Rhifyn Archif

D.J. a fi

Yr Athro Mike Pearson

Dyw fy nheitl i ddim yn dweud y gwir i gyd. Efallai y byddai wedi bod yn well petawn i wedi rhoi ‘D.J., Ned a fi’ yn deitl ar yr erthygl hon am mai yn llawlyfr Ned Thomas i’r mewnfudwr myfyrgar - The Welsh Extremist (1973) - y deuthum ar ei draws ef gyntaf. Neu efallai ‘D.J., Ned, Waldo a fi’ gan mai yn y cyfieithiad i’r Saesneg gan Waldo Williams - o dan gynllun gan UNESCO i roi ‘to the bigger nations of the world some understanding of the smaller ones’ (Williams, 2001) - y darllenais i gyntaf am Benrhiw, Nwncwl Jâms, Pegi’r Llofft a’r Cribyn Flyer: am yr ‘Hen Dŷ Ffarm’. Neu hwyrach ‘D.J., Ned, Waldo, Raymond a fi’ gan mai Raymond Williams sy’n ysgogi’r myfyrdodau isod ar blentyndod ac ar ddadleoliad diwylliannol (gweler Raymond Williams, 1993).

 

Yn ei ddisgrifiad o’i fywyd tan iddo fod yn chwech oed mewn cymuned amaethyddol yn Shir Gâr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg - molawd i ffordd o fyw sydd byth a beunydd fel petai hi ar fin diflannu - mae D.J. Williams yn tynnu ynghyd linyn di-dor o atgofion am bobl ac anifeiliaid a digwyddiadau a theithiau, a’r cyfan yn gyforiog o ddisgrifiadau o diroedd ac achau ac eiliadau o ddyheadau gwleidyddol. Mae’n sôn lawn cymaint am ‘pheasants and horses and pubs and stories and singers’ (Thomas, 1973: 86) ag am y pethe. Yma, mae Ned Thomas ei hun yn adleisio strategaeth hanfodol y cyfarwydd, sef parataxis - ‘a hyn, a hyn, a hyn’. Ond ceir ffigurau eraill hefyd: hypotaxis - ‘hyn nesaf at hyn, yr un pryd â hyn’; a katachresis - ‘hyn, hyn, hyn’ (gweler Pearson a Shanks 2001: 25). Ac mae pob un ohonyn nhw i’w cael yng ngwaith D.J.

Llyfr am le, am weithrediad y cof ac am greu hunaniaeth yw Hen Dŷ Ffarm ac mae iddo ddyfnder mawr am fod agwedd hanfodol-hanesyddol i’r stori y mae’n ei hadrodd am y teulu ac am ddatblygiad hwsmonaeth effeithiol yn y fan honno. ‘The urge to keep hold of one’s family history D.J. saw as part of a valuable instinct to hold the present and the past together, the process which makes civilisation possible’ (Thomas, tt. 85-6).

Yn ystod blynyddoedd cynnar Brith Gof, y cwmni theatr y bûm i’n gysylltiedig ag ef am rai blynyddoedd, bu Hen Dŷ Ffarm yn ffynhonnell deunydd i berfformiadau megis Rhydcymerau (1981) pryd y bu Lis Hughes Jones a Nic Ros yn perfformio golygfeydd a grëwyd o ryddiaith D.J. a barddoniaeth Gwenallt, ac y byddai Matthew Aran a minnau’n mynd ati bob nos, gan ddefnyddio technegau seiri oes Victoria, a’r rheiny’n unig, i saernïo arch plentyn o foncyff pinwydden. Yn fwy diweddar, mae’r llyfr wedi goleuo amryw o ymagweddau beirniadol, damcaniaethol ac ymarferol at le, at y cof ac at adrodd storïau mewn perfformiad cyfoes, ac wedi bod yn ysbrydoliaeth uniongyrchol i ’gwaith unigol i fy hun.

Nid wyf yn siwr a ddiffiniodd D.J. erioed y syniad o’r ‘filltir sgwâr’ mewn print, ond mae’n sicr mai yn Hen Dŷ Ffarm y ceir y traethu a’r ymhelaethu cywreiniaf ar y syniad hwnnw. Dyma dir cyfarwydd ein blynyddoedd cynharaf, y tir yr ydym ni’n ei adnabod yn fanwl, ac yn fanylach nag y byddwn ni’n adnabod unman arall byth. Ac mae’r cyfan wedi’i selio mewn amlen arbennig yn y cof. ‘Rwyf wedi bod o’r farn, ers tro byd,’ ysgrifennodd D.J., ‘… fod cof a sylw plentyn o’r hyn sy’n mynd ymlaen o’i gwmpas yn ei ddyddiau cynnar, cynnar, yn rhywbeth llawer iawn dyfnach a dwysach nag y mae pobl, yn gyffredin, wedi arfer ei gredu’ (Williams, 2001: 4).

Mae’n werth sylwi bod ei atgofion am ddigwyddiadau yn yr ardal honno wedi’u lleoli’n fanwl-gywir a bod gofod, lle ac atgof ynddynt wedi’u gwau i’w gilydd yn glòs.

Pa bryd y digwyddodd y llu mawr o bethau a gofiaf yn ddigon clir - yn gynnar neu’n ddiweddar yn ystod y chwe blynedd hyn - nid oes gennyf fawr o syniad. Ond gallaf eu lleoli, heddiw, yn lled sicr, y rhan fwyaf ohonynt, a nodi ymhle y digwyddodd y peth a’r peth; a’r fan ble’r o’n i’n sefyll arno, weithiau, pan glywais i hyn a hyn - ai yn y ty, ar y clos, yn y tai ma’s, yn yr ydlan, y berllan, yn un o’r gelltydd, neu ar ryw gae neilltuol. (Williams, 2001: 6)

Yn ei eiriau ef hefyd, mae i’w atgofion gynnwys lleol a darluniadol er na ddygir hwy i gof â chynneddf y meddwl ond â phob ‘... nerf a gewyn sydd yn fy nghyfansoddiad’ (Williams, 2001: 168).

Awgrym y daearyddwr David Sibley yw bod plant yn profi pethau’n ddwys, mewn ystyr gorfforol, a bod y profiad o le lawn cymaint ynghlwm wrth gas bethau a phryderon ag wrth ddymuniadau a phleserau. Mae yno hefyd bobl a phethau i’w hosgoi: ‘Places, events, relationships with others may be experienced as butterflies in the stomach, nausea, or may engender a pleasant physical sensation’ (Sibley, 1995: 124). Mae’n nodi’r honiadau croes ynghylch amserlen a phoblogaeth y cartref a’r tensiynau sy’n deillio o hynny. Ond wrth gyfeirio at blant sydd allan yn yr awyr agored, mae Chris Philo yn sôn am ‘… the active, creative and often highly imaginative ways in which rural children colonise, utilise and transform particular niches in their surrounding natural and human environments’ (Philo, 1992: 197-8). ‘Children often respond more immediately to environmental conditions as they are often freer of the overlay of symbolic, cultural, and past experiences that influence adult relations’ (James, 1990: 280). Ac maen nhw’n rhydd i fanipiwleiddio’r amgylchedd hwnnw (gweler Ward, 1990: 99). Yn aml, lleoedd sydd yn weddill o fyd oedolion ydyn nhw, yn fannau lle bydd plant yn defnyddio arwynebau a malurion i fodelu’r dirwedd â chuddfannau ac argaeau (gweler Philo, t. 198). Byddan nhw’n coloneiddio gofodau rhyfedd a thros dro - rhai a adawyd gan rawd dymhorol a beunyddiol byd amaeth - tir diffaith a chorneli anniben. ‘And they spend a remarkable amount of time changing the landscape as they make it their own, not through the legalisms of the adult world, but through their own rites of occupation and experience’ (Hart, 1974: 354). Draw o fyd yr oedolion, fe greant encilfeydd a mannau byw sy’n perthyn i neb ond iddyn nhw. Y syndod, yn aml, yw mai diben y newidiadau yw creu mannau cartrefol clyd: nythod o gwmpas y nyth.

Dyma’r lleoedd gorau i wneud hyn a’r llall. Y nant sy’n mynd â bryd Ward:

It can be paddled in; turned into a moat in the imagination; crossed by means of stepping stones or home-made bridges; and of course children can simply sit and watch the water or ride their bikes along the muddy banks. (Ward, t. 99)

Mannau clyd, mannau cyfrin, mannau hoff: mannau golau a thywyll, cynnes ac oer, mannau cyffwrdd ac arogli, mannau cysurus ac anghysurus. A mannau i gadw draw oddi wrthyn nhw: y bont lle crogodd Herbert Hudson ei hun; y moch canibalaidd yn Nebraska Farm; y darn o borfa farw lle cafodd gwas ffarm ei guro i farwolaeth yn oes Victoria; bwthyn y dyn sy’n gwisgo fel menyw. Dyma lle y dechreuwn ni fapio, y dysgwn ni’r ddaearyddiaeth o waliau, drysau, ffenestri a grisiau sy’n uno ac yn gwahanu, yn dadlennu ac yn diogelu: cip drwy ddrws lled-agored ar fyd cyfrin ystafell wely Wncwl Wilf.

Mae hi hefyd yn dirwedd o chwarae ac o arbrofi, lle y crëwn ni fydoedd sydd dan ein rheolaeth ni ein hunain: mannau lle y gallwn ni ymlafnio i gyrraedd Pegwn y Gogledd, i ddringo mynyddoedd y lleuad, ac i ddawnsio dawns y cyntefigion ar brynhawn gwlyb. Mae deialog drawsffurfiannol rhwng gweithgareddau plant - yn chwarae a gêmau - a’r amgylchedd. Gall manylion pensaernïaeth a thirwedd awgrymu natur, math ac ansawdd y chwarae. Fe welir mai mannau penodol – coed, perthi, bryniau, dwr - yw’r lleoedd gorau i gyflawni gwahanol fathau o weithgarwch ynddyn nhw. ‘We saw them as remote island refuges, where we could have a kind of tribal independence, and cook, invent, fight and tell tall stories to our hearts’ content - or at least until tea-time’ (Mabey yn Ward, t. 7). Ar y llaw arall, gall plant newid yr amgylchedd mewn ffyrdd real a ffantasïol. Byddan nhw’n adeiladu, yn codi argaeau ac yn chwalu pethau i greu’r amodau amgylcheddol y bydd eu hangen i gyfoethogi eu gweithgareddau. Byddan nhw hefyd yn gweithredu newidiadau ffantasïol yn y meddwl. Gall y gweithgarwch y byddan nhw’n ymwneud ag ef, y dôn nhw ag ef i’r man hwnnw, awgrymu mai yn rhywle arall y digwydd hyn: ‘Rwy’n cerdded fel hyn am fy mod i yn yr anialwch.’ ‘Rwy’n gwisgo bwced am fy mhen am fy mod i’n ymladd yn rhyfeloedd y Croesgadau.’ ‘Rwy’n chwythu’r awyr allan o ’mochau ac yn chwifio ’mreichiau’n araf am fy mod i ar waelod y môr.’

I remember the feeling of being truly separate from the world of adults and parents for the first time. At the top of the tree my life had become literally my own, dependent on a mixture of skill, agility, judgement and above all risk taking. (Macnaughten, 1998: 232)

Drwy brosesau dysgu dynwaredol a llunio’n llawn dychymyg, ‘y filltir sgwâr’ yw man cychwyn creu’r hunan; plant fel ‘half-opened beings’ (Metcalfe a Ferguson, 2001: 241). Dyma lle y byddwn ni’n mynd ati gyntaf i ddynwared, ac i ddramateiddio’n bywydau ni a bywydau pobl eraill. A ninnau’n trafod dyfaliadau a sïon, ac achosion o or-ddweud a chleber amherthnasol, fe ddechreuwn ni weu naratifau. Dyma fan darganfod, yn ôl Ned Thomas, ‘[where] the child first learns everything which is of real importance’ (Thomas, t. 86): hanfodion tacsonomi - gweithio gyda gwahaniaeth a thebygrwydd, a rhoi enwau i bethau, pobl a lleoedd. ‘Nature yields delectable sensations to the child, with his openness of mind, carelessness of person, and lack of concern for the accepted canons of beauty’ (Tuan, 1974: 96). Yma y bydd manylion byd natur yn eu hamlygu eu hunain ac y bydd y plentyn yn graddol ddysgu gwahaniaethu rhwng planhigyn a phlanhigyn; ar y bwrdd natur, mewn rhwyd bysgota, ac yn achos D.J., ar ddiwedd baril.

Ac fel yna, cyn camu dros drothwy’r un ysgol, y dechreuais i ddysgu hanes a daearyddiaeth Sir Gaerfyrddin; ei ddysgu, lawer ohono yn y man a’r lle, wrth ochr fy mam ar sêt y car, a gwrando arni’n sôn am ddynion a thai a choed a chaeau, am nant ac afon a llyn a welwn … (Williams, 2001: 66)

Yma, mae’r cof presennol yn un o eiliadau ffurfiannol, yn ddigwyddiadau allweddol ein blynyddoedd cynnar, yn frith o ddyfeisio a dychmygu; o dirwedd a drowyd yn un hanner-mytholegol. Ond tir llithrig fu hwn erioed, yn fan heb iddo ffiniau pendant, lle’r oedd y gorwelion yn cyson ehangu - a hynny’n aml yn sgil dyfodiad cludiant ar bedair olwyn, tair olwyn, dwy olwyn. Yma, roedd ffordd o fyw yn cyson ystumio, chwalu a thorri’n ysgyrion: drwy ymyrraeth dieithriaid a gwesteion di-wahoddiad, megis dyfodiad baban o frawd heb ddim rhybudd yn y byd. Dyfais hanesyddol yw’r darlun hwn eisoes, wrth gwrs, gan fod y tu allan bellach yn frith o bobl a allai ymyrryd â phlant a’u cipio; peth dramatig a diweddar fu’r cilio o’r strydoedd.

llun gyntaf

Ond wrth gyrchu byd y profiadau cyntaf, mae D.J. yn ymwybodol o broblem datrys dimensiwn amser:

Wrth geisio chwilio’n ôl yng nghelloedd cynharaf y cof a chroniclo’r hyn a geir yno daw rhai anawsterau. Yn gyntaf, y mae ceisio gosod digwyddiadau yn ôl eu trefn hanesyddol yn waith go anodd gan fel y tawdd pob peth i’w gilydd yn y darlun sefydlog hwn sy’n aros mor glir ym meddwl y rhan fwyaf o bobl. Un heddiw diderfyn yw’r cyfan. (Williams, 2001: 2)

 Ac o wahanu, yn y lle cyntaf, realiti oddi wrth y dychymyg:

Yn ail, y mae ei ddychymyg, hefyd, yn fyw rhyfeddol yn ystod y cyfnod hwn, a ffaith a ffansi’n gwau’n rhwydd i’w gilydd. O glywed adrodd gan eraill am ryw ddigwyddiad, nifer o weithiau, yn enwedig os y’i hadroddir yn weddol fywiog a dramatig, mae’n bosib i blentyn ddod i gredu’n gwbl onest ei fod ef yn y man a’r lle ar y pryd, yn gweld ac yn clywed y cyfan. Dyna pam y mae rhai plant bach o’r tair i’r whech oed, weithiau’n mynd trwy gyfnod o gelwydda arswydus … (Williams, 2001: 4)

We see and learn from the ways our families live and get their livings; a world of work and of place, and of beliefs so deeply dissolved into everyday actions that we don’t at first even know that they are beliefs, subject to change and challenge. (Raymond Williams, 1993: 198)

Sut, felly, y gallai’r canfyddiadau hyn oleuo’r broses o greu fy mherfformiadau i fy hun?

Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi sôn llawer am Johnny Dent yr heliwr baeddod, a’r clampiau tatws a’r siediau o garreg galch, a hynny mewn cyfres o weithiau i mi eu perfformio ar fy mhen fy hun, gan gynnwys From Memory, gwaith a gyflwynais gyntaf yn Amgueddfa Werin Cymru ym 1992: atgofion o bobl, lleoedd a digwyddiadau fy mhlentyndod. Ond a allai’r nosiynau gofodol hyn sy’n disgrifio ‘ymwybyddiaeth o le’ yng Nghymru – y gyfres honno o fapiau gwybyddol o amgylch y cartref a’r filltir sgwâr, y fro a’r cynefin, lle caiff gwahanol ddisgyrsiau, gwahanol ‘ffyrdd o adrodd stori’ eu meithrin – oleuo a chyfeirio gwaith ar fy nharddle i: ‘ar garreg fy nrws’; ‘yn fy milltir sgwâr i’; yn y man, fel yr awgryma D.J., y dysgais innau ei garu, rwy’n meddwl, cyn i mi ddysgu cerdded?

Ar 25 Ebrill 2000, fe es i am dro ym mhentref Hibaldstow yng ngogledd swydd Lincoln gyda fy mam, fy ngwraig Heike, fy mrawd a’i deulu, fy ewythr Geoff a’m modryb Joan, cefnder fy niweddar dad, sef Pete, a’i wraig Sheila, Margaret, sy’n ffrind i Mam, Marion, fy athrawes yn yr ysgol gynradd, Tony, fy nghyfaill o’m dyddiau ysgol, amryw o drigolion lleol, ac ymwelwyr o Sheffield a Llundain. Dros gyfnod o ddwyawr, fe ymwelson ni â deg man - ysgol, mynwent, nant, cornel stryd ddi-nod. A dyma fi’n sôn: am fy hen wncwl Freddie a gafodd bolio pan oedd yn blentyn ac a fu’n byw mewn carafán ar waelod yr ardd, am sut mae dal gwiniadau barfog, am ddrewdod y dynion carthffosiaeth, am dorri gwair y fynwent, am y Lone Ranger a … Ac fe eisteddais ar stepen siop sglodion fy nhad-cu, lle y bydden ni - Tony a minnau - yn arfer eistedd a gwylio’r traffig. A cheisiais ddringo wal iard yr ysgol, a sefais yn y nant mewn Wellingtons.

llun 2

Ac fe bwyntiais at y peth yma sy’n dal i oroesi, bedd fy hen fam-gu; at y peth acw a oedd wedi diflannu, y bont droed dros y nant; ac at y peth draw acw a oedd wedi newid, clwyd yr ysgol - clwyd sydd bellach wedi’i llenwi â brics. Ac fe ddygais i gof gyfeillion sydd bellach yn farw. Ac fe ddatgelais ambell gyfrinach deuluol, yn bennaf am Freddie a’i foch. Ac fe gyffyrddais ag arwynebau pethau: gronellfaen meddal wal ffarm. A chynhwysais ambell eiliad o fyfyrdod damcaniaethol, o Gaston Bachelard (1964), Georges Perec (1997) a D.J. ei hun (2001); efallai y dylwn i fod wedi gwneud dim mwy na galw’r erthygl hon yn ‘Mynd â D.J. i gwrdd â “Mam”’ yn y lle cyntaf. Yn raddol bach, fe ddyfnhaodd fy acen a brigodd fy nhafodiaith i’r wyneb: ‘By, she’s slaape, duck; put sneck ont doar.’

Cawsai pob un o’m cymdeithion lyfryn bach gwyn ac ynddo ddwy dudalen o sôn am bob un o’r mannau lle’r arhoson ni – ynghyd â chyfeirnod map; lleoliad; dyfyniad enigmatig – ‘yet another goldfish-in-a-bag’ - a lluniau o’r cyfnod. Roedden ni i gyd yn dilyn Bubbling Tom, taith dywys - ‘a journey, not an object’ (Turner, 2004: 377) - o gwmpas y dirwedd roeddwn i’n ei nabod yn chwech a saith oed, pan symudon ni i’r pentref nesaf - symud a oedd bron cyn bwysiced i mi â’r symud o Benrhiw i Abernant i D.J. - ac yn cerdded fel petai hi’n ddechrau’r 1950au: ‘a quest and narrative of return’ (Wilkie, 2002: 3). Taith gerdded hamddenol gan oedi yma ac acw i gofio digwyddiadau a phobl o bwys mewn dilyniant o destunau a berfformiwyd ac o sgyrsiau anffurfiol, a’r ffaith fod y cyfan yn cael ei dywys yn pwysleisio ‘the importance of place itself’ (Wilkie, t. 3) wrth gynulleidfa na fyddai, o bosibl, yn gwybod dim am gonfensiynau arferion cyfoes y theatr.

Roeddwn i wedi llunio ac wedi dysgu testun hir - hynny ynddo’i hun yn gamp i’r cof - ond ar brydiau go brin y gallwn i gael fy mhig i mewn. Byddai pobl yn torri ar fy nhraws i’n gyson – i ’nghywiro, i ychwanegu, i groes-ddweud. A hynny am fod yno rai, bob amser, sy’n ein cofio ni, yn cofio droson ni, yn well nag a wnawn ni’n hunain. A chyn gynted ag y byddwn i’n tewi, dechreuai pawb arall sôn am atgofion eraill o’r union fannau hyn ar adegau eraill gan mai tirwedd eu plentyndod hwythau, lawer ohonyn nhw, oedd hon hefyd: ‘ … there were murmurs and laughs of recognition, sparking conversations on the walks between stopping places’ (Wilkie, t. 3). Mae gwaith fel hwn yn ysgogi storïau eraill, a storïau am storïau. Mae’n sbarduno myfyrdod personol ac awydd ar ran y sawl sy’n gwrando i ddatgelu ei brofiadau ei hun ac aildramwyo’r profiadau sy’n gyffredin i eraill. Mae’n gweithio gyda’r cof: yn codi atgofion parhaus i’r wyneb, yn cyffroi elfennau ategol lled-anghofiedig. Gall ef ddarlunio gwahanol ddwyseddau o brofiadau ar wahanol adegau mewn lleoliad penodol: lle fel palimpsest, wedi’i enwi a’i farcio gan weithredoedd y cyndadau. Ac wrth draethu’r cof, ym moment ei berfformiad, fe all, am ennyd awr, feithrin cymunoldeb dros dro ar draws amrywiol genedlaethau. Onid oedd pob copa walltog ohonon ni wedi sefyll yn erbyn wal yr un ysgol i gael tynnu’n llun, boed ym 1935, 1955 neu 1975? Onid oedden ni i gyd yn blant yn y lle hwn? Heb i ni allu symud rhyw lawer iawn o’n bro, heb allu dianc, fe fuon ni’n byw’n bywydau o fewn cwmpas yr un dyrnaid o strydoedd. Mae’r ysgolhaig ymweld, Fiona Wilkie, yn tynnu sylw at y gofal a gymerwyd, wrth lunio sgript Bubbling Tom, i nodi’r union fannau y digwyddodd pethau: ‘In this window’; ‘on that door over there’; ‘here’; ‘there’. Iddi hi, caiff lleoedd eu synied fel petaent yn ‘containers (of memories, stories and legends)’, yn ‘aggregations of metaphorical and physical layers’. Mae darfodoldeb perfformio a materoldeb y lleoliad ynghlwm wrth ei gilydd, a’r naill yn goleuo’r llall.

Yn sgil mecaneiddio byd amaeth, ymyrraeth y cyfryngau torfol, a’r awch cynyddol i brynu mwy a mwy, cyfnod o ddyheu ac o newid fu’r pumdegau cynnar ym Mhrydain wledig. Ond fe oroesodd yr hen hefyd - pobl ac arferion o oes Victoria a chyn hynny sydd bellach wedi darfod o’r tir. Ac yma mae D.J. yn rhagfynegi fy mhrofiad i fy hun:

Clywswn yn blentyn lawer o siarad am bethau ’s lawer dydd, a rhaid fy mod i, yn anymwybodol, wedi gwrando’n dda arnynt, gan fod toreth o’r cyfryw wedi aros gyda mi ar hyd fy oes. (Williams, 2001: xvii)

Ymhen hir a hwyr, fe gerddais allan, i ffwrdd, ymaith, yn y mudo mawr a ddigwyddodd yn y 1960au, wedi fy hudo gan fflam cannwyll byd addysg, i fod yn fyfyriwr archaeoleg yng Nghaerdydd: ‘to submit personal facts, the incidents of a family, to a total record’ (Williams, 1993: 6). Es i byth yn ôl: yn wir, fel yr awgryma John Berger, pererindod fawr yr ugeinfed ganrif yw honno o’r pentref i’r ddinas. Rwyf wedi byw fy mywyd proffesiynol mewn man arall, ymhell i ffwrdd, ac weithiau mewn iaith wahanol a oedd yn anweladwy ac yn annealladwy i’r byd a adewais ar fy ôl. Ond wnes i erioed adael Hibaldstow o’m hôl yn llwyr. Fwy a mwy, mae fy ngwaith mewn perfformiad wedi trin a thrafod materion y cof a hunaniaeth, lle a thirwedd. Ymboeni rydw i wedi’i wneud â’r ‘complex relationship between ourselves, our bodies and our environment, with our physical and sensual experience of place, and in the impact a particular location can have on our lives’ (Roms, 1998: 80). Ond mae’r perfformiadau naratif hyn bob amser wedi digwydd mewn man arall, byth yn y man-a’r-lle hwnnw. Byddai’n rhyfedd ac yn amhriodol - ac yn aflonyddu tipyn arna i - petawn i’n gwneud gwaith ‘gartref’. Rheswm digon da, felly, i roi cynnig arni - cyn i mi anghofio, a thra bo eraill yn dal yno ac yn dal i ’nghofio i yno.

Crëwyd Bubbling Tom o fewn milltir sgwâr benodol ac at y filltir sgwâr honno y cyfeiria. Wrth ei chreu, dechreuais ailymweld â’r lleoedd roeddwn i gynt yn eu hadnabod, ar raddfa wahanol, gan obeithio o hyd ac o hyd y deuwn ar draws yr olion roeddwn i wedi’u gadael yno; y printiau llaw mewn paent gwyn llachar rwy’n cofio’u gadael ar ddrws y sied; yr ystafelloedd y breuddwydiwn ac y synfyfyriwn ynddyn nhw ac sy’n rhoi i ddyn ei fapiau gwybyddol ar gyfer pobman arall. O’i hailddarganfod, defnyddiais y dirwedd honno i’m symbylu i gofio digwyddiadau a phobl a theimladau a synfyfyrion personol: fy adleoli fy hun i le a arferai fod yn gynefin; ailymgorffori, ar raddfa wahanol, y gweithredoedd y cofiwn eu cyflawni: sefyll yn y nant; cynnal ymladdfa â gynnau cowbois y tu allan i dy Tony. Chwiliais am gofnodion a ffotograffau ohonof i yn y mannau hynny, gan astudio’r manylion, yr osgo a’r safiad, ac yn y pen draw fe es ati i fabwysiadu’r rheiny’n union yn y perfformiad, ar raddfa wahanol, gan dynnu sylw at bopeth sydd wedi newid, ynof i ac ynddo fe. Cofnodais atgofion y rhai a oedd yn fy nghofio i a ’ngweithredoedd tan i mi fod yn wyth oed, yn enwedig atgofion y rhai nad oedden nhw’n aelodau o ’nheulu i, am ddigwyddiadau penodol fel Diwrnod y Coroni ym 1953. Ystyriais batholeg fy nghorff fy hun, fy mhryd a ’ngwedd, fy morffoleg, f’ystum, f’ymddygiad, y cyfuniad hwnnw o etifeddiaeth, arfer a chyflyru a gafodd eu meithrin yn y dirwedd honno: sut mae ’mhennau gliniau’n dal i fwrw ychydig yn erbyn ei gilydd, sut y bydd fy nwylo’n cydio yn ei gilydd fel y gwnâi dwylo fy nhad. Meddyliais hefyd am greithiau corfforol am fod y corff yn dwyn olion ei hanes arno a bod y croen yn fap o ddamweiniau ac anafiadau. Uwchben fy llygad dde mae’r cwt lle syrthiais ar stepen y siop sglodion wrth gario potel o lemonêd. Does gen i ddim cof o’r digwyddiad ond, wrth gwrs, mae eraill, er prinned ydynt bellach, yn cofio drosof i. Mae’r graith yn dal yno, yn dipyn o gysur bod amser wedi mynd heibio. Ac fe gesglais wrthrychau, cyllell fy nhad, tegan o wn, ac ar bob un ohonyn nhw olion amser a defnydd. A cheisiais ddwyn i gof yr holl ddigwyddiadau dirprwyol, y trothwyon, y mynd a’r dod sy’n britho’n bywydau. Edrychais ar fapiau, gan weld y lle oddi uchod, ac ar ffotograffau, gan fy ngweld i ynddynt hwythau’n awr. Gweithiais gyda thameidiau, gydag olion materol, gyda thystiolaeth, i greu rhywbeth, ystyr, naratif, stori, sy’n cynrychioli ddoe heddiw. Y sylw hwn i gof mewn prosiect cyfoes, heb ofni na rhamantiaeth feirniadol na hiraeth, a arweiniodd at ysgrifennu gwaith.

Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, fe ysgrifennodd Walter Benjamin yn ei draethawd, ‘The Storyteller’:

Less and less frequently do we encounter people with the ability to tell a tale properly. More and more often there is embarrassment all around when the wish to hear a story is expressed. It is as if something inalienable to us, the securest among our possessions, were taken from us: the ability to exchange experiences. (Benjamin, 1999: 83)

Ond mae D.J. yn dal i ddod o hyd i botensial. Ac yntau’n dal i fod yn blentyn bach ar ben-lin John Ifans Bryndafydd Isa, fe ddisgrifiai ‘ … hanes popeth a wyddwn’ (Williams, 2001: 14).

Anhepgor cyntaf yr hunan-gofiannydd yw cof da. Yr ail yw’r hunanhyder talog hwnnw a bair i ddyn gredu fod yr hyn sydd o ddiddordeb iddo ef yn rhwym o fod o ddiddordeb i bawb arall, hefyd. A’r trydydd yw dewrder, didwylledd, neu ynteu ryw fath o symlrwydd cynhenid a’i gwna hi’n hawdd iddo wisgo’i galon ar ei lawes. (Williams, 2001: 164)

 Dawn D.J. oedd gwrthbrofi gosodiad Freud bod cynneddf ynom ni i anghofio popeth hyd at chwech oed. Fy nod i fy hun oedd dyfeisio ‘ffyrdd o adrodd stori’ sy’n agos-atoch ac yn fyfyriol, sy’n cymysgu gwybodaeth ddefnyddiol - am fanylion brodorol, pobl, digwyddiadau - â phleser yr adrodd, sy’n gallu cynnwys anecdotau, cyfrinachau a straeon celwydd golau, sy’n fy ngosod i wrth galon y digwyddiadau, fel y storïwr a phwnc y stori, ac sy’n dramateiddio’r ‘gorffennol cyfarwydd’. Ac fe ddigwyddodd hyn yn ystod fy mhlentyndod i ar adeg pan oedd cyfathrebu wyneb-yn-wyneb yn dal i fod yn bwysig a lle gellid dweud bod ‘[e]veryone in the community is joined to everyone else by a mesh of stories and incidents if not by family relationships’ (Thomas, t. 85), a lle byddai fy mam a’m mam-gu’n hel clecs yn feunyddiol. Roedd eu technegau’n hynod soffistigedig: yn uchel, yn isel, yn rhethregol, yn areithyddol, yn fud. Ond doedd dim gronyn ohono’n faleisus nac yn ddifäol. Roedd hi’n ffordd o ddal ynghyd gorff enfawr o wybodaeth - yn hanesion, yn ddaearyddiaethau, yn achau. Fe wydden nhw pwy oedd yn byw ymhle, pwy oedd yn perthyn i bwy, beth oedd yn digwydd, dros ugeiniau o filltiroedd sgwâr. Yno y dysgais y patrymau rhyngdestunol mwyaf soffistigedig hynny a allai symud ar amrantiad o faterion patholeg a hinsawdd i seicoleg heb ymdrech na bwlch, yn llawn chwilfrydedd, yn ddigon parod i fynegi barn, neu heb hidio’r un iot. Yn y gegin - man y moli a’r marwnadu - clywais gymeradwyo ac anghymeradwyo chwedlau’r teulu a thraddodiadau’r gymdeithas; straeon a adroddwyd soto voce dan sibrwd, safbwyntiau a leisiwyd yn agored wrth greulon fyd; digwyddiadau, hanes bywydau pobl, unigolion yn ‘dweud eu dweud’ gan lunio ac ail-lunio’u straeon yn ddi-ben-draw. Yma, felly, lle y meithrinwyd fy ‘ymwybyddiaeth o le’, y meithrinwyd yr un pryd fy ‘ffyrdd o adrodd stori’. ‘Ac fel troi tap pan fyddo cron y dwr yn rymus, felly’n union o roi cyfle iddynt, y daw i mi lif o atgofion am bethau bychain …’ (Williams, 2001: 14).

llun 3

Yr atyniad ynddo yw llais y perfformiwr – yn sgwrsio, yn darlithio, yn adrodd, yn traethu, yn hudo – gan amrywio a dwysáu cyflymder, tôn, sain, rhythm a phwyslais y dweud. A’r acen, wrth gwrs. Dyma lle, yn yr hyn y mae Roland Barthes yn ei alw’n ‘raen’ y llais - ‘the materiality of the body speaking its mother tongue’ (Barthes 1977: 182) - y daw’r stori’n fyw. Bydd ymarfer lleisiol yr adroddwr felly’n denu ac yn ail-ddenu’r gynulleidfa â deunydd sy’n gynefin o gyfarwydd ac yn anhraethol o anghyfarwydd, mor gyfarwydd â’u hanes nhw eu hunain neu mor egsotig â golygfeydd ac aroglau dieithr disgrifiad y sawl fu’n fforio gwledydd pell y byd: gweithio gyda thameidiach, olion materol, tystiolaeth i greu rhywbeth – ystyr, naratif, stori - sy’n cynrychioli ddoe heddiw, sy’n amgáu’r cof mewn prosiect cyfoes, heb ofni na rhamantiaeth feirniadol na hiraeth, er, fel y noda Raymond Williams, ‘Nostalgia is universal and persistent; only other men’s nostalgias offend’ (Williams, 1993: 12). Gall fod llawer iawn o ryngdestunoleb, o ddeialog rhwng testunau, i fonolog yr adroddwr storïau. Gall gwmpasu’r tameidiog, y crwydrol, yr amwys, y trawsfeddianedig, eu cyfosod a’u croes-ddweud; gan blethu ynghyd hanes, daearyddiaeth, achau, atgofion a hunangofiant a chan gynnwys barddoniaeth, gwybodaeth fforensig, dyfyniadau, celwyddau, jôcs, sylwadau byrfyfyr wrth-fynd- heibio, actio, chwarae rhannau gwahanol gymeriadau, a lleisio myfyrdodau personol wrth geisio dal diddordeb y gwrandawr: ‘the collection process disperses any ownership of memory across a range of sources of varying levels of authority’ (Wilkie, t. 6).

Er hynny, gadawodd natur anffurfiol ac achlysurol-ddamcaniaethol testun Bubbling Tom, a’i eiliadau penodol o fynegi amheuaeth, le i’r unigolyn fyfyrio, ‘gaps in its fabric’ (Wilkie, t.1), a photensial i ddeialog ac anghydfod, ac ebychiadau’r gynulleidfa’n troi’n rhan o wead perfformiad y câi ystyr ei negodi’n gyson ynddo. Gan gydnabod mai ymwelydd oedd hi, mae Wilkie’n nodi gwahanol ‘horizons of expectation’ (Wilkie, t. 3) a gwahanol lefelau’r dwyn-i-gof a geir mewn perfformiad mor ddiymhongar i’r gwahanol garfanau sy’n cymryd rhan ynddo. Mae hi’n awgrymu ymhellach i mi symud, yn Bubbling Tom, rhwng sawl cywair; fel tywysydd, rhoddwn gyfarwyddiadau; fel ‘mab a chyfaill’, siaradwn yn anffurfiol wrth fynd o fan i fan; fel perfformiwr, arddangoswn dechneg cyflwyno ac amseru; fel sylwebydd, brithwn f’atgofion personol â dyfyniadau o waith awduron eraill, gan dynnu ‘other places into the mnemonic archaeology of Hibaldstow’ (Wilkie, t. 6).

Fy amcan oedd dyfeisio modd o berfformio a ddefnyddiai rethreg syml â’r dwylo: dangos, arddangos, lleoli a siapio manylion darn o ‘ysgrifennu’ nad oedd ar wahân i’r ‘adrodd stori’. Dull agos-atoch-chi, anffurfiol, ar ymyl y perfformiad ei hun.

Mae Michael Shanks, sydd bellach yn Athro’r Clasuron ym Mhrifysgol Stanford, a minnau wedi dweud mai bwriad ein rhaglen yw creu digwyddiadau byw lle daw archaeoleg a pherfformiad ynghyd i alw ar y gorffennol, i wneud defnydd creadigol o’i wahanol dameidiau, i ffurfio cof diwylliannol o wahanol ddiddordebau ac olion, wrth ddatblygu ecolegau diwylliannol (gan berthnasu gwahanol feysydd o brofiad cymdeithasol a phersonol yng nghyd-destun diddordebau amrywiol a chroes) ac i roi - ar y cyd - sylw i safleoedd a themâu penodol, iddyn nhw gael bod yn adnodd o bwys wrth lunio a bywhau hunaniaethau cyfoes - rhai personol, diwylliannol a chymunedol. I wneud hynny, rhaid wrth ddiffiniad ehangach o’r gwrthrychau y gellid eu galw i gof, wrth ymagweddau newydd at gymeriadu ymddygiad a gweithred, wrth wahanol ffyrdd o adrodd stori, ac wrth wahanol fathau o gofnodi ac arysgrifio, a’r rheiny’n gallu ymgorffori gwahanol lefelau o naratif: adlunio dogfennau, adfeilion, ac olion yn ddigwyddiad mewn amser go-iawn. Gall hyn gynnwys perfformiad ffurfiol a chelfydd ei gyfrwng ynghyd â theithiau tywys syml o amgylch mannau darfodedig fel Bubbling Tom. Mae ystumiau perfformio o’r fath yn fodd i broblemateiddio ac integreiddio safle’r arsylwr - drwy ddyfeisiau fel naratif person-cyntaf - wrth geisio gwneud synnwyr o rywbeth nad oedd mor glir â hynny yn y lle cyntaf beth bynnag.

Fe allwn i alw Bubbling Tom yn waith o archaeoleg bersonol. Ond y tu hwnt i’r trosiad, rwy’n credu ei fod yn cynnig cyfraniad tuag at ddatblygu’r syniad o ‘archaeolegau’r gorffennol cyfoes’. Gallai gwaith o’r fath ddangos - i’r dychymyg poblogaidd - sut rydyn ni ein hunain a’n cynefin yn rhan o’r broses hanesyddol, sut mae gwahanol elfennau diwylliant materol yn bod o fewn gwahanol lwybrau amser (‘Yr oedd bryd hynny, y mae yn awr ac ar hyd yr amser rhyngddynt’), a’r ffyrdd yr ydym ni’n cyson gynhyrchu’r cofnod archeolegol. Mae’n dadlennu mai’r cof - y cof byw - yw un o brif amcanion y galw i gof, ac yn astudio’r curaduro cymhleth ar y cof ei hun. Mae’n tynnu sylw at natur aml-amserol y presennol: sut y gwnawn ni farciau dro ar ôl tro - y treuliwn ni batrymau o amgylch drysau a marciau taro yn erbyn sgertins, a chytau, crafiadau, staeniau, rhwbiadau, printiau sydd oll yn tystio i bresenoldeb ac i absenoldeb. Mae marciau o’r fath yn dangos sut y mae gweithredoedd cyson wedi llunio’r lle: arwyddion o fynd a dod pobl, o berfformiad bywyd bob dydd - canlyniad i weithredoedd beunyddiol, traddodiad, damwain; digwyddiad a defod gymdeithasol; symudiadau, eiliadau, a chyfarfyddiadau. Mae i hyd yn oed y set fwyaf di-nod o amgylchiadau ddyfnder neu ddwysedd: cymeriad y lle. Mae’r stepen wedi’i threulio, mae’r ysgubor yn syrthio i’r llawr, a go brin y sylwn ni: yr anfwriadol; y digwyddiad ar hap; cyffyrddiad agos a digynllun hanes yn mynd heibio. Ond mae cydnabod hynny’n dibynnu ar edrych arnyn nhw mewn ffyrdd ar osgo a sylwi ar weadwaith a manylion. O graffu arno, mae’r hyn sydd, o edrych arno ar un raddfa, i’w weld yn ddigon di-nod, mewn gwirionedd, yn frith o fanylion, yn haenau o addurn a newid sy’n llercian yn y cartrefol a’r cyffredin. Bydd yn tynnu sylw hefyd at y ffyrdd y bydd prosesau ffurfio arferion yn gadael eu hôl arnon ni, sut y daw’r tŷ y cawson ni’n magu ynddo yn rhan ohonon ni a sut y cariwn gyfnodau o’n gorffennol gyda ni: o ddewisiadau a dyheadau gan ein hynafiaid sy’n dod â ni i’n dydd ni heddiw, i’r storfa o anecdotau a straeon teuluol am ddigwyddiadau ers talwm sydd bellach ar fin troi’n ddim ond stori.

Go brin fod rhyw lawer mewn perygl mewn gwaith syml fel Bubbling Tom, ond gallai pethau o werth - cymunoldeb, cyfathrebu rhwng y cenedlaethau, ymwybyddiaeth o le - fod yn y fantol. Mae’r gwaith hwn yn galw’r gorffennol i gof gan ddal drysau’n agored: mae ei ffurf ddeialogaidd - er mai damweiniol yw hi - yn agor y dehongli i lu o leisiau: try cynrychioli’n negodi; try’r personol yn wleidyddol; y corff fel safle.

Wrth gwrs, allwn i byth wneud Bubbling Tom yng Nghymru: mae gen i berthynas y mewnfudwr â lle a chymuned yma: o ysu am gael perthyn, ac eto ysu lawn cyn gryfed am ddal gafael ar rywbeth, a rhywle, arall. Ond rwyf wedi bod yn ffodus yn fy mhrofiadau diwylliannol yng Nghymru, wrth ddarganfod D.J. Williams (a phopeth arall), er mai prin y galla’ i ddychmygu’n union sut y byddai yntau wedi teimlo ynghylch byw, yn y pen draw, mewn pentref yn Lloegr. Hoffwn awgrymu fod i’w strategaethau o naratif a chyfansoddi a dramayddiaeth - o parataxis, hypotaxis, katachresis - eu gwerth o hyd ac y gallen nhw eto gael eu mynegi’n fwyaf effeithlon yn y perfformiadol, ac nid, bellach, yn rhan o ddelfryd iwtopaidd UNESCO, efallai, ond mewn gweithredoedd bach o wrthsafiad lleol i elfennau gormodol y diwylliant byd-eang a gyfryngir i ni.

A than chwerthin llawer yn y gwyll, dechreuodd grŵp o bentrefwyr a gwesteion chwilio a phwyntio a chynnig barn awdurdodol ac arbenigol - pa mor dros-dro a pha mor amodol bynnag ar fod yn bresennol yma, heno, ar ôl iddynt fynd drwy brofiad penodol, ar ôl cronni math penodol o wybodaeth, a chael caniatâd - mewn man nad ydyn nhw wedi ymweld ag ef ers blynyddoedd, man y gallan nhw, o bosib, fod heb ymweld ag ef erioed o’r blaen.

By the end of the event, Bubbling Tom itself becomes a symbol within the performance of the same name, standing for competing and conflicting memories, local lore, and the displacement of ‘truth’ in terms of remembering. The reference to this local spring in the performance title (heightening its importance when it does ‘appear’ at the end, having not been mentioned during the rest of the performance) draws on the trope of the journey as quest; in this case, the quest is both for Bubbling Tom and for the memory of a childhood place.

“They say if you drink from Bubbling Tom you’ll always come back. I don’t think I ever did ... probably because I was never quite sure where it was. All that’s left then is to have a big argument as to where it really is.” (Pearson, 2000)

Pearson’s final words are at once an invitation to try to remember and to recognise that you don’t, or can’t remember or that your memories differ from those of someone else. This final moment, therefore, points ultimately to the failure of memory by creating a possibility for dispute about the past. (Wilkie, 2002, t. 7)

Bubbling Tom oedd y tro cyntaf erioed i fy mam fy ngweld i’n perfformio.

Cydnabyddiaeth

 

Seiliwyd yr erthygl hon ar bapur a gyflwynwyd yn Saesneg yng nghynhadledd gyntaf Cyfrwng, ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ar 18 Ebrill 2004. Tynnwyd y lluniau isod gan Hugo Glendinning.

Llyfryddiaeth

 

Bachelard, G., The Poetics of Space (Efrog Newydd, 1964)

Barthes, R., Image Music Text (Llundain, 1977)

Benjamin, W., Illuminations (Llundain, 1999)

Hart, R., ‘Children know best’, Landscape Architecture, 65, 5 (1974), 354–5

James, S., ‘Is there a “place” for children in geography?’ Area, 22, 3 (1990), 278–83

Macnaghten, P. a Urry, J., (goln), Contested Natures (Llundain, 1998)

Metcalfe, A. a Ferguson, L., ‘Half-opened being’ yn May, J. a Thrift, N., (goln), Timespace: Geographies of Temporality (Llundain ac Efrog Newydd, 2001)

Pearson, M., ‘Bubbling Tom’, yn Heathfield, A., (gol), Small Acts: Performance, the Millennium and the Marking of Time (Llundain, 2000)

Perec, G., Species of Spaces and Other Pieces (Harmondsworth, 1997)

Pearson, M. a Shanks, M., Theatre/Archaeology (Llundain ac Efrog Newydd, 2001)

Philo, C., ‘Neglected rural geographies: a review’, Journal of Rural Studies, 8, 2 (1992), 193–207 Roms, H., ‘Making Landscapes’, Planet, 126 (1998), 79–92

Sibley, D., ‘Families and domestic routines: constructing the boundaries of childhood’, yn Pile, S. a Thrift, N., (goln), Mapping the Subject: Geographies of Cultural Transformation (Llundain ac Efrog Newydd, 1995)

Thomas, N., The Welsh Extremist (Tal-y-bont, 1973) Tuan, Y-F., Topophilia: A Study of Environmental Perception, Attitudes, and Values (Englewood Cliffs, 1974)

Turner, C., ‘Palimpsest or potential space? Finding a vocabulary for site-specific performance’, New Theatre Quarterly, 20, 4 (2004), 373–90

Ward, C., The Child in the Country (Llundain, 1990)

Wilkie, F., ‘Archaeologies of memory: Mike Pearson’s Bubbling Tom’, papur heb ei gyhoeddi (2002)

Williams, D.J., Hen Dy Ffarm (Llandysul, 2001)

Williams, R., The Country and the City (Llundain, 1993)

 

Sylwadau

Dim sylwadau wedi'u postio

___________________

Manylion Bywgraffyddol

_________________

rhannu gyda ffrindiau

Designed & Developed by WiSS Limited