymru - Y Gymraes - rhwng 1896 a 1934 yn fwy na pharod i gyflwyno’r cenadesau fel ‘esiampl deilwng i ferched Cymru’ wrth edmygu ‘eu dewrder a’u gwrhydri moesol’[37] ac roedd presenoldeb y cenadesau hyn ar ei dudalennau blaen - yn union fel ag yr urddwyd Miss Florence Nightingale yn Nhachwedd 1910[38] – yn arwydd eglur o’u statws yng ngwydd y cyhoedd. Dyma ran o ysgrif tudalen flaen yn Y Gymraes yn Hydref 1897, yn mawrygu’r genhades Miss Annie Williams, Shillong, gan ryfeddu at ddewrder ei chalon pan ‘ymwrolai yn erbyn anhawster’:

… yr oedd Miss Williams wedi ei chynysgaeddu â galluoedd naturiol nodedig iawn at ei gwaith. Yr oedd yn dyner, addfwyn, gyfeillgar, ddiwyd, an-hunangar, yn llawn bywiogrwydd ac arabedd, yn ddewr, yn benderfynol, a diragrith … yr oedd ganddi ffydd ddiysgog yn Nuw, ac yr oedd yn llawn o gariad at eneidiau. O! fel y byddem bron ag eiddigeddu wrth ei gweled…[39]

Ymddangosai’r cenadesau fel ffigyrau eithriadol gerbron eu cynulleidfa, a’r cenadesau eu hunain a oedd yn gyfrifol am greu’r ddelwedd gyhoeddus honno drostynt eu hunain drwy’r delweddau a grëwyd ganddynt o’u hunain yn y wasg genhadol. Drwy lais y genhades, crëwyd delwedd yn nychymyg y gynulleidfa, a’r ddelwedd honno a ddefnyddiwyd yn fodel yn nhudalennau’r wasg. Hon oedd y ddelwedd a ysgogodd fenywod eraill i ddilyn ôl eu traed [40] a hon oedd y ddelwedd a alluogodd merched nid yn unig i ennill statws a rhyddid rhyngwladol drwy wasanaeth ar y maes, ond a ysgogodd o fewn y gymuned Gymreig drefniadaeth gyhoeddus swyddogol i fenywod o fewn yr Eglwys Bresbyteraidd Gymreig.

Gyda sefydlu Cymdeithasau’r Merched, a chynyddu eu gweithgarwch dros y blynyddoedd, darparwyd cymdeithas o ferched a chanddynt gyfle i wneud cyfraniad gwirioneddol drwy drefniadaeth swyddogol ar lefel leol, genedlaethol, a rhyngwladol.[41] Mewn ymateb i apêl y cenadesau, gwelwyd menywod Cymru yn uno i ffurfio trefniadaeth swyddogol gyda’r nod uniongyrchol o sicrhau nawdd a chefnogaeth i’r cenhadon ar y maes, gan ymestyn eu llaw i gynorthwyo drwy amryfal ffyrdd. Dros amser gwelwyd mai’r menywod hyn oedd prif gefnogwyr, ac yn sgil hynny, prif gynhalwyr y Genhadaeth yng Nghymru, ac roedd hynny oll i’w briodoli yn anad dim i’r ysbrydoliaeth a’r arweiniad a gynigiwyd gan lais a delwedd y cenadesau rhyfeddol ar dudalennau’r wasg genhadol.

---------------------------------------------------------------------------------------------------------

1. Yr Eglwysi a’r Gyfundeb ei hun oedd yn gyfrifol am y gyfran helaethaf o’r nawdd a gyfrannwyd tuag at sefydlu a chynnal y Genhadaeth. Serch hynny, dros gyfnod ei gweithgarwch, gwelwyd cyfraniadau o du Cymry alltud yn America, ac yn ogystal gwelwyd cyfraniadau – mewn arian ac mewn eiddo – o du’r Llywodraeth Brydeinig ar y maes cenhadol ac o du rhai o’r brodorion eu hunain.
2. The Welsh Calvinistic Methodists’ Foreign Mission, General Regulations for the Guidance of the Directors and Missionaries. Adopted by the General Assembly held at Rhyl, May 25–27, 1897 (Salford, 1897).
3. Yr oedd cyfnodolion Saesneg yn cylchredeg yn ogystal, sef The Treasury – a oedd fwy neu lai yn gyfieithiad o’r Drysorfa, a Glad Tidings - cylchgrawn cyffelyb i’r Cenhadwr.
4. Sefydlwyd cyfnodolyn Y Drysorfa yng Nghymdeithasfa Caernarfon ym mis Medi 1830. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Wasg Parry yng Nghaerllion ym mis Ionawr 1830, ac fe’i cyhoeddwyd yn fisol o dan yr enw yma, hyd nes yr unwyd ef â’r Dysgedydd – misolyn yr Annibynwyr – ym 1968, i ffurfio cylchgrawn cydenwadol newydd o’r enw Porfeydd. Gweler Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru t. 202–3. Am ymdriniaeth fanylach ar y cyfnodolyn a hanes y wasg Gymreig yn gyffredinol yn y cyfnod gweler Huw Walters, Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1735–1850 (Aberystwyth, 1993); a Huw Walters, Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1850–1900 (Aberystwyth, 2003).
5. Am ymdriniaeth gyffredinol ar hanes menywod yng Nghymru yn y cyfnod gweler Angela V. John (gol), Our Mothers’ Land – Chapters in Welsh Women’s History 1830–1939 (Caerdydd, 1991); Deirdre Beddoe, Out of the Shadows – A History of Women in Twentieth-Century Wales (Caerdydd, 2000); Deirdre Beddoe, Back to Home and Duty: Women Between the Wars 1918–1939 (Llundain, 1989); Deirdre Beddoe, ‘Women between the wars’, yn T. Herbert & G. E. Jones (gol), Wales Between the Wars (Caerdydd, 1990), tt. 129–160; Gareth W. Evans, Education and Female Emancipation: The Welsh Experience (Caerdydd, 1990).
6. Yn y cyfnod rhwng 1887 a 1930 yn benodol, o’r 48 o genadesau a benodwyd i wasanaeth y Genhadaeth, un ar ddeg yn unig a oedd wedi cael y profiad o fod mewn gwlad dramor. O’r rhain yr oedd pum cenhades wedi bod yn India – tair wedi eu geni yno yn ferched i un o genhadon cynnar y Genhadaeth; un yn ferch frodorol a apwyntiwyd yn genhades, ac un wedi treulio cyfnod byr yno ar ymweliad. Teithiau cymharol fyr mewn gwledydd Ewropeaidd oedd profiad y chwech arall.
7. Er bod y cenadesau a’r cenhadon gwrywaidd oll wedi darllen am y maes, ac wedi ymgyfarwyddo â’r gwaith drwy’r ohebiaeth yn y wasg, pregethau a gweithgareddau yn y capel a’r ysgol Sul, ac areithiau cenhadon ar ffyrlo, ychydig iawn o waith paratoi uniongyrchol a dderbyniai’r cenhadon cyn iddynt ymadael am y maes. Er bod rhai cenadesau wedi treulio cyfnod mewn coleg ar gyfer hyfforddi cenhadon, hyfforddiant galwedigaethol oedd hwn er mwyn eu cymhwyso ar gyfer y gwaith. Nid oedd y Cyfundeb yn darparu unrhyw hyfforddiant o ran dealltwriaeth o’r wlad, ei phobl, ei diwylliant, a’i chrefyddau, ac nid oeddent hyd yn oed yn cael eu cymell i fynd ati i ddysgu’r iaith frodorol hyd nes yr oeddent wedi cyrraedd y maes ei hun.
8. Ceir ystyriaeth gyffelyb yn Alison Blunt, Travel, Gender and Imperialism: Mary Kingsley and West Africa (London, 1994).
9. Y Drysorfa, Rhagfyr 1902, tt. 570–2
10. Y Cenhadwr, VI, 1927, t. 15–16
11. Y Cenhadwr, 1927
12. Y Drysorfa, Mawrth 1914, tt. 140–2
13. Am drafodaethau pellach ar ysgrifau teithiol gweler Alison Blunt, Travel, Gender, and Imperialism: Mary Kingsley and West Africa (London, 1994); Colonial discourses: Series 1 – Women, travel and empire. Part 1: Early travel accounts by women and women’s experiences in India, Africa, Australasia and Canada (Marlborough, 1999); Peter Hulme & Tim Youngs (gol), Cambridge Companion to Travel Writing (Caergrawnt, 2002); James Duncan & Derek Gregory (gol), Writers of passage: reading travel writing (Llundain, 1999).
14. CMA 27, 285 – Katie Williams – llythyr dyddiedig 7-11-1894
15. Er enghraifft, gweler Y Cenhadwr, Rhif 3, Mawrth 1927, Cyfrol VI – gwelwyd llun o ddau wely a waddolwyd gan Mr David Davies, AS, Llandinam – ‘Gwelyau yn Ysbyty Shillong’, Y Cenhadwr, Cyfrol VI, Rhif 6, Mehefin 1927.
16. Y Cenhadwr, 1922–74. Gweler hefyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad Archifau CMA, lle ceir casgliad o dros 300 o ddelweddau unlliw. Y mae’r mwyafrif ar ffurf sleidiau gwydr, tra bod eraill wedi’u cadw ar ffurf printiadau neu negatifau. Yn ddiweddar, y mae rhai o’r delweddau ffotograffig wedi cael eu digideiddio. Ceir hefyd gasgliad diddorol o luniau yn perthyn i’r genhades Jane Helen Rowlands yn CMA HZ1/9/18–24. Am drafodaeth helaethach ar ffotograffiaeth y Genhadaeth, gweler Aled Jones, ‘The transforming gaze: the photography of Welsh Christians in Sylhet 1890–1947’, Journal of the Asiatic Society of Bangladesh (Humanities), Rhagfyr 2004, tt. 253–267. Gweler hefyd Maria Antonella Pelizzari, Traces of India: Photography, Architecture and the Politics of Representation 1850–1900 (Montréal, 2003).
17. Edward W. Said, Orientalism (Llundain, 1978).
18. Mary Louise-Pratt, ‘Scratches on the Face of the Country; or what Mr Barrow saw in the land of the Bushmen’, yn Henry Louis Gates Jr., (gol), ‘Race’, Writing and Difference (Chicago, 1986), t. 139 – ‘normalizing discourse whose work is to codify difference, to fix the other in a timeless present where all “his” actions and reactions are repetitions of “his” normal habit’. Gweler hefyd Sara Mills, Discourses of Difference – An analysis of women’s travel writing and colonialism (Llundain, 1991).
19. Y Cenhadwr, Ionawr 1922.
20. Miss J. Helen Rowlands, Y Drysorfa, Mawrth 1920 tt. 115–117.
21. Am drafodaeth bellach ar y gred honno, gweler Margaret Stroebel, European Women and the Second British Empire (Indiana, 1991); Nupur Chaudhuri a Margaret Strobel (gol), Western Women and Imperialism: complicity and resistance (Indiana, 1992). Gweler hefyd Fiona Bowie, Deborah Kirkwood a Shirley Ardener (goln), Women and Missions: Past and Present. Anthropological and Historical Perceptions (Rhydychen, 1993).
22. Y Drysorfa, Chwefror 1891, t.78.
23. Y Drysorfa, Ebrill 1897, tt. 191–2.
24. Am drafodaethau pellach ar y cysylltiad rhwng cenadaethau ac imperialaeth gweler Brian Stanley, The Bible and the Flag: Protestant Missions and British Imperialism in the Nineteenth and Twentieth Centuries (Caerlyr, 1990); Andrew Porter, ‘Cultural imperialism and Protestant missionary enterprise, 1780–1914’, The Journal of Imperial and Commonwealth History (1997), 25/3, tt.367–91; Andrew Porter, ‘Religion and Empire:British Expansion in the Long Nineteenth Century, 1780–1914’, The Journal of Imperial and Commonwealth History 20/3; tt. 370–390.
25. Er enghraifft, gweler Miss Lilian Jones, Y Drysorfa, Chwefror 1915, t. 93.
26. Gweler trafodaethau Deborah Kirkwood, ‘Protestant Missionary Women: Wives and Spinsters’; Valentine Cunningham, ‘God and Nature Intended You for a Missionary’s Wife’; ‘Mary Hill, Jane Eyre and Other Missionary Women in the 1840s’ yn Bowie, Kirkwood ac Ardener (goln), Women and Missions: Past and Present. Anthropological and Historical Perceptions (Rhydychen, 1993).
27. Miss S.M. Dass, Y Drysorfa, Ebrill 1891, t. 158
28. Sara Mills, Discourses of Difference, tt. 140–1
29. Er enghraifft, gweler Miss E.J. Jones, Y Drysorfa, Hydref 1921
30. Y Cenhadwr, Mai 1932, tt. 86–9
31. Y Drysorfa, Mehefin 1901, tt. 286–7
32. Elizabeth Williams, Y Drysorfa, Awst 1908, tt. 383–4
33. Y Drysorfa, Rhagfyr 1900, t. 570 34. Jane Aaron, ‘Slaughter and Salvation’, yn New Welsh Review rhif 38, Hydref 1997, tt. 38–46.Gwelir Jane Aaron yn trafod y syniad hwn o’r cyfaredd a amgylchynai ffigwr y cenhadwr o fewn y diwylliant Cymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan awgrymu fod yr arwriaeth yn deillio o rôl y cenhadwr fel ‘achubwr’.
35. Gwelwyd cyhoeddi ysgrifau gan y cenadesau eu hunain, ynghyd ag ysgrifau a theyrngedau gan eraill i’w bywyd a’u gwaith mewn cyhoeddiadau cenedlaethol megis Y Cymro, Y Faner, Y Goleuad, a’r Brython, ac mewn cyhoeddiadau lleol megis Yr Herald yng Nghaernarfon, y Rhedegydd ym Mlaenau Ffestiniog a’r Cloriannydd ym Môn. Gwelwyd hefyd hanes y genhadaeth yn cyrraedd Cymry America drwy gyfrwng cyfnodolyn Y Drych.
36. Y Drysorfa, Rhagfyr 1902, tt. 570–2
37. ‘Cenadesau yn Ffrwyth y Diwygiad’, Y Gymraes, Cyfrol XIII, Mawrth 1909
38. ‘Miss Florence Nightingale (The Lady of the Lamp)’, Y Gymraes, Cyfrol XIV, Tachwedd 1910
39. ‘Miss Annie Williams, Shillong’, Y Gymraes, Cyfrol I, Hydref 1897. Gweler hefyd – ‘Ein Cenadesau – Miss Hughes, Shillong, gynt o Llanelwy’, Y Gymraes, Cyfrol VII, Chwefror 1903; ‘Miss Roberts y Genhades’, Y Gymraes, Cyfrol XII, Gorffennaf 1908.
40. Yng ngheisiadau’r cenadesau i ymuno â’r genhadaeth gwelir mor ddylanwadol fu’r wasg genhadol wrth ysgogi merched i ymgymryd â’r gwaith. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad Archifau CMA.
41. Sefydlwyd y gangen gyntaf yng Nghapel Fictoria, Crosshall St., ar 16 Mehefin 1881. Wedi hynny, gwelwyd sefydlu canghennau ledled capeli’r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig.

 

Sylwadau

Dim sylwadau wedi'u postio

 

islwytho'r erthygl

 

___________________

Manylion Bywgraffyddol

_________________

rhannu gyda ffrindiau

Designed & Developed by WiSS Limited