Golygyddol
Codwyd y syniad am gyfnodolyn electronig gogyfer â chyhoeddiadau academaidd yn y Gymraeg yn ystod trafodaethau’r Bwrdd Dysgu Drwy’r Gymraeg rai blynyddoedd yn ôl bellach. Y ddadl oedd bod angen dybryd am gyfnodolyn lle gellid cynnal trafodaeth academaidd yn y Gymraeg, a hynny ar draws yr holl feysydd sydd wedi eu cynnwys yn y cyfadrannau traddodiadol.
Pan ddywedwyd bod angen hyn, ni ddadleuwyd bod hynny’n ganlyniad i unrhyw ofyn a leisiwyd o du mewn i’r cymunedau academaidd yng Nghymru. I’r gwrthwyneb! Roedd pawb yn y Bwrdd y pryd hwnnw’n ymwybodol iawn bod rhywfaint o ragfarn yn erbyn cyhoeddi gwaith academaidd yn y Gymraeg, a bod y rhagfarn honno wedi ei chryfhau gan aelodau blaenllaw o rai o baneli’r Asesiad Ymchwil. Y rhagfarn honno oedd ffynhonnell ein teimlad ni bod arnom eisiau rhyw fath o offeryn y gellid ei ddefnyddio er mwyn dechrau’r dasg o’i thanseilio.
Yr un yw’r frwydr ers y dyddiau pan ddarlithid drwy gyfrwng y Saesneg hyd yn oed yn Adrannau’r Gymraeg yng ngholegau Prifysgol Cymru, a gwelir agweddau gwahanol ohoni ym mhob rhan o’r gyfundrefn addysg hyd heddiw. Byddai buddugoliaeth yn y maes hwn yn golygu y cymerai academyddion o Gymru yn ganiataol eu hawl i ddatblygu eu meysydd ymchwil, ac i ledaenu ffrwythau’r ymchwil honno, drwy gyfrwng y Gymraeg, ac y disgwylient hefyd weld y gweithgarwch hwnnw’n cael ei drin o ddifrif. Mae hynny wedi digwydd yn barod mewn sawl maes academaidd, lle mae paneli perthnasol yr Asesiad Ymchwil yn llwyr ymwybodol o’r rheidrwydd i ganiatáu gwaith a gyhoeddir yn y Gymraeg yn unig. Canfyddir hefyd newid er gwell yng nghanllawiau cyffredinol yr Asesiad presennol, lle cyfeirir at y Gymraeg ar delerau cyfartal â’r Saesneg mewn perthynas ag iaith yr allbynnau gwahanol.
Gwelir gwelliant yn y canllawiau newydd hefyd mewn perthynas â ffynhonnell y cyhoeddiadau. Tan yn ddiweddar iawn bu llawer o sôn am bwysigrwydd ffynhonnell y cyhoeddiadau sy’n cael eu cofrestru yn yr Asesiad Ymchwil, a chryn anfodlonrwydd i dderbyn cynnyrch cyhoeddiadau electronig. Y mae’n debyg gennyf fod y rhagfarn hon yn parhau mewn rhai meysydd eto, ond os felly, bydd hynny yn nannedd datganiad croyw panel canolog yr Asesiad.
Rhaid, felly, imi fel golygydd fynegi diolch i awduron y canllawiau hynny am iddynt esmwytho llwybr Gwerddon i raddau. Mae diolch hefyd yn ddyledus i Dr Ioan Matthews, Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu’r Gymraeg, a’i gyd-weithwraig, Lowri Gruffydd, am gadw ffydd yn y prosiect dros gyfnod hir, i aelodau’r panel golygyddol am eu cymorth hael a pharod, ac i’r golygydd cynorthwyol, Anwen Jones, am ei diwydrwydd a’i hymrwymiad parhaus.
Y bwriad yw i gyhoeddi o leiaf dau rifyn o Gwerddon bob blwyddyn. Croesewir cyfraniadau sy’n cynrychioli pob maes academaidd, yn cynnwys rhai gwreiddiol a rhai sydd wedi eu cyhoeddi mewn ieithoedd eraill, lle gellir dadlau bod rheswm priodol am iddynt ymddangos hefyd yn y Gymraeg. Derbynnir hefyd waith sydd wedi ei gyfansoddi’n wreiddiol mewn ieithoedd eraill lle mae yna ddadl amlwg dros wneud hynny. Rhoddir croeso arbennig i waith academyddion ifainc, yn cynnwys y rheiny sy’n hyfforddi drwy’r cynllun cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau a gyllidir gan CCAUC.
Canllawiau cyflwyno
Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Dyniaethau, y Gwyddorau a’r Celfyddydau. Gellir cyflwyno erthyglau rhwng 5,000 a 8,000 o eiriau ar ffurf dogfen Word i sylw’r golygydd cynorthwyol, Anwen Jones, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Gofynnir hefyd am gopi ychwanegol ar far data neu ddisg i’w anfon trwy’r post cyffredin i’r cyfeiriad isod:
Golygydd cynorthwyol Gwerddon
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Adeilad Parry Williams
Campws Penglais
Aberystwyth
SY23 3AJ
Dylid dilyn canllawiau Gwasg Prifysgol Cymru wrth baratoi’r ddogfen. Gweler www.uwp.co.uk; dilynwch y ddolen gyswllt ‘cysylltu’ i gyrraedd ‘Canllawiau ar gyfer testunau Cymraeg i’w cyhoeddi’. Rhaid cynnwys unrhyw luniau, ffotograffau, tablau neu ddeunydd gweledol o fath arall fel rhan o’r ddogfen. Ni ellir eu derbyn fel ffeiliau ar wahân. Ar ôl derbyn erthyglau, fe’u hanfonir at olygydd iaith a diwyg ac yna at ddau arfarnwr a fydd yn argymell cyhoeddi ai peidio. Bydd y broses hon yn cymryd hyd at dri mis. Cysylltir ag awduron wedi hyn i nodi ymateb yr arfarnwyr cyn bwrw ymlaen gyda’r broses olygu.